English

Dylai ysgolion bob amser gynllunio'n ofalus ar gyfer gwaith gosod ceblau newydd. Mae hyn yn cynnwys llunio cynllun clir a sicrhau bod y ceblau'n cael eu gosod gan sefydliad proffesiynol. Mae ceblau strwythuredig yn defnyddio cydrannau a dulliau gosod safonedig er mwyn sicrhau bod y ceblau'n gadarn, y gellir eu haddasu ac ychwanegu atynt yn ôl yr angen, a'u bod yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae'r safoni ar lefel ryngwladol, a dylai unrhyw gwmni gosod allu dangos ei fod yn cydymffurfio â'r Safonau.

Dylech nodi bod ceblau yn y Safon hon yn cyfeirio at y ceblau yn y rhwydwaith craidd, sy'n terfynu yn y pwynt rhwydwaith perthnasol, ac nid â chysylltiadau rhwng dyfeisiau a'r pwyntiau rhwydwaith hynny oni nodir fel arall.

  • Er mwyn sicrhau’r cysylltiad gorau posibl ar gyfer pob dyfais, ac atal tagfeydd a phrofiadau cyflymder gwahanol mewn ystafelloedd dosbarth o gwmpas yr ysgol, mae’n rhaid defnyddio’r ceblau diweddaraf sy’n cydymffurfio â safon y diwydiant.

    Mae CAT6 yn safon gydnabyddedig yn y diwydiant ar gyfer ceblau copr, ac mae’n perfformio’n fwy effeithiol mewn rhwydweithiau â lled band uwch.

    Dylai gwaith cebl o bob math gael ei ystyried a’i gynllunio’n ofalus; ei gaffael yn unol â rheoliadau caffael cenedlaethol; a’i osod gan sefydliadau proffesiynol.

    Gweler yr holl Safonau Ceblau eraill am fwy o wybodaeth.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli; Safonau Cabinet Rhwydwaith Data; Safonau Llwybryddion a Switsys; a Safonau Rhwydwaith Di-wifr i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae ceblau strwythuredig yn cyfeirio at geblau seilwaith mewn adeilad ac mae’n darparu’r sylfaen a’r elfennau cysylltiedig sy’n sicrhau bod dyfeisiau’r rhwydwaith yn gallu cyfathrebu â’i gilydd yn hawdd.

    Mae cebl copr CAT6 yn gallu darparu lled band uwch mewn rhwydwaith TG ysgol. Mae’n cynnig perfformiad uwch – gan gynnal rhwydweithiau hyd at 10Gbps, ac mae’n helpu i reoli croes-siarad (ymyriad electromagnetig ym ceblau pâr).

    Dylai ysgolion gofio bod Partneriaid Cymorth Technoleg Addysg yn gosod ceblau CAT6 ardystiedig o ansawdd uchel sy’n cael eu gwarchod a’u troi yn briodol.

    Mae llawer o broblemau a chyfyngiadau yn gysylltiedig â cheblau Pâr wedi’u Troi Cyffredinol (UTP) sy’n defnyddio Alwminiwm Cladin Copr (CCA) yn hytrach na cheblau ‘pur’ i gludo’r signalau electronig wrth drosglwyddo data. Er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben mewn amgylchedd ysgol, mae’n rhaid i geblau strwythuredig o bob math fodloni gofynion ardystio CAT6 a pheidio â defnyddio ceblau CCA. Mae gan geblau CCA hyblygrwydd gwael a radiws plygu gwael iawn, maen nhw’n agored i ocsideiddiad a chyrydiad, ac nid ydynt yn addas ar gyfer darpariaeth Pwer sy’n Gallu Darparu Ether-rwyd (PoE) gan eu bod yn effeithio ar berfformiad rhwydwaith TG yr ysgol.

    Mae’n rhaid i holl elfennau seilwaith ceblau strwythuredig newydd gydymffurfio â Cat 6 er mwyn bodloni’r Safon – gan gynnwys jaciau, lidiau pats, paneli pats, croes gysylltiadau a’r cebl ei hun.

    Dylid defnyddio ceblau CAT6 ardystiedig ar gyfer ceblau rhwng switsys craidd ac ymyl, gweinyddion a mannau/rheolyddion mynediad diwifr, ond gellid defnyddio ceblau CAT5e ar gyfer gwaith gosod patsys o socedi wal i gyfrifiaduron personol bwrdd gwaith neu ddyfeisiau eraill sydd wedi’u darparu gan y rhwydwaith fel byrddau clyfar, setiau teledu clyfar, unedau arddangos ac ati.

    Canllawiau Gweithredu:

    Rhagwelir y bydd y safon yn ateb arfer gorau er mwyn helpu ysgolion i ddiwallu eu hanghenion digidol. Fodd bynnag, cydnabyddir bod adnoddau ysgolion yn brin, a’r hyn sy’n dilyn yw canllawiau posibl ar gyfer bodloni’r safon dros amser:

    • Dylai ceblau CAT5e presennol fod yn ddigonol wrth osod patsys o socedi waliau i gyfrifiaduron personol bwrdd gwaith neu ddyfeisiau eraill sy’n cael eu darparu gan y rhwydwaith, fel byrddau clyfar, setiau teledu clyfar, unedau arddangos ac ati
    • Dylid defnyddio ceblau CAT6 ardystiedig ar gyfer ceblau strwythuredig rhwng switshis craidd ac ymyl, gweinyddion a mannau/rheolyddion mynediad di-wifr
    • Dylid osgoi cebl CAT6 ‘rhatach’ sy’n defnyddio Alwminiwm Cladin Copr (CCA) oherwydd cyfyngiadau a phroblemau hysbys â CCA
    • Os oes uwchraddiadau i switshis a chapasiti band eang yn cael eu hystyried, dylid ystyried uwchraddio’r ceblau strwythuredig hefyd
    • Dylai adeiladau newydd a rhaglenni adnewyddu ceblau strwythuredig ddefnyddio cebl CAT6 ardystiedig gan gynhyrchydd hysbys.
  • Mae ffibr yn gyflymach.

    Ceblau ffibr yw’r dewis gorau er mwyn sicrhau bod addysgu a dysgu yn gallu manteisio ar y rhwydweithiau cyflymaf posibl. Y ceblau diweddaraf o safon y diwydiant yw 'OM4' ar gyfer ceblau ffibr ar hyn o bryd.

    Gweler yr holl Safonau Ceblau eraill am fwy o wybodaeth.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli; Safonau Cabinet Rhwydwaith Data; Safonau Llwybryddion a Switsys; a Safonau Rhwydwaith Di-wifr i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae’n rhaid i geblau ffibr mewn ysgolion gynnal llif traffig y rhwydwaith ar hyd ei gysylltiad heb amharu ar y llif data.

    Dylai ceblau ffibr rhwng cabinetau mewn ysgolion fod o safon OM4 o leiaf - cebl aml fodd yw hwn sydd wedi’i optimeiddio i gynnal cysylltiadau Ether-rwyd 10Gbps hyd at 400 metr. Dylai hyn gynnwys isafswm o 8 ffibr craidd mewn pedwar pâr er mwyn caniatáu pellteroedd hirach, cynnal cyfraddau trosglwyddo data uwch, cysylltedd cyfochrog a chynnig cadernid y seilwaith ceblau a’i ddiogelu at y dyfodol.

    Gall pellteroedd byrrach o hyd at 150 metr gynnal llif data hyd at 100Gbps.

    Mae hyn yn hwyluso traffig y rhwydwaith heb ddiraddio’r gwasanaeth dros hyd y cysylltiad, yn lleihau mannau cyfyng ac yn helpu i reoli data.

    Mae’n annhebygol y bydd angen ffibr un modd mewn amgylchedd ysgol, hyd yn oed wrth gysylltu adeiladau oddi mewn i ffiniau ysgol.

    Fel arfer, defnyddir ffibr un modd pan fydd angen pellteroedd hirach (cilometrau lluosog nid degau neu gannoedd o fetrau). Hefyd, mae rhyngwynebau optegol un modd ar ddyfeisiau rhwydwaith TG yr ysgol yn tueddu i fod yn ddrutach na rhyngwynebau optegol aml fodd cyfatebol.

    Os oes ffibr un modd eisoes ar waith, bydd angen i chi barhau i ‘oleuo’ hyn trwy ddefnyddio rhyngwynebau un modd gan nad yw rhyngwynebau optegol aml fodd yn gallu chwistrellu digon o olau i ffibr un modd.

    Rhagwelir y bydd y Safon yn ateb arfer gorau er mwyn helpu ysgolion i ddiwallu eu hanghenion digidol. Fodd bynnag, cydnabyddir bod adnoddau ysgolion yn brin, a’r hyn sy’n dilyn yw canllawiau posibl ar gyfer bodloni’r safon dros amser:

    • Amlygu lle mae atebion cebl gwahanol yn briodol gan ddibynnu ar hyd y cysylltiad a’r cyflymder gofynnol
    • Dylai dealltwriaeth o dopoleg y rhwydwaith TG yr ysgol yn gyffredinol gynorthwyo gwybodaeth ehangach o safbwynt bodolaeth cebl OM4
    • Bydd adolygu gofynion ceblau yn unol â safon D8 isod yn amlygu ble a phryd y mae angen uwchraddio’r rhwydwaith.
  • Mae’n hawdd diystyru hyn, ond mae’n bwysig sicrhau bod ceblau ysgolion yn cael eu profi yn unol â safonau cyffredinol er mwyn sicrhau mynediad cyflym i’r rhyngrwyd ym mhob ystafell ddosbarth.

    Gall eich partner cymorth TG eich cynghori ar brofion.

    Gweler yr holl Safonau Ceblau eraill am fwy o wybodaeth.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli; Safonau Cabinet Rhwydwaith Data; Safonau Llwybryddion a Switsys; a Safonau Rhwydwaith Di-wifr i gael rhagor o wybodaeth.

    Dylai’r holl osodiadau cebl strwythuredig mawr gael eu profi i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r manylebau perfformiad.

    Cyn cael eu cymeradwyo, dylai’r profion:

    • Ddilyn system brofi wedi’i dogfennu
    • Cofnodi ac archifo canlyniadau profion ceblau strwythuredig gan gynnwys copïau ar gyfer yr ysgol a/neu’r awdurdod lleol. Bydd hyn yn dangos bod seilwaith y ceblau strwythuredig mewn ysgol yn bodloni safonau perfformiad y cytunwyd arnynt
    • Nid oes angen profi holl geblau’r rhwydwaith – er enghraifft, mae’r lidiau ‘pats’ RJ45 cyn terfynu sy’n cysylltu dyfais â’r llawr neu’r wal yn tueddu i gael eu cynhyrchu yn unol â chanllawiau llym. Er mwyn bodloni’r ysgol, dylid profi detholiad ar hap o lidiau pats cyn terfynu gan gyflenwr i sicrhau eu bod yn bodloni’r fanyleb.

    Dylid sefydlu protocolau a chanllawiau profi ar y cyd â chanllawiau gan yr awdurdod lleol.

  • Mae angen gosod ceblau strwythuredig rhwng adeiladau yn ddiogel ac yn broffesiynol er mwyn sicrhau bod pob un o’r mannau dysgu yn yr ysgol yn cael mynediad cyfartal a chyson i’r rhyngrwyd.

    Mae hyn yn osgoi unrhyw effaith ar gapasiti’r rhwydwaith ac yn sicrhau nad yw’r ysgol yn mynd yn groes i unrhyw fanylebau neu reoliadau iechyd a diogelwch yr awdurdod lleol.

    Gweler yr holl Safonau Ceblau eraill am fwy o wybodaeth.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli; Safonau Cabinet Rhwydwaith Data; Safonau Llwybryddion a Switsys; a Safonau Rhwydwaith Di-wifr i gael rhagor o wybodaeth.

    Os oes gan ysgolion gysylltiadau rhwng adeiladau, dylid eu hadolygu i weld a ydynt yn cydymffurfio ag argymhellion y Safon hon.

    Dylai unrhyw waith yn ymwneud â cheblau strwythuredig rhwng adeiladau yn y dyfodol (naill ai at ddibenion adfer neu ehangu) ddilyn y canllawiau uchod. Hefyd:

    • Dylai’r gwaith fod yn seiliedig ar safonau ac argymhellion yr awdurdod lleol
    • Dylai’r ceblau gael eu gosod yn broffesiynol (yn ddelfrydol gan gontractwr sydd wedi’i gymeradwyo gan yr awdurdod lleol)
    • Dylai’r ceblau gael eu cadw, eu terfynu a’u labelu yn briodol
    • Dylent gael eu gwarantu yn unol â chanllawiau’r awdurdod lleol.

    Hefyd, mae angen diogelu ceblau allanol yn ddigonol. Er enghraifft, defnyddio ceblau cryf wedi’u gorchuddio â gwain fetel sy’n eu hamddiffyn yn erbyn dwr a thymheredd eithafol, sy’n golygu bod modd defnyddio’r ceblau o dan y ddaear neu yn yr awyr agored.

  • Fel yr amlinellwyd yn Safon B7, mae angen labelu holl bwyntiau mynediad i’r rhwydwaith yn focsys llawr neu wal.

    Mae ceblau sydd wedi’u cysylltu yn y modd hwn yn llai tebygol o achosi problemau cysylltu achlysurol sy’n gallu amharu ar wersi. Trwy ddefnyddio labeli clir, mae modd nodi a datrys problemau yn hawdd.

    Mae hyn yn sicrhau bod rhwydweithiau TG ysgolion yn cael eu labelu’n gywir a bod gan ddyfeisiau lwybr uniongyrchol yn ôl i seilwaith y rhwydwaith.

    Dylai ysgolion osgoi defnyddio dyfeisiau ymestyn y rhwydwaith neu hybiau bach gan eu bod yn ddyfeisiau heb eu rheoli (gweler Safon C) a gallant gael effaith niweidiol sylweddol ar gapasiti a llif y rhwydwaith yn gyffredinol.

    Dylid labelu mannau’r rhwydwaith yn gyson ledled yr ysgol, gan nodi i ba gabinet a switsh y mae’r man yn dychwelyd.

  • Dylai holl geblau’r rhwydwaith gael eu labelu wrth fynd i mewn i’r cabinet data. Os yw ceblau wedi’u labelu’n glir, mae modd nodi a datrys problemau achlysurol â’r cysylltiad sy’n gallu amharu ar wersi.

    Gweler Safon D2 yn ymwneud â mannau’r Rhwydwaith.

    Gweler Safonau Cabinet Rhwydwaith Data i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae paneli pats wedi’u labelu mewn cabinetau yn galluogi staff rhwydwaith, neu Bartneriaid Cymorth Technoleg Addysg (awdurdodau lleol yn ddelfrydol), i nodi problemau sy’n codi a deall pa ran o’r rhwydwaith sy’n cael ei heffeithio. Fel y nodwyd mewn rhannau eraill o’r Safonau hyn, mae topoleg rhwydwaith TG ysgol wedi’i mapio’n glir gyda labeli a chodau lliw yn cynorthwyo’r broses o reoli’r rhwydwaith cyfan yn effeithiol.

    Hefyd, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn defnyddio labeli mewn ffordd gyson ar draws yr ysgol fel bod unrhyw un sy’n ymchwilio i rwydwaith TG yr ysgol neu’n gweithio arno yn gallu gweld pa geblau sydd angen eu harchwilio.

  • Dylid grwpio ceblau yn daclus wrth iddynt fynd i mewn a dod allan o gabinetau data er mwyn helpu i nodi a datrys unrhyw broblemau sy’n gallu amharu ar wersi.

    Gweler yr holl Safonau Ceblau eraill am fwy o wybodaeth.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli a Safonau Cabinet Rhwydwaith Data i gael rhagor o wybodaeth.

    Dylai’r broses o reoli pyrth y rhwydwaith a’r cysylltiadau rhwng cabinetau gael ei hategu bob amser gan reoli ceblau yn glir trwy reiliau dynodedig.

    Mae pwysigrwydd cabinetau taclus hyd yn fwy allweddol pan fydd gwaith ychwanegu neu uwchraddio yn mynd rhagddo ar rwydwaith TG yr ysgol. Mae rheoli ceblau yn glir yn golygu bod modd nodi’r pyrth sydd ar gael ar switsh a chyrchfan ceblau yn y rhwydwaith ehangach.

    Canllawiau Gweithredu:

    • Statws adolygu ceblau presennol mewn cabinetau data
    • Sicrhau bod safonau labelu a chodau lliw ar waith ym mhob cabinet er mwyn helpu i ddeall capasiti a swyddogaeth
    • Defnyddio atebion rheoli ceblau priodol e.e. clymau ceblau
  • Dylid defnyddio cod lliw ar gyfer pob cebl a sicrhau bod yr hyd yn gywir er mwyn helpu i nodi a datrys unrhyw broblemau sy’n gallu amharu ar wersi.

    Er nad oes unrhyw safonau diwydiant ar gyfer cod lliw ceblau, byddai’n fanteisiol dyrannu cod lliw yn unol â swyddogaeth y cebl, er enghraifft.

    Noder bod hyn yn berthnasol i geblau mewn cabinet pats neu gabinet cyfathrebu yn unig.

    Gweler yr holl Safonau Ceblau eraill am fwy o wybodaeth.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli a Safonau Cabinet Rhwydwaith Data i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae’n rhaid i hyd ceblau pats fod yn ddigon i osgoi diraddio data a sicrhau bod y broses gyffredinol o reoli’r rhwydwaith yn effeithlon a bod modd i staff eraill, yn ogystal â staff sy’n rheoli’r rhwydwaith, ddeall y broses.

    Nid oes unrhyw hyd safonol ar gyfer ceblau pats, ond dylech chi ragdybio y bydd angen o bosibl i geblau ymdopi â chyfarpar ychwanegol rywbryd yn ystod eu hoes, felly gall ceblau byr amharu ar hyblygrwydd.

    Er nad oes system safonol o ddyrannu lliwiau ar gyfer ceblau’r rhwydwaith, byddai’n ddefnyddiol dosbarthu lliwiau ceblau yn ôl swyddogaeth: er enghraifft – melyn ar gyfer VOIP, gwyn ar gyfer ceblau pats, glas ar gyfer switshis craidd ac ati. Cyn belled â bod hyn wedi’i nodi yn nogfennau topoleg y rhwydwaith, bydd yn hwyluso dealltwriaeth gyffredinol gan unrhyw weithwyr proffesiynol eraill sy’n gwneud gwaith ar y rhwydwaith. Dylai’r un system gael ei defnyddio ym mhob cabinet yn yr ysgol, a dylid ei chynnwys gyda dogfennau’r rhwydwaith.

  • Dylid adolygu llwybrau ceblau yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gyson â chynlluniau ehangu neu ddyheadau defnydd.

    Mae’n bosibl y bydd angen newid llwybr ceblau yn awr er mwyn hwyluso unrhyw ddatblygiadau mannau dysgu yn y dyfodol.

    Dylai gosodiadau cebl gael eu hadolygu a’u profi yn rheolaidd, yn unol â chanllawiau’r awdurdod lleol. Fel canllaw, dylai pob gosodiad gael ei wirio bum mlynedd ar ôl ei osod, a phob 3 blynedd wedyn.

    Mae gwirio yn cynnwys profi sampl o’r ceblau mewn ysgol i sicrhau nad yw’r gwasanaeth wedi diraddio ar draws y cebl. Dylid gwneud hyn yn unol â Safon D2 uchod a dylid cofnodi ac archifo canlyniadau’r gwiriadau hyn.

    Dylai protocolau profi gael eu sefydlu ar y cyd â’r awdurdod lleol.

  • Er mwyn cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch, dylai holl geblau ysgolion gydymffurfio â BS7671.

    Mae hyn yn sicrhau bod y deunydd cywir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ceblau a bod y gwaith gosod yn cynllunio ar gyfer gwrthsefyll tân.

    Gweler yr holl Safonau Ceblau eraill am fwy o wybodaeth.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli a Safonau Cabinet Rhwydwaith Data i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae camau gweithredu posibl i ddiwallu’r angen am ddiogelwch yn cynnwys:

    • Adolygu statws presennol diogelwch ac unrhyw broblemau mewn cabinetau ac ystafelloedd cyfathrebu
    • Dylai estyniadau i seilwaith rhwydwaith TG ysgol, gwaith uwchraddio switsys neu geblau ac ati gynnwys cynlluniau i gadw cyfarpar yn ddiogel mewn ystafelloedd cyfathrebu fel rhan o gynlluniau cyffredinol y prosiect.

    Os oes modd, dylech chi ystyried defnyddio cebl Mwg Isel Halogen Sero – LSOH, gan fod gorchudd y cebl yn llosgi’n arafach, mae llai o fwg yn cael ei allyrru ac ni fydd unrhyw allyriadau halogen. Mae’n golygu bod modd gwagio’r adeilad yn haws os oes tân.