English

6. Adnoddau, offer a gwasanaethau

 


  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda SWGfL i hyrwyddo a darparu mynediad i 360 safe Cymru, sef adnodd hunanasesu diogelwch ar-lein dwyieithog sydd ar gael i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru, drwy gofrestru unwaith â Hwb. Caiff cynnwys yr adnodd, yn ogystal â’r templedi polisi cysylltiedig, eu diweddaru unwaith bob dwy flynedd.

    Mewn cydweithrediad â SWGfL, rydym wedi comisiynu adolygiad o adnodd 360 safe Cymru. Bydd hyn yn gwella ac yn symleiddio’r agweddau hunanadolygu presennol o 28 i 21, a bydd hefyd yn cynnwys diweddaru’r templedi polisi sampl i ysgolion eu defnyddio yn unol â’r canllawiau diweddaraf. Disgwylir i’r adnodd newydd gael ei lansio ym mis Ionawr 2021 fel rhan o gyfres newydd o adnoddau, a fydd hefyd yn cynnwys adnodd hunanadolygu dysgu digidol 360 safe Cymru.

    Mae 95 y cant o ysgolion a gynhelir yng Nghymru wedi’u cofrestru ag adnodd presennol 360 safe Cymru ar hyn o bryd, gyda thros 66 y cant o’r rhain wedi cwblhau pob un o’r 28 o agweddau. Caiff ysgolion negeseuon atgoffa drwy e-bost bob tymor yn hyrwyddo manteision cwblhau’r adolygiad hunanasesu, yn ogystal ag annog arfarnu parhaus. Ar hyn o bryd mae 89 y cant o ysgolion cofrestredig wedi defnyddio’r adnodd yn ystod y 12 mis diwethaf.

    Statws y cam gweithredu: Wedi cau.

    Ym mis Tachwedd 2018, cafodd yr adnodd adnodd 360 safe Cymru ei ddiweddaru, gyda chynllun newydd a nodweddion ychwanegol ar gyfer defnyddwyr. Mae tudalen hafan yr adnodd bellach yn cynnwys graff sy’n dangos cynnydd yr ysgol ac yn meincnodi ei pherfformiad yn erbyn safonau cenedlaethol a pherfformiad ysgolion eraill. Mae adroddiadau pellach yn galluogi’r ysgol i edrych yn ôl ar gynnydd yr ysgol dros amser.

    Yn ogystal, cafodd y polisïau enghreifftiol a chynnwys yr adnodd eu diweddaru a chafodd canllawiau newydd eu cynnwys ar reoli data a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

    Caiff yr adnodd ei ddefnyddio gan 1,426 o ysgolion ar hyn o bryd ac mae’r mwyafrif wedi cwblhau pob un o’i elfennau. Anogir ysgolion i ailedrych ar ei hadolygiad, ac mae bron i 60 y cant o ysgolion cofrestredig wedi defnyddio’r adnodd yn y 12 mis diwethaf.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae 360 safe Cymru yn adnodd hunanasesu diogelwch ar-lein sydd wedi’i gynllunio i sicrhau bod pob ysgol a gynhelir, awdurdod lleol a lleoliad addysg arall yng Nghymru yn gallu asesu ac adolygu eu polisi ac ymarfer yn ymwneud â diogelwch ar-lein. Mae’r adnodd yn tywys ysgolion drwy 28 agwedd ar ddiogelwch ar-lein, gan eu helpu i gydweithio, cofnodi a datblygu eu darpariaeth diogelwch ar-lein.

    Mae adnodd hunanasesu 360 safe Cymru yn darparu:

    • gwybodaeth sy’n gallu dylanwadu ar lunio neu adolygu polisïau diogelwch ar-lein a datblygu arferion da
    • proses ar gyfer nodi cryfderau a meysydd i’w gwella
    • cyfleoedd ar gyfer ymrwymiad a chyfranogiad yr ysgol gyfan
    • continwwm fel bod ysgolion yn gallu trafod sut y gallant newid o ddarpariaeth sylfaenol ar gyfer diogelwch ar-lein i ymarfer sy’n amlygu dyhead ac arloesedd.

    Diweddarwyd cynnwys yr adnodd a’r templedi polisi cysylltiedig ym mis Ionawr 2017. 

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu adnoddau diogelwch ar-lein dwyieithog ar gyfer dysgwyr cynradd ac uwchradd ar amrywiaeth o faterion penodol yn ymwneud â diogelwch ar-lein.

    Ym mis Gorffennaf 2022 gwnaethom gyhoeddi'r pecynnau addysg Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel wedi'u haddasu fel bod modd iddynt gael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn er mwyn helpu ymarferwyr i gynnal gwersi ar ddiogelwch ar-lein.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn ystod 2021-22, aethom ati i ddatblygu a chyhoeddi cyfres newydd o adnoddau a oedd yn darparu cynlluniau gwersi ar gyfer dysgwyr cynradd ac uwchradd i fynd i'r afael â'r materion canlynol.

    Hiliaeth ar-lein

    Sgrolio diddiwedd

    Hawliau plant a phobl ifanc i fod yn ddiogel ar-lein

    Bod yn seiberddoeth er mwyn osgoi seiberdroseddau

    Statws y cam gweithredu: Parhaus

    Yn 2020-21, fe wnaethom barhau i ychwanegu at yr arlwy o adnoddau dwyieithog sydd ar gael ar ystod eang o faterion diogelwch ar-lein. Roedd hyn yn cynnwys creu a chyhoeddi rhestri chwarae ar y pynciau canlynol.

    Ar gyfer pob rhestr chwarae roedd fersiwn addas ar gyfer dysgwyr ysgol gynradd ac un ar wahân ar gyfer dysgwyr ysgol uwchradd.

    Yn ystod 2021-22 byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi cyfres newydd o adnoddau sy'n mynd i'r afael â'r materion canlynol.

    • Hiliaeth ar-lein
    • Sgrolio diddiwedd
    • Hawliau plant a phobl ifanc i fod yn ddiogel ac yn saff ar-lein
    • Bod yn seiberddoeth er mwyn osgoi seiberdroseddau

    Statws y cam gweithredu: Parhaus

    Yn ystod 2019–20, gwnaethom barhau i adeiladu ar y gyfres o adnoddau dwyieithog ar amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein. Roedd hyn yn cynnwys creu a chyhoeddi rhestrau chwarae ar y pynciau canlynol.

    Ar gyfer pob rhestr chwarae, roedd fersiwn addas ar gyfer dysgwyr ysgolion cynradd a fersiwn ar wahân ar gyfer dysgwyr ysgolion uwchradd.

    Bydd ein Rhaglen Diogelwch Ar-lein 2020–21 yn datblygu ac yn cyhoeddi cyfres newydd o adnoddau rhestrau chwarae sy’n mynd i’r afael â’r materion canlynol.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn ystod 2018–19, gwnaethom barhau i adeiladu ar y gyfres o adnoddau dwyieithog ar bynciau amrywiol yn ymwneud â diogelwch ar-lein. Roedd hyn yn cynnwys creu a chyhoeddi rhestrau chwarae ar y pynciau canlynol.

    Ar gyfer pob rhestr chwarae, roedd fersiwn addas ar gyfer dysgwyr ysgolion cynradd a fersiwn ar wahân ar gyfer dysgwyr ysgolion uwchradd.

    Yn 2019–20, byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi cyfres newydd o adnoddau rhestrau chwarae sy’n mynd i’r afael â’r materion canlynol:

    • amser o flaen sgrin, technoleg ac iechyd meddwl
    • camwybodaeth
    • cydsyniad ar-lein
    • cynnwys anghyfreithlon a sarhaus
    • casineb ar-lein

    Caiff dwy restr chwarae eu datblygu ar gyfer pob pwnc – un ar gyfer dysgwyr ysgolion cynradd ac un ar gyfer dysgwyr ysgolion uwchradd.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwybodaeth ddibynadwy am yr amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein er mwyn darparu cymorth a chanllawiau i blant a phobl ifanc. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod yr adnoddau hyn yn ddiddorol, yn briodol i oedran ac yn gweddu i’r grwp oedran priodol.

    Mae arbenigwyr amrywiol ledled y sector yn creu adnoddau diogelwch ar-lein o ansawdd da, ond mae’r rhan fwyaf ar gael drwy gyfrwng y Saesneg yn unig. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â hyn, rydym wedi contractio darparwr arbenigol, sef SWGfL, i ddatblygu amrywiaeth o adnoddau diogelwch ar-lein dwyieithog o ansawdd uchel ar gyfer dysgwyr cynradd ac uwchradd.

    Byddwn yn ystyried yr adnoddau diogelwch ar-lein sydd ar gael a sut y gellir eu teilwra ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n addysgu plant yn y cartref. Mae parth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb yn darparu amrywiaeth eang o adnoddau diogelwch ar-lein ar gyfer rhanddeiliaid addysg. Mae cynnwys y parth yn cael ei adolygu’n rheolaidd, ac mae unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth yn cael eu nodi a’u blaenoriaethu i’w llenwi yn y dyfodol.

    Mae nifer y plant sy’n derbyn addysg yn y cartref yn parhau i gynyddu, a bydd llawer o rieni a gofalwyr yn dibynnu ar y rhyngrwyd ac adnoddau ac offerynnau ar-lein i’w helpu i addysgu eu plant yn y cartref. Rydym eisiau sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth rhieni a gofalwyr o’r peryglon posibl, a sut i leihau’r peryglon hyn.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr adnoddau diogelwch ar-lein sydd ar gael a sut y gellir eu teilwra ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n addysgu yn y cartref.  

    Drwy ardal Cadw'n Ddiogel Ar-lein ar Hwb, rydym wedi llunio canllawiau ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein er mwyn helpu rhieni a gofalwyr i addysgu dysgwyr gartref, gan gynnwys egluro'r we dywyll a'r metafyd. Rydym hefyd yn parhau i gynnig casgliad helaeth o adnoddau addysgol cadernid digidol sydd ar gael i'r cyhoedd y gellir eu defnyddio ar gyfer addysgu a dysgu mewn ysgolion neu fel rhan o addysg yn y cartref.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Drwy ardal ‘Cadw'n ddiogel ar-lein’ gwefan Hwb rydym wedi parhau i ddarparu cyfres eang o adnoddau addysgol ar gadernid digidol sydd ar gael i’r cyhoedd i’w defnyddio mewn ysgolion neu fel rhan o addysg yn y cartref.

    O ganlyniad i effaith COVID-19, ni fu’n bosibl mynd ar drywydd y cam gweithredu hwn yn 2020. Mae datblygu’r ymateb cenedlaethol i COVID-19 wedi arwain at oblygiadau sylweddol i ni, gan olygu bod y gwaith ar addysg yn y cartref wedi cael ei oedi. Fodd bynnag, rydym wedi creu sylfaen gadarn ar gyfer gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol, a byddwn yn mynd ar drywydd y cam gweithredu hwn cyn gynted ag y bydd adnoddau’n caniatáu.

    Mae llawlyfr drafft i addysgwyr yn y cartref ar gael, sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth i deuluoedd sy’n addysgu yn y cartref neu’r rhai sy’n ystyried gwneud hynny. Gall rhieni a gofalwyr hefyd gael gafael ar amrywiaeth eang o adnoddau drwy Hwb i’w helpu i addysgu yn y cartref.

    Mae parth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb ar gael i bob aelod o’r cyhoedd, gan sicrhau bod dysgwyr a’u rhieni a gofalwyr yn gallu manteisio ar y gyfres helaeth o adnoddau addysgol ar gadernid digidol sydd ar gael. Hefyd, yn ystod pandemig COVID-19, gwnaethom weithio gyda phartneriaid i lunio adnoddau penodol i gefnogi dysgu o bell ac, yn fwy diweddar, dysgu cyfunol.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Byddwn yn creu tudalen ar Hwb ar gyfer teuluoedd sy’n addysgu yn y cartref, a fydd yn cynnwys gwybodaeth ar sut i gael mynediad i arholiadau a gwasanaethau cyffredinol, yn ogystal â dolenni i adnoddau dysgu ar bynciau fel Cymraeg, Saesneg, mathemateg, gwyddoniaeth a diogelwch ar-lein.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Mae parth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb yn darparu amrywiaeth eang o adnoddau diogelwch ar-lein i randdeiliaid addysg. Caiff cynnwys y parth ei adolygu’n rheolaidd, a chaiff bylchau mewn darpariaeth eu nodi a’u blaenoriaethu ar gyfer gwaith datblygu yn y dyfodol.

    Mae nifer y plant sy’n derbyn addysg yn y cartref yn parhau i gynyddu, a bydd llawer o rieni a gofalwyr yn dibynnu ar y rhyngrwyd ac adnoddau ac offerynnau ar-lein i’w helpu i addysgu eu plant yn y cartref.

    Rydym am sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth rhieni a gofalwyr o’r risgiau posibl, ynghyd â sut i liniaru’r risgiau hyn.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu amrywiaeth o adnoddau diogelwch ar-lein dwyieithog ar gyfer ymarferwyr addysg, gan gynnwys adnoddau ystafell ddosbarth a chanllawiau i athrawon.  

    Ym mis Mawrth 2023, gwnaethom gyhoeddi taflen ffeithiau i ymarferwyr sy'n esbonio'r we dywyll er mwyn helpu i lywio sgyrsiau a chefnogi person ifanc os bydd ymarferydd yn pryderu ei fod yn mynd ar y we dywyll o bosibl.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn ystod 2021-22, fel rhan o ymrwymiad parhaus i gefnogi ymarferwyr addysg i ddarparu addysg ar ddiogelwch ar-lein yn yr ystafell ddosbarth a darparu adnoddau i’r ystod ehangach o ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae ein cyfres ddiweddaraf o ganllawiau yn ymwneud â’r pynciau canlynol:

    Yn ystod tymor yr Hydref 2022, byddwn ni'n cyhoeddi canllaw ar y metafyd ar gyfer ymarferwyr addysg. Nod y canllaw hwn yw rhoi dealltwriaeth glir o'r metafyd wrth iddo ddatblygu a'r hyn y mae'n ei olygu i fywydau digidol pobl ifanc.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn ystod 2020-21, fe wnaethom ddatblygu adnoddau newydd i gynorthwyo ymarferwyr addysg i ddarparu addysg diogelwch ar-lein yn yr ystafell ddosbarth.

    Gan barhau i ychwanegu at yr arlwy presennol o adnoddau dwyieithog sy'n mynd i'r afael ag ystod o faterion diogelwch ar-lein, mae ein pedwaredd gyfres o ganllawiau, a ailenwyd yn 'Canllaw i ymarferwyr ar ... ' i ddarparu adnoddau ar gyfer yr ystod ehangach o ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru wedi'u cyhoeddi yn yr ardal Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb.

    Mae'r canllawiau'n ymdrin â'r pynciau canlynol.

    Yn 2021-22 bydd ein pumed gyfres o ganllawiau yn ymdrin â'r pynciau canlynol.

    • Canllaw i ymarferwyr ar hiliaeth ar-lein
    • Canllaw i ymarferwyr ar sgrolio diddiwedd
    • Canllaw i ymarferwyr ar hawliau plant a phobl ifanc i fod yn ddiogel ac yn saff ar-lein
    • Canllaw i ymarferwyr ar fod yn seiberddoeth er mwyn osgoi seiberdroseddau

    Statws y cam gweithredu: Parhaus

    Yn ystod 2019–20, gwnaethom ddatblygu adnoddau newydd i helpu ymarferwyr addysg i ddarparu addysg ar ddiogelwch ar-lein yn yr ystafell ddosbarth.

    Gan barhau i adeiladu ar y gyfres bresennol o adnoddau dwyieithog sy’n mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein, mae’r drydedd gyfres o ganllawiau ‘Canllaw i athrawon ar ...’ wedi’i chyhoeddi ar barth Cadw’n ddiogel ar-lein Hwb.

    Mae’r canllawiau’n ymdrin â’r pynciau canlynol.

    Ar gyfer ein pedwaredd gyfres o ganllawiau yn 2020–21, rydym wedi newid teitl y canllawiau i ‘Canllaw i ymarferwyr ar ... ’, er mwyn darparu adnoddau i’r amrywiaeth ehangach o ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Bydd yr adnoddau a gaiff eu creu a’u cyhoeddi ar barth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb yn ymdrin â’r pynciau canlynol.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn ystod 2018–19, gwnaethom ddatblygu adnoddau newydd er mwyn helpu ymarferwyr addysg i ddarparu addysg ar ddiogelwch ar-lein yn yr ystafell ddosbarth.

    Roedd hyn yn cynnwys adeiladu ar y gyfres bresennol o adnoddau dwyieithog ar ystod o faterion diogelwch ar-lein, gan gynnwys cyhoeddi’r rhestrau chwarae canlynol ar Hwb.

    Yn 2019–20, byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi cyfres newydd o adnoddau rhestrau chwarae sy’n mynd i’r afael â’r materion canlynol.

    Mae rhestrau chwarae yn darparu ffordd o goladu cynnwys o ystod o ffynonellau gwe, ynghyd â’ch deunyddiau a’ch cwestiynau cwis eich hun, yn un adnodd y gellir ei rannu â defnyddwyr eraill. Gellir troi’r rhain hefyd yn aseiniad, a fydd yn casglu’r sgorau cwis gan unrhyw ddefnyddiwr sy’n cwblhau’r aseiniad, ac yn eu harddangos ar gyfer yr athro mewn llyfr marciau.

    Gall defnyddio rhestrau chwarae fod yn ffordd ddibynadwy, ddiogel a hygyrch i ymarferwyr addysg a’u dysgwyr drefnu a rhannu adnoddau ar Hwb.

    Er mwyn cefnogi ymarferwyr addysg ymhellach, rydym wedi cyhoeddi cyfres arall o ganllawiau ‘Canllaw i athrawon ar ... ’. Nod y cyhoeddiadau hyn yw darparu trosolwg ar fater penodol yn ymwneud â diogelwch ar-lein.

    Yn ystod 2018–19, cafodd y rhifynnau canlynol eu cyhoeddi.

    Yn ystod 2019–20, bydd trydedd gyfres o ganllawiau ‘Canllaw i athrawon ar ...’ yn cael ei chyhoeddi gan ddefnyddio’r teitlau canlynol.

    • Canllaw i athrawon ar ffynonellau cymorth ar gyfer problemau diogelwch ar-lein.
    • Canllaw i athrawon i ddefnyddio rhestrau chwarae diogelwch ar-lein yn y dosbarth.
    • Canllaw i athrawon am effaith y rhyngrwyd ar iechyd meddwl.
    • Canllaw i athrawon ar ddeall rôl y rhyngrwyd mewn radicaliaeth ac eithafiaeth.
    • Canllaw i athrawon ar adnabod a herio bwlio ar-lein.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Byddwn yn sicrhau y gall ymarferwyr gael gafael ar amrywiaeth o adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel i’w helpu i ddarparu addysg ar ddiogelwch ar-lein mewn ysgolion. 

    Byddwn yn parhau i lunio canllawiau i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae pob canllaw yn ymdrin â phwnc cyfoes gwahanol yn y dirwedd diogelwch ar-lein bresennol ac yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol. Hefyd, mae’r canllawiau yn cynnwys cyfeiriadau at ffynonellau eraill ac yn darparu awgrymiadau a syniadau ymarferol amrywiol.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn cyflwyno adnodd archwilio trefniadau diogelu a chanllawiau i ysgolion eu defnyddio i asesu eu darpariaeth diogelu.

    Mae’r adnodd archwilio wedi’i gynnwys yng nghanllawiau Cadw dysgwyr yn ddiogel a bydd Estyn yn defnyddio’r adnodd wrth gynnal arolygiadau.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Yn ystod 2019–20, caiff yr adnodd archwilio trefniadau diogelu ei gynnwys yng nghanllawiau diwygiedig Cadw dysgwyr yn ddiogel fel mater o arfer effeithiol ar gyfer pob lleoliad addysg. Diben yr adnodd archwilio trefniadau diogelu yw cefnogi lleoliadau addysg i adolygu eu trefniadau diogelu. Bwriedir i’r adnodd archwilio eu helpu i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella o ran eu trefniadau diogelu, a sicrhau eu bod yn cyflawni eu rhwymedigaethau diogelu cyfreithiol yn unol â chanllawiau statudol Cadw dysgwyr yn ddiogel

    Dylid defnyddio’r adnodd fel rhan o ddull gweithredu ysgol gyfan ar gyfer diogelu ac i ddarparu meincnod ar gyfer datblygu a gwella’n barhaus.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Rydym wedi comisiynu gwaith i ddatblygu adnodd asesu ac archwilio darpariaeth diogelu. Bydd yr adnodd archwilio yn helpu lleoliadau addysg i ddatblygu eu prosesau diogelu a hyrwyddo cysondeb cenedlaethol wrth gyflawni dyletswyddau yn unol â chanllawiau Cadw dysgwyr yn ddiogel. Caiff yr adnodd archwilio ei gyflwyno yn 2018–19 a byddwn yn comisiynu gwerthusiad o’r adnodd ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Y bwriad hirdymor yn dilyn y gwerthusiad hwn yw sefydlu’r pecyn adnoddau fel rhan o ganllawiau 'Cadw dysgwyr yn ddiogel'.

  •  

    Bydd y fersiwn ddiweddaraf o becyn cymorth cwnsela Llywodraeth Cymru yn cynnwys pennod ar gwnsela ar-lein, gan roi canllawiau ar ddarparu gwasanaeth ar-lein diogel.

    Cyhoeddwyd y Pecyn cymorth gweithredu cwnsela mewn ysgolion ac yn y gymuned ym mis Mehefin 2020 ac mae’n cynnwys pennod ar ddarparu gwasanaeth ar-lein.

    Ym mis Ebrill 2020, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg £1.252 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cwnsela, gan gynnwys cyllid i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth ar-lein yn ystod pandemig COVID-19.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Yn 2018–19, datblygwyd pecyn cymorth cwnsela drafft anffurfiol ac ymgynghorwyd â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys darparwyr cwnsela awdurdodau lleol a Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain. Mae ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol wedi’i gynllunio ar gyfer 2019 a bwriedir cyhoeddi’r fersiwn derfynol yn 2020.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Mae’n rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaethau cwnsela rhesymol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed yn eu hardal, ac ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 6 mewn ysgolion cynradd. Hefyd, mae rhai awdurdodau lleol yn dewis cynnig gwasanaeth cwnsela ar-lein i ategu eu gwasanaeth cwnsela wyneb yn wyneb.

    Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddiweddaru’r Pecyn Cymorth Cwnsela Mewn Ysgolion (2011), sydd wedi’i anelu at gwnselwyr, rheolwyr gwasanaethau cwnsela, awdurdodau lleol ac ysgolion. Bydd y pecyn cymorth diwygiedig yn cynnwys cyngor ar wasanaethau cwnsela ar-lein, gan nodi bod angen i wasanaeth cwnsela ar-lein ystyried:

     

    • yr angen i weithredu ar lwyfan saff a diogel
    • gofynion amddiffyn a diogelu plant
    • addasrwydd y cleient ar gyfer y llwyfan y gofynnwyd amdano, ei oedran, gan gynnwys cymhwysedd Gillick (term a ddefnyddir i benderfynu a yw plentyn (o dan 16 oed) yn gallu cydsynio i’w driniaeth feddygol ei hun, heb fod angen caniatâd neu wybodaeth rhiant), a dealltwriaeth fanwl o faterion yn ymwneud â chydsyniad a chyfrinachedd
    • protocolau a mecanweithiau technegol ar gyfer cefnogi cleientiaid mewn argyfwng
    • defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymarfer cwmpasu bach ar adnoddau diogelwch ar-lein i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

    Ar hyn o bryd, rydym yn archwilio cyfle i weithio gyda'r NSPCC i letya rhywfaint o'i hadnodd diogelwch ar-lein ar gyfer teuluoedd plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar Hwb.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn dilyn yr arolwg a gynhaliwyd yn 2020-21 rydym ar hyn o bryd yn archwilio cyfleoedd gyda rhanddeiliaid i ddatblygu ystod o awgrymiadau am ddiogelwch ar-lein, cyngor a gweithgareddau i gefnogi teuluoedd plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn ystod 2019–20, gwnaethom gomisiynu SWGfL i greu chwe cynllun gwers ar ddiogelwch ar-lein ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’r gwersi, sy’n seiliedig ar adnodd STAR Childnet, yn cynnig syniadau ar gyfer gweithgareddau i ddysgwyr sydd ag ADY er mwyn iddynt ddysgu mwy am sut i gadw’n ddiogel ar-lein, ymddiried mewn pobl ar-lein a pharchu eraill ar-lein. Mae’r gwersi wedi’u cynllunio ar gyfer dysgwyr sydd â galluoedd eithaf tebyg i ddysgwyr ysgol gynradd (Cyfnod Allweddol 2), a chawsant eu cyhoeddi ar barth Cadw’n ddiogel ar-lein Hwb ym mis Chwefror 2020.

    Er mwyn pennu’r gofynion ar gyfer adnoddau ADY pellach, rydym wedi datblygu arolwg i lywio’r gwaith o ddatblygu adnoddau pellach yn y maes hwn. Dosbarthwyd yr arolwg drwy grwpiau allweddol o randdeiliaid, gan gynnwys Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion Gogledd Cymru, Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion De Cymru a Chynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector. Byddwn yn dadansoddi’r canlyniadau er mwyn cyfrannu ymhellach at y gwaith o ddatblygu adnoddau.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Yn 2019–20, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â SWGfL i gynnal dadansoddiad o fylchau er mwyn pennu’r gofynion ar gyfer adnodd diogelwch ar-lein i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Yn dilyn gwaith cwmpasu a dadansoddi, bydd chwech o gynlluniau gwersi ar ddiogelwch ar-lein yn cael eu datblygu ar gyfer dysgwyr sydd ag ADY – tri ar gyfer dysgwyr ysgolion cynradd a thri ar gyfer dysgwyr ysgolion uwchradd yng Nghymru. 

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn cyhoeddi pecyn cymorth diogelwch ar-lein i ymarferwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

    Rydym wedi cyhoeddi’r Pecyn cymorth diogelwch ar-lein i ymarferwyr y blynyddoedd cynnar ar Hwb. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys canllawiau, dogfennau ategol a thaflen wybodaeth. Y nod cyffredinol yw cefnogi darpariaethau blynyddoedd cynnar i ddatblygu diwylliant lle mae plant a staff yn defnyddio technoleg yn ddiogel.

    Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys polisïau enghreifftiol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau diogelwch ar-lein fel rhan o drefniadau diogelu darpariaethau blynyddoedd cynnar. Y nod allweddol yw codi ymwybyddiaeth o rai o’r risgiau posibl i blant sy’n gysylltiedig â thechnolegau ar-lein, a hyrwyddo arferion da. Mae’r pecyn cymorth hefyd yn nodi pwysigrwydd diogelwch data a chadw at y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), ac mae’n cynnig canllawiau a thempledi cytundebau defnydd derbyniol i gefnogi hyn. 

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Yn 2019–20, byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi pecyn cymorth diogelwch ar-lein i ymarferwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd y pecyn cymorth hwn yn seiliedig ar becyn cymorth blynyddoedd cynnar SWGfL. Ei nod fydd tynnu sylw at arfer gorau ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant ifanc iawn ac ar gyfer rheoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â thechnolegau ar-lein. Bydd y pecyn cymorth yn cynnwys templedi ar gyfer polisïau a gweithdrefnau defnydd priodol y gall lleoliadau blynyddoedd cynnar eu teilwra i’w hanghenion.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cyfres o chwe ffilm ar ddiogelwch ar-lein i rieni, gofalwyr a theuluoedd. 

    Yn ystod 2019–20, gwnaethom ddefnyddio dulliau digidol i gyrraedd rhieni, gofalwyr ac aelodau o’u teulu estynedig. Gan weithio gydag amrywiaeth o arbenigwyr yn ei meysydd perthnasol, creoedd SWGfL gyfres o ffilmiau byr. Nod y gyfres hon o ffilmiau ‘Dechrau’r sgwrs’ yw cynnig cyngor ac awgrymiadau i rieni, gofalwyr ac aelodau o’u teulu estynedig.

    Bydd y ffilmiau byr hyn yn ategu’r gyfres ‘Canllaw i’r teulu ar ...’ (gweler Cam gweithredu 1.1), a byddant ar gael ar barth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Yn 2019–20, byddwn yn defnyddio dulliau digidol i gyrraedd rhieni a gofalwyr. Gan weithio gydag ystod o arbenigwyr yn ei meysydd perthnasol, bydd SWGfL yn creu cyfres o ffilmiau byr ar gyfer rhieni a gofalwyr i gynnig cymorth ar rai o’r materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein sy’n peri’r pryder mwyaf. Nod y gyfres ffilmiau ‘Dechrau’r sgwrs’ yw cynnig cyngor ac awgrymiadau i rieni a gofalwyr ar y pynciau canlynol:

    • amser o flaen sgrin
    • pornograffi
    • secstio
    • meithrin perthynas amhriodol ar-lein
    • bwlio ar-lein
    • radicaliaeth ac eithafiaeth.

    Bydd y ffilmiau byr hyn yn ategu’r gyfres ‘Canllaw i’r teulu ar ...’ (gweler Cam gweithredu 1.1), a byddant ar gael ar barth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Common Sense Education i gyhoeddi gwersi dwyieithog ar ddinasyddiaeth ddigidol ar gyfer ymarferwyr addysg.

    Ym mis Mai 2021, cyhoeddwyd y gyfres newydd o adnoddau Dinasyddiaeth Ddigidol ddwyieithog gan Common Sense Education yn ardal Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb. Mae'r adnoddau wedi'u haddasu ar gyfer Cymru gan roi mynediad i ymarferwyr addysg at yr adnoddau diogelwch ar-lein a dinasyddiaeth ddigidol diweddaraf.

    Mae'r adnoddau yn cynnwys 73 o gynlluniau gwers pwrpasol a sleidiau ar gyfer y gwersi hynny, taflenni gweithgareddau a chwisiau gwirio gwybodaeth yn ogystal â gweithgareddau teuluol y gellir eu gwneud mewn amgylchedd dysgu yn y cartref. 

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd

    Mae Common Sense Education yn arbenigo ar ddarparu canllawiau ac adnoddau i gefnogi diogelwch ar-lein dinasyddiaeth ddigidol. Yn 2017, gwnaethom weithio gyda Common Sense Education i addasu a chyfieithu ei Gwricwlwm Dinasyddiaeth Ddigidol, a gydnabyddir yn fyd-eang, i lunio’r Adnodd Diogelwch Ar-lein i Gymru. Yn 2019, aeth Common Sense Education ati i ddiweddaru ei gyfres o adnoddau.

    Byddwn yn gweithio gyda Common Sense Education i sicrhau bod rhanddeiliaid addysg yng Nghymru yn parhau i allu cael gafael ar yr adnoddau diogelwch ar-lein a dinasyddiaeth ddigidol diweddaraf.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Childnet i ddarparu adnoddau dwyieithog ar aflonyddu rhywiol ar-lein ar gyfer ysgolion yng Nghymru.

    Gan weithio gyda Childnet International rydym wedi cyhoeddi pecynnau cymorth addysgu dwyieithog, Codi Llaw, Codi Llais (pobl ifanc 13-17 oed) a Dim ond jôc? (plant 9-12 oed) ar gadw’n ddiogel ar-lein.  Mae'r pecynnau cymorth hyn, sydd wedi'u llywio gan ymchwil ryngwladol gynhwysfawr, yn cynnwys cyfres o gynlluniau gwersi a gweithgareddau sy'n mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol ar-lein mewn ffordd sy'n briodol i oedran y dysgwyr, yn ogystal â chanllawiau ar gyfer lleoliadau addysg ar sut y gallant ddeall, atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol ar-lein.

    Mewn ymateb i'r angen i integreiddio trafodaethau am aflonyddu rhywiol ar-lein yn well ar draws cyd-destunau'r ysgol a'r cartref, mae Dim ond jôc? yn cynnwys taflenni a ffilm wedi'i hanelu at rieni a gofalwyr.

    Nod y pecynnau cymorth yw annog pobl ifanc i roi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein, a gwella cydweithrediad amlsector wrth atal ac ymateb i’r ymddygiad hwn. I gyd-fynd â lansio 'Codi Llaw, Codi Llais', darparodd Will Gardner, Prif Weithredwr Childnet International erthygl arbenigol fel rhan o gyfres ‘Barn yr arbenigwyr’, yn canolbwyntio ar ymchwil a wnaed i ddatblygu'r pecyn cymorth a phroblem aflonyddu rhywiol ar-lein sy'n wynebu pobl ifanc.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd

    Rydym wedi cyhoeddi'r pecyn cymorth 'Codi Llaw, Codi Llais' ar gyfer ymarferwyr ar Hwb. Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys cyfres o gynlluniau gwersi a gweithgareddau i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol ar-lein ymhlith pobl ifanc 13-17 oed.

    Nod y pecyn cymorth yw annog mwy o bobl ifanc i roi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein a gwella cydweithrediad amlsector wrth atal ac ymateb i'r ymddygiad hwn. I gyd-fynd â'i lansiad, darparodd Will Gardner, Prif Weithredwr Childnet International, erthygl arbenigol fel rhan o'n 'Barn yr arbenigwyr' yn canolbwyntio ar ymchwil a wnaed i ddatblygu'r pecyn cymorth a'r broblem aflonyddu rhywiol ar-lein sy'n wynebu pobl ifanc.

    Rydym yn parhau i weithio gyda Childnet i ddarparu'r pecyn cymorth 'Just a joke?', sy'n cynorthwyo plant 9-12 oed, yn ddwyieithog ar Hwb yn ddiweddarach yn 2021.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill

    Mae prosiect deSHAME yn darparu adnoddau ar gyfer ysgolion a’r heddlu (Saesneg yn unig) ar fynd i’r afael ag achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein ymhlith pobl ifanc. Ei nod yw cynyddu nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein ymhlith pobl ifanc dan oed y rhoddir gwybod amdanynt, a gwella gwaith cydweithredol aml-sector i atal yr ymddygiad hwn ac ymateb iddo.

    Prosiect cydweithredol rhwng Childnet (UK), Kek Vonal (Hwngari), Achub y Plant (Denmark) ac UCLan (Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, y DU) yw Prosiect deSHAME (Saesneg yn unig), wedi’i ariannu ar y cyd gan yr Undeb Ewropeaidd.

    Byddwn yn gweithio gyda Childnet i ddatblygu fersiynau dwyieithog o adnoddau prosiect deSHAME i’w darparu i gefnogi rhanddeiliaid addysg yng Nghymru.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r NSPCC i ddiweddaru, adolygu a chyhoeddi fersiynau dwyieithog o adnoddau Net Aware yr NSPCC a chymorth ychwanegol i rieni a gofalwyr.

    Cafodd adnoddau Net Aware yr NSPCC eu datgomisiynu yn 2021, ac ers hynny maent wedi'u tynnu o ardal ‘Cadw'n ddiogel ar-lein’ gwefan Hwb. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am apiau, cyfryngau cymdeithasol a gemau i deuluoedd, gweler ein hardal ‘Bydd wybodus’ ar Hwb.

    Ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022, cynigiodd yr NSPCC weithdai am ddim ar chwarae gemau ar-lein i rieni a gofalwyr a hyrwyddwyd ar Hwb. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r NSPCC ac yn hyrwyddo eu hadnoddau a'u hyfforddiant.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd

    Rydym wedi parhau i weithio gyda'r NSPCC i greu cyfres o restri chwarae wedi'u diweddaru yn crynhoi adnoddau Net Aware. Mae'r adnoddau'n trafod pynciau fel preifatrwydd, oedran a sgoriau diogelwch.

    Mae'r adnoddau canlynol ar gael yn yr ardal Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill

    Mae adnoddau Net Aware yn ganllawiau a grëwyd gan yr NSPCC ac O2 ar gyfer rhieni a gofalwyr ar y gwefannau, apiau a gemau mwyaf poblogaidd a ddefnyddir gan bobl ifanc. Mae’r cynnwys yn seiliedig ar adolygiadau gan bobl ifanc a rhieni a gofalwyr. Mae’n darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar rieni a gofalwyr i ddeall byd ar-lein eu plant a’u helpu i’w cadw’n ddiogel.

    Yn 2018, gwnaethom weithio gyda’r NSPCC i greu cyfres o restrau chwarae dwyieithog sy’n crynhoi adnoddau Net Aware.

    Byddwn yn gweithio gyda’r NSPCC i adolygu a diweddaru’r rhestrau chwarae Net Aware dwyieithog sydd ar gael drwy Hwb.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu rhaglen waith gynhwysfawr i ddarparu adnoddau ar seiber gadernid i randdeiliaid addysg ledled Cymru.

    Mae lleoliadau addysg yn gynyddol yn dod yn darged i ymosodwyr seiber. Mae sicrhau bod ein hymarferwyr a’n gweithwyr proffesiynol ym maes addysg yn cael yr hyfforddiant priodol ar seiber ddiogelwch yn hanfodol.

    Bydd ein Cangen Cadernid Digidol mewn Addysg yn gweithio gyda sefydliadau yr ymddiriedir ynddynt, gan gynnwys y Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol a Tarian, i ddatblygu cymorth ac adnoddau ar gyfer rhanddeiliaid addysg, gan ddarparu gwybodaeth a chanllawiau ar gamau ymarferol i sicrhau y caiff seiber gadernid ei ymgorffori mewn addysg yng Nghymru. 

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid i ehangu ei chynnwys ar gadernid digidol sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc.

    Yn ystod 2021-22 rydym wedi gweithio gyda Promo Cymru, sefydliad sydd â phrofiad ac arbenigedd mewn creu cynnwys pwrpasol ar gyfer plant a phobl ifanc, er mwyn datblygu gwybodaeth a chyngor wedi’i deilwra ar amrywiaeth o faterion diogelwch ar-lein. Cynhaliwyd grwpiau ffocws a dosbarthwyd holiadur i blant a phobl ifanc i sicrhau bod y prosiect yn cael ei lywio gan eu profiadau nhw a bod yr wybodaeth mor berthnasol a diddorol â phosibl i’r gynulleidfa hon, ac mor hwylus â phosibl iddynt ei defnyddio.

    Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddwyd ein Cyngor i blant a phobl ifanc: problemau a phryderon ar-lein yn ardal ‘Cadw'n ddiogel ar-lein’ gwefan Hwb.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd

    Byddwn yn ceisio gweithio gyda phartneriaid i greu cynnwys pwrpasol ar gadernid digidol i blant a phobl ifanc. Gan weithio gydag amrywiaeth o arbenigwyr, byddwn yn defnyddio dull arloesol i greu cynnwys sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc, ac sy’n apelio atynt, gan gynnig help a chymorth i ymdrin â rhai o’r materion mwyaf pryderus o ran cadernid digidol. Caiff y cynnwys hwn ei ddarparu’n ddwyieithog drwy Hwb.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod holl adnoddau a gwasanaethau Hwb yn cydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018, yn ogystal â chefnogi ysgolion i gyflawni eu rhwymedigaethau o ran diogelu data a bodloni eu gofynion o ran cadernid digidol drwy waith cydweithredol a rhaglenni addysg perthnasol, e.e. Cyber Essentials.

    Fel rhan o raglen Hwb rydym yn parhau i adolygu a gwerthuso holl adnoddau a gwasanaethau Hwb er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), Deddf Diogelu Data 2018 (Deddf 2018) a safonau Cod y Plant.

    Rydym yn parhau i fonitro cynigion Llywodraeth y DU i ddiwygio'r Rheoliad Diogelu Data.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn ystod 2021-22 rydym wedi parhau i sicrhau bod holl adnoddau a gwasanaethau Hwb yn cydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 a'r Cod Plant. 

    Statws y cam gweithredu: Wedi cau

    Hwb yw’r llwyfan digidol ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru. Dyma ein sianel ddigidol strategol i gefnogi’r broses o gyflwyno’r cwricwlwm yng Nghymru. Yn ogystal â Chwricwlwm i Gymru a chyfres ddwyieithog gynhwysfawr o adnoddau, mae Hwb yn darparu amrywiaeth o adnoddau digidol i ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

    Bydd ein Cangen Cadernid Digidol mewn Addysg yn gweithio gyda’r darparwyr gwasanaethau presennol a rhai newydd i adolygu adnoddau a gwasanaethau Hwb er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben ac yn cydymffurfio â rheoliadau priodol, a’u bod yn seiliedig ar ddiogelu a sicrhau gwybodaeth.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda SWGfL i hyrwyddo a darparu mynediad i 360 safe Cymru, sef adnodd hunanadolygu diogelwch ar-lein dwyieithog sydd ar gael i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru, drwy gofrestru unwaith â Hwb. Caiff hwn ei ddiweddaru a’i ehangu i gynnwys adnodd 360 digi Cymru, sef adnodd hunanadolygu er mwyn helpu ysgolion a lleoliadau addysg i werthuso pa mor dda y maent yn cynllunio, yn cymhwyso ac yn cynnal dysgu digidol.

    Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda SWGfL i hyrwyddo adnodd 360 safe Cymru a galluogi pobl i'w ddefnyddio. Mae 97 y cant o ysgolion a gynhelir yng Nghymru wedi'u cofrestru ag adnodd 360 safe Cymru, ac mae 69 y cant o'r ysgolion hyn wedi cwblhau pob un o'r 21 o agweddau yn yr hunanwerthusiad.  Hefyd, mae ysgolion yn parhau i gael negeseuon e-bost rheolaidd yn hyrwyddo manteision cwblhau'r adolygiad hunanasesu a chaiff yr adnodd ei hyrwyddo mewn digwyddiadau ac ymgyrchoedd perthnasol.  Mae cynnwys yr adnodd yn parhau i gael ei ddiweddaru'n rheolaidd.

    Mae 360 digi Cymru bellach ar gael i holl ysgolion Cymru er mwyn eu galluogi i hunanwerthuso eu harferion digidol.  Cafodd y broses o gyflwyno'r adnodd ei chefnogi gan y Consortia Addysg Rhanbarthol. Mae 46 y cant o ysgolion a gynhelir yng Nghymru wedi'u cofrestru i ddefnyddio'r adnodd. Bydd cynnwys yr adnodd yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau i'r Safonau Digidol Addysg (EDS) a'r Daith Dysgu Proffesiynol Digidol (DPLJ).

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda SWGfL i hyrwyddo a darparu mynediad i 360 degree safe Cymru, sef adnodd hunanadolygu dwyieithog ar ddiogelwch ar-lein sydd ar gael i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru, drwy gofrestru untro ar Hwb.  Mae 97 y cant o ysgolion a gynhelir yng Nghymru wedi'u cofrestru ag adnodd presennol 360 safe Cymru ar hyn o bryd, gyda thros 66 y cant o'r rhain wedi cwblhau pob un o'r agweddau. Mae ysgolion yn parhau i  gael negeseuon atgoffa drwy e-bost bob tymor yn hyrwyddo manteision cwblhau'r adolygiad hunanasesu.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Ym mis Mawrth 2021, lansiwyd fersiwn wedi'i diweddaru o offeryn hunanadolygu diogelwch ar-lein 360 safe Cymru. Roedd yr adnodd wedi'i ddiweddaru yn symleiddio'r agweddau hunanadolygu presennol ac yn darparu swyddogaethau ac adroddiadau ychwanegol. Cynlluniwyd y diweddariadau i arbed amser, lleihau llwyth gwaith, a gwneud y broses hunanadolygu yn fwy effeithlon i ysgolion.

    Mae dros 95 y cant o ysgolion a gynhelir yng Nghymru wedi'u cofrestru ar hyn o bryd gyda'r adnodd 360 safe Cymru presennol, ac mae 66 y cant o'r rhain wedi cwblhau pob agwedd. Mae ysgolion yn derbyn e-bost atgoffa bob tymor sy'n hyrwyddo manteision cwblhau'r adolygiad hunanasesu yn ogystal ag annog gwerthuso parhaus. Ar hyn o bryd mae 89 y cant o ysgolion cofrestredig wedi defnyddio'r offeryn o fewn y deuddeg mis diwethaf.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus

    Adnodd hunanadolygu diogelwch ar-lein rhyngweithiol yw 360 safe Cymru, a ddatblygwyd gan SWGfL ar gyfer ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru. Mae’r adnodd yn galluogi ysgolion neu leoliadau addysg i adolygu eu darpariaeth diogelwch ar-lein, ei feincnodi yn erbyn arferion da ac ysgolion eraill, llunio cynlluniau gweithredu, a chael gafael ar adnoddau a thempledi polisïau perthnasol.

    Bydd adnodd newydd 360 safe Cymru, sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, yn ymgorffori adnodd newydd 360 safe Cymru yn ogystal ag adnodd newydd 360 digi Cymru, sy’n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â’r consortia rhanbarthol a SWGfL.

    Adnodd hunanadolygu yw 360 digi Cymru er mwyn helpu ysgolion a lleoliadau addysg i werthuso pa mor dda y maent yn cynllunio, yn cymhwyso ac yn cynnal dysgu digidol. Bydd yr adnodd, a anelir at arweinwyr ysgolion a hyrwyddwyr digidol mewn ysgolion, yn rhoi darlun cyfannol o agweddau megis y weledigaeth ar gyfer dysgu digidol mewn ysgolion, y broses o gaffael cyfarpar, diogelwch ar-lein, addysgeg, cymhwysedd digidol a mwy.