English

Mae Hwb yn gartref i gasgliad cenedlaethol o gyfarpar ac adnoddau digidol i gefnogi dysgu ac addysgu yng Nghymru.

Datblygwyd Hwb i wneud y canlynol:

  • cefnogi dull cenedlaethol o gynllunio a gweithredu
  • ei gwneud yn bosibl rhannu sgiliau, dulliau ac adnoddau rhwng athrawon yng Nghymru
  • cefnogi addysgu a dysgu drwy’r Gymraeg a'r Saesneg
  • cynnig offer ac adnoddau cyfartal am ddim i’w defnyddio yn y dosbarth gan athrawon a dysgwyr yng Nghymru

Mae Hwb yn ei gwneud yn bosibl i ddysgwyr ac athrawon gael mynediad at adnoddau ar-lein yn unrhyw le, ar unrhyw bryd, ac o amrywiaeth o ddyfeisiau. Mae hefyd yn darparu:

  • offer ac adnoddau a grëwyd neu a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid
  • offer ac adnoddau a drwyddedwyd neu a brynwyd gan Lywodraeth Cymru
  • offer ac adnoddau a ddarparwyd gan ffynonellau dibynadwy
  • adnoddau a grëwyd gan athrawon

I ddechrau defnyddio Hwb, bydd angen i hyrwyddwr digidol neu weinyddwr Hwb eich ysgol roi enwau defnyddwyr a chyfrineiriau ar gyfer Hwb i bob aelod o staff a dysgwr o'r Porth Rheoli Defnyddwyr. Os nad oes gan eich ysgol hyrwyddwr digidol eto, neu os nad ydych chi'n gwybod pwy ydyw, bydd angen i'ch pennaeth neu aelod o'r tîm arweinyddiaeth gysylltu â desg gymorth Hwb.

Pan fydd staff wedi cael eu manylion mewngofnodi, gallan nhw ddefnyddio ein holl gyfarpar a gwasanaethau yn syth.

Cyn dosbarthu enwau defnyddwyr a chyfrineiriau, dylai eich ysgol ystyried ei darpariaeth diogelwch ar-lein. Dylai hefyd fod â pholisïau defnydd derbyniol yn eu lle. Hefyd, mae rhagor o bolisïau defnydd derbyniol a rhagor o arweiniad ar gael ar 360 degree safe Cymru.

Bydd arweinydd digidol eich consortia addysg rhanbarthol yn gallu rhoi rhagor o gymorth a hyfforddiant i chi os bydd angen.

Mae llawer o ddulliau gwahanol o fabwysiadu Hwb yn eich ysgol. Fodd bynnag, mae angen i chi sicrhau eich bod yn gwneud y pethau canlynol yn gyntaf:

  • Nodi eich Hyrwyddwyr Digidol (gweinyddwyr Hwb) a sicrhau bod ganddynt yr hawliau sydd eu hangen er mwyn cael mynediad at y Porth Rheoli Defnyddwyr, sy’n cynnwys enwau defnyddwyr a chyfrineiriau. Cysylltwch â Desg Gymorth Hwb i gael cymorth â hyn: hwb@llyw.cymru/03000 25 25 25.
  • Gwirio bod eich rhestr o enwau defnyddwyr a chyfrineiriau’n gywir yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.
  • Sicrhau bod polisïau defnydd derbyniol ar gyfer staff a dysgwyr yn gyfoes ac wedi’u llofnodi.
  • Darparu gwybodaeth i lywodraethwyr, staff, rhieni a dysgwyr.

Gall 360 degree safe Cymru helpu’r ysgol i feincnodi ei pholisïau a’i harferion diogelwch ar-lein cyfredol ac mae’n darparu cyngor a thempledi i gefnogi dull gweithredu eich ysgol.

Gan fod ystod mor eang o offer yn Hwb, rydym yn argymell bod ysgolion yn cynllunio eu dull gweithredu un unol â blaenoriaethau lleol, yn ddelfrydol i gyd-fynd â chynllun gwella'r ysgol.

Mae cymorth, cyngor a hyfforddiant pellach ar gael gan y consortia addysg rhanbarthol.

Dyma’r dyfeisiau a phorwyr a gefnogir ar gyfer Hwb:

  • Google Chrome
  • Microsoft Edge
  • Safari ar Mac
  • Mozilla Firefox
  • iPhone - yr iOS diweddaraf
  • iPad - yr iOS diweddaraf
  • Ffôn symudol a llechen Android 4.4 (KitKat) ac uwch

Cefnogir Encyclopaedia Britannica ar y porwyr canlynol:

  • Google Chrome fersiwn 52.0 neu uwch
  • Mozilla Firefox fersiwn 45.0 neu uwch
  • Microsoft Edge fersiwn 25.0 neu uwch
  • Safari fersiwn 9.1 neu uwch

Mae cyfrifon Hwb yn cael eu creu’n awtomatig ar gyfer staff a disgyblion mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, ar sail y data yn system gwybodaeth reoli (MIS) eich ysgol er enghraifft SIMS neu Teacher Centre. Mae cyfrifon Hwb ar gael hefyd ar gyfer staff awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol sy’n cefnogi’r ysgolion hyn.

Gall llywodraethwyr ofyn i’w hysgol am gyfrif Hwb.

Gall athrawon cyflenwi ofyn am gyfrif Hwb gan ddefnyddio'r botwm Cofrestru ar dudalen hafan Hwb.

Bydd myfyrwyr AGA yn derbyn cyfrif Hwb gan eu darparwr AGA drwy gydol eu cwrs, cyfeirir at y rhain fel cyfrifon prifysgol AGA. Gall darparwyr AGA roi manylion i chi am y cyfrifon hyn. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar nifer o brosiectau er mwyn i sefydliadau addysgol eraill yng Nghymru gael mynediad at Hwb.

Gwybod mwy am greu cyfrifon Hwb.

Rhannu data

Mae’n rhaid darparu dull mewngofnodi diogel i Hwb i bob disgybl mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Er mwyn darparu dulliau mewngofnodi diogel  i ddisgyblion a staff, bydd angen i ysgolion rannu gwybodaeth bersonol amdanynt â Llywodraeth Cymru. Gwneir hyn drwy ddefnyddio gwasanaeth Darparu Hunaniaethau Addysg Cymru.

Er mwyn hwyluso’r broses o rannu data personol â Llywodraeth Cymru, gofynnir i benaethiaid neu aelodau wedi’u hawdurdodi o Uwch Dîm Arwain yr ysgol adolygu a derbyn y telerau yng nghytundeb rhannu data Hwb.

Gwasanaethau ychwanegol Hwb

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i sicrhau bod pob dysgwr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn cael mynediad llawn at Hwb fel y gall ysgolion ddefnyddio’r offer dysgu o bell sydd ar gael.

Gwelwch y cyngor diweddaraf ar ein tudalen caniatâd.

Mae rhagor o wybodaeth yma am rannu data, caniatâd a defnydd derbyniol o Hwb. Cyfeiriwch hefyd at ein hysbysiad preifatrwydd a’n telerau ac amodau.

Trosolwg

Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu'r opsiynau sydd ar gael i fudo o barth G-suite neu denant Microsoft O365 ysgol i Hwb. Mae’n addas ar gyfer mudo cyfrifon staff yn unig.

Siaradwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cyngor a chefnogaeth wrth symud i Hwb. Ystyriwch yn ofalus pa ffeiliau y mae angen i chi eu symud wrth fudo.

Mudo o Google Workspace for Education

Ffeiliau

Gall staff sy'n dymuno trosglwyddo eu ffeiliau o'u parth ysgol i barth Hwb ddefnyddio'r offeryn Google Take Out. Gall staff unigol ddefnyddio'r offeryn hwn i drosglwyddo ffeiliau yn uniongyrchol o'u cyfrif ysgol i'w cyfrif Hwb. Ystyriwch y canlynol wrth ddefnyddio'r offeryn hwn:

  • Rhaid i weinyddwr yr ysgol ffurfweddu parth Google Workspace for Education eich ysgol i ganiatáu trosglwyddo ffeiliau.
  • Bydd yr offeryn hwn yn trosglwyddo'ch ffeiliau chi o fewn My Drive yn unig felly os nad chi yw perchennog y ffeil ni chaiff ei drosglwyddo. Er enghraifft, ni fydd ffeiliau sydd wedi'u rhannu â chi yn cael eu symud. Os oes angen mynediad at y ffeiliau hyn arnoch, gallwch eu lawrlwytho â llaw neu wneud copi i My Drive cyn trosglwyddo.
  • Ni fydd ffeiliau Google Classroom yn cael eu symud fel rhan o'r trosglwyddiad. Mae angen copïo unrhyw ffeiliau yr ydych am eu cadw o Google Classroom i'ch gyriant yn gyntaf cyn i chi drosglwyddo.

Ar gyfer dysgwyr, rydym yn cynghori eu bod yn symud ffeiliau y maent am eu cadw â llaw o'u gyriannau personol i'w Google Workspace for Education Drive ar Hwb.

Gmail

Nid yw Gmail ar gael ar barth Google Workspace for Education Hwb. Mae trosglwyddo ffeiliau e-bost i Hwb yn broses â llaw. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cyngor ar sut i symud eich e-bost o Gmail i Hwb.

Symud eich cyfeiriad e-bost i Hwb

Ar gyfer staff mewn ysgolion sy'n defnyddio parth eu hysgol fel enw cyfeiriad e-bost, gellir symud y cyfeiriad e-bost i Hwb gan ddefnyddio ein proses cuddio enwau parth. Darllenwch fwy am Cuddio Enw Parth yn y ganolfan gymorth. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cefnogaeth gyda'r newid hwn. 

Mudo o Office 365

Ffeiliau defnyddwyr personol

Ar gyfer staff sydd am symud eu ffeiliau o'u gyriant ysgol OneDrive neu yriant personol i'w OneDrive Hwb gallent ddefnyddio Offeryn Mudo Microsoft SharePoint. Rhaid bod gan ddefnyddwyr ganiatâd ar y ffolderi ffynhonnell a chyrchfan i wneud hyn.

Ystyriwch y canlynol wrth ddefnyddio'r offeryn hwn:

  • Bydd yr offeryn hwn yn trosglwyddo'ch ffeiliau yn unig felly os nad chi yw perchennog y ffeil ni chaiff ei drosglwyddo. Er enghraifft, ni fydd ffeiliau sydd wedi'u rhannu â chi yn cael eu symud. Os oes angen mynediad at y ffeiliau hyn arnoch o hyd, gallwch eu lawrlwytho â llaw.
  • Ni fydd ffeiliau Microsoft Teams yn cael eu symud fel rhan o'r trosglwyddiad. Mae angen copïo unrhyw ffeiliau yr ydych am eu cadw o Teams i'ch OneDrive yn gyntaf cyn i chi drosglwyddo.

Ar gyfer dysgwyr, rydym yn cynghori eu bod yn symud ffeiliau y maent am eu cadw â llaw o'u gyriannau personol i'w OneDrive ar Hwb.

Gyriant a rennir

Gellir trosglwyddo gyriannau a rennir hefyd o'ch tenant ysgol i Hwb gan ddefnyddio'r Offeryn Mudo Microsoft SharePoint. Gellir symud ffeiliau i safleoedd SharePoint Hwb a ddarperir ac a reolir gan yr awdurdod lleol. Siaradwch â'r awdurdod lleol i drefnu mynediad at y safle SharePoint hon ac i gynorthwyo gydag unrhyw ffeiliau sy'n mudo. Rhaid bod gan ddefnyddwyr ganiatâd ar y ffolderi ffynhonnell a chyrchfan i gyflawni'r math hwn o drosglwyddiad.

E-bost

Gall staff unigol drosglwyddo ffeiliau e-bost o un blwch post i un arall. Gellir gwneud hyn trwy allforio ffeil .pst o flwch negeseuon e-bost yr ysgol yn Outlook a mewnforio'r ffeil .pst i flwch negeseuon e-bost cyfrif Hwb yn Outlook. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cyngor ar sut i wneud hyn.

Symud eich cyfeiriad e-bost i Hwb

Ar gyfer staff mewn ysgolion sy'n defnyddio parth eu hysgol fel enw cyfeiriad e-bost, gellir symud y cyfeiriad e-bost i Hwb trwy ein proses cuddio enwau parth. Darllenwch fwy am Cuddio Enw Parth yn y ganolfan gymorth. Dylid ystyried yr holl ddibyniaethau ar eich cyfeiriad e-bost cyfredol cyn symud:

  • os yw'ch cyfeiriad e-bost wedi'i gysylltu â'ch tenant Office 365, rhaid i chi ddatgysylltu'r e-bost oddi wrth eich tenant Office 365 cyn mudo
  • mae’n bosibl na fyddwch mwyach yn gallu mewngofnodi i apiau a gwasanaethau 3ydd parti eraill, unwaith y byddwch chi'n symud eich e-bost i Hwb

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cefnogaeth gyda'r newid hwn.

Trosglwyddo cyfrifon i’r flwyddyn academaidd nesaf

Mae'r broses o drosglwyddo data Hwb o un flwyddyn academaidd i'r llall yn gymharol syml. Rydym yn cynghori Gweinyddwyr Hwb i ddarllen canllaw trosglwyddo Hwb, sy’n egluro’r broses drosglwyddo a’r camau sydd angen eu cymryd i sicrhau bod pob cyfrif Hwb yn gyfredol.

Bydd dyddiadau penodol ar gyfer camau penodol i’w gweld yn yr erthygl newyddion blynyddol.

Newyddion: Trosglwyddo Hwb i flwyddyn academaidd 2024 i 2025

  • Canllaw trosglwyddo Hwb pdf 163 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Togl iaith

Mae'r togl iaith yn rheoli'r iaith ar gyfer offer Microsoft Office 365, Google Workspace a’r Porthol Rheoli Defnyddwyr.

Gall pob defnyddiwr newid iaith ddiofyn yr offer yma wrth ddilyn y camau yma.

  1. Mewngofnodi i Hwb a llywio i'r Porthol Rheoli Defnyddwyr.
  2. Yn y Porthol Rheoli Defnyddwyr, cliciwch Fy Mhroffil i weld Eich Manylion. Yn y rhes Dewis Iaith,cliciwch y botwm Newid Iaith. Mae dau opsiwn.
  3. Dewiswch rhwng Saesneg a Cymraeg i osod eich iaith.

Dylai newidiadau a wneir i'r togl iaith hidlo drwodd yn gyflym ond gallent gymryd hyd at 48 awr mewn rhai achosion.

Iaith y porwr gwe

Bydd gosod iaith ddiofyn eich porwr gwe yn pennu a yw'r porthol rheoli defnyddwyr yn ymddangos yn Gymraeg neu yn Saesneg pan fyddwch yn mynd i’r wefan am y tro cyntaf. Gallwch chi newid yn hawdd rhwng y Gymraeg a'r Saesneg ar bob tudalen trwy glicio ar yr iaith yn y bar llywio.

Bydd gosod iaith ddiofyn eich porwr hefyd yn penderfynu pa iaith rydych chi'n ei gweld yng ngwasanaethau eraill Hwb. Bydd llawer o wefannau allanol eraill hefyd yn defnyddio iaith y porwr i bennu pa iaith y mae eu cynnwys yn cael ei gyflwyno.

I gael cefnogaeth gyda gosod iaith ddiofyn eich porwr, siaradwch â'ch gweinyddwr TG neu gymorth TG yr awdurdod lleol.

Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â Thîm Hwb Llywodraeth Cymru:

Ffôn: 03000 252525 

E-bost: cymorth@hwbcymru.net

Gallwch hefyd gael cymorth drwy Arweinydd Digidol eich consortia addysg rhanbarthol. Cysylltwch â nhw’n uniongyrchol i gael manylion.