English

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Mae'r cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau newyddion a digidol wedi rhoi mynediad rhwydd i ni at wybodaeth a chysylltiad ar unwaith â'r byd. Fodd bynnag, maen nhw hefyd wedi darparu gofod heb ei reoleiddio lle gall gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol ledaenu'n gyflym ac achosi niwed mawr. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei galw'n gamwybodaeth. Gyda dros hanner y bobl yng Nghymru bellach yn dibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol am eu newyddion, mae'n bwysig bod yn ymwybodol bod llawer o wybodaeth anghywir ar-lein sy'n esgus bod yn wybodaeth gywir.

Felly y tro nesaf y gwelwch chi stori newyddion, delwedd neu femyn ar-lein, cofio i stopiwch, meddyliwch a gwiriwch.


Mathau o gamwybodaeth

Mae camwybodaeth wedi'i dylunio i gael ei chredu, ac nid yw hi bob amser yn rhwydd gwybod y gwahaniaeth rhwng camwybodaeth a gwybodaeth gywir. Mae amryw o dermau'n cael eu defnyddio i ddisgrifio gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol. Gall y gwahaniaethau fod yn gynnil, ond mae'n bwysig gwybod a deall y diben a'r bwriad y tu ôl i'r wybodaeth rydych chi'n ei gweld ar-lein.

  • Gwybodaeth ffug neu anghywir yw camwybodaeth, a gall fod ar ffurf post ar y cyfryngau cymdeithasol, llun go iawn neu wedi'i olygu, clip fideo, memyn neu stori newyddion. Gall camwybodaeth gael ei rhannu'n anfwriadol heb i neb sylweddoli bod y wybodaeth yn ffug neu'n anghywir.

  • Mae twyllwybodaeth ar yr un ffurf â chamwybodaeth, ond mae'n cael ei chreu yn fwriadol i dwyllo, camarwain a dylanwadu. Gallai hyn fod at ddibenion personol, gwleidyddol neu economaidd. Gall twyllwybodaeth fygwth ein gwerthoedd a'n hegwyddorion, gan danseilio ein diogelwch, ein cymunedau a'n hymddiriedaeth.

  • Mae’r term newyddion ffug yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cynnwys anghywir neu gamarweiniol sy'n aml yn syfrdanol neu'n emosiynol. Gall newyddion ffug gynnwys camwybodaeth, twyllwybodaeth neu'r ddau. 

  • Pennawd sydd wedi’i ddylunio i ddenu eich sylw a'ch annog i glicio ar ddolen sy'n mynd â chi i erthygl, delwedd neu fideo yw abwyd clicio. Yn hytrach na chyflwyno ffeithiau gwrthrychol, mae abwyd clicio yn apelio at eich emosiynau a'ch chwilfrydedd.

  • Mae ‘ffugio dwfn’ yn cyfeirio at lun neu fideo sydd wedi’i newid yn ddigidol gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI). Gall creu delweddau ffug fel hyn gynhyrchu canlyniadau credadwy iawn sy'n ymddangos fel pe baen nhw’n dangos rhywun yn dweud rhywbeth neu'n gwneud rhywbeth na wnaethon nhw ei ddweud na'i wneud mewn gwirionedd.

  • Cyhoeddi gwybodaeth breifat yn fwriadol er budd personol neu breifat, yn ogystal â thrin cynnwys go iawn yn fwriadol. Er nad yw'r wybodaeth hon efallai'n ffug ei natur, mae'n cynnwys gwybodaeth sy'n cael ei lledaenu i achosi niwed.


Awgrymiadau ar sut i adnabod camwybodaeth

Gall camwybodaeth fod ar sawl ffurf, ac mae'n bwysig peidio â chredu popeth rydych chi'n ei weld, ei glywed neu'n ei ddarllen ar-lein. Nid mewn erthyglau newyddion yn unig y mae camwybodaeth yn bodoli; fe'i ceir yn aml ar ffurf memyn neu lun wedi'i olygu, delwedd allan o gyd-destun neu neges syml ar y cyfryngau cymdeithasol. Yr her allweddol wrth fynd i'r afael â chamwybodaeth yw gallu ei hadnabod a'i nodi.

Dyma restr wirio syml i'ch helpu chi i adnabod camwybodaeth.

Awgrymiadau ar sut i adnabod camwybodaeth

  • Awgrymiadau ar sut i adnabod camwybodaeth pdf 221 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Mae gan gamwybodaeth a'i lledaeniad y potensial i arwain at niwed ar-lein ac all-lein. Mae'n peri pryder mawr pan fydd pobl yn seilio penderfyniadau ar yr hyn a all fod yn wybodaeth ffug neu gamarweiniol, er enghraifft, ynghylch dewisiadau iechyd. Mewn papur trafod diweddar gan Ofcom 'Understanding online false information in the UK', mae enghreifftiau o niwed yn cynnwys:

    • annog pobl i wneud penderfyniadau a allai niweidio eu hiechyd neu iechyd pobl eraill
    • annog pobl i wneud penderfyniadau economaidd neu ariannol niweidiol
    • tanseilio parch a goddefgarwch tuag at bobl eraill neu hyd yn oed sbarduno gwahaniaethu neu gasineb
    • niweidio cyflwr neu iechyd meddyliol pobl (er enghraifft, drwy achosi gorbryder neu straen)
    • niweidio ymddiriedaeth neu danseilio cyfranogiad mewn sefydliadau a phrosesau cymdeithasol neu ddemocrataidd (megis etholiadau)
    • tanseilio hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn ffynonellau newyddion a gwybodaeth
    • creu dryswch, ansicrwydd neu amheuaeth mewn ffyrdd eraill ynghylch digwyddiadau neu dueddiadau hanesyddol, cyfredol neu yn y dyfodol, gan arwain at benderfyniadau neu gamau gweithredu niweidiol

Hyfforddiant

Modiwl hyfforddiant ar gamwybodaeth

Nod y modiwl hyfforddiant hwn yw rhoi ystod o wybodaeth i ymarferwyr ynghylch sut i fynd i’r afael â chamwybodaeth a sut i gefnogi dysgwyr i wirio ffynonellau gwybodaeth yn effeithiol a meddwl yn feirniadol am honiadau.

Podlediad


Barn yr arbenigwyr

Addysgu gwirio ffeithiau mewn ysgolion

Joseph O'Leary, Rheolwr Hyfforddiant, Full Fact

Dysgu mewn oes o gamwybodaeth

Kelly Mendoza, Uwch Gyfarwyddwr Rhaglenni Addysg, Common Sense Education