English

Hwb

Gwella cadernid digidol mewn addysg: Cynllun gweithredu i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein

Ein nod ni, Llywodraeth Cymru, gan weithredu ar ran Gweinidogion Cymru, yw helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cynnwys anghyfreithlon, niweidiol ac anwir ar y rhyngrwyd a hyrwyddo ymddygiad diogel, cyfrifol ac ystyriol ar-lein.

Mae’r rhyngrwyd yn rhan annatod o fywydau plant a phobl ifanc ac mae’n cynnig cyfleoedd iddynt gymdeithasu, cyfathrebu, cael eu difyrru, dysgu a dod o hyd i gymorth. Gall hefyd gael ei gamddefnyddio gan unigolion â bwriad maleisus i dargedu grwpiau ac unigolion sy’n agored i niwed yn ein cymdeithas.

Beth yw cadernid digidol?

Mewn byd digidol lle mae technoleg bellach yn rhan annatod o lawer o agweddau ar ein bywydau, mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi ein plant a’n pobl ifanc i ddatblygu’n unigolion sy’n ddigidol-gadarn. Mae cadernid digidol yn ymwneud â’r angen i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a strategaethau er mwyn i blant a phobl ifanc allu:

  • rheoli eu profiad ar-lein yn ddiogel ac yn gyfrifol a diogelu eu hunaniaeth ddigidol ar yr un pryd
  • nodi a lliniaru risgiau er mwyn cadw’n ddiogel rhag niwed ar-lein
  • deall pwysigrwydd defnyddio ffynonellau dibynadwy a defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol i adnabod camwybodaeth
  • gofyn am help pan fydd ei angen arnynt
  • dysgu o’u profiadau ac adfer pan fydd pethau’n mynd o chwith
  • ffynnu a chael budd o’r cyfleoedd a gynigir gan y rhyngrwyd.

Mae meithrin cadernid digidol yn ein plant a’n pobl ifanc hefyd yn dibynnu ar gadernid ein teuluoedd a’n cymunedau. Nod Rhaglen Hwb yw sicrhau bod yr adnoddau, yr wybodaeth a’r canllawiau diweddaraf ar gael i ddysgwyr, teuluoedd, ymarferwyr addysg, gweithwyr proffesiynol a llywodraethwyr er mwyn gwella eu cadernid digidol.

Mae ein dull o sicrhau cydnerthedd digidol yn canolbwyntio ar dri maes allweddol – diogelwch ar-lein, cadernid seiber a diogelu data. Rydym yn ceisio rhoi gwybodaeth, sgiliau a strategaethau rhagorol i'n plant a'n pobl ifanc yn y meysydd hyn a hefyd i gydnabod pryd i gael gafael ar gymorth a chefnogaeth a ble i ddod o hyd iddo

Diogelwch ar-lein

Mae cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein yn fater diogelu hanfodol bwysig yn yr unfed ganrif ar hugain. Rydym wedi ymrwymo i feithrin a hyrwyddo'r defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg i blant a phobl ifanc drwy sicrhau bod strwythyr cymorth o’u hamgylch. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol sy’n fedrus a theuluoedd yn ymwybodol o sut i gefnogi eu plant yn eu bywydau ar-lein. Ein bwriad yw amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed drwy gefnogi teuluoedd, ymarferwyr, llywodraethwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i greu diwylliant lle mae cadw plant yn ddiogel ar-lein yn fusnes i bawb.

Mae ein hadran Cadw’n ddiogel ar-lein wedi cael ei llunio a’i datblygu er mwyn helpu i sicrhau diogelwch ar-lein mewn addysg ledled Cymru. Mae’n cynnig cyfres helaeth o adnoddau dwyieithog cyfredol, canllawiau Llywodraeth Cymru a dolenni i ffynonellau cymorth pellach ar ystod o faterion sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein.

Mae hefyd yn cynnwys adnoddau dwyieithog sydd wedi cael eu creu neu eu datblygu ar y cyd â phartneriaid allweddol, megis yr NSPCC, SWGFL, Common Sense Media a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.

Seiber ddiogelwch

Seiber ddiogelwch yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio sut y gall unigolion a sefydliadau leihau’r risg o ymosodiadau seiber. Prif ddiben seiber ddiogelwch yw sicrhau bod y dechnoleg sy’n cael ei defnyddio gennym (dyfeisiau megis cyfrifiaduron, llechi a ffonau clyfar) a’r gwasanaethau rydym yn eu defnyddio ar-lein yn cael eu diogelu rhag y risg sy’n gysylltiedig â seiber droseddu gan gynnwys dwyn er elw megis ymosodiadau meddalwedd wystlo a cheisio mantais gystadleuol, neu ddifrod maleisus y bwriedir iddo amharu ar allu sefydliad i weithredu’n effeithiol. Rydym yn storio llawer iawn o wybodaeth bersonol a sefydliadol ar ddyfeisiau a gwasanaethau, ac mae atal yr wybodaeth hon rhag cael ei gweld gan rywun heb awdurdod yn hanfodol.

Mae’r strategaeth o gynnwys seiber ddiogelwch o fewn cadernid digidol yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:

  • rhoi canllawiau a chymorth i ysgolion er mwyn iddynt fabwysiadu dull cadarn o ymdrin â seiber ddiogelwch, sy’n sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau a safonau
  • codi ymwybyddiaeth o ganllawiau arferion gorau a hyfforddiant ar seiber ddiogelwch ar gyfer dysgwyr a gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru
  • ceisio meithrin talent a hybu cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer gyrfa ym maes seiber ddiogelwch i ddysgwyr o Gymru.

Diogelu data

Ers 1998, mae’n ofynnol i unrhyw sefydliad sy’n prosesu data personol yn y DU gydymffurfio â chyfreithiau diogelu data. Ym mis Mai 2018, daeth y newidiadau mwyaf sylweddol i’r cyfreithiau hyn a welwyd ers 20 mlynedd i rym. Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yr UE yn gymwys i bob sefydliad sy’n prosesu data personol am ddinasyddion Ewrop. Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn gymwys i bob sefydliad yn y DU sy’n prosesu data personol am ddinasyddion y DU, ac mae’n egluro’r GDPR ac yn ychwanegu ato.

Mae a wnelo diogelu data â dangos cydymffurfiaeth barhaus â’r cyfreithiau a dylai pob ysgol neu leoliad fod yn adolygu sut mae’n cydymffurfio â’r GDPR a Deddf Diogelu Data 2018 yn rheolaidd er mwyn diogelu’r data personol sydd ganddi/ganddo, yn ogystal â sicrhau bod eu polisïau a’u prosesau rheoli cofnodion yn gyfredol.

Mae dysgu sut i ddiogelu eu data personol yn elfen hollbwysig o’r broses o helpu dysgwyr i feithrin cadernid digidol. Bob tro y byddwn yn mynd ar-lein, p’un a fyddwn yn gwneud hynny er mwyn chwilio am wybodaeth, siopa, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol neu anfon negeseuon e-bost, byddwn yn rhannu gwybodaeth amdanon ni ein hunain. Mae rhannu ein data yn ein helpu i gael gafael ar wybodaeth, defnyddio gwasanaethau a chadw mewn cysylltiad â’n teulu, ein ffrindiau a’n cymunedau. Fodd bynnag, mae eich data yn perthyn i chi ac mae cyfreithiau diogelu data yn bodoli er mwyn gwneud yn siŵr bod data pawb yn cael eu defnyddio’n briodol ac yn gyfreithlon.

Mae dod yn ddigidol-gadarn yn cynnwys deall:

  • pam mae eich data yn bwysig
  • pwy sy’n defnyddio eich data personol a pham
  • sut y gallwch ddiogelu eich data ar-lein
  • eich hawliau o ran data personol o dan gyfraith yr UE/y DU.

Yn 2017, comisiynydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y pryd gynllun gweithredu diogelwch ar-lein er mwyn darparu ffocws strategol a chydgysylltu gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru i wella diogelwch ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc. Cyhoeddwyd y 'Cynllun gweithredu diogelwch ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru', sef y cyntaf o’i fath yn 2018 ac roedd yn nodi 46 o gamau allweddol i’w cymryd gennym ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol gyda’r nod ganolog o gefnogi ac amddiffyn plant a phobl ifanc ar-lein.

Yn 2019, cyhoeddwyd ein diweddariad blynyddol cyntaf o’r cynllun gweithredu gwreiddiol. Roedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a oedd wedi’i wneud yn erbyn pob cam gweithredu, yn crynhoi’r gweithgareddau a oedd wedi’u cyflawni hyd hynny ac yn amlinellu cynlluniau ac ymrwymiadau ar gyfer y dyfodol. Ychwanegwyd 15 o gamau gweithredu at y cynllun gweithredu yn 2019 er mwyn adlewyrchu ffrydiau gwaith newydd a oedd yn cael eu datblygu.

Mae cynllun gweithredu 2020 wedi ymestyn y cwmpas er mwyn ystyried meysydd seiber gadernid a diogelu data ac mae ganddo fformat newydd ar ffurf yr adran ar-lein hon ar Hwb. Mae’r wybodaeth yn yr adran hon yn rhoi’r ail ddiweddariad blynyddol o’r cynllun gweithredu diogelwch ar-lein sydd wedi’i ailenwi er mwyn adlewyrchu’r sefyllfa ddigidol sy’n datblygu.

Bydd yr wybodaeth a roddir yn yr adran hon yn amlinellu’r hyn a gyflawnwyd a’r cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o’r camau gweithredu o gynllun gweithredu 2019, yn ogystal â statws pob cam gweithredu o 2019. Mae hefyd yn cynnwys 24 o gamau gweithredu newydd a ychwanegwyd er mwyn llunio’r cynllun gweithredu ar gyfer 2020.


Rhaglen Hwb yw ein rhaglen weithredu i wella’r defnydd a wneir o dechnoleg ddigidol ar gyfer dysgu ac addysgu mewn ysgolion. Mae Rhaglen Hwb yn cwmpasu sawl maes gwaith sy’n cynnwys buddsoddi mewn band eang, seilwaith technoleg addysg mewn ysgolion a llwyfan Hwb sy’n cynnwys sawl gwasanaeth cwmwl. Drwy’r rhain, rydym wedi darparu llwyfan cenedlaethol gan sicrhau bod dysgu digidol wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru a gaiff ei gyflwyno o fis Medi 2022 ymlaen.

Rydym wedi buddsoddi dros £45 miliwn er mwyn darparu cysylltedd cyflym iawn i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru, gan gynnwys £18 miliwn i uwchraddio seilwaith mewn ysgolion.

Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi datblygu llwyfan dysgu digidol Hwb y bwriedir iddo wella’r defnydd a wneir o dechnoleg ddigidol ar gyfer dysgu ac addysgu ym mhob ysgol ledled Cymru. Mae’n galluogi pob dysgwr, athro, ysgol a gynhelir a choleg, a rhanddeiliaid eraill, megis athrawon dan hyfforddiant ac athrawon cyflenwi, i fanteisio ar amrywiaeth o seilwaith, offer ac adnoddau digidol dwyieithog, gan gynnwys cytundeb trwyddedu Microsoft Education i Gymru gyfan sy’n helpu i drawsnewid dysgu ac addysgu digidol yng Nghymru.

Er mwyn sicrhau bod gan ein hysgolion y seilwaith technoleg addysg priodol, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg becyn cyllid gwerth £50 miliwn ym mlwyddyn ariannol 2019/20 a alluogodd awdurdodau lleol i uwchraddio’r seilwaith ym mhob ysgol a gynhelir ledled Cymru. Prynwyd dros 340,000 o gynhyrchion, gan gynnwys 35,912 o ddyfeisiau defnyddiwr newydd.

Drwy’r buddsoddiad mewn band eang, seilwaith technoleg addysg a llwyfan Hwb, rydym wedi darparu llwyfan cenedlaethol a all gefnogi a sicrhau trawsnewid gwirioneddol i’r sector addysg.

Fel rhan o Raglen Hwb, rydym yn ymrwymedig i ymgorffori cadernid digidol ym mhob ysgol yng Nghymru. Gan adeiladu ar y cymorth helaeth a gynigir drwy’r gweithgareddau diogelwch ar-lein arbenigol, rydym yn cydnabod pwysigrwydd seiber gadernid ac wedi datblygu gweithgareddau yn y maes pwysig hwn gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu haddysgu i ddefnyddio adnoddau digidol a’r rhyngrwyd yn ddiogel ac yn briodol.

Cyhoeddwyd canllawiau Cwricwlwm i Gymru ym mis Ionawr 2020. Ei nod yw helpu pob ysgol i ddatblygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi ei dysgwyr i ddatblygu tuag at bedwar diben y cwricwlwm – sef y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Nod Cwricwlwm i Gymru yw sicrhau bod pob un o’n dysgwyr yn meddu ar sgiliau digidol lefel uchel. Rydym am sicrhau bod ein pobl ifanc yn gymwys ac yn gadarn yn ddigidol a’u bod yn datblygu’n feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol.

Mae Cwricwlwm i Gymru, a ddatblygwyd gan ymarferwyr a rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys chwe maes dysgu a phrofiad sy’n cynnwys Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, lle mae cyfrifiant yn elfen newydd i ddysgwyr 3 i 16 oed er mwyn diwallu anghenion diwylliant ac economi sy’n newid yn yr unfed ganrif ar hugain.

Bydd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn gyfrifoldebau statudol ym mhob maes dysgu a phrofiad o fewn Cwricwlwm i Gymru. Bu arloeswyr digidol yn gweithio ochr yn ochr ag arloeswyr y cwricwlwm er mwyn sicrhau bod cymhwysedd digidol yn cael ei ymgorffori o fewn Cwricwlwm i Gymru.

Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y bydd diwydiannau digidol yn ei chwarae yn ein dyfodol ac, felly, mae cefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithlu seiber ddiogelwch yng Nghymru yn hanfodol. Drwy ein gweithgarwch ym maes cadernid digidol mewn addysg, ein nod yw creu llif talent, sy’n datblygu ein pobl ifanc i fod â dyheadau gyrfa ym maes seiber ddiogelwch er mwyn sicrhau bod gan Gymru dyfodol diogel, cadarn a ffyniannus.

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw mynd i’r afael â’r heriau hirdymor mewn cymunedau yng Nghymru er mwyn ceisio creu Cymru y mae pob un ohonom am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r cynllun gweithredu hwn yn cefnogi’r ymrwymiad i gyflawni’r saith nod llesiant a amlinellir yn y Ddeddf, gan sicrhau gweledigaeth a dull gweithredu cydweithredol.

Mae creu cyflogaeth sgìl uchel i ddinasyddion Cymru yn hanfodol. Gan gydnabod y twf mewn cyfleoedd cyflogaeth sy’n seiliedig ar wasanaethau a alluogir gan dechnoleg, mae’r camau gweithredu a amlinellir yn y cynllun hwn yn ceisio creu llwybrau i ddysgwyr yng Nghymru fanteisio ar swyddi sy’n rhoi boddhad.

Mae meithrin cadernid digidol ymhlith ein plant a’n pobl ifanc yn eu paratoi i fod yn ddinasyddion cyflawn a chytbwys sy’n cydnabod effaith eu gweithredoedd. Mae sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn defnyddio technoleg yn gyfrifol er mwyn meithrin diwylliant lle nad yw’r rhyngrwyd yn amharu ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn hanfodol.

Mae cefnogi datblygiad cymdeithasol a diwylliannol ein plant a’n pobl ifanc, gan gynnwys hyrwyddo gwerthoedd megis goddefgarwch a pharch tuag at eraill ym mhob amgylchedd, yn amcan cyffredinol arall yr aethom ati i’w gyflawni drwy ein gweithgareddau addysg diogelwch ar-lein.

Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn un o brif nodau’r cynllun gweithredu hwn ac mae hyn yn ymestyn o addysg, a sicrhau bod adnoddau hawdd eu defnyddio ar gael i bob ymarferydd a phlentyn a pherson ifanc er mwyn cefnogi dysgu, i hyrwyddo cynhwysiant digidol yn fwy cyffredinol mewn cymunedau. Mae hyn yn cydnabod y ffaith bod mynediad at dechnoleg a chymhwysedd digidol yn dod yn fwyfwy pwysig ac, yn y dyfodol, y bydd yn ofyniad hanfodol er mwyn llwyddo ym mhob agwedd ar fywyd.

Ffactor ysgogi arall yw sicrhau na chaiff Cymru na’r Gymraeg eu gadael ar ôl ac y gallant fod yn flaengar yn y maes hwn sy’n datblygu’n gyflym. Ein nod yw sicrhau bod yr holl wybodaeth a chyngor yn ddwyieithog ac mae’r camau gweithredu yn y cynllun hwn yn dangos ein hymrwymiad i nodi unrhyw fylchau neu feysydd i’w gwella yn y cyngor, y cymorth a’r gwasanaethau a gynigir, a dod o hyd i atebion arloesol er mwyn mynd i’r afael â hyn.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn gytundeb rhyngwladol sy’n diogelu hawliau dynol plant o dan 18 oed. Rydym yn gwbl ymrwymedig i wireddu egwyddorion CCUHP i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Caiff y cynllun gweithredu hwn effaith gadarnhaol a bydd yn cyfrannu at wireddu erthyglau CCUHP i blant yng Nghymru a’u budd pennaf sydd wrth wraidd pob un o’r camau gweithredu (erthygl 3).

Mae hefyd yn cydnabod bod amgylcheddau ar-lein yn galluogi plant a phobl ifanc i arfer amrywiaeth eang o’u hawliau, gan gynnwys yr hawl i fod yn ddiogel.

Un o amcanion allweddol y cynllun gweithredu hwn yw helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu’n ddinasyddion digidol cyfrifol, sydd â chysylltiadau amlwg â nifer o erthyglau CCUHP. Mae hyn yn cynnwys helpu plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial, yn bennaf mewn cyd-destun addysgol (erthyglau 17 a 29).

Mae’r adnoddau addysgol sydd ar gael ar adran Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb wedi’u creu er mwyn galluogi plant a phobl ifanc i feithrin dealltwriaeth nid yn unig o’u hawliau eu hunain (erthygl 42), ond hefyd o’r ffordd y gall rhai mathau o ymddygiad dresmasu ar hawliau pobl eraill, e.e. drwy amlinellu’r gwahaniaeth rhwng rhyddid mynegiant (erthygl 13) a chasineb ar-lein.

Un o brif nodau gweithgareddau cadernid digidol mewn addysg yw codi ymwybyddiaeth o broblemau y gall plant a phobl ifanc eu hwynebu ar-lein, megis bwlio neu wahaniaethu (erthygl 2) neu gamfanteisio rhywiol (erthygl 34), a rhoi gwybodaeth a chyngor i ymarferwyr, plant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Mae hyn yn cynnwys cyfeirio at gymorth neu wasanaethau cofnodi digwyddiadau sydd ar gael.

Er bod risgiau yn cael eu nodi, nid osgoi technoleg yw’r neges ond, yn hytrach, y dylid ei defnyddio’n gyfrifol a chymhwyso meddwl yn feirniadol at faterion megis dibynadwyedd gwybodaeth a phreifatrwydd (erthygl 16). Cydnabyddir bod y rhyngrwyd yn adnodd pwysig i gael gafael ar wybodaeth (erthygl 17) a chefnogi datblygiad personol a chymdeithasol plant a phobl ifanc (erthygl 31).

Yn hollbwysig, cydnabyddir bod angen arweiniad ar blant, ond hefyd mwy o annibyniaeth wrth iddynt ddatblygu (erthygl 5) ac mae helpu rhieni a gofalwyr yn ogystal ag ymarferwyr i feithrin y sgiliau sydd eu hangen er mwyn iddynt ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel yn nod allweddol.

Cadwch eich hun yn ddiogel, lleisiwch eich barn

Mae barn plant a phobl ifanc yn rhan annatod o’r camau sy’n cael eu cymryd gennym er mwyn helpu i’w cadw’n ddiogel ar-lein.

Yn ystod hydref 2017, buom yn gweithio gyda’r NSPCC er mwyn datblygu pecyn o weithgareddau ymgysylltu, ‘Cadwch eich hun yn ddiogel, lleisiwch eich barn’, sef gweithgaredd llais y disgybl. Fe’i cyhoeddwyd fel rhan o ddigwyddiad ar y cyd â Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Blant a Phobl Ifanc a’r Grŵp Trawsbleidiol ar Rwystro Plant rhag cael eu Cam-drin yn Rhywiol, fel yr oeddent ar y pryd. Darparwyd y pecyn o weithgareddau drwy’r parth diogelwch ar-lein ar Hwb a gwahoddodd blant o bob oedran i rannu eu barn er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu ein cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cyntaf.

Ymatebodd cyfanswm o 246 o blant a phobl ifanc i’r pecyn. Pan ofynnwyd iddynt nodi un flaenoriaeth allweddol yr hoffent iddi gael ei chynnwys yn y cynllun gweithredu diogelwch ar-lein, tri phrif gategori’r cyfranogwyr oedd:

  1. bwlio
  2. pryder ynghylch dieithriaid

Mae’r pryderon a nodwyd o’r gweithgarwch ymgysylltu yn ystyriaeth greiddiol wrth ddatblygu’r camau y byddwn yn eu cymryd i amddiffyn plant a phobl ifanc sy’n defnyddio’r rhyngrwyd.

Her haf cadw’n ddiogel ar-lein

Yn ystod haf 2020, lansiwyd ein ‘Her haf cadw’n ddiogel ar-lein’. Gan ddefnyddio ein hychwanegiad diweddaraf at Hwb, sef Adobe Spark, gwnaethom alw ar blant a phobl ifanc yng Nghymru i ddylunio poster neu graffigyn creadigol a oedd yn cyfleu eu profiad nhw o gadw’n ddiogel ar-lein. Fel rhan o’r her, gofynnwyd tri chwestiwn i blant a phobl ifanc am eu gweithgareddau ar-lein.

Pan ofynnwyd iddynt nodi at ba ddibenion roeddent yn defnyddio’r rhyngrwyd, pedwar prif ymateb y cyfranogwyr oedd:

  1. gwaith ysgol
  2. chwarae gemau
  3. siarad â’r teulu a ffrindiau
  4. gwylio fideos.

Pan ofynnwyd iddynt a oedd unrhyw beth yn peri pryder iddynt, yn eu cynhyrfu neu’n eu cythruddo ynghylch y rhyngrwyd, y cyfryngau cymdeithasol, apiau a/neu gemau ar-lein, pedwar prif ymateb y cyfranogwyr oedd:

  1. pobl yn ymddwyn yn angharedig, sydd weithiau yn arwain at fwlio ar-lein
  2. hysbysebion
  3. diogelwch eu data
  4. cynnwys tramgwyddus.

Pan ofynnwyd iddynt beth yr hoffent ei newid am y rhyngrwyd, tri phrif ymateb y cyfranogwyr oedd:

  1. ei wneud yn fwy diogel
  2. mynd i’r afael â chasineb ar-lein
  3. mynd i’r afael â bwlio ar-lein.

Mae’r pryderon a nodwyd o’r gweithgarwch ymgysylltu yn ystyriaeth greiddiol wrth ddatblygu’r camau y byddwn yn eu cymryd i amddiffyn plant a phobl ifanc ar-lein.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc er mwyn sicrhau bod eu pryderon yn llywio’r rhaglen waith.

Mae 360 safe Cymru, sy’n rhan o becyn adnoddau 360 Cymru, yn adnodd hunanadolygu a ddarperir i ysgolion yng Nghymru fel rhan o Hwb. Mae’n galluogi ysgolion i adolygu eu polisi a’u harferion diogelwch ar-lein a meincnodi hyn yn erbyn safonau cenedlaethol ac mae’n awgrymu cynlluniau gweithredu.

Gall ysgolion gofrestru ar gyfer 360 safe Cymru drwy Hwb. Hyd yma, mae naw deg pump y cant o ysgolion yng Nghymru wedi cofrestru gyda'r adnodd 360 diogel Cymru presennol.

Anogir ysgolion i sefydlu grŵp o ddefnyddwyr, a phenodi arweinydd dynodedig, er mwyn iddynt gydweithio ar yr adolygiad, gan ddod â llawer o feysydd arbenigol ynghyd.

Mae 360 safe Cymru wedi’i rannu’n nifer o agweddau sy’n cwmpasu prif feysydd diogelwch ar-lein mewn ysgol, e.e. cyfrifoldebau, polisi, cyfathrebu, diogelwch technegol, ac ati. Mae pob agwedd yn cynnig pum datganiad lefel, yn amrywio o ‘dim byd ar waith’ i’r arfer ddyheadol. Mae lefelau targed, sy’n adlewyrchu arferion da o ran diogelwch ar-lein, wedi’u cynnwys ar gyfer pob agwedd, ac mae camau gwella a awgrymir, sy’n disgrifio sut y gallai ysgolion gyrraedd y lefel nesaf, wedi’u cynnwys ar gyfer pob lefel unigol.

Mae dadansoddiad o 360 safe Cymru yn dangos bod ysgolion yng Nghymru yn nodi mai’r agweddau cryfaf ar eu darpariaeth diogelwch ar-lein yw:

  • hidlo a monitro
  • cwmpas polisi
  • datblygu polisi
  • defnydd derbyniol
  • delweddau digidol a delweddau fideo.

Y meysydd i’w gwella yw:

  • cymuned
  • effaith polisi ac arferion diogelwch ar-lein
  • hyfforddiant staff
  • addysg llywodraethwyr.

Dengys y data fod ysgolion yn perfformio’n well mewn meysydd polisi a lle mae gwasanaethau (megis hidlo) yn cael eu darparu ar eu cyfer. Mae meysydd eraill yn fwy anodd i’w datblygu a’u hymgorffori, ond nhw sy’n aml yn arwain at yr arferion mwyaf effeithiol.

Wrth edrych ar arferion effeithiol, dangosir yr elfennau canlynol gan ysgolion sy’n dangos y lefelau uchaf o berfformiad.

  • Mae arweinyddiaeth ar gyfer diogelwch ar-lein wedi’i dosbarthu’n eang, sy’n dod ag amrywiaeth o arbenigedd (diogelu, cwricwlwm a thechnegol) ynghyd mewn Grŵp Diogelwch Ar-lein gweithredol sy’n adolygu patrymau digwyddiadau yn rheolaidd yn ogystal â newidiadau mewn ymddygiadau a thechnolegau ar-lein, a adlewyrchir wedyn yn eu polisi a’u harferion diogelwch ar-lein. Mae llywodraethwyr hefyd yn chwarae rhan weithredol yn y datblygiadau hyn.
  • Caiff rhaglenni addysg diogelwch ar-lein eu cynllunio a’u cynnal ar draws y cwricwlwm a thrwy gydol y flwyddyn ysgol, er mwyn sicrhau bod negeseuon pwysig yn gyson a’u bod yn cael eu hatgyfnerthu’n rheolaidd. Mae’r rhain yn helpu i feithrin cadernid dysgwyr er mwyn iddynt allu ymdrin â materion diogelwch ar-lein.
  • Mae dysgwyr yn cyfrannu at ansawdd y rhaglen drwy gefnogi cyfoedion a staff, yn aml drwy gynlluniau arweinwyr digidol (neu gynlluniau tebyg).
  • Hyfforddiant staff – darperir hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein, gyda diweddariadau rheolaidd, i bob aelod o staff, sy’n eu galluogi i adnabod problemau sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein wrth iddynt godi ac ymdrin â nhw, ac i gefnogi dysgwyr drwy weithgareddau addysg/ymwybyddiaeth o safon uchel.
  • Rhoi gwybod am ddigwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein ac ymdrin â nhw – mae’n bwysig bod ffyrdd o roi gwybod am ddigwyddiadau yn cael eu deall yn glir, yr ymdrinnir â digwyddiadau a bod gan aelodau o’r gymuned ysgol ffydd yn hyn.
  • Diogelwch technegol – diogelir systemau ysgol rhag cael eu camddefnyddio, mae gweithgarwch hidlo yn briodol ac fe’i rheolir yn dda, caiff y cofnodion hidlo eu monitro’n rheolaidd ac mae gweithgarwch ar y rhwydwaith yn cael ei adolygu ac mae’n dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu polisi ac arferion.
  • Rhieni/gofalwyr a’r gymuned ehangach – mae ysgolion effeithiol yn sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn cael y negeseuon pwysig hyn ynglŷn â diogelwch ar-lein, yn aml drwy’r dysgwyr eu hunain sy’n rhannu’r negeseuon a ddysgwyd yn yr ysgol. Bydd yr ysgol hefyd yn rhannu ei harferion da â’r gymuned ehangach ac ysgolion eraill a bydd yn defnyddio’r adnoddau cymunedol gwerthfawr sydd ar gael iddynt gan asiantaethau megis yr heddlu.

Cyn y cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cyntaf yn 2018, roedd cryn dipyn o waith eisoes wedi’i wneud i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein. Ers mis Ionawr 2014, rydym wedi contractio darparydd arbenigol, SWGfL, i hyrwyddo ymddygiad diogel, cyfrifol ac ystyriol ar-lein, a helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc yng Nghymru rhag cynnwys anghyfreithlon a niweidiol ar y rhyngrwyd drwy ddatblygu amrywiaeth o offer, adnoddau a gweithgareddau diogelwch ar-lein sydd wedi’u hanelu at ymarferwyr addysg a gweithwyr addysg proffesiynol, llywodraethwyr, dysgwyr, rhieni a gofalwyr yng Nghymru.

Roedd gweithgareddau allweddol eraill yn cynnwys:

  • darparu hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein i fwy na 5,000 o ymarferwyr addysg a gweithwyr addysg proffesiynol
  • llwyddo i wella darpariaeth diogelwch ar-lein ysgolion drwy adnodd 360 safe Cymru – darperir yr adnodd drwy lwyfan dysgu digidol Hwb er mwyn helpu ysgolion i adolygu a gwella eu polisi a’u harferion diogelwch ar-lein
  • darparu gwybodaeth am ddiogelwch ar-lein i ymarferwyr addysg a gweithwyr addysg proffesiynol, dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr drwy’r adran Cadw’n ddiogel ar-lein (sef y Parth Diogelwch Ar-lein gynt) ar Hwb ar ffurf newyddion, adnoddau, gwybodaeth a chanllawiau a rhestrau chwarae
  • darparu cyllid a chymorth drwy Grant Datblygiad Proffesiynol Parhaus Dysgu yn y Gymru Ddigidol er mwyn galluogi consortia rhanbarthol i fynd ati i hyrwyddo dinasyddiaeth ddigidol a defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg ddigidol
  • cyhoeddi’r canllawiau Safonau a argymhellir ar gyfer hidlo’r we yn ysgolion Cymru (2018) fel sylfaen i’r broses o ddiogelu dysgwyr ar-lein
  • cyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn 2016 fel bod pob ysgol yng Nghymru yn gallu cynorthwyo dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed i’w hamddiffyn eu hunain ar-lein drwy sefydlu sgiliau, gwybodaeth ac agweddau digidol ar draws y cwricwlwm cyfan, gan eu galluogi i ddefnyddio technolegau a systemau mewn ffordd hyderus, greadigol a beirniadol
  • cefnogi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel bob blwyddyn drwy gynnal ymgyrchoedd a chystadlaethau i blant a phobl ifanc ac ysgolion er mwyn creu cyfleoedd i dynnu sylw at wahanol faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein a chodi ymwybyddiaeth ohonynt.

Ym mis Rhagfyr 2019, ehangwyd ein darpariaeth ddiogelwch ar-lein i gynnwys cadernid digidol mewn addysg. Nod ehangu’r gweithgaredd diogelwch ar-lein hwn yw adeiladu ar arbenigedd a gweithgareddau presennol er mwyn datblygu cymorth cynaliadwy i ymarferwyr addysg a gweithwyr addysg proffesiynol, dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr ym meysydd diogelwch ar-lein, seiber ddiogelwch a diogelu data.

Yn ystod 2020, rydym wedi:

  • datblygu canllawiau pwrpasol i ymarferwyr addysg a gweithwyr addysg proffesiynol, dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr, gan ymateb i’r defnydd helaethach o dechnoleg yn ystod pandemig COVID-19
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol, er mwyn treialu mentrau yng Nghymru, gan gynnwys Gwobr Ysgolion CyberFirst
  • gweithio gyda phartneriaid yr ymddiriedir ynddynt, gan gynnwys SWGfL, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’r NSPCC, er mwyn darparu gweithgareddau ac adnoddau i ddysgwyr, ysgolion a rhieni a gofalwyr sy’n addas ar gyfer amgylchedd dysgu yn y cartref neu ddull dysgu cyfunol
  • datblygu ein parth Diogelwch ar-lein ar Hwb i greu Cadw’n ddiogel ar-lein, gan ei ymestyn i gynnwys canllawiau ac adnoddau a chefnogi diogelwch ar-lein, seiber ddiogelwch a diogelu data – mae’r adran hon ar ei newydd wedd yn cynnwys profiad defnyddwyr pwrpasol ar gyfer cynulleidfaoedd unigol, adran ‘cymerwch ran’ newydd sy’n tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ac ysgolion, cynnwys hyfforddiant penodol i ymarferwyr addysg a gweithwyr addysg proffesiynol, a dolenni uniongyrchol i wasanaethau cymorth arbenigol
  • datblygu a meithrin cydberthnasau â phartneriaid presennol a rhai newydd er mwyn creu rhwydwaith cadernid digidol
  • buddsoddi mewn adnoddau ychwanegol er mwyn helpu i ymgorffori cadernid digidol mewn addysg fel rhan o Raglen Hwb.

Effaith pandemig COVID-19 yw bod pob un ohonom bellach yn treulio mwy o amser ar-lein p’un a ydym yn gwneud hynny er mwyn difyrru ein hunain, cadw mewn cysylltiad â’r teulu a ffrindiau, neu gefnogi dysgu. Er bod manteision defnyddio technoleg i gadw mewn cysylltiad yn amlwg, po fwyaf o amser rydym yn ei dreulio ar-lein y mwyaf yw’r risg y byddwn yn wynebu problemau.

Gan gydnabod yr angen hwn ac ymateb iddo, ym mis Ebrill 2020, gwnaethom gyhoeddi canllawiau diogelwch ar-lein newydd fel rhan o raglen ‘Cadw’n Ddiogel, Dal Ati i Ddysgu’. Edrychodd y canllawiau hyn ar ystyriaethau a phryderon ynghylch diogelwch ar-lein yn ystod y cyfnod hwn gan ddarparu canllawiau, cyngor, adnoddau dysgu yn y cartref ac awgrymiadau ymarferol i fynd i’r afael â phroblemau ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol, teuluoedd a llywodraethwyr.

Er mwyn cynorthwyo teuluoedd yn ystod y cyfnod hwn, gwnaethom lunio a chyhoeddi nifer o adnoddau newydd pwrpasol, gan gynnwys y canlynol.

  • Cyfres o bedwar fideo byr sy’n cynnig cyngor a chanllawiau ar yr apiau TikTok, Houseparty a Roblox, sut y gellir defnyddio’r rhain ac awgrymiadau ynglŷn â ble i fynd i gael help a chymorth. Mae fideo arall yn ymdrin â phroblem gynyddol camwybodaeth, lle y caiff gwybodaeth anwir neu anghywir ei chyhoeddi ar-lein.
  • Cyfres o chwe thaflen waith dysgu yn y cartref i blant a phobl ifanc er mwyn darparu gweithgareddau syml a hwyliog a thynnu sylw at y risgiau sy’n gysylltiedig â threulio amser ar-lein a hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol ar-lein ar yr un pryd.
  • Adnodd ar ffurf rhestr chwarae benodol sy’n darparu canllawiau defnyddiol a gweithgareddau ar gyfer rhieni a gofalwyr er mwyn iddynt allu meithrin eu dealltwriaeth o faterion diogelwch ar-lein a chefnogi eu plant pan fyddant gartref.
  • Cyfres o saith poster gwybodaeth am yr apiau a’r gwasanaethau mwyaf poblogaidd, a ddyluniwyd mewn partneriaeth â phob un o lwyfannau’r diwydiant, sy’n rhoi arweiniad ar nodweddion a sut mae eu defnyddio ac awgrymiadau ymarferol er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cadw’n ddiogel.

Roedd helpu dysgwyr i barhau â’u haddysg yn hanfodol. Yn ogystal â darparu hyfforddiant a chanllawiau ar-lein ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ar sut i ddefnyddio adnoddau Hwb, gwnaethom hefyd ddatblygu canllawiau penodol ar Ffrydio byw a fideogynadledda. Cafodd y canllawiau hyn, a ddatblygwyd ar y cyd â rhanddeiliaid addysg yng Nghymru, eu cyhoeddi’n wreiddiol ym mis Mai 2020 yn ystod pandemig COVID-19 ac maent yn amlinellu ystyriaethau allweddol ar gyfer arferion diogel wrth ffrydio’n fyw neu gynnal fideogynhadledd os bydd angen gwneud hynny er mwyn cefnogi dysgu o bell.

Diweddarwyd y canllawiau ym mis Medi 2020 er mwyn adlewyrchu achosion lle mae ymarferwyr a dysgwyr yn ôl yn yr ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, maent yn dal i gynnwys canllawiau ar weithio a dysgu yn y cartref.


Mae’r ymrwymiadau a’r camau gweithredu yn parhau i gael eu grwpio yn ôl y categorïau canlynol.

      

4. Canllawiau


    • Crynodeb pdf 618 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath