English

Mae Messenger yn ap negeseua cyfryngau cymdeithasol di-dâl ac mae'n rhan o'r grwp Meta ehangach. Mae Messenger yn galluogi aelodau Facebook i sgwrsio a chynnal galwadau fideo gyda'i gilydd, ac mae dros 1.3 biliwn o bobl ledled y byd yn ei ddefnyddio bob mis. Mae'r platfform yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr greu negeseuon a galwadau grwp neu unigol, lle gallant gyfathrebu trwy destun neu lais, a gallant rannu ffeiliau a phostiadau gyda'i gilydd hefyd. Mae casgliad o effeithiau hwyliog ar gael ar yr ap, megis defnyddio sticeri a GIFs, a nodweddion chwareus eraill yn y nodwedd galwadau fideo. Mae gan Messenger ddetholiad o osodiadau preifatrwydd a 'Parents portal' dynodedig i rieni ei archwilio.

Erbyn hyn, mae Messenger yn gweithredu ochr yn ochr ag Instagram, WhatsApp a Facebook  o dan y rhiant gwmni Meta. Mae Meta yn disodli Facebook fel y prif gwmni/brand yn y grwp hwn, ac mae'n debygol y bydd brandio Meta yn dod yn fwyfwy gweladwy ar yr holl apiau hyn.  

Rhaid i ddefnyddwyr Messenger fod yn 13 oed o leiaf. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddulliau gwirio oedran trwyadl ar waith. 

Mae cyfrifon Messenger yn gysylltiedig â chyfrifon Facebook ac mae'r gosodiadau cyfrifon ar gyfer Facebook yn berthnasol i Messenger. Ar gyfer deiliaid cyfrif o dan 16 oed, y gosodiadau diofyn yw 'Private’. Mae gan bob cyfrif Facebook arall osodiad cyhoeddus diofyn, ac mae unrhyw ddefnyddwyr eraill ar y platfform yn gallu gweld y cynnwys. Argymhellir dewis gosodiad ‘Private’ ar gyfer cyfrifon Facebook. 

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau ’.

Mae llawer o ffyrdd hwyliog o gysylltu ag eraill trwy'r ap Messenger. Mae defnyddio rhithffurfiau, sticeri a GIFs mewn negeseuon ysgrifenedig yn apelio at ddefnyddwyr iau, tra bod defnyddio effeithiau fideo chwareus yn ystod galwadau fideo’n caniatáu i ddefnyddwyr gael hwyl wrth siarad ag eraill. Mae cyflwyno 'Group effects' i alwadau fideo grwp yn cynnig elfen ychwanegol o hwyl. Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr gyflwyno effeithiau grwp cyfan sy'n newid ymddangosiad yr holl gyfranogwyr ar yr un pryd. Mae'r ffaith bod Messenger yn cyd-fynd â chyfrifon Facebook yn ei gwneud hi'n hawdd i bobl ifanc ei ddefnyddio a chysylltu â'u ffrindiau.

  • Dyma'r enw a roddir ar eich rhestr o negeseuon a sgyrsiau o fewn yr ap.

  • Gall defnyddwyr greu grwp yn cynnwys defnyddwyr Facebook eraill.

  • Pan fydd aelodau'n postio neges, gall aelodau eraill o'r sgwrs grwp ymateb i'r neges honno gan ddefnyddio emoji i ddangos eu hymateb.

  • Mae defnyddwyr Messenger yn gallu creu 'ystafelloedd' lle mae nifer o bobl yn gallu cyfarfod ar gyfer sgwrs fideo. Nid oes angen i ddefnyddwyr gael cyfrif Facebook i ymuno ag ystafelloedd agored. Gall defnyddwyr greu ystafelloedd o Messenger, Facebook, WhatsApp ac Instagram.

  • Dyma le gall pawb mewn sgwrs grwp ddefnyddio fideo’n fyw i sgwrsio a defnyddio hidlyddion a chefndiroedd hwyliog.

  • Gall defnyddwyr ddefnyddio nodweddion megis GIFs a sticeri i gyfathrebu. Gallwch greu eich sticeri eich hun trwy dynnu lluniau ohonoch chi'ch hun a'u haddurno.

  • Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr gael rhagolwg o'r neges a gawsant gan bobl nad ydyn nhw’n ffrindiau â nhw. Mae hyn yn helpu defnyddwyr i benderfynu ydyn nhw eisiau derbyn ac ymateb i'r neges neu ei hanwybyddu.

  • Yn ogystal ag anfon negeseuon testun ac emojis, gall defnyddwyr anfon GIFs at eu cysylltiadau. Delwedd wedi'i hanimeiddio heb sain yw GIF.

  • Mae hyn yn atal trydydd partïon rhag gweld neu ddarllen neges. Dim ond anfonwr a derbynnydd y neges sy'n gallu gweld y cynnwys. Mae amgryptio o'r dechrau i'r diwedd yn golygu bod y neges yn cael ei hamgryptio cyn gadael dyfais yr anfonwr, ac na ellir dadgryptio'r neges nes iddi gyrraedd pen y daith. Mae hyn yn golygu nad yw hacwyr yn gallu cyrchu data ar weinydd oherwydd bod y data wedi'i amgryptio. Amgryptio o’r dechrau i’r diwedd yw’r drefn ddiofyn ar gyfer pob sgwrs Messenger ers Rhagfyr 2023.

  • Elfen negeseua lle mae defnyddwyr yn gallu gosod terfyn amser. Ar ôl hynny, bydd y neges yn cael ei dileu ac ni fydd modd ei holrhain yn y sgwrs. Dim ond ar gael gyda sgyrsiau sydd wedi galluogi amgryptio o’r dechrau i’r diwedd.

  • Gall defnyddwyr bostio lluniau neu fideos sy'n para 24 awr er mwyn i’w ffrindiau eu gweld. 

  • Gall defnyddwyr ddefnyddio hidlyddion camera i olygu eu sgyrsiau fideo. Mae nodweddion yn cynnwys goleuo amrywiol, themâu a chefndiroedd 360 gradd.

  • Mae'r rhain yn brofiadau realiti estynedig newydd sy'n gallu newid ymddangosiad pawb yn yr alwad fideo ar yr un pryd. Mae 70 o effeithiau grwp ar gael, gan gynnwys rhoi nodweddion doniol i'r holl gyfranogwyr.

  • Mae hyn yn caniatáu i eraill weld pan fyddwch chi’n weithredol, fel eu bod yn gwybod pryd y mae’n gyfleus i ffonio neu anfon neges. Gall defnyddwyr ddewis diffodd y nodwedd hon.

  • Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr barhau i ddefnyddio Messenger wrth ddefnyddio apiau eraill ar eu dyfais. Bydd ‘Chat head’ naill ai’n dangos y cyswllt neu’r grŵp mae’r defnyddiwr yn siarad ag e.

  • Elfen negeseua un-at-nifer sydd ar gael i bob defnyddiwr lle mae dim ond crewyr neu weinyddwyr sgwrs sy’n gallu postio negeseuon i eraill eu gweld.

  • Opsiwn negeseua lle mae defnyddwyr yn gallu anfon recordiadau llais at ddefnyddwyr eraill.

  • Elfen sy’n caniatáu i ddefnyddwyr olygu negeseuon maen nhw eisoes wedi’u hanfon. Mae hyn ar gael ar gyfer negeseuon a anfonwyd hyd at chwarter awr ynghynt. Sylwch fod defnyddwyr yn gallu riportio negeseuon hyd yn oed os cawsant eu golygu gan y bydd cymedrolwyr yn gallu gweld fersiynau blaenorol o’r neges.

  • Arwydd mewn sgyrsiau sy’n rhoi gwybod i rywun pan fydd y derbynnydd wedi darllen ei neges. Mae modd diffodd hyn yn y gosodiadau.

Fel apiau negeseuon eraill, mae llawer o straeon, negeseuon a lluniau personol yn cael eu rhannu gan ddefnyddwyr ar Messenger nad ydyn nhw’n cael eu cymedroli. Y ffordd orau o reoli'r cynnwys mae eich plentyn yn dod i gysylltiad ag ef yw sicrhau ei fod yn cysylltu â phobl mae'n eu hadnabod yn unig, yn hytrach na dieithriaid. Sicrhewch fod y gosodiadau preifatrwydd wedi'u gosod i 'Facebook friends' yn hytrach na phawb. Mae’n bosib hefyd y gall eich plentyn ddod ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus neu gynnwys aeddfed yn ei negeseuon. Trwy gyfyngu ar bwy gall eich plentyn gysylltu â nhw ar y platfform, bydd eich plentyn yn llai tebygol o brofi iaith neu ymddygiad nad yw'n addas i'w oedran. Fodd bynnag, rhaid cofio y gallai eich plentyn ddod i gysylltiad â chynnwys amhriodol trwy bobl sy'n hysbys iddo.

Gan fod Messenger wedi'i gysylltu â chyfrif Facebook defnyddiwr, mae'n bwysig i'ch plentyn fod yn ymwybodol o'i osodiadau preifatrwydd Facebook i helpu i gyfyngu ar gysylltiadau yn Messenger. Mae Meta wedi cyflwyno newidiadau sy’n atal defnyddwyr Messenger dan 18 oed rhag derbyn negeseuon gan gyfrifon dieithr. Serch hynny, dylai rhieni gofio y gallai pobl ddefnyddio gwybodaeth ffug i berswadio defnyddwyr i’w dilyn neu dderbyn ceisiadau ffrind ganddyn nhw.

Gan fod Messenger yn rhoi mwy o bwyslais ar alwadau fideo yn hytrach na sgyrsiau ysgrifenedig yn unig, mae'n bwysig bod eich plentyn wedi galluogi'r gosodiadau preifatrwydd perthnasol er mwyn rhwystro dieithriaid rhag ei alw. Mae gwybodaeth lawn am osodiadau preifatrwydd a galwadau fideo i'w gweld yn adran 'Rheoli preifatrwydd' y canllaw ap hwn. 

Yn yr un modd â rhwydweithiau cymdeithasol eraill, mae'n bosib i ddefnyddwyr sefydlu cyfrifon ffug, gan esgus bod yn rhywun arall. Anogwch eich plentyn i gwestiynu a yw’n adnabod y person sydd wedi anfon neges mewn gwirionedd cyn ei derbyn. Siaradwch â'ch plentyn am risgiau cysylltu â dieithriaid, ac eglurwch bwysigrwydd peidio â rhannu gwybodaeth bersonol neu breifat mewn sgyrsiau.

Os oes gan eich plentyn ei gyfrif Messenger ei hun, mae'n bwysig eich bod chi'ch dau yn ymwybodol o'r hyn mae'n ei rannu mewn negeseuon a galwadau, a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ei ôl troed digidol. Mae cyflwyno ‘Disappearing messages’ , ‘End-to-end encryption,’ a ‘Edited messages’ yn Messenger yn golygu bod rhai defnyddwyr yn tybio nad ydynt yn atebol am yr hyn maen nhw’n ei rannu ac na fydd modd ei olrhain wedyn. Fodd bynnag, mae angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol bod unrhyw gynnwys maen nhw'n ei bostio’n gadael ôl troed digidol. Atgoffwch eich plentyn y gall unrhyw un dynnu ciplun o neges cyn iddi ddiflannu. Siaradwch â'ch plentyn i'w helpu i ddeall beth sy'n briodol a beth sydd ddim yn briodol iddo ei rannu gan drafod y dulliau gwahanol o amddiffyn ei hun. Sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw perchnogaeth ar unrhyw gynnwys ar ôl iddo gael ei rannu ar-lein, gan ei bod yn hawdd ei gopïo a'i ailbostio heb yn wybod iddo. Gall fod yn anodd tynnu'r cynnwys oddi ar y rhyngrwyd wedyn.

Mae opsiynau goruchwyliaeth rhieni ar gael ar ap Messenger erbyn hyn, sy’n cynnwys pob math o nodweddion i rieni a gofalwyr – gan gynnwys y gallu i weld faint o amser mae eu plentyn yn ei dreulio ar Messenger, pwy mae eu plentyn yn ei ychwanegu fel cyswllt ar Messenger, pwy sy’n anfon neges at eu plentyn, a gosodiadau preifatrwydd a diogelwch eu plentyn ymhlith nodweddion eraill. Dylech siarad â’ch plentyn am alluogi goruchwyliaeth. Efallai ei bod hi’n bwysig pwysleisio mai pwrpas goruchwyliaeth rhieni yw gofalu bod eich plentyn yn ddiogel ar Messenger ac er mwyn osgoi cynnwys anaddas neu ofidus – nid amharu ar breifatrwydd eich plentyn.

Yn yr un modd â llawer o apiau negeseua eraill, fe'i cynlluniwyd i gadw diddordeb defnyddwyr a’u cadw ar y platfform am gyfnodau estynedig. Gall fod yn anodd i blant wrthsefyll yr hysbysiadau sy'n eu hannog i ymateb. Anogwch eich plentyn i gael seibiant o Messenger drwy alluogi'r nodwedd 'Do not disturb', a fydd yn atal pob hysbysiad am gyfnod penodol o amser. 

Efallai y bydd yr elfen ‘Chat head’ yn denu pobl ifanc i ymwneud mwy â’r ap neu sgwrs trwy ddangos â phwy maen nhw’n siarad, hyd yn oed wrth ddefnyddio apiau eraill. Er bod hwn wedi’i analluogi’n ddiofyn, mae modd ei alluogi yng ngosodiadau’r ap. Fe’ch cynghorir i beidio â galluogi’r gosodiad hwn fel nad yw’ch plentyn yn defnyddio gormod o’r nodwedd hon. Os yw’ch plentyn wedi galluogi ‘Chat head’, dylech ei annog i’w analluogi i gadw rheolaeth ar ei amser personol ac osgoi’r pwysau i ddefnyddio’r ap. Mae canllawiau ar sut i analluogi ‘Chat head’ ar gael yn adran ‘Rheoli rhyngweithio a chynnwys’ y canllawiau hyn.

Mae nodwedd ‘Read receipts’ Messenger hefyd yn gallu rhoi pwysau ar ddefnyddwyr i ateb cyn gynted â maen nhw wedi agor neges. Gall hyn gael effaith negyddol ar iechyd meddwl defnyddwyr hefyd os ydyn nhw’n gweld bob y derbynnydd wedi gweld y neges ond heb ateb. Felly, rydym yn annog defnyddwyr i ddiffodd yr elfen hon fel y nodir yn adran ‘Rheoli amser a phryniannau’ y canllaw hwn.

  • Gan fod Messenger wedi'i gysylltu â chyfrif Facebook defnyddiwr, mae llawer o'r gosodiadau preifatrwydd wedi'u gosod yn y cyfrif Facebook ei hun. Fodd bynnag, gallwch gyrchu rhai o'r gosodiadau preifatrwydd hyn trwy'r ap Messenger.

    I reoli gosodiadau preifatrwydd:

    • cliciwch ar yr eicon tair llinell ar gornel ucha’r sgrin a dewis y symbol olwyn ar y dde uchaf
    • sgroliwch i lawr a dewis ‘Privacy and safety’, yna ‘Message delivery’
    • ewch drwy’r ddewislen a dewis pwy rydych chi am ei ganiatáu i anfon negeseuon atoch chi
  • Mae yna ychydig o osodiadau i helpu i reoli rhyngweithiadau a chynnwys. Sicrhewch eich bod wedi gosod y gosodiadau preifatrwydd perthnasol i gyfyngu ar bwy all anfon neges atoch. Gallwch anwybyddu negeseuon gan ddefnyddwyr unigol a chyfyngu ar bwy all weld eich straeon.

    I osod 'Story audience’:

    • cliciwch ar yr eicon tair llinell ar gornel ucha’r sgrin a dewis y symbol olwyn ar y dde uchaf
    • sgroliwch i lawr i ddewis ‘Privacy and safety’, ac yna ‘Story controls’
    • sicrhewch fod y gosodiad wedi'i osod ar 'Friends' neu ‘Custom’ yn hytrach na 'Public'

    I 'Restrict' defnyddiwr arall:

    • dewiswch y sgwrs rydych chi am ei hanwybyddu a chlicio ar enw'r defnyddiwr ar y brig
    • sgroliwch i lawr i 'Restrict’
    • bydd hyn yn rhoi'r opsiwn o weld llai o'r unigolyn heb ei flocio
    • er mwyn galluogi, dewiswch 'Restrict’

    Er mwyn 'tewi' sgwrs unigol neu grŵp gan ddefnyddio ‘mute’ (cyfyngu ar hysbysiadau o'r sgwrs honno):

    • dewiswch y sgwrs rydych chi am ei thewi a chliciwch ar naill ai enw'r defnyddiwr neu enw’r sgwrs ar y brig
    • ar y brig, dewiswch yr eicon tewi er mwyn tewi'r sgwrs hon
    • byddwch yn cael yr opsiynau tewi canlynol:
      • tewi hysbysiadau negeseuon
      • tewi hysbysiadau galwadau
      • tewi hysbysiadau negeseuon a galwadau

    I analluogi ‘Chat head’:

    • dewiswch y tair llinell ar y gornel chwith uchaf
    • dewiswch yr olwyn gocos yng nghornel dde uchaf y naidlen
    • sgroliwch lawr i ‘Chat heads’ a diffodd y togl
    • bydd hwn yn newid o las i lwyd i ddangos ei fod wedi’i analluogi

    I alluogi goruchwyliaeth rhieni:

    • dewiswch y tair llinell ar y gornel chwith uchaf
    • dewiswch yr olwyn gocos yng nghornel dde uchaf y naidlen
    • dewiswch ‘Supervision’
    • dewiswch ‘Create invitation’ Gall pobl ifanc wahodd eu rhieni i oruchwylio, neu gall rhieni wahodd eu plant i gael eu goruchwylio
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr a allai fod yn eu poeni neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I gwyno am ddefnyddiwr neu sgwrs grŵp:

    • agorwch eich sgwrs gyda’r defnyddiwr neu’r grŵp yr hoffech ei riportio
    • dewiswch enw’r defnyddiwr neu’r grŵp ar frig y dudalen
    • sgroliwch i lawr i 'Report' a dewis y broblem i gwyno amdani o'r opsiynau sydd wedi'u rhestru

    I flocio defnyddiwr:

    • agorwch y sgwrs gyda’r defnyddiwr rydych chi am ei flocio a dewis enw’r defnyddiwr ar dop y sgrin
    • sgroliwch i lawr i a dewis 'Block'

    Mae gennych yr opsiwn yma i'w flocio ar Facebook hefyd.

    I gwyno am neges:

    • dewch o hyd i'r neges rydych am gwyno amdani
    • pwyswch a daliwch ar y neges nes bod adweithiau ac opsiynau eraill yn ymddangos o dan y neges
    • dewiswch 'More' a dewis 'Report’
    • dewiswch y rheswm dros riportio o blith y rhestr, yna tapiwch ar ‘Submit report’ i gadarnhau eich dewis
  • Mae yna nodweddion cyfyngedig i helpu i reoli amser a phryniannau yn Messenger. Gall defnyddwyr reoli eu gosodiadau hysbysu i helpu i gyfyngu ar amser sgrin ac analluogi eu statws gweithgareddau. Mae defnyddwyr yn gallu analluogi ‘Read receipts’ hefyd.

    I reoli gosodiadau hysbysu:

    • dewiswch yr eicon tair llinell ar y gornel uchaf ac yna’r symbol olwyn ar y dde uchaf
    • sgroliwch i lawr i ddewis ‘Notifications and sounds’
    • dewiswch ‘Manage notifications’ tua gwaelod y ddewislen i newid eich opsiynau hysbysiadau’r ap ar eich dyfais
    • i dewi hysbysiadau am gyfnod penodol, switsiwch y togl ymlaen yn y dewislen hysbysiadau a dewis y cyfnod amser o blith y rhestr

    I analluogi  ‘Activity status’:

    • cliciwch ar yr eicon tair llinell ar gornel ucha’r sgrin ac yna’r symbol olwyn ar y dde uchaf
    • sgroliwch i lawr i ddewis ‘Active status’
    • toglwch yr opsiwn 'Show when you're active' i ffwrdd
    • dewiswch ‘Until I change it’ o blith yr opsiynau sydd ar gael ac yna ‘Pause’ i gadarnhau eich dewis

    I analluogi ‘Read receipts’:

    • cliciwch ar yr eicon tair llinell ar gornel ucha’r sgrin ac yna’r symbol olwyn ar y dde uchaf
    • sgroliwch i lawr i ddewis ‘Privacy and safety’, yna ‘Read receipts’
    • toglwch yr opsiwn nes ei fod wedi diffodd ac yn troi’n llwyd
  • Mae defnyddwyr Messenger yn gallu dadactifadu neu ddileu eu cyfrif Messenger. Mae Meta yn dweud mai rhywbeth dros dro yw dadactifadu, a bod defnyddwyr yn gallu ailactifadu eu cyfrif pryd bynnag yr hoffent. Bydd cyfrif wedi’i ddadactifadu yn ymddangos fel pe bai wedi’i ddileu i ddefnyddwyr eraill Messenger, gan na fyddant yn gallu gweld enw na lluniau’r cyfrif sydd wedi’i ddadactifadu. Neu, gall defnyddwyr ddileu eu cyfrif yn barhaol – does dim modd ei adfer wedyn meddai Meta. Hefyd, dylai defnyddwyr gofio y byddai naill ai dadactifadu neu ddileu eu cyfrif Messenger yn gwneud yr un peth i’w cyfrif Facebook os defnyddiwyd y naill i gofrestru â’r llall.

    I ddadactifadu eich cyfrif Messenger:

    • dewiswch y tair llinell ar draws ‘☰’ a dewis yr eicon olwyn gocos o’r naidlen
    • sgroliwch i lawr a dewis ‘Accounts Centre’
    • dewiswch ‘Personal Details’
    • dewiswch ‘Account ownership and control’ ac yna ‘Deactivation or deletion’
    • dewiswch eich cyfrif Facebook/Messenger
    • dewiswch 'Deactivate account’
    • teipiwch eich cyfrinair a dilyn y cyfarwyddiadau wedyn

    I ddileu eich cyfrif Messenger:

    • dewiswch y tair llinell ar draws ‘☰’ ac yna’r olwyn gocos o’r naidlen
    • sgroliwch i lawr a dewis ‘Accounts Centre’
    • dewiswch ‘Personal Details’
    • dewiswch ‘Account ownership and control’ ac wedyn ‘Deactivation or deletion’
    • dewiswch eich cyfrif Facebook/Messenger
    • dewiswch 'Delete account’
    • teipiwch eich cyfrinair a dilyn y cyfarwyddiadau

    I ddileu eich cyfrif Messenger heb broffil Facebook:

    • dewiswch eich llun proffil ar y gornel chwith uchaf
    • dewiswch ‘Account settings’
    • sgroliwch lawr i ffeindio ‘Delete your account and information’
    • teipiwch eich cyfrinair a phwyso ‘Submit’

Bydd bod yn ymwybodol o osodiadau a ffrindiau diweddaraf eich plentyn ar Facebook yn helpu i reoli ei breifatrwydd a'i ryngweithiadau yn Messenger, am fod y ddau gyfrif yn gysylltiedig.

Mae Meta wedi creu canolfan preifatrwydd i'r arddegau bwrpasol er mwyn helpu defnyddwyr yn eu harddegau i reoli eu preifatrwydd ar bob blatfform Meta.

Mae gan Facebook 'Borth rhieni' dynodedig sy'n werth ei archwilio i ddysgu rhagor am Facebook a Messenger.