English

Gall delwedd eich corff newid ar sail gwahanol ffactorau. Weithiau gall fod yn gadarnhaol ac weithiau’n negyddol.

Does dim angen corff ‘perffaith’ arnoch i gael delwedd iach o’r corff, a byddai’n anodd iawn dod o hyd i unrhyw un sy’n ystyried bod eu corff yn berffaith.

Mae delwedd corff iach yn golygu eich bod yn gyfforddus gyda’ch corff, fel y mae ar hyn o bryd, ac rydych chi’n teimlo’n gadarnhaol am y ffordd rydych chi’n edrych.

Mae hyn yn cynnwys y ffordd rydych chi’n meddwl am eich ymddangosiad corfforol, a sut rydych chi’n barnu eich hunan-werth. Mae pobl sydd â delwedd corff iach yn fwy tebygol o fod ag iechyd corfforol a meddyliol da.


Mae llawer o bobl yn dewis rhannu lluniau a fideos ohonyn nhw eu hunain ar-lein, ond mae’r rhain yn debygol o fod y ‘gorau o’r gorau’. Efallai y bydd rhywun yn postio un llun, ond yr hyn nad ydych chi’n ei weld yw’r cannoedd o luniau eraill a allai fod wedi cael eu tynnu i gyflawni’r llun ‘perffaith’.

Mae pobl yn llai tebygol o bostio delweddau diflas neu siarad am eu cyfnodau isel, felly cofiwch rydych chi ond yn gweld beth mae pobl eraill eisiau i chi ei weld, a’i fod wedi cael ei ddewis am reswm. Efallai fod cynnwys ar-lein yn ‘wir’ gan fod y digwyddiadau hynny wedi digwydd mewn gwirionedd, ond efallai nad ydyn nhw’n adlewyrchu holl realiti bywyd y person hwnnw.

Mae modd golygu delweddau hefyd a defnyddio hidlyddion, er enghraifft i newid siâp corff, lliwiau neu gwead, neu i ddefnyddio effeithiau fel colur. Gall y rhain fod yn anodd eu hadnabod, felly nid yw bob amser yn glir bod unrhyw newidiadau wedi cael eu gwneud.

Hyd yn oed gan wybod nad yw’r holl gynnwys rydych chi’n ei weld ar-lein yn ddibynadwy, gall fod yn hawdd cymharu eich hun a’ch bywyd â’r lluniau a’r fideos mae pobl eraill yn eu rhannu. Gall hyn effeithio ar ddelwedd corff neu hunan-barch.


Mae’r cynnwys y mae dylanwadwyr ac enwogion yn ei bostio wedi’i ddylunio i fod yn uchelgeisiol ac yn gyffrous. I gyflawni hyn, efallai y bydd llawer o bobl yn cyfrannu y tu ôl i’r llenni, gan gynnwys steilyddion gwallt a cholur, ymgynghorwyr wardrob, maethegwyr, cogyddion personol, hyfforddwyr ffitrwydd, awduron cynnwys ac asiantau cyfryngau cymdeithasol!

Efallai fod y delweddau terfynol rydych chi’n eu gweld ar-lein hefyd wedi cael eu cynllunio’n ofalus o ran steilio a gosod, a’u newid ymhellach drwy olygu, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl.

Bydd pob post wedi cael ei ddewis yn ofalus i ddangos i chi pa rannau o’u bywydau y maen nhw am i chi eu gweld. Gall hyn arwain at hyrwyddo safonau cyrff a harddwch sy’n anodd iawn neu hyd yn oed yn amhosibl eu cyflawni.


Dydy hi byth yn iawn barnu rhywun ar sail ei edrychiad neu ei ymddangosiad corfforol. Mae’r ffordd rydych chi’n edrych yn adlewyrchiad o’ch hunaniaeth a’ch personoliaeth, ac mae hynny’n unigryw i chi.

Byddai’r byd yn lle diflas iawn petai pob un ohonom yn edrych yr un fath, a dylid dathlu amrywiaeth. Yr hyn sy’n bwysig yw’r ffordd rydych chi’n teimlo amdanoch chi eich hun, a’ch bod yn gwneud yr hyn sy’n eich gwneud chi’n hapus ac yn rhoi hwb i’ch hunan-barch.

Dathlwch eich hun a chofleidio eich personoliaeth, ac os oes rhywun yn bod yn gas ar-lein (neu all-lein) am eich ymddangosiad, mae’n bwysig dweud wrth rywun rydych chi’n ymddiried ynddo, er mwyn gallu adrodd am yr ymddygiad.


  • Ceisiwch ddilyn cyfrifon neu ddefnyddwyr sy’n hyrwyddo agwedd gadarnhaol at y corff, yn dathlu amrywiaeth gorfforol ac, yn bwysicach, yn gwneud i chi deimlo’n dda amdanoch eich hun.
  • Dangoswch agwedd gadarnhaol at eich corff yn eich postiadau a’ch cynnwys eich hun a chydnabod bod yr hyn rydych chi’n ei bostio ar-lein yn gallu effeithio ar bobl eraill. Drwy ddefnyddio iaith corff cadarnhaol gallwch osod esiampl, herio’r hyn rydych chi’n ei weld ar-lein, a dangos nad oes safon harddwch na ‘delfryd’ yn well nag un arall.
  • Crëwch rwydwaith o gefnogaeth. Eich ffrindiau agos sy’n eich adnabod chi orau ac yn eich deall chi. Gofalwch am eich gilydd ar-lein a chymerwch amser i siarad am sut rydych chi’n teimlo.

Cymryd seibiant

Mae’r cysylltiadau rhwng cyfryngau cymdeithasol a hunan-barch wedi’u cofnodi’n dda, a pho hiraf rydych chi’n ei dreulio ar-lein, y mwyaf tebygol ydych chi o weld y cynnwys sy’n effeithio arnoch chi. Does dim rhaid i chi ddiffodd popeth yn llwyr, ond mae cymryd seibiant yn gallu helpu i ailosod sut rydych chi’n teimlo.

Cymryd yr awenau

Dylech ddad-ddilyn neu dewi unrhyw gyfrifon neu hashnodau sy’n effeithio’n negyddol ar eich hunan-barch neu eich lles, a dadosod unrhyw apiau sy’n gwneud i chi deimlo’n bryderus, yn ypset neu’n anghyfforddus, gan gynnwys am eich corff neu eich ymddangosiad eich hun.

Os byddwch chi’n gweld unrhyw hysbysebion yn y cyfryngau neu ar-lein rydych chi’n teimlo sy’n hyrwyddo delwedd corff sydd ddim yn iach, yna mae modd rhoi gwybod am y rhain i’r Awdurdod Safonau Hysbysebu, ac yn aml yn yr apiau rydych chi’n eu defnyddio hefyd.

Cadw persbectif

Ceisiwch beidio â chymharu eich hun â phobl eraill. Cofiwch nad yw’r hyn rydych chi’n ei weld ar-lein yn debygol o fod yn ddarlun ‘llawn’ o realiti rhywun. Does neb yn berffaith, er gwaethaf y ffordd y gallai hynny ymddangos.

Nid yw eich gwerth fel person yn cael ei adlewyrchu gan faint o bobl sydd wedi ‘hoffi’ eich postiadau na nifer y dilynwyr sydd gennych.

Canfod cydbwysedd iach

Gall canolbwyntio ar bethau eraill rydych chi’n eu mwynhau fod yn ffordd wych o wella sut rydych chi’n teimlo. Gallech roi cynnig ar:

  • treulio amser gyda phobl sy’n gwneud i chi deimlo’n gadarnhaol ac yn hapus
  • darllen llyfr neu wylio ffilm
  • symud – gall ymarfer corff roi hwb i’ch egni, a chael effaith gadarnhaol ar les corfforol a meddyliol
  • dysgu sgil newydd – gall rhoi cynnig ar weithgaredd newydd helpu i fagu hyder a bod yn brofiad cadarnhaol iawn

Bod yn garedig tuag atoch chi eich hun

Gall ysgrifennu rhai pethau cadarnhaol amdanoch chi eich hun, a’r pethau rydych chi’n ddiolchgar amdanyn nhw, fod yn ffordd ddefnyddiol o aros yn gadarnhaol. Mae rhai pobl yn gwneud hyn ar ddiwedd pob diwrnod. Meddyliwch am y pethau rydych chi’n eu hoffi orau am eich personoliaeth, ac os ydych chi’n cael trafferth, meddyliwch sut byddai eich ffrindiau a’ch teulu’n eich disgrifio chi. Gallech hyd yn oed ofyn iddyn nhw ysgrifennu rhestr i chi.

Edrychwch ar y darlun ehangach o ran eich lles corfforol ac emosiynol cyffredinol hefyd. Er enghraifft, ydych chi’n cael digon o gwsg o ansawdd da, yn bwyta’n iawn, ac yn mwynhau ystod eang o ddiddordebau eraill? Os yw eich gweithgareddau ar-lein yn cael effaith negyddol ar rannau eraill o’ch bywyd, meddyliwch am y camau y gallai fod eu hangen i sicrhau cydbwysedd.

Siaradwch â rhywun am sut rydych chi’n teimlo

Os yw’r hyn rydych chi’n ei weld ar-lein yn effeithio’n uniongyrchol arnoch chi mewn ffordd negyddol (er enghraifft o ran eich arferion bwyta neu ymarfer corff, neu deimladau o hunan-werth), neu os ydych chi’n poeni am ffrind, yna mae’n bwysig iawn siarad ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo i gael cyngor a chymorth. Gallai hyn fod yn rhiant neu ofalwr, aelod o staff yn yr ysgol, eich meddyg teulu, neu oedolyn arall rydych chi’n teimlo’n ddiogel yn siarad ag ef/hi.

Os ydych chi’n chwilio am help neu wybodaeth, ond eich bod yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

  • Beat - Gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer yr anhwylderau bwyta
  • Childline - Llinell gymorth breifat a chyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yn y DU lle gallwch chi siarad am unrhyw beth – ffoniwch 0800 1111
  • Meic - Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru gyda chynghorwyr i’ch helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch – ffoniwch 080880 23456, anfonwch neges destun at 84001 neu sgwrsio ar-lein
  • Mind Cymru - Llinell gymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i bobl sy'n profi problemau iechyd meddwl – ffoniwch 0300 123 3393
  • The Mix - Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed – ffoniwch 0808 808 4994 neu sgwrsio ar-lein
  • Riportio Cynnwys Niweidiol - Canolfan adrodd genedlaethol sydd wedi’i dylunio i helpu unrhyw un i adrodd am gynnwys niweidiol ar-lein
  • YoungMinds - Cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc

I gael rhagor o gyngor ar y cyfryngau cymdeithasol a hunan-barch, ewch i Hwb.