English

Mae X yn blatfform cyfryngau cymdeithasol ar gyfer microflogio. Gall defnyddwyr cofrestredig greu eu postiadau eu hunain ac ailbostio postiadau pobl eraill. Gall pobl sydd heb gofrestru ddarllen postiadau pobl eraill ar borwr gwe. Mae defnyddwyr yn cael argymhellion am gyfrifon eraill i’w dilyn ar sail eu diddordebau. Os byddan nhw’n dewis dilyn defnyddwyr eraill, byddan nhw’n gweld eu postiadau ar eu porthiant. 

Rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed o leiaf i greu cyfrif. Bydd postiadau defnyddwyr sy’n ychwanegu dyddiad geni sy’n eu rhoi o dan 18 oed yn ‘postiadau gwarchodedig’ yn ddiofyn. Mae hyn yn golygu mai dim ond y cyfrifon maen nhw’n eu dilyn a all anfon negeseuon atyn nhw a dim ond eu dilynwyr a all weld eu postiadau.

Pan fydd defnyddiwr wedi ychwanegu oedran o dan 18 oed, ni all ei newid. Fodd bynnag, nid oes unrhyw wiriad i gadarnhau bod y dyddiad geni a ychwanegwyd wrth greu cyfrif yn gywir. Dylech oruchwylio eich plentyn pan fydd yn sefydlu ei gyfrif X i sicrhau ei fod yn rhoi ei oedran gwirioneddol.

Communities 

Grwpiau sy’n cael eu hadeiladu ar sail diddordebau a phynciau penodol, y gall defnyddwyr ymuno â nhw.

Community Notes 

Nodiadau sy’n cael eu hysgrifennu gan ddefnyddwyr i ymateb i bostiad sy’n cael ei amau o ledaenu camwybodaeth. Yn aml, mae’r nodiadau hyn yn helpu i roi cyd-destun ychwanegol neu gywiro postiad anghywir sy’n cael ei hyrwyddo’n ffaith. 

Direct Messaging 

Nodwedd i ddefnyddwyr gael sgyrsiau preifat gyda defnyddwyr eraill.

For you 

Mae pynciau a storïau newyddion poblogaidd sydd, ym marn algorithmau X, o ddiddordeb posibl i ddefnyddiwr yn cael eu cynnig yn adran ‘For you’. 

Grok 

Sgwrsfot AI sy’n cael ei adeiladu i blatfform X. Gall Grok greu delweddau, ysgrifennu storïau, creu codau cyfrifiadurol neu sgwrsio â defnyddwyr.

Post 

Gall postiad gynnwys hyd at 280 nod o destun, delweddau, fideos, ffeiliau sain neu GIFs. 

Repost 

Os bydd rhywun yn ailbostio, mae’n golygu ei fod wedi rhannu postiad rhywun arall i’w broffil. Gall ychwanegu ei sylwadau ei hun at ailbostiad.

Spaces 

Mae ‘spaces’ yn caniatáu i ddefnyddwyr gael sgyrsiau sain byw gyda’i gilydd. Mae ‘spaces’ yn agored i unrhyw un a gall unrhyw ddefnyddiwr ymuno fel gwrandäwr.

Trendio 

Mae pynciau sy’n trendio ar X i’w gweld yn yr adran ‘Trending’. 

Voice messages

Gall defnyddwyr anfon negeseuon llais at bobl eraill.

X Premium

Gall unrhyw ddefnyddiwr danysgrifio i X Premium, a fydd yn ychwanegu tic glas at ei broffil. Mae’r tic glas hwn yn dangos tanysgrifiad y defnyddiwr. Nid yw’n golygu bod y cyfrif wedi’i wirio’n un dilys. 

Cyswllt a chynnwys amhriodol

Mae X yn blatfform cyfryngau cymdeithasol, sy’n golygu bod y cynnwys arno’n cael ei gynhyrchu gan y defnyddwyr. Gyda chymharol ychydig o gymedroli, gall pobl ifanc ddod ar draws cyfryngau ac iaith dreisgar a rhywiol. Hefyd, gall pobl eraill anfon negeseuon preifat atyn nhw trwy’r nodwedd negeseuon uniongyrchol.

Mae camau y gallwch eu cymryd i liniaru’r risg hon.

Addasu’r gosodiadau

Gallwch osod rheolyddion rhieni i atal eich plentyn rhag gwylio fideos sy’n cael eu rhannu gan ddefnyddwyr nad yw eich plentyn yn eu dilyn. Mae hyn yn lleihau eu siawns o weld cynnwys amhriodol. Yng ngosodiadau’r cyfrif, gallwch hefyd atal cynnwys sensitif rhag cael ei ddangos ar borthiant eich plentyn a chyfyngu negeseuon uniongyrchol.

Rheoli’r algorithm

Anogwch eich plentyn i ddilyn cyfrifon sy’n postio cynnwys cadarnhaol a dangoswch iddo sut i atal cynnwys tebyg rhag ymddangos ar eu porthiant yn y dyfodol trwy farcio ‘Not interested in this post’ ar bostiadau amhriodol.

Siarad am fywyd ar-lein

Trafodwch fywyd digidol eich plentyn yn rheolaidd i ddysgu beth mae’n ei weld a phwy mae’n rhyngweithio â nhw. Dysgwch iddo feddwl yn feirniadol am yr wybodaeth mae’n ei weld a gwnewch yn siŵr ei fod yn gwybod beth sy’n iawn i’w rhannu ar X, neu beth i beidio â’i rannu. Sicrhewch ei fod yn gwybod y gall droi atoch os bydd unrhyw beth yn gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.

Defnyddio offer blocio a riportio

Grymuswch eich plentyn i ddefnyddio adnoddau blocio a riportio. Mae hyn yn ei atal rhag dod mewn i gysylltiad pellach â’r niwed a gall helpu i wneud y platfform yn fwy diogel.

Rhoi gwybod i’r heddlu

Os ydych chi’n amau bod defnyddiwr yn ceisio meithrin perthynas amhriodol â’ch plentyn, dylech wneud sgrinluniau o’r dystiolaeth a rhoi gwybod i’r heddlu am hyn.

Gormod o amser o flaen sgrin

Mae dyluniad sgrolio diddiwedd X yn golygu bod cynnwys newydd ar gael drwy’r amser a gall hyn wneud i ddefnyddwyr dreulio gormod o amser ar y platfform.

Gall y camau canlynol helpu i atal eich plentyn rhag treulio’n rhy hir ar X.

Addasu’r gosodiadau

Gan ddefnyddio rheolyddion rhieni, gallwch osod cyfyngiadau amser dyddiol ar gyfrif eich plentyn. Heb reolyddion rhieni, gallwch osod cyfyngiadau amser gan ddefnyddio’r gosodiadau sydd wedi’u cynnwys ar ddyfais eich plentyn.

Cytuno ar gyfyngiadau

Cytunwch pryd a ble y gall eich plentyn ddefnyddio X.

Os yw eich plentyn yn defnyddio X, gall y gosodiadau canlynol helpu i’w cadw’n fwy diogel. 

Cuddio cynnwys sensitif

  • Ar ap X eich plentyn, dewiswch lun ei broffil ar frig yr ochr chwith.
  • Agorwch ‘Settings & Support’ a dewis ‘Settings and privacy’.
  • Dewiswch ‘Privacy and safety’.
  • Dewiswch ‘Content you see’.
  • Dewiswch ‘Sensitive media’.
  • Dewiswch 'Never show this’ ar bob math o gynnwys sensitif.

Cyfyngu ar negeseuon

  • Ar ap X eich plentyn, dewiswch lun ei broffil ar frig yr ochr chwith.
  • Agorwch ‘Settings & Support’ a dewis ‘Settings and privacy’.
  • Dewiswch ‘Privacy and safety’.
  • Dewiswch ‘Messages settings’.
  • Yn y gosodiadau hyn, gallwch ddewis pwy all anfon neges at eich plentyn ac analluogi galwadau.

Offer blocio a riportio

Blocio defnyddiwr

  • Ar bostiad gan y defnyddiwr rydych am ei flocio, dewiswch y 3 smotyn fertigol.
  • Dewiswch ‘Block’.
  • Dewiswch ‘Block’ eto i gadarnhau.

Riportio defnyddiwr

  • Ar broffil y defnyddiwr rydych am ei flocio, dewiswch y 3 smotyn fertigol ar frig yr ochr dde.
  • Dewiswch ‘Report’ o’r gwymplen.
  • O’r opsiynau, dewiswch y rheswm dros riportio.
  • Dewiswch ‘Submit’ i gwblhau riportio.

Riportio postiad

  • Ar y postiad rydych am ei riportio, dewiswch y 3 smotyn fertigol.
  • Dewiswch ‘Report post’.
  • O’r opsiynau, dewiswch y rheswm dros riportio.
  • Dewiswch ‘Submit’ i gwblhau riportio.