English

4. Callawiau

 

 


 

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn diwygio ac yn diweddaru’r canllawiau statudol ar ddiogelwch, Cadw dysgwyr yn ddiogel, a fydd yn cynnwys diweddariad ar ddiogelwch ar-lein.

    Yn ystod 2022 rydym wedi parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi gweithredu'r canllawiau 'Cadw dysgwyr yn Ddiogel'.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Buom yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi'r broses o roi’r canllawiau diweddaraf ar waith, sef 'Cadw dysgwyr yn ddiogel' a gyhoeddwyd yn hydref 2020.

    Aethom ati i gyhoeddi modiwlau hyfforddiant newydd ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yn unol â'r diweddariadau i ganllawiau ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’.

    Ym mis Tachwedd 2021, diwygiwyd adran 7 i gynnwys cyfeiriadau at hyfforddiant a ddiweddarwyd sydd ar gael i helpu ysgolion i ymateb i achosion o rannu delweddau noeth neu hanner noeth, a chyngor a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar ymdrin â heriau feirol niweidiol ar-lein a storïau celwydd.

    I gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant, gweler cam 7.2.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus

    Diweddariad ar gyfer 2020

    Cyhoeddwyd y fersiwn ddrafft o’r canllawiau Cadw dysgwyr yn ddiogel ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn ystod haf 2019. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ym mis Ionawr 2020, a chyhoeddwyd y fersiwn derfynol o’r canllawiau yn ystod hydref 2020.

    Mae’r bennod ar ddiogelwch ar-lein wedi’i hadolygu a’u diweddaru.

    Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi’r broses o roi’r canllawiau ar waith yn ystod 2020.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Gweithiodd swyddogion Llywodraeth Cymru yn agos â rhanddeiliaid allweddol yn ystod 2018–19 i ddiwygio a diweddaru’r canllawiau statudol 'Cadw dysgwyr yn ddiogel'.

    Cyhoeddwyd y fersiwn ddrafft o’r canllawiau Cadw dysgwyr yn ddiogel ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn ystod haf 2019. Bydd arweinwyr polisi yn diweddaru’r canllawiau yn unol â’r ymatebion a geir i’r ymgynghoriad cyhoeddus, a bydd fersiwn derfynol yn cael ei chyhoeddi yng ngwanwyn 2020.

    Mae’r adran ar ddiogelwch ar-lein wedi’i hadolygu a’i diweddaru fel gweddill y canllawiau. 

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Rydym wedi cyhoeddi canllawiau statudol – Cadw dysgwyr yn ddiogeler mwyn helpu gwasanaethau addysg i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol i gynnal amgylchedd dysgu diogel, a nodi ac ymateb i bryderon am les gydag asiantaethau eraill, lle bo angen.

    Disgwylir i’r canllawiau hyn gael eu diweddaru i ystyried datblygiadau ym maes deddfwriaeth a pholisi, gan gynnwys diogelwch ar-lein, bwlio ar-lein a secstio, fel y bo’n briodol.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod materion yn ymwneud â meithrin perthynas amhriodol ar-lein a chamfanteisio’n rhywiol ar blant yn cael eu hystyried wrth ddiweddaru’r canllawiau statudol 'Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc rhag Camfanteisio Rhywiol'.

    Ar 18 Mawrth 2021, cyhoeddwyd canllawiau i sefydliadau ar sut i ddiogelu plant sydd mewn perygl y bydd rhywrai yn camfanteisio arnynt, gan gynnwys yn rhywiol. 

    Cyhoeddwyd fersiwn hawdd ei deall a fersiwn i bobl ifanc hefyd (Mehefin 2021) i gyd-fynd â’r canllawiau – Cyfrol 7 o Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl (Diogelu Plant rhag Camfanteisio Rhywiol). Cyhoeddwyd y canllawiau hyn o dan adran 28 o Ddeddf Plant 2004 (y cyfeirir ati fel Deddf 2004), ac adran 139 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y cyfeirir ati fel Deddf 2014).

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion i ymgynghoriad ffurfiol ar ganllawiau statudol diwygiedig ar ddiogelu plant sy’n wynebu risg y bydd rhywun yn camfanteisio’n rhywiol arnynt ym mis Chwefror 2020. Disgwylir i’r fersiwn ddrafft derfynol gael ei chyhoeddi yn ystod gaeaf 2020. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddiogelu plant rhag achosion o feithrin perthynas amhriodol ar-lein a chamfanteisio.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Lansiwyd ymgynghoriad ar 15 Gorffennaf 2019 am 12 wythnos ar ganllawiau statudol i ddiogelu plant rhag cam-fanteisio rhywiol. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys cyngor ar feithrin perthynas amhriodol ar-lein, a chamdriniaeth a cham-fanteisio ar-lein.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Nod y canllawiau Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc rhag Camfanteisio Rhywiol (2010) yw helpu athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu ac ymarferwyr allweddol eraill yng Nghymru i fynd i’r afael ag achosion o gamfanteisio rhywiol. Hefyd, mae’r canllawiau’n eu helpu i nodi plant sy’n wynebu risg, yn eu galluogi i amddiffyn y plant hyn sy’n agored i niwed, a chymryd camau yn erbyn y rhai sy’n cyflawni troseddau.

  •  

    Bydd grwp gorchwyl a gorffen amlasiantaeth yn datblygu canllawiau ymarfer Cymru gyfan ar ddiogelu plant sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin ar-lein. Bydd Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro yn ymgynghori ar y canllawiau hyn ac yn eu cyhoeddi ar ran Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a’r Byrddau Diogelu yng Nghymru. Bwriedir i’r Gweithdrefnau Amddiffyn Cenedlaethol a’r canllawiau ymarfer ategol gael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2019.

    Mae Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn parhau i gefnogi dysgu gan ymarferwyr mewn perthynas â Chanllawiau Ymarfer Cymru Gyfan a Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar draws asiantaethau ac ar draws Cymru. Cyfeirir at y canllaw hefyd mewn canllawiau diweddara 'Cadw dysgwyr yn ddiogel' a gyhoeddwyd yn 2020.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Cyhoeddwyd canllaw ymarfer Cymru gyfan ar ddiogelu plant rhag cam-drin ar-lein ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar ran y Byrddau Diogelu Plant.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Mae canllaw ymarfer Cymru gyfan ar ddiogelu plant rhag cam-drin ar-lein wedi’i ddatblygu gyda grwp amlasiantaeth a gadeiriwyd gan Colin Turner, o CEOP gynt. Caiff y canllaw hwn ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2019 gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar ran y Byrddau Diogelu Plant.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Mae grwp gorchwyl a gorffen amlasiantaeth wedi’i sefydlu er mwyn datblygu canllawiau diogelu statudol diwygiedig ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant. Cyhoeddir y canllawiau ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol yn ystod hydref 2018, a byddant yn cynnwys gwybodaeth am feithrin perthynas amhriodol ar-lein a chamfanteisio’n rhywiol ar blant.

    Rydym wedi darparu cyllid i alluogi Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro i adolygu a datblygu Gweithdrefnau Amddiffyn Cenedlaethol. Rydym yn gweithio gyda grwpiau gorchwyl a gorffen i ddatblygu canllawiau ymarfer i’w defnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Amddiffyn Cenedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys diweddaru Protocol Cymru Gyfan ar Ddiogelu Plant rhag cael eu Cam-drin drwy gyfrwng Technoleg Gwybodaeth.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal y safonau hidlo’r we a argymhellir ar gyfer ysgolion yng Nghymru.

    Yn ystod 2021, buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i adolygu a diweddaru’r Safonau a argymhellir ar gyfer hidlo’r we yn ysgolion Cymru.  Cyhoeddwyd y safonau diweddaraf ar Hwb ym mis Tachwedd 2021.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill

    Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i adolygu a diweddaru Safonau a argymhellir ar gyfer hidlo’r we yn ysgolion Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2018. Bydd fersiwn ddiwygiedig 2020 o’r ddogfen ar gael ar Hwb yn ystod tymor yr hydref 2020.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Cafodd y ddogfen Safonau a argymhellir ar gyfer hidlo’r we yn ysgolion Cymru ei diweddaru a’i chyhoeddi ym mis Chwefror 2018 ac mae ar gael i ysgolion yng Nghymru. Prif nod y safonau a amlinellir yn y ddogfen hon yw galluogi mynediad i wefannau sy’n cefnogi addysgu a dysgu effeithiol mewn ysgolion.

    Bydd y safonau’n rhoi cyfle i ddysgwyr ddysgu mewn amgylchedd diogel, cyfrifol a chefnogol ac yn atal mynediad at gynnwys amhriodol. Dylai rhaglen addysg effeithiol ar ddiogelwch ar-lein ategu’r canllawiau hyn er mwyn addysgu plant a phobl ifanc ynghylch pwysigrwydd ymddygiadau cyfrifol ac ystyriol ar-lein.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Cyfres gyffredin o safonau y cytunwyd arnynt ar gyfer mynediad i’r rhyngrwyd yw safonau hidlo’r we, sy’n galluogi ysgolion i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth am fynediad priodol wedi’i hidlo i’r rhyngrwyd, p’un a gaiff ei darparu gan yr awdurdod lleol neu gan ddarparwr arall. Mae’r safonau yn helpu ysgolion i fod yn addas ar gyfer dysgu ac addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain, gan barhau i ddiogelu plant a phobl ifanc.

    Mae’r safonau hefyd yn cynnwys y rhagofynion ar gyfer adnoddau Hwb, sy’n amlinellu’r gofynion digidol er mwyn sicrhau y gall ysgolion fanteisio i’r eithaf ar offer y llwyfan dysgu digidol.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn diwygio’r canllawiau gwrthfwlio anstatudol, 'Parchu eraill', sy’n cynnwys cyngor ar fynd i’r afael ag achosion o fwlio ar-lein mewn ysgolion.

    Ym mis Tachwedd 2019, gwnaethom gyhoeddi cyfres o ganllawiau gwrthfwlio, sef Hawliau, parch, cydraddoldeb, sy’n darparu canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol, er mwyn helpu i fynd i’r afael ag achosion o fwlio mewn lleoliadau addysg yng Nghymru, a’u hatal. Mae’r gyfres hefyd yn cynnwys canllawiau cynghori i blant, pobl ifanc a’u rheini a gofalwyr, er mwyn helpu’r rhai y mae bwlio yn effeithio arnynt, gan amlinellu hawliau a chyfrifoldebau.

    Er mwyn cefnogi’r broses ymarferol o roi’r canllawiau ar waith, rydym wedi llunio rhestrau chwarae adnoddau ar-lein ar gyfer pob grwp rhanddeiliaid.

    Yn ystod 2020, byddwn yn cefnogi’r broses o roi’r canllawiau ar waith.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Cafodd y canllawiau a’r pecyn cymorth gwrthfwlio diwygiedig drafft eu cyhoeddi at ddibenion ymgynghori rhwng Tachwedd 2018 a Chwefror 2019. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion ym mis Mai 2019.

    Mae’r canllawiau diwygiedig yn nodi pwysigrwydd dull gweithredu ysgol gyfan a mynd ati mewn ffordd ragweithiol i herio ac atal bwlio. Rydym eisiau sicrhau bod cysylltiad agos rhwng yr elfennau o’r canllawiau sy’n gysylltiedig â bwlio ar-lein a’n nodau ehangach ar gyfer diogelwch ar-lein, ac rydym wedi gweithio’n agos â SWGfL i gyflawni hyn. Bydd y canllawiau newydd ar gael yn y flwyddyn ysgol newydd.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Yn 2003, gwnaethom gyhoeddi canllawiau anstatudol er mwyn helpu i fynd i’r afael ag achosion o fwlio mewn ysgolion yng Nghymru – 'Parchu Eraill': Canllawiau Gwrthfwlio. Yn 2011, cafodd y canllawiau eu diweddaru a’u hymestyn i fynd i’r afael â phum maes bwlio allweddol. Un o’r meysydd allweddol hyn yw bwlio ar-lein. Rydym wrthi’n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i adolygu 'Parchu Eraill', er mwyn sicrhau bod y canllawiau’n parhau i ddarparu cymorth effeithiol i awdurdodau lleol, ysgolion, rhieni, gofalwyr a dysgwyr. Cyhoeddir y canllawiau diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad yn 2018.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r adnoddau gwrthfwlio sydd ar gael i ysgolion ar hyn o bryd ac yn asesu unrhyw anghenion i helpu ymarferwyr addysg i fynd i’r afael ag achosion o fwlio mewn lleoliadau addysg.

    Ar hyn o bryd mae canllawiau hawliau, parch, cydraddoldeb yn y broses o gael eu diweddaru i sicrhau bod gan ysgolion a lleoliadau adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel i atal ac ymateb i fwlio.
    Bydd y diweddariad hwn yn cynnwys myfyrio'n gywir ac yn effeithiol a chysylltu â datblygiadau polisi a deddfwriaethol diweddar gan gynnwys Cwricwlwm Cymru a'r Fframwaith ar ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol.

    Bydd y diweddariad hefyd yn mynd i'r afael â bwlio ac aflonyddu sy'n gysylltiedig â rhagfarn ymhellach, yn unol â nod cyffredinol y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol o sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Bydd cyflwyno diweddariadau ynghylch bwlio ac aflonyddu sy'n gysylltiedig â rhagfarn hefyd yn galluogi'r canllawiau i adlewyrchu dealltwriaeth ddiweddar o aflonyddu rhywiol gan gymheiriaid, a'r ffordd orau o atal ac ymateb.

    Er mwyn symleiddio'r gwaith hwn a sicrhau dulliau cyson o ymdrin â bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn ar draws nodweddion gwarchodedig. Bydd diweddariadau hefyd yn cyd-fynd â nodau addysg gynhwysol yng Nghynllun Gweithredu LGBTQ+ Cymru.

    Bydd y diweddariad hwn yn cael ei lywio gan farn a phrofiadau plant a phobl ifanc, gan dynnu ar adnoddau ac ymchwil cyhoeddedig lle bo hynny'n briodol ac ehangu hyn gydag ymgysylltiad ychwanegol lle bo'n berthnasol.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Rydym wedi parhau i gefnogi’r gwaith o weithredu'r canllawiau Hawliau, parch, cydraddoldeb drwy gydol 2021, gan weithio'n agos gydag athrawon, ymarferwyr a llywodraethwyr i helpu i fynd i'r afael ag achosion o fwlio mewn lleoliadau addysg yng Nghymru, a’u hatal.

    Rydym wedi ariannu Cynghrair Gwrth-fwlio i gynnal Wythnos Gwrth-fwlio yng Nghymru, gan ddarparu adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Rydym hefyd wedi comisiynu Cynghrair Gwrth-fwlio a Kidscape i gyflwyno cyfres o weminarau drwy gydol 2021-2022 ar gyfer arweinwyr ysgolion, a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion. Maent hefyd wedi sefydlu Grwp Llywio Gwrth-fwlio Cymru, gan ddod â sefydliadau'r trydydd sector ynghyd, gan gynnwys amrywiaeth o elusennau gwrth-fwlio, awdurdodau lleol Cymru a Llywodraeth Cymru.

    Mae'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn cynnwys camau penodol i Lywodraeth Cymru eu cymryd i ddiweddaru ei chanllawiau gwrth-fwlio erbyn mis Gorffennaf 2022, yn unol â nod cyffredinol y Cynllun Gweithredu o sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Nodwyd camau hefyd i ddatblygu system well o roi gwybod am aflonyddu hiliol ac achosion o fwlio hiliol mewn ysgolion, a fydd hefyd yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Mae ein cyfres o ganllawiau Hawliau, parch, cydraddoldeb yn darparu canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol, er mwyn helpu i fynd i’r afael ag achosion o fwlio mewn lleoliadau addysg yng Nghymru, a’u hatal. Mae’r gyfres hefyd yn cynnwys canllawiau cynghori i blant, pobl ifanc a’u rheini a gofalwyr, er mwyn helpu’r rhai y mae bwlio yn effeithio arnynt, gan amlinellu hawliau a chyfrifoldebau.

    Er mwyn cefnogi’r broses ymarferol o roi’r canllawiau ar waith, rydym wedi llunio rhestrau chwarae adnoddau ar-lein ar gyfer pob grwp rhanddeiliaid, a gynhelir ar Hwb. Caiff y rhestr chwarae ei diweddaru’n barhaus wrth i adnoddau newydd ddod i’r amlwg. 

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Bydd y canllawiau gwrthfwlio newydd yn cael eu hategu gan becyn cymorth ar-lein ar Hwb. Bydd y pecyn cymorth hwn yn cynnig adnoddau a chymorth i ymarferwyr, dysgwyr, a rhieni a gofalwyr, a bydd ar gael yn y flwyddyn ysgol newydd. Bydd yn adnodd byw a fydd yn tyfu dros amser wrth i adnoddau newydd gael eu hychwanegu.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Yn ogystal â diwygio canllawiau Parchu Eraill, rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ystyried pa strategaethau ac adnoddau sydd eu hangen i helpu i rannu’r neges wrthfwlio mewn lleoliadau addysg. Mae adolygiad o’r deunyddiau sydd ar gael ar hyn o bryd wedi dechrau ac, ar sail canfyddiadau’r adolygiad, byddwn yn ystyried datblygu rhagor o adnoddau er mwyn helpu ymarferwyr addysg i fynd i’r afael â bwlio.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal canllawiau Gwrthsafiad a pharch i ysgolion.

    Disgwylir i Ganllawiau Atal Dyletswydd y Swyddfa Gartref (PDG) gael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2023. Ar ôl ei gyhoeddi a bod y PDG yn dod yn statudol yn yr Hydref bydd Llywodraeth Cymru yn parchu ac yn wydnwch: datblygu canllawiau cydlyniant cymunedol yn cael eu hadolygu.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Mae ein dogfen ganllawiau ac arfer da Gwrthsafiad a pharch: datblygu cydlyniant cymunedol yn darparu gwybodaeth i ysgolion i’w cefnogi i fodloni gofynion cyfreithiol Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 a’r canllawiau i ddiwygiadau dyletswydd Prevent ar gyfer Cymru a Lloegr, a gyhoeddwyd yn 2016 cyn eu diweddaru yn 2021. Mae’r pecyn hunanasesu Gwrthsafiad a Pharch yn cefnogi ysgolion i asesu eu lefelau cydymffurfio â’r arferion gorau wrth greu cymuned ddysgu ddiogel.

    Mae Canllawiau Dyletswydd Prevent y Swyddfa Gartref yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, ac ar ôl eu cyhoeddi, bydd canllawiau Llywodraeth Cymru a’r pecyn hunanasesu yn cael diweddaru.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Byddwn yn parhau i gynnal canllawiau Gwrthsafiad a pharch – Datblygu cydlyniant cymunedol a gyhoeddwyd ar gyfer awdurdodau lleol, penaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, penaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, athrawon sy’n gyfrifol am unedau cyfeirio disgyblion, darparwyr gofal plant, awdurdodau esgobaethol yr eglwys, sefydliadau hyfforddi athrawon, Cadeiryddion Byrddau Diogelu Plant Lleol, Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, a sefydliadau sy’n arwain ar ddiogelu plant a chydlyniant cymunedol.

    Cafodd y ddogfen ei diweddaru ddiwethaf ym mis Ionawr 2019, ac mae ein Tîm Diogelwch Cenedlaethol yn parhau i rannu gwybodaeth am arferion da er mwyn helpu ysgolion i gydnabod eu rôl o ran datblygu a hybu dulliau strategol o hyrwyddo a chynnal cydlyniant cymunedol ac atal eithfiaeth dreisgar drwy Fwrdd Strategol PREVENT, sy’n rhan o strwythurau llywodraethiant CONTEST Cymru.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill

    Rydym yn parhau i gynnal Gwrthsafiad a pharch – Datblygu cydlyniant cymunedol ar gyfer awdurdodau lleol, penaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, penaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, athrawon sy’n gyfrifol am unedau cyfeirio disgyblion, darparwyr gofal plant, awdurdodau esgobaethol yr eglwys, sefydliadau hyfforddi athrawon, Cadeiryddion Byrddau Diogelu Plant Lleol, Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, a sefydliadau sy’n arwain ar ddiogelu plant a chydlyniant cymunedol.

    Cafodd y ddogfen ei diweddaru ddiwethaf ym mis Ionawr 2019 ac mae ein Tîm Cydnerthu yn parhau i rannu gwybodaeth am arferion da er mwyn helpu ysgolion i gydnabod eu rôl o ran datblygu a hybu dulliau strategol o hyrwyddo a chynnal cydlyniant cymunedol ac atal eithafiaeth dreisgar drwy Grwp Atal Cymru Gyfan, sy’n rhan o Fwrdd CONTEST ac Eithafiaeth Cymru.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Byddwn yn cynnal Gwrthsafiad a pharch – Datblygu cydlyniant cymunedol, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2016 ar gyfer awdurdodau lleol, penaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, penaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, athrawon sy’n gyfrifol am unedau cyfeirio disgyblion, darparwyr gofal plant, awdurdodau esgobaethol yr eglwys, sefydliadau hyfforddi athrawon, Cadeiryddion Byrddau Diogelu Plant Lleol, Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, a sefydliadau sy’n arwain ar ddiogelu plant a chydlyniant cymunedol.

    Diweddarwyd Gwrthsafiad a pharch – Datblygu cydlyniant cymunedol ddiwethaf ym mis Ionawr 2019. Mae ein Tîm Cydnerthu yn parhau i rannu gwybodaeth am arferion da, er mwyn helpu ysgolion i gydnabod eu rôl wrth ddatblygu a hybu dulliau strategol o hyrwyddo a chynnal cydlyniant cymunedol ac atal eithafiaeth dreisgar drwy Grwp Atal Cymru Gyfan, sy’n rhan o Fwrdd CONTEST ac Eithafiaeth Cymru (mae rhagor o wybodaeth ar gael o ran Cam gweithredu 7.4).

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Nod canllawiau Gwrthsafiad a pharch – Datblygu cydlyniant cymunedol (2016) yw helpu i ddatblygu cydlyniant cymunedol ac atal eithafiaeth dreisgar ym mhob ysgol uwchradd, uned cyfeirio disgyblion, ysgol arbennig a lleoliad addysgol arall.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ‘Cysylltu Cymunedau: Strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach’ ar waith.

    Roedd cyhoeddi ein strategaeth yn gam pwysig tuag at ffurfio cysylltiadau cymdeithasol cryfach yng Nghymru.  Rydym yn parhau i wneud cynnydd da o ran rhoi'r strategaeth ar waith, ac rydym wedi gweithio gydag aelodau o'n Grŵp Cynghori ar Unigrwydd ac Ynysigrwydd er mwyn sicrhau ansawdd y gwaith cyflawni ac ystyried beth yn rhagor y gellir ei wneud.

    Mae ein Cronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymdeithasol tair blynedd, Cysylltu Cymunedau, a lansiwyd ym mis Medi 2021, yn parhau i gefnogi sefydliadau rheng flaen lleol ar lawr gwlad, sy'n dod â phobl o bob oed ynghyd, gan eu helpu i ffurfio cysylltiadau cymdeithasol o fewn cymunedau a rhyngddynt.  Ledled Cymru, mae gennym enghreifftiau niferus lle mae'r gronfa wedi cael ei defnyddio i wella llesiant a lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Rydym hefyd wedi parhau i weithio gyda rhanddeiliaid drwy ein Grwp Cynghori ar Unigrwydd ac Ynysigrwydd i helpu i oruchwylio gweithredu’r Strategaeth a chyfrannu at y broses. 

    Mae’r strategaeth yn rhwymo’r Llywodraeth i sefydlu cronfa unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Rhoddwyd y cyllid o £1.5 miliwn, a ddyrennir dros dair blynedd, 2021-24, i awdurdodau lleol ledled Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chynghorau Gwirfoddol Sirol i’w ddosbarthu i sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad, sy’n tynnu pobl o bob oedran ynghyd ac sy’n helpu i (ail-)greu cysylltiadau cymdeithasol. Caiff adroddiad ar sut y defnyddiwyd y cyllid yn 2021/22 ei gyhoeddi yn fuan. 

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Ar 11 Chwefror 2020, gwnaethom gyhoeddi Cysylltu Cymunedau: Strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach, sef y strategaeth drawslywodraethol gyntaf i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Mae’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gysylltiedig; gwlad lle mae pawb yn cael y cyfle i feithrin cydberthnasau cymdeithasol ystyrlon a lle mae pobl yn cael eu cefnogi yn ystod yr adegau hynny mewn bywyd pan fyddant yn fwyaf agored i niwed.

    Pedair blaenoriaeth y strategaeth yw: cynyddu’r cyfleoedd i bobl ddod i gysylltiad â’i gilydd; seilwaith cymunedol sy’n cefnogi cymunedau cysylltiedig; datblygu cymunedau cydlynus a chefnogol; a meithrin ymwybyddiaeth a hybu agweddau cadarnhaol. Mae pob un o’r blaenoriaethau hyn wedi’u hategu gan nifer o ymrwymiadau er mwyn helpu i’w cyflawni; mae hyn yn cynnwys diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc, a gwaith ieuenctid.

    Byddwn yn cyhoeddi adroddiad bob dwy flynedd ar gynnydd o ran cyflawni’r ymrwymiadau, a byddwn yn rhannu unrhyw gamau gweithredu pellach neu newidiadau i’r modd yr eir i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.

    Mae nodau ac amcanion y strategaeth wedi darparu sylfaen gadarn i lywio ein hymateb i COVID-19. Fodd bynnag, rydym wedi achub ar y cyfle i adolygu blaenoriaethau’r strategaeth ar y cyd â chydweithwyr ar draws y llywodraeth yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hwy, er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu’n gywir y newidiadau a welwyd mewn cymdeithas ac ystyried pa gamau pellach y gallai fod angen eu cymryd o ganlyniad i hynny. Rydym hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid allanol er mwyn deall yn well yr effaith y mae pandemig COVID-19 wedi ei chael ar unigrwydd ac ynysigrwydd.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, ‘Symud Cymru Ymlaen 2016–21’
    yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu strategaeth drawslywodraethol ar unigrwydd ac ynysigrwydd.

    Mae strategaeth ‘Cysylltu Cymunedau’, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn hwyrach eleni, yn gam cyntaf wrth newid ein ffordd o feddwl a gweithredu ar unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol o fewn y llywodraeth, mewn cymunedau ac fel unigolion. Mae’n:

    • gosod gweledigaeth o’r math o gymdeithas yr ydym am ei gweld, lle bydd unigolion a chymunedau yn teimlo’n gysylltiedig â’i gilydd
    • diffinio’r hyn rydym ni’n ei olygu wrth unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol
    • gosod ein prif flaenoriaethau a’n nodau wrth fynd i’r afael â’r materion hyn, a sut y gallwn gydweithio i chwarae’n rhan i hyrwyddo lles ac adeiladu Cymru fwy cysylltiedig a chynhwysol.

    Bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar y rôl y gall llywodraeth ei chwarae i gefnogi awdurdodau lleol, gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector, yn ogystal â chymunedau ac unigolion, i chwarae eu rhan a chefnogi cysylltiadau cymdeithasol pobl.

    Ar gyfer plant a phobl ifanc, mae’r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol yn rhan annatod o’u bywydau. Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos anfanteision posib y cyfryngau cymdeithasol i bobl ifanc. Gallant fod yn gyfrwng ar gyfer bwlio, aflonyddu a phwysau cymdeithasol a all achosi, neu gyfrannu at, synnwyr o ynysigrwydd ac unigrwydd i’r plentyn neu’r person ifanc.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu, diweddaru a chyhoeddi ei chanllawiau Ffrydio byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu.

    Yn ystod 2023, rydym wedi parhau i adolygu a diweddaru canllawiau Ffrydio byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu er mwyn sicrhau eu bod yn ategu Canllawiau parhad dysgu Llywodraeth Cymru.

    Rydym yn parhau i adolygu ein hardal gwersi byw er mwyn sicrhau y gall ymarferwyr gael yr wybodaeth a'r canllawiau diweddaraf ar ddefnyddio adnoddau a gwasanaethau Hwb yn ddiogel.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn dilyn cyhoeddi'r ardal 'Gwersi byw', yn ystod 2021-2022 rydym wedi parhau i adolygu a diweddaru'r ardal a chanllawiau Ffrydio byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu

    Yn ystod mis Awst 2022 cwblhawyd  adolygiad llawn o ffrydio byw a fideo-gynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol a'u diweddaru yn ôl yr angen.

    Yn ystod 2022-23 byddwn yn parhau i adolygu a hyrwyddo'r ardal 'Gwersi byw' ar Hwb.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Ym mis Ionawr 2021, cafodd canllawiau Ffrydio byw a fideo-gynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol eu diweddaru a'u cyhoeddi.

    Er mwyn cefnogi ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ymhellach, datblygwyd ardal gwersi byw newydd ar Hwb i roi canllawiau cyffredinol a thechnegol ar ddefnyddio gwasanaethau Hwb gan gynnwys Microsoft Teams a Google Meet i ddarparu gwersi byw. Rydym yn parhau i adolygu, diweddaru a hyrwyddo yr ardal ar Hwb.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus

    Yn ystod pandemig COVID-19, daeth canllawiau Ffrydio byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu, a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Mai 2020, yn rhan o raglen parhad dysgu, ‘Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu’, a chawsant eu hanelu at leoliadau prif ffrwd yng Nghymru.

    Mae’r canllawiau hyn, a ddiweddarwyd ym mis Medi 2020 i adlewyrchu’r ffaith bod plant a phobl ifanc yn dychwelyd i’r ysgol, yn rhoi gwybodaeth i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ar sut y gellir defnyddio technoleg fideogynadledda a ffrydio byw yn ddiogel.

    Byddwn yn parhau i adolygu, diweddaru a hyrwyddo’r canllawiau er mwyn sicrhau y caiff plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg eu diogelu’n briodol.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn hyrwyddo canllawiau 'Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc. Canllawiau i leoliadau addysg yng Nghymru'

    Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd y canllawiau Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc.  

    Bwriad y canllawiau yw cynorthwyo lleoliadau addysg i ddatblygu gweithdrefnau i ymateb i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â rhannu delweddau noeth neu hanner noeth fel rhan o'u trefniadau diogelu. Dylid darllen y cyngor ochr yn ochr â chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru, Cadw Dysgwyr yn Ddiogel.

    Yn ogystal â'r canllawiau, datblygwyd Trosolwg i staff sy'n gweithio mewn lleoliadau addysg yng Nghymru sy’n rhoi arweiniad i bob ymarferydd ar sut i ymateb i ddigwyddiadau lle mae delweddau noeth a hanner noeth wedi’u rhannu.

    Mae Canllaw i ymarferwyr ar ymateb i ddigwyddiadau o rannu delweddau noeth a hanner noeth hefyd wedi'i gyhoeddi ar gyfer ymarferwyr nad oes ganddynt gyfrifoldeb arweiniol dros ddiogelu ar sut i roi gwybod am ddigwyddiadau yn ogystal â chefnogi ac addysgu dysgwyr.

    Ym mis Ionawr 2021, ar y cyd â SWGfL, cynhaliwyd gweminar i ymarferwyr er mwyn archwilio a deall y canllawiau ymhellach. Gellir ei gweld ar Hwb.

    Er mwyn sefydlu’r canllawiau ymhellach, mae modiwl hyfforddi ar-lein ar gael (a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021) i gefnogi’r Person Diogelu Dynodedig ac uwch-reolwyr i sicrhau ymateb priodol a chymesur i ddigwyddiad.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd y canllawiau Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc.

    Bwriad y canllawiau yw cynorthwyo lleoliadau addysg i ddatblygu gweithdrefnau i ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud â rhannu delweddau noeth neu hanner noeth fel rhan o'u trefniadau diogelu. Dylid darllen y cyngor ochr yn ochr â chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru Cadw Dysgwyr yn Ddiogel.

    Yn ogystal â'r canllawiau, datblygwyd 'Trosolwg i staff sy'n gweithio mewn lleoliadau addysg yng Nghymru' sy'n rhoi canllawiau i bob ymarferydd ar sut i ymateb i ddigwyddiadau lle mae delweddau noeth a hanner noeth wedi'u rhannu.

    Mae Canllaw i ymarferwyr ar ymateb i ddigwyddiadau o rannu delweddau noeth a hanner noeth hefyd wedi'i gyhoeddi ar gyfer ymarferwyr nad oes ganddynt gyfrifoldeb arweiniol dros ddiogelu ar sut i roi gwybod am ddigwyddiadau yn ogystal â chefnogi ac addysgu dysgwyr.

    Ym mis Ionawr 2021, ar y cyd â SWGfL cynhaliwyd gweminar i ymarferwyr er mwyn archwilio a deall y canllawiau ymhellach. Gellir ei weld ar Hwb.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Caiff ein canllawiau Secstio: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu dysgwyr, a gyhoeddwyd yn 2017 fel rhan o gylch gwaith Gweithgor Addysg Cyngor y DU ar gyfer Diogelwch ar y Rhyngrwyd (UKCIS), eu diweddaru. Mae’r canllawiau’n cael eu diweddaru mewn ymgynghoriad â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan, yr NSPCC, consortia rhanbarthol, y Grwp Diogelu mewn Addysg, Estyn a rhanddeiliaid allweddol eraill.

    Nod y canllawiau hyn yw cefnogi ysgolion, colegau a lleoliadau addysgol eraill i ddatblygu gweithdrefnau i ymateb i ddigwyddiadau yn ymwneud â rhannu delweddau noeth a rhannol noeth. Byddwn yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ym maes addysg a rhanddeiliaid allweddol i hyrwyddo ac ymgorffori gweithdrefnau arferion gorau a chodi ymwybyddiaeth o ffynonellau cymorth.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn hyrwyddo canllawiau i ysgolion ar baratoi ar gyfer heriau niweidiol feirol ar-lein a storïau celwydd ac ymateb iddynt.

    Yn ystod mis Mawrth 2023, cafodd y canllawiau ‘Cyngor i ysgolion ar baratoi ar gyfer heriau niweidiol feirol ar-lein a storïau celwydd ac ymateb iddynt’ eu hadolygu a'u diweddaru. Byddwn yn parhau i adolygu'r canllawiau er mwyn helpu ysgolion i reoli achosion o heriau ar-lein sy'n effeithio ar ddysgwyr neu staff.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Ym mis Hydref 2021, cyhoeddwyd y canllawiau Cyngor i ysgolion ar baratoi ar gyfer heriau niweidiol feirol ar-lein a storïau celwydd ac ymateb iddynt.  Mae'r canllawiau yn berthnasol i'r holl staff mewn ysgol ac yn arbennig o berthnasol i bersonau diogelu dynodedig a'r uwch-dîm arwain.  Datblygwyd y canllawiau i ddiogelu plant a phobl ifanc, ond maent hefyd yn cynnwys cyngor i gefnogi ysgolion i reoli heriau ar-lein neu ddeunydd a gyfeirir at staff yr ysgol.

    Byddwn yn parhau i adolygu a diweddaru'r canllawiau.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae achosion o heriau ar-lein a storïau celwydd ar y cyfryngau cymdeithasol wedi parhau i gynyddu, ac mae'r cyfryngau cymdeithasol yn llwyfan perffaith i heriau a storïau celwydd fynd yn feirol.

    Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae rhai heriau ar-lein a storïau celwydd wedi creu pryder mawr ynghylch y potensial i achosi niwed difrifol.

    Byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi canllawiau i bob aelod staff i gefnogi ysgolion yn y ffordd y maent yn cynllunio eu dull gweithredu a’u hymateb i achosion lle bydd heriau niweidiol ar-lein neu storïau celwydd yn mynd yn feirol.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn hyrwyddo canllawiau i ysgolion i gefnogi gweithwyr proffesiynol i herio’r arfer o feio dioddefwyr. Mae i lawer o’r rhain elfennau ar-lein.

    Yn ystod 2021-22 rydym wedi cyfrannu at ddatblygu canllawiau Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd o ran beio dioddefwyr, gan sicrhau eu bod yn berthnasol i Gymru. Bydd y canllawiau yn addas ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol rheng flaen sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc a byddant yn arbennig o berthnasol ar gyfer delio ag achosion o gam-drin ar-lein. Nod y canllawiau yw helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall, adnabod a herio agweddau sy’n beio’r dioddefwr o fewn eu lleoliadau. Dylai'r canllawiau fod ar gael ar Hwb yn ddiweddarach yn 2022.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Fel aelod o Weithgor Addysg Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd, bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at ddatblygu canllawiau i gefnogi gweithwyr proffesiynol i herio’r arfer o feio dioddefwyr a sicrhau defnydd priodol o iaith wrth ymdrin ag amrywiol achosion sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc. Bydd y canllawiau yn berthnasol i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes gorfodi'r gyfraith, gofal cymdeithasol ac addysg. Bydd y canllawiau hyn yn cael eu cyhoeddi ar ardal ‘Cadw'n ddiogel’ gwefan Hwb.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i gefnogi ysgolion i ddeall a chynyddu seibergadernid.

    Yn ystod 2023, byddwn yn sefydlu gweithgor i hwyluso'r gwaith o gyd-greu canllawiau a thempledi er mwyn helpu ysgolion i gynllunio ar gyfer seibergadernid a'i reoli.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae 'seibergadernid' yn cyfeirio at y gallu i baratoi ar gyfer ymosodiadau seiber a diogelwch, ymateb iddynt a dod drostynt. Mae seibergadernid yn ffactor allweddol yng ngallu lleoliadau addysg i weithredu yn wyneb y bygythiadau hyn ac wrth wneud cynlluniau.

    Yn ogystal â'r Safonau Digidol Addysgol presennol a gyhoeddwyd ar Hwb, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau i gefnogi ysgolion i ddeall eu cyfrifoldebau wrth ymateb i fygythiad ac effaith ymosodiad seiber.