Safonau a Chanllawiau Digidol Addysg
-
- Rhan o:
- Canolfan Cymorth
Bydd y Safonau Digidol ar gyfer y maes Addysg sydd isod yn helpu ysgolion i ddeall, rheoli a gweithredu eu hamgylchedd digidol eu hunain neu gyda chymorth eu Partner ym maes Technoleg Addysg. Mae'r Safonau hefyd yn cynnig canllawiau ar sut y dylai ysgolion sicrhau bod eu hamgylchedd digidol yn un sy'n diwallu anghenion cwricwlwm ysgol sy'n rhoi mwy o sylw i sgiliau digidol at y dyfodol.
Bwriedir i'r Safonau hyn ateb y diben drwy weithredu fel arferion gorau er mwyn bodloni anghenion digidol. Fodd bynnag, derbynnir bod ysgolion yn gweithredu ar adnoddau prin a bod rhaid iddynt gynllunio i gyflawni'r Safonau dros amser.
Gall eich awdurdod lleol gynnig cyngor a chyfarwyddyd ichi ar sut y gallwch gyflawni'r Safonau hyn.
Dylai’r holl waith seilwaith sy’n cael ei gwblhau er mwyn bodloni’r Safonau gael ei ystyried a’i gynllunio’n ofalus, ei gaffael yn unol â rheoliadau caffael cenedlaethol a’i roi ar waith gan sefydliadau proffesiynol.
Safonau
- Safonau cysylltedd (band eang)
Ystyriaethau a gofynion i atebu anghenion cysylltedd ysgolion
- Diogelwch rhwydweithiau a data
Ystyriaethau technegol a safonau i'w hystyried am bob agwedd o rhwydweithio a diogelwch data
- Safonau cabinet rhwydwaith data
Rheolaeth a cynhaliaeth offer rhwydwaith gan gynnwys chynaliadwyedd, diogelwch a sicrwydd
- Safonau llwybryddion a switsys
Offer rhwydwaith a rheoli gallu llwybryddion a switsys o fewn ysgolion
- Safonau ceblau
Gosod, cynnal a rheoli ceblau rhwydwaith ysgolion
- Safonau rhwydwaith di-wifr
Gosod a chynnal effeithiol o rhwydwaith di-wifr gan gynnwys defnydd derbyniol
- Safonau rheoli dyfeisiau
Ystyriaethau a dulliau technegol am rheoli dyfeisiau ar draws amgylcheddau digidol ysgolion
- Safonau teleffoni a VoIP
Rheoli systemau, cynhwysedd a chyfluniad am rhwydwaith i gyfeirio Teleffoni o fewn ysgolion
- Safonau hidlo cynnwys y we
Cyfrifoldebau a phrif ystyriaethau wrth gweithredu hidlo cynnwys y we yn ôl categori
Canllawiau
- Safonau cynllunio a rheoli
Arweiniad i ysgolion ar integreiddio TG a seilwaith digidol o fewn gynllunio strategol ysgol
- Dod a'ch dyfais eich hun canllawiau
Canllawiau ysgolion sy’n ystyried cynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun
- Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn addysg
Cyfleoedd ac ystyriaethau ar gyfer ysgolion a lleoliadau o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol
Dogfennau
- Addysg Safonau Digidol: fersiwn Excel xlsx 56 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath