English

Nod Rhaglen Hwb yw manteisio ar botensial technoleg ddigidol ddwyieithog arloesol i greu ecosystem ddiogel, wedi'i phersonoli, sy'n galluogi ysgolion i baratoi eu dysgwyr i ffynnu mewn cymdeithas ddigidol fyd-eang.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu dull cenedlaethol sy'n cynnig ystod eang o offer, adnoddau a gwasanaethau dwyieithog. Drwy'r dull uniongyrchol hwn, ein nod yw galluogi ysgolion i fanteisio i'r eithaf ar fuddion trawsnewidiol technoleg ddigidol mewn addysg.

Mae Hwb yn rhoi llwyfan digidol i ysgolion a gynhelir yng Nghymru fel sail i'r Cwricwlwm i Gymru. Gallwn helpu i alluogi ac ysbrydoli dysgwyr ac ymarferwyr i wreiddio arferion digidol yn hyderus trwy ddatblygu:

  • cymwyseddau digidol
  • sgiliau digidol
  • diwylliant digidol

Rydym yn mynd ati, yn y bôn, i herio a newid y dirwedd ddigidol mewn ysgolion. Bydd hyn yn cynnig dull cwbl gynaliadwy, gyda thechnoleg ddigidol yn cael ei chydnabod yn 'bedwerydd cyfleustod'. Mae rhaglen Hwb yn cael ei gyrru gan set o egwyddorion arweiniol strategol sy'n rhoi ein dysgwyr a'n hymarferwyr wrth wraidd popeth a wnawn.

Nodau strategol hirdymor y rhaglen hon yw galluogi dull 'Unwaith i Gymru'. Bydd y dull hwn yn:

  • cefnogi ysgolion i gyflwyno ein Cwricwlwm arloesol i Gymru
  • gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd y mae technoleg ddigidol yn eu cyflwyno i leihau biwrocratiaeth ddiangen er mwyn cefnogi arweinwyr ysgol a’r baich ar ein gweithlu
  • cefnogi awdurdodau lleol i drawsnewid amgylcheddau dysgu, gan gyfrannu at ddatblygu ysgolion carbon sero net a gwella cyfleusterau ysgolion ar gyfer cymunedau lleol

Mae rhaglen Hwb yn cyd-fynd â'r Strategaeth Ddigidol i Gymru. Yn benodol, mae'n cyfrannu at:

  • ddatblygu dull clir ar gyfer fframwaith sgiliau a hyder digidol cynhwysol, gan adeiladu ar fentrau sy’n bodoli eisoes, o fyd addysg hyd at y gweithle
  • parhau i roi cymorth sy'n gwella technoleg ddigidol wrth gyflwyno dysgu a chanfod cyfleoedd pellach

Mae'r trosolwg canlynol yn amlinellu'r dull cyffredinol o ddarparu gwasanaethau digidol sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni ein nodau strategol hirdymor.

Mae Rhaglen Hwb yn datblygu ac yn gweithredu dull strategol a chynaliadwy o wreiddio gwasanaethau digidol ym mhob ysgol a gynhelir drwy:

  • gydnabod a deall sut y gall blaenoriaethau addysg elwa o raglenni gwaith trawslywodraethol drwy grŵp arwain yn y sector
  • codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd technoleg ddigidol wrth gefnogi trawsnewid arferion ystafell ddosbarth sy'n sail i’r Cwricwlwm i Gymru
  • cydweithio ag awdurdodau lleol a phartneriaid gwella ysgolion i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ysgolion yn barhaus o dechnoleg ddigidol fel y 'pedwerydd cyfleustod'
  • datblygu rhaglen gadarn o newid digidol i gwrdd â heriau'r presennol a'r dyfodol
  • coleddu dull cenedlaethol rhagweithiol o ymdrin â chyfleoedd newydd sy'n deillio o dechnoleg sy'n dod i'r amlwg ar draws y sector technoleg addysg
  • sbarduno cydweithio ar draws Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid gwella ysgolion

Nod Rhaglen Hwb yw darparu llwybr syml a chydymffurfiol i'r farchnad i ysgolion er mwyn prynu offer a gwasanaethau priodol am y pris mwyaf cost-effeithiol. Mae’r rhaglen yn:

  • manteisio i’r eithaf ar ein perthynas â chyflenwyr allweddol er budd pob ysgol a gynhelir
  • parhau i esblygu'r gwasanaeth caffael cenedlaethol ar gyfer offer a gwasanaethau technoleg addysg
  • canfod cyfleoedd i gynnwys offer a gwasanaethau arloesol i sicrhau bod y gwasanaeth caffael technoleg addysg yn diwallu anghenion y sector
  • manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd caffael cenedlaethol i wneud y mwyaf o fuddsoddiad a sicrhau darbodion maint ar lefel genedlaethol

Nod Rhaglen Hwb yw sicrhau bod seilwaith cenedlaethol addas ar waith i gefnogi anghenion ysgolion yn gyson wrth gyrchu a defnyddio gwasanaethau digidol drwy:

  • weithio mewn partneriaeth â thîm Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus i sicrhau bod cysylltedd digidol yn diwallu anghenion ac uchelgeisiau ysgolion
  • darparu integreiddio di-dor a mynediad at wasanaethau addysg priodol gan ddefnyddio ein gwasanaeth hunaniaeth cenedlaethol
  • cefnogi awdurdodau lleol i sicrhau bod y seilwaith digidol yn diwallu anghenion ysgolion gyda dull 'troi ymlaen ac mae'n gweithio'
  • sicrhau bod safonau a chanllawiau digidol addysg yn esblygu yn unol ag anghenion ysgolion a safonau presennol y diwydiant
  • cefnogi awdurdodau lleol i fanteisio i'r eithaf ar seilwaith addysg cenedlaethol gan gyflawni ffyrdd mwy effeithlon ac effeithiol o weithio

I gefnogi ysgolion i gyflwyno cenhadaeth ein cenedl yn ddigidol, mae rhaglen Hwb yn:

  • sicrhau bod gan bob ysgol fynediad cyson a chyfartal at ystod o wasanaethau a chynnwys dwyieithog
  • nodi gwasanaethau a rennir i ysgolion sy'n cynnig ffyrdd mwy effeithlon o weithio neu’n cael gwared ar gymhlethdod a chostau o gyllidebau ysgolion
  • cydweithio â'r sector i ddarparu a moderneiddio gwasanaethau gan sicrhau eu bod yn syml, yn ddiogel ac wedi'u dylunio o amgylch anghenion defnyddwyr
  • nodi cyfleoedd i helpu i leihau cost y diwrnod ysgol drwy roi mynediad at wasanaethau digidol hyblyg ar unrhyw adeg, yn unrhyw le i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad

Mae sicrhau diogelwch ein dysgwyr a'n lleoliadau addysg, a’u diogelu’n effeithiol, yn hollbwysig. Mae’r rhaglen yn:

  • darparu cynllun gweithredu cenedlaethol i wella cadernid digidol ac amddiffyn plant a phobl ifanc ar-lein
  • darparu newyddion, adnoddau, canllawiau, a chyfeirio at ffynonellau arbenigedd eraill i gefnogi cadernid digidol yn y Cwricwlwm i Gymru
  • cydweithio ag arbenigwyr yn y diwydiant ac adrannau Llywodraeth y DU ac Ofcom i lywio datblygiad polisïau a rheoleiddio, fel y Ddeddf Diogelwch Ar-lein
  • darparu gweithgareddau cydgysylltiedig i gefnogi ysgolion gyda'u rhwymedigaethau diogelu a seiberddiogelwch gan gynnwys yr adnodd hunanasesu 360 safe Cymru
  • codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein a chadernid digidol drwy weithgareddau cyfathrebu a hyrwyddo i atgyfnerthu pwysigrwydd defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg ddigidol
  • ymgysylltu â dysgwyr ac ymarferwyr i sicrhau bod adnoddau'n hygyrch, yn gyfredol ac yn ddibynadwy

Mae Rhaglen Hwb yn cefnogi ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol i fanteisio i'r eithaf ar wasanaethau a thechnoleg ddigidol i gefnogi dysgu ac addysgu. Mae'r rhaglen yn hwyluso:

  • cydweithio ag awdurdodau lleol, partneriaid gwella ysgolion ac arweinwyr technoleg byd-eang i gefnogi ysgolion i ganfod a rhannu addysgeg ddigidol effeithiol
  • cyfleoedd dysgu proffesiynol i helpu i wella cymhwysedd digidol y gweithlu