English

Yn ystod yr haf, cymrodd Get Safe Online y cam anarferol o neilltuo tri o’n hymgyrchoedd misol i gefnogi rhieni gan ein bod yn ymwybodol iawn o effaith sylweddol y cyfnodau clo a chyfyngiadau eraill ar blant a phobl ifanc. Yr ymgyrch a darodd tant fwyaf oedd ein hymgyrch ‘Gaming4Good’, a oedd yn targedu rhieni a gofalwyr a oedd yn poeni am y cynnydd sylweddol yn yr amser roedd eu plant yn ei dreulio yn chwarae gemau ar-lein – neu’r ffaith fod eu plant wedi cael eu blas cyntaf ar wneud hynny - yn sgil cyfnodau maith o beidio â gallu gadael eu cartref.

Ym mis Mai 2021, comisiynodd Get Safe Online astudiaeth ymchwil gydag YouGov, gan holi 4,000 o rieni,. Datgelodd yr ymchwil ambell i ystadegyn arwyddocaol.

Mae bron i hanner plant y DU (40%) yn chwarae gemau ar-lein yn amlach nag oeddent cyn dechrau’r pandemig. Prif boen meddwl bron i draean o’r rhieni (29%) yw bod eu plant yn treulio gormod o amser yn eistedd yn hytrach nag yn gwneud ymarfer corff. Dim ond 3% oedd yn poeni am allu eu plant i wario arian drwy gemau ar-lein. Ac mae un o bob pump o rieni (20%) bellach yn poeni a yw eu plant yn siarad gyda dieithriaid wrth chwarae gemau ar-lein.

Nid yw’r ddau ffigur cyntaf yn fy synnu o gwbl. Ond am y ddau arall, awgryma adroddiad Ofcom bod nifer uwch o rieni yn bryderus am y pwysau ar eu plant i brynu wrth chwarae gemau. Ac o ran siarad gyda dieithriaid ar-lein, datgelodd ein harolwg YouGov hefyd bod 27% o rieni yn ymwybodol bod eu plant wedi cyfathrebu â dieithriaid wrth chwarae gemau ar-lein, ffigur sy’n codi i 38% yng Nghymru.

Mae llawer yn credu o hyd bod chwarae gemau ar-lein yn wael i blant. Roedd gan y Groegiaid hynafol ddywediad syml a oedd yn cwmpasu popeth mewn bywyd bron iawn “Gormod o ddim”, sy’n wir hyd heddiw, gan gynnwys chwarae gemau neu, yn wir, unrhyw weithgarwch ar-lein neu all-lein, ar gyfer oedolion ynghyd â phlant a phobl ifanc.

Ond beth yn union yw ‘gormod’?

Mae’r amser y mae plant yn ei dreulio ar-lein, fel y sonnir uchod, yn bryder i lawer o rieni. Dyna pam mae’n thema amlwg yng nghyngor Get Safe Online i rieni (ac, yn wir, yng nghyngor llawer o sefydliadau cynghori eraill). Yn union fel perygl dieithriaid a’r duedd i orwario (neu wario o gwbl) ar eiddo, crwyn a neidio lefelau. Mae hyn yn arwain yn naturiol at fy mhwynt nesaf...

Pan fo gemau’n troi’n gamblo

Mae’n ymddangos bod gwario mewn gemau ar y nodweddion a grybwyllir uchod wedi dod yn rhan annatod o ran chwarae gemau ar-lein, ond os yw hynny’n peri pryder i rieni, dylai’r berthynas gyda gamblo achosi mwy o bryder fyth. Er enghraifft, mae nifer cynyddol o gemau yn denu chwaraewyr i gymryd siawns i weld beth fyddant yn ei ennill mewn cistiau trysor….. sy’n gadael i chwaraewyr dalu, gydag arian go iawn yn aml, am siawns i ennill eitem rithwir. Hyd yn oed os na ddefnyddir arian go iawn, mae hyn yn annog mentro ac ymddygiad tebyg i gamblo a allai fod yn niweidiol i iechyd meddwl, lles ariannol a pherthnasoedd o bosibl.

Nid yw cistiau trysor yn cael eu hystyried yn gamblo yn ôl y gyfraith yn y DU ac nid ydynt yn cael eu rheoleiddio, heblaw effeithio ar raddfeydd PEGI (addasrwydd oedran) gemau.

Yn Get Safe Online, ein polisi yw ‘rhannu nid dychryn’, ond yn wahanol i chwarae gemau, lle gallwch ymgolli yn yr hyn sy’n digwydd, mae pobl yn gallu mynd yn gaeth i gamblo ac nid oes unrhyw dda yn dod ohono. Yr unig rai sydd ar eu hennill yw’r gwefannau ac apiau gamblo, ac, yn fwyfwy, datblygwyr gemau fel y trafodwyd uchod.

Mae chwarae gemau ar-lein yn gallu bod yn beth da hefyd

Mae manteision amlwg a phrofedig i chwarae gemau ar-lein yn cynnwys y canlynol:

  • cefnogi datblygiad ystod eang o sgiliau gwybyddol ac echddygol
  • datblygu priodweddau fel meddwl yn strategol, rhesymoli, datrys problemau a dyfalbarhad
  • annog creadigrwydd
  • addysgu gwaith tîm, yn achos llawer o gemau chwarae rôl ar-lein enfawr gyda llawer o chwaraewyr (MMORPGs neu MMOs)
  • addysgu elfen gystadleuol, eto yn achos gemau sawl chwaraewr
  • cymdeithasu â ffrindiau, yn enwedig pan mae’n anodd gwneud hynny wyneb yn wyneb yn sgil cyfyngiadau amrywiol
  • dysgu gwerth arian a gwario’n ddoeth

Mae’r holl briodweddau hyn yn ddefnyddiol iawn wrth baratoi ein plant a phobl ifanc ar gyfer y bywyd o’u blaenau. Nid yn unig hyn, ond mae gemau yn aml yn arwain y ffordd o ran technoleg, gyda datblygiadau arloesol o ran galluoedd a nodweddion yn canfod eu ffordd nid yn unig i gynhyrchion defnyddwyr eraill, ond hefyd i’r sectorau amddiffyn, cyfathrebu a llawer mwy. Mae gemau yn paratoi plant a phobl ifanc i ddeall a chroesawu esblygiad a’i fanteision ond mae hefyd yn fan cychwyn i lawer o yrfaoedd llwyddiannus.

Siaradwch gyda’ch plant

P’un a ydym ni’n hoffi’r peth ai peidio, mae gemau ar-lein yn rhan fawr o fywydau llawer o’n plant, felly gadewch i ni ddathlu’r elfennau da, cymryd diddordeb ynddynt a gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn chwarae’n ddiogel. I helpu, rydym ni wedi llunio cyngor i helpu rhieni i wneud hynny, Eich plentyn a chwarae gemau ar-lein: yr hyn y mae angen i chi ei wybod.

Yn bersonol, dyw fy nwylo i ddim yn gwneud beth mae fy ymennydd yn dweud wrthyn nhw i’w wneud, felly yn anffodus dydw i ddim yn giamstar ar gemau.


 

Tim Mitchell

Cyfarwyddwr Cynnwys, Get Safe Online

Mae gan Tim gyfrifoldeb cyffredinol am gynnwys gwefannau Get Safe Online ar draws y byd a deunydd ymwybyddiaeth ar-lein ac all-lein arall y sefydliad nid-er-elw, ynghyd â’i weithgarwch cyfryngau cymdeithasol yn y DU. Hefyd, fel rhan o’r tîm cyfathrebu, mae’n gweithio’n agos ar gynllunio a chyflwyno ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth misol, gan gynnwys y rhai a gynhyrchir ar gyfer Amddiffyn i addysgu aelodau’r lluoedd arfog, sifiliaid a’u teuluoedd am ddatblygu arferion ar-lein da er budd diogelwch y wlad. Mae Tim hefyd yn cynrychioli Get Safe Online ar sawl corff sy’n arbenigo mewn atal twyll, gan gynnwys y sectorau elusennau a cherbydau modur. Mae’n mynychu nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus bob blwyddyn a gynhelir ar y cyd gan sefydliadau partner Get Safe Online ym meysydd gorfodi’r gyfraith, llywodraeth leol ac amddiffyn. Mae’n mwynhau cyfarfod aelodau’r cyhoedd a chlywed am eu profiadau ar-lein.