English

Mae gan ymarferwyr fynediad at gynnig dysgu proffesiynol eang ac amrywiol i gefnogi eu datblygiad parhaus yn unol â'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arweinyddiaeth a chynorthwyo addysgu. Yma cewch wybodaeth am ystod o raglenni dysgu proffesiynol a ddarperir gan ein partneriaid.

Mae'r consortia addysg yn bartneriaid allweddol wrth ddarparu'r cyfleoedd dysgu proffesiynol hyn sydd wedi'u datblygu a'u cydnabod yn genedlaethol ac sy’n cael eu darparu ar sail ranbarthol neu leol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth hefyd ar y wefan gweithio traws-ranbarthol.