English

Mae sgrolio diddiwedd yn dechneg sy’n cael ei defnyddio gan rai llwyfannau a gwasanaethau ar-lein i gadw eich sylw a’ch annog i aros ar y gwasanaeth am gyfnod hirach. Wrth i chi dreulio mwy o amser yn pori, mae’n rhoi mwy o gyfle i'r gwasanaeth ddangos hysbysebion i chi a chasglu eich data, gan arwain at fwy o refeniw ar gyfer y gwasanaeth. Mae’n un o nifer o dechnegau sy’n cael eu defnyddio gan wasanaethau ar-lein a gwneuthurwyr dyfeisiau i’ch annog i dreulio mwy o amser gyda’u cynnyrch. Mae’r dechneg hon yn un o’r nifer o dechnegau y cyfeirir atyn nhw fel ‘nodweddion dylunio perswadiol’.

Mae nodweddion dylunio perswadiol yn defnyddio dulliau sydd wedi cael eu creu’n ofalus gan ddefnyddio seicoleg i ddylunio rhyngweithiadau mwy diddorol. Mae’r dulliau hyn yn manteisio ar y ffordd mae ein hymennydd yn prosesu gwybodaeth ac yn blaenoriaethu ein sylw. Mae nodweddion fel hysbysiadau, lle bydd eich dyfais yn eich atgoffa gyda synau a nodweddion gweledol, wedi’u dylunio i dynnu ein sylw’n ôl at ap neu ddyfais.

Mae nodweddion dylunio perswadiol yn ein hannog i barhau i ddefnyddio gwasanaeth drwy ‘wobrwyon amrywiol’. Gallai sgrolio drwy ffrwd cyfryngau cymdeithasol ein harwain at rywbeth cyffrous neu annisgwyl, ond dydyn ni byth yn gwybod pryd gallai hyn ddigwydd. Mae’r ffaith ein bod yn disgwyl gweld rhywbeth diddorol neu’r ‘ofn o golli allan’ yn ein hannog i ddal ati i sgrolio yn yr un ffordd â dileu ‘arwyddion atal’ (fel diwedd tudalen) sy’n ein helpu ni i wybod pan fyddwn wedi cwblhau gweithgaredd.

Mae’r nodwedd hon wedi’i dylunio i ysgogi ein hymennydd i gynhyrchu dopamin, sef niwrodrosglwyddydd sy’n gallu effeithio ar ein hwyliau a’n canfyddiad o amser, yn ogystal â chreu ymddygiad sy’n creu arferion.

Mae chwilio am yr hapusrwydd sy’n cael ei ysgogi gan y math yma o ddyluniad yn gallu arwain at dreulio gormod o amser o flaen sgrin, sy’n gallu effeithio’n negyddol ar agweddau ar fywyd plentyn fel cwsg, iechyd corfforol a lles meddyliol.

Ar y cyfryngau cymdeithasol, lle mae’r nodwedd sgrolio ddiddiwedd hon yn cael ei defnyddio amlaf, gall arwain at blant a phobl ifanc yn:

  • teimlo dan bwysau i fod yn boblogaidd ac i gael eu derbyn
  • cymharu eu bywydau ag eraill
  • treulio gormod o amser ar apiau, gwasanaethau a dyfeisiau
  • cael sylwadau negyddol neu niweidiol
  • creu canfyddiad gwyrdröedig o realiti, sydd yn ei dro yn gallu effeithio ar benderfyniadau a allai ymwneud â risg neu niwed.

Mae rhagor o wybodaeth am sut mae nodweddion dylunio perswadiol yn gallu rhoi plant a phobl ifanc mewn perygl ar gael yn ‘Pathways: How digital design puts children at risk’ (Saesneg yn unig) adroddiad gan 5Rights Foundation.

Mae’n bwysig bod ysgolion yn addysgu dysgwyr am nodweddion dylunio perswadiol a’r effaith y gallen nhw ei chael ar iechyd a lles, yn ogystal â’u cefnogi i ddatblygu strategaethau i liniaru’r risgiau hyn. Mae codi ymwybyddiaeth a chyfeirio at gyngor i deuluoedd hefyd yn allweddol i ddiogelu dysgwyr yn erbyn y risgiau ar-lein maen nhw’n eu hwynebu y tu allan i’r ysgol.

Gall ein canllawiau ‘Bydd wybodus’ roi’r wybodaeth allweddol sydd ei hangen ar deuluoedd i helpu pobl ifanc i gychwyn ar eu teithiau digidol yn ddiogel. Mae pob canllaw yn cynnwys trosolwg manwl o’r ap, gan amlinellu’r sgôr oedran a’r derminoleg allweddol y dylai teuluoedd fod yn ymwybodol ohoni. Mae datblygu perthnasoedd ac agweddau iach at ddefnyddio technoleg a gwasanaethau ar-lein yn helpu dysgwyr i ennill sgiliau bywyd hanfodol a chydnerthedd digidol a fydd nid yn unig yn eu diogelu rhag risgiau ar-lein drwy gydol eu plentyndod ond hefyd yn eu bywydau fel oedolion.

Gall rhai o effeithiau tymor hir posibl nodweddion dylunio perswadiol (fel diffyg cwsg neu ddefnydd problemus) arwain at broblemau diogelu. Dyma pam y dylai staff ysgolion fod yn ymwybodol o’r ffactorau posibl hyn. Mae diogelu pob dysgwr yn un o brif bryderon ysgolion, ac felly dylai’r holl staff ddeall gweithdrefnau diogelu’r ysgol a gallu rheoli datgeliadau a phryderon yn briodol.

Gallwch ddod o hyd i sgrolio diddiwedd a nodweddion dylunio perswadiol eraill mewn amrywiaeth eang o apiau, gwasanaethau a dyfeisiau y gall dysgwyr eu defnyddio. Felly, dylai staff ysgolion fod yn ofalus wrth ddewis pa offer i’w defnyddio mewn ysgolion, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw nodweddion dylunio perswadiol yn bresennol neu y gellir eu lleihau. Efallai yr hoffech ddarllen ‘Safonau a Chanllawiau Digidol Addysg’ i gael cymorth neu os nad ydyn nhw’n siwr am unrhyw oblygiadau.

Yn y DU, mae’r diwydiant technoleg yn cael ei annog i gynyddu ei gyfrifoldeb dros les a diogelwch plant a phobl ifanc a’u data, gan gynnwys peidio â defnyddio nodweddion dylunio perswadiol (sydd hefyd yn cael eu hadnabod yn dechnegau ‘gwthio’) mewn gwasanaethau sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant a phobl ifanc. Nod y Cod Plant, a ddaeth i rym ym mis Medi 2021, yw sicrhau bod gan blant ddiogelwch sylfaenol yn awtomatig, er mwyn sicrhau eu bod wedi’u diogelu yn y byd digidol yn hytrach na chael eu diogelu rhagddo, gan roi’r cyfle iddyn nhw archwilio a datblygu ar-lein o hyd.

Dylid rhoi gwybod am bryderon ynghylch defnydd dysgwr o dechnoleg, yn unol â gweithdrefnau diogelu eich ysgol, i’r person diogelu dynodedig, a fydd yn gofyn am gymorth allanol pan fo angen.

Gall llywodraethwyr sydd angen cefnogaeth gydag unrhyw faterion diogelwch ar-lein sy’n ymwneud â dysgwyr, eu hunain neu eu sefydliad, gan gynnwys pryderon am ddefnydd gormodol neu broblemus dysgwr o dechnoleg, gysylltu â’r Professionals Online Safety Helpline i gael rhagor o wybodaeth ac i gael gwybod pa gamau mae modd eu cymryd i reoli digwyddiadau ar-lein sy’n cynnwys aelodau o gymuned eich ysgol.

Mae rhagor o wybodaeth ac ymchwil ar ddefnydd plant o dechnoleg a’r cyfryngau ar gael ar wefan Ofcom.