English

Hwb

  • Cyswllt

    Donna Hanly d.hanly@ygaberteifi.ceredigion.sch.uk
    Bethan Cadwaladr-Lewis b.cadwaladr-lewis@ygaberteifi.ceredigion.sch.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    • Derbynnir y plant i addysg ran-amser yn yr ysgol y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd, ac yna yn llawn
      amser y tymor sydd yn dilyn eu pedwerydd pen-blwydd.
    • Ar hyn o bryd (Medi 2019) mae gan Ysgol Gynradd Aberteifi 432 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 204 o’r
      disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen (40 rhan amser) ac mae 228 disgybl yng Nghyfnod Allweddol 2. (Bechgyn
      –206 ; Merched-226)
    • Mae 29% (126 disgybl) yn derbyn cefnogaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.
    • Mae 38% o’r disgyblion yn byw mewn cartrefi lle mae o leiaf un o’r rhieni yn siarad Cymraeg yn rhugl.
    • Mae 17.2% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg adref.
    • PYD – Mae canran PYD yr ysgol (22%) yn gyson tua dwbl cyfartaleddau Ceredigion a hefyd yn uwch na’r cyfartaleddau cenedlaethol.

    Trosolwg ymholiad

    Cwestiwn ymchwil:

    • Sut all profiadau dilys a chyffrous yn y ‘Celfyddydau Mynegiannol’ (celf, drama, cerddoriaeth, ffilm a chyfryngau digidol) wella sgiliau llafar disgyblion?

    Y Cynnig: Celfyddydau Mynegiannol
    Nod y prosiect ymchwiliol yma yw datblygu’r defnydd o CDP mewnol, sydd â chynrhychiolaeth o holl adrannau’r ysgol gan roi’r cyfle iddynt i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth trwy ymchwil (Ysgolion fel Sefydliad Dysgu) ar gyfer gwella sgiliau llafar disgyblion. Bydd y CDP yn:

    • Dadansoddi cynnydd llafar disgyblion ar draws yr ysgol a’i ddefnyddio fel baslin ar gyfer mesur gwelliant;
    • Edrych i ddefnyddio’r cwrwicwlwm drafft ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol fel Sylfaen ar gyfer cyfleoedd
      Datbygiad Proffesiynol;
    • Adolygu cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff yn ogystal â chyfleoedd dysgu a phrofiadau i ddisgyblion;
    • Cwblhau gwaith ymchwil ar sut gall y Celfyddydau Mynegiannol gael ei ddefnyddio fel arf effeithiol ar gyfer
      datblygu sgiliau llafar disgyblion.
    • Cynllunio’r ffordd ymlaen yn seiliedig ar y canfyddiadau
    • Casglu adborth gan staff a disgyblion
    • Gwerthuso’r effaith ar ddeilliannau/datblygiad disgyblion

    Cwestiwn Ymholi

    Sut mae profiadau dilys a diddorol yn y ‘Celfyddydau Mynegiannol’ (celf, drama, cerddoriaeth, ffilm a chyfryngau digidol) yn gwella sgiliau llafar disgyblion?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Gyda dyfodiad y Cwricwlwm Newydd a’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh), y pedwar diben a’r 12 egwyddor addysgeg, daeth cyfle i edrych yn fanylach ar gryfderau a gwendidau o fewn yr ysgol. Wrth ystyried y chwe MDaPh, penderfynwyd canolbwyntio ar y Celfyddydau Mynegiannol.
    Trwy ymchwil, gwelwyd bod modd datblygu llythrennedd drwy’r celfyddydau ac i gyd-fynd gyda’n cynllun datblygu ysgol, penderfynwyd cyfuno astudio’r celfyddydau gyda datblygu sgiliau llafar y disgyblion. Yn ogystal, gobeithir datblygu unigolion uchelgeisiol, galluog, mentrus a chreadigol, dinasyddion egwyddorol, gwybodus a hyderus yn unol â’r pedwar diben.
    “Yn hanesyddol, llafaredd yw cyfaill eilradd darllen ac ysgrifennu ym maes addysg. Ers cyhoeddi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ...mae pwysigrwydd llafaredd i ategu dysgu ar draws y cwricwlwm wedi’i amlygu (Alys Powell Ionawr 2016).
    “Developing classroom talk has a wide range of benefits on students’ outcomes during school, and beyond. In particular, structured dialogue during lessons, where students are encouraged to participate verbally and given space and time to reflect upon and discuss complex ideas…”
    (Will Maynard Mai 2018)
    Yn ôl dadansoddiad asesiadau cynnydd disgyblion, gwelwyd bod lle i wella ar y nifer o ddisgyblion oedd yn cyrraedd lefel 4 mewn llafar erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2. Yn ogystal, dengys yr asesiadau bâs, bod bron pob disgybl yn dechrau’r ysgol gyda’r anfantais o fod â dealltwriaeth a gallu cynyddol isel mewn iaith. Er bod y cynnydd sylweddol o ddechrau a diwedd eu cyfnod yn yr ysgol gynradd, roeddem yn grediniol bod angen targedu llafaredd yn yr ysgol.
    Sefydlwyd CDP (Cymuned Dysgu Proffesiynol) gyda’r bwriad o ddatblygu’r maes dysgu ar draws yr ysgol. Gall sefydlu CDP gynnig nifer o fanteision i’r ysgol, a gall y canlyniadau fod yn ddramatig iawn (Llywodraeth Cymru 2013).
    “Yn fyr, mae cymuned ddysgu broffesiynol yn gweld athrawon yn ymholi’n gydweithredol i bwnc neu broblem arbennig, gyda’r prif nod o newid ymarferion proffesiynol er mwyn gwella’r addysg a’r dysgu sy’n dilyn.” (Dufour et al, 2009). Gellir crynhoi diben CDP mewn tri gair – ’gwella deilliannau dysgwyr’ (Harris a Jones, 2010).
    Wedi sefydlu’r CDP, lluniwyd holiadur i gasglu barn y disgyblion am y cyfleoedd yr oeddent yn derbyn ar y pryd o fewn disgyblaethau Celfyddydau Mynegiannol yn ogystal â’u teimladau ynglyn â siarad â’u gallu i fedru cyflwyno gwybodaeth, rhannu syniadau a dweud eu barn.
    “In a world where silent classrooms are often associated with great behaviour/learning, it’s easy to forget that it’s good to talk!” Helen Sharpe (Ionawr 2018)
    Roedd canlyniadau’r ymchwil yn dangos, er bod sawl agwedd yn cael eu cyflawni’n gyson ac yn helaeth ar draws yr ysgol, bod agweddau eraill yn anghyson. Felly dyma gychwyn ar benderfynu’r ffordd ymlaen.
    Aethpwyd ati hefyd i ddarganfod teimladau ac agweddau aelodau’r staff drwy drafodaeth a holiadur a chanfod bod lle i fireinio a gwella sgiliau amrywiol o fewn y maes. O ganlyniad trefnwyd hyfforddiant ysgol gyfan i ddatblygu hyder a dealltwriaeth yn y maes eang hwn. Cawsom gefnogaeth arbennig gan staff Theatr y Byd Bychan i’r gorchwyl hwn.

    Ystyriaethau moesegol

    Awdurdodwyd y gwaith ymchwil yma gan Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Ar ddechrau’r prosiect dosbarthwyd llythyr i holl ddisgyblion yr ysgol er mwyn hysbysu’r rhieni am y prosiect arfaethedig. Cyn cwblhau’r holiadur ymchwiliol ar-lein dosbarthwyd taflen wybodaeth a oedd yn egluro’r ystyriaethau moesegol. Roedd y wybodaeth ar y daflen foesegol yn egluro dewisiadau’r disgyblion a’r staff o ran cytuno i gymryd rhan yn yr ymholiad ai peidio. Casglwyd a chadwyd yr holl wybodaeth o’r holiaduron yn hollol gyfrinachol. Nid oedd modd adnabod yr unigolion a oedd wedi cwblhau’r holiaduron o’r daflen ymatebion. Yn ogystal â hyn roedd yr athrawon yn sicrhau fod pob disgybl yn hapus i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil cyn i’r disgyblion ddechrau ar y dasg o gwblhau’r holiadur.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Wrth ymchwilio i lafaredd a sut i’w ddatblygu yn yr ysgol, cafwyd hyd i sawl ymchwil i’r maes. Yn ‘The State of Speaking in our Schools’ gan Will Millard a Loic Menzies, dau athro yn ‘Ysgol 21’, ysgol arloesol sefydlwyd yn Stratford, Dwyrain Llundain, holwyd nifer o athrawon am eu barn nhw o beth oedd llafaredd. Roedd y canran mwyaf yn meddwl mai ‘rhannu syniadau ar lafar yn ystod trafodaethau dosbarth un ai gydag athro neu gyd-ddisgybl/ion’ oedd mwyaf pwysig i helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau llefaredd da. Ar waelod y rhestr roedd ‘cyfrannu i ddrama a gweithgareddau perfformio a chyfrannu i ddadl’.
    Yn yr ymchwil, sylwyd sut roedd anghenion disgyblion yn dibynnu ar eu cyfnod a bod athrawon yn blaenoriaethu strategaethau yn ôl eu lleoliad. Hynny yw, yn y cyfnodau cynradd, canolbwyntia'r athrawon ar fodelu a gosod sgaffaldiau llafar.
    Gyda chanran cynyddol o ddisgyblion yn dechrau eu haddysg gyda dealltwriaeth gyfyngedig iawn o lafaredd/llythrennedd ,mae’n flaenoriaeth i ddatblygu eu sgiliau llafar er mwyn iddynt fedru cael mynediad i’r ddarpariaeth sy’n cael ei gynnig iddynt o fewn awyrgylch y dosbarth.
    Mae’r ddogfen ‘Help your child develop literacy skills through the arts’ (1998) yn nodi pwysigrwydd y celfyddydau i ddatblygu sgiliau llythrennedd. Mae’r celfyddydau’n annog disgyblion i fynegi eu hunain mewn ffyrdd llafar a di-eiriau.
    “Mae celfyddydau yn annog myfyrwyr i gyfathrebu eu meddyliau, teimladau a’u syniadau amdanyn nhw’u hunain a’u byd. Mae sgiliau … siarad, gwrando, gweld a chynrychioli yn caniatàu iddyn nhw ddysgu am gelfyddyd ac i rannu eu sgiliau newydd …”(Cwricwlwm Ontario, 1998)
    Yr hyn sy’n bwysig nodi, wrth ddarllen arsylwad gwers yn seiliedig ar ysgrifennu erthygl papur newyddion yn ‘Copyright Centre for Literacy in Primary Education’, yw sut yr oedd yr angen i ddysgu’r ffurf ysgrifennu yn dominyddu'r sgwrs yn y wers. Dywed yr awdur sut roedd yr athro yn ceisio ‘cover all bases’ er mwyn dysgu’r hyn yr oedd yn tybio oedd yn bwysig er mwyn llwyddo yn ysgrifenedig, ar draul datblygu sgwrs a thrafodaeth.
    Fel dywed yr awduron, “Work in the arts creates contexts where children talk with each other and with adults. Their talk is practical, about doing and making. It is also companionable, social and personal. Children’s talk is speculative and exploratory. It is also imaginary and empathetic, in role play with peers and in solitary, internal monologues. Through their talk children mediated external, practical worlds and internal, imaginary worlds.” (Safford & Barrs, 2005)

    Canfyddiadau cychwynnol

    Ymatebion Staff:
    Wrth ddadansoddi ymatebion y staff tuag at y Celfyddydau Mynegiannol canfyddwyd bod lle i fireinio a gwella sgiliau amrywiol athrawon o fewn y maes celfyddydol er mwyn annog sgwrs a thrafodaeth gyda’r disgyblion. O ganlyniad bu’r ysgol yn cyd-weithio â Theatr Cymunedol yn y dref a chrëwyd pecyn o hyfforddiant a oedd wedi ei deilwra’n arbennig i dargedu anghenion dysgu proffesiynol penodol staff o fewn yr ysgol.

    Ymatebion Disgyblion:
    Wrth gwblhau’r holiaduron ar-lein gyda’r disgyblion amlygwyd yn syth fod ffocws y prosiect yn rhy eang, gan fod gweithio gyda a mesur effaith pum disgyblaeth yn tipyn o her! Penderfynwyd felly i ganolbwyntio ar un disgyblaeth o fewn y Celfyddydau Mynegiannol, sef drama gan y byddai’r ddisgyblaeth yma yn ein tyb ni yn cynnig cyfleoedd euraidd i wella sgiliau llafar disgyblion. Er fod ymatebion holiaduron y disgyblion yn cynnwys y pum disgyblaeth ystyriwyd felly i beidio ag ystyried yr ymatebion a oedd yn berthnasol i’r disgyblaethau cerdd, celf, dawns a ffilm a’r cyfryngau digidol; ond i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llafar y disgyblion drwy ddrama.

    Nodwyd y canfyddiadau canlynol o fewn yr holiaduron:

    • Bod angen blaenoriaethu gwaith llafar.
    • Bod modd datblygu sgiliau llafar drwy’r celfyddydau.
    • Bod teimlad o bryder ymysg rhai dysgwyr wrth iddynt geisio mynegi eu hunain o flaen eraill.
    • Bod rhai disgyblion hyderus yn hapus i gyfathrebu gyda chyfoedion.
    • Bod gweithgareddau ymarferol yn caniatâu mynediad i addysg a sgiliau llafaredd i ddysgwyr llai hyderus.
    • Bod rhai ymarferion da yn bodoli yn yr ysgol yn barod.
      • Dewch i Siarad
      • Nifer helaeth o staff yr ysgol yn modelu iaith safonol.
    • Bod angen datblygu strwythurau brawddegau.
    • Bod angen datblygu gallu disgyblion i lunio brawddegau cynhwysfawr.
    • Bod angen modelu safonol a chyson.
    • Bod angen i athrawon roi’r cyfle i ddisgyblion i siarad yn y dosbarth.
      • Beth alli di ddweud am …
      • Dwed mwy wrtha i …
      • Beth yw dy farn di?
      • Beth arall wyt ti’n meddwl fydden ni’n hoffi gwybod?
      • Esbonia sut / pam...

    Cyfyngiadau

    Y prif ddarganfyddiadau yn ystod y camau cychwynnol yma o ran y cyfyngiadau oedd:

    • Prinder amser – roedd cwblhau’r holiadur gyda 390 o ddisgyblion yn llafurus. Efallai y dylem wedi ystyried cyfyngu’r grŵp ffocws.
    • Mae angen osgoi gwneud i ddisgyblion di-hyder i deimlo’n annifyr.
    • Roedd rhai disgyblion yn ymateb yn wael / rhwystro pan yn cael y cyfle i drafod/ sgwrsio.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Penderfynwyd ar y canlynol fel prif argymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen:

    • Mae’r dull o ddefnyddio CDP mewnol yn arf effeithiol ar gyfer gyrru gwelliant ar draws yr ysgol.
    • Gosod ac ymarfer rheolau pendant ar gyfer siarad yn y dosbarth (Dewch i Siarad).
    • Mae angen modelu siarad safonol (h.y. tôn, cwrteisi, geirfa a chynnwys) gan ddefnyddio strategaethau penodol.
    • Cynnig profiadau dilys ac ysgogol i sbarduno’r disgyblion yn gyson er mwyn gwella sgiliau llafar disgyblion.
    • Sicrhau bod staff yn defnyddio cwestiynau agored ar gyfer datblygu sgiliau llafar disgyblion.
    • Cynnig enghreifftiau, defnyddio patrymau penodol ar gyfer brawddegau.
    • Rhoi adborth ar yr hyn mae disgyblion yn dweud a sut mae nhw’n siarad e.e. Trwy recordio a gwylio/gwrando’n ôl.
    • Datblygu sgiliau llafaredd penodol trwy gynnig cyfleoedd i astudio’r celfyddydau.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

  • Cyswllt

    Jo Jones
    jjones1@llangattock.powys.sch.uk
    jonesj330@hwbcymru.net
    01873 810608

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd (Wirfoddol a Gynorthwyir) yr Eglwys yng Nghymru Llangatwg, Powys, wedi'i lleoli mewn pentref a daw ei disgyblion o'r pentref ei hun yn ogystal â threfi cyfagos Crucywel a Gilwern (Sir Fynwy).

    Mae 111 o blant ar y gofrestr ar hyn o bryd ac mae cyfran fach iawn o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (pedwar disgybl). Ar hyn o bryd, mae 31 o ddisgyblion ar y gofrestr ADY. Mae'r ysgol wedi'i threfnu'n ddau grŵp Cyfnod Sylfaen (Derbyn/Blwyddyn 1 a Blynyddoedd 1/2) a dau ddosbarth CA2 (Blynyddoedd 3/4 a Blynyddoedd 5/6.

    Trosolwg ymholiad

    Nodau'r ymholiad:

    1. Mynd i'r afael â diffyg cymhwysedd o ran rhesymu rhifyddol yn ein cohort Blwyddyn 4 presennol. Yn y grŵp blwyddyn hwn o 13 o blant, cafodd 42% o'r plant Sgôr Safonedig (SS) o <90 ym Mhrawf Cenedlaethol Rhesymu Llywodraeth Cymru.
    2. Meithrin sgiliau'r staff drwy ddefnyddio 'Astudiaeth o Wersi' i wella addysgeg a dealltwriaeth o ddysgu.
    3. Cynnig cyfleoedd i gydgynllunio yn unol â'r cwricwlwm newydd.

    Mae'r plant yn y cohort Blwyddyn 4 yn perfformio ar lefel is yn y prawf rhesymu o gymharu â'r prawf mathemateg gweithdrefnol (sef tuedd sydd i'w gweld drwy CA2 i gyd i raddau llai y byddwn yn mynd i'r afael â hi ym mhob rhan o'r cyfnod allweddol).

    Bydd ein hymholiad yn ceisio rhoi profiadau dysgu ar waith a fydd yn dangos perfformiad gwell mewn sgiliau rhesymu. Byddwn yn defnyddio asesiad sylfaenol o agweddau a gallu disgyblion, yn ogystal ag ymgymryd â rhyngweithiadau'r Astudiaeth o Wersi gyda disgyblion targed. Byddwn yn asesu agwedd/cyrhaeddiad y disgyblion ar ddiwedd yr ymholiad.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut mae dull ‘astudio gwersi’ yn gwella cyflawniad a hyder disgyblion mewn perthynas â rhesymu mathemategol?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Prif nod yr ymholiad hwn yw gwella cymhwysedd disgyblion mewn rhesymu rhifiadol. Nodwyd bod hyn yn flaenoriaeth yn ein Cynllun Datblygu Ysgol am fod cyflawniad y disgyblion yn gyson is mewn rhesymu o gymharu â mathemateg weithdrefnol yng Nghyfnod Allweddol 2 ac mewn un cohort blwyddyn yn benodol, lle roedd sgoriau safonedig rhesymu ym Mhrofion Cenedlaethol Cymru yn sylweddol is na’r lefelau disgwyliedig (6 allan o 13 o blant yn ennill sgôr safonedig o <90). Hefyd, mae’r staff wedi nodi bod y disgyblion yn brin o hyder yn gyffredinol wrth fynd ati i resymu neu ddatrys problemau, gyda rhai plant yn gyndyn o ddefnyddio dull mentro a methu, neu ddangos eu gwaith cyfrifo, a bod y staff yn llai hyderus wrth addysgu’r math hwn o fathemateg a helpu’r disgyblion i feithrin eu sgiliau.Mae’r ymholiad hwn yn seiliedig ar astudio gwersi i asesu effeithiolrwydd sesiynau datrys problemau, a helpu’r staff i adfyfyrio ar addysgeg effeithiol.Bydd yr ymholiad hwn yn ymchwilio i effeithiolrwydd gwahanol ddulliau o ran gwella sgiliau rhesymu.Yn y cylch cyntaf o sesiynau astudio gwersi, penderfynwyd mai’r broses o roi strategaeth RUCSAC ar waith ac effaith y strategaeth honno fyddai’r ffocws.Mae tri aelod o’r staff wedi cydweithio i astudio gwersi gyda’r dosbarth Blwyddyn 3/4. Mae pedwar o ddisgyblion yr astudiaeth achos wedi cael eu dilyn yn ystod y cylch cyntaf o wersi (dau ddisgybl gallu canolig, un disgybl gallu is, un disgybl gallu uwch).Caiff canlyniadau rhesymu Profion Cenedlaethol Cymru eu defnyddio mewn modd cymharol i asesu datblygiad sgiliau rhesymu, yn ogystal ag ymatebion y disgyblion mewn perthynas â’u cymhwysedd a’u hyder, a thystiolaeth o’u gwaith rhesymu.

    Ystyriaethau moesegol

    Gofynnwyd i’r disgyblion sydd wedi bod yn rhan o’r trafodaethau ynghylch astudio gwersi am eu cydsyniad i gymryd rhan, ac esboniwyd iddynt beth fyddai eu rôl. Cyn pob sesiwn adborth, cawsant eu hatgoffa bod ganddynt hawl i dynnu’n ôl o’r drafodaeth unrhyw bryd. Rhoddwyd gwybod i’r rhieni bod eu plentyn yn cymryd rhan, eglurwyd natur y drafodaeth, a gofynnwyd am gydsyniad.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Hyd yma, dim ond ychydig o waith darllen sydd wedi cael ei wneud er mwyn gallu astudio gwersi Serch hynny, roedd yr erthyglau canlynol yn fuddiol:
    *http://www.headteacher-update.com/best-practice-article/lesson-study-five-steps-to-success-in-the-primary-setting/160338
    *https://educationblog.oup.com/primary/supporting-school-improvement-through-lesson-study

    Canfyddiadau cychwynnol

    Roedd strategaeth strwythuredig RUCSAC yn newydd i’r ysgol, er bod yr egwyddorion cyffredinol yn cael eu defnyddio. Mae’r disgyblion wedi ymateb yn dda i’r strategaeth, gan fwynhau’r her o gofio ystyr yr acronym. Cafwyd sylwadau cadarnhaol, ond cymysg, ar y strategaeth gan ddisgyblion yr astudiaeth achos. Ar y cyfan, dywedodd y disgyblion mwy galluog/hyderus nad oedd angen y strategaeth arnynt mewn gwirionedd. Fodd bynnag, mae pob un o’r disgyblion wedi dweud eu bod yn teimlo’n fwy hyderus ynglŷn â rhesymu/datrys problemau mathemategol am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys y ffaith bod y cynnydd yn y cyfleoedd y maent wedi’u cael i resymu wedi’u gwneud yn llai pryderus am fynd ati i ateb y cwestiynau. Fodd bynnag, rhaid nodi bod y tasgau sydd wedi cael eu gosod wedi bod yn rhai ‘cyflawnadwy’ hyd yma, a hynny’n fwriadol, er mwyn annog ymateb mwy cadarnhaol gan y disgyblion yn bennaf. Wrth i’r ymholiad fynd rhagddo, bydd angen cyflwyno mwy o her i’r disgyblion.Nid yw’r dull astudio gwersi wedi cael ei ddefnyddio yn ein hysgol o’r blaen ac mae pob aelod o’r staff yn awyddus i gael eu cynnwys er gwaethaf anawsterau o ran trefnu’r staff er mwyn darparu ar gyfer pob cam o’r broses. Yn sicr, mae pob aelod o’r staff sydd wedi cymryd rhan hyd yma o’r farn ei fod yn ddull ardderchog o sicrhau datblygiad proffesiynol sy’n rhoi cyfle i archwilio dulliau addysgegol yn fanwl ac adfyfyrio arnynt yn ystyrlon.Mae gweithio ar yr astudiaeth o wersi gyda chydweithwyr yn ‘gorfodi’ athrawon i fod yn adfyfyriol, a hynny mewn ffordd fwy strwythuredig, a chydnabod y pethau cadarnhaol yn ogystal â’r meysydd i’w gwella.Mae cynllunio gyda chydweithwyr yn sicrhau cydberchnogaeth dros wers ac yn annog deialog broffesiynol, gan gael gwared ar rywfaint o’r pryder ynghylch arsylwadau ac adborth. Mae hyn hefyd yn bwysig o ran lles y staff.Mae pob aelod o’r staff o’r farn bod dull RUCSAC yn cael ei wreiddio ac, yn ystod yr ymholiad hwn, byddwn yn adeiladu ar y ffordd sylfaenol hon o fynd ati i resymu er mwyn ystyried ymhellach sut y gellir gwneud gwelliannau.

    Cyfyngiadau

    Fel ysgol fach, mae wedi bod yn anodd i ni ryddhau aelodau o’r staff i gymryd rhan yn yr astudiaeth o wersi, ond gwnaed hyn yn haws yn y cylch cyntaf am fod un o gyfranogwyr yr astudiaeth o wersi yn athro/athrawes dan hyfforddiant ar leoliad yn yr ysgol. Ni chyflawnwyd un o egwyddorion astudio gwersi, sef cynllunio ar y cyd ar gyfer y ddwy sesiwn gyntaf allan o dair, am fod y gwersi cyntaf eisoes wedi cael eu cynllunio. Oherwydd cyfyngiadau amser, roedd yn rhaid i’r sesiynau fynd rhagddynt, felly ni chwaraeodd yr athrawon dan sylw ran lawn yn y broses, ond roedd pob un ohonynt yn dal i deimlo bod y gwaith o adfyfyrio ar y gwersi yn adeiladol iawn o hyd ac wedi’i wneud mewn ffordd broffesiynol a arweiniodd yn effeithiol at y gwaith o gynllunio’r drydedd sesiwn.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Wrth i’r ymholiad hwn fynd yn ei flaen, bydd angen canfod ffordd o fesur ac arddangos effeithiau gwersi’r astudiaeth o wersi ar y disgyblion.Mewn ysgol fach, mae’n hanfodol cynllunio astudiaethau o wersi er mwyn sicrhau y caiff y cylch ei gwblhau, oherwydd gall materion eraill/ymrwymiad i ddigwyddiadau neu weithgareddau eraill gael blaenoriaeth weithiau.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Roedd y wefan ganlynol yn ddefnyddiol: https://lessonstudy.co.uk

  • Cyswllt

    Zoe Cope
    Assistant Head
    copez@hwbcymru.net

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Bangor

    Consortiwm

    GWE

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Babanod Glan Gele mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf yn sir Conwy lle y wynebir amrywiaeth o heriau economaidd a chymdeithasol.
    Mae 315 o ddisgyblion yn yr ysgol yn cynnwys y disgyblion meithrin, ac mae 11 o ddosbarthiadau.
    Mae'r llinell sylfaen ar adeg mynediad yn sylweddol is na rhai Conwy a Chymru. Yn system Categoreiddio Ysgolion Llywodraeth Cymru, mae'r ysgol yn y categori Gwyrdd 1a. Mae tua 29% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaleddau lleol a chenedlaethol. Mae'r ysgol yn nodi bod gan tua 28% o'r disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY); ychydig iawn o'r disgyblion sydd â datganiadau ADY. Prin yw'r disgyblion y mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt gartref a phrin yw'r disgyblion sy'n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

    Trosolwg ymholiad

    Mae cefndir ein hymholiad ymchwil yn seiliedig ar ddull addysgegol o'r enw ‘Mantell yr Arbenigwr’ (https://www.mantleoftheexpert.com) sy'n gymharol newydd i'n staff. Rydym wedi bod i sesiynau hyfforddi fel staff cyfan, gan gynnwys staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, ac wedi ymweld ag ysgolion arweiniol i weld y dull ar waith.
    Er mwyn rhoi ffocws i'n hymholiad, rydym am fesur effaith lefelau diddordeb y disgyblion wrth ddysgu drwy'r dull hwn. Byddwn yn cymharu dau ddosbarth Blwyddyn 2 sydd ill dau yn profi'r broses o ddysgu ac addysgu'r un wybodaeth, sgiliau a phrofiadau a Meysydd Dysgu a Phrofiad, ond caiff un dosbarth ei addysgu gan ddefnyddio dull y Fantell. Rydym yn bwriadu mesur yr effaith drwy ddefnyddio Graddfa Leuven ar gyfer mesur Cyfranogiad Disgyblion a thriongli ein data drwy gasglu data gan athrawon a disgyblion o gyfweliadau a holiaduron.

    Cwestiwn Ymholi

    Ymchwilio i lefelau ymgysylltu disgyblion Blwyddyn 2 wrth addysgu drwy Fantell yr Arbenigwr.

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Rhoddwyd yr hyfforddiant cychwynnol ar Fantell yr Arbenigwr (MyA) i bob ysgol gynradd yn ein dalgylch ysgol uwchradd ym mis Medi 2019. Mae'r ymholiad dilynol wedi cynnwys yr ysgol gyfan ond gan ganolbwyntio'n agosach ar 12 o ddysgwyr o ddau ddosbarth Blwyddyn 2.
    Cyn i ni benderfynu ar ffocws yr ymholiad cylch pedwar hwn, bu llawer o ddeialog broffesiynol ynglŷn â gwerth y dull dysgu newydd hwn, pa mor gynaliadwy ydyw a ffyrdd o'i ddefnyddio, h.y. ‘Sut y byddwn yn rhoi MyA ar waith?’, ‘Sut mae MyA yn ymgorffori'r egwyddorion addysgegol?’, ‘Ai MyA fyddai ein hunig ddull o gyflawni Cwricwlwm i Gymru 2022?
    Yn sgil y drafodaeth, roedd y rhan fwyaf o'r staff am dreialu'r dull mewn ffyrdd gwahanol. Roedd rhai'n croesawu'r ethos yn llwyr ac roedd eraill am ddefnyddio rhai agweddau arno. Wedyn, cafodd pob un o'r athrawon eu hannog i arbrofi a chynllunio uned o waith wythnos o hyd drwy ddull MyA. Hefyd, aeth tri aelod o'r staff i ysgol gynradd yn y Canolbarth ac aeth pedwar i Ganolfan Hyfforddiant leol i arsylwi ar MyA ar waith.
    Yn dilyn yr ymweliadau hyn, gofynnwyd i'r athrawon gwblhau arolwg i roi adborth ac adfyfyrio ar eu profiadau a'u harsylwadau.
    Y cam nesaf oedd cymharu cyfranogiad ein dysgwyr mewn sesiynau lle roedd dull MyA yn cael ei ddefnyddio a sesiynau lle nad oedd dull MyA yn cael ei ddefnyddio. Rydym wedi defnyddio Graddfa Leuven i fesur lefelau ymgysylltu'r dysgwyr o'r blaen (Cylchoedd 2 a 3) ac roeddem yn teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio'r dull hwn. Fodd bynnag, roeddem am driongli ein methodoleg drwy gasglu mwy o ddata ansoddol; gwnaethom ddewis arolygon, holiaduron a grwpiau ffocws i sicrhau ein bod yn ffurfio darlun llawnach o'r dull a oedd yn datblygu.
    Ar gyfer y grŵp ffocws, gwnaethom ddewis ystod debyg o ddysgwyr o bob dosbarth; 3 merch a 3 bachgen; 2 â chyflawniad uchel, 2 â chyflawniad canolig a 2 â chyflawniad isel. Gwnaethom benderfynu canolbwyntio ar ddysgwyr Blwyddyn 2 gan y byddent yn fwy tebygol o roi mwy o adborth yn ystod y trafodaethau grŵp ffocws na'n dysgwyr iau.
    Arsylwyd ar chwe sesiwn ar wahân yn ystod yr un wythnos (tair ym mhob dosbarth). Arsylwyd ar bob gwers am gyfanswm o 20 munud, wedi'i rannu'n gyfnodau byrrach o bum munud, er mwyn cofnodi lefelau ymgysylltu'r dysgwyr gan ddenfyddio Graddfa Leuven.
    Cynhaliwyd ein holiadur ar gyfer pob un o'r dysgwyr yn y grŵp MyA er mwyn gallu cymharu'r addysgegau gwahanol.
    Cafwyd trafodaeth grŵp ffocws â'r ddau grŵp.

    Ystyriaethau moesegol

    Nod ein gwaith ymchwil oedd cymharu dwy set o ddysgwyr ac addysgeg yn uniongyrchol. Felly, roedd yn hanfodol ein bod yn cynllunio'r sesiynau'n ofalus ac yn drwyadl ymlaen llaw er mwyn sicrhau cysondeb o ran y safonau dysgu ac addysgu. Er mwyn sicrhau nad oedd ein gwaith ymchwil yn rhoi ein dysgwyr dan anfantais nac yn cael dim effaith andwyol arnynt ar unrhyw adeg, roeddem wedi mynd i'r afael â nifer o ystyriaethau moesegol. Gwnaethom anfon llythyr i esbonio diben ein gwaith ymchwil at rieni'r dysgwyr dan sylw. Cydsyniodd rhieni pob un o'r dysgwyr, a rhoddodd y dysgwyr eu caniatâd hwythau hefyd ar gyfer cymryd rhan yn ein sesiynau ymchwil. Roedd yn bwysig cael caniatâd parhaus gan ein dysgwyr, er mwyn iddynt allu tynnu'n ôl o'r prosiect ymchwil unrhyw bryd. Fodd bynnag, gwelsom fod y dysgwyr i gyd yn mwynhau'r profiadau dysgu ac roeddent yn awyddus i gymryd rhan ynghyd â gweddill y dosbarth, gan nad oedd y profiadau'n rhy annhebyg i'r arferion safonol yn yr ysgol.
    Er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o duedd a gwneud yr ymatebion yn fwy cyson, arsylwodd y Pennaeth ar y ddau grŵp ym mhob sesiwn (chwe sesiwn i gyd).
    Roedd y data a gasglwyd o'r arolygon ar gyfer y dysgwyr a'r staff yn gwbl ddienw, ac roedd yr arsylwadau a'r trawsgrifiadau wedi'u codio'n llawn ac yn cydymffurfio â GDPR.
    Ystyriwyd y ffaith bod ein dysgwyr ifanc yn debygol iawn o fod yn awyddus i'n plesio ni yn ystod y trafodaethau grŵp ffocws. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, y Pennaeth Cynorthwyol a gynhaliodd y trafodaethau grŵp ffocws yn y ddau ddosbarth, am nad oedd y dysgwyr yn ei adnabod cystal ag yr oeddent yn adnabod yr athro dosbarth (ac atgoffwyd y dysgwyr drwy gydol y broses ein bod am gael eu hadborth gonest). Er mwyn ffurfio darlun mwy cywir, gwnaethom ddefnyddio cwestiynau agored i geisio cael gwybodaeth ychwanegol, yn ogystal â gofalu nad oeddem yn arwain y dysgwyr drwy ein cwestiynau.
    Mae'r gwaith ymchwil hwn wedi cael cymeradwyaeth foesegol gan Brifysgol Bangor.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Llywiwyd yr ymholiad hwn gan waith Dorothy Heathcote ar Fantell yr Arbenigwr (Heathcote a Bolton, 1985).
    “Mantle of the Expert works by the teacher planning a fictional context where the students take on the responsibilities of an expert team. As the team, they are commissioned by a client to work on an assignment, which has been planned to generate tasks and activities that will involve them in studying and developing wide areas of the curriculum”
    https://www.mantleoftheexpert.com/what-is-moe/introduction-to-moe/
    Fel yr awgryma Heathcote, mae Mantell yr Arbenigwr yn rhoi'r dysgwr wrth wraidd y dysgu. Rôl yr athro yw creu'r amodau lle mae mantell o arweinyddiaeth, gwybodaeth, cymhwysedd a dealltwriaeth yn datblygu o gwmpas y plentyn. Mae'r dull hwn yn edrych ar ddysgu mewn ffordd flaengar gan ymateb i anghenion y plentyn.

    Nod cyffredinol ein gwaith ymchwil oedd archwilio'r defnydd o ddull ‘Mantell yr Arbenigwr’ Dorothy Heathcote ac arsylwi ar yr effaith ar lefelau ymgysylltu ein dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth. Y nod eilaidd oedd darganfod a allai'r dull hwn fod yn effeithiol wrth gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cwricwlwm i Gymru. Nododd Heathcote fod MyA yn ddull ar gyfer y cwricwlwm cyfan lle mae'r athro'n datblygu senario ddychmygol fel sail ar gyfer dysgu sy'n seiliedig ar wybodaeth ac ar sgiliau (https://www.mantleoftheexpert.com)

    Rhoddwyd y dysgwyr mewn sefyllfaoedd dychmygol lle roedd ganddynt rôl bwrpasol i'w chwarae; mae'r dysgwyr iau wedi mwynhau edrych drwy eu ‘llygaid stori’ i gwrdd â chymeriadau dychmygol sydd wedi datrys problem iddynt ei datrys, ac mae'r dysgwyr Blwyddyn 2 wedi mwynhau dod yn ‘arbenigwyr’ drwy ymgymryd â rolau go iawn.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Rhoddodd y data ysgol gyfan ganfyddiad hynod gadarnhaol o MyA: roedd 100% o'r athrawon a'r cynorthwywyr addysgu o'r farn bod y dysgwyr yn ymgysylltu'n fwy nag arfer wrth ddysgu ac addysgu drwy MyA. Yn yr un modd, roedd yr un ganran o'r farn bod gan y dysgwyr fwy o gymhelliant i gwblhau tasgau. Dywedodd un aelod o'r staff: “Roedd y dysgwyr yn ymgysylltu'n fwy. Roedd pob un ohonynt yn awyddus i gwblhau tasgau. Roedd eu hymddygiad yn ardderchog yn ystod y gweithgareddau MyA ac yn y tasgau dilynol. Roedd y dysgwyr am gwblhau tasgau a gwnaethant siarad yn gadarnhaol am y wers wedyn.” Esboniodd athro arall: “Roedd y dysgwyr yn llawn cyffro a brwdfrydedd am y datrys problemau a'r hyn roeddent yn ei ddysgu. Roeddent yn deall y rheolau ac yn eu cymryd o ddifrif. Roedd y dysgwyr yn awyddus i gwblhau tasgau a chwarae'r rolau amrywiol”.
    Roedd gan rai aelodau o'r staff amheuon ynglŷn â rhoi cynnig ar y dull newydd hwn. Dywedodd un aelod o'r staff: “Er fy mod i ychydig bach yn nerfus ar y dechrau, roeddwn i'n fwy hyderus i ddefnyddio'r Fantell i addysgu ar ôl gweld wynebau'r dysgwyr yn goleuo wrth inni ddefnyddio ein dychymyg a'n llygaid stori”.
    Cafwyd canlyniad llai cadarnhaol drwy ddefnyddio Graddfa Leuven i fesur lefelau ymgysylltu'r dysgwyr. Arsylwyd ar wersi a chofnodwyd lefel ymgysylltu o 4.3 (86%) yn y ddau ddosbarth.
    Wrth ddarllen y trawsgrifiadau o grwpiau ffocws y dysgwyr, gwelwyd bod yr adborth yn gymysg. Roedd pob un o'r dysgwyr yn cytuno eu bod wedi mwynhau'r gwersi, a dywedodd rhai ohonynt ei bod yn well ganddynt wersi MyA na'r gwersi eraill. Aeth rhai dysgwyr ymhellach gan geisio cyfleu'r hyn a oedd yn wahanol am y dull, er enghraifft: “Mae'n ei wneud yn hapusach oherwydd os ydych chi'n bod yn chi eich hun ac yn siarad amdano, dydy hynny ddim mor ddiddorol â hynny ... rydych chi'n siarad am rywun arall. Mae'n rhaid i chi ddangos iddi hi fel eich bod chi'n gallu dweud wrthi beth rydych chi wedi'i wneud os ydych chi'n dysgu amdano”. Teimlai'r dysgwr hwn fod rhyngweithio â chymeriad dychmygol yn fwy diddorol iddi hi na dim ond dysgu am gymeriad.
    Dywedodd 67% eu bod wedi mwynhau'r gwersi MyA yn fwy na'r gwersi thematig eraill; gwnaeth y 33% arall fwynhau'r gwersi MyA a'r gwersi thematig yr un faint â'i gilydd; ac roedd pob un o'r dysgwyr o'r farn y dylem gynnal mwy o wersi MyA.
    Yn arolwg y dysgwyr, dywedodd 95.65% o'r dysgwyr eu bod yn hoff o ddysgu drwy ddull MyA, a phan ofynnwyd iddynt gymharu'r tasgau thematig, dewisodd bron pob un o'r dysgwyr (92%) wers MyA fel eu hoff wers. O'r pedair tasg MyA a addysgwyd yn ystod yr uned, dywedodd 100% o'r dysgwyr iddynt fwynhau tair o'r tasgau, gyda 91% yn mwynhau'r pedwerydd gweithgaredd MyA. Roedd pob un o'r pedair tasg MyA yn fwy poblogaidd nag unrhyw wers arall a gynhaliwyd yn ystod yr uned waith.
    Yn y trafodaethau grŵp ffocws â'r dysgwyr na ddefnyddiwyd dull MyA gyda nhw, gwnaeth y rhan fwyaf o'r dysgwyr fwynhau dysgu'n ymarferol o fewn cyd-destunau go iawn; gwnaethant fwynhau ‘gwaith tîm’ a datrys problemau yn arbennig, e.e. yr ymchwiliad trawsgludo dŵr. Mae'r elfennau hyn i gyd yn allweddol i ethos MyA hefyd.
    Roedd ein staff addysgu o'r farn bod MyA yn ffordd gymhellol o ddysgu sy'n adeiladu ar wybodaeth flaenorol a diddordebau'r dysgwyr. Mae MyA yn annog dysgwyr i gydnabod eu dysgu eu hunain a dechrau cymryd rheolaeth drosto. Mae'n annog annibyniaeth ac yn rhoi'r dysgu mewn cyd-destun. Mae'r ethos hwn yn cyd-fynd yn dda â'r Pedwar Diben sydd wrth wraidd Cwricwlwm i Gymru 2022. Mae MyA wedi bod yn adnodd gwerthfawr i annog llais y disgybl, ennyn diddordeb dysgwyr a sicrhau cynnydd yn eu dysgu.

    Cyfyngiadau

    I'r athro sy'n defnyddio MyA, roedd cynnal gwersi ‘traddodiadol’ a gwersi MyA yn gyfyngol oherwydd teimlid nad oedd y broses mor naturiol â sesiynau blaenorol.
    Dim ond un math o addysgeg a ddefnyddiwyd gyda'r grwpiau ffocws, naill ai sesiynau lle roedd dull MyA yn cael ei ddefnyddio neu sesiynau lle nad oedd dull MyA yn cael ei ddefnyddio; er mwyn gwella'r gwaith ymchwil, dylai'r ddau grŵp ffocws for wedi cael eu haddysgu drwy'r ddau ddull dysgu.
    Gan ein bod ar gamau cynnar ein gwaith ymchwil o hyd, eir i'r afael â'r ffactor cyfyngol hwn a dylai'r data a gesglir wedi hynny wella ansawdd ein hymholiad.
    Er inni geisio rhoi cyfle i bob dysgwr siarad, roedd dysgwyr mwy hyderus yn cymryd lle mwy blaenllaw mewn trafodaethau grŵp ffocws weithiau.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Parhau i ddatblygu ein gwaith ymchwil er mwyn gwneud ein canlyniadau'n fwy dilys.

    Parhau i ddefnyddio cymysgedd o ddulliau casglu data; gwnaeth arolygon y staff a'r dysgwyr ynghyd â thrafodaethau proffesiynol a thrafodaethau grŵp ffocws weithio'n dda.

    Er i Raddfa Leuven ddarparu data meintiol, a oedd yn hawdd eu dadansoddi, roedd y data ansoddol yn ein galluogi i ddeall yn well sut mae dysgwyr yn dysgu orau.

    Cyflwyno set fwy strwythuredig o gwestiynau er mwyn osgoi sefyllfaoedd lle mae dysgwyr yn awyddus i blesio, neu sicrhau bod oedolyn mwy anghyfarwydd yn cynnal y cyfweliadau.

    O ganlyniad i'r cylch ymholi hwn, cynyddodd cymhelliant y staff i gyd i barhau â dull MyA a'i ddatblygu ymhellach fel strategaeth i gyflawni Cwricwlwm i Gymru 2022.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Heathcote, D. a Bolton, G. (1985) Drama for Learning: Dorothy Heathcote's Mantle of the Expert Approach to Education. Portsmouth: Heinemann.

    Gwefan Mantle of the Expert: https://www.mantleoftheexpert.com

    Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Pecyn Cymorth Profiadau Disgyblion CAMAU
    https://hwb.gov.wales/storage/951968c0-4a7c-441c-a830-d84e5b8d1279/pecyn-cymorth-profiadau-disgyblion.pdf

    Llywodraeth Cymru (2015) Gwneud defnydd effeithiol o ddata a thystiolaeth ymchwil. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

  • Cyswllt

    Rebecca Lightowler - pioneer lead
    LightowlerR@hwbcymru.net
    Gaynor Highcock - headteacher
    HighcockG@hwbcymru.net

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Bangor

    Consortiwm

    GWE

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ar hyn o bryd, mae 423 o ddisgyblion amser llawn a 54 o ddisgyblion rhan-amser ar y gofrestr, wedi'u rhannu'n 14 o ddosbarthiadau a dau ddosbarth meithrin rhan-amser.
    Daw'r disgyblion o amrywiaeth o gefndiroedd. Mae tua 15% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ar hyn o bryd, mae naw disgybl yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.
    Saesneg yw prif iaith y rhan fwyaf o'r disgyblion; mae 26 o ddisgyblion ar y gofrestr SIY ar hyn o bryd.
    Nodir bod gan tua 15% o'r disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY); mae gan dri disgybl ddatganiad ADY. Mae 26 yn destun ‘Gweithredu gan yr Ysgol’ a 39 yn destun ‘Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy.’

    Trosolwg ymholiad

    Sut y gall defnyddio dull sy'n seiliedig ar ddrama, er enghraifft Mantell yr Arbenigwr, helpu i gyflwyno Cwricwlwm i Gymru 2022 mewn cyd-destunau go iawn?
    Sut mae hyn yn effeithio ar gyfranogiad a diddordeb disgyblion yn eu dysgu?
    Beth yw effaith hyn ar sgiliau llafar disgyblion?

    Cwestiwn Ymholi

    A all addysgu drwy ddefnyddio drama helpu i wella sgiliau llafaredd dysgwyr?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Cynhaliwyd yr ymholiad ym Mlwyddyn 2 i ddechrau, a'r syniad oedd ei ymestyn i grwpiau blwyddyn eraill yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn.
    Mae 58 o ddysgwyr ym Mlwyddyn 2, gan gynnwys dysgwyr ag ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) a phlant sy'n derbyn gofal.
    Cyn y prosiect, cafodd y ddau athro ym Mlwyddyn 2 hyfforddiant ar Fantell yr Arbenigwr ac roeddent yn awyddus i ddefnyddio'r hyn y gwnaethant ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth. Gwnaethant sgwrsio ag ysgol arweiniol ar gyfer Mantell yr Arbenigwr ac edrych ar enghreifftiau o gynlluniau cyn treialu eu gwersi eu hunain.
    Gwnaethant gynllunio cyfres o wersi, yn seiliedig ar sesiwn "ddrama" gychwynnol. Yn ystod y sesiynau hyn, byddent yn arsylwi ar y dysgwyr ac yn monitro eu hymgysylltiad gan ddefnyddio Graddfa Leuven ar gyfer Cyfranogiad. Gwnaethant groesgyfeirio hyn â Chynorthwyydd Addysgu'r dosbarth, er mwyn sicrhau bod y lefelau a bennwyd yn gyson. Arsylwyd ar y dysgwyr hefyd mewn dwy wers lle na ddefnyddiwyd drama, a wnaeth ein galluogi i weld a oeddent wedi ymgysylltu mwy pan ddefnyddiwyd drama, o gymharu â dulliau addysgu arferol.
    Ar ôl y pwnc, dewiswyd grŵp o ddysgwyr i gymryd rhan mewn cyfweliad a gofynnwyd cyfres o gwestiynau iddynt am y pwnc a sut roeddent yn teimlo am yr elfennau drama a ddefnyddiwyd wrth addysgu.
    Cwblhaodd yr athrawon a'r cynorthwywyr addysgu dan sylw holiadur ysgrifenedig.
    Er mwyn asesu'r effaith ar ein canlyniadau llafaredd, gwnaethom gymharu'r lefelau a ddyfarnwyd o ddiwedd Blwyddyn 1 hyd at ddiwedd tymor cyntaf Blwyddyn 2, dros y pedair blynedd diwethaf. Roeddem yn gobeithio gweld mwy o gynnydd yn yr is-lefelau rhwng tymor yr haf a thymor yr hydref eleni, o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Gwnaethom hefyd edrych ar Flwyddyn 2 yn unig a'r cynnydd cyfartalog mewn deilliannau o gymharu â'r tymhorau blaenorol.

    Ystyriaethau moesegol

    Rydym wedi cymryd camau i sicrhau bod agweddau moesegol yn cael eu hystyried drwy gydol y prosiect.
    Y cam cyntaf oedd cyflwyno ein cynllun i Brifysgol Bangor ac, ar ôl hynny, cawsom gymeradwyaeth foesegol.
    Rhoddwyd gwybod i'r rhieni am y prosiect a gofynnwyd iddynt lofnodi ffurflen i ddangos eu bod yn cytuno y gallai eu plentyn gymryd rhan. Rhoddwyd sicrwydd iddynt y byddai pob dysgwr yn aros yn ddienw drwy gydol y broses ac y gallai eu plentyn dynnu'n ôl o'r broses gyfweld ar unrhyw adeg.
    Gwnaethom yn siŵr bod yr holl ddysgwyr yn cael yr un gwersi a mewnbwn i'r gwaith a oedd i'w wneud. Os dewiswyd dysgwr i gymryd rhan mewn cyfweliad grŵp bach, gwnaed hyn ar adeg pan na fyddai'n gorfod colli rhannau pwysig o'r gwersi ond, yn fwy pwysig, pan na fyddai'n colli ei amser rhydd (er enghraifft, egwyliau). Cynhaliwyd pob cyfweliad yn ystod oriau ysgol ac ar adeg a oedd yn addas i'r dysgwr. Ni orfodwyd unrhyw ddysgwr i ateb pob cwestiwn ac os oedd unrhyw ddysgwr am adael y grŵp a dychwelyd i'r ystafell ddosbarth, gallai wneud hynny.
    Cynhaliwyd y cyfweliadau ag athro dosbarth arall Blwyddyn 2. Gwnaed hyn er mwyn ceisio sicrhau bod y dysgwyr yn rhoi atebion diduedd a'u bod yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus am eu bod yn cael eu cyfweld gan oedolyn roeddent yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo. Rhoddwyd sicrwydd i'r disgyblion nad oedd unrhyw atebion cywir nac anghywir, ac fe'u hanogwyd i ateb mor onest â phosibl.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Llywiwyd yr ymholiad hwn gan waith mewn sawl erthygl sy'n gysylltiedig â Mantell yr Arbenigwr gan Dorothy Heathcote, yn enwedig erthyglau sydd ar gael ar wefan Mantell yr Arbenigwr. Gwnaeth y ffynonellau hyn hysbysu'r athrawon am y ffordd orau o ddefnyddio dull ymholi dramatig wrth addysgu a dysgu a'r buddiannau cysylltiedig.
    Yn ôl Taylor (n.d.) sy'n dyfynnu O’Neil, (yn Bolton et al., 1995: vii - x), “MoE’ works most efficiently within a collaborative community as it anticipates the 21st century challenges of a real world, requiring the acquisition and application of the skills of questioning, negotiating, compromise, taking responsibility, cooperation and collaboration. These skills are all utilized by pupils in what she called the ‘service’ of something greater than themselves - the community.”

    Mae'n ymddangos bod hyn yn adlewyrchu Donaldson (2015), yn enwedig wrth ystyried Pedwar Diben y Cwricwlwm, sy'n ein galluogi i helpu ein disgyblion i fod:

    • ‘yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
    • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
    • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
    • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas’

    Drwy ddefnyddio dull addysgegol fel Mantell yr Arbenigwr, rydym yn ystyried y Pedwar Diben ac yn eu cadw wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru.
    Mae Donaldson (ibid) hefyd yn awgrymu bod angen i ymarferwyr addysgu a dysgu mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar sawl elfen gan gynnwys rhoi cyfleoedd i ddatrys problemau, creadigrwydd, meddwl yn feirniadol a chreu cyfleoedd go iawn ar gyfer dysgu. Er y cafodd 'Mantell yr Arbenigwr' ei gyflwyno cyn Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015), ymddengys fod rhai o'r negeseuon yn debyg iawn.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Gan fod amserlen y prosiect wedi bod yn gymharol fyr, ni allwn lunio unrhyw ganfyddiadau pendant ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae ein canfyddiadau cychwynnol, gan yr athrawon, y cynorthwywyr addysgu a'r dysgwyr sydd wedi bod yn rhan o'r cylch ymholi proffesiynol hwn, yn gadarnhaol.
    Yn ystod pob arsylwad, defnyddiwyd Graddfa Leuven i asesu brwdfrydedd y dysgwyr a'u cyfranogiad yn y gwersi.

    Gwnaethom arsylwi ar ddwy wers lle na ddefnyddiwyd drama fel ein gwersi rheolydd, a gwnaethom gymharu'r canlyniadau a gafwyd pan ddefnyddiwyd drama.
    Er bod y canfyddiadau'n dangos bod mwy o gyfranogiad yn ystod y gwersi a oedd yn cynnwys drama, dim ond gwahaniaeth bach iawn oedd hwn.
    Gwnaethom hefyd ddarganfod y gall llawer o newidynnau effeithio ar ymgysylltiad, mae'n eithaf anodd derbyn hyn fel ffynhonnell ddibynadwy.

    Cymerodd chwe disgybl, â lefelau gallu amrywiol ac o bob rhan o'r grŵp blwyddyn, ran mewn grŵp trafod. Gofynnwyd cyfres o gwestiynau iddynt a chofnodwyd eu hatebion. Dywedodd pob un o'r disgyblion eu bod wedi mwynhau'r gwersi a ddysgwyd drwy ddrama. Roedd y dysgwyr yn ymgysylltu mwy pan ddefnyddiwyd drama, ac yn ymgysylltu â mwy o feysydd dysgu hefyd. Roedd y dysgwyr wedi mwynhau cael pwrpas i'w dysgu gan ddweud eu bod yn teimlo'n "gyffrous" i gwrdd â'r ymwelydd, er eu bod yn gwybod mai eu hathro eu hunain oedd yr ymwelydd, yn actio cymeriad arall. Roedd y dysgwyr wedi magu mwy o hyder wrth siarad am y pynciau, hyd yn oed y dysgwyr hynny sydd fel arfer yn amharod i siarad.

    Roedd yr athrawon a gymerodd ran yn y prosiect wedi mwynhau defnyddio dull gwahanol o addysgu, er ei fod yn newydd ac yn wahanol iawn iddynt. Roeddent o'r farn ei fod o fudd i ymgysylltiad, brwdfrydedd a mwynhad y dysgwyr o'r gwersi.

    Roedd y dysgwyr wedi datblygu eu sgiliau i siarad mewn gwahanol sefyllfaoedd. Roeddent wedi clywed geirfa newydd ac yn gallu "defnyddio geirfa addas wrth chwarae ac mewn gweithgareddau strwythuredig a sefyllfaoedd ffurfiol" fel y nodir yn nisgwyliadau Blwyddyn 2 (Llywodraeth Cymru, 2015). Roedd y disgyblion hefyd yn gallu "mabwysiadu rôl benodol, gan ddefnyddio iaith sy’n briodol mewn sefyllfaoedd strwythuredig" (ibid). Mae'n glir y gellir defnyddio drama i gynnig y cyfleoedd hyn fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru, ac y bydd y dysgwyr yn elwa ar hyn.
    Wrth edrych ar y deilliannau ar gyfer llafaredd, roedd hi'n amlwg bod y dysgwyr wedi gwneud mwy o gynnydd o ran eu deilliannau llafaredd yn ystod y tymor hwn o gymharu â thymhorau blaenorol. Wrth edrych ar grwpiau blwyddyn blaenorol, roedd canlyniadau eleni yn uwch na 75% o'r blynyddoedd blaenorol.

    Cyfyngiadau

    Gan fod amserlen y prosiect yn fyr, mae wedi bod yn hynod o anodd mesur yr effaith. Byddai amserlen hwy yn rhoi mwy o amser i ymholi'n drylwyr a chasglu mwy o ddata.
    Mae nifer o newidynnau cysylltiedig, gan gynnwys dehongliadau proffesiynol ac unigol o'r canllawiau arsylwi a roddwyd.
    Byddai mwy o hyfforddiant yn helpu i sicrhau bod y staff i gyd yn hyderus wrth ddefnyddio dulliau Mantell yr Arbenigwr.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Dangosodd y gwaith ymchwil hwn fod y dull hwn yn helpu i wella ymgysylltiad, cyfranogiad a brwdfrydedd y dysgwyr, a'i fod yn cefnogi amcanion y Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys rhoi diben i ddysgu i ddysgwyr a defnyddio cyd-destunau "go iawn".
    Os caniateir digon o amser, gallai'r dull hwn gael effaith gadarnhaol ar sgiliau llafaredd y dysgwyr.
    Er bod y canlyniadau rydym wedi'u casglu yn edrych yn gadarnhaol, dim ond cipolwg bach iawn y maent yn ei roi i ni. Mae angen amserlen hwy er mwyn gweld a fydd y dull hwn yn cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau addysgol y dysgwyr, ond mae'r holl staff a gymerodd ran yn sicr bod y dysgwyr yn fwy hyderus wrth drafod eu pwnc drama.
    Mae cynnwys llafaredd yng Nghynllun Datblygu'r Ysgol yn annog llawer o fentrau i wella deilliannau llafaredd y dysgwyr.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Aitken, G. (2013) ‘Dorothy Heathcote's Mantle of the Expert approach to teaching and learning: A brief introduction.’ Yn Connecting Curriculum, Linking Learning. Wellington: NZCER Press.
    Donaldson, G., (2015) Dyfodol Llwyddiannus. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
    Heathcote, D. a Bolton, G. (1985) Drama for Learning: Dorothy Heathcote's Mantle of the Expert Approach to Education. Portsmouth: Heinemann Press.
    Graddfa Leuven ar gyfer Cyfranogiad. https://famly.co/blog/management/leuven-scales/
    Gwefan Mantell yr Arbenigwr: https://www.mantleoftheexpert.com
    Taylor, A., (n.d.) A critical evaluation of ‘Mantle of the Expert’ as a teaching and learning approach, based on pupil and practitioner opinion. Ar gael yn https://www.mantleoftheexpert.com/wp-content/uploads/2018/01/Critical-evaluation-of-moe.pdf
    Llywodraeth Cymru (2015) Cwricwlwm Cymru: Fframwaith y Cyfnod Sylfaen. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

  • Cyswllt

    Daniel Roberts / Rhian Dafydd

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Bangor

    Consortiwm

    GWE

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol wledig ddwyieithog ym mhentref Frongoch yng Ngwynedd ydy Ysgol Bro Tryweryn. Rydym yn rhan o ffederasiwn Cysgod y Foel gydag Ysgol Ffridd y Llyn o dan yr un Pennaeth a'r un corff llywodraethol. Mae 35 o ddisgyblion llawn amser yn yr ysgol a 7 o ddisgyblion meithrin yn y prynhawn. Dau ddosbarth sydd yn yr ysgol, dosbarth Derbyn, blwyddyn 1 a 2, a dosbarth blynyddoedd 3,4,5 a 6. Mae dau athro a 2 gymhorthydd llawn amser ymhob dosbarth yn yr ysgol. Nid oes disgyblion Prydau Ysgol am Ddim yn yr ysgol. Mae 91.6% o'r disgyblion yn dod o gartrefi uniaith Gymraeg. Mae amaethyddiaeth yn amlwg iawn yn yr ardal ac mae llawer o'r disgyblion yn dod o gartrefi sydd yn ddibynnol ar amaethyddiaeth.

    Trosolwg ymholiad

    Meddylfryd twf ydy ffocws ein hymchwil ar gyfer Cylch 4.Byddwn yn cynnal cyfweliad a rhoi holiadur i ddarganfod meddylfryd presennol y disgyblion. Ar ol dadansoddi'r canlyniadau, gosodir her i ddatrys problem a byddwn yn cyfweld ambell ddisgybl wedi’r dasg.
    Byddwn yn cyflwyno sut mae’ ymennydd yn gweithio, ac er mwyn atgyfnerthu hyn byddwn yn gwneud defnydd o Saib a Symud i ddod a’r meddwl mewn lle da cyn chychwyn ar dasgau.

    Erbyn diwedd Tymor yr Hydref byddwn wedi darganfod os yw disgyblon yn hyderus wrth fentro,
    yn gwybod sut mae’r ymennydd yn gweithio ac wedi datblygu sgiliau trosglwyddadwy.

    Cwestiwn Ymholi

    Ydy cyflwyno sgiliau meddylfryd twf yn hybu dysgwyr i weithio’n annibynnol?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Meddylfryd twf ydy ffocws ein hymholiadau proffesiynol yn ystod y flwyddyn academaidd 2019 - 2020. Rydym wedi arsylwi dysgwyr CA2 ( blynyddoedd 3,4,5, a 6) yn datrys problemau mewn grŵp, gan roi sylw i'w defnydd o feddylfryd twf. Roedd yr arsylwad hwn yn rhoi gwaelodlin i ni er mwyn paratoi'r camau nesaf. Wedi casglu data a'i ddadansoddi, daethpwyd o hyd i'r mannau oedd angen eu datblygu. Wedi sefydlu'r waelodlin, datblygwyd sgiliau cyd weithio, dyfalbarhad, defnydd o bwerau dysgu, a datblygu'r arfer o bartneriaid trafod. Rhoddir sylw i sut mae'r ymennydd yn gweithio er mwyn i'r dysgwyr ddeall rhan yr ymennydd wrth ddatrys problemau. Arsylwir eto ar ddiwedd yr ymholiad proffesiynol, gyda thasgau gwahanol, sydd yn gofyn am ddefnydd o'r sgiliau dan sylw, a nodi os yw'r mewnbwn wedi cael unrhyw effaith.

    Ystyriaethau moesegol

    Derbyniwyd caniatâd moesegol gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil, Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol, Prifysgol Bangor; rydym wedi rhannu'r holl ddulliau ymchwilio er mwyn sicrhau bod ein ymholiad proffesiynol yn addas ar gyfer yr ystod oedran dan sylw. Roeddem ni wedi sicrhau bod y tasgau yn addas ar gyfer pob dysgwr, gan wahaniaethu pan fo angen.
    Byddwn yn sicrhau caniatâd y rhieni/gwarchodwyr i'w plentyn gymryd rhan yn ein hymholiad, a byddwn yn rhannu crynodeb o'r ymholiad proffesiynol gyda nhw.
    Byddwn yn egluro pwrpas yr ymholiad i’r dysgwyr, ac yn parchu cyfrinachedd wrth adrodd ar y gwaith.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Ein prif ffynhonnell o ran adolygu llenyddiaeth yn y maes dan sylw oedd Muncaster & Clarke (2016); Dweck (2016) a gwefannau fel ‘Mindset Works’ sydd yn trafod meddylfryd twf.
    Mae Dweck (2016) yn ffynhonnell allweddol ar feddylfryd twf; eglurwyd bod modd datblygu ein deallusrwydd a chyflawniad academaidd drwy waith caled a dyfalbarhad. Esboniodd Dweck (2016) nad ein galluoedd a'n talent yn unig sy'n dod â llwyddiant inni - ond yn hytrach, a ydym yn datblygu ac yn defnyddio ‘meddylfryd twf’ yn hytrach nag ‘meddylfryd sefydlog’. Gyda'r meddylfryd cywir, gallwn ysgogi ein dysgwyr, a'u helpu i godi safon eu gwaith ar draws y cwricwlwm. Mae Dweck yn credu bod ymarfer ‘meddylfryd twf’ yn magu cariad at ddysgu, a gwytnwch sy’n sail ar gyfer dysgu gydol oes.
    Mae Muncaster & Clarke (2016) yn cynnwys strategaethau ymarferol, cynlluniau gwersi ac enghreifftiau helaeth i hybu meddylfryd twf yn yr ysgol. Mae'r cynlluniau gwaith cynhwysfawr ac ymarferol yn cynnig ffordd bendant o roi meddylfryd twf ar waith, gyda’r gobaith o ddatblygu diwylliant dysgu pwerus yn yr ysgol.
    Byddwn yn gwneud defnydd o adnoddau parod ar wefan ‘Mindset Works’ er mwyn atgyfnerthu ein hymchwil.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Wedi i ni gynnal y tasgau cyntaf rydym wedi llwyddo i roi holiadur a chyfweld disgyblion yn eu tro er mwyn adolygu'r hyn oeddent hwy wedi llwyddo ag o, a'r hyn oeddent yn ei weld yn heriol. Roedd ymatebion y dysgwyr yn aeddfed iawn ac yn ddefnyddiol tu hwnt wrth i ni baratoi'r camau nesaf. Y prif ddarganfyddiad oedd bod disgyblion ddim wedi llwyddo i gydweithio mor effeithiol â phosib, er bod y tasgau yn dasgau grŵp nid oedd pob un unigolyn yn llwyddo i gymryd rhan effeithiol. Y cam nesaf sydd angen i ni weithredu arnynt yw arwain disgyblion er mwyn dangos beth yw cydweithio da a sut mae posib gwneud hynny. Wedi i ni weithredu ar hyn byddwn angen cynnig holiadur arall a chyfweld disgyblion er mwyn gweld os oes datblygiad.

    Cyfyngiadau

    Dod o hyd i dasgau addas, realistig a theg ar gyfer yr ystod oedran.
    Trefnu tasgau gwahanol i'r rhai cychwynnol, er mwyn canfod effaith yr ymyraethau a gyflwynwyd.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Angen hyfforddi holl staff er mwyn deall a dirnad meddylfryd twf.
    Targedu'r agwedd o gyd weithio; mae hyn yn allweddol i ddatblygu sgiliau datrys problemau, yn hytrach nag bod dysgwyr unigol yn arwain.
    Datblygu dyfalbarhad yn y dosbarth. Mae angen egluro i ddysgwyr bod mwy nag un ffordd o ddatrys problemau; mae’n bwysig meddwl am amrywiaeth o ffyrdd gwahanol, a pheidio cymryd yn ganiataol bod y ffordd gyntaf am weithio.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Donaldson, G. (2015) Dyfodol Llwyddiannus. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
    Dweck, C.S. (2016) Mindset: The New Psychology of Success. 2nd edition. New York: Random House.
    Mindset Works. Ar gael yn: https://www.mindsetworks.com/science/
    Muncaster, K. & Clarke, S. (2016) Growth Mindset Lessons: Every Child a Learner. London: Rising Stars UK Ltd.

  • Cyswllt

    Falmai Ellis - falmaiellis@gwynedd.llyw.cymru

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Bangor

    Consortiwm

    GWE

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Manod wedi'i lleoli mewn ardal gydag ystod o heriau economaidd a chymdeithasol; mae'r gwaelodlin sylfaen wrth fynediad gryn dipyn yn is na chyfartaledd Gwynedd a Chymru. Dynodwyd yr ysgol yn y Categori A Gwyrdd yn system genedlaethol ar gyfer categoreiddio ysgolion( Llywodraeth Cymru). Mae 4 dosbarth yn yr ysgol a 110 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys plant meithrin.
    Mae oddeutu 26% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaleddau lleol a chenedlaethol. Mae'r ysgol yn nodi bod gan 28% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd ychydig yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae 4% o ddisgyblion â datganiadau o anghenion addysg arbennig. Ychydig sy'n siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf gartref, ac ychydig o ddisgyblion sy'n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

    Trosolwg ymholiad

    Mae ymholiad Cylch 4 yn canolbwyntio ar feddwlgarwch. Archwilir y cwestiwn canlynol: “Sut mae meddwlgarwch ac addysgeg effeithiol yn datblygu annibyniaeth a gwydnwch mewn dysgwr”?
    Mae’r holl staff wedi eu hyfforddi ac wedi mynychu sesiynau ar gyflwyno sgiliau meddwlgarwch. Defnyddir nifer o ddulliau ymchwil yn cynnwys cyfweliadau, arsylwadau a holiaduron ar gyfnodau penodol i ganfod i ba raddau mae disgyblion yn datblygu sgiliau i weithio’n annibynnol ac yn dyfalbarhau â thasg.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut mae ymwybyddiaeth ofalgar yn datblygu annibyniaeth a gwydnwch dysgwyr?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Pwrpas yr ymholiad proffesiynol hwn oedd ymchwilio i sut mae ymwybyddiaeth ofalgar yn datblygu annibyniaeth a gwydnwch dysgwyr yn yr ysgol gynradd (rhwng pedair ac un-ar-ddeg oed). Mae datblygu gwydnwch yn annog dysgwyr i ddyfalbarhau, datrys problemau a meithrin annibyniaeth gydol oes.
    Cyplysir ein hymholiad proffesiynol a’r pedwar pwrpas sydd wrth wraidd Cwricwlwm i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2020).

    Cwblhawyd yr ymholiad proffesiynol dros gyfnod o chwe wythnos gyda grwpiau o ddysgwyr ymhob dosbarth fel a ganlyn:
    Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 (n6);
    Blwyddyn 2 a 3 (n6);
    Blwyddyn 3 a 4 (n6);
    Blwyddyn 5 a 6 (n5).

    Dewiswyd y dysgwyr ymhob dosbarth ar hap ar ôl cyfrif fesul chwech ar y gofrestr.

    Cyflwynwyd holiaduron oedran-benodol i’r dysgwyr yn ffocysu ar ganfod eu dealltwriaeth o wydnwch. Roedd y cwestiynau yn gofyn i’r dysgwyr ystyried i ba raddau roedden nhw’n gweithredu fel dysgwyr annibynnol, ynghyd a chanfod i ba raddau roedden nhw’n dyfalbarhau gyda thasgau heriol yn yr ysgol.

    Yn dilyn cwblhau’r holiaduron, cyflwynwyd tasgau heriol i’r dysgwyr, a fyddai’n eu hannog i ddyfalbarhau, cydweithio a datrys problemau:
    Derbyn-Blwyddyn 1 - tasg pentyrru cwpanau (gweler gwefan STEM)
    Blwyddyn Dau a Thri-tasg adeiladu twr gyda gwelltyn a thâp selo
    Blwyddyn Tri a Phedwar- dal gwrthrych uchder o 10cm oddi ar fwrdd, gan ddefnyddio gwellt a thâp selo
    Blwyddyn Pump a Chwech- creu trac i farblen.

    Cyflwynwyd sesiynau meddwlgarwch gyda’r dysgwyr yn wythnosol. Roedd y sesiynau meddwlgarwch yn arfogi’r dysgwyr i ganolbwyntio ar y presennol, ac yn eu cynorthwyo i ymdopi gyda sefyllfaoedd heriol, a dyfalbarhau gyda gwaith anodd. Er enghraifft, dilynwyd cynllun Paws b (7-11) yng Nghyfnod Allweddol Dau; gweler gwefan MISP (Mindfulness in Schools Project) https://mindfulnessinschools.org/teach-paws-b/

    Ystyriaethau moesegol

    Roedd yr holl ddeunyddiau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr holiaduron a chyfweliadau yn rhai oedd wedi eu teilwra ar gyfer dysgwyr yn cwmpasu ystod eang o oedrannau.

    Cafwyd cydsyniad gwybodus gan rieni/gwarchodwyr y dysgwyr.

    Roedd Prifysgol Bangor wedi gwirio'r holl ddeunyddiau, yn cynnwys model rhesymeg yn nodi amcanion yr ymholiad.
    Cymeradwywyd yr ymholiad proffesiynol gan Bwyllgor Moeseg yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol, Prifysgol Bangor.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Yn ystod ein hymholiad proffesiynol, rydym yn canolbwyntio ar adnabod a rhoi cefnogaeth i ddysgwyr bregus sydd yn cael trafferth darganfod strategaethau i oresgyn heriau emosiynol, cymdeithasol ac addysgol.
    Roedd ffocws ein hadolygiad llenyddol yn seiliedig ar Williams & Penman (2011); Duckworth (2007, 2017); Dweck (2006); Donaldson (2015) a Llywodraeth Cymru (2020).
    Mae Duckworth (2007; 2017) yn trafod gwydnwch, annibyniaeth a dyfalbarhad mewn dysgwyr. Dywed fod modd mesur gwydnwch dros gyfnod hir o amser, a bod dysgwyr yn aml yn ymwrthod a chamgymeriadau, dryswch a sialens. Credai Duckworth (ibid) ei bod yn hanfodol i’r athro sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o hyn, ac i dderbyn bod hyn yn rhan o’r her sydd yn gysylltiedig â chwblhau tasgau. Mae’n bosibl i’r dysgwyr dorri tasgau i lawr yn gamau bach, a bydd hyn yn magu gwydnwch ac annibyniaeth yn y dysgwyr. Y camau sydd yn bosibl i’w dilyn ydy: i. Llunio'r dasg yn y meddwl; ii. Torri'r dasg i lawr yn gamau bach;
    iii. Gweithio ar bob cam; iv. Rhoi'r darnau yn ôl at ei gilydd (adeiladu); v.Gwirio y gwaith; vi. Ymarfer drosodd a throsodd.

    Credir Dweck (2006) nad ein galluoedd a'n talentau sy'n dod â llwyddiant i ni, ond yn hytrach, sut yr ydym yn dewis ymdrin ag hwy - sef y defnydd o feddylfryd twf neu sefydlog. Mae Dweck yn esbonio sut all gwydnwch fod yn sail i gyflawniad ym mhob agwedd o ddysgu. Dywed Dweck bod angen gweithio tu allan i’r parth cyffyrddus er mwyn gwella perfformiad yn ogystal ag ymarfer yn rheolaidd.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae’r canfyddiadau yn amrywio yn ôl oed a blwyddyn y dysgwyr; i barchu cyfrinachedd y cyfranogwyr ac arddel ymarfer ymchwil da, rhown drosolwg cyffredinol o'r canfyddiadau.

    Yn yr holiaduron dysgwyr ar draws y gwahanol oedrannau, nodir fod nifer uchel o gyfranogwyr yn datgan eu bod yn ansicr wrth ddarganfod ffyrdd i oresgyn problemau. Er bod diffyg cysondeb gyda dealltwriaeth o wydnwch, roedd diffiniad cyffredinol sef gallu unigolyn i berchnogi eu meddylfryd, a pharhau i ymdrechu i gyrraedd nod penodol, hyd yn oed yn wyneb anawsterau a heriau.

    Yn ystod yr arsylwadau gwersi ( sef Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 (n6); tasg pentyrru cwpanau (gweler gwefan STEM); Blwyddyn 2 a 3 (n6); tasg adeiladu twr gyda gwelltyn a thâp selo; Blwyddyn 3 a 4 (n6); tasg dal gwrthrych uchder o 10cm oddi ar fwrdd, gan ddefnyddio gwellt a thâp selo; Blwyddyn 5 a 6 (n5); tasg creu trac i farblen), gwelwyd patrymau o ran canfyddiadau. Er enghraifft, roedd lleiafrif o ddysgwyr yn profi anawsterau o gyd-weithio, a dyfalbarhau gyda'r dasg/weithgaredd. Bu trafodaethau amlwg ymysg nifer o’r dysgwyr wrth fwrw ymlaen â’r dasg. Roedd elfen o gystadleuaeth bersonol ymysg rhai o’r dysgwyr, ac roedd gwahaniaeth o safbwynt gwydnwch a dyfalbarhad y dysgwyr o fewn y grwpiau.

    Cyfyngiadau

    Roedd angen bod yn ofalus iawn wrth lunio cyfres o gwestiynau a fyddai’n mesur gwydnwch mewn dysgwyr.
    Roedd y cwestiynau yn heriol i ddysgwyr ifanc, ac roedd angen newid geiriad y cwestiwn heb gyfyngu atebion y dysgwyr.
    Roedd hyn yn sialens amlwg yn y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1.
    Roedd yr amser a ganiatawyd i gwblhau’r ymholiad proffesiynol hwn yn gyfyng, er enghraifft, i arsylwi / mesur effaith y gwersi meddwlgarwch a'r tasgau penodol oedd yn herio’r dysgwyr.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Mae angen newid gweithgareddau yn rheolaidd i gadw diddordeb y dysgwyr.
    Mae angen annog dysgwyr i ddarganfod ffyrdd i oresgyn problemau, er enghraifft, defnyddio dulliau ymdopi megis partner trafod.
    Bu cwblhau’r holiaduron yn heriol i rai, ac roedd rhaid bod yn ofalus iawn i beidio aralleirio’r datganiadau rhag dylanwadu ar atebion y dysgwyr.
    Parchu ystyriaethau moesegol, er enghraifft, roedd angen sicrhau fod pob rhiant/gwarchodwr yn arwyddo’r daflen cytundeb cyn bwrw ymlaen gyda’r ymholiad proffesiynol.
    Sicrhau nad oedd yr un dysgwr yn cael ei (h)enwi yn yr adroddiad.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Donaldson, G. (2015) Dyfodol Llwyddiannus. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
    Duckworth, A (2007) Grit: Perseverance and Passion for Long-Term Goals. Journal of Personality and Social Psychology 92(6):1087-101 ·
    Duckworth, A (2017) Grit: Why passion and resilience are the secrets to success. London: Ebury Publishing.
    Dweck, C.S. (2016) Mindset: The New Psychology of Success. 2nd edition. New York: Random House.
    Llywodraeth Cymru (2020). Cwricwlwm i Gymru. Ar gael ar-lein: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru
    MISP mindfulness in schools project https://mindfulnessinschools.org/
    Paws b (7-11) Ar gael ar-lein https://mindfulnessinschools.org/teach-paws-b/
    STEM Activities for Kids. Ar gael ar-lein https://www.sciencebuddies.org/stem-activities
    Williams, M. & Penman, D. (2011) Mindefulness: a practical guide to finding peace in a frantic world. London: Piatkus.

  • Cyswllt

    Owen Stokes
    tstokeso@eveswellprimary.co.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd Eveswell yng Nghasnewydd. Mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn byw'n agos i'r ysgol. Mae tua 12% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n is na'r cyfartaleddau lleol a chenedlaethol. Mae nifer y disgyblion ar y gofrestr wedi cynyddu ychydig dros y tair blynedd diwethaf.

    Trosolwg ymholiad

    Beth yw manteision dysgu dilys mewn perthynas â datblygu gallu myfyrwyr i ddatrys problemau a rhesymu?

    Cwestiwn Ymholi

    Beth yw rôl dysgu dilys mewn perthynas â datblygu gallu myfyrwyr i ddatrys problemau a rhesymu?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Gwella sgiliau rhesymu drwy'r ysgol yn unol â'r flaenoriaeth yn y cynllun gwella ysgol.
    Ymholiad i gefnogi'r cynllun gwella ysgol a rhedeg ochr yn ochr ag ef, i gael yr effaith fwyaf bosibl ac felly gynnwys pob rhanddeiliad perthnasol.
    Arwain a thywys staff a rhanddeiliaid drwy'r broses ymholi a'r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol.
    Bydd yr ymholiad yn rhan allweddol o'n gwaith gydag Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu, yr agenda dysgu proffesiynol genedlaethol a'n rôl fel ysgol dysgu proffesiynol genedlaethol.
    Ffocws ar ddysgu dilys fel elfen allweddol yn y broses o feithrin sgiliau a chymhwysedd rhesymu disgyblion.
    Holiadur i'r staff ar eu hyder a'u dull o addysgu rhesymu.
    Meithrin cymhwysedd staff a magu eu hyder o ran rhesymu drwy HMS, hyfforddiant pwrpasol i staff a chyfle i weithio gydag eraill.
    Rhoi cyfle i staff feithrin eu sgiliau ymchwil drwy ddefnyddio deunyddiau a ddewiswyd yn ofalus er mwyn ymestyn ac ehangu eu gwaith darllen.
    Rhoi cyfle i staff adrodd yn ôl a gwerthuso canfyddiadau bob hanner tymor.
    Cynnwys llywodraethwr ysgol yn y broses, a fydd yn adrodd yn ôl i'r corff llywodraethu llawn.
    Cyflwyno adroddiad ar yr ymholiad i benaethiaid y clwstwr ac arweinwyr dysgu proffesiynol ddechrau tymor y gwanwyn gyda'r bwriad o ymgysylltu â'r clwstwr.

    Ystyriaethau moesegol

    Mae'r canfyddiadau cychwynnol yn dangos y canlynol:
    Cryfderau a meysydd i'w datblygu drwy'r ysgol, gan gynnwys grwpiau blwyddyn lle mae sgiliau rhesymu yn fwy datblygedig.
    Ble mae gan y staff ddealltwriaeth fwy cyfyngedig o ddysgu dilys.
    Anghenion dysgu proffesiynol y staff.
    Staff sy'n llai hyderus i wneud gwaith ymchwil.
    Bydd arsylwadau gwersi'n dangos cynnydd y staff a'r dysgwyr drwy gydol y broses.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Rydym wedi rhannu'r staff yn driadau rhesymu gydag ysgol gyfagos yr ydym wedi ffurfio ffederasiwn â hi ers mis Ionawr 2020. Gwnaethom roi'r rhestr ddarllen gychwynnol isod i'r staff:
    https://thirdspacelearning.com/blog/developing-reasoning-skills-maths-ks2/
    https://chartered.college/how-directly-teaching-reasoning-achievement-mathematics
    https://www.hertsforlearning.co.uk/blog/reasoning-where-start
    https://educationblog.oup.com/primary/5-ways-to-improve-mathematical-reasoning
    https://nrich.maths.org/10341
    https://nrich.maths.org/10367
    https://nrich.maths.org/11336

    Mae'r staff hefyd yn gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain sy'n deillio o hyn ac yn adrodd yn ôl ar eu canfyddiadau bob hanner tymor mewn cyfarfodydd staff.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae'r canlyniadau rhesymu mewn profion cenedlaethol drwy'r ysgol yn is na'r canlyniadau gweithdrefnol a darllen (dadansoddwyd y ffigurau).
    Nid oes problem gyda darllen yn yr ysgol.
    Nid yw merched ym Mlynyddoedd 5 a 6 wedi gwneud cystal â bechgyn mewn profion rhesymu cenedlaethol (cyfrifwyd y canrannau ar gyfer pob grŵp blwyddyn).
    Mae llai o dystiolaeth o resymu yng ngwaith y disgyblion, tystiolaeth gyfyngedig o ddysgu dilys (adroddiadau FADE wedi'u cwblhau ar gyfer pob grŵp blwyddyn a'u rhannu â'r staff).
    Nodwyd y grwpiau blwyddyn lle roedd rhesymu ar ei wannaf.
    Cynhaliwyd HMS ar resymu ym mis Rhagfyr 2019. Trafodwyd strategaethau ar gyfer gweithio o'r diriaethol i'r haniaethol (cofnodion cyfarfod staff) – cyflwynodd yr arweinydd MD adroddiad ar effeithiolrwydd strategaethau Singapore Maths.
    Mae angen i staff drwy'r ysgol gael cymorth i ddeall dysgu dilys – HMS ar ddysgu dilys (Ionawr 2020 – rhannu Fframwaith Rhagoriaeth Dysgu ac Addysgu GCA a phrofformas perthnasol â'r staff)
    Cyfarfod hanner diwrnod â Dirprwy Bennaeth ysgol gynradd gyfagos i drafod rhesymu yn y ddwy ysgol (cofnodwyd yn log dysgu proffesiynol GCA).
    Mae angen rhoi arweiniad i'r staff ar dechnegau ymchwil – anaml iawn y bydd lleiafrif o'r staff yn cwblhau gwaith ymchwil
    Mae angen cynnal cyfarfodydd ymlaen llaw â'r triadau rhesymu ar draws grwpiau blwyddyn o'r ddwy ysgol.
    Mae angen trefnu amser i'r triadau rhesymu gyfarfod ac adrodd yn ôl ar eu canfyddiadau.
    HMS – wythnos yn dechrau 3-2-20 ar gyfer Blynyddoedd 2, 3 a 4 i adrodd ar y canfyddiadau cychwynnol.

    Cyfyngiadau

    A oes digon o ddata i ategu'r canfyddiadau?
    A yw holl ymatebion y staff i'r holiadur yn ddibynadwy?
    Mae angen amser i gwrdd â'r staff drwy gydol y broses.
    Rhaid i'r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol gyd-fynd â'r cynllun datblygu ysgol a chael ei weld fel rhywbeth sy'n berthnasol i bob rhanddeiliad yn hytrach na gwaith ychwanegol.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Fel y nodwyd yn adran "Cyfyngiadau".

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Mae'n hollbwysig bod y broses ymholi'n cyd-fynd â'r cynllun gwella ysgol. Gwnaethom weithio'n llwyddiannus iawn y llynedd i ddatblygu darllen dan arweiniad a ffoneg drwy'r ysgol, drwy waith mewn triadau a gafodd ei ganmol yn fawr gan Estyn. Wrth fynd â'r broses hon ymhellach drwy'r bartneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a all fod yn gyffrous, mae'n bwysig ein bod yn cadw'r ymholiad yn hydrin ac nad yw'n troi'n ofyniad ychwanegol i'r staff na fydd o fudd i'r ysgol. Mae angen i bob rhanddeiliad gydweithio â'i gilydd tuag at nod cyffredin drwy gydol y broses.

  • Cyswllt

    Gayle Shenton,
    shentong@hwbcymru.net
    01639 637701

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae YGG Castell-nedd yn ysgol gyfrwng Cymraeg sydd wedi’i lleoli yng nghanol y dre. Mae tua 420 o ddisgyblion yn yr ysgol ac mae’r mwyafrif yn dod o deuluoedd lle nad yw’r rhieni’n siarad Cymraeg. Fel arfer mae’r holl blant yn trosglwyddo I Ysgol Gyfun Ystalyfera Bro Dur.

    Mae 14 o ddosbarthiadau gan gynnwys 2 sesiwn rhan amser i blant y Meithrin.

    Mae’r ysgol yn ysgol sydd yn parchu hawliau plant ac yn defnyddio strategaethau arfer adferol i ddatblygu agweddau cadarnhaol. Mae’r ysgol hefyd yn sefydlu egwyddorion maethu fel elfennau allweddol yn ethos yr ysgol.

    Trosolwg ymholiad

    Mae’r ysgol wedi blaenoriaethu’r angen i adnabod a chefnogi agweddau Iechyd a Lles ar draws yr ysgol gan edrych yn benodol ar anghenion emosiynol a chymdeithasol plant. Yn dilyn proses hunan arfarnu ysgol gyfan blaenoriaethwyd ein gallu i gynnig darpariaeth sy’n cefnogi Iechyd  Lles disbyblion gan edrych ar hyfforddiant staff e.e. defnydd o’r BOXAll, ELSA ayb.

    Mae’r cwricwlwm newydd wedi gosod maes dysgu Iechyd a Lles yn hafal gyda  Lythrennedd a Rhifedd ayb ac felly wedi cefnogi ein awydd i ddatblygu.

    Teitl : Sut mae adnabod anghenion cymdeithasol ac emosiynol disgyblion yn dylanwadu are parodrwydd i ddysgu ac adeiladu perthnasoedd?

    Cwestiwn Ymholi

    Sut mae adnabod anghenion cymdeithasol, emosiynol a lles, yn cael effaith ar barodrwydd plant i ddysgu ac adeiladu perthynas gydag eraill?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Bwriedir creu holiadur er mwyn cynhyrchu data newydd yn edrych ar farn athrawon am effaith anghenion cymdeithsaol, emosiynol a lles ar disgyblion. Byddwn yn edrych ar ddata sydd wedi'u cynhyrchu'n barod wrth ddefnyddio holiadur parod - boxall.
    Bwriedir dadansoddi'r data yma er mwyn gweld os oes unrhyw berthynas rhwng y boxall a data cyrhaeddiad. Byddwn hefyd yn trafod gyda phlant a holi eu barn am strategaethau ac effeithiolrwydd y strategaethau hynny sydd i fod i wella lles a chyrhaeddiad. Byddwn yn siarad gyda rhieni, plant a staff er mwyn holi eu barn am pa sgiliau maent yn meddwl sydd yn allweddol er mwyn cyflawni'n addysgol.
    Byddwn yn holi atharwon am eu hyder a'u sgiliau wrth iddynt geisio paratoi at gynllunio ac addysgu'r Maes Dysgu a Phrofiad 'Iechyd a Lles' yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru.

    Ystyriaethau moesegol

    Bydd angen sicrhau fod caniatâd gan blant a rhieni lle'n briodol. Ni fydd angen caniatâd i ddefnyddio gwybodaeth sydd ddim yn gyfrinachol, hynny yw, y data sydd gyda ni'n barod megis y boxall. Ni fydddwn yn enwi'r plant sydd yn rhan o'r ymchwil. Bydd sicrhau cyfrinachedd yn elfen holl bwysig yn yr ymchwiliad. Wrth gyfweld byddwn yn sicrhau bod pawb yn teimlo'n gyfforddus ac yn eu hatgoffa o'u hawliau i adael y gwaith ymchwil ar unrhyw adeg os ydynt yn dymuno. Ni fydd unrhyw or- ddweud na chwaith cuddio wrth drafod ein canlyniadau. Byddwn yn cydnabod gwaith eraill lle'n briodol.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Bydd yr athrawon yn manteisio ar ymchwil diweddar gan y Cynulliad yng Nghymru ac ymhellach yn cynnwys:

    1. Thinking Positively
    2. Mind over Matter
    3. Astudiaeth gan OECD ar Social and Emotional Skills
    4. Nurture Schools UK
    5. A pedagogical alliance for academic achievement: Socio-Emotional effects on assessment outcomes. By: Leighton, Jacqueline P, Guo, Qi, Chu, Man-Wai, Tang, Wei, Educational Assessment, 10627197, Jan-Mar2018, Vol. 23, Issue 1
    6. Iach a Hapus

    Canfyddiadau cychwynnol

    Nid yn unig yr ysgol hon sydd yn poeni am yr effaith mae anghenion iechyd a lles ein plant yn cael ar eu gallu i ddatblygu sgiliau sy'n allweddol i ddysgu ac adeiladu perthynas gyda phlant ac oedolion. Mae gofid cenedlaethol am iechyd a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae'r pwysau sydd wedi bod ar safonau uwchben popeth arall wedi effeithio ar hyder ac arbenigedd athrawon wrth gyflwyno sgliau sydd yn cefnogi plant i ddatblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol.

    Cyfyngiadau

    Mae angen sicrhau fod amser penodol er mwyn i'r ymchwilwyr gael amser i ddarllen, trafod ac arbrofi gydag elfennau penodol o'r ymchwil.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    N/A

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    N/A

  • Cyswllt

    Kerry O'Brien-Cole & Jessica Aubin

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gymunedol gwbl gymysg 11-16 a gynhelir gan awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin yw Ysgol Bryngwyn. Mae wedi'i lleoli ym mhentref Dafen, i'r gogledd-ddwyrain o Lanelli, a daw ei disgyblion o rannau o ganol y dref ac o nifer o bentrefi ac ardaloedd gwledig cyfagos. Mae 1,060 o ddisgyblion ar y gofrestr. Canran y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 19%, sydd fymryn yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Ar y cyfan, mae 15% o’r disgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae 11 o ddisgyblion yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Mae'r ysgol yn rhan o'r unig ffederasiwn uwchradd ffurfiol yng Nghymru, gydag Ysgol Glan-y-Môr, Porth Tywyn. Mae'r ddwy ysgol yn ysgolion arloesi.

    Trosolwg ymholiad

    I ba raddau y mae ffocws ar addysgeg i hybu llythrennedd bechgyn a sgiliau datrys problemau disgyblion yn effeithio ar wydnwch disgyblion?

    Byddwn yn parhau ag ymchwil weithredu 2018-19 i archwilio ‘sut y gall strategaethau i ddatblygu gwydnwch disgyblion wrth fynd ati i ddatrys problemau mewn Mathemateg gefnogi cymhwysedd strategol’. Mae'n ymddangos bod rhai strategaethau'n cael effaith ar wydnwch a'n nod yw archwilio hyn ymhellach. Bydd y staff yn mireinio ‘dull astudio gwersi’ i ddatblygu adnoddau a chael effaith ar addysgu.

    Credwn fod hefyd gyfleoedd i wella llythrennedd ochr yn ochr â sgiliau datrys problemau a byddwn yn ceisio dadansoddi effaith amrywiaeth o addysgegau. Bydd y gwaith ar wella llythrennedd, yn enwedig llythrennedd bechgyn, yn cynnwys gwaith o fewn MDPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ac ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Bydd yr adrannau'n archwilio dulliau addysgegol newydd gan gynnwys ‘Dim ond Darllen’, ‘Chwyldro Ysgrifennu’ a ‘Haikus Rygbi’. Dylai strategaeth ysgol gyfan ar ddatblygu annibyniaeth gyfoethogi hyn.

    Tystiolaeth:

    • Llais y disgybl
    • Troeon dysgu
    • Astudio gwersi
    • ‘Book look’
    • Holiaduron
    • Data

    Cwestiwn Ymholi

    I ba raddau y mae ffocws ar addysgeg i hybu llythrennedd bechgyn a sgiliau datrys problemau disgyblion yn effeithio ar wydnwch disgyblion?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    a. Byddwn yn parhau ag ymchwil gweithredol Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) Mathemateg 2018-19 i ddatblygu gwydnwch disgyblion wrth fynd ati i ddatrys problemau. Mae'n ymddangos bod rhai strategaethau'n cael effaith ar wydnwch a'n nod yw archwilio hyn ymhellach.
    Fel rhan o ‘bythefnos rhyddid’ ysgol gyfan, bydd MDPh Mathemateg yn gweithio ar y cysyniad ‘Teithiau’ ar gyfer Blwyddyn 7. Bydd y MDPh yn cynllunio ar y cyd gan ganolbwyntio ar feithrin annibyniaeth a sgiliau datrys problemau’r disgyblion ac yn bwrw golwg dros y canlyniadau yng nghyd-destun y pum medr. Defnyddir hyn ynghyd ag adborth gan y disgyblion a’r athrawon er mwyn cynllunio cyfle tebyg ar gyfer Blwyddyn 8, gan ddefnyddio cylch ymchwil gweithredol o gynllunio, gweithredu, arsylwi ac adfyfyrio. Nid yn unig y bydd hyn yn meithrin sgiliau ymchwil gweithredol yr athrawon, ond bydd hefyd yn helpu’r athrawon i feithrin gwybodaeth newydd a hybu addysgeg adfyfyriol. Caiff disgyblion Blwyddyn 8 eu rhannu’n grwpiau gallu cymysg ar gyfer y profiad hwn er mwyn gweld a fydd cydweithio rhwng disgyblion â gwahanol alluoedd yn gwella gwydnwch. Bydd ‘dull astudio gwersi’ yn canolbwyntio ar y dysgu yn yr ystafell ddosbarth gan ddefnyddio Graddfa Leuven i ystyried lefelau ymgysylltu a chymhelliant.
    b. Bydd y gwaith ar wella llythrennedd, yn enwedig llythrennedd bechgyn, yn cynnwys gwaith o fewn MDPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ac ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Bydd yr adrannau'n archwilio dulliau addysgegol newydd gan gynnwys ‘Dim ond Darllen’, ‘Chwyldro Ysgrifennu’ a ‘Haikus Rygbi'.
    Fel rhan o brosiect ‘Dim ond Darllen’, sy’n seiliedig ar brosiect a gyflawnwyd gan Brifysgol Sussex, bydd athrawon Blwyddyn 8 yn darllen dwy nofel, un ar ôl y llall yn gyflym, gan ganolbwyntio ar gynnal llif y llyfr a datblygu sgiliau holi a thrafod yn y dosbarth. Mae sgiliau darllen y disgyblion wedi cael eu profi ar ddechrau’r prosiect a chaiff data’r Profion Darllen Cenedlaethol eu defnyddio er mwyn gwerthuso i weld a yw’r gwelliannau a wnaed yn cael eu cynnal. Bydd y disgyblion a’r staff hefyd yn llenwi arolygon er mwyn gwerthuso’r effeithiolrwydd.Hefyd, mae athrawon Saesneg Blwyddyn 7 wedi bod yn defnyddio strategaethau a amlinellwyd yn y ‘Chwyldro Ysgrifennu’ gyda’r nod o wella gallu’r disgyblion i lunio brawddegau cywir ac amrywiol yn eu gwaith ysgrifenedig. Bydd yr athrawon yn cymharu darn ysgrifennu disgybl yn yr asesiad sylfaenol â chanlyniadau asesiadau dilynol er mwyn gwerthuso’r effeithiolrwydd.Roedd prosiect ‘Haikus Rygbi’ yn dwyn barddoniaeth a Chwpan Rygbi’r Byd ynghyd er mwyn hybu datblygiad iaith. Cafodd holl ddisgyblion Blwyddyn 7 gyfle i greu Haikus, ac aeth rhai dosbarthiadau ati i ddatblygu hyn yn brosiect mwy. Caiff adborth gan ddisgyblion ac athrawon ei ddefnyddio i asesu’r effaith a chaiff data asesu eu defnyddio i gymharu perfformiad grwpiau gwahanol o ddisgyblion.
    c. Dylai strategaeth ysgol gyfan ar ddatblygu annibyniaeth disgyblion gyfoethogi’r gwaith o hybu gwydnwch. HMS ysgol gyfan, cyfarfodydd, ‘Pythefnos Rhyddid’, tasgau gwaith cartref a grwpiau Ymchwil Gweithredol yn creu syniadau a gaiff eu hadolygu.

    Ystyriaethau moesegol

    Bydd yr ysgol yn mabwysiadu dull ysgol gyfan o ymdrin â Moeseg.Caiff llythyr a ffurflen gydsynio eu llunio a’u dosbarthu i bob disgybl yn CA3 i esbonio ein rôl fel Ysgol Ymholi Arweiniol a’r mathau o waith ymchwil a thystiolaeth y byddwn yn eu casglu. Mae gan lais y disgybl broffil uchel ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r ysgol eisoes, ond defnyddir amser ABCh a gwasanaethau i sicrhau bod gan bob disgybl ddealltwriaeth glir o’i rôl a’i gyfraniad at y prosiectau hyn a’i addysg yn y dyfodol. Caiff llythyr ‘optio allan’ ei anfon at y rhieni a’i roi ar wefan yr ysgol hefyd. O ystyried nifer y disgyblion yn yr ysgol, bydd angen cadw cofnod canolog o unrhyw ddisgyblion sy’n dewis peidio â chymryd rhan.Gobeithio y bydd y broses hon yn lleddfu’r problemau gweinyddol a achoswyd y llynedd pan ofynnwyd i’r disgyblion a’r rhieni lofnodi’r un ffurflen.Darperir hyfforddiant ysgol gyfan, gan gynnwys cyfrinachedd, anhysbysrwydd a diogelu data er mwyn sicrhau bod pob aelod o’r staff yn deall eu rôl mewn ystyriaethau moesegol yn glir wrth ymgymryd â gwaith ymchwil gyda staff, disgyblion neu asiantaethau eraill.Bydd grŵp ymchwil gweithredol yn ystyried y materion hyn yn fanylach, yn ogystal ag anghenion hyfforddi ar gyfer y dyfodol.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Defnyddiwyd nifer o adnoddau yn ystod y gwaith ymchwil. Roedd rhai yn ymwneud â gwydnwch a dysgu annibynnol, ac roedd eraill yn ymdrin yn fwy penodol â’r prosiectau unigol. Rhoddwyd papurau ymchwil i bob aelod o’r staff ar y thema ‘Gwydnwch’ i’w darllen a’u trafod. Golygai hyn fod yr adnoddau’n berthnasol heb fod angen treulio gormod o amser yn archwilio. Fodd bynnag, er bod y drafodaeth hon yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol, mae’n anodd gwneud amser weithiau pan fo llawer o ofynion eraill.*Research Methods in Education' Cohen, Manion a Morrison.
    *'Developing Creative and Critical Educational Practitioners' – Ian Menter.
    *Cyflwyniad CGA ar wydnwch.*‘Lesson Study’ Peter Dudley https://lessonstudy.co.uk
    *‘Promoting Student Resilience in School Contexts’ Gale M. Morrison Megan Redding Allen.
    *‘Creating Environment of Success and Resilience – Culturally Responsive Classroom Management and More’ Elizabeth Bondy, Dorene, D. Ross, Caitlin Gallingane, University of Florida, Elyse Hambacher, Broward County Public Schools.
    *'The influence of Teacher and peer Relationships on Students’ Classroom Engagement and Everyday Motivational Resilience', Carrie J. Furrer, Portland State University, Ellen A. Skinner, Portland State University, Jennifer R. Pitzer, Portland State University.
    *3B4Me.
    *Graddfa Leuven ar gyfer lefelau ymgysylltu.
    *Westbrook, Jo, Sutherland, Julia, Oakhill, Jane a Sullivan, Susan (2019) 'Just reading': increasing pace and volume of reading whole narratives on the comprehension of poorer adolescent readers in English classrooms. Literacy, 53 (2). tt. 60-68. ISSN 1741-4350.
    *Hochman, J .(2017) The Writing Revolution: a guide to advancing thinking through writing in all grades and subjects. San Francisco, CA: Jossey-Bass.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae MDPh Mathemateg wedi cydweithio i ddatblygu adnoddau ar gyfer ‘Pythefnos Rhyddid’ Blwyddyn 7 yn seiliedig ar y cysyniad ysgol gyfan ‘Teithiau’. Mae amser wedi cael ei neilltuo yn ystod nifer o gyfarfodydd ffocws a diwrnodau HMS er mwyn i’r gwaith hwn fod o safon uchel. Mae’r amser hwn wedi bod yn hollbwysig er mwyn i’r staff allu cydweithio i ddatblygu’r gweithgaredd: mae syniadau wedi cael eu creu, eu trafod, eu treialu a’u hadolygu. Er bod hyfforddiant wedi cael ei gynnal ar y pum medr mathemategol a’r Deilliannau Cyflawniad, mae’r staff wedi cael eu hannog i osgoi cael eu cyfyngu gan y rhain, a byddant yn eu mapio’n nes ymlaen. Rhoddwyd papurau ymchwil i bob aelod o’r staff ar y thema ‘Gwydnwch’ i’w darllen a’u trafod. Golygai hyn fod yr adnoddau’n berthnasol heb fod angen treulio gormod o amser yn archwilio. Fodd bynnag, er bod y drafodaeth hon yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol, mae’n anodd gwneud amser weithiau pan fo llawer o ofynion eraill.Mae’r prosiect Ieithoedd ‘Dim ond Darllen’ yn brosiect mwy penodol ac felly mae’n hawdd ei gyflawni fel prosiect ymchwil. Rydym yn ei werthuso ar hyn o bryd. Mae’r adborth cychwynnol gan y disgyblion wedi dangos eu bod wedi mwynhau’r dull hwn o ddarllen: er enghraifft, mae’r disgyblion wedi dweud ei bod yn haws dilyn darnau darllen pan gânt eu darllen yn gyflym gan ddarllenwr medrus; eu bod o’r farn eu bod yn cofio’r wybodaeth yn well; a’u bod yn cael mwy o fwynhad o’r profiad o ddarllen. Cynhelir mwy o brofion a gwerthusiad manylach er mwyn gwerthuso effaith y dull hwn ar y disgyblion o gymharu â’u cyfoedion a oedd wedi darllen un nofel a chwblhau tasgau ysgrifenedig ychwanegol.Mae’r gwaith o fabwysiadu’r strategaethau a amlinellir yn ‘The Writing Revolution’ yn dal i fod ar y camau cynnar, ond mae adborth gan y staff a’r dystiolaeth yn y llyfrau’n awgrymu bod strwythurau brawddegau’r disgyblion yn fwy cadarn, a bod y disgyblion yn dechrau defnyddio’r mathau o frawddegau a luniwyd yn yr ymarferion yn eu gwaith ysgrifennu eu hunain.Mae ‘Haikus’ wedi bod yn brosiect diddorol sydd wedi esgor ar ddeilliannau rhagorol i’r disgyblion a nifer o bwyntiau trafod. Ar ôl i ‘amser arbrofol’ gael ei neilltuo yn yr adran i ddechrau, roedd arweinydd y prosiect yn awyddus i ymestyn y prosiect o ystyried ymatebion cychwynnol y disgyblion. Cafodd yr aelod o staff ei syfrdanu gan ba mor awyddus a chadarnhaol oedd y disgyblion a chan y canlyniadau hefyd. Ysgogodd hyn ragor o frwdfrydedd ymhlith y staff, yn ogystal â gwaith ymchwil a datblygu yr oeddent yn fwy na pharod i’w rannu â’r uwch dîm arwain. Roedd yn ymddangos bod y creadigrwydd, yr agwedd gadarnhaol a’r brwdfrydedd hwn wedi crisialu hanfod y cwricwlwm newydd.Codwyd nifer o faterion i’w hystyried:• O ystyried bod ein disgyblion presennol yn gweithio dan gyfyngiadau’r hen Gwricwlwm Cenedlaethol, mae cwmpas yn peri cyfyng-gyngor i ni o hyd.• Sut y gallwn ganiatáu hyblygrwydd a gwaith dychmygus gan sicrhau safon ar yr un pryd?• Pwysigrwydd perchnogaeth a chydweithio i lwyddiant prosiect.• Sut y gallwn fesur yr effaith ar gymhelliant a brwdfrydedd?Mae’r ffocws ysgol gyfan ar Wydnwch a Dysgu Annibynnol yn bwysig er mwyn cefnogi prosiectau unigol a pharatoi’r staff ar gyfer y dyfodol. Ni ellir tanbwysleisio pwysigrwydd amser a chyfle i sefydlu cydberthnasau gwaith cadarn er mwyn galluogi'r staff i dreialu ac arbrofi mewn amgylchedd diogel. Gall y daith tuag at newid fod yn anwastad ac mae angen ffocws ysgol gyfan, cyfeiriad a chymorth.

    Cyfyngiadau

    Mae’n gyfnod cyffrous ac, fel ysgol arloesi, rydym wedi bod yn ffodus o gael bod yn rhan o’r daith hon. Mae amser a chyfle (a chyllid) i gydweithio yn bwysig wrth ddatblygu’r cwricwlwm newydd hwn. Mae’r cyfle i gael arbenigedd allanol (sefydliadau addysg uwch), arweiniad, rhannu syniadau ac arbrofi wedi bod yn amhrisiadwy. Ceir cyfyngiadau ac ystyriaethau sy’n wahanol i’r arferion arferol wrth gyflawni gwaith Ymchwil Gweithredol ffurfiol. Gall gofynion moeseg a chydsyniad fod yn faich gweinyddol trwm oni chânt eu mesur yn ofalus. Yn olaf, gall fod yn anodd cynnal cydbwysedd rhwng gweithio gyda’n system bresennol a threialu deunyddiau newydd ac mae angen rheoli hyn yn ofalus.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Mae ‘Astudio Gwersi’ wedi bod yn adnodd defnyddiol i arsylwi ar wersi. Mae dadansoddi’r arsylwadau gwers a nodi materion/ffactorau allweddol yn ffordd wahanol o gofnodi arsylwadau. Ar ôl cynnal un cylch o arsylwadau, cyfoethogwyd y profiad yn yr ail gylch drwy ddefnyddio Graddfa Leuven ar gyfer Lefelau Ymgysylltu.Wrth gynllunio ar y cyd o fewn MDPh Mathemateg, roedd y broses o gynllunio cyfres o wersi y byddai disgwyl i bawb ei dilyn (2 grŵp o 4) yn rhy gyfyngol. Roedd yn llesteirio’r natur ddigymell a’r hyblygrwydd i ymateb i’r disgyblion. Felly, penderfynwyd ar adnoddau a chysyniadau allweddol ond cadwyd yr hyblygrwydd, a oedd yn effeithiol. Fodd bynnag, wrth gynllunio ar gyfer ‘pythefnos rhyddid’, o ran y cysyniad Teithiau, roedd yn haws penderfynu ar yr adnoddau, y fethodoleg a’r deilliannau oherwydd hyblygrwydd ac ehangder y pwnc.O’r blaen, roedd yn anodd casglu’r ffurflenni Moeseg pan oedd disgwyl i’r disgyblion a’r rhieni eu llofnodi ac felly cafodd y ffurflenni eu hanfon adref. Datryswyd hyn drwy gael cydsyniad y disgyblion gan roi cyfleoedd i’r rhieni ddewis peidio â chymryd rhan.Er ein bod o’r farn bod ein prosiect ysgol yn cynnwys llawer o wahanol agweddau a all fod yn anodd, teimlwn mai ein blaenoriaeth yw sicrhau bod yr holl staff yn ymgysylltu â’r cwricwlwm newydd ac yn treialu ffyrdd newydd o weithio.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Gall y daith tuag at newid fod yn anwastad ac mae angen ffocws ysgol gyfan, cyfeiriad a chymorth. Bydd amser HMS rheolaidd drwy gydol y flwyddyn yn sicrhau ffocws a datblygiad parhaus. Er y bydd y disgyblion yn gweithio o fewn Meysydd Dysgu a Phrofiad, dylai’r ffaith bod grŵp ymchwil gweithredol yn cael ei ffurfio wella arferion y staff.

  • Cyswllt

    Lisa Sunderland
    lisa.sunderland@coedcae.org

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol uwchradd gymysg 11-16 cyfrwng Saesneg yn Llanelli yw Ysgol Coedcae. Mae 863 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 27.5% sy'n cael prydau ysgol am ddim. Mae tua 47% o'r disgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru; mae ychydig dros draean yn byw yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Yn gyffredinol, mae 52% o'r disgyblion ar gofrestr anghenion addysgol arbennig yr ysgol ac mae gan 4% o'r disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Daw'r mwyafrif – 89% – o'r disgyblion o gefndir gwyn Prydeinig. Nifer bach iawn o'r disgyblion sy'n siarad Cymraeg yn rhugl. Iaith heblaw Saesneg yw iaith gyntaf tua 10% o'r disgyblion.

    Trosolwg ymholiad

    Dangosodd fy nghylch cyntaf o ymchwil fod annibyniaeth a gwydnwch yn feysydd datblygu allweddol ymhlith ein dysgwyr. Hefyd, tynnodd yr ymchwil sylw at yr angen am gysondeb o ran y strategaethau a roddir ar waith drwy'r ysgol gyfan. Gwnaethom greu grŵp ffocws dysgu ac addysgu a oedd yn llwyddiannus iawn o ran datblygu syniadau ac adnoddau. Roedd y grŵp hwn yn cynnwys 10 aelod o staff o wahanol feysydd pwnc.
    Ein cynnig ymchwil diweddaraf yw parhau i ddatblygu strategaethau effeithiol ac amgen a fydd yn hybu dysgu annibynnol a gwydnwch ymhlith ein dysgwyr. Bydd y strategaethau hyn yn canolbwyntio ar archwilio ffyrdd o gynyddu cymhelliant disgyblion a chreu mwy o gyfleoedd i ddewis. Byddwn yn datblygu ac yn treialu strategaethau meddylfryd twf gyda'r nod o'u rhoi ar waith ar lefel ysgol gyfan.

    Cwestiwn Ymholi

    Pa strategaethau amrywiol y gellir eu defnyddio i hybu dysgu annibynnol a gwydnwch ymhlith ein dysgwyr?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Tro dysgu: Arsylwi ar y dysgu, edrych ar lyfrau’r disgyblion, siarad â’r disgyblion.Ffocws: Nodi ac ystyried pa strategaethau a ddefnyddir i hybu annibyniaeth a gwydnwch ein dysgwyr.Sail resymegol:

    • Casglu tystiolaeth o arferion gorau o bob rhan o’r cwricwlwm, yn enwedig agweddau ar ddarpariaeth a sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion
    • Sicrhau darpariaeth a safonau cyson ym mhob rhan o’r cwricwlwm
    • Gwerthuso effaith sesiynau dysgu proffesiynol sydd wedi canolbwyntio ar agweddau penodol ar y ddarpariaeth
    • Sicrhau y caiff elfennau allweddol o’r ddarpariaeth eu hymgorffori yng nghynllun gwaith y maes cwricwlaidd
    • Llywio’r Cynllun Gwella Ysgol, Cynllun Gwella Addysgu, Adroddiad Hunanwerthuso
    • Nodi meysydd lle mae angen rhagor o gymorth dysgu proffesiynol/datblygu ysgol
    • Arsylwi ar wers

    (Cyfnod Sylfaen): Casglu tystiolaeth o arferion gorau o bob rhan o’r cwricwlwm, yn enwedig agweddau ar ddysgu annibynnol a gwydnwch.Arsylwad gwers (CA2): Arsylwi ar strategaethau gwahaniaethol.Gweithgor Dysgu ac Addysgu: Mae hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o feysydd yn y cwricwlwm. Mae’n cyfarfod yn rheolaidd drwy gydol y tymor ac yn rhannu syniadau ac adnoddau drwy e-bost/timau.Ffurflen adborth: Roedd y ffurflen hon yn canolbwyntio ar ddwy strategaeth y nododd y Gweithgor Dysgu ac Addysgu eu bod yn ddefnyddiol o ran eu rhoi ar waith fesul cam ar lefel ysgol gyfan. Roedd yn gofyn am bwyntiau trafod yn ymwneud â Meddylfryd Twf a strategaeth ‘Three Before Me’ a gofynnais i’r staff ystyried y ffordd orau o roi’r strategaethau ar waith fesul cam ar lefel ysgol gyfan. Neilltuwyd sesiwn dysgu proffesiynol i’r dasg hon a chafwyd adborth o bob Maes Dysgu a Phrofiad. Roedd hyn yn fodd i’r staff deimlo perchnogaeth dros y strategaethau rydym yn bwriadu eu rhoi ar waith.

    Ystyriaethau moesegol

    Roedd cyfrinachedd yn faes i’w ystyried am ei bod yn bwysig na fyddai unrhyw strategaethau a rennir yn datgelu pwy oedd y disgyblion dan sylw.Roedd anhysbysrwydd yn rhoi mwy o ryddid i’r staff fynegi eu barn a’u meddyliau ac yn rhoi cyfle iddynt roi adborth yn fwy effeithiol.Roedd pob aelod o’r staff yn fwy na pharod i gymryd rhan a chawsant gyfle i ddewis peidio â chymryd rhan petai’n well ganddynt wneud hynny. Dosbarthwyd ffurflen gydsynio drwy Forms ar HWB, a oedd yn ffordd gyfleus i’r staff gydsynio.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Roedd yr holiadur cychwynnol a lenwyd gan y staff yn seiliedig ar 12 Egwyddor Addysgeg. Roedd y canfyddiadau allweddol fel a ganlyn:Roedd 86% o’r staff yn perthyn i’r categori “Sgôr isel (1-2)” ar gyfer Cwestiwn 6 – ‘Mae ein disgyblion bob amser yn dal ati hyd yn oed os yw’r gwaith yn rhy anodd’.Roedd 55% o’r staff yn perthyn i’r categori “Sgôr isel (1-2)” ar gyfer Cwestiwn 9 – ‘Gall ein disgyblion gymell eu hunain yn effeithiol’.Roedd cysylltiad agos rhwng y ddwy Egwyddor Addysgegol hyn ac annibyniaeth a gwydnwch ac felly helpodd hyn ni i nodi’r rhain fel meysydd i’w gwella. Roedd yn ddefnyddiol o ran meithrin dealltwriaeth a rennir ymhlith y staff.O ganlyniad i hyn, penderfynais ymchwilio i ffyrdd o wella annibyniaeth a gwydnwch. Darllenais amrywiaeth o erthyglau ar-lein. Roedd llawer o’r rhain yn canolbwyntio ar bwysigrwydd datblygu dull ysgol gyfan o weithredu ac yn annog ymarferwyr i gydweithio â’i gilydd. Gwnaeth hyn fy helpu i lunio fy strategaeth fy hun ar gyfer arwain y gwaith ymchwil. Ymhlith fy ngwaith darllen roedd:Knightsmith, P. (2016) Developing skills of resilience in your pupils. MA Education Ltd – Roedd yr erthygl hon yn ddiddorol am ei bod yn canolbwyntio ar ffyrdd o ddatblygu disgyblion yn fwy effeithiol ac yn ystyried sut i roi strategaethau ymdopi llwyddiannus ar waith. Roedd pwysigrwydd teimlo ei bod hi’n iawn methu yn berthnasol iawn i’n disgyblion ni, a helpodd hyn i lywio ein penderfyniad i ganolbwyntio ar Feddylfryd Twf fel un o’n strategaethau.Cefai, Carmel. (2008) Cyfres: Innovative Learning for All. Llundain: Jessica Kingsley Publishers. E-lyfr – Roedd yr erthygl hon yn cynnwys pwyntiau diddorol iawn ac roedd yn trafod cefnogi datblygiad a lles plant a phobl ifanc drwy ganolbwyntio ar eu cryfderau yn hytrach na’u gwendidau.
    Collet, V. S. collet@uark. Gol. (2017) ‘“I Can Do That!” Creating Classrooms That Foster Resilience’, YC: Young Children, 72(1), tt. 23-31 - Roedd yr erthygl hon yn sôn am greu adnoddau ystafell ddosbarth ac annog myfyrwyr i’w defnyddio, helpu plant i bennu nodau byrdymor a chanolbwyntio ar ganmol ymdrechion myfyrwyr.
    Edrychodd y Gweithgor Dysgu ac Addysgu hefyd ar amrywiaeth o bosteri ar-lein ar ‘Three Before Me’ a Meddylfryd Twf.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae’r gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo. Mae’r Gweithgor Dysgu ac Addysgu wedi cyfarfod ac wedi bwrw golwg dros yr adborth a roddwyd gan y staff yn y sesiwn a neilltuwyd i ddysgu proffesiynol.Rhoddodd y Meysydd Dysgu a Phrofiad yr adborth canlynol:*Teimlid y dylai strategaeth ‘Three Before Me’ gael ei galw’n ‘Tri Cyn Fi’ – roedd y staff o’r farn y byddai hyn yn helpu gyda dwyieithrwydd. Roedd pob adran o’r farn y dylai posteri cyffredinol gael eu harddangos ym mhob ystafell ddosbarth er mwyn rhoi’r strategaeth ar waith yn y ffordd fwyaf effeithiol.*Teimlid hefyd fod yn rhaid ei defnyddio’n gyson ym mhob dosbarth a grŵp blwyddyn er mwyn ei gwreiddio’n llawn. Rhoddwyd pwyslais enfawr ar hyn ac awgrymodd rhai aelodau o’r staff y dylid defnyddio gwasanaethau i roi’r strategaethau ar waith yn effeithiol. Bydd hyn yn helpu gyda chysondeb ac yn cymell y disgyblion i’w dilyn.*Awgrymodd rhai aelodau o’r staff fod angen i’r disgyblion fod yn fwy penodol wrth nodi’r hyn nad ydynt yn ei ddeall. Bydd defnyddio Tri Cyn Fi yn eu helpu i nodi camau penodol yn hytrach na dweud nad ydynt yn deall dim byd.*O ran iaith Meddylfryd Twf, roedd pob Maes Dysgu a Phrofiad yn hoff o’r syniad o greu posteri i’w harddangos ym mhob ystafell ddosbarth. Gwahoddwyd y staff i gynnig eu syniadau eu hunain o ran yr iaith y mae angen i ni ei defnyddio wrth hyrwyddo Meddylfryd Twf. Rhoddodd pob Maes Dysgu a Phrofiad enghreifftiau o iaith disgyblion ac athrawon. Ymhlith y rhain roedd:
    Dydw i ddim yn gwybod hyn eto.
    Rwy’n gwerthfawrogi fy nghamgymeriad.Camgymeriadau yw’r ffordd orau o ddysgu.Rwy’n mynd i wneud hwn yn well byth.Mae gwneud camgymeriadau yn eich helpu i wella.Mae’n rhaid i chi ei wneud yn anghywir er mwyn gallu ei wneud yn gywir.Gall hyn gymryd ychydig o amser ac ymdrech.*Mae’r Gweithgor Dysgu ac Addysgu wedi dwyn yr holl syniadau ynghyd ac wedi cydweithio i greu dau boster a fydd yn helpu’r staff a’r disgyblion i roi’r strategaethau newydd ar waith. Penderfynwyd y caiff y posteri hyn eu cyflwyno yn ystod gwasanaethau.

    Cyfyngiadau

    Ymhlith y cyfyngiadau mae cyfyngiadau amser. Mae’n aml yn anodd cwrdd a chydweithio yn ddigon aml. Er ein bod yn lwcus bod amser penodedig yn cael ei roi i ni, byddai’n dal i fod yn ddefnyddiol cwrdd yn fwy rheolaidd.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Ein cam nesaf ar ôl rhoi’r strategaethau ar waith yw cynnal arolwg staff ynghylch effeithiolrwydd pob un ohonynt. Gwneir hyn ar ffurf holiadur a bydd y canlyniadau’n anhysbys. Credaf y bydd yn ddefnyddiol galluogi’r staff i werthuso eu heffaith yn yr ystafell ddosbarth. Byddai hefyd yn gyfle i’r staff awgrymu unrhyw welliannau.Yn ogystal â hyn, hoffwn ganolbwyntio ar ddau ddosbarth a gofyn iddynt lenwi’r un holiadur gan y byddai hyn yn ein helpu i weld y ddau safbwynt. Byddai hefyd yn fuddiol cynnal gweithgaredd llais y disgybl er mwyn ystyried strategaethau pellach a fydd yn gwella annibyniaeth a gwydnwch.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Cefai, Carmel. (2008) Cyfres: Innovative Learning for All. Llundain: Jessica Kingsley Publishers.
    E-lyfr.
    Collet, V. S. . collet@uark. gol. (2017) ‘“I Can Do That!” Creating Classrooms That Foster Resilience’, YC: Young Children, 72(1), tt. 23–31.

    Knightsmith, P. (2016) Developing skills of resilience in your pupils. MA Education Ltd.

  • Cyswllt

    Dave Barry
    dave@chs.wales

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gyfun gymunedol yng Nghrucywel, Powys yw Ysgol Uwchradd Crucywel. Mae 892 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 175 yn y chweched dosbarth. Mae tua 7.2% o'n disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae gan 18.9% anghenion addysgol arbennig.

    Trosolwg ymholiad

    Byddwn yn cynnal adolygiad ysgol gyfan o ddysgwyr mwy abl a thalentog (MAT) gan ddefnyddio ymholiad yn seiliedig ar: ‘Sut y gallwn wella deilliannau i'n dysgwyr MAT, yn enwedig ar adegau asesu allweddol TGAU, UG ac A2?’ Bydd yr ymholiad hwn yn cynnwys gogwydd o blaid y cwricwlwm newydd, a bydd yn bwydo i mewn i Gynllun Datblygu'r Ysgol ac un o'n blaenoriaethau Dysgu ac Addysgu ar gyfer eleni. Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys: adborth gan fyfyrwyr a staff; a data ar berfformiad yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol fel sail i'n hymholiad, er mwyn mesur cynnydd posibl a thynnu sylw at feysydd ymchwilio. Bydd y cwmpas yn eang i ddechrau, gan fynd yn fanylach wrth i feysydd datblygu posibl gael eu nodi o'r gwaith ymchwil, yr adborth a'r data a gesglir.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y gallwn wella deilliannau ein dysgwyr Mwy Abl a Thalentog ym Mlwyddyn 10 yng nghyfnod asesu allweddol TGAU?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Ein harwyddair yn Ysgol Uwchradd Crucywel yw 'Rhagori drwy Ymdrechu'. Fel pob ysgol, mae gan Ysgol Uwchradd Crucywel nifer sylweddol o ddysgwyr Mwy Abl a Thalentog, gydag o leiaf 28% o'r garfan wedi'i nodi'n Fwy Abl a/neu Dalentog. Mae hyn yn golygu bod gennym ddau grŵp sylweddol o fyfyrwyr ag anghenion addysgol ychwanegol ac mae gennym ddyletswydd i ddarparu ar eu cyfer yn y ffordd orau bosibl. Gwnawn hyn drwy ddarparu profiadau dysgu â lefelau priodol o her sy'n galluogi ein myfyrwyr Mwy Abl a Thalentog i lwyddo. Cred Ysgol Uwchradd Crucywel y cymhwysir her briodol bob dydd, ym mhob gwers, ac, o ganlyniad, daw addysg Mwy Abl a Thalentog yn rhan o'r hyn a wnawn bob dydd yn yr ystafell ddosbarth ac fe'i hategir wedyn gan weithgareddau penodol y tu allan i'r dosbarth.

    Fel rhan o'r gwaith ymholi hwn, canolbwyntiwyd ar ddefnyddio data ysgol gyfan er mwyn nodi myfyrwyr Mwy Abl a Thalentog o Flwyddyn 10 oedd yn wynebu'r risg fwyaf o dangyflawni ar lefel TGAU a nodi amrywiaeth o strategaethau er mwyn eu cynorthwyo i gyflawni eu llawn botensial. Yn dilyn hyn cafodd cynllun gweithredu ei lunio er mwyn cadarnhau cyfeiriad yr ymholiad a'i amserlen.

    Arweiniodd meysydd ymchwil yr ymholiad hwn at gynnal arolwg staff yn yr ysgol er mwyn casglu gwybodaeth. Roedd yr arolwg yn gyfle i'r staff leisio barn ar y strategaethau oedd yn gweithio orau i wahanol grwpiau o fyfyrwyr. Hefyd, roedd yn gyfle i'r staff fireinio'r strategaethau er mwyn eu gwneud yn fwy effeithiol. Yna, cyfunir data'r arolwg â data arholiadau Blwyddyn 10 er mwyn tynnu'r gwaith ymchwil at ei derfyn.
    Penderfynwyd defnyddio ffurflen Microsoft ar-lein i gasglu'r data. Y rheswm pennaf dros hyn oedd maint y boblogaeth a faint o gwestiynau roedd angen eu hateb. Yn y ffurflen hon, dewiswyd cyfuniad o gwestiynau aml-ddewis ac atebion ysgrifenedig er mwyn galluogi'r staff i leisio eu barn. Yna, cafodd yr arolwg hwn ei dreialu a gwnaed mân addasiadau i rai cwestiynau a chynllun yr arolwg. Yna, dosbarthwyd yr arolwg gyda dyddiad cau ar ddiwedd y tymor. Er mwyn diogelu cyfrinachedd staff a'u hannog i gymryd rhan yn yr arolwg, ni chofnodwyd unrhyw enwau fel y cadarnhawyd yn y cytundeb ar foeseg.

    Ystyriaethau moesegol

    Cafodd y gwaith ymchwil hwn ei awdurdodi gan Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cyn cwblhau'r holiadur ymchwil ar-lein, cafodd pob darpar gyfranogwr daflen wybodaeth yn nodi'r goblygiadau moesegol. Hefyd, rhoddodd y daflen wybodaeth foesegol wybodaeth berthnasol i'r cyfranogwyr i'w galluogi i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch p'un a oeddent yn barod i gytuno i gymryd rhan yn yr astudiaeth ai peidio. Cadwyd yr holl wybodaeth a roddwyd gan gyfranogwyr yn gwbl gyfrinachol. Cymerwyd camau gofalus i sicrhau na ellid adnabod unigolion o'r ffurflenni. Yn ogystal, gofynnodd cwestiwn cyntaf yr holiadur i'r cyfranogwyr a oeddent wedi darllen a deall y daflen wybodaeth foesegol a roddwyd iddynt. Os oedd unrhyw un yn dweud nad oeddent wedi'i darllen ac nad oeddent yn ei deall, ni chawsant ateb unrhyw gwestiwn arall.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Cydnabu'r ysgol y gall myfyrwyr Mwy Abl a Thalentog berthyn i dri chategori eang:

    • Cyflawnwyr Uchel: Myfyrwyr sy'n dangos lefel o allu sydd uwchlaw eu cyfoedion. Maent yn llawn cymhelliant ac yn ffynnu o gael profiadau dysgu gwahanol a heriol;
    • Tangyflawnwyr: Maent yn dueddol o fod yn aelodau swil o'r dosbarth nad ydynt yn dewis tynnu sylw atynt hwy eu hunain;
    • Wedi ymddieithrio: Maent yn aml yn ymddwyn mewn ffordd rthgymdeithasol am nad oes ganddynt lawer o gymhelliant neu nad ydynt yn cael eu herio'n ddigonol. Os na ddiwellir eu hanghenion addysgol gallant wrthod awdurdod.

    O ystyried bod myfyrwyr Mwy Abl a Thalentog sy'n tangyflawni neu'n ymddieithrio, beth allai fod yn achosi hyn?
    O ran y rhywiau, gan ddefnyddio damcaniaeth Cyfeirio Marsh, mae Watts (2020) yn dadlau ‘boys construct their self-perceptions as learners by comparing their academic abilities with those of their peers’ ac, er mwyn cynnwys bechgyn Mwy Abl a Thalentog yn fwy llawn, rhaid: ‘First, the participants want their teachers to understand that although they value their gifted identities, they still have academic needs for which they need help. Second, gifted boys believe their classroom behaviours are often misunderstood. Third, the participants want a voice about the curriculum assigned to them.’
    Mae Rathbone (1989) yn dadlau y gall syniadau gwahanol rhwng y rhywiau am y pwnc gael effaith, er enghraifft ym maes Mathemateg nododd, wrth sôn am ferched, ‘lower confidence in learning mathematics and a belief in male dominance in the subject contributed to non-election of mathematics courses’. Fodd bynnag, mae Rathbone yn argymell ‘self-confidence, positive attitudes toward success, positive teacher and parental attitudes, and stereotyping mathematics as a neutral domain were significant factors in formulating students' overall positive attitudes toward mathematics’.
    Mae'n hanfodol bod ffactorau o ran y rhywiau yn cael eu hystyried wrth gynllunio'r cwricwlwm. Yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, ystyrir bod anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys rhai Mwy Abl a Thalentog, yn ddatblygiad naturiol ar hyd y continwwm dysgu. Yn Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru, noda Donaldson:
    “...bydd yr holl blant a phobl ifanc yn gwneud cynnydd ar hyd yr un continwwm, heb ystyried unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd ganddynt, er y gallent symud rhwng Camau Cynnydd yn arafach neu’n gyflymach nag eraill.” (Donaldson, 2015)
    Bydd yr ysgol yn defnyddio'r wybodaeth y mae wedi ymchwilio iddi, gan gynnwys yr hyn a gyflwynir uchod, er mwyn adolygu dysgu Mwy Abl a Thalentog yn yr ymholiad hwn.
    Am gyfeiriadau, gweler adran: ‘Cysylltiad ag adnoddau'r ymholiad/gwybodaeth bellach’

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae'r ysgol wedi nodi strategaethau i gynorthwyo myfyrwyr Mwy Abl a Thalentog o feta-ddadansoddiad o'r ymchwil sydd ar gael, gan gynnwys EBSCO, DERA, DFE ac amrywiaeth o ysgolion uwchradd a cholegau. Caiff y strategaethau a nodwyd eu treialu a'u profi o ran eu heffeithiolrwydd, a'u hadolygu cyn eu hintegreiddio â Pholisi Anghenion Dysgu Ychwanegol presennol.
    Strategaethau i gefnogi myfyrwyr Mwy Abl a Thalentog:

    • Nodi dysgwyr Mwy Abl a Thalentog yn effeithiol mewn amrywiaeth o ffyrdd. E.g. data, barn broffesiynol staff, ymgysylltu â rhieni;
    • Mae cynlluniau gwaith pynciol yn cynnwys manylion gweithgareddau ymestyn a chyfoethogi ar gyfer y myfyrwyr mwyaf abl;
    • Caiff strategaethau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol ac yn ddadansoddol myfyrwyr eu cynnwys mewn cynlluniau gweithredu adrannol;
    • Mae staff yn ymwybodol o effeithiau ethnigrwydd, rhywedd, amgylchiadau cymdeithasol a dwyieithrwydd ar ddysgu a chyflawniad uchel;
    • Cynllunio gweithgareddau arbennig lle rhoddir y gorau i'r amserlen arferol a chyflawnir prosiectau traws-gwricwlaidd er mwyn rhoi mwy o ddewis a chyfrifoldeb i'r myfyrwyr;
    • Darparu cymorth mentora a mathau eraill o gymorth wedi'i dargedu i gyflawnwyr uchel.

    O ran Dysgu ac Addysgu, bydd staff yn:

    • Creu awyrgylch lle mae'n dderbyniol bod yn gyflawnwr uchel, gan gydnabod a thynnu sylw at gyflawniadau;
    • Darparu cyfleoedd i fyfyrwyr sbarduno trafodaeth a meddwl yn greadigol;
    • Cynnal gweithgareddau sy'n hyrwyddo sgiliau meddwl lefel uwch;
    • Galluogi myfyrwyr i rannu eu barn a'u hawgrymiadau fel rhan o grŵp ffocws;
    • Annog myfyrwyr i ddefnyddio eu doniau mewn pynciau er mwyn dod yn ddysgwyr mwy cyflawn;
    • Annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, yn ogystal â gweithgareddau rhwng ysgolion ac ar lefel ALl;
    • Annog myfyrwyr i ddod yn ddysgwyr annibynnol;
    • Cydnabod effaith andwyol ailadrodd gwaith yn ddiangen ar ddysgu;
    • Cydnabod gwerth grwpiau amrywiol a hyblyg o fyfyrwyr, gan alluogi myfyrwyr abl i gydweithio neu gyflawni rolau penodol mewn grwpiau gallu cymysg;
    • Gosod gwaith cartref gwahanol ac annog cwblhau taflenni gwaith/tasgau estynedig mewn gwersi;
    • Gwahaniaethu yn ôl deilliant a gosod targedau unigol ar gyfer pob myfyriwr;
    • Gosod tasgau ymchwil sy'n cynnwys gwaith ymchwil a datrys problemau unigol er mwyn galluogi myfyrwyr i ddod yn fwy annibynnol wrth ddysgu;
    • Cynnwys llais y dysgwr Mwy Abl a Thalentog er mwyn dylanwadu ar eu cwricwlwm a'r tasgau estynedig.

    Dylai'r hyn a wneir yn y dosbarth gael ei ategu gan gyfleoedd dysgu y tu allan i oriau, a dylai popeth gefnogi addysg brif ffrwd a, lle y bo modd, integreiddio â hi'n llawn. Mae'r rhain yn cynnwys:

    • Gweithgareddau cyfoethogi (gyda phwyslais ar arbenigwyr gwadd, ystod eang o ddeunyddiau ac adnoddau, sgiliau astudio a addysgir yn uniongyrchol, gwaith ymholi, ieithoedd mwy technegol/arbenigol ac ati);
    • Cyfleoedd cyfoethogi, e.e. theatr, dadl wyddonol, ymweliadau, cysylltiadau ag AU;
    • Clybiau a gweithgareddau allgyrsiol, e.e. chwaraeon, TGCh, sgiliau astudio;
    • Dewis o deithiau ac ymweliadau lleol a phreswyl;
    • Gwasanaethau asiantaethau allanol ar gyfer hyfforddiant a darpariaeth;
    • Profiad gwaith mewn lleoliad heriol ac ysgogol;
    • Ymweliadau â phrifysgolion.

    A gweithio gyda rhieni:

    • Annog rhieni i chwarae rhan weithredol yn natblygiad eu plant, a rhannu gweithgareddau a chynnydd â nhw, yn ffurfiol ac yn anffurfiol;
    • Yn ogystal â helpu gyda'r broses adnabod, mewn rhai achosion, bydd angen eu hysbysu am alluoedd a/neu ddoniau penodol eu plentyn;
    • Mae'n bwysig cynnig cyngor a chymorth i rieni, gan fod partneriaeth effeithiol rhwng y cartref a'r ysgol yn hanfodol i lwyddiant darpariaeth Mwy Abl a Thalentog.

    Cyfyngiadau

    Cyfyngiad yr ymholiad hwn fydd y ffocws cul ar grŵp bach o fyfyrwyr. Disgwylir i'r ffocws ehangu i gadarnhau'r canlyniadau a'r strategaethau a nodwyd. Drwy wneud hyn gellir nodi unrhyw danberfformiad gan fyfyrwyr yn gynharach, ochr yn ochr â'r strategaethau mireinio oedran a phriodol i gyd-destun ar gyfer pob cyfnod allweddol.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    • Ehangu'r ffocws i gynnwys mwy o fyfyrwyr;
    • Ystyried a all strategaethau gwahanol fod yn fuddiol i grwpiau gwahanol o ddysgwyr;
    • Sefydlu system fonitro er mwyn sicrhau bod myfyrwyr Mwy Abl a Thalentog yn bodloni disgwyliadau neu'n rhagori arnynt;
    • Sicrhau bod Cyfarwyddwyr Dysgu yn cynnwys gwybodaeth am gynnydd dysgwyr Mwy Abl a Thalentog yng nghyfarfodydd a chofnodion cyfadrannau, gan sicrhau y gwneir gwaith sicrhau ansawdd effeithiol;
    • Cynnwys rhieni mewn trafodaethau am y strategaethau a gyflawnir er mwyn sicrhau y cynorthwyir y myfyrwyr y tu allan i'r ysgol.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Education Journal. (2015) Schools not doing enough to support most able students. Education Journal, Rhifyn 227.
    DERA https://dera.ioe.ac.uk/
    Donaldson, G. (2015) Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
    GCA. EBSCO. Ar gael yn: https://www.ewc.wales/
    NACE. Ar gael yn: https://www.nace.co.uk/default.aspx
    Rathbone, S. (1989) Gender Differences in Attitudes toward Mathematics between Low-Achieving and High-Achieving Fifth Grade Elementary Students. Rhif ERIC: ED304482
    Watts, J. (2020) “Ask Me and I Will Tell You”: Gifted Boys’ Perceptions of Self and School. Gifted Child Today, 43 (1).
    Williams, J. a Montgomery, D. (1994) Frame of Reference Theory of Self-Concept Formation with Academically-Able Students. Oklahoma State University.

  • Cyswllt

    Stephen Nigel Crowson
    (Crowsons7@hwbcymru.net)

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gyfun gymysg 11-16 cyfrwng Saesneg yng Nghastell-nedd Port Talbot yw Ysgol Gyfun Dŵr y Felin. Mae 1,131 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw'r disgyblion o ardal sy'n cynnwys Castell-nedd a'r cyffiniau. Mae ychydig dros 14% o’r disgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae ychydig dros 15% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n is na chyfartaledd Cymru ar gyfer ysgolion uwchradd. Daw tua 1% o'r disgyblion o gartrefi Cymraeg. Daw'r rhan fwyaf o'r disgyblion o gefndiroedd Prydeinig, ac ychydig iawn sy'n perthyn i grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i 34 o'r disgyblion. Canran y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yw 24.6%. Canran y disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig yw tua 1%, sy'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 2.5%.

    Trosolwg ymholiad

    Yn Ysgol Gyfun Dŵr y Felin, mae'r mwyafrif o'r ymarferwyr ym mhob adran wedi nodi, drwy eu proses hunanwerthuso, fod sgiliau llafar yn faes i'w ddatblygu ac yn flaenoriaeth i'r ysgol gyfan.
    Blaenoriaeth: Sut i fynd i'r afael â diffyg hyder dysgwyr mewn llafaredd a chael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau disgyblion.
    Er mwyn helpu ein dysgwyr i fagu hyder mewn llafaredd, rydym yn bwriadu cynnal prosiect ymholiad ymchwil weithredu dros gyfnod o chwe wythnos gyda chohort o 30 o ddisgyblion Blwyddyn 8 y nodwyd bod ganddynt ddiffyg hyder mewn sgiliau llafar.
    Cam cyntaf y broses ymchwil weithredu fydd nodi pam mae diffyg hyder a beth yw'r rhwystrau rhag dysgu. Ail gam y broses ymchwil weithredu fydd asesu i ba raddau y mae ymyriadau llythrennedd yn cefnogi hyder disgyblion o ran meithrin sgiliau llafar ac yn gwella deilliannau i ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Dŵr y Felin.

    Cwestiwn Ymholi

    I ba raddau y mae mynd i'r afael â diffyg hyder dysgwyr mewn llafaredd yn cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau disgyblion?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Roedd cynllun yr ymholiad yn seiliedig ar fethodoleg Ymchwiliad Trogylch (Kaser a Halbert, 2017). Mae’r fethodoleg hon yn seiliedig ar chwe cham: Sganio, Pennu ffocws, Datblygu syniad, Dysgu, Gweithredu a Gwirio.

    • Drwy ddefnyddio prosesau hunanwerthuso ar lefel ysgol gyfan, nodwyd bod llafaredd yn wendid ymhlith ein disgyblion wrth iddynt sefyll eu harholiadau siarad TGAU. O arsylwadau anffurfiol, nodwyd bod disgyblion yn rhagori wrth drafod eu gwaith mewn grwpiau bach o gyfoedion ond, pan fo angen crynhoi eu gwaith i’r dosbarth cyfan, eu bod yn mynd yn bryderus ac yn osgoi siarad o flaen y dosbarth. Drwy waith y gweithgor dysgu ac addysgu a thrafodaethau anffurfiol â’r staff addysgu, daeth yn amlwg bod hyn yn broblem mewn nifer o bynciau ac mewn gwahanol gamau allweddol.
    • Fel rhan o’r gwaith casglu data cychwynnol, cynhaliwyd holiadur staff er mwyn creu darlun o hyder y disgyblion mewn llafaredd ym mhob rhan o’r cwricwlwm. Cynhaliwyd holiaduron a chyfweliadau lled-strwythuredig gyda’r disgyblion hefyd. Atebodd y disgyblion holiadur ar eu dealltwriaeth a’u hyder mewn llafaredd ac yna cynhaliwyd trafodaethau mewn grwpiau bach yn seiliedig ar ganlyniadau’r holiaduron.
    • Dyluniodd y grŵp ymchwil gweithredol strategaeth ymyrryd er mwyn ceisio magu hyder y disgyblion yn eu sgiliau llafaredd. Gwnaed hyn ar ffurf adnoddau a oedd yn modelu sut i gyflwyno gwybodaeth i grŵp o bobl, gan gynnwys gwleidyddion, academyddion, enwogion a phobl ifanc. Cafodd y disgyblion eu herio i ddadansoddi elfennau cadarnhaol a negyddol y dulliau a ddefnyddiwyd. Cofnododd y disgyblion eu canfyddiadau ar daith ddysgu, er mwyn cadw cofnod o’u profiadau drwy gydol iteriad cyntaf yr ymyriad a gweld sut roeddent yn datblygu eu syniadau ynglŷn â’r hyn sy’n gwneud rhywun yn siaradwr hyderus. Ynghyd â’r agoriadau i wersi, lluniwyd taflenni gwaith pwyntiau trafod i gyd-fynd â’r thema Arswyd Gothig, sef y thema roedd y disgyblion yn ei hastudio ar y pryd.
    • Bydd hyn yn arwain at asesiad llafaredd ar ddiwedd y cynllun gwaith er mwyn gweld a yw’r disgyblion wedi gwneud cynnydd, ac yna cynhelir cyfweliadau â’r disgyblion a’r staff er mwyn mesur effaith yr ymyriad. Yn olaf, caiff y broses ei gwerthuso a chaiff ail iteriad y prosiect ei greu.

    Ystyriaethau moesegol

    Er mwyn sicrhau bod yr ymyriad ar gyfer ein disgyblion yn foesegol gadarn, gwnaethom sicrhau bod y dysgwyr a gymerodd ran yn gwbl ymwybodol o gwmpas yr ymholiad ac y byddai unrhyw ddata a gesglid ganddynt yn cael eu hanonymeiddio’n gyfan gwbl. Anfonwyd llythyr caniatâd at y rhieni/gwarcheidwaid er mwyn rhoi gwybod iddynt am yr ymyriad a rhoi cyfle iddynt roi caniatâd ar gyfer casglu data am eu plentyn.Rhoddwyd gwybod i’r rhieni/gwarcheidwaid yn y llythyr y byddai eu plentyn yn dal i gymryd rhan yn yr ymyriad petaent yn dewis peidio â chymryd rhan er mwyn sicrhau na fyddai eu plentyn dan anfantais.Er mwyn i’r disgyblion sy’n cymryd rhan yn yr ymyriad beidio â bod dan anfantais o gymharu â gweddill eu cohort, parhaodd y disgyblion i weithio drwy’r un cynllun gwaith â’u cyfoedion. Cafodd yr ymyriad ei integreiddio yn y cynllun gwaith drwy’r gweithgareddau agor a chloi er mwyn cadw prif gyd-destun y gwersi yr un peth.Cynhaliwyd yr ymholiad gan ddefnyddio canllawiau BERA (2018) i sicrhau ei fod yn foesegol gadarn ac nad oedd yn rhoi ein dysgwyr dan anfantais.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Cafodd y term llafaredd ei fathu yn 1965 i ddisgrifio sgiliau gwrando a siarad a fyddai’n bodoli ochr yn ochr â llythrennedd ar gyfer sgiliau darllen ac ysgrifennu (Wilkinson, 1968). Mae Llywodraeth Cymru, yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, am i ddysgwyr ddatblygu llafaredd er mwyn gallu ‘ystyried a chyfnewid gwybodaeth a syniadau, cyflwyno canfyddiadau a chanlyniadau er mwyn i eraill ymateb iddynt a chanfod beth mae eraill yn ei wybod ac yn ei feddwl’ (Llywodraeth Cymru, 2013). Gellir rhannu sgiliau llafaredd yn bedwar maes gwahanol, sef sgiliau Corfforol, Cymdeithasol ac Emosiynol, Ieithyddol a Gwybyddol (Mercer, 2018).Mae Mercer a Mannion (2018) yn archwilio’r cysylltiadau rhwng datblygu sgiliau llafaredd a phwysigrwydd siarad yn natblygiad gwybyddol a chymdeithasol plant. Un o ganfyddiadau allweddol eu hadolygiad o lafaredd yn y cwricwlwm yng Nghymru oedd pwysigrwydd addysg iaith lafar fel ffordd o wella deilliannau gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol pobl ifanc, a’u deilliannau mewn bywyd hefyd.Roedd y safbwyntiau hyn yn ddiddorol am eu bod yn nodi y gellid defnyddio llafaredd i wella deilliannau disgyblion, sef rhywbeth sy’n ganolog i’r cwestiwn ymchwil a ofynnwyd gennym. Mae Mercer a Mannion (2018) yn awgrymu y dylid pontio’r bwlch yn sgiliau llafaredd disgyblion drwy ddefnyddio ymholiadau ar raddfa fach i ganfod beth sy’n gweithio i ymarferwyr yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain.Mae Millard a Menzies (2016) yn awgrymu bod cyfleoedd disgyblion yn tueddu i gael eu cyfyngu i siarad mewn gwasanaethau, ac nad oes llawer o ysgolion yn gwerthuso ansawdd cyfraniadau llafar disgyblion mewn gwersi. Ategir hyn gan Mercer a Mannion (2018) sy’n argymell y dylai llafaredd gael ei addysgu’n benodol mewn gwersi mewn unrhyw grŵp blwyddyn mewn ysgolion. Oherwydd y safbwyntiau hyn, roeddem am ddatblygu cynllun gwaith penodol, nid yn unig er mwyn i’r disgyblion feithrin eu sgiliau llafaredd ond hefyd er mwyn iddynt feddwl am y sgiliau hynny.Drwy edrych ar wahanol gynlluniau ar gyfer datblygu llafaredd ymhlith dysgwyr, gwnaethom benderfynu seilio’r cynllun dysgu ar ddefnyddio fideos enghreifftiol i hwyluso gwaith datblygu ar y cyd ynghylch yr hyn sy’n gwneud areithwyr da, fframiau siarad ac adnoddau pwyntiau trafod.Datblygu ar y cyd gan ddefnyddio dulliau deialogaidd er mwyn hwyluso dealltwriaeth a rennir ymhlith dysgwyr a fyddai’n eu herio nhw a’u hathro dosbarth i feithrin dealltwriaeth a rennir o’r hyn sy’n gwneud rhywun yn areithiwr effeithiol a hyderus (Reusser, et al., 2015).
    Defnyddir fframiau siarad i gefnogi gweithgareddau siarad dan gyfarwyddyd. Mae’r fframiau wedi’u dylunio i ddefnyddio patrymau mwy cymhleth iaith ysgrifenedig er mwyn datblygu iaith lafar a ‘siarad llythrennog’ (Palmer, 2011).Mae pwyntiau trafod yn dechneg y gellir ei defnyddio i hwyluso trafodaethau estynedig, lle y gofynnir i’r disgyblion ymateb i ddatganiad yn hytrach nag ymateb i gwestiynau (Oracy Cambridge, 2020).

    Canfyddiadau cychwynnol

    • Roedd y mwyafrif o’r disgyblion mewn grwpiau addysgu gallu uwch a arolygwyd yn deall ystyr y term llafaredd.
    • Roedd ambell un o’r disgyblion mewn grwpiau gallu is yn deall y term llafaredd, gan gyfeirio at ddarllen ac ysgrifennu, nid siarad.
    • Roedd 52% o’r athrawon o’r farn bod y disgyblion yn gwneud cyfraniadau llafar gweddol neu wael yn y dosbarth.
    • Roedd 76% o’r athrawon o’r farn bod y disgyblion yn cyflwyno i’r dosbarth cyfan yn weddol neu’n wael.
    • Roedd 76% o’r disgyblion o’r farn eu bod yn cyfrannu’n weddol neu’n wael mewn trafodaethau grŵp.
    • Mae 62% o’r disgyblion ym mhob dosbarth a arolygwyd yn amharod i gyfrannu ar lafar mewn sefyllfaoedd dosbarth.
    • Nid yw 57% o’r disgyblion yn hyderus i siarad o flaen y dosbarth.
    • Anaml y bydd 45% o’r disgyblion yn ateb cwestiynau yn yr ystafell ddosbarth.
    • Nodwyd y canlynol gan y staff:
      • Mae disgyblion yn dibynnu ar sgriptiau a sleidiau PowerPoint wrth gyflwyno
      • Mae hyder disgyblion i siarad o flaen eraill yn lleihau wrth iddynt fynd yn hŷn
      • Mae disgyblion yn ei chael hi’n fwyfwy anodd cydweithio â’i gilydd
      • Diffyg sgiliau traddodi
      • Nid oes gan ddisgyblion MAT hyder i siarad o flaen eraill am fod ofn eu cyfoedion arnynt
      • Mae ar ddisgyblion ofn methu
    • Nodwyd y canlynol gan y disgyblion:
      • Nerfus wrth siarad o flaen eraill a grwpiau mawr anghyfarwydd
      • Ofn methu a gwneud rhywbeth yn anghywir
      • Ofn y bydd eu cyfoedion yn chwerthin neu’n gwneud hwyl am eu pennau
      • Yn aml, rhewi oherwydd diffyg hyder

    Cyfyngiadau

    Yn ystod cyfnodau pan oedd y llwyth gwaith yn drwm, roedd cynnwys yr holl staff yn y broses ymchwil gychwynnol yn her oherwydd cyfyngiadau amser. Hefyd, roedd rhoi ymyriadau ar waith mewn modd moesegol mewn cynlluniau gwaith sefydledig yn her ac roedd angen ystyried hyn yn ofalus drwy gydol y broses. Roedd cyfyngiadau amser y diwrnod ysgol wrth gyfweld â’r disgyblion yn ein llesteirio rhag gallu ystyried y dulliau amgen a gododd o’r trafodaethau cychwynnol. P’un a ddylid cyfweld â’r disgyblion fesul un neu mewn grŵp. Mae manteision ac anfanteision i’r ddwy strategaeth. Mae cynnal cyfweliadau mewn grwpiau yn helpu i ysgogi trafodaeth, ond gall olygu bod pwysau gan gyfoedion yn dylanwadu ar farn a safbwyntiau.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    • Roedd man cychwyn yr ymholiad yn gysylltiedig â phroses Hunanwerthuso’r Adran ar gyfer 2018-2019, lle y nodwyd bod llafaredd yn broblem mewn amrywiaeth o adrannau. Mae hunanwerthuso’n adnodd allweddol er mwyn nodi prosiectau ymholi posibl.
    • I ddechrau, roedd y strategaethau ymyrryd yn rhy uchelgeisiol a niferus; mae ymyriadau bach sydd â phwyslais penodol yn fwy effeithiol ac yn haws eu trin o fewn cyfnod y broses ymholi.
    • Maint y sampl o ddisgyblion – os yw’n rhy fawr, bydd llawer o ddata meintiol ac ansoddol, sy’n mynd yn anodd eu trin a’u dadansoddi. Fel arall – os yw’n rhy fach, ni fydd digon o ddata o ansawdd.
    • Mae creu “Gweithgor Dysgu ac Addysgu” er mwyn datblygu’r ymholiad gydag aelodau o bob rhan o’r Sefydliad Dysgu yn gryfder yn y broses ac yn helpu i gynnwys y staff yn eu dysgu proffesiynol.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    BERA, 2018. Ethical Guidelines for Educational Research. 4ydd argraffiad. Llundain: Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (BERA).Kaser, L. a Halbert, J. 2017. The Spiral Playbook : Leading with an inquiring mindset. s.l.: C21 Canada.
    Mercer, N., 2018. The development of Oracy skills in school-aged learners., Caergrawnt: Cambridge University Press.
    Mercer, N. a Mannion, J., 2018. Oracy across the Welsh curriculum, s.l.: s.n.
    Millard, W. a Menzies, L., 2016. Oracy - The State of Speaking in Our Schools. s.l.:Voice 21.
    Oracy Cambridge, 2020. Adnoddau. [Ar-lein]
    Ar gael yn: https://oracycambridge.org/resources/
    [Cyrchwyd 07 Ionawr 2020].

  • Cyswllt

    Andrea Matthews
    Assistant Headteacher
    Amatthews@maestegcs.bridgend.sch.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gyfun gymysg 11-18 cyfrwng Saesneg i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr yw Ysgol Maesteg. Disgyblion o Gwm Llynfi sy'n mynychu'r ysgol. Ar hyn o bryd, mae 1,036 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 142 yn y chweched dosbarth. Mae'r niferoedd hyn yn debyg i'r niferoedd ar adeg yr arolygiad diwethaf ym mis Tachwedd 2012.
    Mae tua chwarter y disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 16.4%. Mae tua hanner y disgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Canran y disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig yw 21.7%, sy'n agos at y cyfartaledd cenedlaethol, sef 22.9%. Tua 1% o'r disgyblion sydd â datganiadau o anghenion addysgol arbennig, sy'n is na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan, sef 2.2%. Mae gan yr ysgol ddarpariaeth ag adnoddau i 10 disgybl ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.
    Mae tua 1% o'r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Daw bron pob un o'r disgyblion o gefndir gwyn Prydeinig. Ychydig iawn o'r disgyblion sy'n siarad Cymraeg yn rhugl.

    Trosolwg ymholiad

    Pa addysgeg y gallwn ei defnyddio i greu dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n barod i fynd i'r brifysgol?

    Cwestiwn Ymholi

    Pa strategaethau addysgegol sy'n effeithiol wrth ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol sy'n barod am y brifysgol neu fyd gwaith?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    1. Adolygiad o Lenyddiaeth: Ymchwilydd Arweiniol i gynnal adolygiad o lenyddiaeth er mwyn cytuno ar yr hyn sy'n nodweddu dysgwr uchelgeisiol.
    2. Grŵp Ffocws: chwe athro sy'n cymryd rhan o'u gwirfodd i drafod eu canfyddiadau o ran yr hyn sy'n nodweddu dysgwr uchelgeisiol. Bydd hyn yn eu helpu i nodi eu dealltwriaeth sylfaenol cyn ymgysylltu â'r adolygiad o lenyddiaeth uchod gan eu galluogi i ymateb i...
    3. Nodi myfyrwyr i gymryd rhan: rydym am ganolbwyntio ar ystod oedran uwch dysgwyr am fod y disgrifiad o ddysgwr uchelgeisiol yn Dyfodol Llwyddiannus yn cyfeirio at ddysgwr ar ddiwedd ei addysg orfodol. Yn anffodus, mae Blwyddyn 11 yn gorfod canolbwyntio ar ffug arholiadau / arholiadau gwirioneddol felly ni allant gymryd rhan ystyrlon yn yr ymchwil, felly Blwyddyn 12 fydd yn cymryd rhan am mai'r myfyrwyr hyn sydd agosaf o ran oedran, ac aeddfedrwydd personol / academaidd, i ddysgwr uchelgeisiol Donaldson.
    4. Holiadur: y chwe athro dan sylw i ymateb i amrywiaeth o gwestiynau yn seiliedig ar synthesis o feini prawf o'r Adolygiad o Lenyddiaeth, a'u barn nhw eu hunain, er mwyn egluro eu canfyddiadau o'r graddau y mae dysgwyr Blwyddyn 12 yn ein lleoliad yn dangos nodweddion dysgwr uchelgeisiol. Cesglir data meintiol ac ansoddol.
    5. Yna, bydd pob athro sy'n cymryd rhan yn nodi'r materion y mae angen mynd i'r afael â nhw ymhlith ei grŵp o ddysgwyr ym Mlwyddyn 12 a bydd yn cynnal Adolygiad o Lenyddiaeth ei hun o ran strategaethau addysgegol i fynd i'r afael â'r angen canfyddedig.
    6. Arsylwi: bydd yr athrawon yn cynllunio ac yn addysgu gwersi gan ddefnyddio'r strategaethau addysgegol a nodwyd er mwyn mynd i'r afael ag anghenion allweddol, ynghyd â'u dysgwyr, ac yn cwblhau Dyddiaduron Adfyfyriol er mwyn cofnodi effaith yr addysgeg hon.
    7. Grwpiau Ffocws: gwahoddir y dysgwyr i rannu eu canfyddiadau o effaith ac effeithiolrwydd yr addysgeg ar eu hangen canfyddedig.
    8. Adroddiad: rhennir holl ganfyddiadau'r athrawon â'r Ymchwilydd Arweiniol, a chânt eu dwyn ynghyd mewn adroddiad terfynol

    Ystyriaethau moesegol

    Rhoddwyd ystyriaeth foesegol i holl gyfranogwyr yr ymholiad hwn. Mae pawb wedi cael llythyrau yn cyflwyno'r prosiect a'r ymchwilydd arweiniol. Eglurwyd y prosiect yn fanwl, gan gynnwys ei ddulliau a'r data rydym yn anelu at eu casglu. Bu'n ofynnol i bawb gwblhau ffurflenni cydsynio yn cadarnhau eu bod yn cymryd rhan o'u gwirfodd, y sicrheir eu bod yn parhau'n anhysbys, a bod ganddynt yr hawl i dynnu'n ôl, ac yn rhoi sicrwydd iddynt y cânt gopi o'r adroddiad ar ddiwedd yr ymholiad.
    Rhoddwyd ystyriaeth foesegol ychwanegol i gynnwys myfyrwyr. Lluniwyd ffurflenni cydsynio a thaflenni gwybodaeth a oedd yn briodol i'w hoedran, a cheisiwyd cydsyniad y rhieni hefyd. Er mwyn osgoi unrhyw fath o ymarfer gwahaniaethol, caiff pob myfyriwr ei wahodd i gymryd rhan yn y grwpiau ffocws – ni cheisir dewis nac eithrio unrhyw ddysgwr am unrhyw reswm.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Yn Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) caiff athrawon eu herio i ddatblygu "Dysgwyr Uchelgeisiol, Galluog" (tudalen 29). Rhoddir meini prawf ar gyfer y math hwn o ddysgwr ond roedd angen Adolygiad o Lenyddiaeth er mwyn nodi cysylltiadau â mynegiannau eraill o ddyhead ar gyfer dysgwyr o'r oedran hwn.
    Gan fod "Dysgwyr Uchelgeisiol, Galluog" yn derm sy'n unigryw i Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) nid oedd modd chwilio am y term ar-lein a dod o hyd i ddiffiniadau cymaradwy lluosog.
    Felly, rwyf wedi chwilio am feini prawf cymaradwy o systemau asesu eraill yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt; o sefydliadau yn amrywio o rai addysgol i'r cyfryngau i sefydliadau busnes (gweler y cyfeiriadau yn adran 9).
    Er mwyn hwyluso'r gwaith cymharu, ac osgoi creu set ddata feichus, rwyf wedi arfer fy marn fy hun o ran pa mor agos mae un maen prawf yn adlewyrchu un arall. Mae hyn yn creu'r posibilrwydd o duedd ac anghywirdeb, ond rwyf wedi ceisio aros mor agos â phosibl at y geiriad gwreiddiol.
    O'r Adolygiad o Lenyddiaeth hwn, gellir priodoli'r rhestr ganlynol o nodweddion i Ddysgwr Uchelgeisiol, Galluog:

    • Maent yn gosod safonau a disgwyliadau uchel iddyn nhw eu hunain
    • Maent yn chwilio am heriau ac yn eu mwynhau, a gallant feddwl yn feirniadol a datrys problemau
    • Maent yn chwilfrydig ac yn ymholgar
    • Maent yn awyddus i gael gwybodaeth a gallant ddod o hyd i wybodaeth a/neu ymchwilio iddi'n effeithiol
    • Gallant gysylltu a chymhwyso'r hyn maent wedi'i ddysgu mewn cyd-destunau gwahanol
    • Gallant gyfathrebu'n effeithiol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, mewn cyd-destunau gwahanol
    • Maent yn rhifog ac yn defnyddio rhifedd yn effeithiol mewn amrywiaeth o gyd-destunau
    • Gallant ddefnyddio TGCh yn effeithiol at amrywiaeth o ddibenion ac mewn cyd-destunau gwahanol
    • Maent yn annibynnol, yn llawn hunangymhelliant ac yn hunanreoli – maent yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau

    Canfyddiadau cychwynnol

    Ar ôl dadansoddi canlyniadau'r arolwg o athrawon, mae'n amlwg nad yw ein hathrawon yn meddwl bod y mwyafrif o'n dysgwyr hŷn yn uchelgeisiol, nac yn barod am y brifysgol na byd gwaith. Fodd bynnag, ceir ystod eang o farn ynghylch pa mor amharod ydynt a pha nodweddion sydd ar goll ganddynt. Mae'r gwahaniaeth barn hwn yn ddefnyddiol i'n hastudiaeth am ei fod yn galluogi pob cyfranogwr i ystyried anghenion penodol ei ddysgwyr a nodi amrywiaeth o ddulliau addysgegol er mwyn mynd i'r afael â'r anghenion hynny.
    Nid ydym wedi cyrraedd y cam lle gwelir canfyddiadau pellach yn dod i'r amlwg.

    Cyfyngiadau

    Ar hyn o bryd mae ambell gyfyngiad amlwg i fformat y gwaith ymholi hwn. Dim ond un ysgol ydym yn cynnal y gwaith ymchwil hwn felly bydd ein canfyddiadau, wrth reswm, yn benodol i'r lleoliad. Dim ond chwe athro sy'n cymryd rhan felly maent yn cynrychioli llai na 10% o staff addysgu Ysgol Maesteg. Maent yn dod o amrywiaeth o Feysydd Dysgu a Phrofiad ond nid yw pob MDPh dan sylw felly ni fydd ein canfyddiadau yn cynrychioli'r ystod ddisgyblaethol lawn. Dim ond o un grŵp blwyddyn y daw'r myfyrwyr, a dim ond un dosbarth fesul pwnc yn y grŵp blwyddyn hwnnw. Maent hefyd yn cynrychioli ein dysgwyr mwy abl, sydd â mwy o gymhelliant. Felly, rydym am ehangu ein hastudiaeth drwy gynnwys ysgolion eraill a meysydd pwnc eraill fel bod ein canfyddiadau yn fwy cynrychioliadol o ddysgwyr yn ein sir.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Nid ydym mewn sefyllfa i allu adrodd ar hyn eto.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    i. CBAC (Gorffennaf 2016). Manyleb Genedlaethol / Sylfaen Bagloriaeth Cymru
    Adalwyd o: https://www.wjec.co.uk/qualifications/welsh-baccalaureate/welsh-bacc-from-2015/ks4-national-foundation/Welsh%20Bacc%20Specification%20KS4%2028% 2010%2014%20-%20Branded..pdf?language_id=1
    ii. Awdurdod Cymwysterau'r Alban (2013). Core Skills Framework: an Introduction Adalwyd o: https://www.sqa.org.uk/sqa/83655.html
    iii. British Council (2013). British Council Core Skills and Competencies
    Adalwyd o: https://www.britishcouncil.org.np/british-council-core-skills-and-competencies
    iv. Cylchgrawn Time (n.d.) How to build a student for the 21st Century
    Cyfeiriad yn: Mytko C (2006) Post-its and Ponderings
    Adalwyd o: http://blog.mytko.org/2006/12/how-to-build-student-for-21st-century.html
    v. The Conference Board of Canada (n.d.) Employability Skills 2000+
    Adalwyd o https://ciel.viu.ca/sites/default/files/esp2000.pdf
    vi. OECD/CERI (2008). 21st Century Skills: how can you prepare students for the new global economy?
    Adalwyd o: https://www.oecd.org/site/educeri21st/40756908.pdf
    vii. OECD (n.d.) Definition and Selection of Competencies
    Adalwyd o: https://www.oecd.org/education/skills-beyond-school/definitionand selectionofcompetenciesdeseco.htm

  • Cyswllt

    Mrs Johanna D'Amato
    jdamato@tredegarschool.cymru

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gymysg cyfrwng Saesneg 11-16 a gynhelir gan awdurdod lleol Blaenau Gwent yw Ysgol Gyfun Tredegar. Mae 688 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd.

    Mae tua 20% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae tua 50% o’r disgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Saesneg yw iaith gyntaf bron pob un o'r disgyblion a dônt o gefndir gwyn Prydeinig. Nid oes yr un o'r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl.

    Mae gan tua 27% o'r disgyblion angen addysgol arbennig. Canran y disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig yw 1.5%.

    Ar hyn o bryd, mae'r ysgol yn y categori Gwyrdd. Mae'r pennaeth wedi bod yn y swydd ers mis Ionawr 2019. Ar hyn o bryd, mae'r uwch dîm arwain yn cynnwys dirprwy bennaeth dros dro a dau bennaeth cynorthwyol. Mae tri arweinydd canol arall sy'n aelodau o'r tîm arwain estynedig am ddwy flynedd. Gwnaethant ddechrau yn y swyddi hyn ym mis Medi 2019.

    Trosolwg ymholiad

    Beth yw'r rhwystrau sy'n effeithio ar gyflawniad bechgyn MAT?

    Cwestiwn Ymholi

    Beth yw'r rhwystrau sy'n effeithio ar gyflawniad bechgyn MAT yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Yn Ysgol Gyfun Tredegar, ymddengys fod y bwlch rhwng bechgyn a merched yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn, yn enwedig ar y lefelau uwch. Gan y dylai deallusrwydd a gallu fod wedi'u rhannu'n gyfartal rhwng y rhywiau, mae'n syndod nad yw cyrhaeddiad y ddau grŵp hyn yn cyd-fynd â hynny. Awgryma gwaith ymchwil fod tangyflawniad yn effeithio ar ddisgyblion o bob gallu, ond ei fod yn fwy cyffredin ymhlith grwpiau o fechgyn MAT. Pam? Yn Ysgol Gyfun Tredegar, rhan o'r rheswm yw bod demograffeg yr ysgol yn un o'r rhanbarthau mwyaf economaidd-gymdeithasol ddifreintiedig yn y DU. Mae hyd at draean o blant y rhanbarth yn byw mewn tlodi plant ac mae eu cyflawniad addysgol ymhell ar ei hôl hi o gymharu â'u cyfoedion mwy breintiedig (Egan, 2017), sy'n fwy amlwg mewn rhanbarthau amrywiol, gan gynnwys Tredegar. Felly, os mai un o'r rhesymau dros dangyflawniad bechgyn MAT yn Ysgol Gyfun Tredegar yw demograffeg, beth yw'r rhwystrau eraill sy'n effeithio ar allu'r bechgyn hyn i gyrraedd a gwireddu eu gwir botensial llawn?
    Sbardunwyd yr ymholiad hwn gan y cwestiynau canlynol:

    • Pa heriau y mae bechgyn MAT yn eu hwynebu?
    • Pam mae bechgyn MAT yn Ysgol Gyfun Tredegar yn tangyflawni?
    • Pa strategaethau sy'n effeithiol wrth gefnogi disgyblion o'r fath?
    • Beth y gallwn ei wneud yn Ysgol Gyfun Tredegar er mwyn helpu i chwalu'r rhwystrau?

    Ystyriaethau moesegol

    Dilynwyd y prosesau moesegol ar gyfer ymholi a amlinellwyd gan Brifysgol Met Caerdydd. Hefyd, rhoddwyd gwybodaeth i'r holl gyfranogwyr a chafwyd cydsyniad ganddynt.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Roedd y gwaith ymchwil cynnar yn y maes hwn yn awgrymu y dylem fod yn gwneud mwy er mwyn helpu i ‘gau'r bwlch’ drwy ddefnyddio strategaethau addysgu, cynnwys a hyd yn oed iaith sy'n fwy addas i fechgyn. Yn ôl Mark Roberts yn ei flog, ‘Boys engagement in the classroom’, mae bechgyn yn mwynhau cystadleuaeth – grwpiau yn erbyn ei gilydd, tablau cynghrair gwaith cartref ac ati. Dywed Roberts fod angen i athrawon ddod o hyd i'r ‘gwryw alffa’ yn y grŵp, dwyn perswâd arno, ac yna bydd y gweddill yn ei ddilyn. “We need to lower our expectations for boys and then they will perform.” (Mark Roberts, Mai 2016).

    Dadleuodd Matt Pinkett (2016) mai un o'r rhesymau dros dangyflawniad bechgyn oedd bod athrawon wedi bod yn canolbwyntio cymaint ar fynd i'r afael â'r camweddau gresynus yn erbyn merched mewn cymdeithas, yn y cyfryngau ac mewn llenyddiaeth ers canrifoedd, a brwydro yn erbyn y camweddau hynny a'u dad-wneud, a'u bod yn dieithrio'r bechgyn yn anfwriadol. Fodd bynnag, nid oedd yr athrawon yn fy ngrŵp ffocws o'r farn bod hyn yn un o'r rhesymau dros dangyflawniad bechgyn yn Ysgol Gyfun Tredegar.

    Gofynnodd Reichart a Hawley (2010) i'r athrawon ddisgrifio gwers sy'n arbennig o effeithiol gyda bechgyn. O'r atebion, roedd yn ymddangos bod rhai themâu penodol yn ymddangos dro ar ôl tro ac roedd y gwersi hyn yn cynnwys y nodweddion canlynol:

    • Y cyfle i godi o'u seddi a symud o gwmpas
    • Cystadleuaeth
    • Myfyrwyr yn addysgu ei gilydd
    • Defnyddio technoleg
    • Gemau, chwarae rôl neu ddadleuon
    • Pynciau sy'n berthnasol i'w bywydau
    • Digwyddiadau annisgwyl neu rywbeth arall newydd.

    Fodd bynnag, nid oedd yn ymddangos bod yr un o'r strategaethau hyn wedi gweithio ac, fel mae gwaith ymchwil mwy diweddar wedi dangos, dim ond ychwanegu at y broblem y mae'r newid hwn i ffordd o addysgu sy'n fwy ‘addas i fechgyn’ wedi'i wneud.
    Mae Matt Pinkett yn dadlau ein bod yn gwneud cam â bechgyn drwy newid ein strategaethau i'r hyn rydym yn credu y byddai'n ennyn eu diddordeb yn fwy, fel gwneud y dysgu'n berthnasol i fechgyn. Rydym ni athrawon yn rhoi mwy o bwysau arnynt i wireddu syniadau rhagdybiedig ynglŷn â'r ffordd y mae bechgyn yn ymddwyn. Drwy newid darnau darllen mewn gwersi Llenyddiaeth Saesneg – er enghraifft, cael gwared ar straeon serch a allai addysgu cryn dipyn i fechgyn am eu teimladau a sut i'w mynegi a rhoi cyfleoedd inni siarad â bechgyn am ddangos emosiynau yn lle gwylltio, a defnyddio darnau darllen ‘addas i fechgyn’ sy'n sôn am ymladd a brwydrau yn eu lle – rydym yn creu amgylchedd lle na all bechgyn fod yn nhw eu hunain. Drwy ganolbwyntio ar y golygfeydd ymladd, rydym yn gofyn i fechgyn ganolbwyntio ar rannau traddodiadol wrywaidd o'r llyfr.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Cynhaliais gyfweliad â grŵp ffocws o 10 athro er mwyn gofyn iddynt a oes gennym ganfyddiadau negyddol o fechgyn. Cadarnhaodd y canlyniadau fod hyn yn wir a'n bod wedi creu diwylliant lle y bydd y bwlch yn parhau am byth, ni waeth faint o strategaethau y rhown gynnig arnynt, am ei bod yn amhosibl i fechgyn berfformio cystal â merched.
    Datgelodd ymatebion eraill fod athrawon yn gweld merched sy'n rhagori'n academaidd fel merched nodweddiadol, ond yn gweld bechgyn sy'n tangyflawni fel bechgyn diog, nodweddiadol. Roedd bechgyn sy'n llwyddo'n academaidd yn cael eu hystyried yn anomaleddau ac, ar y cyfan, roedd achosion o ferched hynod academaidd yn tangyflawni yn cael eu gweld fel ‘eithriad’.
    Roedd yr athrawon yn fy ngrŵp ffocws i gyd yn tueddu i gysylltu bechgyn â thangyflawniad. Gwnaethant hefyd ddweud bod hyn yn ‘rhan o gyfansoddiad bachgen’, eu bod yn ‘cael eu geni'n wahanol i ferched’ ac nad oes ganddynt yr un ‘awydd, angen nac ysgogiad â merched am lwyddiant academaidd.’
    Pan ofynnais i'r bechgyn ym mlwyddyn 11 pa mor bwysig oedd ennill iddynt, dywedodd pob un ohonynt ei fod yn bwysig iawn. Yn ôl y bechgyn hyn, “mae'n amlwg mai menyw wnaeth fathu'r dywediad ‘cymryd rhan sy'n cyfrif, nid ennill’ oherwydd fyddai'r un dyn byth yn dweud hyn!”
    Gwnaeth y grŵp ffocws o ddisgyblion blwyddyn 11 a gyfwelwyd ategu'r gwaith ymchwil. Nid oeddent wedi ystyried parhau â'u haddysg ar ôl ysgol o gwbl a dywedodd llawer ohonynt y byddent yn fwy na pharod i ddilyn ôl troed y dynion yn eu teuluoedd a chyflawni prentisiaethau, ymuno â'r byd gwaith neu weithio mewn ffatri, gan mai dyna'r norm. Daw rhai o'r bechgyn hyn o deuluoedd un rhiant ac felly nid oes model rôl gwrywaidd cadarnhaol o unrhyw fath yn y cartref y gallant ei ddilyn.
    Fodd bynnag, cyfeiriwyd at hyn yn fy ngrŵp ffocws gydag athrawon hefyd, a dywedodd un athro, am un o'r bechgyn MAT ym mlwyddyn 11, “wnaiff e ddim ennill y graddau A* y mae ganddo'r potensial i'w hennill oherwydd does dim ots ganddo ef, a does dim ots gan neb gartref chwaith, felly byddan nhw'n hapus pan gaiff e lond bag o raddau C oherwydd, iddyn nhw, bydd hynny'n ardderchog!”
    Nid yw'n ymddangos bod pontio'n rhwystr sy'n effeithio ar ein disgyblion yma. Roedd ein grŵp ffocws o fechgyn MAT blwyddyn 7 o'r farn eu bod wedi pontio'n ddidrafferth iawn o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Mae gennym raglen bontio ardderchog yma, fel y pwysleisiodd Estyn mewn adroddiad astudiaeth achos diweddar. Mae ein prosiect MAT cymunedol gyda'n hysgolion clwstwr cynradd wedi bod o gymorth aruthrol o ran sicrhau nad yw cyflawniad disgyblion yn gostwng a bod y disgyblion hynny'n cael eu hadnabod yn gynnar.
    Yn ddiddorol ddigon, nid oedd y disgyblion blwyddyn 7 a gyfwelwyd yn arddel llawer o'r un safbwyntiau â'n bechgyn blwyddyn 11. Yn wir, roedden nhw'n hoff o gael eu cydnabod fel disgyblion MAT. Awgryma hyn felly fod rhywbeth yn digwydd yn ein hysgol ni ar ôl i ddisgyblion ymuno ym mlwyddyn 7 a chyn iddynt gyrraedd blwyddyn 11. Mae hyn yn deillio o ddiwylliant yn yr ysgol, a'r brif ffordd y gallwn chwalu rhwystr pwysau gan gyfoedion yw newid y diwylliant nes bod “clyfar yn cŵl!”.

    Cyfyngiadau

    Yn y rhan nesaf o'm hymholiad, byddaf yn ymchwilio i weld pa strategaethau sy'n effeithiol o ran cefnogi disgyblion o'r fath a threialu'r strategaethau hyn gyda'r grŵp hwn o fyfyrwyr agored i niwed er mwyn ceisio ystyried ffyrdd o chwalu'r rhwystrau hyn yma yn Ysgol Gyfun Tredegar. Mae'n hollbwysig ein bod yn newid diwylliant ein hysgol. Rhaid inni greu ethos o ragoriaeth i bawb yma yn Ysgol Gyfun Tredegar; un sy'n mynd i'r afael â'r agweddau niweidiol ynglŷn â gwrywdod sy'n bodoli yma, yn ehangu gorwelion ein disgyblion ac, yn bwysicaf oll, yn newid agweddau. Rwy'n sicr y bydd hyn, nid yn unig yn chwalu'r rhwystrau y mae ein bechgyn MAT yn eu hwynebu, ond hefyd yn arwain at welliant drwy'r ysgol gyfan.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Ymddengys fod bechgyn MAT yn wynebu'r heriau canlynol:

    • Rydym yn atgyfnerthu'r syniad bod gan ein bechgyn rôl i'w chwarae a'i chyflawni – rôl sy'n golygu gwrywdod ar bob cyfrif ac, felly, y ffaith eu bod yn ceisio gwireddu'r stereoteip hwn yw un o'r rhesymau pam y maent yn mynd ar ei hôl hi ac yn tangyflawni.
    • Athrawon yn cyfyngu ar y cwricwlwm a addysgir iddynt, sy'n cyfyngu ar eu profiadau diwylliannol ac yn mynd â nhw y tu hwnt i'w rolau gwrywaidd nodweddiadol.
    • Diffyg her a disgwyliadau isel athrawon ar gyfer bechgyn.
    • Effaith Golem, sydd wedi cael ei chreu fel rhan o ddiwylliant ein hysgol, sef math o broffwydoliaeth hunangyflawnol lle mae agweddau negyddol ynglŷn â gallu neu botensial academaidd disgybl yn arwain yn anochel at ddeilliannau gwael.
    • Natur gystadleuol bechgyn.
    • Demograffeg - byw yn un o'r ardaloedd mwyaf economaidd-gymdeithasol ddifreintiedig ac effeithiau hirdymor hyn ar gyflawniad a dyheadau bechgyn.
    • Diffyg hunan-werth.
    • Pwysau gan gyfoedion
    • Diwylliant ysgol

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    n/a

  • Cyswllt

    Sarah Clement
    sarah.clement@ypant.co.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol cyfrwng Saesneg 11-18 a gynhelir gan awdurdod lleol
    Rhondda Cynon Taf yw Ysgol Gyfun Y Pant. Mae'n gwasanaethu ardaloedd Pont-y-clun, Tonysguboriau, Dolau, Brynna a Llanhari. Mae 1,271 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 216 yn y chweched dosbarth. Mae'r niferoedd hyn yn debyg i'r niferoedd ar adeg yr arolygiad diwethaf yn 2011.
    Mae tua 12% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n is na'r
    cyfartaledd cenedlaethol mewn ysgolion uwchradd, sef 17.1%. Mae tua 3.5% o'r disgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Saesneg yw iaith gyntaf bron pob un o'r disgyblion a dônt o gefndir gwyn Prydeinig.
    Ychydig iawn o'r disgyblion sy'n siarad Cymraeg yn rhugl. Canran y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yw tua 18%. Mae hyn yn is na'r ffigur cenedlaethol, sef 25.1%. Cyfran y disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig yw 1%, sy'n is na'r ffigur cenedlaethol, sef 2.4%.

    Trosolwg ymholiad

    Beth yw effaith dull 'iaith ddysgu' ar sgiliau trawsgwricwlaidd disgyblion B10?

    Cwestiwn Ymholi

    Beth yw effaith dull 'iaith ddysgu' ar sgiliau trawsgwricwlaidd disgyblion CA4?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Mae dewis y dull o gasglu data yr un mor bwysig â dewis dull ymchwil priodol, gan ei fod yn caniatáu i'r ymchwilydd gasglu data sy'n ystyrlon ac felly'n gymaradwy â chanfyddiadau'r adolygiad o lenyddiaeth. Mae sawl mantais i ddefnyddio dulliau cymysg ac ymddengys mai dyma sydd fwyaf addas ar gyfer y gwaith ymchwil hwn. Yn ôl Denscombe (2014) a Bergman (2008), gall defnyddio dulliau cymysg wella'r gwaith ymchwil drwy ddarparu darlun llawnach a mwy cyflawn o safbwyntiau gwahanol. Yn ôl Amaratunga et al (2002), ni chaiff yr holl elfennau eu hystyried yn aml os mai dim ond un dull a ddefnyddir. Mae Banister et al (2011), sy'n cefnogi'r farn honno, yn awgrymu y gellir meithrin mwy o ddealltwriaeth o'r pwnc ymchwil drwy ddefnyddio dulliau cymysg.
    Nod y gwaith ymchwil hwn yw casglu data meintiol. Gwneir hyn drwy olrhain cynnydd myfyrwyr, drwy ddadansoddi eu perfformiad ar bob cwestiwn cyn, yn ystod ac ar ôl i'r gwaith ymchwil fynd rhagddo.
    Hefyd, caiff data ansoddol eu casglu drwy gynnal cyfweliadau a defnyddio grwpiau ffocws. Bydd y cwestiynau'n amrywio er mwyn sicrhau bod pob cyfranogwr yn gallu cymryd rhan yn y cyfweliad (sgwrs sy'n ystyriol o ddisgyblion i'r disgyblion ac iaith broffesiynol ar gyfer y staff). Caiff y cwestiynau penagored eu paratoi ymlaen llaw, ond bydd y cyfwelydd hefyd yn barod i ganiatáu i'r cyfweliad fynd ar drywydd gwahanol, lle y bo'n briodol.
    Yn y grwpiau ffocws, tasg y prif ymholwr fydd sicrhau bod y myfyrwyr a'r staff yn aros yn berthnasol ac yn canolbwyntio ar y dasg. Un enghraifft o gwestiynu er mwyn sicrhau bod y trafodaethau yn ystyrlon ac yn canolbwyntio ar y dasg yw, 'Beth yw ystyr y sgìl 'cymharu' yn eich barn chi? Allwch chi roi enghraifft o'r ffordd y byddech chi'n addysgu hyn yn eich ystafell ddosbarth?' ar gyfer y staff ac 'Os yw eich athro yn gofyn i chi 'gymharu' rhywbeth, beth mae hynny'n ei olygu? Ym mha ffyrdd rydych chi'n cymharu pethau mewn gwersi?' ar gyfer disgyblion. Caiff gwybodaeth o'r grwpiau ffocws ei chasglu gan ddefnyddio diagramau a nodiadau (i'w cwblhau gan y cyfranogwyr ar bapur siwgr), a chaiff is-benawdau eu darparu er mwyn osgoi defnyddio cwestiynau arweiniol ac er mwyn casglu cymaint o ddata diduedd â phosibl. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod modd cymharu'r data a gesglir gan y staff a'r disgyblion.

    Ystyriaethau moesegol

    Rwyf wedi ystyried y caniatâd y bydd ei angen arnaf er mwyn cynnal fy ngwaith ymchwil. Rwyf wedi sicrhau cytundeb fy mhennaeth (rhanddeiliad), gan y bydd fy astudiaeth yn cael ei chynnal ar safle'r ysgol. Rwyf wedi defnyddio'r daflen wybodaeth a'r daflen gydsynio i gyfranogwyr a ddarparwyd gan Met Caerdydd.
    Byddaf yn sicrhau cytundeb nifer o unigolion: B10 (5 disgybl) a B11 (3 disgybl) sy'n aelodau o grŵp ffocws, rhieni a gwarcheidwaid, aelodau o staff yr adran Saesneg a chydweithwyr o bob Maes Dysgu a Phrofiad.
    Cyn hyn, ceisir caniatâd gan 'borthgeidwaid' sefydliadau, fel yr eglurir gan Cohen (2002), sy'n nodi na all ymchwilwyr ddisgwyl mynd i mewn i sefydliadau gwahanol 'fel mater o hawl'.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Yn The Learning Skills Curriculum: raising the bar, closing the gap at GCSE (2018), mae Mannion, McAllister a Mercer yn trafod canfyddiadau'r Cwricwlwm Ysgolion Dysgu. Fel rhan o'r astudiaeth, a gynhaliwyd mewn tri cham, rhoddwyd strategaethau ysgol gyfan ar waith i hyrwyddo sgiliau trosglwyddadwy. Gallai'r sgiliau hyn, yn eu tro, gael eu cymhwyso at bob pwnc ym mhob rhan o'r ysgol a dangoswyd gwelliannau sylweddol yn y broses o ddysgu pynciau ymhlith cohort yr Ysgol Ddysgu. Dadleuant fod y sgiliau, yr agweddau a'r arferion a ddatblygwyd gan fyfyrwyr wedi caniatáu iddynt ragori mewn meysydd pwnc unigol gan y gallent gymhwyso'r wybodaeth a gawsant at y sgiliau dysgu. Amlinellodd Mannion a Mercer (2016) y ffordd roedd myfyrwyr a gymharwyd â chohort cyfatebol, reoledig, yn gwneud mwy o gynnydd a bod hynny'n fwyaf amlwg ymhlith myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig.
    Fodd bynnag, mae Tricot a Sweller (2014) yn dadlau nad yw addysgu sgiliau cyffredinol, trawsgwricwlaidd, yn gweithio gan fod gwybodaeth addysgol, a geir drwy addysgu, yn benodol i barthau yn unig. Yn ôl Tricot a Sweller, dim ond os caiff ei chymhwyso at dasgau penodol, dros gyfnod o amser, y mae gwybodaeth sy'n benodol i barthau yn fuddiol, gan y bydd wedyn yn arwain at gamau gweithredu. Felly, yn ogystal â dysgu'r theorem, rhaid i'r sawl sy'n datrys problemau allu nodi'r sgìl i'w ddefnyddio hefyd. Dadleuant nad yw addysgu sgiliau cyffredinol yn gweithio heb fod gan fyfyrwyr wybodaeth benodol i bwnc yn gyntaf. Ni all myfyrwyr feddwl yn feirniadol oherwydd diffyg gwybodaeth ac felly dylid rhoi pwyslais ar ddysgu gwybodaeth sy'n benodol i barth. Daeth Higgins (2007) hefyd i'r casgliad nad oedd mentrau dysgu mawr o'r fath yn cael unrhyw effaith amlwg ar gyflawniad academaidd, boed hynny'n effaith gadarnhaol neu negyddol.
    Fodd bynnag, mae Mannion a Mercer yn herio'r farn hon gan fod y Cwricwlwm Sgiliau Dysgu bellach wedi'i werthuso dros gyfnod helaeth (8 mlynedd), ac mae'r data meintiol a gasglwyd yn cynnig data y gellir eu cymharu â'r rhai sy'n gysylltiedig â'r astudiaeth a chohort â chyfansoddiad tebyg. Yn ystadegol, gwelwyd cynnydd o 10 y cant ymhlith y rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth a oedd yn gallu cyflawni eu gradd darged neu ragori arni. Hefyd, dangosodd gwaith dadansoddi parhaus fod patrymau cyson o gyflawniad o fewn y cohortau Sgiliau Dysgu, gan olygu bod addysgu sgiliau trosglwyddadwy wedi gwella cyrhaeddiad disgyblion yn y pen draw.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Cymerodd pob un o'r chwe aelod o staff a oedd yn aelodau o'r grŵp ffocws ran yn y drafodaeth. Roedd ganddynt ddealltwriaeth glir o'r ffordd roedd yr ysgol yn asesu disgyblion a gallent roi enghreifftiau o'r ffyrdd roeddent yn addysgu yn eu maes pwnc. Rhoddodd y staff amlinelliad o'r asesiadau sy'n cael eu rhoi i ddisgyblion ar ddiwedd CA4, ond nid oedd rhai ohonynt yn gallu rhoi enghreifftiau o bob un o'r sgiliau a addysgir yn eu pwnc. Y sgiliau gwreiddiol a nodwyd oedd: nodi, trafod, cymharu, egluro, syntheseiddio, gwerthuso. O blith y chwe aelod o staff, cynigiodd rhai ohonynt eiriau allweddol amgen nad oedd eu disgyblion yn eu deall, ond roedd rhywfaint o ddryswch ynglŷn ag addysgu ystyr y gair yn hytrach na'r sgìl. Rhoddodd tri aelod o'r staff enghreifftiau o'r ffyrdd y maent yn addysgu sgiliau, gan gynnwys tablau, diagramau Venn a chefn wrth gefn. Roedd gan ddau aelod o'r staff ddealltwriaeth glir ac roeddent yn gallu nodi sgiliau a addysgir mewn pynciau eraill, naill ai o'r hyn roedd y disgyblion wedi'i ddweud wrthynt ('ry'n ni'n gwneud hyn mewn gwersi Gwyddoniaeth') neu'n seiliedig ar y drafodaeth yn y grŵp ffocws.
    Roedd disgyblion Blwyddyn 10 yn gallu trafod yr is-benawdau a ddarparwyd. Defnyddiwyd yr un is-benawdau â'r rhai a roddwyd i'r staff ond fe'u heglurwyd gan ddefnyddio 'cwestiynau sy'n ystyriol o ddisgyblion' a amlinellwyd yn gynharach. Roedd y pum disgybl yn gallu rhoi cyfystyron ar gyfer y sgiliau a fyddai'n berthnasol i rai pynciau eraill. Roedd y rhain yn cynnwys geiriau fel 'categoreiddio'. Hefyd, penderfynodd y disgyblion nodi enghreifftiau o'r ffyrdd roedd sgiliau'n cael eu haddysgu ym mhob pwnc a'r tasgau penodol a oedd fwyaf defnyddiol yn eu barn nhw. Tynnodd un disgybl lun o ddiagram Venn, gan nodi mai dim ond ar gyfer cymharu dau beth y mae'n ddefnyddiol, am ei fod yn mynd yn ddryslyd os eir ati i gymharu tri pheth neu fwy. Wrth ystyried tri pheth neu fwy (synthesis), roedd yn well ganddynt ddefnyddio'r dull tabl, y nodwyd ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn pynciau fel gwyddoniaeth, Saesneg, mathemateg ac astudiaethau crefyddol.
    Roedd y disgyblion yng ngrŵp ffocws Blwyddyn 11 yn ei chael hi'n anoddach cyflawni'r dasg, am eu bod yn ei chael hi'n anodd nodi'r sgiliau trawsgwricwlaidd. Roedd y sgiliau lefel uwch fel gwerthuso yn her am nad oeddent yn deall ystyr y gair. Fodd bynnag, yn yr un modd â disgyblion Blwyddyn 10, gwnaethant lwyddo i symleiddio'r sgiliau eraill a chynnig enghreifftiau o'r ffyrdd y cânt eu haddysgu mewn pynciau gwahanol. Rhoddodd Blwyddyn 11 hefyd enghreifftiau penodol i bynciau o'r ffordd roedd pob sgìl yn cael ei addysgu, a oedd yn gymaradwy â'r enghreifftiau a roddwyd gan ddisgyblion Blwyddyn 10. Roedd gan y ddau grŵp ffocws ddealltwriaeth glir o sgiliau a gallent drafod sut roedd sgiliau'n cael eu haddysgu mewn gwahanol rannau o'r cwricwlwm. Dechreuodd y disgyblion adnabod patrymau trawsgwricwlaidd.

    Cyfyngiadau

    Ymhlith y cyfyngiadau roedd rhagdybiaeth gan yr ymchwilydd ynglŷn â'r wybodaeth sydd gan y staff. Er enghraifft, cynhaliwyd yr ail grŵp ffocws gan gymryd y byddai'r staff a'r ymchwilydd yn gallu nodi'r sgiliau a addysgir mewn meysydd pwnc penodol.
    Roedd rheoli amser yn gyfyngiad arall. Yn aml, roedd staff yn ymgymryd â sawl rôl wahanol ac felly roedd hi'n anodd trefnu amser o amgylch eu cyfrifoldebau ychwanegol lle y gallai pob aelod ddod i'r cyfarfod. Hefyd, er mwyn dewis amrywiaeth o ddisgyblion ar gyfer y grwpiau ffocws, bu'n rhaid i mi ddewis o blith dau grŵp blwyddyn. Unwaith eto, treuliwyd mwy o amser yn gwneud hyn gan y bu'n rhaid i'r disgyblion gael eu rhannu'n ddau grŵp.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Hyd yma, canfu'r astudiaeth achos hon fod rhywfaint o ddryswch ynghylch addysgu terminoleg ac addysgu sgiliau. Gallai hyn fod oherwydd cyfyngiadau amser a rhagdybiaeth yr ymholwr arweiniol. O ganlyniad, dylid neilltuo amser ychwanegol yn y dyfodol i gyfarfod ag aelodau'r grŵp ffocws ymlaen llawn er mwyn egluro'r gwaith ymchwil iddynt a sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth glir o'r gwaith hwnnw cyn iddynt gymryd rhan yn y grŵp ffocws.
    Hefyd, byddai cynnal astudiaeth fwy penodol (llai o sgiliau) er mwyn datblygu strategaethau addysgu manwl yn helpu gyda chyfyngiadau amser ac yn caniatáu i bob sgìl gael ei berffeithio cyn mynd ati i'w ddefnyddio'n ehangach. Yna, gallai sgiliau ychwanegol gael eu hychwanegu, gan greu iaith ddysgu fanwl a allai gael ei chymhwyso at bob pwnc yn y pen draw.
    Canfu'r astudiaeth achos hefyd ei bod hi'n anodd gweithio ar draws y Maes Dysgu a Phrofiad yn syth gan fod llawer o syniadau a oedd yn ei gwneud hi'n anodd mynd ati i grynhoi a chymharu. O ganlyniad, byddai wedi bod yn well cyfyngu ar nifer y staff a oedd yn gysylltiedig â chamau cyntaf y gwaith ymchwil, oherwydd gallai wedyn fod wedi'i gyflwyno ar draws y Maes Dysgu a Phrofiad a'r ysgol gyfan yn y pen draw.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    n/a