English

Mae cynorthwywyr addysgu yn rhan werthfawr ac annatod o'r gweithlu addysg, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein plant a'n pobl ifanc.

Er bod y rhan fwyaf o staff cymorth yn cael eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i gefnogi athrawon ac yn gweithio'n uniongyrchol gyda dysgwyr, mae llawer ohonynt yn cael eu defnyddio mewn rolau cymorth eraill y mae ysgolion yn dibynnu arnynt i sicrhau bod yr ysgol yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon.

Rydym wedi ymrwymo i barhau i alluogi cynorthwywyr addysgu i wella eu sgiliau a'u helpu i ymgysylltu â dysgu proffesiynol trwy hwyluso llwybrau dysgu cliriach, gan gynnwys llwybrau i gyflawni statws cynorthwyydd addysgu lefel uwch (CALU).

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y dysgu proffesiynol sydd ar gael i gynorthwywyr addysgu a sut i ennill statws CALU ar y dudalen dysgu proffesiynol gydol gyrfa.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi'r rhai sy'n cynorthwyo addysgu.

Mae hyn yn cynnwys Bwrdd Gweithlu Cynorthwywyr Addysgu y Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol, sy'n ystyried sawl mater allweddol gan gynnwys y defnydd o gynorthwywyr addysgu, mynediad at ddysgu proffesiynol, safoni disgrifiadau swydd a chyflog.

Rydym hefyd wedi sefydlu Grŵp Llywio Dysgu Proffesiynol i edrych ar yr holl ddysgu proffesiynol ar gyfer cynorthwywyr addysgu yng Nghymru. Mae'r grŵp llywio yn cynnwys penaethiaid, ymarferwyr, consortia rhanbarthol ac undebau. Nod y grŵp llywio yw sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad at hyfforddiant wedi'i dargedu, o ansawdd uchel a chyson i'n cynorthwywyr addysgu.

Rydym eisoes wedi datblygu rhai rhestrau chwarae ar arferion da i helpu penaethiaid, gan ddangos sut mae cynorthwywyr addysgu wedi cael eu defnyddio dros y 2 flynedd ddiwethaf.