English

Mae llawer o bethau gwych ar y rhyngrwyd. Hebddo, byddai bywyd yn wahanol iawn i’r rhan fwyaf ohonom ni, ond mae elfen dywyll i’r rhyngrwyd, rhywbeth a fyddai ychydig yn lletchwith i ti. Weithiau, byddi di’n gweld y pethau hyn drwy gamgymeriad wrth chwilio am rywbeth arall, felly mae’n bwysig iawn dy fod yn gwybod beth i’w wneud os bydd hyn yn digwydd i ti.

Cynnwys sarhaus

Gall fod yn anodd esbonio rhywbeth sy’n sarhaus, oherwydd mae’n dibynnu pwy sy’n edrych arno a beth sy’n sarhaus iddyn nhw. Ond yn ei hanfod, mae’n golygu rhywbeth all sarhau, ypsetio, codi ofn neu boeni’r person sy’n edrych arno.

Cynnwys anghyfreithlon

Cynnwys yw hyn y mae’r gyfraith yn ei wrthod. Gall unrhyw un sy’n chwarae rhan yn ei bostio neu ei wylio ddod i drwbl gyda’r heddlu. Gall fod yn anodd gwybod a yw rhywbeth ar-lein yn anghyfreithlon ai peidio, am fod cymaint o gyfreithiau gwahanol. Ond paid â phoeni, does dim disgwyl i ti wybod beth yw’r holl gyfreithiau. Os wyt ti’n amau fod rhywbeth yn anghyfreithlon, caea’r dudalen a’i hadrodd, a gad i rywun arall benderfynu os yw’n anghyfreithlon.

Dyma rai enghreifftiau o gynnwys sarhaus neu anghyfreithlon:


Gall ddigwydd ar unrhyw blatfform sydd wedi cysylltu â’r rhyngrwyd, gan gynnwys:

  • gwefannau
  • cyfryngau cymdeithasol
  • negeseuon (er enghraifft Snapchat, WhatsApp a Messenger)
  • gwefannau gemau 
  • negeseuon e-bost
  • fforymau
  • gwasanaethau rhannu ffeiliau 
  • y we dywyll (rhannau o’r rhyngrwyd nad ydynt yn weladwy i beiriannau chwilio safonol ac sy’n gofyn am feddalwedd penodol i gael mynediad atynt)

Efallai y byddi di’n dod ar draws rhywbeth drwy gamgymeriad wrth chwilio am rywbeth arall, neu efallai y byddi di’n chwilio am rywbeth penodol. Cofia bod chwilio am gynnwys anghyfreithlon ar-lein yn erbyn y gyfraith, a galli di ddod i drwbwl am wneud.  


Siarad

Gall gweld cynnwys fel hyn beri poen meddwl, trallod neu godi ofn, ac mae’n iawn ac yn normal i ti deimlo fel hyn weithiau. Ond bydd cadw’r teimladau hyn i mewn yn eu gwneud nhw’n waeth o bosibl. Gall siarad amdano gyda rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo waredu ychydig o’r poen meddwl hwnnw. Eglura beth rwyt ti wedi’i weld a sut rwyt ti’n teimlo. Os nad wyt ti’n siwr sut i ddechrau sgwrs gyda rhywun, dyma rai awgrymiadau. Os wyt ti’n teimlo nad oes gen ti unrhyw un i siarad gyda nhw, beth am ffonio llinell gymorth ddienw, fel Meic, sydd ar gael i wrando a rhoi cymorth.  

Cau i lawr

Rhaid cau’r dudalen ar unwaith (os wyt ti’n awyddus i adrodd am y dudalen, copïa’r ddolen yn gyntaf) a cher i nôl rhywun fydd yn gallu siarad gyda thi am yr hyn yr wyt wedi’i weld.

Peidio â chlicio

Os yw rhywbeth digroeso’n ymddangos ar y sgrin, neu os wyt ti’n cael rhybuddion cyn clicio rhywbeth, mae’n well peidio â chlicio’r botwm. Does wybod beth fyddi di’n ei agor. Efallai bydd natur chwilfrydedd yn gwneud i ti eisiau clicio, ond mae’n well cadw’n ddiogel a pheidio. Yn ogystal â gweld rhywbeth a all dy ypsetio, rwyt ti hefyd yn rhoi dy hun mewn perygl o lawrlwytho feirws. 

Adrodd

Bydd adrodd yn tynnu sylw ato fel rhywbeth sydd angen cael ei wirio, ac os yw’n torri canllawiau neu’n anghyfreithlon, bydd modd ei dynnu i lawr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran ‘Sut i adrodd am rywbeth sy’n sarhaus neu’n anghyfreithlon’ isod.

Hidlo

Y ffordd orau o leihau’r risg o weld pethau sarhaus neu anghyfreithlon ar-lein yw defnyddio rheolaethau rhieni neu gyfyngiadau cynnwys yn y cartref ac ar ddyfeisiau unigol. Efallai na fyddi di’n hoffi’r syniad o oedolion yn rheoli’r hyn yr wyt ti’n ei weld. Nid cadw’r pethau hwyliog dan glo yw’r nod, ond yn hytrach dy amddiffyn a d’atal rhag gweld rhywbeth all beri gofid. Os oes angen cymorth ar dy rieni/gofalwyr, mae canllawiau defnyddiol ar Hwb:

Gosodiadau preifatrwydd

Mae cyfyngiadau oedran ar rai apiau a phlatfformau am reswm, gan dy fod yn fwy tebygol o weld pethau sy’n amhriodol i dy oedran. Ond rydyn ni’n gwybod fod gan lawer o bobl ifanc gyfrifon ar blatfformau nad ydyn nhw i fod yn eu defnyddio. Gwna’n siwr fod dy osodiadau preifatrwydd yn uchel iawn. Sicrha dy fod yn nabod y bobl rwyt ti’n siarad gyda nhw. Dweda wrth rywun neu adrodda am unrhyw beth sy’n gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus. Edrycha ar yr adran ‘Bydd wybodus’ sy’n cynnwys canllawiau i’r apiau mwyaf poblogaidd, gan gynnwys sgoriau oedran, risgiau a phethau i’w gwneud i gadw’n ddiogel. 

Rhwystro

Os yw rhywun ti’n nabod yn anfon cynnwys sarhaus atat, gofynna iddyn nhw stopio. Os wyt ti’n teimlo na alli di ofyn, neu os wyt ti’n aelod o grwp sy’n rhannu pethau fel hyn, blocia, gwasga ‘unfollow’ neu ‘unlike’.

Peidio â rhannu

Ceisia beidio â rhannu unrhyw beth a anfonwyd atat a all gael ei ystyried yn sarhaus neu’n anghyfreithlon. Mae’n bosibl y byddi di’n peri gofid i rywun, neu’n mynd i drwbwl wrth ei rannu.


Os ydych chi’n gweld rhywbeth ar-lein sydd wedi peri gofid neu bryder i chi, siaradwch gydag oedolyn am yr hyn rydych chi wedi ei weld a thrafodwch pam mae hyn wedi gwneud i chi deimlo felly.

Riportiwch y safle gymaint o weithiau â phosibl, er mwyn ei gwneud yn fwy tebygol o gael ei fflagio a’i dynnu oddi yno, a chlicio ar ‘peidiwch ag argymell pethau tebyg.’

Dywedwch wrth rywun dibynadwy, waeth pa mor bryderus ydych chi am eu hymateb. Does dim rhaid iddyn nhw fod yn rhiant os nad ydych chi eisiau, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn ymddiried ynddo/ynddi.


Bydd gan y rhan fwyaf o wefannau ffordd o adrodd am gynnwys, yn enwedig apiau cyfryngau cymdeithasol (edrycha ar y canllawiau apiau am wybodaeth am adrodd a blocio gwybodaeth ar gyfer amrywiaeth o apiau poblogaidd). Ond mae lleoedd ar gael i adrodd am bethau penodol y byddi di’n eu gweld ar-lein:

  • os wyt ti’n meddwl bod rhywun mewn perygl brys, ffonia 999 a rho wybod i’r heddlu
  • galli di adrodd am fygythiadau, dynwared, bwlio neu aflonyddu, hunan-niwed neu hunanladdiad, camdriniaeth ar-lein, trais, gweithredoedd rhywiol digroeso a chynnwys pornograffig i’r gwasanaeth Adrodd am Gynnwys Niweidiol. Hefyd, mae dolenni ar gael i adrodd ar apiau a phlatfformau gwahanol
  • os wyt ti’n gweld delweddau cam-drin plant yn rhywiol ar-lein, rhowch wybod i’r Internet Watch Foundation
  • os wyt ti’n poeni am y ffordd y mae rhywun wedi bod yn siarad gyda thi ar-lein, rho wybod i’r gwasanaeth CEOP (Saesneg yn unig)
  • gellid adrodd am droseddau casineb tuag at rywun oherwydd eu hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, hunaniaeth rywedd, neu resymau eraill i True Vision 
  • Os gweli di rywbeth ar-lein sy’n hyrwyddo terfysgaeth ac eithafiaeth, rhowch wybod ar wefan GOV.UK (Saesneg yn unig)
  • os wyt ti’n meddwl bod gwefan yn ceisio dy sgamio, adrodda i’r Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (Saesneg yn unig)
  • os wyt ti wedi cael dy sgamio a cholli arian, neu os yw rhywun wedi dy hacio, rho wybod i Action Fraud 

Os wyt ti’n chwilio am gymorth neu wybodaeth, ond yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

  • Childnet (Saesneg yn unig) – cyngor diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc
  • Addysg CEOP (Saesneg yn unig) - cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc 11-18 oed ar y rhyngrwyd a pherthnasoedd
  • Meic – llinell gymorth am ddim a chyfrinachol i blant a phobl ifanc yng Nghymru, gydag ymgynghorwyr i dy helpu i ddod o hyd i’r gefnogaeth sydd ei hangen. Ffonia 080880 23456, anfona neges destun at 84001 neu gellid sgwrsio ar-lein
  • Childline (Saesneg yn unig) – llinell gymorth am ddim, preifat a chyfrinachol i blant a phobl ifanc yn y DU lle mae modd trafod unrhyw beth o gwbl. Ffonia 0800 1111
  • YoungMinds (Saesneg yn unig) – cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc
  • Shore - Gwybodaeth a chefnogaeth gyfrinachol i bobl ifanc sy'n poeni am feddyliau neu ymddygiad rhywiol

BBC Own It

Gwylia'r fideo byr hwn (Saesneg yn unig) am awgrymiadau ar beth i'w wneud os wyt ti'n gweld rhywbeth sy'n peri gofid ar-lein.