English

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod athrawon cyfenwi yn rhan annatod o fywyd mewn ysgolion. Mae'n hollbwysig bod athrawon sy'n dewis y dull hwn o weithio yn athrawon o'r safon uchaf a'u bod yn cael yr un cyfleoedd â'u cydweithwyr sydd mewn swyddi amser llawn. Drwy wneud hyn, rydym nid yn unig yn cefnogi athrawon unigol ond hefyd yn helpu i wella deilliannau dysgwyr yng Nghymru.

Mae gan athrawon cyflenwi hawl i gael mynediad at adnoddau o ansawdd uchel i'w helpu gyda'u gwaith, gan gynnwys amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a rhwydweithiau. Dylai staff cyflenwi ddangos yr un ymrwymiad i ddysgu proffesiynol ag y mae Llywodraeth Cymru yn ei nodi ar gyfer pob ymarferydd. Cyhoeddwyd safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth ym mis Medi 2017, ac maent yn ategu gwaith athrawon o ddydd i ddydd ac yn cefnogi eu datblygiad proffesiynol.

Lansiodd Llywodraeth Cymru y Dull Cenedlaethol o Ddysgu Proffesiynol yn 2018 i helpu athrawon i gyflwyno cwricwlwm newydd Cymru. Gellir gweithredu'r ffocws cenedlaethol newydd ar ddysgu proffesiynol mewn ffordd hyblyg er mwyn osgoi amharu ar y diwrnod ysgol.

Gall athrawon cyflenwi yng Nghymru hefyd fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol drwy'r llwybrau canlynol:

  • Hwb
  • Pasbort Dysgu Proffesiynol (www.ewc.wales)
  • Cyfleoedd neu ddigwyddiadau dysgu proffesiynol lleol drwy'r Consortia Addysg Lleol, yr awdurdodau lleol neu'r undebau llafur. Os yn gweithio mewn ysgol, gellir gofyn am gael cymryd rhan yn y ddarpariaeth mewn swydd
  • Dysgu cyweithredol, mae cyflenwi'n cynnig cyfle i gydweithredu ag ystod eang o athrawon sydd â phrofiadau gwahanol ac mewn lleoliadau gwahanol. Gellir sefydlu Cymuned Dysgu Proffesiynol?
  • Astudiaethau academaidd, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cyfres o becynnau e-ddysgu arloesol sydd ar gael drwy Hwb. Hefyd, mae nifer o raglenni prifysgol ar gael ar-lein i athrawon cyflenwi
  • Y Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru, drwy'r Cynllun Sabothol, wedi datblygu hyfforddiant penodol i ymarferwyr sy'n dymuno addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n dymuno gwella eu sgiliau Cymraeg
  • Cyfnod sefydlu, mae'n ofynnol i athrawon newydd gymhwyso (ANG) yng Nghymru ymgymryd â chyfnod sefydlu statudol ers mis Medi 2003. Gellir cael gwybodaeth a chefnogaeth gan y Consortia Rhanbarthol. Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn darparu cyngor a chymorth ar sefydlu i athrawon cyflenwi tymor byr (www.ewc.wales)

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi, â gwaith teg wrth wraidd y model hwnnw. Cytunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar gynlluniau i gaffael a gweithredu platfform archebu ar-lein ar gyfer pob ysgol a gynhelir a phob awdurdod lleol sydd am gyflogi staff cyflenwi yn uniongyrchol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi partneru â Teacher Booker, sy’n blatfform ar-lein, i greu Pwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru, gan roi cyfleoedd gwaith cyflenwi uniongyrchol i chi mewn ysgolion, ac sydd hefyd o bosibl yn eich gwneud yn gymwys ar gyfer y Cynllun Pensiwn Athrawon.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod Pwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru ar gael i awdurdodau lleol, ysgolion a staff cyflenwi, fesul cam. Dechreuwyd gydag Ynys Môn, gan roi elfennau archebu’r platfform ar waith yn llwyddiannus ym mis Tachwedd 2023 ar gyfer athrawon cyflenwi. A’r trefniadau archebu yn weithredol yn Ynys Môn bellach, rydym yn parhau i ymchwilio, ar y cyd â phartneriaid, i sut mae rheoli rhai o elfennau’r system, er enghraifft y gyflogres, yn y ffordd orau er mwyn gweithio ar draws sawl ardal.

Rydym yn sylweddoli bod llawer o staff cyflenwi sydd wedi cofrestru ar draws Cymru yn awyddus i’r system gael ei rhoi ar waith yn eu hardal nhw. Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod yn gweithio yn gyntaf oll gyda’n partneriaid i sicrhau bod modd i’r drefn weithio’n effeithiol pan gaiff ei chyflwyno’n ehangach. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

Mae Pwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru yn:

  • rhoi’r gallu i ysgolion ledled Cymru archebu athrawon cyflenwi a gweithwyr dros dro yn uniongyrchol drwy'r platfform
  • galluogi athrawon cyflenwi i ddod yn rhan o rwydwaith cynhwysfawr o staff cyflenwi sydd ar gael i ysgolion ledled y wlad. Mae’n arddangos eich sgiliau, eich profiad a ph’un a ydych ar gael, gan gynyddu eich siawns o gael gwaith mewn lleoliadau gwerth chweil
  • darparu mynediad i'r Cynllun Pensiwn Athrawon wrth weithio fel athro cyflenwi drwy'r platform

Rydym yn eich annog i gofrestru ar gyfer Pwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru ar blatfform Teacher Booker cyn iddo gael ei lansio yn eich ardal. Trwy wneud hyn, gallwch fwynhau proses symlach ar gyfer canfod aseiniadau, byddwch yn amlycach i ysgolion, a chewch fynediad at y Cynllun Pensiwn Athrawon. Cofrestr i ddod yn rhan (app.teacherbooker.com) o Bwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu am gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: CymorthCyflenwi@llyw.cymru.

Mae Hwb yn llwyfan dysgu digidol sy'n cynnwys casgliad cenedlaethol o offer ac adnoddau digidol i gefnogi’r addysgu a’r dysgu yng Nghymru. Gall pob athro a disgybl yn ysgolion Cymru fwynhau manteision defnyddio adnoddau ar-lein yn unrhyw le ar unrhyw bryd, a hynny gan ddefnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau sy’n gallu mynd ar y we. Hefyd, mae’n darparu offer sy'n helpu athrawon i greu a rhannu eu hadnoddau a’u haseiniadau eu hunain. Mae Hwb wedi cael ei ddatblygu’n unol â'r prif egwyddorion canlynol:

  • cefnogi dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer cynllunio a chyflenwi
  • galluogi athrawon yng Nghymru i rannu sgiliau, dulliau ac adnoddau â'i gilydd
  • cefnogi'r addysgu a’r dysgu yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • cynnig cyfle cyfartal i bob athro a dysgwr yng Nghymru ddefnyddio offer ac adnoddau sy’n canolbwyntio ar yr ystafell ddosbarth

Mae Hwb yn galluogi dysgwyr ac athrawon i ddefnyddio adnoddau ar-lein yn unrhyw le ar unrhyw bryd, a hynny o amrywiaeth o ddyfeisiau. Hefyd, mae’n darparu offer sy'n helpu athrawon i greu a rhannu eu hadnoddau a’u haseiniadau eu hunain. Mae’r casgliad yn cynnwys:

  • offer ac adnoddau sydd wedi’u creu neu eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru a/neu ei hasiantau
  • offer ac adnoddau sydd wedi’u trwyddedu neu eu prynu gan Lywodraeth Cymru
  • offer ac adnoddau sydd ar gael gan “ffynonellau diogel”
  • adnoddau sydd wedi’u creu gan athrawon

Cyfrifon athrawon cyflenwi Hwb

Mae gan bob athro cyflenwi yr hawl i gael ei gyfrif Hwb Athrawon Cyflenwi cludadwy ei hun (sy’n cynnwys Office 365, yn ogystal â'ch cyfeiriad e-bost Hwb eich hun). Er mwyn gofyn am Gyfrif Hwb Athrawon Cyflenwi, llenwch y ffurflen drwy’r ddolen ganlynol: Athrawon Cyflenwi, Hwb (llyw.cymru). I gael cymorth pellach, gellir cysylltu â Thîm Hwb Athrawon Cyflenwi ar supplysupport@gov.wales. I gael help a chefnogaeth dechnegol, cysylltwch â thîm canolog Hwb ar 0300 025 2525 neu hwb@llyw.cymru. Os oes gennych chi unrhyw broblemau mewn ysgol, gofynnwch am gyngor gan hyrwyddwr digidol yr ysgol.

Ar hyn o bryd mae gan dros 900 o athrawon cyflenwi eu cyfrif Hwb cludadwy personol eu hunain. Mae hwn yn gam cadarnhaol i wneud yn siwr bod yr holl ymarferwyr, sut bynnag maen nhw'n cael eu cyflogi, yn gallu cael gafael ar yr un gyfres o adnoddau.

Er mwyn cefnogi prif egwyddorion Hwb a helpu athrawon cyflenwi i allu rhannu sgiliau, dulliau ac adnoddau â’i gilydd, mae'r Rhwydwaith ‘Athrawon Cyflenwi- Supply Teachers’ wedi'i sefydlu. Mae hwn yn lle i athrawon cyflenwi rannu arferion da â’i gilydd, yn ogystal â thrafod, cydweithio a rhannu adnoddau ag athrawon cyflenwi eraill er mwyn cefnogi’r addysgu a’r dysgu. Os oes gennych chi gyfrif Hwb athrawon cyflenwi, byddwch yn gymwys i gael defnyddio’r rhwydwaith. Os oes gennych chi gyfrif Hwb athrawon cyflenwi ac nad ydych chi wedi gwneud hynny eto, cofrestrwch â'r rhwydwaith ‘Athrawon Cyflenwi- Supply Teachers’. Byddem yn eich annog i wneud hynny.

Mae cyfrifon Hwb yn cynnig nifer o fanteision. Rhannwch argaeledd cyfrifon Hwb Athrawon Cyflenwi a'r Rhwydwaith Athrawon Cyflenwi â chyd-weithwyr sy'n athrawon cyflenwi drwy eu cyfeirio at ein tudalen gofrestru.

Drwy gael cyfrif Hwb Athrawon Cyflenwi, rydych chi’n cytuno i gadw at delerau ac amodau Hwb. Rhaid i unrhyw beth rydych chi’n ei wneud ar Hwb gael pwrpas addysgol. Ni ddylech ystyried bod unrhyw rai o’ch gweithgareddau yn rhai preifat neu gyfrinachol ac mae'n rhaid i chi gydymffurfio â'r amodau canlynol:

  • Byddwch yn enghraifft gadarnhaol ar gyfer eich disgyblion/dysgwyr pan fyddwch chi’n defnyddio technoleg ddigidol, gan gynnwys Hwb. 
  • Cadwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair yn ddiogel. Chi sy'n gyfrifol am unrhyw beth sy'n digwydd o dan eich cyfrif chi. Rhowch wybod i’ch gweinyddwr Hwb os ydych chi’n amau bod eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair wedi cael eu peryglu.
  • Os ydych chi’n rhannu dolenni allanol o fewn Hwb, yna rydych chi’n credu bod cynnwys y wefan allanol honno yn briodol o ran oedran a bod ganddi bwrpas addysgol. Ee, Youtube.
  • Ar Hwb, chewch chi ddim gweld, dosbarthu na gosod deunydd sy’n torri hawliau statudol perchnogion hawlfraint.
  • Cadwch gymuned yr ysgol yn ddiogel drwy roi gwybod am unrhyw beth rydych chi'n ei weld a allai achosi niwed i chi eich hun, i athrawon eraill neu i ddysgwyr yn yr ysgol. Mae disgwyl i chi ddangos agwedd broffesiynol a pharch at ddisgyblion, eu teuluoedd, eich cyd-weithwyr a’r ysgol pan fyddwch chi ar-lein.
  • Ni chaniateir i chi greu na throsglwyddo unrhyw ddelweddau, data na deunydd arall sy'n aflednais, yn sarhaus neu'n anweddus. Bydd yr awdurdodau’n cael gwybod am unrhyw gynnwys sy'n ymwneud â gweithgareddau anghyfreithlon neu sy'n cefnogi gweithgareddau felly. 
  • Dylech osgoi gwneud defnydd personol o’ch blwch negeseuon a'ch cyfleuster storio yn y cwmwl. Efallai y bydd negeseuon e-bost yn cael eu monitro gan Lywodraeth Cymru.

Byddwch yn cael defnyddio Hwb yn unol â disgresiwn Llywodraeth Cymru ac os byddwch chi'n ei ddefnyddio mewn ffordd annerbyniol (fel sy’n cael ei ddangos uchod ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) efallai na fyddwch chi’n gallu mewngofnodi am gyfnod neu'n gyfan gwbl. Mae’n bosibl y byddwch chi'n ddarostyngedig i gamau disgyblu hefyd, yn unol â Pholisi Disgyblu eich sefydliad.

Erbyn hyn mae Google for Education ar gael ar gyfrifon Hwb Athrawon Cyflenwi.

Mae cylchlythyr Llywodraeth Cymru, Dysg, yn adnodd arbennig sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf am gyrsiau hyfforddiant a digwyddiadau sydd ar y gweill, ynghyd â gwybodaeth am ddatblygiadau yn y byd addysg yng Nghymru. Gallwch danysgrifio i Dysg.

Yng Nghymru, caiff athrawon cyflenwi eu cyflogi mewn sawl ffordd. O dan y fframwaith rheoli ysgolion yn lleol, fel yr amlinellir yn Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006, mae ysgolion yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch sut y maent yn trefnu, yn recriwtio, yn defnyddio ac yn rheoli gweithlu effeithiol. Golyga hyn fod y trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer defnyddio athrawon cyflenwi yn wahanol iawn ar draws Cymru yn dibynnu ar anghenion lleol, cyfyngiadau daearyddol a gofynion o ran iaith a phwnc. Mae'r penderfyniadau hyn yn adlewyrchu amgylchiadau, adnoddau a blaenoriaethau ysgolion unigol fel y nodir yn eu Cynllun Datblygu Ysgol.

Gall ysgolion gyflogi athrawon cyflenwi cymwys drwy ddefnyddio unrhyw drefn y maent yn teimlo sy'n briodol i ddiwallu anghenion yr ysgol. Gall hyn gynnwys modelau cyflogi uniongyrchol, defnyddio athrawo symudol/ychwanegol, cydweithio ag ysgolion eraill i rannu adnoddau, neu ddefnyddio asiantaeth gyflenwi fasnachol. Datblygwyd Cytundeb Fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Gweithwyr Asiantaeth i helpu ysgolion i recriwtio staff dros dro drwy fframwaith genedlaethol i Gymru sy'n darparu cyflog ac amodau tecach i athrawon cyflenwi asiantaethau, cyfleoedd datblygu proffesiynol a sicrwydd i ysgolion bod asiantaethau wedi bodloni'r gofynion gofynnol y cytunwyd arnynt. Mae'r Fframwaith diwygiedig, sydd wedi bod yn weithredol ers mis Medi 2019, yn gweithredu ar sail lotiau daearyddol ac yn cael ei reoli gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

Ceir manylion y Cytundeb Fframwaith newydd isod.

Mae amrywiaeth o asiantaethau cyflenwi masnachol ar waith yng Nghymru, ac mae’r canllaw rheoli presenoldeb gweithlu ysgolion yn effeithiol yn amlinellu'r meini prawf gofynnol y dylai ysgolion, ac felly athrawon cyflenwi, eu disgwyl gan y rheini y maent yn eu defnyddio. Pan fydd ysgolion yn defnyddio asiantaethau cyflenwi, yr asiantaeth breifat yw'r cyflogwr ac yn gyfrifol am bennu'r telerau cyflogi. Yn y pen draw, yr ysgolion a gynhelir sy'n gyfrifol am benderfynu sut i sicrhau bod gweithlu effeithiol yn ei le, ond disgwylir i awdurdodau lleol ac ysgolion ac athrawon cyflenwi ddefnyddio asiantaethau cymeradwy.

Rydym yn annog athrawon cyflenwi sy'n ystyried ymuno ag asiantaeth gyflenwi fasnachol i ddarllen a deall telerau unrhyw gontract a lofnodir ganddynt. Dylai hyn nodi telerau'r archeb a'r gyfradd gyflog yn glir. Os yw'r gyflogaeth drwy asiantaeth Fframwaith, dylai'r gyfradd gyflog ar gyfer athro cyflenwi (sy'n gofyn am SAC) fod o leiaf lleiafswm y brif raddfa gyflog yr athrawon (M2) fel y nodir yn nogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru). Os yn aelod o undeb llafur, bydd yr undeb yn gallu darparu cyngor ar gontractau asiantaethau cyflenwi. Nawr bod contract y Fframwaith newydd yn ei le i sicrhau cyflog ac amodau teg i athrawon cyflenwi, byddwn yn cynghori athrawon cyflenwi i'w ystyried wrth ddewis cyflogaeth gydag asiantaethau cyflenwi masnachol.

Gweld canllawiau gan Lywodraeth Cymru ar bwy sy'n gallu gweithio fel athro cyflenwi a sut y dylai ysgolion eu cefnogi.

Mae'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi wedi'i sefydlu er mwyn helpu i sicrhau bod gweithwyr mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu cyflogi mewn ffordd deg a moesegol. Mae cwmpas y Cod Ymarfer yn cynnwys caffael, dewis cyflenwyr, tendro, rheoli contractau a rheoli cyflenwyr.

Bydd fframwaith asiantaethau newydd yn cael effaith o fis Medi 2023. Fel gyda’r trefniadau blaenorol, nod Cytundeb Fframwaith Asiantaethau Cyflenwi Caffael Corfforaethol Llywodraeth Cymru yw helpu ysgolion i recriwtio staff dros dro trwy fframwaith cenedlaethol i Gymru sy'n darparu cyflog ac amodau tecach i athrawon cyflenwi asiantaethau, cyfleoedd datblygu proffesiynol a sicrwydd i ysgolion bod asiantaethau wedi bodloni'r gofynion sylfaenol y cytunwyd arnynt. Bydd y fframwaith diwygiedig yn parhau i weithredu ar sail lotiau daearyddol ac yn cael ei reoli gan Wasanaeth Caffael Corfforaethol Llywodraeth Cymru.

Mae'r dull lotiau daearyddol/awdurdodau lleol yn rhoi mwy o ddewis i ysgolion o asiantaethau cyflenwi, yn galluogi tryloywder o ran y ffioedd sy'n daladwy gan ysgolion i'w helpu i wneud y defnydd gorau o'u cyllidebau staffio dirprwyedig, ac yn diogelu athrawon cyflenwi tra'n sicrhau bod safonau ansawdd sylfaenol a rhwymedigaethau diogelu statudol yn cael eu bodloni gan bob asiantaeth sy'n gweithredu o dan y fframwaith.

Mae 41 o asiantaethau cymeradwy ar y fframwaith, sy'n cwmpasu ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Er mwyn sicrhau bod digon o ddarpariaeth i ddiwallu anghenion ysgolion, mae o leiaf 14 o asiantaethau cymeradwy ym mhob awdurdod lleol. Mae rhestr lawn o asiantaethau sydd wedi'u cynnwys yn y fframwaith, a pha ardaloedd y maent yn gweithredu ynddynt, ar gael isod.

  • Parthau asiantaeth pdf 153 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Dylai ysgolion sy'n dewis diwallu eu hanghenion o ran athrawon cyflenwi trwy asiantaethau barhau i ddefnyddio asiantaethau ar y fframwaith sydd wedi bodloni'r gofynion penodedig. Mae hyn yn cynnwys cofrestru gyda chorff recriwtio proffesiynol cynrychioliadol a chofrestru i God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a'n hegwyddorion Gwaith Teg.

Mae Fframwaith Asiantaethau Cyflenwi Caffael Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 i 2027 yn:

  • cynnal gofynion i sicrhau bod yr holl gymwysterau, addasrwydd a gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi'u bodloni. (Rhaid i ysgolion barhau i fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau diogelu statudol).
  • ei gwneud yn ofynnol i bob asiantaeth ddarparu tystiolaeth o'u proses i sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Gweithwyr Asiantaeth (AWR) 2010. (Mae asiantaethau yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Safonau Asiantaethau Cyflogaeth ac maent yn ddarostyngedig i'r holl ddeddfwriaeth gyflogaeth berthnasol gan gynnwys Deddf Asiantaethau Cyflogaeth 1973 a Rheoliadau Ymddygiad Asiantaethau Cyflogaeth a Busnesau Cyflogaeth).
  • ei gwneud yn ofynnol i bob asiantaeth fod yn aelod o gorff recriwtio proffesiynol perthnasol (REC, APSCo neu Standards in Recruitment) ac i ymuno â SaferJobs/JobsAware.
  • ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau weithio o fewn y Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a'n hegwyddorion Gwaith Teg ehangach.
  • ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau dalu isafswm cyfradd gyflog ddyddiol ar gyfer athrawon cyflenwi, i gyd-fynd â'r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ddiweddaraf (‘y Ddogfen’). Nid oes unrhyw beth i atal ysgolion/asiantaethau rhag talu cyfraddau dyddiol uwch os yw'n briodol. Bydd y gyfradd hon yn seiliedig ar isafswm cyfradd gyflog bresennol prif raddfa gyflog yr athrawon fel y nodir yn y Ddogfen. Cyfrifir y gyfradd ddyddiol trwy rannu M2 yn ôl nifer y diwrnodau gwaith dan gontract fel y nodir yn y Ddogfen. Mae hyn fel arfer yn 195 diwrnod y flwyddyn.
  • ei gwneud yn ofynnol i bob asiantaeth gyhoeddi eu ffioedd dyddiol fel bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn glir ynghylch sut maent yn gwario arian cyhoeddus o ran faint sy'n mynd i'r athro a faint sy’n mynd i'r asiantaeth i dalu eu costau.
  • ei gwneud yn ofynnol i bob asiantaeth ddarparu dadansoddiad llawn o gost yr anfoneb i'r ysgol ar gyfer pob archeb.
  • ei gwneud yn ofynnol i bob asiantaeth fod yn dryloyw drwy gyhoeddi eu ffioedd dros dro i ffioedd parhaol pan fydd ysgol yn cyflogi athro yn barhaol. Mae'r fanyleb yn cynnwys graddfa symudol yn dibynnu ar ba mor hir y mae'r athro wedi bod yn yr ysgol.
  • ei gwneud yn ofynnol i bob asiantaeth gynnig dysgu proffesiynol perthnasol i weithwyr a sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei roi i bob athro newydd gymhwyso i'w galluogi i fodloni gofynion sefydlu.

Rydych yn weithiwr asiantaeth os oes gennych gontract gydag asiantaeth ond rydych yn gweithio dros dro ar gyfer cyflogwr. Os ydych yn athro cyflenwi, rydych yn debygol o fod yn weithiwr asiantaeth. Gall asiantaethau gynnwys asiantaethau recriwtio, gan gynnwys 'asiantaethau gweithwyr dros dro'.

Mae Arolygiaeth Safonau'r Asiantaeth Gyflogi wedi'i lleoli yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Maent yn diogelu hawliau gweithwyr asiantaeth drwy sicrhau bod asiantaethau cyflogi a busnesau'n trin eu gweithwyr yn deg. I ddeall eich hawliau fel gweithiwr asiantaeth, cliciwch yma. Gallwch gysylltu â'r Arolygiaeth Safonau i wneud cwyn ynghylch cyflog a hawliau gwaith.

Mae cymorth ychwanegol i Weithwyr Asiantaeth ar gael drwy wefan JobsAware sydd ar gael.

I gael cyngor ychwanegol ar bwy sy'n gallu gweithio fel athro cyflenwi a sut y dylai ysgolion eu cefnogi, gweler canllawiau Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd y canllaw 'Rheoli presenoldeb gweithlu ysgolion yn effeithiol' i ddechrau ym mis Rhagfyr 2017. Canllawiau yw'r rhain ar gyfer awdurdodau lleol, llywodraethwyr, penaethiaid, consortia rhanbarthol a'r rheini sy'n gyfrifol am reoli staff mewn ysgolion. Serch hynny, efallai y byddai’r ddogfen hon yn ddefnyddiol i staff ysgol, athrawon cyflenwi ac asiantaethau cyflenwi masnachol hefyd.

Gyda’r Cwricwlwm i Gymru, bydd yr holl ddull o ddatblygu plant a phobl ifanc 3 i 16 oed yn newid. Mae Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol ddatblygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi eu dysgwyr i ddatblygu tuag at bedwar diben y cwricwlwm, man cychwyn a dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Mae manylion y Cwricwlwm i Gymru newydd a beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion ac ymarferwyr i'w gweld yma (Cwricwlwm i Gymru, Hwb (llyw.cymru). Dylai staff cyflenwi ymgyfarwyddo â'r dull newydd a sut mae ysgolion yn datblygu ac yn paratoi ar gyfer eu cwricwlwm newydd.

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw'r corff rheoleiddio annibynnol yng Nghymru ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir, athrawon Addysg Bellach a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau AB ynghyd â gweithwyr ieuenctid a phobl sy'n gweithio ym maes dysgu yn y gweithle.

Mae gan athrawon fynediad 'o fore gwyn tan nos' i'r cymorth a roddir gan y Cymorth Addysg (www.educationsupport.org.uk). Mae Cymorth Addysg yn cynnig cymorth i staff addysg ar unrhyw adeg yn eu gyrfa, yn ogystal â chynorthwyo eu teuluoedd a'r rhai sy'n ddibynnol arnynt. Mae'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys hyfforddiant, cwnsela, cyngor ariannol, cyngor ar ba grantiau sydd ar gael, ac yn cyfeirio at sefydliadau cymorth eraill.

Mae pecyn cymorth pwrpasol ar gael i staff ysgolion yng Nghymru drwy'r prosiect 'Llesiant yng Nghymru'. Mae rhagor o wybodaeth am y math o gymorth sydd (www.educationsupport.org.uk) ar gael a sut y gellir cael gafael arno ar gael.

Mae diogelu yn golygu atal ac yn amddiffyn plant rhag camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, ac addysgu'r rhai o'u cwmpas i adnabod yr arwyddion a'r peryglon. Mae gan bawb sy'n gweithio mewn lleoliad addysg, boed yn gyflogedig gan yr awdurdod lleol neu fel arall, ac sy'n dod i gysylltiad â phlant a'u teuluoedd, rôl o ran diogelu plant. Mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu plant a hyrwyddo eu lles. Mae angen i bob sefydliad sy'n dod i gysylltiad â phlant sicrhau eu bod yn gweithio mewn ffordd sy'n cadw'r plant hynny'n ddiogel. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru Cadw dysgwyr yn ddiogel 2021 a'r fersiwn hawdd ei darllen yn darparu cyngor ar ddyletswyddau cyflogwyr mewn perthynas â diogelu. Mae hyn yn cynnwys canllawiau'n ymwneud â chyflenwi. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cefnogi unigolion ac asiantaethau ledled Cymru i ddeall eu rolau a'u cyfrifoldebau o ran cadw plant ac oedolion yn ddiogel. Yn ogystal, mae modiwlau e-ddysgu Diogelu Dysgwyr ar gael gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu staff i ddeall eu cyfrifoldebau diogelu ac i roi cyflwyniad i ymarferwyr addysg a llywodraethwyr ar ddiogelwch ar-lein a sut mae’n effeithio ar ddiogelu dysgwyr. Mae pob modiwl yn cynnwys un rhestr chwarae, mae'r Parth Diogelwch Ar-leinar Hwb wedi’i lunio a’i ddatblygu i gefnogi diogelwch ar-lein mewn addysg ar draws Cymru. Mae’n darparu cyfres helaeth o adnoddau dwyieithog, cyfredol, canllawiau Llywodraeth Cymru a dolenni at ffynonellau cymorth eraill ar amrywiol faterion diogelwch ar-lein.

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i ddarparu cyngor i ysgolion ac asiantaethau cyflenwi ynghylch pwy all weithio fel athrawon cyflenwi yn lle athrawon sy'n absennol, ac i hyrwyddo mater diogelwch yn y cyd-destun hwn er mwyn pwysleisio ei bwysigrwydd a’i berthnasedd. Mae Cyflogi a cefnogi athrawon cyflenwi mewn amgylchedd ysgol yn cynnig cyngor i athrawon cyflenwi, ysgolion ac asiantaethau cyflenwi.

Yn dilyn adolygiad y Tasglu Model Cyflenwi sefydlwyd y Model Clystyrau Cyflenwi i ddarparu ffordd amgen i ysgolion recriwtio athrawon cyflenwi a i wella'r ffordd y mae athrawon cyflenwi yn cefnogi ysgolion. Neilltuwyd £2.7m i 15 awdurdod lleol i greu trefniadau newydd ar gyfer athrawon cyflenwi drwy gyflogi athrawon ychwanegol i weithio ar draws clystyrau o ysgolion, gan gyflenwi pan fo athrawon yn absennol a chefnogi gwelliannau ehangach yn yr ysgol a deilliannau dysgwyr. Bu’r prosiect peilot ar waith yn ystod y blynyddoedd academaidd 2018 i 2019 a 2019 i 2020, ac fe ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2020.

Mae gwerthusiad o’r prosiect wedi dangos sut y bu gwahanol fodelau clwstwr yn fanteisiol i ysgolion, gan eu helpu i reoli absenoldeb athrawon – wedi’i gynllunio a heb ei gynllunio, yn fwy effeithiol ac effeithlon. Mae'r adroddiad y cynllun peilot cyflenwi/wrth gefn yn tynnu sylw at amrywiol ganlyniadau cadarnhaol i’r ysgolion a fu’n cymryd rhan yn y cynllun peilot – yn amrywio ar draws nifer o feysydd gan gynnwys: addysgu a dysgu, ymddygiad disgyblion, datblygu proffesiynol, gwella ysgolion yn ehangach, cymorth ar gyfer athrawon cyflenwi a chysondeb addysgu a dysgu.

Mae’r gwerthusiad annibynnol yn dangos yr amrywiol feysydd lle mae ysgolion wedi elwa ar y model, gan ddarparu cymorth iddynt gynllunio ar gyfer y cwricwlwm newydd, a gwella cydweithredu a rhannu arferion gorau ar draws ysgolion y clwstwr.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol ac ysgolion, fel cyflogwyr athrawon, i ystyried hyn fel ffordd amgen o reoli eu hanghenion cyflenwi. Gellir gweld astudiaethau achos arferion gorau isod.

  • Astudiaethau achos pdf 1.02 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath