English

Hwb

Safonau Rhwydwaith Di-wifr

Mae rhwydwaith diwifr yn hanfodol i gefnogi dysgu symudol mewn ysgolion a symud dysgu digidol i mewn i ystafelloedd dosbarth ac allan o labordai TG. Er mwyn sicrhau bod gan ysgolion ddarpariaeth gyflawn ar gyfer gwasanaeth diwifr, mae angen cynllunio lleoliad pwyntiau mynediad diwifr yn ofalus cyn gosod y gwasanaeth.

Dylai pwyntiau mynediad gael eu gosod mewn ffordd sy’n hwyluso unrhyw waith cynnal a chadw neu atgyweirio gofynnol, gan roi ystyriaeth ddyledus i reoliadau iechyd a diogelwch ac adeiladu perthnasol, a chydymffurfio â nhw.

Dylai pob ysgol sicrhau ei bod wedi ystyried sut a pham y mae am ddefnyddio rhwydweithio di-wifr yn eu hysgol. Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y cyngor diweddaraf ar ystyriaethau iechyd posibl.

  • Mae’n rhaid i ysgolion geisio datblygu rhwydwaith sy’n addas i’r dyfodol ac sy’n gallu ymdopi â datblygiadau newydd a dyfeisiau ychwanegol.

    Dylai’r rhwydwaith di-wifr gael ei reoli (ei osod, ei leoli, ei ffurfweddu, ei fonitro a’i gynnal) gan bartner cymorth TG priodol fel yr awdurdod lleol. Mae rhwydwaith di-wifr wedi’i reoli yn gallu monitro perfformiad, helpu i roi diweddariadau ar waith a datrys problemau’n fwy effeithlon.

    Dylai cynlluniau ysgolion ystyried cylch oes rhwydweithiau di-wifr a chynnwys darpariaeth cyllideb ar gyfer gwaith uwchraddio ac adnewyddu.

    Gweler yr holl Safonau Rhwydwaith Di-wifr eraill am fwy o wybodaeth.

    Gweler Safonau Cynllunio a Rheoli; Safonau Llwybryddion a Switsys; a Safonau Ceblau i gael rhagor o wybodaeth.

    Dylai’ch gwasanaeth di-wifr ddiwallu’ch anghenion presennol. Hefyd, dylid sicrhau bod modd ehangu’r gwasanaeth o safbwynt ychwanegu defnyddwyr newydd a chynnal dyfeisiau digidol mwy soffistigedig. Dylai’r gwasanaeth di-wifr gydymffurfio â’r safon protocol di-wifr diweddaraf er mwyn sicrhau dysgu symudol llwyddiannus ledled yr ysgol.

    Dylai’ch gwasanaeth di-wifr gael ei osod, ei reoli a’i gynnal a’i gadw yn broffesiynol yn unol â’r Safonau yn yr adran hon.

    Mae gosod a chynnal a chadw darpariaeth ddi-wifr yn gallu bod yn ddrud, a dylai ysgolion ystyried dewis sy’n golygu bod modd ehangu’r ddarpariaeth i ddiwallu anghenion ac uchelgeisiau yn y dyfodol.

    Felly, argymhellir y dylai ysgolion ddefnyddio’r awdurdod lleol neu bartner cymorth TG a argymhellir sy’n gallu cynnig:

    • Arbedion maint o safbwynt prynu a gwaith cynnal a chadw;
    • Rheoli ac arbenigedd ar lefel fenter ym maes defnydd addysgol;
    • Effeithlonrwydd o safbwynt defnydd – defnyddio’r dulliau diweddaraf a gweithio gyda gwerthwyr i sicrhau perthnasedd addysgol; a
    • Gwarantu ansawdd a chysondeb gwerthwyr o safbwynt darpariaeth.

    Mae rheoli WLAN (Rhwydwaith Ardal Leol Di-wifr) yn galluogi ysgolion i gyflawni swyddogaethau sy’n sensitif i amser, fel amgryptio Haen 2, sy’n golygu bod y WLAN yn gallu cynnal cymwysiadau llais, fideo a data yn ddiogel.

    Dylai ysgolion sicrhau bod unrhyw Bwyntiau Mynediad awtonomaidd (ac ansafonol) yn cael eu dileu o’r rhwydwaith di-wifr. Gall Pwyntiau Mynediad Awtonomaidd, yn enwedig rhai ansafonol, achosi mannau cyfyng ar y WLAN os nad ydynt yn cydymffurfio â’r protocol diweddaraf.

    Dylai Pwyntiau Mynediad gael eu ffurfweddu a’u rheoli yn ganolog trwy reolydd LAN di-wifr a elwir yn bensaernïaeth pwynt mynediad ysgafn (LAP). Mae’n sicrhau bod modd monitro a rheoli’r rhwydwaith di-wifr yn ei gyfanrwydd, a bod modd cyflwyno diweddariadau a phrotocolau yn haws ar gyfer staff sy’n rheoli’r rhwydwaith.

    Yn ddelfrydol, dylai ysgolion ddefnyddio gwasanaethau diwifr ar sail menter. Dylent hefyd sicrhau bod partneriaid cymorth TG yn deall anghenion diwifr amgylcheddau addysgol yn hytrach nag amgylcheddau sy’n fwy addas i fusnesau bach.

    Os oes gan ysgolion unrhyw bryderon neu amheuon ynglŷn â dyluniad gwasanaeth, dylent ofyn i’r awdurdod lleol am arweiniad a chymorth.

  • Mae’n rhaid lleoli Pwyntiau Mynediad mewn lle priodol ym mhob un o’r mannau dysgu, a bydd angen mwy ohonynt mewn mannau sydd â mwy o ddefnyddwyr.

    Dylid defnyddio arolwg di-wifr ar y safle, wedi’i gynnal gyda’ch bartner cymorth TG, i benderfynu faint o Bwyntiau Mynediad sydd eu hangen ar gyfer eich ysgol.

    Dylai pob Pwynt Mynediad gael ei osod yn unol ag argymhellion y gwneuthurwr, a dylai fod yn hygyrch i dimau cymorth.

    Gweler yr holl Safonau Rhwydwaith Di-wifr eraill am fwy o wybodaeth.

    Gweler Safonau Cynllunio a Rheoli; Safonau Llwybryddion a Switsys; a Safonau Ceblau i gael rhagor o wybodaeth.

    Gall llawer o broblemau amharu ar rwydwaith di-wifr, gan gynnwys signalau’n cael eu blocio gan ddeunyddiau a ddefnyddir yn adeiladwaith yr ysgol. Yn ogystal ag ymyriant signal goddefol, mae ffynonellau naturiol o ymyriant gweithredol amgylcheddol o gyfarpar trydanol yn creu sain Amledd Radio. Felly, cyn gosod rhwydwaith di-wifr, mae’n bwysig bod yr adeilad yn cael ei arolygu’n briodol er mwyn nodi a lliniaru unrhyw broblemau posibl a allai effeithio ar y gwasanaeth di-wifr yn yr adeilad.

    Mae arolwg adeilad yn sicrhau bod y ddarpariaeth a osodir yn cyd-fynd â’r disgwyliadau ymlaen llaw, a bod uwch reolwyr yn hyderus y bydd y ddarpariaeth yn diwallu anghenion.

    Fel rhan o’r arolwg, cynhelir profion ledled yr ysgol i nodi cryfder a chyrhaeddiad y signal. Hefyd, bydd angen cwblhau arolwg cyn codi ystafelloedd newydd, blociau ysgol newydd ac ati, a bydd ymyrryd yn gynnar yn y broses gynllunio yn sicrhau bod cost, dyluniad a dibyniaethau yn cael eu hystyried.

    Yn y pen draw, nod arolwg di-wifr yw llunio dogfen sy’n disgrifio faint o bwyntiau mynediad di-wifr sydd eu hangen a ble y mae angen eu lleoli. Yn ogystal, dylai’r ddogfen ddarparu gwybodaeth am gryfder/ansawdd disgwyliedig y signal, ffynonellau ymyriant a’r gofynion seilwaith (h.y. pŵer, switshis rhwydwaith a cheblau rhwydwaith).

    Hefyd, dylai penderfyniadau yn ymwneud â lleoli’r gosodiad a’r math o Bwynt Mynediad i’w osod ystyried dwysedd y defnydd symudol a ragwelir yn yr ardal berthnasol o’r ysgol:

    • Dylai gweithrediadau presennol ystyried mannau hysbys heb signal, gan ffurfweddu Pwyntiau Mynediad presennol/Pwyntiau Mynediad ychwanegol i ategu darpariaeth yn y mannau hynny;
    • Ni ddylai defnyddiau newydd, uwchraddio defnyddiau neu uwchraddio protocolau Pwyntiau Mynediad Di-wifr gael eu rhoi ar waith nes bod arolwg di-wifr cynhwysfawr wedi’i gwblhau; a
    • Dylai defnyddiau di-wifr newydd gael eu cynllunio a’u rheoli ar y cyd â rhanddeiliaid ysgol gan gynnwys y partner cymorth TG.

    Bydd pwyntiau mynediad a osodir yn ddigonol yn helpu i gefnogi dysgu symudol ledled yr Ysgol.

    Dylai pob pwynt mynediad gael ei osod yn unol ag argymhellion y gwneuthurwr, a dylai fod yn hygyrch i dimau cymorth.

    Bydd modd manteisio’n llawn ar ddarpariaeth pob pwynt mynediad trwy ei osod yn gywir. Mae hyn yn sicrhau bod yr antenau wedi’u gosod yn y lle cywir a bod modd i bob pwynt mynediad ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl, gan leihau’r posibilrwydd o fannau heb signal ac yn cynorthwyo defnydd symudol gwirioneddol.

    Cydnabyddir bod adnoddau ysgolion yn brin ac y gallent wynebu ffactorau cyfyngol y tu allan i’w rheolaeth, oherwydd oed a phensaernïaeth yr ysgol er enghraifft.

    Felly, dylai ysgolion geisio sicrhau bod pwyntiau mynediad wedi’u lleoli mewn mannau uchel, gan ddefnyddio mowntiau ongl os oes modd er mwyn ceisio sicrhau’r perfformiad gorau posibl ar gyfer pob Pwynt Mynediad.

    Hefyd, dylid ystyried lleoli Pwyntiau Mynediad mewn ffordd sy’n sicrhau bod modd gwneud unrhyw waith cynnal a chadw neu waith atgyweirio, gan roi sylw dyledus i reoliadau iechyd a diogelwch.

    Hefyd, mae gan ysgolion ddyletswydd gofal i sicrhau bod y broses o osod Pwyntiau Mynediad di-wifr yn cydymffurfio ag argymhellion Public Health England (PHE), sy’n cyfrannu at y cyngor sy’n cael ei ddilyn ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru.

    Yn ôl cyngor presennol PHE ar ddefnydd ffonau symudol gan blant a Wi-Fi yng Nghymru, dylai cysylltiad â thonnau radio gydymffurfio â’r canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi gan y Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Ymbelydredd nad yw’n Ïoneiddio (ICNIRP). Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cydnabod INCIRP yn ffurfiol, felly mae’r holl ganllawiau yn seiliedig ar werthuso rhyngwladol a gwaith academaidd cadarn.

  • Dylid gosod Pwyntiau Mynediad mewn lle sy’n lleihau ymyriant er mwyn osgoi amharu ar wersi. Ni ddylid eu rhoi mewn cawell na bocs at ddibenion diogelu.

    Dylai Pwyntiau Mynediad sy’n cael eu gosod uwchben nenfydau ffug gael eu dylunio’n benodol ar gyfer lleoliad o’r fath.

    Gweler yr holl Safonau Rhwydwaith Di-wifr eraill am fwy o wybodaeth.

    Gweler Safonau Cynllunio a Rheoli; Safonau Llwybryddion a Switsys; a Safonau Ceblau i gael rhagor o wybodaeth.

    Cyn gosod Pwyntiau Mynediad, mae angen ystyried seilwaith ffisegol yr ysgol.

    Mae muriau yn gweithredu fel rhwystrau i signalau di-wifr, ac mae rhai adeiladau sydd wedi’u gwneud o ddur a choncrid tywallt yn gweithredu fel cewyll Faraday (lle mae’r dargludedd yn yr adeiledd metel yn rhwystro pylsiau electromagnetig) sy’n rhwystro’r signal di-wifr.

    Hefyd, dylai ysgolion fod yn ymwybodol o ymyriant damweiniol trwy osod Pwyntiau Mynediad ger gwrthrychau metel sy’n gallu achosi ymyriant o’r fath – fel rheiddiaduron metel; a’r ffaith fod gosod Pwynt Mynediad mewn cawell metel yn achosi ymyriant damweiniol.

    Disgwylir y bydd technegydd gwasanaeth di-wifr arbenigol o’ch partner cymorth TG yn sicrhau bod y Safonau a amlinellir yn E1 - E3 yn cael eu dilyn; yn lliniaru’r problemau hyn ac yn sicrhau eich bod yn cael y ddarpariaeth a’r perfformiad gorau gan bob Pwynt Mynediad yn yr ysgol.

    Hefyd, fel y nodwyd yn Safon E4, dylai’r Pwynt Mynediad allu gwneud iawn am fathau eraill o ymyriant, fel Amledd Radio o ddyfeisiau eraill sy’n cael eu defnyddio yn yr ysgol.

  • Mae angen i Bwyntiau Mynediad ddefnyddio’r safonau a’r protocolau diweddaraf er mwyn helpu i gynyddu gallu’r rhwydwaith ledled yr ysgol.

    Mae cynnal darpariaeth ddi-wifr yn yr ysgol yn hanfodol er mwyn hwyluso defnydd llwyddiannus eang o ddyfeisiau symudol, a gwahanol fathau o ddyfeisiau symudol.

    Gweler yr holl Safonau Rhwydwaith Di-wifr eraill am fwy o wybodaeth.

    Gweler Safonau Cynllunio a Rheoli; Safonau Llwybryddion a Switsys; a Safonau Ceblau i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae dyfeisiau di-wifr yn defnyddio protocol cyffredin i gysylltu a chyfathrebu trwy bwyntiau mynediad di-wifr. Cyfeirir at hyn fel 802.11.

    Fel rhan o’r protocol hwn, mae nifer o safonau yn dangos pa mor newydd yw’r pwyntiau mynediad di-wifr, ac felly pa mor llwyddiannus yw’r ateb o safbwynt cynnal dyfeisiau di-wifr lluosog, modern.

    Safon 802.11AX yw’r safon a ffefrir gyda safon 802.11ac (Ton2) yn cael ei ystyried fel y safon sylfaenol y dylai ysgolion ei mabwysiadu er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol i ddiwallu eu hanghenion dysgu digidol. Mae 802.11AX yn gweithredu ar lefel 5GHz a 2.4Ghz, gan gynnig galluogrwydd rhwydwaith uwch o lawer a’r gallu i reoli mynediad er mwyn lleihau ymyriant a sicrhau bod mwy o ddyfeisiau’n gallu defnyddio’r rhwydwaith di-wifr yn effeithiol.

    Mae 802.11AX (y safon a ffefrir) a 802.11ac Ton 2 (safon sylfaenol) yn galluogi rhwydweithiau di-wifr i:

    • Ennill cysylltedd di-wifr gigabit;
    • Cynnal mwy o ddyfeisiau fesul Pwynt Mynediad;
    • Darparu cysylltiad haws a mwy effeithlon ar gyfer dyfeisiau; a
    • Sicrhau bod modd bodloni mwy o ofynion rhwydwaith data cyfoethog.

    Dylai’r ddarpariaeth sy’n cael ei dewis wneud y canlynol bob tro:

    • Ceisio sicrhau’r llif gorau posibl i ddyfeisiau defnyddwyr – gan sicrhau lled band uwch ar gyfer dysgwyr;
    • Synhwyro ac addasu i ymyriant gan Bwynt Mynediad arall gerllaw; a
    • Ffurfweddu gosodiadau Amledd Radio yn awtomatig er mwyn cynnal darpariaeth os yw Pwynt Mynediad yn methu.

    Os oes modd defnyddio darpariaeth Pŵer sy’n Gallu Darparu Ether-rwyd (PoE) i bweru Pwyntiau Mynediad, dylai ysgolion sicrhau bod hyn yn digwydd.

    Dylai ystyriaethau ychwanegol ar gyfer y gosodiad gynnwys:

    • Dylai pob Pwynt Mynediad fod yn MIMO 2x2:2 o leiaf

    MU-MIMO neu MIMO: Ystyr y llythrennau hyn yw Defnyddiwr Lluosog, Mewnbwn Lluosog ac Allbwn Lluosog. Mae MU-MIMO yn fersiwn uwch o’r dechnoleg MIMO sy’n golygu bod terfynellau radio annibynnol lluosog yn gallu cyrchu system, gan arwain o bosibl at fanteision perfformiad sylweddol o’i gymharu â’r dechnoleg MIMO wreiddiol.

    Mae MU-MIMO yn ganolog i ddiweddariad 2013 o fanyleb ddi-wifr 802.11ac (802.11ac Ton 2) ac mae’n helpu i gynyddu uchafswm cyflymder di-wifr damcaniaethol o 3.47 Gbps i 6.93 Gbps ar gyfer 802.11ac Ton 2.

    Uchafswm cyflymder ffrwd 802.11AX unigol fydd tua 3.5Gbps. Wrth luosi hynny i rwydwaith 4x4 MIMO ac fe gewch gyfanswm o 14Gbps.

    Mae MU-MIMO yn galluogi defnyddwyr lluosog i gyrchu’r un sianel ar yr un pryd trwy ddarparu graddau rhyddid gofodol. Fodd bynnag, oherwydd yr angen am systemau antena soffistigedig a phrosesu signalau, dim ond i’r cyfeiriad at y cwsmer y gellir defnyddio MU-MIMO (o bwynt mynediad i ddyfeisiau cleient di-wifr lluosog) yn y fanyleb 802.11ac Ton 2.

    • Dylai pob Pwynt Mynediad hwyluso llif data i’r bwrdd Gwaith

    Dylai ysgolion fod yn ymwybodol o’r defnydd Pwynt Mynediad a lefel fenter (ysgol gyfan) newydd o ddi-wifr er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn y dulliau a argymhellir gan y gwneuthurwr ar gyfer hwyluso llif data.

    • Mae’n rhaid i bob Pwynt Mynediad allu synhwyro ymyriant ac addasu iddo

    Gan fod cynifer o ddyfeisiau di-wifr yn cael eu defnyddio, weithiau gallant drosglwyddo’r un amleddau neu amleddau tebyg, gan amharu ar ansawdd y signal o bosibl. Mae llawer o Bwyntiau Mynediad yn gallu synhwyro hyn, ac os ydynt yn cael eu rheoli’n ganolog, gallant newid i amledd arall sydd â llai o ‘sŵn’.

    • Mae’n rhaid sicrhau bod pob Pwynt Mynediad yn gallu ffurfweddu gosodiadau amledd radio yn awtomatig er mwyn gwella perfformiad

    Mae ffurfweddu gosodiadau amledd radio yn awtomatig yn golygu bod y ddarpariaeth yn parhau os yw Pwynt Mynediad yn methu trwy gynyddu darpariaeth Pwyntiau Mynediad eraill yn yr ardal er mwyn ceisio lleisiau mannau gwan.

    Gweler Safonau AA1, C6, D9 a Safonau E eraill hefyd i gael rhagor o wybodaeth.

  • Mae rhwydweithiau TG ysgolion yn storio gwybodaeth sy’n gallu bod yn sensitif, ac mae angen eu ffurfweddu i gadw dysgwyr yn ddiogel.

    Y ffordd orau o reoli pa ddyfeisiau sy’n gallu cael eu cysylltu â’r rhwydwaith a’i ddefnyddio yw defnyddio system dilysu ar sail tystysgrif.

    Gweler yr holl Safonau Rhwydwaith Di-wifr eraill am fwy o wybodaeth.

    Gweler Safonau Cynllunio a Rheoli; Safonau Llwybryddion a Switsys; a Safonau Ceblau i gael rhagor o wybodaeth.

    Dylai defnyddwyr gael eu dilysu i ddefnyddio rhwydwaith di-wifr er mwyn sicrhau bod y defnyddwyr priodol yn defnyddio rhwydwaith TG yr ysgol a’i adnoddau. Lle y bo’n briodol, dylai ysgolion ystyried dilysu seiliedig ar ardystio fel y llwybr o ddewis.

    Mae dilysu ar sail ardystio yn defnyddio tystysgrif ddigidol i nodi defnyddiwr neu ddyfais cyn caniatáu mynediad i’r rhwydwaith di-wifr. Trwy ddefnyddio’r dull hwn gyda ffactorau dilysu eraill, fel enw defnyddiwr a chyfrinair, mae modd gwella diogelwch y ddarpariaeth ddi-wifr mewn ysgol.

    Mae manteision sylweddol y dull hwn yn cynnwys y ffaith ei fod yn ddiogel ac yn hawdd i’w ddefnyddio o safbwynt cymorth technegol, nid oes angen llawer o fewnbwn gan ddefnyddwyr (gan leihau’r peryglon sy’n gysylltiedig â gwallau defnyddwyr), mae’n cynnal ystod o gymwysiadau, ac mae ar gael yn hwylus ar gyfer y rhan fwyaf o ddyfeisiau a phlatfformau.

  • Mae rhwydweithiau di-wifr ar wahân yn sicrhau nad oes gan ddefnyddwyr gwadd unrhyw fynediad i’r mannau sy’n cael eu defnyddio gan ddysgwyr a staff, ond bod modd iddynt ddefnyddio’r rhyngrwyd ac adnoddau fel Hwb.

    Hefyd, gallech chi ystyried gwahanu’ch rhwydwaith trwy ddefnyddio VLAN ar wahân i reoli Systemau Rheoli Busnes mwy IOT gyfoethog, teledu cylch cyfyng ac ati.

    Mae hyn yn sicrhau cydymffurfiaeth â diogelwch data a diogelu dysgwyr ysgol, ac yn golygu bod adnoddau monitro’r rhwydwaith yn gallu pennu mynediad a gosodiadau priodol ar gyfer pob math o ddefnyddwyr.

    Os yw gwasanaethau cyd-leoli’r sector cyhoeddus yn cael eu rheoli mewn adeilad ysgol, dylid defnyddio’r rhwydwaith Govroam i hwyluso mynediad.

    Gweler yr holl Safonau Rhwydwaith Di-wifr eraill am fwy o wybodaeth.

    Mae rhagor o wybodaeth am reoli mynediad diogel wedi’i chynnwys yn Safonau Cynllunio a Rheoli, yn ogystal â Safon C6 a Safon D9.

    Defnyddwyr gwadd rhwydwaith TG yr ysgol yw unigolion nad oes ganddynt gysylltiad uniongyrchol â’r ysgol. At ddibenion ystyriaethau diogelu ehangach, dylai ysgolion sicrhau bod mynediad i rwydwaith TG yr ysgol ar gyfer gwesteion yn cael ei gadw ar wahân i fynediad ar gyfer staff a dysgwyr.

    Gwenir hyn trwy greu LAN (VLAN) Rhith-wir gwahanol ar gyfer defnyddwyr lleol a defnyddwyr gwadd.

    Mae hyn yn golygu bod modd i staff cymorth y rhwydwaith gyflwyno unrhyw gyfyngiadau gofynnol. Hefyd, mae’n cynnig gwelededd ledled y rhwydwaith cyfan ac yn lleihau’r angen am seilwaith ychwanegol.

    Mae hyn yn golygu bod modd i chi amddiffyn dysgwyr yn erbyn defnyddwyr eraill ar rwydwaith TG yr ysgol i ddarparu sicrwydd diogelu, a sicrhau bod data sensitif yn cael ei ddiogelu.

    Trwy gynllunio ar gyfer gofynion rhwydweithiau di-wifr ar wahân gellir sicrhau bod modd gwahanu mynediad, bod y broses reoli yn syml a’i bod yn hawdd gwneud unrhyw waith cynnal a chadw neu uwchraddio.

    Gall ysgolion greu rhwydweithiau di-wifr ar wahân trwy Ddyfeisiau Adnabod Gosod Gwasanaeth (SSID).

    Mae dyfais adnabod gosod gwasanaeth (SSID) yn ddilyniant o nodau sy’n rhoi enw unigryw i rwydwaith ardal leol di-wifr (WLAN). Cyfeirir at SSID fel “enw rhwydwaith” weithiau. Mae’r enw hwn yn sicrhau bod modd i orsafoedd gysylltu â’r rhwydwaith gofynnol pan fydd rhwydweithiau annibynnol lluosog yn gweithredu yn yr un ardal ffisegol.

    Mae’n bwysig sicrhau nad oes gormod o ddyfeisiau adnabod ar waith yn yr ysgol rhag ofn eu bod yn mynd yn drwsgl ac yn anodd i’w rheoli. Yn y pen draw, mae’r dyfeisiau hyn yn rhannu’r un lled band, a gallant achosi problemau tagfeydd nad oes modd eu nodi na’u datrys yn hawdd.

    Dylai pedwar i chwech SSID fod yn ddigon yn dibynnu ar anghenion yr ysgol.

    Dylai defnyddwyr gwadd o’r sector cyhoeddus ddefnyddio’r ddarpariaeth Govroam i gael mynediad i’r rhyngrwyd. Cyn belled â bod y sefydliad y maen nhw’n gweithio iddo wedi ymaelodi â’r gwasanaeth, gallant gael mynediad i’w rhwydwaith arferol ac i’r rhyngrwyd o unrhyw adeilad arall sy’n eiddo i’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae Govroam yn fenter ar lefel y DU sy’n cael ei rheoli yng Nghymru trwy Brosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA).

    I gael rhagor o wybodaeth am Govroam, ewch i wefan PSBA.

  • Dylai unrhyw un sy’n defnyddio Rhwydwaith TG yr Ysgol gytuno i ddilyn Polisi Defnydd Derbyniol yr ysgol sy’n amlinellu ymddygiad a chyfrifoldebau disgwyliedig.

    Trwy reoli Rhwydweithiau Di-wifr, mae ysgolion yn gallu rheoli mynediad a sicrhau bod polisïau GDPR, diogelu a rheoli data eraill yn cael eu dilyn.

    Gweler yr holl Safonau Rhwydwaith Di-wifr eraill am fwy o wybodaeth.

    Mae rhagor o wybodaeth am reoli mynediad diogel wedi’i chynnwys yn Safonau Cynllunio a Rheoli, yn ogystal â Safon C6 a Safon D9.

    Mae angen diogelu rhwydweithiau di-wifr yn briodol a rheoli mynediad i’r rhwydweithiau hynny. Yn ogystal â sicrhau bod atebion technegol ar waith i ddilysu defnyddwyr i’r system, mae angen i ddefnyddwyr ddeall eu cyfrifoldebau o ran cyrchu a defnyddio’r rhwydweithiau hynny.

    Mae Polisi Defnydd Derbyniol yn nodi rheolau defnyddio i ddefnyddwyr ar gyfer cyrchu Rhwydwaith TG yr Ysgol yn cynnwys cyfyngiadau ac amodau defnyddio a’r arferion i’w dilyn. Gallai’r rhain gynnwys, er enghraifft, gwahardd mynediad i fathau penodol o wefan e.e. gamblo neu bornograffi ac er y bydd y gwefannau hyn yn cael eu blocio gan systemau hidlo gwefannau a wal dân yr ysgol, mae hefyd yn sicrhau bod defnyddwyr yn deall eu cyfrifoldebau’n well.

    Mae Polisi Defnydd Derbyniol yn cael ei gyflwyno fel arfer pan ddaw defnyddiwr newydd i’r system ac ni fydd yn cael mynediad nes iddo lofnodi’r Polisi (fel ffordd o gwblhau’r broses ddilysu). Dylai cael Polisi Defnydd Derbyniol i westeion a holl ddefnyddwyr rhwydwaith yr ysgol fod yn rhan o bolisïau diogelu a diogelwch yr ysgol.

  • Wrth i ddyfeisiau newydd a mwy soffistigedig gael eu prynu a’u defnyddio mewn ysgolion, mae’n bwysig sicrhau bod rhwydweithiau di-wifr mewn ysgolion yn gallu cynnal y dyfeisiau hyn yn effeithiol. Mae angen adolygu gallu, ffurfweddu a gosodiadau Wifi yn rheolaidd.

    Hefyd, dylech chi sicrhau bod safon y ceblau yn yr ysgol yn ddigon da i hwyluso uwchraddio’r ddarpariaeth ddi-wifr.

    Gweler yr holl Safonau Rhwydwaith Di-wifr eraill am fwy o wybodaeth.

    Gweler Safonau Cynllunio a Rheoli; Safonau Llwybryddion a Switsys; a Safonau Ceblau i gael rhagor o wybodaeth.

    Wrth i’r galw am adnoddau ar-lein a dysgu digidol gynyddu, ac wrth i ddyfeisiau eu hunain fynd yn fwy soffistigedig, mae angen i ysgolion fod yn hyderus bod eu darpariaeth ddi-wifr yn gallu hwyluso mynediad. Gallwch helpu i gynnal Rhwydwaith di-wifr effeithiol ar gyfer eich ysgol trwy adolygu darpariaeth ddi-wifr yn unol â chylchoedd cynllunio TG, sicrhau bod cyfnodau gwarantu a chytundebau lesio wedi’u cynnwys yn yr adolygiad, a newid/uwchraddio cyfarpar yn ôl yr angen.

    Fel yr amlinellwyd yn Safon E1 uchod, oherwydd y costau sy’n gysylltiedig â darpariaeth ddi-wifr, mae yna fanteision sylweddol i geisio sicrhau cymorth gan bartner awdurdod lleol ar gyfer y gwaith caffael a gweithredu.