English

Dylai ysgolion ddefnyddio hunanwerthuso i lywio dysgu proffesiynol ar gyfer yr holl staff. Ochr yn ochr â’r adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella, dylai ysgolion ddefnyddio'r safonau proffesiynol a'r trefniadau adolygu datblygiad proffesiynol i ddeall anghenion dysgu proffesiynol eu staff.

The safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arweinyddiaeth a chynorthwyo addysgu yn disgrifio’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiad sy’n nodweddu arferion rhagorol ac yn cefnogi twf proffesiynol.

Dylai pob ymarferydd addysg gael eu cymell gan y set gyffredinol o werthoedd ac ymagweddau sydd wedi'u cynnwys yn y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arweinyddiaeth a chynorthwyo addysgu (y safonau proffesiynol). Mae'r gwerthoedd a'r ymagweddau hyn a’r 5 safon proffesiynol eu hunain yn ganolog i'r ffordd rydym eisiau i'n holl ymarferwyr addysg ddatblygu. Dylai defnyddio'r safonau proffesiynol i fyfyrio ar ymarfer unigol lywio trefniadau rheoli perfformiad a gwella ysgolion ac arwain at ddatblygu taith dysgu proffesiynol unigol ar gyfer pob ymarferydd. Bydd hyn yn ei dro yn cefnogi ysgolion i gyflawni eu blaenoriaethau gwella ysgolion.

Pwrpas adolygiad o ddatblygiad proffesiynol (a elwid gynt yn rheoli perfformiad) yw sicrhau addysgu ac arweinyddiaeth effeithiol er budd y dysgwr, yr ymarferydd a'r ysgol. Mae'n gwneud hyn drwy gefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu hunain yn barhaus fel dysgwyr proffesiynol ymroddedig, trwy fyfyrio, cydweithredu ac arloesi a chyflawni eu rôl yn yr ysgol fel sefydliad dysgu.

Dylai adolygiad o ddatblygiad proffesiynol greu amgylchedd dysgu sy'n cefnogi lles yr ymarferydd, datblygiad proffesiynol ac adolygiad parhaus. Mae hyn yn annog ymarferwyr i fod yn gysylltiedig â chyflawni gweledigaeth yr ysgol ac i gefnogi cyflwyno cynllun datblygu'r ysgol.