English

Bydd y canllawiau hyn yn helpu arweinwyr ysgolion i ddeall TG a thechnoleg ddigidol yn well, er mwyn iddynt allu ystyried manteision defnyddio’r dechnoleg honno wrth gynllunio datblygiad ehangach yr ysgol.

Mae’n cynnwys gwybodaeth a fydd yn cefnogi arweinwyr ysgolion i gynllunio a rheoli eu rhwydwaith TG, er mwyn iddynt wneud llwyddiant o hwnnw yn ddiymdroi, ac i’r llwyddiant hwnnw barhau at y dyfodol.

I gael rhagor o gymorth ac eglurhad ar sut i weithredu’r canllawiau hyn, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol/Partner Cymorth Technoleg Addysg.

Bydd ysgolion yn gweithio gyda’u Partner Cymorth Technoleg Addysg, ar y cyd â’u hawdurdod addysg lleol, er mwyn sicrhau bod TG a thechnoleg ddigidol yn elfennau craidd o’u cynllunio strategol

Erbyn hyn, mae technoleg yn rhan hanfodol o’n bywydau. Wrth i addysgu a dysgu fanteisio ar fwy o adnoddau a gwasanaethau digidol, mae’n fwyfwy pwysig bod ysgolion yn gallu defnyddio TG a digidol yn effeithiol yn yr amgylchedd ysgol.

Trwy weithio’n agos gyda’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg, bydd modd i chi fanteisio’n llawn ar eich buddsoddiad yn eich amgylchedd digidol. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn cynllunio, yn rheoli ac yn cynnal seilwaith eich rhwydwaith yn effeithiol er mwyn cynorthwyo addysgu a dysgu ar gyfer gofynion presennol a gofynion y dyfodol – a’r modd y gall TG a digidol gefnogi cynlluniau ehangach y cwricwlwm.

Mae’n rhaid cynllunio rhwydwaith TG yr ysgol er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu eich anghenion ac yn cynnwys yr ysgol gyfan. Dylai’r broses gynllunio arwain at:

  • Ddealltwriaeth o’r sefyllfa ddigidol bresennol ac unrhyw broblemau yn ymwneud â gweithgareddau presennol
  • Dealltwriaeth o’ch nod yn y pen draw a’r camau nesaf posibl
  • Nodi gofynion addysgol a gofynion cwricwlwm ar gyfer TG a digidol
  • Sut mae’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg yn gallu’ch helpu i gyflawni’ch amcanion cwricwlwm yn ehangach
  • Rhwydwaith hyblyg sy’n gallu esblygu ac addasu i ofynion y dyfodol
  • Deall gallu a chapasiti staff a dysgwyr i ddefnyddio adnoddau digidol
  • Gofynion penodol sy’n berthnasol i’ch amgylchiadau.

Wrth gwrs, cydnabyddir bod ysgolion wedi cyrraedd cyfnodau gwahanol wrth ddatblygu eu darpariaeth TG a digidol. Felly, bydd angen i’r broses gynllunio ystyried a darparu ar gyfer amgylchiadau ysgol, a darparu lefelau gwahanol o gymorth a buddsoddiad.

Dylai eich Partner Cymorth Technoleg Addysg roi gwybod i chi am sut mae’n gallu cefnogi eich gofynion cynllunio strategol. I gynorthwyo eich gwaith cynllunio, dylech chi ystyried gweithgareddau fel y canlynol:

  • Sut mae’ch rhwydwaith TG yr ysgol wedi’i ddatblygu a sut mae’n perfformio i’ch helpu i ddiwallu’ch anghenion – ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Yn ddelfrydol, dylid cynllunio rhwydweithiau o’r cychwyn cyntaf a’u dylunio mewn ffordd sy’n hwyluso llif data effeithlon trwy rwydwaith TG yr ysgol ac i mewn ac allan o’r rhyngrwyd
  • Sicrhau bod rhwydwaith neu dopoleg eich sefydliad wedi’u trefnu i ddiwallu’ch anghenion presennol; bod modd eu hymestyn os oes angen; ac nad yw problemau sy’n codi mewn un rhan o’r rhwydwaith yn effeithio ar rannau eraill e.e. dylunio’ch rhwydwaith TG ysgol trwy drefniant seren
  • Sut mae data yn llifo trwy’ch rhwydwaith – dylid trefnu rhwydwaith TG eich ysgol i sicrhau nad oes mwy na ddwy ddolen (o’r ddyfais i’r switsh i’r llwybrydd ac allan i’r rhyngrwyd) er mwyn sicrhau effeithlonrwydd. Mae hyn yn lleihau cysylltiadau diangen ac mae’n cryfhau’ch rhwydwaith, gan leihau nifer y pwyntiau gwan
  • Sicrhau bod arferion da yn cael eu dilyn – ni ddylech ddylunio rhwydwaith i gysylltu switsys yn yr hyn a elwir yn ‘gadwyn llygad y dydd’ (h.y. wedi’u cysylltu mewn cyfres). Yn amlach na pheidio, bydd hyn yn golygu y gall unrhyw broblemau unrhyw le yn rhwydwaith TG yr ysgol arwain at y rhwydwaith cyfan yn dymchwel wrth i’r ddolen wannaf dorri’r gadwyn
  • Capasiti seilwaith rhwydwaith TG presennol yr ysgol i gefnogi’ch dyheadau ehangach ar gyfer y cwricwlwm – dylai’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg fonitro rhwydwaith TG yr ysgol i sicrhau ei fod yn gallu hwyluso llif data trwy’ch rhwydwaith ac allan i’r rhyngrwyd. Hefyd, dylai roi gwybod i chi am oed a pheryglon eich cyfarpar (e.e. os oes modd ei gynnal o hyd) a rhoi cyngor i chi ar feysydd buddsoddi (gan gynnwys newid cyfarpar) lle bo angen.

Dylai arweinwyr ysgol allu dangos sut y byddant yn defnyddio ac yn rheoli technoleg ddigidol i fodloni gofynion yr ysgol a’r dysgwyr. Hefyd, dylent sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol (er enghraifft: seiberddiogelwch, diogelu, rheoli data ac ati). Mae hyn yn bwysig iawn o ystyried y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a chwricwlwm sy’n canolbwyntio mwy ar faterion digidol. Dylech adolygu’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn rheolaidd gyda’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg (o leiaf bob blwyddyn, ond bob chwarter yn ddelfrydol) er mwyn cadw’ch ffocws a chynorthwyo gwelliant parhaus.

Gweler Safonau Digidol Addysg am fwy o wybodaeth.

Wrth brynu caledwedd neu feddalwedd newydd, dylai ysgolion, ar y cyd â’u hawdurdod addysg lleol, ystyried yr effaith ar Rwydwaith TG eu hysgol, cyfanswm cost perchnogaeth a’r llwybr caffael

Mae gorfod aros cyn prynu eitemau newydd yn gallu bod yn rhwystredig, ond mae’n hollbwysig eich bod yn ymgynghori â’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg er mwyn sicrhau eich bod yn prynu cyfarpar sy’n addas i’w ddefnyddio mewn lleoliad addysgol.

Gall fod yn gyflymach prynu eitemau o fanwerthwyr lleol neu ar-lein, ond yn aml ni fyddant yn cynnwys yr un lefel o gymorth â gwasanaeth eich Partner Cymorth Technoleg Addysg.

Mae lapio cymorth addysgol yn cynnwys pethau fel:

  • Sicrhau cydnawsedd â rhwydwaith a chyfarpar TG presennol yr ysgol
  • Sicrhau bod cyfarpar a dyfeisiau o ansawdd digonol i ymdopi â defnydd cyson gan ddysgwyr ifanc yn bennaf, nad ydynt yn rhoi’r gofal a’r sylw dyledus i’r cyfarpar o bosibl
  • Gwasanaethau cymorth sy’n cael eu cynnig gan eich Partner Cymorth Technoleg Addysg
  • Cynnal a chadw – gall hyn gynnwys newid dyfeisiau hefyd
  • Gwarantau estynedig
  • Trwyddedau priodol ar gyfer meddalwedd, sy’n rhatach yn aml.

Mae’n bosibl na fydd eich Partner Cymorth Technoleg Addysg yn cynnal a chadw cyfarpar sy’n cael ei brynu y tu allan i lwybrau caffael penodedig neu nad yw wedi’i wirio i sicrhau ei fod yn gydnaws (system y rhwydwaith, diogelwch ac addas i’r diben mewn lleoliad addysgol) â nhw cyn eu prynu.

Wrth ddewis beth i’w brynu a chymharu dewisiadau, mae’n rhaid i ysgolion ystyried cylch oes cyfan yr eitem a brynir - cyfanswm cost perchnogaeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • Costau uniongyrchol prynu’r eitem
  • Costau trwyddedu a chynnal blynyddol
  • Effaith ar gytundebau trwyddedu ysgol presennol
  • Unrhyw gostau ychwanegol (fel nwyddau traul a dyfeisiau perifferol) sydd angen eu hystyried, fel cyfleusterau gwefru
  • Unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r rhwydwaith TG ysgol ehangach – fel pwyntiau mynediad newydd, ceblau neu switshis ychwanegol sydd eu hangen o bosibl
  • Cyfleoedd ar gyfer uwchraddiadau rhatach/adnewyddu cyfarpar.

Mae ystyried beth i’w brynu bellach y tu hwnt i ddyfeisiau TG traddodiadol fel gliniaduron, byrddau gwaith neu gyfrifiaduron llechen. Er enghraifft, gallai sgriniau clyfar, dangosyddion digidol, gorsafoedd tywydd ar-lein a dyfeisiau eraill Rhyngrwyd Pethau fod yn rhan o Rwydwaith TG eich ysgol. Gall eich Partner Cymorth Technoleg Addysg sicrhau bod y dyfeisiau hynny’n gallu cysylltu â’ch rhwydwaith cyn ichi eu prynu.

Bydd dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r goblygiadau cost yn helpu ysgolion i sicrhau bod cyllidebau cyfalaf a refeniw yn cael eu cynllunio’n gywir bob blwyddyn, a sicrhau bod cymorth ar gael ar gyfer pob elfen o rwydwaith TG a chyfarpar cysylltiedig yr ysgol. Erbyn hyn, mae technoleg yn rhan hanfodol o’n bywydau bob dydd, a dylech ystyried eich rhwydwaith TG ysgol yn yr un modd â’ch cyfleustodau eraill, fel nwy a dwr. Felly, dylech ragweld anghenion cyllideb parhaus TG – yn yr un modd ag ar gyfer nwy a dwr – a disgwyl y bydd costau’n barhaus ac yn cynyddu yn unol â gofynion newydd.

Mae’r broses o fuddsoddi mewn TG trwy lwybr caffael yr awdurdod lleol neu drwy fframweithiau caffael addysgol cymeradwy yn sicrhau eich bod yn cael y gwerth gorau posibl am arian a’ch bod yn cydymffurfio â rheoliadau caffael ehangach, a’r Safonau Digidol Addysg eu hunain. Hefyd, mae’n sicrhau bod y dyfeisiau a’r adnoddau sy’n cael eu caffael yn addas i’w defnyddio mewn lleoliad addysgol, a bod ganddynt drwyddedau a gwarantau priodol i’w defnyddio mewn ysgolion.

Hefyd, mae pryniant cyfunol gan awdurdodau lleol ar ran ysgolion yn gallu cynnig arbedion cost sylweddol a chynnwys lefelau uwch o gymorth gan ddarparwr y feddalwedd. Gwelwyd bod y manteision hynny eisoes wedi bod o fudd drwy ddatblygu catalog TGCh Cymru gyfan.

Mae Safonau Cysylltedd (Band Eang)Safonau Llwybryddion a SwitsysSafonau CeblauSafonau Rhwydwaith Di-wifrSafonau Rheoli Dyfeisiau; a Safonau Teleffoni a VoIP yn darparu rhagor o wybodaeth am gylchoedd adolygu cydrannau’ch rhwydwaith data.

Mae Safonau Cabinet Rhwydwaith Data yn cynnwys gofynion ar gyfer sicrhau bod cabinetau data yn cadw cyfarpar eich rhwydwaith yn ddiogel.

Dylai rhwydweithiau TG ysgolion gael eu rheoli a’u monitro’n briodol i sicrhau eu bod yn perfformio’n effeithlon

Mae sicrhau bod gennych chi drefniadau priodol i reoli a monitro’ch rhwydwaith TG ysgol yn rhan hanfodol o addysgu a dysgu. Fel arfer mae’r gwaith hwnnw’n cael ei drosglwyddo i Bartner Cymorth Technoleg Addysg a enwebir, fel eich awdurdod lleol.

Mae perthynas waith effeithiol â’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg yn cael ei rheoli trwy gytundeb lefel gwasanaeth, ac mae’n bwysig sicrhau’r canlynol:

  • Eich bod yn deall cynnwys y cytundeb lefel gwasanaeth
  • Eich bod yn deall cyfrifoldebau’ch ysgol o dan y cytundeb lefel gwasanaeth
  • Eich bod chi a’ch staff yn deall sut i ymgysylltu â’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg a rhoi gwybod am broblemau
  • Bod gennych chi brosesau ar waith i fonitro perfformiad eich Partner Cymorth Technoleg Addysg.

Bydd monitro rhwydwaith TG yr ysgol yn sicrhau bod modd datrys unrhyw broblemau yn gyflym ac yn effeithlon â chyn lleied o effaith â phosibl ar addysgu a dysgu. Gall monitro seilwaith y rhwydwaith gynnwys y canlynol:

  • Defnyddio lled band y rhwydwaith – h.y. sut mae rhwydwaith TG yr ysgol yn perfformio ac a oes gennych unrhyw dagfeydd. Mae modd gwahanu gwybodaeth ar sail math o ddefnyddiwr, defnydd, amser y dydd ac ati i ddarparu gwybodaeth am sut, a ble, mae’r rhwydwaith yn cael ei ddefnyddio
  • Perfformiad y llwybrydd, switsys a’r gweinydd – deall pan fydd cyfarpar yn perfformio yn agos i gapasiti, a helpu i reoli os yw dyfeisiau amheus yn cysylltu â rhwydwaith TG yr ysgol
  • Oed cyfarpar – helpu i ddeall os oes problemau neu beryglon yn bodoli ac a oes unrhyw gyfyngiadau posibl yn rhwydwaith TG eich ysgol
  • Monitro meddalwedd/cymwysiadau – deall sut mae lled band yn cael ei ddefnyddio a helpu i lywio gwelliannau posibl.

Dylai ysgolion sicrhau eu bod yn fodlon â lefel y gwaith monitro, a’r adroddiadau a’r cyngor y maent yn eu derbyn, gan eu Partner Cymorth Technoleg Addysg fel rhan o’u cyfarfodydd rheoli cyfrif.

Os oes monitro digonol ar waith, dylai’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg allu darparu gwybodaeth i chi am berfformiad a gwelliant posibl rhwydwaith TG eich ysgol, gan gynnwys:

  • Deall lleoliad unrhyw broblemau posibl, neu le y maent wedi codi
  • Darparu rhestr o asedau y bydd angen i chi eu newid neu eu huwchraddio
  • Deall perfformiad rhwydwaith TG eich ysgol a’i allu i fodloni gofynion y dyfodol.

Mae deall perfformiad rhwydwaith TG yr ysgol a’i allu i fodloni gofynion y dyfodol yn hanfodol i lywio cynlluniau datblygu ehangach yr ysgol – er enghraifft, bydd awydd ysgol i gynyddu nifer y dyfeisiau symudol yn cael ei lesteirio os yw capasiti rhwydwaith TG yr ysgol eisoes yn llawn.

Dylai adborth a chyngor gael eu derbyn yn rheolaidd trwy gyfarfodydd rheoli’r cyfrif, a byddant yn llywio ystyriaethau cynllunio strategol a chyllideb parhaus fel y nodwyd yn y canllawiau hyn.

Gall eich Partner Cymorth Technoleg Addysg geisio darparu gwybodaeth adrodd ar y rhwydwaith, fel dangosfyrddau neu fyrddau hedfan, er mwyn rhoi gwybod am berfformiad eich rhwydwaith ar hyn o bryd, unrhyw broblemau posibl, a sut mae’ch defnydd bob dydd yn effeithio arno.

Gweler Safon Cysylltedd (Band Eang) i gael rhagor o wybodaeth am reoli’ch seilwaith.

Gweler Safonau Llwybryddion a SwitsysSafonau Rhwydwaith Di-wifr; a Safonau Rheoli Dyfeisiau i gael rhagor o wybodaeth am wahanol elfennau Rhwydwaith TG cyffredinol eich ysgol.

Dylai ysgolion, ar y cyd â’u hawdurdod addysg lleol, weithio gyda’u Partner Cymorth Technoleg Addysg i ddeall eu cyfraniad at wella effeithlonrwydd y rhwydwaith

Mae nifer o ffactorau gwahanol yn gallu effeithio ar effeithlonrwydd eich rhwydwaith, gan gynnwys dyluniad eich rhwydwaith a sut mae’n cael ei ddefnyddio ledled yr ysgol. Trwy sicrhau bod eich rhwydwaith TG ysgol yn gweithio mor effeithlon ag sy’n bosibl, bydd modd gwella profiadau digidol ar gyfer athrawon a dysgwyr yn ystod oriau ysgol.

Fel yr amlinellwyd o dan Fonitro Perfformiad, dylai’ch cytundeb lefel gwasanaeth gynnwys swyddogaethau a chyfrifoldebau’r ysgol i sicrhau bod rhwydwaith TG yr ysgol yn rhedeg mor effeithlon ag sy’n bosibl. Dylech weithio gyda’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg i sicrhau bod tasgau cefndir gofynnol yn cael eu cwblhau y tu allan i oriau ysgol ac nad ydynt yn cystadlu ag amser addysgu a dysgu.

Gallech ystyried meysydd fel y canlynol:

  • Sicrhau bod dyfeisiau’n cael eu gadael ymlaen yn rheolaidd y tu allan i oriau ysgol er mwyn diweddaru’r system weithredu a diogelwch, a gosod patsys. Gall eich Partner Cymorth Technoleg Addysg eich helpu i drefnu bod diweddariadau’n cael eu llwytho y tu allan i oriau ysgol, ond bydd angen i chi sicrhau bod dyfeisiau ymlaen er mwyn hwyluso’r broses. Hefyd, dylid troi ymlaen dyfeisiau sy’n cael eu defnyddio’n anfynych yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y diweddariadau diweddaraf hefyd. Bydd hyn yn osgoi’r angen i lwytho diweddariadau di-ri cyn gallu defnyddio dyfeisiau
  • Cofnodi pob problem yn ymwneud â TG a’r rhwydwaith yn brydlon fel bod modd i’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg ymateb yn effeithlon a datrys problemau yn effeithiol (naill ai o bell neu ar y safle)
  • Bydd peirianwyr yn trefnu eu hamser yn eich ysgol ar sail galwadau ffôn a phroblemau a nodwyd gennych. Felly, os nad ydych yn rhoi gwybod am bob problem TG, mae’n bosibl na fydd y peiriannydd wedi cwblhau’r gwaith paratoi gofynnol ymlaen llaw i helpu i ddatrys y broblem cyn dod i’ch ysgol. Hefyd, bydd y peiriannydd yn trefnu ymweliadau ag ysgolion ar sail ei amcangyfrif o’r amser sydd ei angen i ddatrys y problemau a nodwyd, ac o ganlyniad mae’n bosibl na fydd yn gallu ymdrin â phroblemau annisgwyl ar y diwrnod
  • Ystyried gofynion digidol a thechnolegol wrth amserlennu gwersi er mwyn lleihau’r llwyth ar rwydwaith TG eich ysgol lle bynnag y bo modd. Er enghraifft, trefnu Asesiadau Personol Ar-lein fel nad ydynt yn gwrthdaro ag addysgu a dysgu sy’n defnyddio adnoddau digidol mewn rhannau eraill o’r ysgol
  • Cytundebau rhyngwyneb Partneriaid Cymorth Technoleg Addysg – os oes partneriaid cymorth lluosog yn darparu cymorth TG/trydanol, mae angen i’r partneriaid cymorth amrywiol gydweithio i atal unrhyw effaith niweidiol ar seilwaith y rhwydwaith TG ysgol yn ehangach.

Dylai ysgolion, ar y cyd â’u hawdurdod addysg lleol, gael mesurau clir ar waith ar gyfer rheoli data a diogelu’r rhwydwaith

Rydych chi’n gyfrifol am ddiogelu’ch dysgwyr ac am fesurau seiberddiogelwch cysylltiedig yn eich ysgol. Mae hyn yn cynnwys amddiffyn data dysgwyr yn erbyn bygythiadau allanol, a sicrhau bod rhwydwaith TG eich ysgol yn cael ei amddiffyn yn erbyn ymosodiad damweiniol neu faleisus.

Dylech chi weithio gyda’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg i sicrhau bod prosesau rheoli data a mesurau diogelu’r rhwydwaith yn eich ysgol yn llywio’r cyfrifoldeb ehangach hwn. Dylai’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg allu’ch sicrhau bod ganddo fesurau cadarn ar waith i ymdrin â hyn, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i:

  • Polisïau priodol ar gyfer diogelu a seiberddiogelwch – deall pa bolisïau sydd wedi’u cynnwys mewn cytundebau cymorth. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y deunyddiau diogelwch ar-lein ar wefan Hwb
  • Hidlo – mae angen i’r ddarpariaeth hon fod yn ddigon soffistigedig i ddiwallu anghenion a bodloni gofynion eich ysgol, ac yn ddigon hyblyg i ymateb i ddigwyddiadau neu newidiadau i’r polisi diogelu cyffredinol
  • Darpariaeth wal dân – dylai hyn amddiffyn rhwydwaith TG eich ysgol yn erbyn mynediad diawdurdod heb amharu’n ormodol ar weithgareddau’ch defnyddwyr
  • Prosesau wrth gefn – deall natur y prosesau wrth gefn, ble i storio data wrth gefn, a sicrhau bod polisïau a phrosesau ar waith i reoli’r gwaith o adfer data
  • Mesurau gwrth-faleiswedd – i atal, canfod a gwaredu meddalwedd faleisus sydd wedi dod o’r tu mewn i rhwydwaith TG yr ysgol neu’r tu allan iddo
  • Monitro’r rhwydwaith – i olrhain gweithgarwch ledled rhwydwaith TG eich ysgol, gan gynnwys unrhyw weithgarwch maleisus posibl neu weithgarwch a all godi pryder diogelu (e.e. hunan-niweidio neu seiberfwlio).

Hefyd, dylech ystyried diogelwch eich dulliau cyfathrebu a sicrhau bod data sensitif wedi’i amgryptio.

Mae hyn yn diogelu data personol eich cymuned ysgol ac yn lleihau’r peryglon o fygythiadau seiber i ddiogelwch ar-lein a diogelwch eich rhwydwaith. Mae’n sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol ac yn nodi’n glir y gwasanaeth y gallwch ei ddisgwyl gan eich Partner Cymorth Technoleg Addysg.

Gweler Safonau Cysylltedd (Band Eang) ar gyfer y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan Brosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus.

Mae angen i ysgolion, ar y cyd â’u hawdurdod addysg loll, ystyried goblygiadau cydnawsedd, diogelwch a thrwyddedu cyn lawrlwytho neu brynu meddalwedd

Mae’n bosibl y bydd rhai mathau o feddalwedd yn anaddas i’w defnyddio gan eich ysgol. Dylid ystyried priodoldeb meddalwedd cyn ei gosod a’i defnyddio, drwy sicrhau ei bod yn gydnaws â rhwydwaith TG eich ysgol; yn addas i oed dysgwyr; wedi’i gosod yn broffesiynol; ac wedi’i thrwyddedu’n gywir; a dylai bod modd ei defnyddio mewn amgylchedd aml-ddefnyddiwr â gwaith cynnal a chadw a chymorth priodol. Dylech ofyn am gyngor eich Partner Cymorth Technoleg Addysg cyn prynu meddalwedd.

Mae angen ystyried materion fel y canlynol:

  • Sicrhau bod eich caledwedd yn gydnaws â’r feddalwedd rydych am ei defnyddio er mwyn osgoi prynu meddalwedd na allwch ei defnyddio’n effeithiol wedyn
  • Os nad yw’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg yn gosod eich meddalwedd, mae yna fwy o berygl y bydd y feddalwedd yn cael ei gosod yn anghywir. Gall hyn arwain at rwystredigaeth i ddefnyddwyr e.e. meddalwedd yn methu gweithio, colli data, a’r feddalwedd yn perfformio’n araf ar y rhwydwaith
  • Dylech chi neu’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg sicrhau bod amserlen ar waith i reoli diweddariadau a phatsys diogelwch yn effeithiol
  • Dylai’r holl feddalwedd sy’n cael ei gosod ar rwydweithiau TG yr ysgol gael ei chaffael yn gywir; bod yn fersiwn dilys o’r feddalwedd; cael ei thrwyddedu’n briodol i ddiwallu anghenion yr ysgol, a bod yn addas i’w defnyddio ledled amgylchedd rhwydwaith
  • Mae angen dilyn cyfarwyddiadau’r cyflenwr wrth osod a rheoli meddalwedd, a dylech chi nodi dewisiadau cymorth a dyddiadau adnewyddu ynghyd ag unrhyw ychwanegiadau neu warediadau
  • Sicrhau bod meddalwedd yn addas i oedran dysgwyr a bod unrhyw ategion ac estyniadau wedi’u cynnwys yn y gosodiad
  • Cynllunio ar gyfer olyniaeth meddalwedd sydd ar fin cyrraedd diwedd ei chylch oes cymorth – bydd hyn yn sicrhau bod eich meddalwedd yn parhau i gael ei chynnal a bod ganddi’r holl batsys a diweddariadau diogelwch. Gweler Safonau Rheoli Dyfeisiau am ragor o wybodaeth am uwchraddio systemau gweithredu
  • Lleoliad meddalwedd – dylech ystyried y lle gorau i osod meddalwedd neu wasanaethau. Gall gweinyddion a gedwir ar y safle (hynny yw, ar rwydwaith yr ysgol) y gellir eu cyrraedd dros y we olygu y bydd eich systemau’n agored i gael firysau neu gael eu hacio. Dylech drafod unrhyw gynlluniau i gadw gweinyddion lleol neu gynnal gwefannau neu wasanaethau cyhoeddus gyda’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg fel eich bod yn llwyr ymwybodol o’r goblygiadau o ran diogelwch y systemau. Mae’n hanfodol bod gweinyddion lleol yn cael eu diweddaru’n rheolaidd gyda chywiriadau a sganiau diogelwch i sicrhau bod y systemau hyn (ac unrhyw ddata arnynt) yn ddiogel.

Mae hyn yn sicrhau bod y feddalwedd yn gallu rhedeg mor effeithiol â phosibl, ac mae’n lleihau unrhyw berygl i’r rhwydwaith yn ehangach e.e. meddalwedd yn methu perfformio’n briodol neu feddalwedd amhriodol a all fod yn fygythiad i seiberddiogelwch.

Gweler Safonau Cysylltedd (Band Eang) a Safonau Rheoli Dyfeisiau i gael rhagor o wybodaeth.