English

Dylid rheoli pob dyfais a ddefnyddir yn yr ysgol, pa un a yw'n ddyfais symudol neu'n ddyfais cleient trwchus. Mae angen i chi sicrhau bod protocolau diogelu a seiberddiogelwch ar waith yn unol â pholisïau cyffredinol yr ysgol. Mae angen i chi hefyd gynllunio ar gyfer olyniaeth – mae gan bob dyfais gylch oes gyfyngedig a bydd costau blynyddol yn gysylltiedig â'i thrwyddedu a'i chynnal a'i chadw. Bydd ystyried cyfanswm cost y berchenogaeth yn eich prosesau cynllunio ariannol yn ei gwneud yn haws i chi uwchraddio dyfeisiau a phrynu rhai newydd yn lle hen rai.

At ddiben y Safon hon, mae cleient trwchus yn cyfeirio at ddyfais y gellir ei phlygio i mewn yn uniongyrchol i rwydwaith TG yr ysgol, a'i mapio. Fel arfer, dyfeisiau bwrdd gwaith fyddai'r rhain. Mae dyfais symudol yn cysylltu â Wi-Fi yr ysgol ac mae'n ddyfais ysgafn gan amlaf, sydd wedi'i chynllunio i gael ei defnyddio ar sail fwy ad hoc yn yr ysgol, yn hytrach nag mewn lleoliad penodol. Gliniaduron symudol fyddai'r rhain fel arfer neu lechi.

Dylid ystyried y ddarpariaeth ddi-wifr a'r seilwaith presennol wrth roi datrysiadau symudol ar waith mewn ysgol er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd cynhaliol yn gallu ateb y galw.