English

2. Canllawiau perthnasol a gwybodaeth

Mae'r deunyddiau ategol hyn wedi'u cynllunio fel gwybodaeth gychwynnol neu  atgoffa am elfennau allweddol y Cwricwlwm i Gymru a meysydd sy’n gysylltiedig ag ef. Mae hyn yn cynnwys disgwyliadau a blaenoriaethau ar gyfer cynllunio cwricwlwm, y fframwaith newydd ar gyfer gwella ysgolion, a gwybodaeth am asesu.

Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r cwricwlwm

Mae'r canllawiau hyn yn nodi set gyffredin o ddisgwyliadau, blaenoriaethau a gwybodaeth ategol ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm.

Cwricwlwm i Gymru: canllaw ar gynllunio a blaenoriaethau

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys canllawiau byr, cwestiynau allweddol, a darllen pellach i gefnogi dealltwriaeth ymarferwyr o gynllunio cwricwlwm, cynnydd ac asesu.

Canllawiau anstatudol ar wella ysgolion

Mae'r canllawiau hyn, ‘Canllawiau gwella ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd’, yn nodi'r fframwaith newydd ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru, ac yn diffinio rôl awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol wrth ddarparu cymorth i ysgolion.

Asesiadau personol

Mae asesiadau personol ar-lein yn adnodd cymorth mae modd cael gafael arno’n hawdd, sy'n rhannu adborth defnyddiol ar sgiliau darllen a rhifedd unigolyn.

Ar sail yr adborth, gall dysgwyr, eu hathrawon a'u rhieni a’u gofalwyr ddeall cryfderau’r unigolyn a lle y gallai fod angen cymorth pellach i gynllunio'u camau nesaf a chefnogi cynnydd y dysgwr.

Ar Drywydd Dysgu

Mae Ar Drywydd Dysgu yn darparu adnoddau a deunyddiau defnyddiol i gefnogi ymarferwyr i asesu dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog.

Asesu a llesiant dysgwyr: systemau cymorth cydfuddiannol

Mae’r ddogfen hon yn archwilio sut y gall asesiadau parhaus, o ddydd i ddydd i adnabod, nodi ac ystyried cynnydd dysgwyr unigol, gynnig cyfleoedd i hybu lles y dysgwr. Mae’n ysgogi ymarferwyr i ystyried arferion presennol eu hysgolion a sut y gellid eu gwella.