English

Sefydlodd y Gweinidog Addysg grwp rhanddeiliaid ar draws y proffesiwn addysg i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â llwyth gwaith, dan yr enw y Grwp Rheoli Llwyth Gwaith a Lleihau Biwrocratiaeth. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolwyr rhanddeiliaid o Lywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac undebau llafur.

Maent yn cydweithio i nodi materion llwyth gwaith ac i ymrwymo i egwyddorion craidd o ran sut y gellir mynd i'r afael â hwy, tra'n dileu biwrocratiaeth lle bynnag y bo modd.

Mae'r grwp yn cydnabod y bydd dod o hyd i atebion i faterion llwyth gwaith a nodi meysydd lle gellir lleihau biwrocratiaeth yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles athrawon.

Mae'r grwp yn parhau i gyfarfod a chydweithio i ystyried atebion i faterion sy'n ymwneud â llwyth gwaith gan roi sylw arbennig i effaith y pandemig, yr holl amharu ar addysg, a'r newidiadau i gymwysterau ac i'r cwricwlwm.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cymorth Addysg, sefydliad elusennol sy’n arbenigo mewn darparu cymorth iechyd meddwl a lles i'r proffesiwn addysgu, yn bwrw ymlaen â phrosiect i ddarparu nifer o adnoddau i gefnogi'r proffesiwn addysg ledled Cymru mewn perthynas ag iechyd meddwl a lles.

Un o'r adnoddau y mae Cymorth Addysg wedi'i ddatblygu yw ‘Taking care of teachers: Mental health and wellbeing hub’, sy’n cynnwys ystod o gymorth, gwybodaeth, fideos ac offer i staff addysg ledled Cymru eu defnyddio i gefnogi eu hiechyd meddwl a'u lles.

Mae'r Siarter hon yn ymrwymiad gan randdeiliaid ar draws y proffesiwn addysg i weithio ar y cyd i fynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig â llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth mewn ysgolion mewn Cymru.

  • Addysg yng Nghymru: Siarter llwyth gwaith pdf 227 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath