English

Mae diogelwch ar-lein yn effeithio ar bob un ohonom, o unigolion ifanc a hŷn i sefydliadau bach a mawr. Mae gan bob ysgol ddyletswyddau statudol i weithredu mewn ffordd sy’n sicrhau bod dysgwyr yn cael eu diogelu a bod eu llesiant yn cael ei hyrwyddo yn yr ysgol.

Mae 360 safe Cymru yn adnodd hunanadolygu diogelwch ar-lein rhyngweithiol sydd ar gael yn ddwyieithog drwy Hwb ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Mae’r adnodd yn cefnogi ysgolion i adolygu eu darpariaeth diogelwch ar-lein a datblygu ac adolygu eu polisïau diogelwch ar-lein yn unol ag arferion cyfredol. Gall ysgolion ddefnyddio’r adnodd i lunio cynlluniau gweithredu i wella’r ddarpariaeth diogelwch ar-lein a chael mynediad at ystod o adnoddau perthnasol a thempledi polisïau enghreifftiol y gellir eu haddasu i ddiwallu anghenion yr ysgol.


Gall ysgolion ddilyn strwythur yr adnodd a’r wybodaeth a ddarperir i nodi meysydd o ddarpariaeth diogelwch ar-lein y mae angen eu cryfhau yn eu hysgol a pharatoi cynlluniau gweithredu i wella’r ddarpariaeth.

Gall ysgolion gael mynediad at bolisïau templed cyfredol y gellir eu haddasu i’w lleoliad ysgol.

Mae’r adnodd yn rhoi cyfle i ysgolion edrych ar ddiogelwch ar-lein fel cymuned ysgol, gan hyrwyddo dealltwriaeth o weithdrefnau, prosesau a mesurau diogelu ar gyfer diogelwch ar-lein wrth baratoi staff ysgolion i ymateb i ddigwyddiadau a allai godi neu a gaiff eu hadrodd yn yr ysgol.

Gall ysgolion edrych ar eu hunanadolygiad yn rheolaidd i gynnal a gwella eu darpariaeth diogelwch ar-lein.


“Mae wir yn ein helpu i ganfod ein cryfderau a’n gwendidau, ac yn caniatáu i ni wneud cynnydd drwy nodi’n benodol y camau nesaf i’w cymryd.”

Ysgol bob oed, Sir Benfro

“Mae’r broses hon wedi gwneud i ni edrych ar bethau na fydden ni wedi meddwl amdanynt o’r blaen. Does dim modd gwybod yr hyn nad ydych chi’n ei wybod! Rydyn ni’n credu bod yr ysgol mewn sefyllfa llawer gwell erbyn hyn.”

Ysgol Gyfun, Pen-y-bont ar Ogwr

“Pan oedden ni’n sylwi ar brinder polisïau, roedden ni’n gallu defnyddio’r templedi a ddarperir i ddatblygu systemau newydd. Mae holl ddefnyddwyr Hwb yn gallu cael mynediad at yr adnodd yn hawdd, ac mae rhyngwyneb yr adnodd yn hawdd ei lywio a’i ddefnyddio.”

Ysgol Gynradd, Torfaen

“Mae’r adnodd yn rhoi canllawiau clir ynglŷn â lle rydych chi arni a’r camau nesaf sydd angen i chi eu cymryd.”

Ysgol Gynradd, Rhondda Cynon Taf

“Mae defnyddio adnodd ar-lein 360 safe wedi ein galluogi ni i symud o fod yn ysgol a oedd yn gwneud yn iawn o ran diogelwch ar-lein, i ysgol sydd bellach yn ymdrin â phroblemau o ddifrif ac yn sicrhau bod pawb yn y gymuned yn symud ymlaen ar hyd yr un continwwm tuag at fod yn ddiogel ym mhob agwedd ar ein bywyd digidol. Mae’r daith wedi bod yn un ddwys ac mae’n rhaid i’r ysgol gyfan gydymffurfio â’r broses. Fel arall, mae bwriad craidd diogelwch ar-lein yn cael ei golli.”

Ysgol Gynradd, Powys


Unwaith y bydd defnyddiwr wedi mewngofnodi i Hwb, bydd yr eicon 360 Cymru ar gael ar ei hafan. Rhaid i bob ysgol gofrestru ar gyfer eu cyfrif sefydliadol 360 safe Cymru eu hunain a gall gweinyddwyr cyfrifon (sy’n cynnwys y pennaeth fel gofyniad sylfaenol yn ddiofyn) ganiatáu i gynifer o ddefnyddwyr gofrestru i’r cyfrif hwnnw ag sy’n ofynnol. Mae gweinyddwyr cyfrifon yn rheoli mynediad a chaniatâd pob defnyddiwr yn eu hysgol, gan gynnwys neilltuo caniatâd gweinyddwr i aelodau eraill o staff os yw’n briodol.

Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru gyfrif 360 safe Cymru, ond i’r rhai sy’n dymuno cofrestru neu sydd eisiau nodi gweinyddwyr a defnyddwyr cyfredol yn eu hysgol, anfonwch e-bost at 360safe@swgfl.org.uk neu defnyddiwch ffurflen gyswllt 360 safe Cymru. 

Gwybodaeth

Sut i wirio neu gofrestru fy nghyfrif Hwb yn 360 safe Cymru?

Mewngofnodwch i Hwb a chliciwch ar 360 Cymru yn eich hafan.

Os ydych chi wedi cofrestru eisoes

  1. Byddwch yn cael eich ailgyfeirio at dudalen dangosfwrdd ‘Croeso i’ch adolygiad diogelwch ar-lein’ eich ysgol.
  2. Bydd eich enw a’ch ysgol yn weladwy yn y blwch proffil ar frig tudalen eich rhaglen ar yr ochr dde.

Os nad ydych wedi cofrestru

  1. Cwblhewch y ffurflen gofrestru ar-lein gyda’ch enw llawn a’ch cyfeiriad e-bost Hwb.
  2. Bydd gweinyddwr/gweinyddwyr 360 safe Cymru eich ysgol yn cael gwybod yn awtomatig am eich cais i gofrestru ac mae’n rhaid iddynt gymeradwyo’r cais hwnnw cyn y gallwch gael mynediad at yr adnodd.
  3. Unwaith y bydd y cais wedi’i gymeradwyo, anfonir e-bost dilysu â therfyn amser atoch.

Mae adnodd 360 safe Cymru yn eich galluogi i raddio eich ysgol yn erbyn nifer o feini prawf gwahanol ar gyfer diogelwch ar-lein. Mae wedi'i strwythuro fel a ganlyn:

Elfennau

Yr elfennau sy’n darparu’r lefel uchaf yn y strwythur, gan ddiffinio’r 4 prif gategori y cyflawnir yr adolygiad ynddynt, hy ‘Polisi ac arweinyddiaeth’, ‘Addysg’, ‘Technoleg’ a ‘Deilliannau’.

Mae pob elfen yn fan cychwyn ar gyfer yr adolygiad ac mae’n cynnwys nifer o linynnau ac agweddau.

Llinynnau

Mae cyfanswm o 8 llinyn wedi’u rhannu rhwng y pedair elfen. Yna caiff pob llinyn ei rannu ymhellach yn agweddau.

Agweddau

Mae cyfanswm o 21 agwedd i’w cwblhau. 

O fewn pob agwedd, ceir 5 datganiad lefel, yn dechrau gyda Lefel 5 hyd at Lefel 1 sy’n cynrychioli’r cyrhaeddiad uchaf. Mae ysgolion yn dewis y datganiad sy’n adlewyrchu orau eu sefyllfa bresennol

Dangosfwrdd

Mae’r ‘Dangosfwrdd’ yn cynnwys graff radar sy’n rhoi syniad bras o gynnydd eich ysgol o fewn yr adnodd a’r meysydd diogelwch ar-lein y mae angen eu gwella. Mae’r lefelau rydych chi wedi’u dewis ar gyfer pob agwedd wedi’u dangos mewn gwyrdd, ynghyd â’r lefel genedlaethol bresennol mewn glas a’r lefelau meincnod a argymhellir mewn coch.

Am ragor o wybodaeth am ddefnyddio 360 safe Cymru, ewch i’r Cwestiynau Cyffredin a Chymorth.