English

Mae potensial gan y cyfryngau cymdeithasol i ddal sylw cynulleidfa fawr a gall pobl ddod yn enwogion dros nos neu’n frand, a elwir yn ‘ddylanwadwyr’. Efallai y bydd dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, sydd â nifer eu dilynwyr yn tyfu o hyd, yn hybu cynnyrch penodol, ffyrdd penodol o fyw neu agwedd benodol, a gall hyn, yn amlach na pheidio, berswadio eraill i weithredu ar sail eu hawgrymiadau.

Mae rhai dylanwadwyr wedi canfod enwogrwydd drwy dynnu sylw at faterion ac achosion cymdeithasol pwysig a rhannu safbwyntiau cytbwys a gwybodaeth. Mae eraill yn defnyddio eu platfform i hyrwyddo ffyrdd ysbrydoledig o fyw gyda chynnwys hyrwyddo ffitrwydd, ffasiwn neu gynnwys dylunio mewnol, ymhlith pethau eraill. Ceir hefyd ddylanwadwyr sydd wedi dod yn adnabyddus am rannu barn eithafol a niweidiol, sy’n gallu effeithio’n negyddol ar eu dilynwyr drwy ystumio eu barn.

Mae’n bwysig iawn cofio bod dylanwadwyr yn rhannu cynnwys wedi’i guradu’n fwriadol; eu gwaith nhw yn aml yw gwneud hynny. Mae’n hawdd cymharu eich bywyd â’r delweddau a welwn ar-lein, sydd wedi’u cynllunio’n ofalus. Fodd bynnag, mae’n bwysig meddwl yn feirniadol am y cynnwys rydych chi’n ei weld ac yna gofyn i chi’ch hun pam fod y cynnwys wedi’i greu. Beth sydd tu ôl i’r cynnwys? Ai deunydd hyrwyddo neu hysbyseb yw hyn? Ydy’r cynnwys wedi cael ei olygu neu ei lunio mewn ffordd benodol? Pa mor realistig yw’r delweddau? Ydy’r farn yn gytbwys? Sut mae’r cynnwys yn gwneud i mi deimlo? Pwy neu beth mae’r cynnwys hwn yn ceisio’i ddylanwadu?


Rheoli effaith y dylanwadwr

Gall bod yn agored i ddylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol fod yn her i bobl ifanc, sy’n hawdd dylanwadu arnynt, a allai fod yn agored i’r ymddygiadau cadarnhaol a negyddol sy’n cael eu dangos ganddynt.


Cynghorion gwych

Mae dylanwadwyr yn dod yn boblogaidd yn aml am rannu cynnwys am bynciau penodol, er enghraifft ffasiwn, teithio neu chwarae gemau. Cyn credu popeth mae dylanwadwr yn ei rannu:

  • cwestiynwch y cymhelliad y tu ôl i’r hyn y maen nhw’n ei ddweud, er enghraifft os yw’r safbwyntiau maen nhw’n eu rhannu yn rhoi sioc i ni neu’n gwneud i ni deimlo’n flin neu’n drist, cwestiynwch pa mor gywir ydyn nhw a pham maen nhw’n cael eu rhannu
  • chwiliwch am dystiolaeth i gefnogi’r honiadau – a yw’r farn neu’r wybodaeth hon wedi’i dyfynnu gan ffynonellau newyddion mawr neu wefannau ag enw da o’r blaen? Mae’n bwysig cael ein ffeithiau’n gywir cyn ffurfio ein barn ein hunain
  • trafodwch y safbwyntiau hyn gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw

Cofiwch fod llawer o ddylanwadwyr yn cael eu talu i hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau. Cyn gwario arian yn seiliedig ar argymhelliad dylanwadwr:

  • cwestiynwch a oes rhaid cael y cynnyrch neu'r gwasanaeth hwnnw – gall y dylanwadwr ddweud wrthych ei fod yn wych neu'n newid bywyd oherwydd eu bod wedi cael eu talu i ddweud hynny
  • chwiliwch am adolygiadau ar y cynnyrch neu'r gwasanaeth hwnnw mewn mannau eraill
  • chwiliwch am ddewis arall rhatach
  • chwiliwch am bris gwell - mae dylanwadwyr yn aml yn rhannu cysylltiadau â chynnyrch neu wasanaethau gan y cwmni maen nhw'n cael eu talu ganddynt, ac yn aml maen nhw'n cael arian ychwanegol o unrhyw werthiant sy'n deillio o glicio arno. Gall yr union un cynnyrch fod yn rhatach mewn mannau eraill!

Cofiwch

  • Er y gallai bywydau'r dylanwadwyr edrych yn ddymunol, dim ond cyfran fechan o'u bywydau maen nhw'n ei ddangos, y rhannau maen nhw fel arfer yn cael eu talu i'w rhannu! Mae'n bwysig cydnabod nad yw bywyd neb yn berffaith. Os yw cynnwys gan ddylanwadwr penodol yn effeithio ar eich hunan-barch neu iechyd meddwl, peidiwch â’i ddilyn a gofynnwch am gymorth gan weithiwr proffesiynol neu rywun rydych chi'n ymddiried ynddo.
  • Yr eiliad rydyn ni'n gweld cynnwys sy'n ein syfrdanu, yn gwneud i ni chwerthin neu wneud i ni deimlo'n flin neu'n drist, yw'r foment pan rydyn ni ar ein mwyaf bregus. Gall hyn ein gwneud yn agored i gredu safbwyntiau neu farn rhagfarnllyd a gwneud pryniannau diangen.
  • Trwy glicio 'rhannu', 'hoffi' neu unrhyw beth sy'n cyfateb ar bost dadleuol, gallech fod yn achosi niwed i eraill trwy ledaenu casineb neu gamwybodaeth.

Barn yr arbenigwyr

Adolygiad o gynnwys niweidiol ar-lein

Jim Gamble QPM, Prif Swyddog Gweithredol Grwp Diogelu INEQE

Mae Jim yn sôn am yr effaith y gall ymddygiadau niweidiol a arddangosir gan bersonoliaethau neu ddylanwadwyr ar-lein ei gael ac yn rhoi cyngor ar sut i gefnogi rhywun sydd yn ymwneud â chynnwys niweidiol.


Canllawiau ynghylch apiau i deuluoedd

'Bydd wybodus'

Wedi'i ddylunio a'i greu'n benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr, mae'r casgliad hwn o ganllawiau yn rhoi'r wybodaeth allweddol y dylech ei gwybod am y cyfryngau cymdeithasol ac apiau gemau mwyaf poblogaidd i helpu'ch plentyn i lywio ei daith ddigidol yn ddiogel.


  • Adnoddau addysgu

    Adnoddau ystafell ddosbarth am y cyfryngau cymdeithasol

  • Adnoddau i deuluoedd

    Cyfres o adnoddau i gychwyn sgwrs â’ch teulu am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

  • Dylanwadwyr

    Gall y wers hon helpu dysgwyr i ddeall beth yw dylanwadwr cymdeithasol, beth mae’n ei wneud a sut mae'n gwneud arian.