English

Yn wahanol i bostio fideo, mae ffrydio byw yn dangos beth sy’n digwydd ar y funud honno, felly does dim cyfle i olygu.

Gall ffrydio byw fod yn ffordd wych i ffrydwyr, dylanwadwyr a defnyddwyr eraill ar-lein rannu eu bywyd a’u profiadau gyda chynulleidfa. Gan fod y cynnwys yn cael ei rannu’n fyw, gall deimlo’n fwy dilys neu ddiffuant na fideo wedi’i olygu.

Gallwch ddod o hyd i lawer o wahanol fathau o ffrydio byw ar-lein, er enghraifft:

  • mewn gemau, gall ffrydwyr ddarlledu chwarae gemau’n fyw a gallan nhw gynnig awgrymiadau ar gyfer y gêm – mae hyn yn golygu y gall y gwylwyr wella eu sgiliau chwarae'r gêm a chysylltu â phobl sydd â’r un diddordebau
  • gall enwogion ddefnyddio ffrydiau byw i roi cyfle i’w dilynwyr gael golwg gyntaf ar gynnwys neu gynhyrchion newydd y maen nhw’n eu rhyddhau – gall y cynnwys unigryw hwn ddenu pobl i mewn a chael mwy o wylwyr
  • gall dylanwadwyr ar-lein ddefnyddio ffrydio byw i gysylltu â’u dilynwyr, gan gynnig cipolwg ar eu ‘bywyd go iawn’ – mae gwylwyr yn teimlo eu bod yn cael cipolwg ar fywyd personol y ffrydiwr ac yn dod i adnabod y dylanwadwr yn well

Gwybodaeth bersonol

Yn yr un modd ag unrhyw gynnwys arall rydych chi’n ei bostio ar-lein, mae’n bwysig peidio â rhoi manylion personol fel lle rydych chi’n byw. Gall hyn fod yn fwy anodd gyda ffrydio byw, gan na allwch olygu na dechrau eto. Cofiwch y gall gwybodaeth bersonol gael ei datgelu gan eitemau o’ch cwmpas, golygfeydd yn y cefndir, a hyd yn oed beth rydych chi’n ei wisgo (os ydych chi’n ffrydio yn eich gwisg ysgol neu cit tîm, er enghraifft).

Pwysau gan gyfoedion a heriau

Wrth ryngweithio â gwylwyr, mae rhai ffrydwyr byw yn derbyn ceisiadau gan eu gwylwyr. Mae hyn yn golygu na ellir cynllunio nac ymarfer ffrydiau bob amser, ac efallai y gofynnir i chi wneud rhywbeth nad ydych am ei wneud. Gyda’r pwysau a ddaw o wybod bod pobl yn gwylio, efallai y byddwch yn teimlo bod yn rhaid i chi wneud yr hyn y mae eich gwylwyr yn gofyn amdano, ond nid yw hyn yn wir. Mae bob amser yn iawn dweud na neu ddod â’r ffrydio i ben os ydych chi’n teimlo’n anghyfforddus.

Gosodiadau preifatrwydd

Meddyliwch pwy sy’n gallu gweld eich ffrwd – ydych chi’n ffrydio’n gyhoeddus neu’n breifat?

Ydych chi’n caniatáu sylwadau ar eich ffrwd? Dydy pobl ddim bob amser yn garedig am yr hyn maen nhw’n ei wylio ar-lein neu efallai y byddan nhw’n postio pethau nad ydych chi eisiau eu gweld neu eu darllen.

Ôl-troed digidol ac enw da ar-lein

Cofiwch, os byddwch chi’n dweud neu’n gwneud rhywbeth yn ystod ffrwd fyw, ni allwch ei dynnu’n ôl na’i olygu. Gan fod y ffrwd yn cael ei rhannu’n fyw, bydd eich gweithredoedd eisoes wedi cael eu gweld gan eich cynulleidfa. Gall hyn fod yn arbennig o anodd os byddwch chi’n gwneud camgymeriad neu’n dweud rhywbeth rydych chi’n difaru ei wneud.


Wrth wylio ffrwd fyw, dydych chi ddim yn gwybod beth allwch chi ei weld neu ei glywed. Gall ffrydiwr rannu rhywbeth sy’n peri gofid, yn amhriodol neu’n sarhaus a allai beri gofid neu bryder i’r gynulleidfa.

Nid y ffrwd ei hun yw’r unig le lle gallech fod yn wynebu rhywbeth nad ydych eisiau ei weld. Gall sylwadau gan wylwyr eraill hefyd beri gofid neu bryder. Efallai y bydd pobl yn defnyddio’r sgwrs ar ffrydiau byw i hyrwyddo eu tudalennau a’u diddordebau eu hunain, ac efallai nad oes gan hynny ddim byd i’w wneud â’r ffrwd rydych chi’n ei gwylio.

Os byddwch chi’n gweld neu’n clywed rhywbeth sy’n peri gofid mewn ffrwd fyw neu sgwrs, gan gynnwys bwlio ar-lein, dylech chi siarad ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo am yr hyn rydych chi wedi’i weld a sut mae wedi gwneud i chi deimlo.

Efallai y byddwch wedyn yn gallu blocio’r defnyddiwr, neu ddad-ddilyn y cyfrif, a roi gwybod am y defnyddiwr i’r llwyfan gan ddefnyddio’r adnodd adrodd.


Yn anffodus, edrychir ar ffrwd fyw fel y mae’n digwydd. Mae hyn yn golygu bod gwylwyr yn gweld unrhyw beth sy’n cael ei wneud neu ei ddweud ar y ffrwd wrth iddo ddigwydd, ac ni allwch eu hatal rhag ei wylio.

Fodd bynnag, gallwch chi helpu i atal rhagor o bobl rhag ei weld, drwy stopio’r ffrwd, a dileu’r post. Cofiwch, mae siawns hefyd bod eich gwylwyr wedi recordio eich ffrwd ac y gallen nhw ei hanfon ymlaen ymhellach. Os bydd hyn yn digwydd, dylech siarad ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo i weld a allwch chi adrodd am y cynnwys lle mae wedi cael ei rannu.

Os bydd ffrwd fyw sy’n dangos rhywun dan 18 oed yn noeth, yn rhannol noeth (mewn dillad isaf) neu’n gwneud rhywbeth rhywiol, yn cael ei recordio a’i rannu, mae hyn yn weithgarwch anghyfreithlon a gellir ei adrodd drwy ddefnyddio adnodd Report Remove Childline.

Ble mae cael help

Os ydych chi’n chwilio am help neu wybodaeth, ond eich bod yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

  • Child Exploitation and Online Protection (CEOP) - Rhowch wybod iddyn nhw os ydych chi’n poeni am gam-drin rhywiol ar-lein neu’r ffordd mae rhywun wedi bod yn siarad â chi ar-lein
  • Childline - Llinell gymorth breifat a chyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yn y DU lle gallwch chi siarad am unrhyw beth – ffoniwch 0800 1111
  • Childnet - Cyngor diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc
  • Meic - Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru gyda chynghorwyr i’ch helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch – ffoniwch 080880 23456, anfonwch neges destun at 84001 neu sgwrsio ar-lein
  • The Mix - Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed – ffoniwch 0808 808 4994 neu sgwrsio ar-lein
  • Riportio Cynnwys Niweidiol - Canolfan adrodd genedlaethol sydd wedi’i dylunio i helpu unrhyw un i adrodd am gynnwys niweidiol ar-lein