English

Mae'r broses rheoli perfformiad yn rhoi'r cyfle i athrawon, penaethiaid, athrawon digyswllt a’r rheiny sy’n cynorthwyo addysgu:

  • fyfyrio ar eu hymarfer a'u hasesu yn erbyn y safonau proffesiynol perthnasol
  • defnyddio data a thystiolaeth perthnasol i ystyried effaith eu hymarfer ar ddeilliannau dysgwyr
  • cael eu harsylwi wrth ymarfer, trafod a chofnodi eu cyflawniadau'n ffurfiol yn erbyn amcanion gyda'u rheolydd
  • deall sut mae eu hamcanion a'u blaenoriaethau o ran dysgu proffesiynol yn cyfrannu at flaenoriaethau datblygu ehangach a chynllunio strategol yr ysgol
  • pennu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ganlynol
  • trafod y datblygiad a'r cymorth sydd ei angen i wella eu heffeithiolrwydd ymhellach yn y flwyddyn ganlynol.

Mae'r Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011 ar gael ar y wefan Ddeddfwriaeth.

Athrawon profiadol

Bydd athrawon yn trafod gyda'u harfarnwr eu cyfraniad at wella deilliannau (gan gynnwys lles) dysgwyr yn eu priod ddosbarthiadau. Gellir cyfeirio at ddata a thystiolaeth perthnasol. Yng nghyd-destun blaenoriaethau gwella'r ysgol a disgrifiad swydd yr ymarferydd, gellir defnyddio'r safonau proffesiynol perthnasol fel cefndir i helpu i nodi amcanion penodol ar gyfer datblygiad. Caiff gweithgareddau dysgu proffesiynol a fydd yn helpu i gyflawni'r amcanion hyn eu nodi hefyd. Caiff y broses ei chofnodi drwy ddiweddaru'r pasbort dysgu proffesiynol (PDP). Wrth bennu amcanion, bydd yr arfarnwr yn ystyried cydbwysedd bywyd a gwaith yr athro/athrawes.

Athrawon newydd gymhwyso (ANG)

Er bod athrawon sy'n cwblhau eu cyfnod sefydlu statudol wedi'u heithrio rhag y rheoliadau rheoli perfformiad, bydd athrawon newydd gymhwyso (ANG) yn ymgymryd â phroses debyg lle y byddant yn trafod gyda'u mentor sut y byddant yn dangos tystiolaeth o'u gwaith yn erbyn y safonau proffesiynol perthnasol. Mae'n ofynnol i ANGau ddangos eu bod yn cyrraedd y disgrifyddion perthnasol yn y safonau proffesiynol er mwyn cwblhau eu cyfnod sefydlu yn llwyddiannus. Bydd pob athro/athrawes newydd gymhwyso yn cwblhau proffil sefydlu yn y PDP. Yn dilyn cyfnod sefydlu, bydd pob athro/athrawes yn diweddaru’r PDP drwy gydol eu gyrfa.

Bydd athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod sefydlu cyn 1 Medi 2017 yn parhau â’r safonau athrawon wrth eu gwaith (SAG) a oedd yn weithredol pan ddechreuodd eu cyfnod sefydlu. Ar ôl cwblhau eu cyfnod sefydlu yn llwyddiannus, byddant yn mabwysiadu'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.

Penaethiaid wrth eu gwaith

Bydd penaethiaid yn dilyn proses debyg i athrawon profiadol. Byddan nhw’n cytuno ar eu hamcanion mewn trafodaeth â phanel arfarnu sy'n cynnwys llywodraethwyr a lle bo’n briodol gynrychiolwyr yr awdurdod lleol. Bydd y trafodaethau'n seiliedig ar y cynnydd y mae'r ysgol yn ei wneud yn erbyn y cyfartaleddau cenedlaethol, ysgolion tebyg a chyflawniad blaenorol a chyfraniad y pennaeth at sicrhau atebolrwydd o ran gwella. Wrth gytuno ar amcanion ar gyfer gwelliant pellach, bydd y panel yn ystyried ei gyfrifoldeb o ran sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith y pennaeth a'i gyfraniad at y system addysgol ehangach. Bydd penaethiaid yn cofnodi eu rhan yn y broses drwy ddiweddaru eu PDP.

Staff cymorth ac aelodau eraill o weithlu'r ysgol

Mae gan lawer o ysgolion drefniadau rheoli perfformiad ar waith ar gyfer eu staff cymorth. Byddwn yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth er mwyn galluogi bod rheoli perfformiad yn I statudol i holl staff ysgol gan gynnwys CA a CALU, yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad ar safonau proffesiynol drafft at gyfer cynorthwyo addysgu.

Dangosir crynodeb o'r cylch rheoli perfformiad isod.

Amlinelliad o'r cylch rheoli perfformiad

Cyn i'r cylch ddechrau:

  • cytunir ar bolisi rheoli perfformiad yr ysgol
  • caiff arfarnwyr eu penodi
  • pennir amseriad y cylch.

Diagram: Cylch rheoli perfformiad blynyddol

Y pasbort dysgu proffesiynol (PDP) yw'r llwyfan ar-lein a ddyluniwyd ar gyfer pob ymarferydd i fyfyrio ar eu hymarfer, nodi dysgu proffesiynol a chofnodi cynnydd. Dylai ymarferwyr ei ddefnyddio i gasglu tystiolaeth fel rhan o'r cylch rheoli perfformiad. Mae'r PDP yn 'symudol' a bydd yn dilyn yr ymarferydd drwy gydol ei yrfa.

Gallwch gael mynediad i'ch Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg (dolen allanol).

Mae’r canllawiau’n amlinellu’r arferion a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol gan Reoliadau Arfarnu Athrawon Ysgol (Cymru) 2011 a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2012.