English

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Amser sgrin yw’r amser a dreulir yn defnyddio unrhyw ddyfais â sgrin fel ffôn clyfar, llechen, cyfrifiadur neu gonsol gemau. Mae cydbwyso amser sgrin wedi dod yn ystyriaeth bwysig i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn defnyddio technoleg mewn ffordd gadarnhaol ac iach. O’i reoli’n gywir, gall amser sgrin fod yn addysgol, yn llawn gwybodaeth, ac yn ffordd wych i blant gadw cysylltiad â ffrindiau a theulu. Dim ond pan fo plant a phobl ifanc yn mynd yn ddibynnol arno a’i fod yn dechrau effeithio ar bethau eraill yn eu bywyd y mae’n mynd yn broblem.

Gall gormod o amser sgrin effeithio ar ymddygiad, cwsg a gallu canolbwyntio plant. Gall hefyd arwain at lai o weithgarwch corfforol a rhyngweithio cymdeithasol.

Adnoddau dysgu ac addysgu

Deunyddiau gweithdy i rieni a gofalwyr

Deunyddiau i ysgol gynnal gweithdy i rieni a gofalwyr ar amser sgrin.