English

7. Hyfforddiant a datblygiad

 


  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar ddiogelwch ar-lein, gan ganolbwyntio ar feysydd penodol yn ymwneud â diogelwch ar-lein.

    Rydym wedi gweithio gyda Full Fact i lunio modiwl hyfforddiant ar gamwybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysg, a gyhoeddwyd ar Hwb yn ystod tymor yr hydref 2022. Nod y modiwl yw rhoi cyfoeth o wybodaeth i ymarferwyr am ffyrdd o fynd i'r afael â chamwybodaeth a helpu dysgwyr i archwilio ffynonellau gwybodaeth yn effeithiol a meddwl yn feirniadol am honiadau.

    Er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff mewn ysgolion yn ymwybodol o'r adnoddau a'r canllawiau presennol sydd ar gael i'w helpu i ddeall achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein, eu hatal a bod yn ddigon hyderus i ymateb iddynt yn effeithiol, yn ystod 2022-23 gwnaethom ddatblygu pecyn hyfforddiant, a oedd yn cynnwys:

    • hyfforddiant ymarferion i Bersonau Diogelu Dynodedig a oedd yn cynnwys gweithgareddau seiliedig ar senarios (cynhaliwyd yr hyfforddiant rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth 2023)
    • modiwl hyfforddiant ar-lein (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023), sydd ar gael drwy Hwb, sydd wedi'i fwriadu ar gyfer pob ymarferydd addysg

    Gwnaethom hefyd weithio gyda'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol i ddatblygu modiwl hyfforddiant ar-lein dwyieithog er mwyn helpu holl staff ysgolion i adnabod camau priodol y gallant eu cymryd i wella eu harferion hylendid seiber gan gynnwys diogelwch cyfrineiriau ac adnabod ymosodiadau seiber maleisus. Cafodd yr hyfforddiant wedi'i addasu ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2023 ac mae'n ategu'r hyfforddiant gwe-rwydo dwyieithog sydd ar gael ar Hwb ar hyn o bryd.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn ystod 2022, aethom ati i gefnogi tair sesiwn hyfforddi arall ar ddiogelwch ar-lein a gynhaliwyd yn rhithiol fel rhan o waith ymgysylltu Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, gan ddarparu gwybodaeth am y tueddiadau, y technolegau, y problemau a'r gwaith ymchwil diweddaraf mewn perthynas â diogelwch ar-lein.

    Datblygwyd modiwl hyfforddi newydd gennym hefyd – ‘Ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth’. Mae'r modiwl hyfforddi hwn yn cefnogi Personau Diogelu Dynodedig ac uwch-reolwyr mewn lleoliadau addysg i ymateb yn effeithiol i achosion o rannu delweddau noeth neu hanner noeth. Mae'n cyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru, a ddatblygwyd ar y cyd â Chyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd – ‘Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc (2020)’. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cam gweithredu 7.7.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn 2020–21, rydym wedi darparu cyfres o weminarau hyfforddiant rhithwir sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymddygiadau diogelwch ar-lein i weithwyr proffesiynol yng Nghymru. Trafodwyd y pynciau canlynol a gellir ei weld ar Hwb.

    Fe wnaethom gefnogi tri 'Briff Diogelwch Ar-lein' pellach a gyflwynwyd fel rhan o waith allgymorth Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU gan ddarparu gwybodaeth am y diogelwch, tueddiadau, technolegau, materion ac ymchwil ar-lein diweddaraf.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn 2019–20, darparwyd rhaglen hyfforddi bwrpasol 18 diwrnod i’r consortia rhanbarthol. Cytunwyd ar ofynion y rhaglen gydag arweinydd digidol pob consortiwm rhanbarthol. Roedd yr hyfforddiant hwn yn cynnwys chwe sesiwn arweinyddiaeth ac arweinwyr/Cynghorwyr Herio clwstwr, tair sesiwn hyfforddi carfan, cynhadledd a saith sesiwn lles. Cynhaliwyd cyfanswm o 21 o sesiynau hyfforddi ar gyfer 657 o gynrychiolwyr. Roedd adborth y cynrychiolwyr ar yr hyfforddiant a ddarparwyd yn gadarnhaol iawn.

    Yn ogystal â hynny, cynhaliwyd pum diwrnod arall fel y gellid darparu hyfforddiant ychwanegol ac er mwyn cynnig chymorth mewn dau Ddigwyddiad Dysgu Digidol Rhanbarthol. Yn anffodus, o ganlyniad i COVID-19, bu’n rhaid canslo’r ddau Ddigwyddiad Dysgu Digidol Rhanbarthol a oedd yn weddill.

    Cynhaliwyd chwe digwyddiad ‘Diogelwch Ar-lein yn Fyw’, a roddodd drosolwg o faterion a heriau yn ymwneud â diogelwch ar-lein i 93 o bobl. Cynhaliwyd sesiynau yng Nglannau Dyfrdwy, Ynys Môn, Wrecsam, Llanelli, Porthcawl a Chaerdydd.

    Ym mis Hydref 2019, darparodd SWGfL hyfforddiant hefyd i 15 o Swyddogion School Beat yng Nghaerdydd.

    Yn ystod 2020–21, cynhelir cyfres o bedair weminar hyfforddi er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i weithwyr proffesiynol yng Nghymru ar ymddygiadau diogelwch ar-lein. Bydd y rhain yn ymdrin â phynciau yn cynnwys ffrydio byw, rhannu delweddau noeth, tueddiadau o ran diogelwch ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc, enw da gweithwyr proffesiynol, a diweddariadau i adnodd 360 safe Cymru.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Yn 2018–19, cynigiwyd 24 o sesiynau hyfforddiant hanner diwrnod ar themâu penodol i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg. O’r 24 sesiwn hon, cynhaliwyd 15 ohonynt a hynny i gyfanswm o 165 o gynrychiolwyr. Roedd yr hyfforddiant yn ymdrîn â’r themâu canlynol:

    • y rhyngrwyd ac iechyd meddwl
    • Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a’r goblygiadau i ysgolion.

    Ar ôl adolygiad canol blwyddyn o’r rhaglen hyfforddi, cytunwyd y byddai gweddill y rhaglen ar gyfer 2018–19 yn cael ei theilwra i flaenoriaethau hyfforddiant pob consortia rhanbarthol er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl yn mynychu’r sesiynau. Gwnaeth pob consortia rhanbarthol ddefnyddio’r ddarpariaeth mewn ffordd wahanol. Er enghraifft, gwnaeth rhai ddewis hyfforddi eu cynghorwyr herio a gwnaeth eraill ganolbwyntio ar 360 safe Cymru. Cynhaliwyd un deg a phedwar o sesiynau ar gyfer 547 o gynrychiolwyr.

    Hefyd, cynhaliwyd 11 o ddigwyddiadau ‘Diogelwch Ar-lein yn Fyw’, a roddodd drosolwg o faterion a heriau diogelwch ar-lein i 158 o bobl. Cynhaliwyd sesiynau ym Mhorthcawl, Llanelli, Bae Colwyn, Felinfach, Caerdydd, Glannau Dyfrdwy, Ynys Môn, Aberystwyth, Caerffili, Trefynwy a Sili.

    Ym mis Ionawr 2019, darparodd SWGfL hyfforddiant hefyd i 100 o Swyddogion School Beat, a hynny dros bedair sesiwn ym Mae Colwyn, Caerfyrddin, y Coed-duon a Phen-y-bont ar Ogwr. Cafodd cyfanswm o 970 o bobl hyfforddiant drwy’r rhaglen hon.

    Yn ystod 2019–20, caiff rhaglen hyfforddi bwrpasol 18 diwrnod yn ei darparu i’r consortia rhanbarthol. Bydd y rhaglen yn cael ei chytuno ag arweinydd digidol pob consortiwm rhanbarthol.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Byddwn yn parhau i ddatblygu a chyflwyno rhaglen hyfforddi ar ddiogelwch ar-lein. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i ddarparu hyfforddiant a chymorth i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo’r modiwlau 'Cadw dysgwyr yn ddiogel – Diogelwch ar-lein'.

    Yn ystod 2022-2023, rydym wedi parhau i adolygu a hyrwyddo'r Modiwlau hyfforddiant ar gadw dysgwyr yn ddiogel sydd ar gael drwy Cadw'n Ddiogel Ar-lein. Hyd yma, mae'r modiwlau wedi cael 66,000 o ymweliadau â thudalennau. Hyd yma, mae'r modiwlau wedi cael eu gweld 78,000 o weithiau.

    Yn ystod 2023, byddwn yn archwilio cyfleoedd i ehangu'r modiwlau hyfforddiant ar ddiogelu ymhellach er mwyn cefnogi ysgolion yng Nghymru.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Trwy gydol 2022, rydym wedi parhau i hyrwyddo modiwlau hyfforddiant diogel Cadw dysgwyr sydd ar gael trwy'r ardal Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb. Hyd yn hyn mae'r modiwlau wedi derbyn dros 66,000 o olygfeydd tudalennau.

    Byddwn ni'n parhau i hyrwyddo'r modiwlau a'u nodau at ymarferwyr addysg a llywodraethwyr drwy'r cyfryngau cymdeithasol ac ardal Cadw'n ddiogel ar-lein.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Ym mis Ebrill 2021, cyhoeddwyd modiwlau hyfforddi ar eu newydd wedd ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yn unol â diweddariadau i ganllawiau cadw dysgwyr yn ddiogel.

    Drwy ein hardal Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb byddwn yn parhau i dynnu sylw at y modiwlau a'u nodau, a byddwn yn annog ymarferwyr addysgol a llywodraethwyr i gwblhau'r modiwlau fel rhan o'u datblygiad proffesiynol unigol.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus

    Drwy gydol 2019–20, rydym wedi parhau i hyrwyddo modiwlau hyfforddi Cadw dysgwyr yn ddiogel ar ddiogelwch ar-lein, sydd ar gael drwy barth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb. Hyd yma, edrychwyd ar y modiwlau dros 29,000 o weithiau.

    Caiff y modiwlau eu diweddaru yn unol â diweddariadau i ganllawiau ganllawiau Cadw dysgwyr yn ddiogel, a byddwn yn parhau i annog gweithwyr proffesiynol ym maes addysg i gwblhau’r modiwlau fel rhan o’u datblygiad proffesiynol unigol.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn 2018–19, gwnaethom barhau i hyrwyddo modiwlau hyfforddi Cadw dysgwyr yn ddiogel ar ddiogelwch ar-lein, gan dynnu sylw atynt ar y parth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb. Hyd yma, edrychwyd ar y modiwlau dros 16,000 o weithiau.

    Byddwn yn parhau i hyrwyddo modiwlau Cadw dysgwyr yn ddiogel. Gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a’r parth Cadw’n ddiogel ar-lein, byddwn yn parhau i dynnu sylw at y modiwlau a’u nodau yn ystod 2019-20, a byddwn yn annog ymarferwyr addysg a llywodraethwyr i gwblhau’r modiwlau fel rhan o’u datblygiad proffesiynol unigol.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Er mwyn helpu i sefydlu canllawiau Cadw dysgwyr yn ddiogel, gwnaethom gyhoeddi dau fodiwl e-ddysgu a modiwl astudiaethau achos, gan ystyried sefyllfaoedd diogelu penodol sy’n cyd-fynd yn agos â chynnwys a fformat canllawiau Cadw dysgwyr yn ddiogel. Mae’r modiwlau wedi’u bwriadu ar gyfer holl aelodau staff mewn lleoliad addysgol, ac yn cynnwys:

    • modiwl rhagarweiniol sy’n amlinellu ystyr diogelu, deddfau, polisïau a phwysigrwydd creu amgylchedd diogel, yn ogystal â chwalu rhai camsyniadau cyffredin
    • modiwl i helpu pob aelod o staff i ddeall sut i ddiogelu dysgwyr, prosesau cyffredin a rôl yr unigolyn dynodedig ar gyfer diogelwch
    • modiwl rhyngweithiol i asesu dysgu drwy astudiaethau achos – mae’r astudiaethau achos wedi’u cynllunio i’w cwblhau yn unigol, ac mae modd eu tynnu o’r modiwl a’u defnyddio yn ystod diwrnodau HMS fel pwnc trafod grwp ymarferwyr.

    Mae dau fodiwl newydd wedi’u hychwanegu at gyfres 'Cadw dysgwyr yn ddiogel', gan ganolbwyntio’n benodol ar ddiogelwch ar-lein. Fel y modiwlau blaenorol, mae’r modiwlau hyn ar gael ar Hwb drwy restr chwarae. Mae’r modiwlau newydd wedi’u datblygu i ddarparu cyflwyniad cadarn i ddiogelu ar-lein ar gyfer ymarferwyr addysg a llywodraethwyr o bob math, gan nodi’r effaith ar ddiogelu dysgwyr.

    Maent yn cynnwys gwybodaeth gefndir am y problemau diogelu sy’n gallu codi ar-lein ac yn nodi rhai o’r apiau a’r gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio gan bobl ifanc. Hefyd, mae pob rhestr chwarae yn cynnwys amrywiaeth o ddolenni i ddogfennau a chanllawiau defnyddiol a pherthnasol.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod diogelwch ar-lein yn parhau i fod yn rhan allweddol o’r oll weithgarwch yn ymwneud â chynhwysiant digidol.

    Mae bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein yn un o'r pum sgìl digidol sylfaenol cydnabyddedig sydd eu hangen ar bob dinesydd er mwyn ymwneud â'r byd digidol yn ddiogel ac yn hyderus. Mae'r rhaglen rydym wedi'i chaffael, sef Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant (DCW), yn rhoi hyfforddiant a chymorth i sefydliadau ym mhob sector yng Nghymru sy'n gallu cyrraedd pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, gan gynnwys mewn perthynas â diogelwch ar-lein. Ers mis Gorffennaf 2019, mae DCW wedi helpu 132,005 o ddinasyddion i feithrin y cymhelliant a'r hyder i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae'r rhaglen wedi cael ei hymestyn tan fis Mehefin 2025.

    Dull sy'n pontio'r cenedlaethau o roi hyfforddiant ar gynhwysiant digidol yw menter Arwyr Digidol, lle mae DCW yn ymgysylltu ag ysgolion a cholegau ac yn eu helpu i hyfforddi pobl ifanc, gan eu galluogi i wirfoddoli i gefnogi pobl yn y gymuned gyda hanfodion defnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel. Ers mis Ionawr 2023, mae 50 o Arwyr Digidol wedi cael eu hyfforddi mewn tair ysgol ledled De Cymru. Yn ogystal â hyn, rhoddodd Arwyr Digidol o un ysgol yn ardal Sir y Fflint gyflwyniad ar ddiogelwch ar y rhyngrwyd i breswylwyr Llys Raddington a gwnaethant hefyd hyfforddi eu cyfoedion yn y maes hwn.

    O ganlyniad i Learn My Way, sy'n helpu unigolion i feithrin eu sgiliau digidol sylfaenol drwy gyrsiau sy'n canolbwyntio ar fod yn ddiogel ar-lein, mae mwy na 26,300 o gyrsiau wedi cael eu dechrau yng Nghymru ers mis Mawrth 2019, gyda chyfradd cwblhau o 84%.

    Byddwn yn parhau i hyrwyddo'r hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ohono ymhlith ysgolion. 

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae ein rhaglen, Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant wedi’i hymestyn tan fis Mehefin 2025. Mae hyn yn sicrhau bod hyfforddiant a chymorth cyson a pharhaus ar gael i sefydliadau ledled Cymru a all gyrraedd y rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein yw un o’r pum sgil digidol sylfaenol cydnabyddedig a ystyrir yn hanfodol i sicrhau y gall dinasyddion o bob oed fwynhau’r byd digidol yn ddiogel ac yn hyderus.

    Yn sgil y newidiadau i gyfyngiadau’r pandemig, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi dechrau trafod gydag ysgolion a’u cefnogi i hyfforddi Arwyr Digidol – gwirfoddolwyr ifanc. Mae Cymunedau Digidol Cymru eisoes wedi cefnogi ystod eang o Arwyr Digidol, gan gynnwys drwy Fagloriaeth Cymru, lle mae Myfyrwyr Colegau yn cyflawni her gymunedol i hyfforddi plant cynradd, a hyfforddwyd 47 o arwyr digidol ym mis Medi. Ym mis Hydref, gweithiodd Cymunedau Digidol Cymru gydag ysgolion ar draws Sir y Fflint, sy’n gyfrifol am gynnal prosiectau Arweinwyr Digidol, a rhoddwyd hyfforddiant Arwyr Digidol i bedwar Arweinydd Digidol o bob ysgol gynradd – a hyfforddwyd 200 o wirfoddolwyr ifanc o fewn diwrnod. Yn ogystal, bydd pob athro yn creu cyfleoedd a phartneriaethau gwirfoddoli yn y gymuned, ac mae dwy ysgol eisoes wedi cynllunio i greu caffis digidol. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i Arwyr Digidol helpu’r gymuned ehangach yn ABC defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel gan drosglwyddo’r wybodaeth o’r naill genhedlaeth i’r llall.

    Drwy Learn My Way, sy’n cefnogi unigolion i ddatblygu eu sgiliau digidol sylfaenol â chyrsiau ar gadw’n ddiogel ar-lein, ers Mawrth 2019 dechreuwyd dros 24,500 o gyrsiau yng Nghymru, a chwblhawyd 84% ohonynt.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

     

    Mae Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn parhau i sicrhau bod cynghorion ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein, gan gynnwys diogelu preifatrwydd, yn rhan hanfodol o'r holl hyfforddiant a ddarperir i staff rheng flaen a gwirfoddolwyr.

    Roedd diogelwch ar-lein yn rhan allweddol o’r hyfforddiant a gafodd dros 5,250 o Arwyr Digidol (gwirfoddolwyr ifanc) cyn y pandemig i'w galluogi i helpu pobl hyn mewn ysbytai a chartrefi gofal i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu neu ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein allweddol. Mae menter Arwyr Digidol wedi bod ar stop ers mis Mawrth 2020, ond ystyrir ei bod yn hanfodol er mwyn cyrraedd y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Yn amodol ar benderfyniad i ymestyn contract Cymunedau Digidol Cymru o fis Mehefin 2022 i fis Mehefin 2025, gobeithiwn weithio gydag ysgolion a cholegau i sicrhau bod hyfforddiant ar gyfer Arwyr Digidol ar gael pan fydd y rheoliadau a’r amgylchiadau yn caniatáu hynny, o haf 2022.

    Yn y gorffennol, drwy gyllid a neilltuwyd gennym, darparwyd cynnwys dwyieithog ar lwyfan sgiliau digidol sylfaenol ar-lein ‘Learn My Way’. Mae'r llwyfan hwn yn cefnogi unigolion i ddatblygu eu sgiliau digidol sylfaenol yn rhad ac am ddim, ar gyflymder ac mewn lleoliad sy'n gyfleus iddyn nhw, ac mae'n cynnwys adnoddau ar gadw eich data personol yn ddiogel, cadw eich dyfais yn ddiogel a chadw’n ddiogel ar-lein. Ers mis Mawrth 2019 mae dros 19,900 o gyrsiau wedi'u cychwyn yng Nghymru gyda chyfradd gwblhau o 85%.

    Hyfforddiant a datblygiad - Hwb (gov.wales)

    Yng nghanol pandemig COVID-19, bu’n rhaid i’r cymorth a roddir drwy ein Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant addasu. Mae hyn wedi cynnwys hyrwyddo cymorth o bell dros y ffôn, drwy e-bost a, lle y bo’n briodol, drwy fideo i sefydliadau allweddol, a fydd yn parhau i fod yn agwedd graidd ar gyfer y dyfodol agos. Drwy wneud hynny, mae’r rhaglen wedi sicrhau bod cadw’n ddiogel ac yn gyfreithlon yn un o themâu craidd yr holl hyfforddiant a ddarperir i staff rheng flaen a gwirfoddolwyr, er mwyn sicrhau y caiff y ddealltwriaeth a’r wybodaeth eu trosglwyddo i ddinasyddion.

    Mae diogelwch ar-lein yn rhan allweddol o’r hyfforddiant y mae dros 5,250 o Arwyr Digidol (gwirfoddolwyr ifanc) wedi ei gael i’w galluogi i helpu pobl hyn mewn ysbytai a chartrefi gofal i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu neu ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein allweddol, gan sicrhau nad yw’r unigolion hyn yn cael eu gadael ar ôl. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r pandemig, daeth y cymorth i’r Arwyr Digidol i ben ym mis Mawrth 2020. Byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion a cholegau i sicrhau bod hyfforddiant ar gyfer Arwyr Digidol ar gael pan fydd rheoliadau ac amgylchiadau yn caniatáu hynny.

    Er na fu modd i ni ddarparu Arwyr Digidol, gwnaethom weithio gyda Chymunedau Digidol Cymru yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol i greu menter newydd o’r enw ‘Arwyr Hwb’, a lansiwyd gan y Gweinidog Addysg ym mis Ebrill 2020. Roedd y fenter hon yn galw ar blant a phobl ifanc i ddod yn ‘Arwyr Hwb’ drwy greu negeseuon i’w rhannu â phobl hyn a mwy agored i niwed ledled Cymru. Cafwyd dros 1,000 o negeseuon, a gafodd eu rhannu â chartrefi gofal yn ystod y pandemig.

    Drwy gyllid a ddarperir gennym, darparwyd cynnwys dwyieithog ar lwyfan sgiliau digidol sylfaenol ar-lein ‘Learn My Way’. Mae’r llwyfan hwn yn cynnwys adnoddau ar gadw eich data sylfaenol personol yn ddiogel, cadw eich dyfais yn ddiogel a chadw’n ddiogel ar-lein. Mae’r llwyfan hwn yn helpu unigolion i ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol am ddim, ar gyflymder ac mewn lleoliad sy’n gyfleus iddynt.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae’r hyfforddiant a ddarperir drwy ein Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant, sy’n werth £2 filiwn y flwyddyn, yn cynnwys cynghorion ar sut i gadw’n ddiogel ar-lein, gan gynnwys diogelu preifatrwydd, sy’n cael eu rhannu â dinasyddion drwy staff rheng flaen a gwirfoddolwyr.

    Mae diogelwch ar-lein yn rhan allweddol o’r hyfforddiant y mae ein 4,600 o Arwyr Digidol (gwirfoddolwyr ifanc) wedi’i gael er mwyn iddynt allu helpu pobl hyn mewn ysbytai a chartrefi gofal i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu neu i ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, fel nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl.

    Rydym wedi ariannu’r cyfieithiad Cymraeg o’r llwyfan ‘Learn My Way’ ar gyfer datblygu sgiliau digidol sylfaenol ar-lein, sy’n cynnwys adnoddau ar gadw eich data personol yn ddiogel, cadw eich dyfais yn ddiogel a sut i fod yn ddiogel ar-lein. Mae’r llwyfan hwn yn helpu unigolion i ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol am ddim, ar gyflymder ac mewn lleoliad sy’n gyfleus iddynt.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Ar oedolion 16 oed a throsodd mae ein polisi cynhwysiant digidol a sgiliau digidol sylfaenol yn canolbwyntio’n bennaf, yn enwedig y pedwar grwp blaenoriaeth canlynol:

    • pobl hyn
    • pobl anabl
    • pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol
    • pobl economaidd anweithgar a di-waith

    Mae ymddiriedaeth, diogelwch a chymhelliant yn parhau i fod yn rhwystrau allweddol sy’n atal llawer o bobl rhag defnyddio technoleg ddigidol. Gall mynd i’r afael â phryderon am ddiogelwch sylfaenol, a thynnu sylw at y camau rhagofalus y dylai pobl eu cymryd, gynyddu hyder defnyddwyr i achub ar cyfleoedd helaeth y mae’r byd digidol yn eu cynnig. Mae’r rhai nad ydynt yn defnyddio technoleg ddigidol neu sy’n gwneud defnydd cyfyngedig ohono yn colli cyfle i fanteisio ar wasanaethau cyhoeddus digidol gwell ynghyd â bargeinion gwell a nwyddau rhatach, a hefyd cyfleoedd i wella eu lles, cysylltiadau cymdeithasol, diogelwch ariannol ac iechyd.

    Drwy ein Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant (Gorffennaf 2019 i Fehefin 2022), byddwn yn sicrhau y caiff pwysigrwydd cadw’n ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein ei ymgorffori yn ein hyfforddiant a’n hadnoddau ar gyfer y canlynol:

    • staff rheng flaen
    • her gymunedol cynhwysiant digidol Bagloriaeth Cymru
    • Cyfeillion Digidol (gwirfoddolwyr ifanc)
    • Cyfeillion Digidol (gwirfoddolwyr sy’n gyfoedion)

    Er mwyn atgyfnerthu hyn, drwy weithio gyda’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol, byddwn yn ceisio cyfeirio unigolion a theuluoedd at gyngor ar seiber ddiogelwch.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i
    ddarparu deunydd hyfforddi a chymorth ar faterion yn ymwneud â
    gwrthderfysgaeth.

    Er gwaetha’r ffaith bod polisi gwrthderfysgaeth yn fater sydd heb ei ddatganoli, rydym yn parhau i gydweithio’n agos â Thîm Prevent y DU a Phlismona Gwrthderfysgaeth Cymru i gefnogi ein sectorau yng Nghymru i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015. Mae yna dri modiwl hyfforddi Prevent ar-lein sydd wedi’u diweddaru, pob un ar gael yn Gymraeg. Gallwch lawrlwytho fersiynau Cymraeg o’r cwrs hyfforddi a gweld fideos â thrawsgrifiadau Cymraeg. Rydym yn parhau i weithio gyda chydswyddogion yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau hyfforddi, y gefnogaeth a’r canllawiau ar gael yn ddwyieithog.

    Cwrs Ymwybyddiaeth Prevent

    Cwrs rhagarweiniol yw cwrs Ymwybyddiaeth Prevent i unrhyw un sy’n newydd i Prevent, a’r rhai sydd ddim yn siwr beth yw Prevent a pha arwyddion i chwilio amdanynt o ran radicaleiddio. Y cwrs Ymwybyddiaeth yw cwrs cyntaf ein hyfforddiant ar ddyletswydd Prevent. 

    Mae’n gwrs i unrhyw un sy’n gweithio gyda’r cyhoedd yn rheolaidd, er enghraifft y rhai sy’n gweithio ym meysydd addysg, iechyd, y gwasanaeth prawf, yr heddlu a’r awdurdodau lleol. Gall aelodau o’r cyhoedd sydd am ddysgu mwy am sut i adnabod arwyddion sy’n peri pryder hefyd ddilyn y cwrs.

    Cwrs Atgyfeiriadau Prevent

    Lluniwyd y cwrs Atgyfeiriadau ar gyfer Arweinwyr Diogelu Dynodedig yn bennaf, gweithwyr proffesiynol Prevent neu rolau cyfatebol sy’n gwneud atgyfeiriadau Prevent. Os yw’r cyfrifoldeb hwnnw yn rhan o’ch rôl, beth bynnag yw teitl eich swydd, mae’r cwrs hwn i chi.

    Mae’n gwrs hefyd i unrhyw un a allai fod angen gwneud atgyfeiriad Prevent, a’r rhai sy’n gweld rhywbeth sy’n peri pryder ac sy’n ei rannu ag Arweinydd Diogelu Dynodedig neu unigolyn cyfatebol, er mwyn gallu atgyfeirio’r achos i’r heddlu. 

    Cwrs Channel

    Rhaglen amlasiantaethol yw Channel sy’n gweithredu ar draws Cymru a Lloegr, sy’n cynnig cymorth i unrhyw un sy’n agored i gael ei dynnu i mewn i derfysgaeth neu i’w chefnogi. Mae’r cwrs hwn i aelodau panel Channel, Cadeiryddion panel Channel mewn awdurdodau lleol, ac unrhyw un y gofynnir iddynt gyfrannu at banel Channel neu eistedd ar banel Channel.

    Mae Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru yn cydweithio’n agos â’n harweinwyr ar y canlynol.

     

    • Adnoddau sy’n gysylltiedig â Getting On Together (GOT) – gan gysylltu o bryd i’w gilydd â phrosiect GOT wrth roi mewnbwn i athrawon ac ati ar brosesau atgyfeirio ynghylch bygythiadau/risgiau.
      Mae gan Brosiect GOT Project fodiwlau a ddefnyddir mewn ysgolion mewn nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae yna fodiwlau i ddysgwyr uwchradd ac i ddysgwyr o dan 11. Mae yna ddolen Ewropeaidd hefyd drwy ddolenni a gyllidir gan Erasmus.
    • Mewnbwn ynghylch eithafiaeth gan swyddogion SchoolBeat – mae yna 65 o swyddogion SchoolBeat ledled Cymru sydd eisoes yn gweithio fel unigolion cyswllt i ysgolion o ran yr agenda hon, ac mae modiwl newydd ar y gweill sy’n cynnwys ffilmio ‘golygfa’ i gyflwyno’r pwnc.
    • Gorgyffwrdd â mewnbwn ynghylch cydlyniant/troseddau casineb – oherwydd natur drawsbynciol yr agenda, mae gwaith Prevent yn cysylltu â mewnbwn a ddarperir drwy rai sefydliadau anllywodraethol, ee Dangos y cerdyn coch i hiliaeth, a’r agenda ddiogelu ehangach (yn cysylltu â diogelwch ar-lein ac ati).
    • Ysgolion Caerdydd – Caerdydd yw unig ardal flaenoriaeth Prevent y Swyddfa Gartref yng Nghymru, ac mae’n cael cyllid fellyl ar gyfer cydlynydd Prevent.
    • Mentrau sy’n datblygu – Mae ein cydweithwyr wedi helpu gyda briffiadau Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru i Brif Weinidog Cymru ynghylch yr agenda hon. Bydd Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru yn parhau i gefnogi ein partneriaid drwy ddarparu gwybodaeth wrth iddynt geisio datblygu/gwella’r ffordd y mae dysgu yn digwydd o ran agenda Prevent a diogelu.
    • Cyfnodau clo ysgolion – Yn aml mae agenda elfennau amddiffyn/paratoi yn gorgyffwrdd â Prevent a’r ystyriaeth ynghylch cyfnodau clo ysgolion a threfniadau adrodd.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Er gwaetha’r ffaith bod polisi gwrthderfysgaeth yn fater sydd heb ei ddatganoli, rydym yn parhau i gydweithio’n agos â Thîm Prevent y DU a Phlismona Gwrthderfysgaeth Cymru i gefnogi ein sectorau yng Nghymru i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015. Mae yna dri modiwl hyfforddi Prevent ar-lein sydd wedi’u diweddaru, pob un ar gael yn Gymraeg. Gallwch lawrlwytho fersiynau Cymraeg o’r cwrs hyfforddi a gweld fideos â thrawsgrifiadau Cymraeg. Rydym yn parhau i weithio gyda chydswyddogion yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau hyfforddi, y gefnogaeth a’r canllawiau ar gael yn ddwyieithog.

    Cwrs Ymwybyddiaeth Prevent

    Cwrs rhagarweiniol yw cwrs Ymwybyddiaeth Prevent i unrhyw un sy’n newydd i Prevent, a’r rhai sydd ddim yn siwr beth yw Prevent a pha arwyddion i chwilio amdanynt o ran radicaleiddio. Y cwrs Ymwybyddiaeth yw cwrs cyntaf ein hyfforddiant ar ddyletswydd Prevent. 

    Mae’n gwrs i unrhyw un sy’n gweithio gyda’r cyhoedd yn rheolaidd, er enghraifft y rhai sy’n gweithio ym meysydd addysg, iechyd, y gwasanaeth prawf, yr heddlu a’r awdurdodau lleol. Gall aelodau o’r cyhoedd sydd am ddysgu mwy am sut i adnabod arwyddion sy’n peri pryder hefyd ddilyn y cwrs.

    Cwrs Atgyfeiriadau Prevent

    Lluniwyd y cwrs Atgyfeiriadau ar gyfer Arweinwyr Diogelu Dynodedig yn bennaf, gweithwyr proffesiynol Prevent neu rolau cyfatebol sy’n gwneud atgyfeiriadau Prevent. Os yw’r cyfrifoldeb hwnnw yn rhan o’ch rôl, beth bynnag yw teitl eich swydd, mae’r cwrs hwn i chi.

    Mae’n gwrs hefyd i unrhyw un a allai fod angen gwneud atgyfeiriad Prevent, a’r rhai sy’n gweld rhywbeth sy’n peri pryder ac sy’n ei rannu ag Arweinydd Diogelu Dynodedig neu unigolyn cyfatebol, er mwyn gallu atgyfeirio’r achos i’r heddlu. 

    Cwrs Channel

    Rhaglen amlasiantaethol yw Channel sy’n gweithredu ar draws Cymru a Lloegr, sy’n cynnig cymorth i unrhyw un sy’n agored i gael ei dynnu i mewn i derfysgaeth neu i’w chefnogi. Mae’r cwrs hwn i aelodau panel Channel, Cadeiryddion panel Channel mewn awdurdodau lleol, ac unrhyw un y gofynnir iddynt gyfrannu at banel Channel neu eistedd ar banel Channel.

    Mae Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru yn cydweithio’n agos â’n harweinwyr ar y canlynol.

     

    • Adnoddau sy’n gysylltiedig â Getting On Together (GOT) – gan gysylltu o bryd i’w gilydd â phrosiect GOT wrth roi mewnbwn i athrawon ac ati ar brosesau atgyfeirio ynghylch bygythiadau/risgiau.
      Mae gan Brosiect GOT Project fodiwlau a ddefnyddir mewn ysgolion mewn nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae yna fodiwlau i ddysgwyr uwchradd ac i ddysgwyr o dan 11. Mae yna ddolen Ewropeaidd hefyd drwy ddolenni a gyllidir gan Erasmus.
    • Mewnbwn ynghylch eithafiaeth gan swyddogion SchoolBeat – mae yna 65 o swyddogion SchoolBeat ledled Cymru sydd eisoes yn gweithio fel unigolion cyswllt i ysgolion o ran yr agenda hon, ac mae modiwl newydd ar y gweill sy’n cynnwys ffilmio ‘golygfa’ i gyflwyno’r pwnc.
    • Gorgyffwrdd â mewnbwn ynghylch cydlyniant/troseddau casineb – oherwydd natur drawsbynciol yr agenda, mae gwaith Prevent yn cysylltu â mewnbwn a ddarperir drwy rai sefydliadau anllywodraethol, ee Dangos y cerdyn coch i hiliaeth, a’r agenda ddiogelu ehangach (yn cysylltu â diogelwch ar-lein ac ati).
    • Ysgolion Caerdydd – Caerdydd yw unig ardal flaenoriaeth Prevent y Swyddfa Gartref yng Nghymru, ac mae’n cael cyllid fellyl ar gyfer cydlynydd Prevent.
    • Mentrau sy’n datblygu – Mae ein cydweithwyr wedi helpu gyda briffiadau Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru i Brif Weinidog Cymru ynghylch yr agenda hon. Bydd Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru yn parhau i gefnogi ein partneriaid drwy ddarparu gwybodaeth wrth iddynt geisio datblygu/gwella’r ffordd y mae dysgu yn digwydd o ran agenda Prevent a diogelu.
    • Cyfnodau clo ysgolion – Yn aml mae agenda elfennau amddiffyn/paratoi yn gorgyffwrdd â Prevent a’r ystyriaeth ynghylch cyfnodau clo ysgolion a threfniadau adrodd.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Er nad yw gwrthderfysgaeth yn fater datganoledig, rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Thîm Prevent y DU ac Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru er mwyn cefnogi ein sectorau yng Nghymru i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015. O fewn y tri modiwl hyfforddi Prevent sydd ar gael ar-lein ar hyn o bryd, mae fersiwn Gymraeg ar gael ar gyfer y ddau gyntaf. Gallwch lawrlwytho’r fersiynau Cymraeg o'r cwrs hyfforddi a gwylio fideos gydag is-deitlau Cymraeg. Bydd yr adolygiad o hyfforddiant Prevent yn sicrhau bod yr hyfforddiant ar gael yn ddwyieithog yn y dyfodol.  Rydym yn parhau i weithio gyda’n cydweithwyr yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau, cymorth ac arweiniad hyfforddi ar gael yn ddwyieithog.

    Ymwybyddiaeth o Prevent
    Cyflwyniad ar ffurf pecyn e-ddysgu i ddyletswydd Prevent, gyda'r nod o ddiogelu pobl agored i niwed rhag cael eu radicaleiddio i gefnogi terfysgaeth neu fynd yn derfysgwyr eu hunain. Mae gwaith ar y gweill i ystyried a gwella hyfforddiant Prevent o fewn Llywodraeth y DU ac yng Nghymru drwy weithio mewn partneriaeth ag Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru a phartneriaid ehangach.

    Atgyfeiriadau Prevent
    Mae'r pecyn hwn yn adeiladu ar hyfforddiant e-ddysgu i godi ymwybyddiaeth o Prevent. Fe'i cynlluniwyd i sicrhau, pan fyddwn yn rhannu pryder bod unigolyn agored i niwed yn cael ei radicaleiddio, bod yr atgyfeiriad yn gadarn, yn seiliedig ar wybodaeth ac â bwriad da, a bod yr ymateb i'r pryder hwnnw'n bwyllog ac yn gymesur. Ochr yn ochr â'r e-ddysgu, cyflwynwyd ffurflen atgyfeirio ar-lein Prevent i sicrhau bod y broses atgyfeirio mor syml â phosibl.

    Ymwybyddiaeth o Channel
    Mae’r pecyn hyfforddiant hwn ar gyfer unrhyw un y gofynnir iddynt gyfrannu at neu fod yn aelod o Banel Channel, neu arwain panel o’r fath. Mae’n becyn ar gyfer pob lefel, o weithiwr proffesiynol y gofynnir iddo gyfrannu neu fynd i gyfarfod am y tro cyntaf, i aelod o staff sy'n newydd i'w rôl ac yn trefnu cyfarfod panel. 

    Porth e-ddysgu Prevent
    Mae Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda'i chontractwyr i wella'r profiad hyfforddi.  Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i sefydliadau partner am gynnydd ac amserlenni fel y gallant ddarparu cynrychiolwyr yn y dyfodol. Caiff y gofynion o ran y Gymraeg eu hadolygu yn ystod y cam hwn.

    Llawlyfr Hyfforddiant Prevent
    Mae partneriaid ledled Cymru yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr yn Llywodraeth y DU i nodi'r gofynion hyfforddi o dan Prevent. Gwneir hyn ochr yn ochr â'r adolygiad o ddarpariaeth hyfforddiant trydydd partïon a gweithgarwch a gynhaliwyd ar lefel y DU. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i sectorau wrth bwrcasu hyfforddiant, ond hefyd yn sicrhau bod darparwyr yn cynnig cynhyrchion o ansawdd uchel sy'n bodloni agenda Prevent.  

    Mae Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda'n swyddogion arweiniol ar y canlynol:

    • Adnoddau sy’n gysylltiedig â Cymru’n Cyd-dynnu – cysylltu â phrosiect Cymru’n Cyd-dynnu wrth rannu gwybodaeth ag athrawon ac ati am brosesau atgyfeirio risg/bygythiad.
      Mae gan brosiect Cymru’n Cyd-dynnu fodiwlau a ddefnyddir mewn ysgolion yn nifer o’r awdurdodau lleol yng Nghymru. Ceir modiwlau ar gyfer dysgwyr uwchradd ac ar gyfer dysgwyr o dan 11 oed. Ceir cysylltiad Ewropeaidd hefyd drwy gysylltiadau a ariennir gan Erasmus.
    • Gwaith Swyddogion School Beat ar eithafiaeth – ceir 65 o Swyddogion School Beat ar draws Cymru sydd eisoes yn gweithredu fel pwynt cyswllt i ysgolion ar yr agenda hon, ac mae modiwl gwell yn cael ei ddatblygu sy'n cynnwys ffilmio golygfa gychwynnol.
    • Gorgyffwrdd â gwaith ar gydlyniant/troseddau casineb – yn sgil natur drawsbynciol yr agenda, mae gwaith Prevent yn gysylltiedig ag ymgyrchoedd rhai sefydliadau anllywodraethol, ee ‘Show racism the red card’, a'r agenda ddiogelu ehangach (sy’n ymdrin â diogelwch ar-lein, ac ati).
    • Ysgolion Caerdydd – Caerdydd yw unig ardal flaenoriaeth y Swyddfa Gartref ar gyfer Prevent yng Nghymru ac, yn sgil hynny, mae'n elwa ar gyllid ar gyfer cydgysylltydd Prevent.
    • Mentrau sy’n dod i’r amlwg – mae ein cydweithwyr wedi cefnogi briffiau gan Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru i’r Prif Weinidog ynghylch yr agenda hon. Bydd yr Uned yn parhau i gefnogi ein partneriaid drwy ddarparu gwybodaeth wrth iddynt geisio datblygu/gwella’r dysgu a ddarperir ynghylch agenda Prevent a diogelu.
    • Cloi ysgolion – mae dealltwriaeth o'r agenda Diogelu/Paratoi yn aml yn gorgyffwrdd â Prevent ac ystyriaeth o drefniadau cloi ac adrodd ysgolion.

    Er nad yw gwrth-derfysgaeth yn fater datganoledig, rydym yn parhau i weithio’n agos â Thîm Prevent y DU ac Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU).

    O fewn y tri modiwl hyfforddi Prevent sydd ar gael ar-lein ar hyn o bryd, mae fersiwn Gymraeg ar gael ar gyfer y ddau gyntaf. Gallwch lawrlwytho’r fersiynau Cymraeg o’r cwrs hyfforddi a gwylio fideos gydag is-deitlau Cymraeg.

    Bydd yr adolygiad o hyfforddiant Prevent yn sicrhau bod yr hyfforddiant ar gael yn ddwyieithog yn y dyfodol.

    Ymwybyddiaeth o Prevent
    Cyflwyniad ar ffurf pecyn e-ddysgu i ddyletswydd Prevent, gyda’r nod o ddiogelu pobl agored i niwed rhag cael eu radicaleiddio i gefnogi gwrthderfysgaeth neu ddod yn derfysgwyr eu hunain.

    Atgyfeiriadau Prevent
    Mae’r pecyn hwn (Saesneg yn unig) yn adeiladu ar hyfforddiant e-ddysgu i godi ymwybyddiaeth o Prevent. Fe’i cynlluniwyd i sicrhau, pan fyddwn yn rhannu pryder bod unigolyn yn cael eu radicaleiddio, bod yr atgyfeiriad yn gadarn, yn wybodus ac â bwriad da a bod yr ymateb i’r pryder hwnnw’n bwyllog ac yn gymesur. 

    Ymwybyddiaeth o Channel
    Mae’r pecyn hyfforddiant hwn (Saesneg yn unig) ar gyfer unrhyw un y gofynnir iddynt gyfrannu at neu fod yn aelod o Banel Channel neu arwain panel o’r fath. Mae’n becyn ar gyfer pob lefel, o weithiwr proffesiynol y gofynnir iddo gyfrannu neu fynychu am y tro cyntaf, i aelod o staff sy’n newydd i’w rôl ac yn trefnu cyfarfod o’r panel.

    Porth e-ddysgu Prevent
    Mae Llywodraeth y DU wrthi’n gweithio gyda chontractiwr i wneud newidiadau i’r safle er mwyn cydymffurfio â Safonau Digidol y Llywodraeth. Cynhaliwyd nifer o gyfweliadau gyda defnyddwyr er mwyn deall sut maent yn defnyddio’r wefan ac i nodi gwelliannau i wella’r profiad hyfforddi. Cam nesaf y prosiect fydd ymgorffori’r newidiadau cychwynnol a chynnal ymgynghoriad/cyfweliadau pellach â defnyddwyr lle bydd cyfle i ni a chydweithwyr Prevent gyfrannu at y broses. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i sefydliadau partner am gynnydd ac amserlenni fel y gallant ddarparu cynrychiolwyr yn y dyfodol. Caiff y gofynion o ran y Gymraeg eu hadolygu yn ystod y cam hwn.

    Llawlyfr hyfforddiant Prevent (dyddiedig Mawrth 2016)
    Mae adolygiad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd o’r ddarpariaeth ar gyfer trydydd parti. Mae catalog cyhoeddedig o ddarparwyr eisoes ar gael, a bydd dogfen safonau hyfforddiant yn cael ei chyhoeddi fel rhan o’r adolygiad er mwyn i gyflenwyr a’r rheini sy’n pwrcasu hyfforddiant allu ei dilyn a chyfeirio ati. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd wrth bwrcasu hyfforddiant, ond hefyd yn sicrhau bod darparwyr yn cynnig cynhyrchion o ansawdd uchel sy’n bodloni’r agenda Prevent. Cynhelir ymgynghoriad ar y safonau maes o law.

    Mae WECTU yn gweithio’n agos gyda’n swyddogion arweiniol ar y canlynol.

    • Adnoddau sy’n gysylltiedig â Chymru yn Cyd-dynnu – cysylltu â Phrosiect Cymru yn Cyd-dynnu wrth rannu gwybodaeth ag athrawon ac ati am brosesau atgyfeirio risg/bygythiad.
      Mae gan Brosiect Cymru yn Cyd-dynnu fodiwlau a ddefnyddir mewn ysgolion yn nifer o’r awdurdodau lleol yng Nghymru. Ceir modiwlau ar gyfer dysgwyr uwchradd ac ar gyfer dysgwyr dan 11 oed. Ceir cysylltiad Ewropeaidd hefyd drwy gysylltiadau a ariennir gan Erasmus.
    • Adnoddau sy’n gysylltiedig â Chymru yn Cyd-dynnu – cysylltu â Phrosiect Cymru yn Cyd-dynnu wrth rannu gwybodaeth ag athrawon ac ati am brosesau atgyfeirio risg/bygythiad.
      Mae gan Brosiect Cymru yn Cyd-dynnu fodiwlau a ddefnyddir mewn ysgolion yn nifer o’r awdurdodau lleol yng Nghymru. Ceir modiwlau ar gyfer dysgwyr uwchradd ac ar gyfer dysgwyr dan 11 oed. Ceir cysylltiad Ewropeaidd hefyd drwy gysylltiadau a ariennir gan Erasmus.
    • Gwaith Swyddogion School Beat ar eithafiaeth – ceir 65 o Swyddogion School Bear ar draws Cymru sydd eisoes yn gweithredu fel pwynt cyswllt i ysgolion ar yr agenda hon, ac mae modiwl gwell yn cael ei ddatblygu sy’n cynnwys ffilmio golygfa gychwynnol.
    • Gorgyffwrdd â gwaith ar gydlyniant/troseddau casineb – yn sgil natur drawsbynciol yr agenda, mae gwaith Prevent yn gysylltiedig ag ymgyrchoedd rhai sefydliadau anllywodraethol, e.e. ‘Show racism the red card’, a’r agenda ddiogelu ehangach (sy’n ymdrin â diogelwch ar-lein, ac ati).
    • Ysgolion Caerdydd – Caerdydd yw unig ardal flaenoriaeth y Swyddfa Gartref ar gyfer Prevent yng Nghymru ac, yn sgil hynny, mae’n elwa ar gyllid ar gyfer cydgysylltydd Prevent a swyddogion arweiniol ar gyfer mynd i’r afael ag eithafiaeth.
    • Mentrau sy’n dod i’r amlwg – mae ein cysylltiadau ym maes polisi addysg wedi cefnogi briffiau gan WECTU i’r Prif Weinidog ynghylch yr agenda hon. Bydd WECTU yn parhau i gefnogi ein partneriaid drwy ddarparu gwybodaeth wrth iddynt geisio datblygu/gwella’r dysgu a ddarperir ynghylch yr agenda Prevent a diogelu.
    • Cloi ysgolion dros dro – mae dealltwriaeth o’r agenda Diogelu/Paratoi yn aml yn gorgyffwrdd â Prevent ac ystyriaeth o drefniadau cloi ac adrodd ysgolion.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Er nad yw gwrth-derfysgaeth yn fater datganoledig, rydym yn parhau i weithio’n agos â Thîm Prevent y DU ac Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU).

    O fewn y tri modiwl hyfforddi Prevent sydd ar gael ar-lein ar hyn o bryd, mae fersiwn Gymraeg ar gael ar gyfer y ddau gyntaf. Gallwch lawrlwytho’r fersiynau Cymraeg o’r cwrs hyfforddi a gwylio fideos gydag is-deitlau Cymraeg.

    Bydd yr adolygiad o hyfforddiant Prevent yn sicrhau bod yr hyfforddiant ar gael yn ddwyieithog yn y dyfodol.

    Ymwybyddiaeth o Prevent

    Cyflwyniad ar ffurf pecyn e-ddysgu i ddyletswydd Prevent, gyda’r nod o ddiogelu pobl agored i niwed rhag cael eu radicaleiddio i gefnogi gwrthderfysgaeth neu ddod yn derfysgwyr eu hunain.

    Atgyfeiriadau Prevent

    Mae’r pecyn hwn (Saesneg yn unig) yn adeiladu ar hyfforddiant e-ddysgu i godi ymwybyddiaeth o Prevent. Fe’i cynlluniwyd i sicrhau, pan fyddwn yn rhannu pryder bod unigolyn yn cael eu radicaleiddio, bod yr atgyfeiriad yn gadarn, yn wybodus ac â bwriad da a bod yr ymateb i’r pryder hwnnw’n bwyllog ac yn gymesur. 

     

    Ymwybyddiaeth o Channel

    Mae’r pecyn hyfforddiant hwn (Saesneg yn unig) ar gyfer unrhyw un y gofynnir iddynt gyfrannu at neu fod yn aelod o Banel Channel neu arwain panel o’r fath. Mae’n becyn ar gyfer pob lefel, o weithiwr proffesiynol y gofynnir iddo gyfrannu neu fynychu am y tro cyntaf, i aelod o staff sy’n newydd i’w rôl ac yn trefnu cyfarfod o’r panel.

    Porth e-ddysgu Prevent

    Mae Llywodraeth y DU wrthi’n gweithio gyda chontractiwr i wneud newidiadau i’r safle er mwyn cydymffurfio â Safonau Digidol y Llywodraeth. Cynhaliwyd nifer o gyfweliadau gyda defnyddwyr er mwyn deall sut maent yn defnyddio’r wefan ac i nodi gwelliannau i wella’r profiad hyfforddi. Cam nesaf y prosiect fydd ymgorffori’r newidiadau cychwynnol a chynnal ymgynghoriad/cyfweliadau pellach â defnyddwyr lle bydd cyfle i ni a chydweithwyr Prevent gyfrannu at y broses. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i sefydliadau partner am gynnydd ac amserlenni fel y gallant ddarparu cynrychiolwyr yn y dyfodol. Caiff y gofynion o ran y Gymraeg eu hadolygu yn ystod y cam hwn.

    Llawlyfr hyfforddiant Prevent (dyddiedig Mawrth 2016)

    Mae adolygiad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd o’r ddarpariaeth ar gyfer trydydd parti. Mae catalog cyhoeddedig o ddarparwyr eisoes ar gael, a bydd dogfen safonau hyfforddiant yn cael ei chyhoeddi fel rhan o’r adolygiad er mwyn i gyflenwyr a’r rheini sy’n pwrcasu hyfforddiant allu ei dilyn a chyfeirio ati. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd wrth bwrcasu hyfforddiant, ond hefyd yn sicrhau bod darparwyr yn cynnig cynhyrchion o ansawdd uchel sy’n bodloni’r agenda Prevent. Cynhelir ymgynghoriad ar y safonau maes o law.

    Mae WECTU yn gweithio’n agos gyda’n swyddogion arweiniol ar y canlynol.

    • Adnoddau sy’n gysylltiedig â Chymru yn Cyd-dynnu – cysylltu â Phrosiect Cymru yn Cyd-dynnu wrth rannu gwybodaeth ag athrawon ac ati am brosesau atgyfeirio risg/bygythiad.
      Mae gan Brosiect Cymru yn Cyd-dynnu fodiwlau a ddefnyddir mewn ysgolion yn nifer o’r awdurdodau lleol yng Nghymru. Ceir modiwlau ar gyfer dysgwyr uwchradd ac ar gyfer dysgwyr dan 11 oed. Ceir cysylltiad Ewropeaidd hefyd drwy gysylltiadau a ariennir gan Erasmus.
    • Adnoddau sy’n gysylltiedig â Chymru yn Cyd-dynnu – cysylltu â Phrosiect Cymru yn Cyd-dynnu wrth rannu gwybodaeth ag athrawon ac ati am brosesau atgyfeirio risg/bygythiad.
      Mae gan Brosiect Cymru yn Cyd-dynnu fodiwlau a ddefnyddir mewn ysgolion yn nifer o’r awdurdodau lleol yng Nghymru. Ceir modiwlau ar gyfer dysgwyr uwchradd ac ar gyfer dysgwyr dan 11 oed. Ceir cysylltiad Ewropeaidd hefyd drwy gysylltiadau a ariennir gan Erasmus.
    • Gwaith Swyddogion School Beat ar eithafiaeth – ceir 65 o Swyddogion School Bear ar draws Cymru sydd eisoes yn gweithredu fel pwynt cyswllt i ysgolion ar yr agenda hon, ac mae modiwl gwell yn cael ei ddatblygu sy’n cynnwys ffilmio golygfa gychwynnol.
    • Gorgyffwrdd â gwaith ar gydlyniant/troseddau casineb – yn sgil natur drawsbynciol yr agenda, mae gwaith Prevent yn gysylltiedig ag ymgyrchoedd rhai sefydliadau anllywodraethol, e.e. ‘Show racism the red card’, a’r agenda ddiogelu ehangach (sy’n ymdrin â diogelwch ar-lein, ac ati).
    • Ysgolion Caerdydd – Caerdydd yw unig ardal flaenoriaeth y Swyddfa Gartref ar gyfer Prevent yng Nghymru ac, yn sgil hynny, mae’n elwa ar gyllid ar gyfer cydgysylltydd Prevent a swyddogion arweiniol ar gyfer mynd i’r afael ag eithafiaeth.
    • Mentrau sy’n dod i’r amlwg – mae ein cysylltiadau ym maes polisi addysg wedi cefnogi briffiau gan WECTU i’r Prif Weinidog ynghylch yr agenda hon. Bydd WECTU yn parhau i gefnogi ein partneriaid drwy ddarparu gwybodaeth wrth iddynt geisio datblygu/gwella’r dysgu a ddarperir ynghylch yr agenda Prevent a diogelu.
    • Cloi ysgolion dros dro – mae dealltwriaeth o’r agenda Diogelu/Paratoi yn aml yn gorgyffwrdd â Prevent ac ystyriaeth o drefniadau cloi ac adrodd ysgolion.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Byddwn yn parhau i weithio gydag Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU), penaethiaid ac arweinwyr diogelu i ddarparu hyfforddiant priodol ar faterion yn ymwneud â gwrthderfysgaeth, gan sicrhau bod gweithdrefnau a phrosesau ar waith mewn ysgolion, a’u bod yn gyfarwydd â’r prosesau a’r gweithdrefnau hyn. Un o nodweddion allweddol Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 yw’r ddyletswydd ar ysgolion a cholegau i roi sylw dyledus, wrth arfer eu swyddogaethau, i atal pobl rhag cael eu tynnu i derfysgaeth. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Prevent Duty Guidance for England and Wales (Saesneg yn unig) ar gyfer sefydliadau penodol, gan gynnwys darparwyr addysg.

    Fel rhan o Prevent, mae gan ysgolion ddyletswydd i sicrhau bod staff wedi’u hyfforddi i nodi’r rhai sy’n wynebu risg o gael eu radicaleiddio.

    Er mwyn helpu i gyflwyno Prevent, rydym wedi:

    • cyhoeddi a diweddaru’r fersiwn o’n dogfen ganllawiau Gwrthsafiad a pharch – Datblygu cydlyniant cymunedol, sy’n cynnwys pecyn cymorth hunanasesu cysylltiedig; mae’r canllawiau yn sicrhau bod gan ysgolion yng Nghymru wybodaeth i’w helpu i fodloni gofynion cyfreithiol Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015
    • cyhoeddi Ymddiried ynof fi Cymru, sef fersiwn ddwyieithog o’r adnodd ystafell ddosbarth a grëwyd gan Childnet fel rhan o Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, sy’n mynd i’r afael â rhagfarn a phropaganda ar-lein.

    Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y pryd at yr awdurdodau lleol yn ddiweddar yn gofyn am sicrwydd bod gan ysgolion weithdrefnau priodol ar waith.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i ddatblygu pecyn hyfforddi ar-lein ar seiber gadernid ar gyfer rhanddeiliaid addysg yng Nghymru.

    Ym mis Mawrth 2023, gwnaethom gyhoeddi'r modiwl ar-lein Hyfforddiant ar godi ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch i staff ysgolion. Nod yr hyfforddiant yw helpu staff ysgolion i wella seibergadernid eu hysgolion. Byddwn yn parhau i hyrwyddo'r hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ohono ymhlith holl staff ysgolion yng Nghymru.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Gan weithio gyda'r NCSC yn gynnar yn 2023 byddwn yn cyhoeddi modiwl hyfforddi ar-lein 'Hyfforddiant seiberddiogelwch i staff ysgolion’. Bydd yr hyfforddiant yn meithrin sgiliau sylfaenol ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg ac yn nodi ystyriaethau ymarferol i godi eu hymwybyddiaeth o bwysigrwydd seiberddiogelwch a lleihau'r risgiau a gyflwynir gan ymosodiadau seiber.

    Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r hyfforddiant i ysgolion a chynyddu ymwybyddiaeth ohono. 

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Byddwn yn cydweithio â’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i ddarparu pecyn hyfforddi ar-lein ar gyfer rhanddeiliaid addysg yng Nghymru. Bydd yr hyfforddiant yn meithrin sgiliau sylfaenol ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg ac yn nodi ystyriaethau ymarferol i godi eu hymwybyddiaeth o bwysigrwydd seiber ddiogelwch a lleihau’r risgiau a gyflwynir gan ymosodiadau seiber.

    Caiff yr hyfforddiant ar-lein ei ddarparu drwy Hwb i holl staff ysgolion, a chaiff ei deilwra i gynulleidfaoedd penodol.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg, i nodi achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), ac ymateb iddynt.

    Fel rhan o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu rhaglen Gofyn a Gweithredu er mwyn galluogi awdurdodau ychwanegol i gael hyfforddiant Ymwybyddiaeth Gofyn a Gweithredu, e.e. heddluoedd a chymdeithasau tai.

    Mae swyddogion wrthi'n cynnal adolygiad o'r Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol yn ystod 2023.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Fel rhan o ymrwymiadau y Rhaglen Lywodraethu, bydd Rhaglen ‘Gofyn a Gweithredu’ yn ehangu er mwyn caniatáu i awdurdodau nad ydynt yn berthnasol gael mynediad at hyfforddiant ymwybyddiaeth ‘Gofyn a Gweithredu’, e.e. Heddluoedd a Chymdeithasau Tai.

    Byddwn hefyd yn cynnal adolygiad o'r Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol yn 2023.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Rydym yn ymrwymedig i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV). Rydym wedi ymrwymo i’n Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i sicrhau y caiff gweithwyr proffesiynol perthnasol eu hyfforddi i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr. Un o’r dulliau allweddol o gyflawni’r ymrwymiad yw Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol VAWDASV.

    Un o brif swyddogaethau’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yw darparu hyfforddiant cyson a chymesur i awdurdodau lleol er mwyn gwella dealltwriaeth y gweithlu cyffredinol, a thrwy hynny, yr ymateb i’r rhai sy’n dioddef VAWDASV.

    Rydym wedi creu modiwl e-ddysgu 45 munud ar VAWDASV, sydd ar gael yn genedlaethol i weithlu’r ‘awdurdodau perthnasol’ a enwir yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae’r modiwl yn rhoi trosolwg o VAWDASV, ac mae’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar ddysgwyr i nodi arwyddion cam-drin a chyfeirio dioddefwyr at gymorth pellach gan linell gymorth 24 awr Byw Heb Ofn.

    Gwnaethom gyflwyno ‘Gofyn a Gweithredu’, sef ein hyfforddiant ar atal ac ymyrryd yn gynnar er mwyn addysgu gweithwyr proffesiynol rheng flaen sut i nodi VAWDASV. Mae’r hyfforddiant hwn yn addas i unrhyw awdurdod perthnasol sy’n dod i gysylltiad â dioddefwyr VAWDASV wrth gyflawni ei rôl. Prif amcan ‘Gofyn a Gweithredu’ yw ei gwneud yn ofynnol i weithwyr proffesiynol perthnasol ‘ofyn’ cwestiynau i ddarpar ddioddefwyr am y posibilrwydd o gam-drin domestig mewn amgylchiadau penodol a ‘gweithredu’ i leihau dioddefaint a niwed o ganlyniad i’r trais a’r cam-drin.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn hyrwyddo modiwl hyfforddi ar-lein i gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau addysg i ddatblygu a gweithredu gweithdrefnau effeithiol i ymdrin ag achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth.

    Ym mis Medi 2022, gwnaethom adolygu a diweddaru'r canllawiau ar ‘Ymateb i achosion o rannu lluniau noeth’ a rhannu'r fersiwn wedi'i diweddaru, sydd bellach ar gael mewn fformat html, ochr yn ochr â'r modiwl hyfforddiant i rwydweithiau perthnasol, gan gynnwys SEG. Rydym hefyd wedi cyfeirio pobl at yr hyfforddiant hwn o'r hyfforddiant ar aflonyddu rhywiol ar-lein a gyflwynwyd yn ystod 2022-23 er mwyn helpu ysgolion i ymateb mewn ffordd gydlynus wrth ymdrin ag achosion o rannu lluniau noeth yn ogystal â mathau eraill o ymddygiad camdriniol ar-lein.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Ym mis Hydref 2021, cyhoeddwyd y modiwl hyfforddi ‘Ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth’. Mae'r modiwl hyfforddi bellach ar gael i gefnogi Personau Diogelu Dynodedig ac uwch-reolwyr mewn lleoliadau addysg i ymateb yn effeithiol i achosion o rannu delweddau noeth neu hanner noeth. Mae'n cyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru, a ddatblygwyd gyda Chyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd – ‘Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc (2020)’.

    Ym mis Medi 2022, gwnaethom adolygu a diweddaru'r canllawiau  ' Rhannu delweddau noeth a hanner noeth’ a rhannu'r fersiwn wedi'i diweddaru, sydd bellach ar gael ar ffurf html, ochr yn ochr â'r modiwl hyfforddi ar-lein, i rwydweithiau perthnasol, gan gynnwys SEG. Rydym yn bwriadu cyfeirio at yr hyfforddiant hwn o'r pecyn hyfforddi ar ymdrin ag aflonyddu rhywiol ar-lein sy'n cael ei gyflwyno yn ystod 2022-23 i ysgolion, gan ddarparu ymateb cydlynus wrth ymdrin â digwyddiadau o rannu lluniau noeth yn ogystal â mathau eraill o ymddygiad camdriniol ar-lein.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc - Hwb (gov.wales) fel rhan o Weithgor Addysg Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd. Er mwyn cefnogi ysgolion i ymgorffori'r canllawiau ymhellach fel rhan o'u harferion diogelu, byddwn yn datblygu ac yn hyrwyddo hyfforddiant ar-lein atodol a fydd yn cefnogi ymarferwyr i ddeall y canllawiau ac i ddiogelu a chefnogi plant a phobl ifanc yn effeithiol.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag Uned Tarian i ddarparu hyfforddiant trochi i arweinwyr ysgolion i'w cefnogi i ymateb i seiberddigwyddiadau a datblygu eu cynlluniau ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau.  

    Yn ystod 2022-23, gwnaethom barhau i gynnal hyfforddiant gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gynnal sesiynau wedi'u teilwra ar gyfer ysgolion yn eu hardaloedd, gan gynnwys cynnal sesiynau wedi'u teilwra ar gyfer awdurdodau lleol ym Merthyr Tudful, Casnewydd a Gwynedd.

    Byddwn yn parhau i gynnal sesiynau wedi'u teilwra a sesiynau agored i bob ysgol yng Nghymru yn ystod 2023-24.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn ystod tymor yr hydref a'r gwanwyn 2021-2022 rydym wedi cynnal 9 digwyddiad hyfforddi rhithiol ar gyfer uwch-arweinwyr mewn ysgolion mewn partneriaeth â Tarian. Byddwn yn parhau i ddarparu'r hyfforddiant hwn yn ystod 2022-2023.

    Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn parhau i ymateb i nifer cynyddol o ddigwyddiadau ac ymosodiadau wrth i ysgolion ddod yn darged poblogaidd ar gyfer seiberdroseddwyr. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth ag Uned Seiberdroseddau Ranbarthol Tarian i ddarparu ymarferion hyfforddiant trochi rhithiol ar gyfer uwch-arweinwyr mewn ysgolion. Mae'r hyfforddiant trochi rhithiol wedi'i gynllunio i helpu penaethiaid ac uwch-arweinwyr i deilwra dull o baratoi a chynllunio ar gyfer seiberddigwyddiad go iawn yn eu hysgol.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu pecyn hyfforddi i gefnogi ysgolion gyda phroblem aflonyddu rhywiol ar-lein.

    Yn ystod mis Hydref 2022, gwnaethom dreialu'r hyfforddiant ar ‘ddeall, atal ac ymateb’ ym maes aflonyddu rhywiol ar-lein ar gyfer Personau Diogelu Dynodedig gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys swyddogion arweiniol diogelu awdurdodau lleol.

    Gwnaethom fireinio'r hyfforddiant a'r deunyddiau ategol ar ôl cael adborth, a rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth 2023 bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Childnet, sy'n arbenigwyr blaenllaw ym maes diogelwch ar-lein, i roi hyfforddiant ymarferol i bobl sy'n cyflawni rôl Person Diogelu Dynodedig mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru er mwyn eu helpu i ddeall y mater yn well a sicrhau ymateb effeithiol i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein pan fyddant yn digwydd.

    Mae modiwl hyfforddiant ar-lein, sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ymarferwyr addysg mewn ysgolion uwchradd, hefyd ar gael drwy ein hardal hyfforddiant Cadw'n Ddiogel Ar-lein ar Hwb. Mae'r hyfforddiant yn rhannu canfyddiadau allweddol o adroddiad Estyn ac yn tynnu sylw at ganllawiau ac adnoddau perthnasol er mwyn helpu holl staff ysgolion i ddeall yn well sut i gefnogi dysgwyr gyda'r mater hwn. Rydym hefyd wedi llunio cyngor wedi'i deilwra ar gyfer llywodraethwyr a theuluoedd er mwyn cydnabod y rôl bwysig sydd ganddynt i gefnogi ysgolion a phlant a phobl ifanc gyda'r mater cymdeithasol hwn.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Yn ystod mis Hydref 2022, gwnaethom dreialu'r hyfforddiant 'Deall, atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol ar-lein' ar gyfer unigolion diogelu dynodedig (DSPs) gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys arweinwyr diogelu awdurdodau lleol. Rydym yn gweithio gyda Childnet International i fireinio'r hyfforddiant a'r deunyddiau ategol yn dilyn adborth ac rydym yn bwriadu ei gyflwyno’n raddol rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth 2023 i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

    Mae'r modiwl hyfforddi ar-lein ar gyfer holl staff ysgolion yn cael ei ddatblygu a dylai fod ar gael ar y tudalennau Cadw'n Ddiogel Ar-lein yn hwyrach yn y tymor.

    Rydym hefyd yn creu cyngor wedi'i deilwra’n arbennig ar gyfer llywodraethwyr a theuluoedd i gydnabod y rôl bwysig sydd ganddynt wrth gefnogi ysgolion a phlant a phobl ifanc gyda'r mater cymdeithasol hwn.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae aflonyddu rhywiol ar-lein wedi'i nodi fel maes sy'n peri pryder cynyddol, fel y dengys canfyddiadau adroddiad Estyn, Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon - Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru | Estyn (llyw.cymru) (Rhagfyr 2021).

    Drwy ardal Cadw’n ddiogel ar-lein gwefan Hwb, rydym wedi datblygu adnoddau i gefnogi ymarferwyr i fynd i’r afael â’r mater hwn gyda dysgwyr mewn ffordd sy’n briodol i’w hoedran. Ymhlith yr adnoddau mae pecynnau addysgu Codi Llaw, Codi Llais a Dim ond jôc?, sy’n seiliedig ar ymchwil ryngwladol (Project deShame), a’u nod yw cefnogi’r ysgol gyfan i ddeall, atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol ar-lein.  

    Mae canllawiau ar gael hefyd i leoliadau addysg i ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth, ac ym mis Hydref 2021 cafodd modiwl hyfforddiant ategol ei ddatblygu a’i gyhoeddi i gefnogi ysgolion i ymgorffori’r canllawiau hyn.

    Rydym hefyd wedi cyhoeddi cyngor i blant a phobl ifanc fel y gallant ddatblygu eu dealltwriaeth o beth yw aflonyddu rhywiol ar-lein a deall beth i'w wneud a ble i droi am help os bydd hyn yn digwydd iddynt, neu os ydynt yn poeni am rywbeth sydd wedi digwydd ar-lein.

    Mae'n flaenoriaeth ar draws y llywodraeth i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cefnogi gyda'r mater hwn a'u bod yn gallu rhoi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt. Mae cynllun gweithredu aml-asiantaeth ar y gweill ar aflonyddu rhywiol ymhlith cyfoedion mewn lleoliadau addysg, fel chwaer-gynllun i gynllun gweithredu ‘Cadernid digidol mewn addysg’, a fydd yn rhoi sylw i sesiynau dysgu proffesiynol i sicrhau bod ymarferwyr yn gallu deall, atal ac ymateb i ddigwyddiadau yn effeithiol.

    Er mwyn sicrhau bod y staff perthnasol mewn ysgolion yn ymwybodol o'r adnoddau presennol sydd ar gael i fynd i'r afael â'r mater, a'u bod yn hyderus wrth ymateb i ddigwyddiadau, rydym yn awyddus i ddatblygu pecyn hyfforddi aflonyddu rhywiol ar-lein.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu modiwl hyfforddi i helpu ymarferwyr i adnabod a mynd i'r afael â chamwybodaeth.

    Ym mis Tachwedd 2022, gwnaethom gyhoeddi modiwl hyfforddiant ar-lein ar gamwybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysg, a ddatblygwyd ar y cyd â Full Fact. Nod y modiwl hyfforddiant hwn yw rhoi cyfoeth o wybodaeth i ymarferwyr am ffyrdd o fynd i'r afael â chamwybodaeth a helpu dysgwyr i wneud y canlynol yn effeithiol:

    • Deall beth yw camwybodaeth, y gwahanol fathau o gamwybodaeth a'r mathau o niwed y gall eu hachosi.
    • Dysgu'r sgiliau sylfaenol ar gyfer archwilio ffynonellau gwybodaeth, a beth yw ystyr bod yn ddibynadwy ac yn annibynadwy.
    • Dysgu'r cwestiynau meddwl yn feirniadol allweddol y gallwch eu gofyn am unrhyw honiad er mwyn penderfynu a yw'n debygol o fod yn wir.
    • Dysgu'r broses a ddefnyddir gan wirwyr ffeithiau er mwyn darganfod a yw rhywbeth yn wir ai peidio.

    I gyd-fynd â'r modiwl hyfforddiant hwn, gwnaethom gyhoeddi erthygl Barn yr arbenigwyr a ysgrifennwyd gan reolwr hyfforddiant Full Fact, Joe O'Leary, sy'n esbonio pwysigrwydd meddwl yn feirniadol wrth archwilio camwybodaeth gyda phlant a phobl ifanc yn yr ystafell ddosbarth.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Yn ystod 2022 rydym wedi gweithio gyda Full Fact i ddatblygu modiwl hyfforddi ar-lein ar gyfer ymarferwyr addysg er mwyn eu cefnogi i ddeall cymhlethdod camwybodaeth mewn byd ar-lein. Mae disgwyl i'r modiwl hwn gael ei gyhoeddi yn ystod tymor yr Hydref 2022.

    Rydym hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda thimau'r Cwricwlwm ar ddatblygu adnoddau newydd ar lythrennedd ym maes y cyfryngau. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach ym mlwyddyn academaidd 2022/23.

    Byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o gamwybodaeth a darparu cefnogaeth i ysgolion a theuluoedd.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae’n gwbl hysbys mai camwybodaeth yw un o broblemau mwyaf cyffredin ac anodd ein cyfnod. Yn ystod 2021-22, cyhoeddwyd ymgyrch ‘Atal camwybodaeth’ ar Hwb.  Nod yr ymgyrch oedd codi ymwybyddiaeth o sut i ddefnyddio sgiliau meddwl beirniadol i atal camwybodaeth.

    Gan adeiladu ar y gwaith hwn, byddwn yn datblygu modiwl hyfforddi ar-lein i ymarferwyr i'w cefnogi i ddeall cymhlethdod camwybodaeth mewn byd ar-lein.