English

5. Ymchwil

 


 

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y defnydd o amser o flaen sgrin ymhlith plant ifanc yng Nghymru ar hyn o bryd, er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu polisi yn y maes hwn.

    Drwy ein hymgyrch ‘Magu plant. Rhowch amser iddo.’ rydym wedi cyhoeddi adnodd gwybodaeth ‘cydbwyso amser sgrin’ ac awgrymiadau defnyddiol sy'n rhoi cyngor ar y canlynol:

    • faint yw gormod o amser o flaen sgrin
    • arwyddion o ormod o amser o flaen sgrin a sut i'w leihau
    • bod yn fodel rôl o ran amser o flaen sgrin

    Mae'r adnodd ar gael ar wefan Magu plant. Rhowch amser iddo a bydd yn parhau i gael ei hyrwyddo drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol.

    Byddwn yn parhau i ystyried y gwaith ymchwil sydd wedi'i gyhoeddi ar hyn o bryd ynghylch faint o amser o flaen sgrin sy'n briodol i blant a phobl ifanc, a hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol yn y meysydd perthnasol er mwyn cefnogi'r gwaith ehangu.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Drwy ein hymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo, rydym wedi cyhoeddi adnodd gwybodaeth ar gydbwyso amser sgrîn a chyngor ar:

    • faint o amser sgrîn sy’n ormod
    • arwyddion o ormod o amser sgrîn a sut i’w leihau
    • bod yn esiampl o ran amser sgrîn

    Cedwir yr adnodd ar wefan Magu plant. Rhowch amser iddo ac mae wedi’i hyrwyddo drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol.

    Lansiwyd yr ymgyrch i ehangu Magu plant. Rhowch amser iddo o ystod oedran 0-7 i 0-18 ym mis Tachwedd 2021, i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni plant hyd at 18 oed, ac adran benodol ‘Eich cefnogi chi’ yn cynnig cyngor iechyd a lles i rieni. Byddwn yn parhau i ystyried yr ymchwil cyfredol a gyhoeddwyd ynghylch amser sgrîn i blant a phobl ifanc, yn ogystal â chydweithio’n agos â gweithwyr proffesiynol yn y meysydd perthnasol i gefnogi’r gwaith ehangu.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Trwy ein hymgyrch ‘Magu plant. Rhowch amser iddo’, rydym wedi cyhoeddi adnodd gwybodaeth ar gydbwyso amser sgrîn ac awgrymiadau da sy'n rhoi cyngor ar:

    • faint o amser sgrîn sy’n ormod
    • arwyddion o ormod o amser sgrîn a sut i'w leihau
    • bod yn esiampl o ran amser sgrîn

    Mae'r adnodd yn cael ei gynnal ar wefan Magu plant. Rhowch amser iddo ac mae wedi ei hyrwyddo drwy sianeli’r cyfryngau cymdeithasol.

    Yn ddiweddar (Tachwedd 21) rydym wedi ehangu ‘Magu plant. Rhowch amser iddo’ i gynnwys gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni sydd â phlant a phobl ifanc hyd at 18 oed. Byddwn yn parhau i gadw mewn cof yr ymchwil ddiweddaraf o ran amser sgrîn priodol i blant a phobl ifanc, yn ogystal â pharhau i weithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol yn y meysydd perthnasol i gefnogi'r ehangu.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Cyhoeddodd ein hymgyrch ‘Magu Plant. Rhowch amser iddo.’ daflen wybodaeth Creu cydbwysedd rhwng ‘Amser Teulu’ ac ‘Amser Sgrin’, sy’n nodi sut i sicrhau cydbwysedd rhwng yr amser y mae plant (hyd at bump oed) yn ei dreulio yn defnyddio technoleg a’r amser y maent yn ei dreulio gyda’r teulu ac yn rhyngweithio. Dengys arolwg blaenorol o rieni a gofalwyr â phlant dan bump oed mai defnydd eu plant o dechnoleg oedd un o’u prif bryderon. Mae arbenigwyr yn argymell y dylid cyfyngu ar amser sgrin plant ifanc. Mae hynny oherwydd yr effaith y gall ei chael ar eu hiechyd corfforol, yn enwedig eu golwg a’u hosgo, a hefyd eu hiaith a’u sgiliau cymdeithasol. Maent yn argymell y canlynol:

    • ni ddylai plant bach 18 mis ac iau ddefnyddio unrhyw ddyfeisiau digidol
    • dylid cyfyngu amser sgrin plant dwy i bump oed i awr y dydd
    • dylai plant o bob oed (ac oedolion) osgoi defnyddio dyfeisiau digidol cyn mynd i’r gwely gan fod y golau sy’n cael ei ollwng ganddynt yn gallu ei gwneud yn anodd mynd i gysgu.

    Byddwn yn ehangu ‘Magu Plant. Rhowch amser iddo.’ i gynnwys plant a phobl ifanc hyd at 18 oed yn ystod 2021. Byddwn yn parhau i gadw golwg ar yr ymchwil gyfredol ar amser sgrin priodol i blant, a byddwn hefyd yn cydweithio’n agos â’r gweithwyr proffesiynol yn y maes wrth i ni ehangu’r ymgyrch.

    Rydym hefyd yn bwriadu creu ffilm arbenigol ar ‘amser o flaen sgrin’ fel rhan o ymgyrch ‘Magu Plant. Rhowch amser iddo.’ erbyn mis Rhagfyr 2021, a fydd ar gael ar wefan ‘Magu Plant. Rhowch amser iddo.’ ac yn cael ei hyrwyddo drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

    Nid ydym yn bwriadu cynnal arolwg o’r defnydd o amser o flaen sgrin ymhlith plant yng Nghymru, ond rydym wedi cynnwys elfen o wrando cymdeithasol yn ein contract ag asiantaeth i gefnogi ymgyrch ‘Magu Plant. Rhowch amser iddo.’, a ddylai roi gwybodaeth i ni am bryderon rhieni a gofalwyr ynghylch amser o flaen sgrin, ac i ba raddau y mae amser o flaen sgrin yn bryder allweddol iddynt.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Cyhoeddodd ein hymgyrch ‘Magu Plant. Rhowch amser iddo.’ daflen wybodaeth Creu cydbwysedd rhwng ‘Amser Teulu’ ac ‘Amser Sgrin’, sy’n nodi sut i sicrhau cydbwysedd rhwng yr amser y mae plant (hyd at bump oed) yn ei dreulio yn defnyddio technoleg a’r amser y maent yn ei dreulio gyda’r teulu ac yn rhyngweithio. Dengys arolwg blaenorol o rieni a gofalwyr â phlant dan bump oed mai defnydd eu plant o dechnoleg oedd un o’u prif bryderon. Mae arbenigwyr yn argymell y dylid cyfyngu ar amser sgrin plant ifanc. Mae hynny oherwydd yr effaith y gall ei chael ar eu hiechyd corfforol, yn enwedig eu golwg a’u hosgo, a hefyd eu hiaith a’u sgiliau cymdeithasol. Maent yn argymell y canlynol:

    • ni ddylai plant bach 18 mis ac iau ddefnyddio unrhyw ddyfeisiau digidol
    • dylid cyfyngu amser sgrin plant dwy i bump oed i awr y dydd
    • dylai plant o bob oed (ac oedolion) osgoi defnyddio dyfeisiau digidol cyn mynd i’r gwely gan fod y golau sy’n cael ei ollwng ganddynt yn gallu ei gwneud yn anodd mynd i gysgu.

    Byddwn yn ehangu ‘Magu Plant. Rhowch amser iddo.’ i gynnwys plant a phobl ifanc hyd at 18 oed erbyn mis Rhagfyr 2020. Byddwn yn parhau i gadw golwg ar yr ymchwil gyfredol ar amser sgrin priodol i blant, a byddwn hefyd yn cydweithio’n agos â’r gweithwyr proffesiynol yn y maes wrth i ni ehangu’r ymgyrch.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    O beiriannau chwarae cyfryngau digidol mewn ceir i ffonau clyfar a llechi, mae plant a phobl ifanc yn cael mwy o gyfle nag erioed i ddefnyddio cyfryngau electronig. Mae technoleg yn newid yn gyson, ond mae rôl rhieni a gofalwyr wrth bennu cyfyngiadau diogel, gofalgar yn aros yn ddigyfnewid dros amser. Er bod nifer o arolygon yn adrodd ar amser plant o flaen sgrin, a’u defnydd o ddyfeisiau electronig a’r rhyngrwyd, nid ydynt yn cynnwys plant saith oed neu iau. Ychydig iawn o ddata sydd ar gael ar gyfer Cymru yn unig neu sy’n ymchwilio i ba raddau y mae rhieni a gofalwyr yn ymgysylltu â’u plant tra eu bod o flaen sgrin.

    Astudiaeth o sampl gynrychioliadol o dros 10,000 o bobl ledled Cymru yw Arolwg Cenedlaethol Cymru. Rydym yn defnyddio’r canlyniadau er mwyn helpu i sicrhau bod Cymru yn lle gwell i fyw ynddo. Mae’r arolwg yn cynnwys pynciau amrywiol yn canolbwyntio ar les a safbwyntiau pobl ar wasanaethau cyhoeddus. Fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017–18, gwnaethom ofyn cwestiynau am amser o flaen sgrin i rieni a gofalwyr â phlant dan saith oed. Bydd canlyniadau’r arolwg hwn ar gyfer rhieni a gofalwyr sydd â phlant yn y grwp oedran 3–7 ar gael yn ystod haf 2018. Caiff y cwestiynau hyn hefyd eu cynnwys yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2018–19 ar gyfer rhieni a gofalwyr â phlant rhwng un a phump oed, a bydd y canlyniadau ar gael yn ystod haf 2019.

    Ystyried y defnydd yng Nghymru ar hyn o bryd yw’r cam cyntaf tuag at lunio ein polisi yn y maes hwn, a all gynnwys datblygu cyngor a chanllawiau i’r gweithlu cefnogi teuluoedd a rhieni a gofalwyr yn uniongyrchol.

  •  

    Yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2020–21, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys diogelwch ar-lein fel pwnc.

    Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddwyd Arolwg Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys canlyniadau cwestiynau ar ddiogelwch ar-lein a ofynnwyd i rieni a gofalwyr plant 5 i 15 oed.

    Canlyniadau'r arolwg yw sail y rhaglen Cadernid Digidol mewn Addysg.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Yng nghanol mis Mawrth 2020, cafodd cyfweliadau wyneb yn wyneb Arolwg Cenedlaethol Cymru eu hatal o ganlyniad i bandemig COVID-19, a chafodd cyfweliadau dros y ffôn eu cynnal yn eu lle.

    O fis Hydref 2020, mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys y cwestiynau ar ddiogelwch plant ar-lein a gynlluniwyd ar gyfer 2020–21. Caiff y canlyniadau cyntaf ar y pwnc hwn eu cyhoeddi ar ddiwedd mis Chwefror 2021.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Bob blwyddyn, mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys cyfweliadau wyneb yn wyneb ag oddeutu 12,000 o bobl 16 oed a throsodd ledled Cymru, a ddewiswyd ar hap. Mae’n cwmpasu pynciau o amrywiaeth eang o feysydd polisi Llywodraeth Cymru. Mae deilliannau’r arolwg yn bwydo’n uniongyrchol i benderfyniadau ynghylch ein polisi a sut y cânt eu gweithredu.

    Gofynnir i rieni a gofalwyr plant rhwng 5 a 15 oed ateb cwestiynau am ddiogelwch ar-lein. Bydd y pynciau’n cynnwys pa gamau y mae rhieni a gofalwyr yn eu cymryd i reoli defnydd eu plant o’r rhyngrwyd, p’un a yw athrawon yn siarad â phlant am ddiogelwch ar-lein, a sut y byddai rhieni a gofalwyr yn ceisio cyngor ar ddiogelwch data. 

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i dreialu ardystiad ‘Cyber Essentials’ mewn lleoliadau addysg yng Nghymru.

    Daeth y cynllun peilot i ben ym mis Mawrth 2022 gydag ysgolion ar draws yr awdurdodau lleol dan sylw. Ar hyn o bryd rydym yn aros am ganlyniadau terfynol yr adroddiad a fydd yn llywio cyfeiriad ein polisi a'n cefnogaeth i ysgolion wrth symud ymlaen.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Yn ystod 2021, rydym wedi gweithio gyda'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol i ddatblygu’r peilot ar gyfer lleoliadau addysg yng Nghymru. Gan weithio gyda dau awdurdod lleol, rydym wedi nodi ysgolion i gymryd rhan yn y cynllun peilot a gynhelir rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022.

    Rydym wedi datblygu Safonau Digidol Addysg ar gyfer ysgolion yng Nghymru er mwyn rhoi canllawiau iddynt ar reoli a gweithredu eu hamgylchedd digidol. Mae’r safonau hefyd yn rhoi canllawiau ar sut y gall ysgolion addasu eu hamgylchedd digidol ar gyfer y dyfodol er mwyn diwallu anghenion cwricwlwm ysgol sy’n canolbwyntio mwy ar dechnoleg ddigidol, ac ystyrir mai’r safonau yw’r ffordd orau i ddiwallu anghenion digidol ysgolion.

    Mae ardystiad ‘Cyber Essentials’, a gaiff ei gefnogi gan y Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol a’i ardystio drwy IASME, yn rhoi lefel o sicrwydd i sefydliadau sy’n helpu i’w diogelu rhag y seiber fygythiadau mwyaf cyffredin.

    Byddwn yn gweithio gyda’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i dreialu ardystiad ‘Cyber Essentials’ mewn ysgolion yng Nghymru er mwyn canfod pa mor addas ydyw ar gyfer lleoliadau addysg yn y DU.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu ymchwil i werthuso aeddfedrwydd prosesau seiber sefydliadau addysg yng Nghymru.

    Mae canfyddiadau allweddol ac argymhellion yr astudiaeth ymchwil bellach wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Oherwydd natur sensitif y canfyddiadau ni fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi, fodd bynnag, mae'r canfyddiadau'n cael eu defnyddio i lywio’n uniongyrchol rhaglen weithgaredd a gynhelir gan Cadernid Digidol mewn Addysg yn ystod 2022-23 i gefnogi ysgolion i gynyddu eu seibergadernid.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Fel rhan o’n cynlluniau i wella seiber ddiogelwch a seiber gadernid y sector addysg, byddwn yn gydweithio â sefydliadau addysg ledled Cymru i ystyried aeddfedrwydd eu prosesau seiber ddiogelwch presennol.

    Bydd yr ymchwil yn llywio’r gwaith o ddatblygu gweithgareddau i gefnogi a gwella gallu’r sector addysg i ddiogelu ei hun rhag seiber fygythiadau ac ymateb iddynt. 

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Prosiect Datblygu Cadernid yn erbyn Achosion o Feithrin Perthynas Amhriodol Ar-lein a arweinir gan Brifysgol Abertawe, ynghyd â’i chynnig i ddatblygu cyfres o adnoddau rhyng-gysylltiedig i atal a mynd i’r afael ag achosion o feithrin perthynas amhriodol ar-lein.

    Mae cynllun peilot adnodd Tarian wedi cael ei gwblhau ac mae gwerthusiad annibynnol yn cael ei gynnal, sy'n cynnwys dadansoddi holiaduron a chyfweliadau ar ôl hyfforddiant a chyhoeddi adroddiad. Mae Prifysgol Abertawe yn paratoi lansiad meddal (cyfnod prawf rhwng mis Medi 2023 a mis Awst 2024).

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Llwyddodd Prosiect Dragon-S (Developing Resistance Against Online Grooming - Spotter and Shield) i dderbyn cyllid Rhoi Terfyn ar Drais yn erbyn Plant (EVAC) tan fis Rhagfyr 2022, ac rydym yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu adnoddau Spotter and Shield ar gyfer gweithwyr proffesiynol drwy ymgysylltu a chyfnewid gwybodaeth yng nghyfarfodydd Grwp Llywio a Bwrdd Cynghori’r Prosiect. Rydym hefyd wedi cymryd rhan mewn profion UX ar adnodd Shield.

    Recordiodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg neges gefnogol a chwaraewyd fel rhan o gyflwyniad yn nigwyddiad ymgysylltu cyntaf Dragon-S ar 4 Tachwedd 2021. Rydym hefyd wedi cyhoeddi tudalen wybodaeth newydd Prosiect DRAGON-S sy’n nodi amcanion y prosiect ar ardal ‘Cadw’n ddiogel ar-lein’ gwefan Hwb, ac mae’n cynnwys erthygl a gomisiynwyd yn arbennig a ysgrifennwyd gan arweinydd y prosiect, yr Athro Nuria Lorenzo-Dus.

    Rydym yn parhau i gefnogi prosiect Dragon-S ac yn ystod 2022 rydym wedi mynd i gyfarfodydd Grwp Llywio’r Prosiect, y Bwrdd Cynghori a chyfarfodydd allgymorth a chymryd rhan mewn profion profiadau defnyddwyr o'r teclyn Shield. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i gefnogi gyda'u gwaith cynllunio ar gyfer peilot y teclyn Shield.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Byddwn yn cefnogi’r Prosiect Datblygu Cadernid yn erbyn Achosion o Feithrin Perthynas Amhriodol Ar-lein a’r cynnig i ddatblygu cyfres o adnoddau rhyng-gysylltiedig i atal a mynd i’r afael ag achosion o feithrin perthynas amhriodol ar-lein, gan gynnwys adnoddau canfod ac atal achosion o feithrin perthynas amhriodol ar-lein. 

    Os caiff y prosiect ei ariannu, byddwn yn ymgymryd â rôl partner y prosiect, gan gyfrannu ato drwy aelodaeth o Grwp Llywio’r Prosiect a thrwy ymgysylltu â Bwrdd Cynghori’r Prosiect, gan gynnwys cyfrannu at waith trosglwyddo gwybodaeth a chymryd rhan mewn cynadleddau a digwyddiadau ymgysylltu.

    Byddwn yn ystyried opsiynau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r Porth Atal Achosion o Feithrin Perthynas Amhriodol Ar-lein, ynghyd â’i gyflwyno a’i hyrwyddo.