English

Hwb

  • Cyswllt

    Lynsey McCrohon 01874 623549 pennaeth@priory.powys.sch.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Priordy yn Aberhonddu, Powys. Mae 149 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, gan gynnwys 25% sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac 17% sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Hefyd, daw 8% o'r plant o gartrefi lle mae un neu fwy o'r rhieni'n gweithio i'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Priordy hefyd yn Ysgol Hyfforddi Mantell yr Arbenigwr ac, fel y cyfryw, mae'n cynnal diwrnodau astudio unwaith y tymor er mwyn i ymwelwyr arsylwi ar weithgaredd Mantell yr Arbenigwr a chymryd rhan ynddo. Mae'r ysgol hefyd yn arwain diwrnodau HMS ar gyfer grwpiau o athrawon sydd am ddatblygu'r addysgeg ymhellach. Yn fwy diweddar, mae athrawon wedi ymgymryd ag ymchwil broffesiynol mewn datblygu dull Reggio Emilia y tu hwnt i ddisgyblion 7 oed hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2.

    Trosolwg ymholiad

    Archwilio dylanwad ac effaith rôl a dylanwad yr ‘oedolyn arall’ (gan ddefnyddio grŵp sy'n cael ei olrhain o fechgyn â chyflawniad isel – Blwyddyn 5). A yw'r ‘oedolyn arall’ yn hybu lefelau dyfnach o lesiant, cymhelliant a diddordeb? Mae ‘oedolyn arall’ yn yr achos hwn yn cyfeirio'n benodol at addysgeg Reggio Emilia.

    Cwestiwn Ymholi

    I ba raddau y mae'r ‘oedolyn arall’ yn hybu lefelau dyfnach o les, cymhelliant ac ymgysylltu? Mae ‘oedolyn arall’ yn yr achos hwn yn cyfeirio'n benodol at addysgeg Reggio Emilia.

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Yn dilyn menter ysgol gyfan, er mwyn datblygu amgylcheddau dysgu sy’n ystyriol o’r disgyblion ac sy’n eu galluogi, bydd y tîm addysgu yn mynd ati nawr i archwilio dylanwad ac effaith yr ‘oedolyn arall’ / aelodau o’r gymuned ar ysbrydoli dysgwyr, ymgysylltu â nhw a’u hannog i ddilyn diddordebau newydd. Bydd deialog broffesiynol reolaidd rhwng y staff, gan archwilio ethos, gweledigaeth ac addysgeg Reggio Emilia, yn sicrhau bod y staff yn ymchwilio’n barhaus i’r cyfleoedd yn y gymuned i herio dysgwyr ymhellach, yn ogystal â chyflwyno diddordebau newydd i ddysgwyr a oedd yn isel eu cymhelliant o’r blaen. Gofynnir i’r dysgwyr gadw blog/dyddiadur fideo er mwyn cofnodi’r ymholiad. Caiff ceisiadau am gymorth cymunedol eu gwneud drwy wefan yr ysgol, cyfrifon Twitter a Facebook, hysbysfwrdd cymunedol a chysylltiadau â'r eglwys a’r fyddin. Caiff y polisi/gofynion diogelu eu dilyn bob amser. Yn benodol, y gobaith yw y gallwn ymgysylltu â modelau rôl cadarnhaol er mwyn datblygu ffitrwydd, sgiliau coginio, sgiliau gwaith saer, cerddoriaeth a llawer mwy. Y bwriad yw y caiff atelier (stiwdio gelf) ei sefydlu yn nes ymlaen yn yr ymholiad, er mwyn annog creadigrwydd a dewis rhydd o ddeunyddiau celf a bydd atelierista (addysgwr â chefndir yn y celfyddydau) yn gweithio gyda’r staff a’r dysgwyr i ddogfennu’r hyn y bydd y disgyblion yn ei ddysgu ac adfyfyrio arno.Bydd yr ymholiad hwn yn canolbwyntio’n benodol ar grŵp o fechgyn ym Mlwyddyn 5 y mae eu cyflawniad a’u hunan-barch yn isel. Gan ddefnyddio Graddfa Leuven ar gyfer lles a Model Atyniad Dorothy Heathcote, ynghyd â llais y disgybl, ‘oedolyn arall’ ac adborth gan rieni, caiff taith y dysgwyr ei dogfennu a’i holrhain yn barhaus drwy gydol y prosiect. Caiff y dysgwyr eu cyfweld ar ddechrau ac ar ddiwedd y prosiect ymholi er mwyn canfod a yw’r profiad hwn wedi effeithio ar eu lles, eu cymhelliant a’u hagweddau at ddysgu.Rhaid i’r staff sicrhau eu bod yn creu amgylchedd lle mae deialog gyson â’r ‘oedolion eraill’ a’r gymuned. Bydd cyfathrebu’n glir yn sicrhau y gall yr athro dosbarth a’r oedolion dywys y disgyblion yn effeithiol drwy eu chwilfrydedd naturiol, gan gynnig damcaniaeth a her i ddatrys problemau.

    Ystyriaethau moesegol

    • Wrth drafod â’r staff a oedd yn rhan o’r ymholiad, cafodd canllawiau eu rhannu.
    • Bydd y plentyn cyfan yn cael ei ystyried a bydd pob un o’r disgyblion sy’n rhan o’r ymholiad yn cael gwybod y gallant dynnu’n ôl unrhyw bryd.
    • Caiff yr ymholiad ei arwain gan y plentyn a’i ddiddordebau.
    • Gofynnir am gydsyniad llawn gan y disgyblion, eu rhieni a’r ‘oedolion eraill’.
    • Ni fydd yr ‘oedolyn arall’ yn cael tynnu ffotograffau heb gael caniatâd ymlaen llaw gan y disgyblion, y rhieni a’r staff.
    • Ni chaiff yr un o’r disgyblion eu henwi ac ni fydd modd eu hadnabod yn y nodiadau ymchwil.
    • Rhennir data â phartïon sydd â diddordeb, gyda chydsyniad y disgyblion a’u rhieni/gofalwyr.
    • Rhoddwyd gwybod i bob cyfranogwr y byddai ymweliadau â’r ysgol, nodiadau astudiaethau achos, fideos/ffotograffau yn cael eu defnyddio i gofnodi/cyfleu’r ymholiad ac y gallent dynnu’n ôl unrhyw bryd (gan gynnwys y staff).

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Caiff gwaith ymchwil parhaus yn yr ysgol ei gefnogi gan ‘Lyfrgell Datblygiad Proffesiynol’ sy’n cynnwys llenyddiaeth a ddewiswyd er mwyn helpu’r staff i ddeall gweledigaeth ac ethos yr ysgol. Mae’r llenyddiaeth sy’n cefnogi dealltwriaeth o’r ymholiad hwn yn cynnwys:

    • The Hundred Languages of Children: The Reggio Emilia Experience In Transformation, gan Loris Malaguzzi. Canllaw cyfeirio cyflawn ar waith ysgolion Reggio Emilia.
    • Art And Creativity In Reggio Emilia: Exploring The Role And Potential Of Ateliers In Early Childhood Education, gan Vea Vecchi. Enghraifft ardderchog sy’n edrych yn agos ar rôl yr Atelier a’r Atelierista. Ysgrifennwyd y llyfr gan Vea Vecchi, sef un o’r Atelieristas cyntaf a benodwyd yn ysgol Reggio yn y 70au. Mae’n gyfuniad o gofiant, sgwrs ac adfyfyrdod. Yn bwysicaf oll, mae’n ystyried ac yn disgrifio’n fanwl y gydberthynas rhwng addysgwr yn y celfyddydau a’r ysgol a’i hathrawon.
    • This Much I Know About Love Over Fear… Creating A Culture For Truly Great Teaching, gan John Tomsett.
    • Interacting or Interfering? Improving Interactions In The Early Years, gan Julie Fisher
    • Mantle of the Expert – A Transformative Approach To Education, gan Tim Taylor.

    Cyngor a ysgrifennwyd gan blant Reggio i groesawu teuluoedd newydd i Ysgol Diana yn Reggio Emilia. Ymhlith y negeseuon/themâu cyffredin a ddaw i’r amlwg o’r testunau mae:

    • Pwysigrwydd ANFERTHOL cydberthnasau dwyffordd sy’n llawn parch mewn unrhyw ystafell ddosbarth weithredol rhwng oedolion a phlant/pobl ifanc.
    • Galluogi amgylcheddau dysgu i rymuso dysgwyr a chreu ymreolaeth yn yr ystafell ddosbarth. Y gwerth y bydd dysgwyr yn ei roi ar yr amgylchedd os ydynt wedi cyfrannu at ei ddylunio, gofalu amdano a gwneud newidiadau iddo.
    • Mae angen i arweinwyr ysgolion edrych y tu hwnt i’r set sgiliau mewn ysgol. Mynd ati i geisio cymorth gan arbenigwyr a all roi cymorth pellach i’r dysgwyr yn ogystal â helpu i ddogfennu’r daith ddysgu.
    • Pwysigrwydd cymuned sy’n buddsoddi yn ei dyfodol.- Pwysigrwydd AMSER: amser i siarad, amser i adfyfyrio, amser i ffurfio cysylltiad.
    • Ymddiriedaeth, gwyleidd-dra a chyfleoedd i chwarae’n naturiol, i fod yn chwilfrydig ac yn greadigol i bob plentyn ac aelod o staff!
    • GRYM addysgeg Blynyddoedd Cynnar o safon. Pam y dylai hyn wanhau cymaint wrth i blant fynd yn hŷn?!

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mwy o ddiddordeb/ymgysylltu/cymhelliant a’r grŵp sy’n cael ei olrhain yn awyddus i weithio gyda’r ‘oedolyn arall’ ac yn gwybod bod profiadau newydd yn gadarnhaol ac yn llawn gwybodaeth a’u bod yn dysgu mewn ‘ffordd wahanol’. Er enghraifft: Darllen gyda chi therapi ac ymwelydd; Llais y disgybl: ‘Rwy’n hoffi bod darllen yn gallu bod yn rhywbeth tawel’, ‘doeddwn i ddim yn hoffi darllen ond rwy’n ei hoffi nawr’, ‘rwy’n teimlo fel bod rhywun yn gwrando arna i, ac ar ôl darllen roeddwn i’n teimlo’n ddigynnwrf ac wedi ymlacio’; Lefelau llawer uwch o gymhelliant i ddarllen ymhlith y grŵp sy’n cael ei olrhain; roeddent yn dewis llyfrau a oedd o ddiddordeb iddyn nhw a’r ci!Sylwadau gan ddisgyblion ar ôl ymweliad â siop cigydd yn y dref i gasglu calonnau, ysgyfaint ac ati i’w dyrannu yn yr ystafell ddosbarth mewn gwers wyddoniaeth: ‘Roedd yn hwyl gweld sut beth yw calon go iawn. Allwn ni gymharu calonnau anifeiliaid eraill er mwyn gweld y meintiau gwahanol?; ‘Roedd yn wych gweld y tu mewn i asgwrn buwch’. Sylwadau aelod o staff addysgu a fu’n arsylwi ar ddysgwyr yn helpu i wneud selsig ac sy’n deall y broses o baratoi/arddangos y cig sydd ar werth: ‘Roedd y disgyblion yn ymgysylltu llawer mwy, gwnaethant ofyn llawer mwy o gwestiynau treiddgar i’r cigydd, roeddent yn ymddangos yn llawer mwy hyderus ac yn llai swil nag mewn ‘sesiynau gwyddoniaeth arferol’. Nododd yr aelod o staff hefyd fod y grŵp sy’n cael ei olrhain yn llawer mwy awyddus i gofnodi eu canfyddiadau, nodiadau ac ati am y profiad wedyn ar ôl dychwelyd i’r ysgol ac mewn sesiynau dilynol. Dangosodd y disgyblion lefelau uwch o gymhelliant i ddysgu mwy gan ddibynnu llai ar athrawon wrth ymholi.Mewn arsylwadau yn yr ysgol, nodwyd bod y grŵp sy’n cael ei olrhain yn ymlacio llawer mwy gyda’r ‘oedolyn arall’; mae ei iaith yn fwy cyfoethog i ryw raddau, gan fod yr ‘oedolyn arall’ yn rhoi amser i’r plant siarad, ac maent yn teimlo llai o bwysau i gael canlyniadau a ‘rhoi ysgol’ iddynt.Mae’r ‘oedolion eraill’ wedi bod yn frwdfrydig, yn llawn edmygedd ac yn llawn cymhelliant i weithio gyda’r disgyblion. Ymhlith y themâu cyffredin yn eu hadborth/sgyrsiau mae: ‘Byddai’n dda gen i petai pethau fel hyn pan oeddwn i yn yr ysgol’; ‘mae’r ystafell ddosbarth yn lle mor barchus i ddysgu – dodrefn oedolion, desgiau sefyll, goleuadau, gwaith celf – mae’n lle digynnwrf a llawn parch i weithio ynddo’. Mae pawb yn teimlo’n gadarnhaol am y ffaith bod yr ysgol yn cyflwyno byd gwaith i’r disgyblion yn gynnar, er mwyn rhoi dyheadau i ddisgyblion nad oeddent yn ymwybodol o’r posibiliadau yn y gymuned o ran gwaith o bosibl, ac am wahodd y gymuned i mewn i’r ysgol i rannu cyfleoedd bendigedig â’r disgyblion a’r staff.

    Cyfyngiadau

    Diffyg gwirfoddolwyr o’r gymuned i rannu eu sgiliau o bosibl. Profiadau ‘negyddol’ yr oedolion eu hunain o’u cyfnod yn yr ysgol a fyddai’n creu ‘ofn’ ynghylch dychwelyd i ystafell ddosbarth mewn ysgol, ym mha rôl bynnag. Cyfyngiadau amser ar yr ‘oedolyn arall’ oherwydd patrymau gweithio/gwaith sifftiau. Gwirfoddolwyr yn tynnu’n ôl ar ganol y broses oherwydd ymrwymiadau gwaith/teulu. Disgyblion yn tynnu’n ôl o’r broses o bosibl.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    • Mae wedi bod yn amlwg o’r cychwyn cyntaf bod amgylchedd dysgu sy’n galluogi, y cyfeirir ato fel y trydydd athro yn addysgeg Reggio Emilia, yn rhan annatod o’r dull hwn.
    • Er mwyn i’r dysgwyr a’r ‘oedolyn arall’ fod yn annibynnol ar yr athro dosbarth a symud yn rhydd, gweithio mewn mannau gwahanol a dewis adnoddau heb gyfyngiadau lle sy’n anniben ac yn canolbwyntio ar yr athro. Dylai hyn hefyd fod yn fodd i sicrhau amgylchedd dysgu digynnwrf a llawn parch lle mae’r ‘oedolyn arall’ yn teimlo’n gyfforddus yn rhannu, yn hyfforddi ac yn mentora’r disgyblion i fagu hyder a lefelau uwch o ymgysylltu mewn profiadau dysgu newydd.
    • Mae cydberthnasau ac ymddiriedaeth yn allweddol i lwyddiant rôl a gwaith yr ‘oedolion eraill’.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Mae amrywiaeth eang o lenyddiaeth yn gysylltiedig â dull addysgegol Loris Malaguzzi ac ysgolion Reggio Emilia. Mae blogiau ac adroddiadau athrawon sydd wedi ymweld â Reggio Emilia i arsylwi ar yr amgylcheddau dysgu sy’n galluogi a’r gwaith ymgysylltu â’r gymuned yn yr ysgolion yn ddefnyddiol iawn.Gwefannau/gwybodaeth ddefnyddiol: https://books.google.co.uk/books?hl=en&lr=&id=QPTKs1MJ8JgC&oi=fnd&pg=PA27&dq=community+involvement+in+reggio+emilia&ots=XmN9hnBRLw&sig=LQDu08tswiMSj9rLjbeUB3JoYwQ#v=onepage&q=community%20involvement%20in%20reggio%20emilia&f=false

    https://www.naeyc.org/resources/pubs/yc/nov2015/emergent-curriculum

    https://www.sightlines-initiative.com/malaguzzi-reggio-emilia-s-approach.html

  • Cyswllt

    Dilys Ellis-Jones, Pennaeth
    dilysjones@gwynedd.gov.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Bangor

    Consortiwm

    GWE

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol Gynradd cyfrwng Cymraeg sydd wedi ei lleoli ym mhentref Llanuwchllyn ag iddi ethos a diwylliant Cymreig nodweddiadol. Mae 106 o ddisgyblion yn yr ysgol wedi eu rhannu i 4 dosbarth a 5 staff dysgu. Rydym yn cydweithio o fewn Dalgylch Ysgolion Godre'r Berwyn, Bala gyda 3 ysgol gynradd arall gyda 96% o'r disgyblion o gartrefi ble mae un neu fwy o'r rhieni yn siarad Cymraeg adref. Mae'n fwy o sialens i ni yma i addysgu Saesneg i'r disgyblion a’u cael yn hyderus yn y ddwy iaith erbyn blwyddyn 6. Rydym yn weithgar iawn gyda'r Urdd, a chael llwyddiant ar y llwyfan Cenedlaethol yn flynyddol. Mae gwaith arloesol STEM yn cael sylw gyda’r ysgol wedi derbyn Cydnabyddiaeth Genedlaethol yng ngwobrau Addysg Cymru. Mae'r ysgol wedi bod yn rhan o'r rhwydwaith Ysgolion Arloesi ers y dechrau, a chyn hynny yn gweithio gyda'r grŵp ymchwil Cwricwlwm Cymreig a Dinasyddiaeth Byd Eang.

    Trosolwg ymholiad

    Mae'r ysgol am gyplysu'r ymholiad Cylch 4 gyda'r Cynllun Datblygu'r Ysgol, ar flaenoriaeth i gynnal a chodi safonau addysgu llythrennedd a chyfathrebu disgyblion yn y Saesneg. Ymchwiliwn i nifer o faterion megis addysgeg ac arferion da drwy CA2 i sicrhau nad yw disgyblion sydd yn derbyn graddau uchel yn y Gymraeg yn tangyflawni yn y Saesneg. Sut mae codi cyrhaeddiad disgyblion? Beth yw’r ffordd orau o gyflwyno Saesneg i'n disgyblion? Sut mae cynorthwyo disgyblion i lwyddo ar ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol a bod dim gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy iaith? Faint o gymorth ydy sgiliau llafar Saesneg iddynt? Byddwn hefyd yn archwilio sut mae astudio hanes ieithoedd modern yn gyffredinol yn gymorth iddynt ddysgu Saesneg.

    Cwestiwn Ymholi

    Datblygu sgiliau Saesneg disgyblion CA2 mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Mae'r ysgol wedi cyplysu'r ymholiad proffesiynol hwn gyda'r Cynllun Datblygu'r Ysgol; un flaenoriaeth ydy cynnal a chodi safonau addysgu llythrennedd a chyfathrebu disgyblion yn y Saesneg. Roedd y flaenoriaeth yn deillio o drafodaethau gyda staff yr ysgol i sicrhau nad oedd y disgyblion a oedd yn derbyn graddau uchel yn y Gymraeg yn tangyflawni yn y Saesneg. Craffwyd ar dargedau a chanlyniadau Saesneg yn dilyn Profion Cenedlaethol Saesneg (Haf 2019), a gwelwyd bod y disgyblion yn sgorio yn llawer is yn y gwaith darllen a deall Saesneg. Defnyddiwyd sawl ffynhonnell yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil ac ymarfer (gweler adolygiad llenyddiaeth isod). Ymchwiliwyd i nifer o faterion megis addysgeg ac arferion da sydd eisoes yn digwydd drwy Gyfnod Allweddol 2.

    Oherwydd natur ieithyddol yr ysgol, gyda 96% o ddisgyblion yn dod o gartrefi ble mae un neu fwy o’r rhieni yn siarad Cymraeg, mae dysgu a hyrwyddo darllen Saesneg yn sialens. Nod yr ymchwil yw darganfod y ffordd orau o gyflwyno Saesneg i'r disgyblion, a’u cynorthwyo i fod yn hyderus ddwyieithog erbyn diwedd CA2. Byddem hefyd yn archwilio sut mae astudio hanes ieithoedd modern eraill o gymorth iddynt ddeall a datblygu sgiliau yn y Saesneg.

    Rhannwyd holiadur a chasglwyd ymatebion gan ddisgyblion CA2 am waith darllen a dysgu Saesneg, a’r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni hynny. Cafwyd grŵp ffocws gyda staff i ganfod eu barn am yr addysgeg orau, dulliau a chyfresi darllen addas a gwaith technoleg gwybodaeth a chyfathrebu llwyddiannus. Wedi rhannu canlyniadau’r ymchwil i ddarllen a gwaith llafar y dysgwyr, a’i drafod mewn cyfarfodydd staff.
    Dosbarthwyd holiadur ar hyrwyddo darllen Saesneg i’r rhieni; ydy’r rhieni yn mwynhau darllen Saesneg gyda’r plant, a chafwyd cyfle i nodi os oedd unrhyw rwystredigaeth yn gysylltiedig gyda darllen llyfrau Saesneg yn y cartref. Ni roddwyd gwaith cartref ffurfiol i’r disgyblion yn ystod cyfnod yr ymholiad proffesiynol, ond yn hytrach canolbwyntiwyd ar y darllen Saesneg a rhoddwyd prawf darllen a deall Saesneg ar gychwyn a diwedd y cyfnod.

    Roedd yr ysgol wedi buddsoddi mewn llyfrau darllen newydd, yn cynnwys ffuglen a ffeithiol yn y Saesneg, i godi awch a chymhelliant y disgyblion, a hefyd wedi cyflwyno rhaglen gyfrifiadurol ‘Reading Eggs’ a sicrhau bod gan bob disgybl gyfrinair i ddefnyddio’r adnodd gartref.

    Ystyriaethau moesegol

    Roeddem wedi derbyn cyfarwyddiadau, hyfforddiant a chanllawiau gan Brifysgol Bangor ar faterion moeseg mewn ymchwil yn yr ysgol; derbyniwyd sêl bendith gan Bwyllgor Moeseg yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol, Prifysgol Bangor, i fwrw ymlaen gyda’r gwaith ymchwil.
    Roedd y bennod ‘Beth yw’r ystyriaethau a’r gwerthoedd moesegol mewn perthynas ag ymchwil addysgol’ (Llywodraeth Cymru, 2015) yn ddefnyddiol ar gyfer gweithredu’r ymholiad proffesiynol mewn sefyllfa ysgol.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Yn ôl Llywodraeth Cymru (2020) mae Maes Dysgu a Phrofiad ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’
    ‘yn ymwneud ag agweddau hanfodol cyfathrebu rhwng pobl. Ei nod yw cefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm a galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg, Saesneg, ac ieithoedd rhyngwladol yn ogystal â llenyddiaeth.’

    Mae ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’ yn cynnwys pedwar ‘Datganiad o’r Hyn Sy’n Bwysig’ (sef, Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd; Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o’n hamgylch; Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu; Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.) Mae angen cyflwyno profiadau llenyddol i ddisgyblion a fydd yn ennyn eu diddordeb a’u dychymyg fel darllenwyr, gwrandawyr, gwylwyr, awduron a llenorion, ac i feithrin cariad gydol oes tuag at lenyddiaeth. Byddant yn gwerthfawrogi crefft y llenor yn ogystal â meithrin eu sgiliau creadigol eu hunain, a byddant yn deall diwylliannau eu hunain ac eraill, gan ennyn empathi.

    Mae Quigley (2018) yn cyflwyno’r cysyniad o ‘vocabulary gap’ i egluro’r gwahaniaeth sydd yn bodoli yng nghyflawniad darllenwyr medrus a darllenwyr llai medrus. Dywed Quigley (2018:2): ‘By closing the vocabulary gaps for children in our classrooms with their peers, we can offer them the vital academic tools for school success, alongside the capability to communicate with confidence in the world beyond the school gates.’
    I fod yn ddarllenydd annibynnol a hyderus, mae angen datblygu elfennau amrywiol yn cynnwys ymwybyddiaeth ffonetig, ruglder, geirfa a deallusrwydd. Drwy ddefnyddio’r uchod rydym yn datblygu ‘modelau meddyliol’ newydd wrth ddarllen. Wrth ddarllen mwy, mae ein dealltwriaeth ar sgiliau sydd ynghlwm yn dyfnhau. Gan fod mwy o ‘synau’ yn yr iaith Saesneg na llythrennau, mae’n waith caled dysgu’r holl elfennau. I ddarllen yn rhugl ac yn hyderus, mae angen datblygu llawer o sgiliau gwahanol ‘ar yr un pryd’, ac mae dysgu a deall geirfa newydd yn hanfodol ar gyfer hyn.

    Mae Benjamin (2017) yn cyflwyno ‘Model 4E’ sydd yn cynnwys pedair elfen (sef ‘Exposure’, ‘Exploration’, ‘Engagement’ ac ‘Energy’ ) i gefnogi athrawon i wella sgiliau llythrennedd y disgyblion.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae canfyddiadau holiaduron (nifer=54)disgyblion Cyfnod Allweddol Dau yn dangos:

    Bod y rhan fwyaf o’r disgyblion yn mwynhau gwaith Saesneg yn yr ysgol, ac yn enwedig gwaith maent yn ei gwblhau drwy TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu).

    Mae’r disgyblion wedi deall fod ieithoedd a llythrennedd yn hanfodol i alluogi pobl i gyfathrebu â’i gilydd.

    Wrth graffu ar lyfrau gwaith y disgyblion, gwelir fod y staff yn trefnu themâu diddorol a chyfleoedd cyson ar gyfer gwaith ymchwil yn y Saesneg i gyfoethogi’r thema, megis edrych ar bontydd ar draws y byd, a hanes gwleidyddiaeth yn America.

    Mae’r disgyblion yn nodi eu bod yn gweithio yn well gyda phartner, neu mewn grŵp bychan, er mwyn cael cymorth gydag ambell air yn y Saesneg.

    Mae canran uchel o ddisgyblion yn meddwl eu bod yn dysgu Saesneg yn well drwy ddarllen yn rheolaidd; maent yn ymwybodol fod hyn yn hanfodol i weld a dysgu geirfa newydd.

    Mae darllen yn deillio o ddefnyddio TGCh yn sbarduno’r dysgu, ac mae’r disgyblion yn ei weld fel ffordd gyffroes o ddysgu iaith arall. Mae’r rhaglen ‘Reading Eggs’ yn boblogaidd yn CA2, gyda chyfleoedd i wobrwyo disgyblion am gwblhau a gwaith gramadeg neu ddarllen llyfrau Saesneg.

    Mae ychydig dros hanner y disgyblion yn ymwybodol y gallent wella eu geirfa Saesneg drwy ddarllen. Mae bron i chwarter yn nodi fod gwaith pâr, gwaith grŵp a chyfleoedd cyson i gyfathrebu o fudd mawr iddynt wrth ddysgu iaith arall.

    Mae’r dosbarth wedi mwynhau gwaith ar ‘Wow Words’ a chael ymchwilio i eirfa newydd a’i ddefnyddio yn eu gwaith.
    Ymatebion cyfartal a gafwyd i’r cwestiwn, ‘Ble mae’r disgyblion yn darllen fwyaf?’ gyda’r opsiwn unai yn yr ysgol neu gartref.

    Mae hanner y disgyblion yn meddwl fod angen mwy o wersi ffurfiol Saesneg yn y dosbarth; mae rhai wedi nodi yn yr holiaduron eu bod yn argymell darllen Saesneg bob bore neu waith grŵp Saesneg o leiaf unwaith y dydd.

    Cyfyngiadau

    Diffyg llyfrau neu destun addas i ysbrydoli rhai disgyblion, yn enwedig ar gyfer y bechgyn.

    Roedd cyfyngder amser ar gyfer yr ymholiad hwn; roedd angen mwy o amser i goladu ymatebion holiaduron gan y rhieni.

    Angen cynnwys data dros gyfnod hirach o amser gan yr athrawon i gefnogi’r ymchwil.

    Costau ymwelwyr a hyfforddiant ar gyfer staff, ac amser priodol i ryddhau staff.

    Prinder cyrsiau a hyfforddiant priodol yn y maes.

    Roedd rhai disgyblion ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) angen cefnogaeth gyson i oresgyn trafferthion.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Mae’n bwysig cynllunio’r ymholiad proffesiynol yn ofalus; defnyddiwyd model rhesymeg i adnabod prif gamau'r ymholiad, darllenwyd ffynonellau ymchwil ar sail tystiolaeth, ac ystyriwyd data ar gyflawniad y disgyblion (e.e. profion darllen).

    Mae angen darllen yn eang am y maes ymchwil, a gwneud y gorau o adnoddau defnyddiol sydd ar-lein, er enghraifft, Arfer Effeithiol (ESTYN), ac adnoddau ar Hwb.

    Mae angen adnabod grwpiau targed, yn cynnwys disgyblion oedd angen mwy o gymorth gyda’r Saesneg, yn ogystal â herio disgyblion Mwy Abl a Thalentog (MATh), a chyflwyno tasgau heriol yn cynnwys gwaith trawsieithu cyfoethog.

    Parhau i godi ymwybyddiaeth y disgyblion am bwysigrwydd darllen yn y Saesneg; wrth drafod yn barhaus a chadw cofnod o’r darllen mae newid agwedd yn bosibl.

    Mae defnyddio gweithgareddau llafar hwyliog yn annog disgyblion i fod yn fwy hyderus i drafod a darllen yn y Saesneg.

    Mae llwyddiant yn y maes dan sylw yn fwy tebygol drwy roi pwyslais ysgol gyfan ar ddarllen Saesneg.

    Mae modd codi ymwybyddiaeth a chymhelliant y disgyblion yn y Saesneg drwy gyflwyno llyfrau newydd, a chreu ardaloedd cyffrous i ddarllen a rhannu llyfrau. Mae’r disgyblion wedi cael helpu i greu ardaloedd darllen, a rhannu a thrafod llyfrau newydd.

    Mae’r addysgu a dysgu wedi rhoi mwy o fewnbwn i ddarllen a chyfeirio yn ddyddiol ar eirfa cyfoethog, ac mae hyn wedi cael cryn lwyddiant yn yr ysgol.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Benjamin, A. (2017) Infusing vocabulary into the reading-writing workshop: A guide for teachers in grades K-8. New York: Routledge.

    Donaldson, G (2015) Dyfodol Llwyddianus. Llywodraeth Cymru.

    Estyn. Arfer Effeithiol. Ar gael ar-lein: https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol

    Llywodraeth Cymru (2015) Gwneud defnydd effeithiol o ddata a thystiolaeth ymchwil. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

    Llywodraeth Cymru (2020) Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Ar gael ar-lein: http://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/ieithoedd-llythrennedd-a-chyfathrebu/

    Quigley, A. (2018) Closing The Vocabulary Gap. Abingdon: Routledge.

    Reading Eggs. Ar gael ar-lein: https://readingeggs.co.uk/

  • Cyswllt

    Helen Rees
    Ystrad Mynach Primary School
    Lewis Street
    01443 812707

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd Ystrad Mynach ar gyrion Ystrad Mynach, i'r gogledd o
    Gaerffili. Mae 428 o ddisgyblion yn yr ysgol, gan gynnwys 58 o ddisgyblion sy'n mynychu'r dosbarth meithrin yn rhan-amser.
    Mae 16 o ddosbarthiadau un oedran.
    Mae tua 12% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n is na'r cyfartaleddau lleol a chenedlaethol.
    Noda'r ysgol fod gan tua 14% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd gryn dipyn yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae gan ambell ddisgybl ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig.
    Nid oes yr un o'r disgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf gartref.
    Mae ambell ddisgybl yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ac mae ambell un yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

    Trosolwg ymholiad

    Beth yw addysgeg y Gymraeg? Nod yr astudiaeth yw codi proffil y Gymraeg, yn enwedig yn yr awyr agored. Ffocws ar addysgeg y Gymraeg.

    Cwestiwn Ymholi

    Pa addysgegau a all godi proffil y Gymraeg dan do ac yn yr awyr agored?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Caiff yr ymholiad hwn ei gwblhau'n fewnol a bydd yn cynnwys yr holl staff addysgu a grŵp dethol o ddysgwyr. Fel rhan o gynllun datblygu ein hysgol, rydym yn ystyried pwysigrwydd gwella'r ffordd rydym yn addysgu ac yn dysgu Cymraeg, gyda'r nod a'r dyhead y bydd y disgyblion yn gwneud mwy o gynnydd ac y bydd ein staff a'n disgyblion yn dod yn siaradwyr Cymraeg mwy hyderus. Yn ogystal â gwella ein safonau addysgu a sgiliau'r disgyblion, y gobaith yw y bydd y Gymraeg yn cael ei defnyddio'n amlach yn ein hardaloedd dan do ac awyr agored. Y nod yw creu cyfleoedd i siarad Cymraeg o gwmpas yr ysgol.
    Cynhelir trafodaethau â'r uwch-arweinwyr a'r staff. Caiff holiaduron digidol a grëwyd gan ddefnyddio Google Forms eu hanfon at bob aelod o staff addysgu a'r Criw Cymraeg. Bydd y grŵp ffocws yn cynnwys ein Criw Cymraeg, am ein bod o'r farn bod ganddynt bersbectif gwell ar gyfer cefnogi'r Gymraeg, yn rhinwedd eu rôl a'u cyfrifoldeb i wella'r defnydd o'r Gymraeg yng nghymuned yr ysgol.
    Er mwyn sicrhau bod y staff yn gyfarwydd â'r broses o gyflawni ymholiad ymchwil, ac yn hyderus wrth wneud hynny, neilltuwyd amser yn ystod cyfarfodydd staff i ganolbwyntio ar arferion ymchwil. Gwnaeth ein hyrwyddwr ymchwil helpu'r staff i greu cyfres o syniadau ymchwil a gafodd eu troi wedyn yn gwestiwn ymchwil. Rhoddwyd deunydd darllen i'r staff er mwyn cefnogi eu gwaith ymholi, a chafwyd trafodaethau ar sail y gwaith darllen. Rhannwyd amrywiaeth o dechnegau methodoleg â'r staff er mwyn iddynt benderfynu ar ddull i'w ddefnyddio. O ran datblygiad proffesiynol staff, pennwyd targedau a oedd yn gysylltiedig â'r ymholiad ymchwil.
    Fel ysgol, byddwn yn awyddus i weld a fydd gwella cyfleoedd i siarad Cymraeg yn arwain at ddeilliannau gwell. Y gobaith yw y gellir nodi arferion da yn yr ysgol a rhannu effaith yr ymholiad ymchwil.

    Ystyriaethau moesegol

    Cyn dechrau ar yr ymholiad ymchwil, rhoddwyd gwybod i'r staff am yr ystyriaethau moesegol wrth gynnal ymholiad. Mewn cyfarfodydd staff, cafwyd trafodaethau am bwysigrwydd trin cyfranogwyr mewn modd teg, sensitif a chyfrinachol wrth gynnal ymholiad ymchwil, a'r ystyriaethau sydd eu hangen er mwyn sicrhau hynny. Rhoddwyd ffurflenni cydsynio moesegol i'r staff cyn iddynt gymryd rhan. Pwysleisiwyd cyfrinachedd mewn trafodaethau â'r staff, a rhoddwyd sicrwydd iddynt y gallent dynnu'n ôl petaent yn anfodlon cymryd rhan a pharhau â'r prosiect. Esboniwyd i'r staff y gallent fod yn rhan o arsylwadau, arolygon, recordiadau digidol ac ati yn ystod y broses. Byddai angen diweddariad o'r cydsyniad gan bob cyfranogwr cyn gwneud hyn. Tynnwyd sylw'r staff at bwysigrwydd sicrhau anhysbysrwydd cyfranogwyr. Tawelwyd unrhyw ofnau er mwyn sicrhau bod y cyfranogwyr yn gyfforddus ac, os oeddent mewn grwpiau ffocws, byddai'r sgyrsiau'n gyfrinachol a byddai angen iddynt fod yn broffesiynol o ran arfer. Roedd y gweithdrefnau diogelu sydd ar waith yn yr ysgol yn rhan flaenllaw o'n gwaith ymchwil bob amser. Cafodd llesiant a llwyth gwaith y staff eu hystyried wrth iddynt gymryd rhan mewn ymholiad. Hefyd, wrth adrodd ar y canfyddiadau a'u rhannu, byddai angen sicrhau bod sensitifrwydd a chyfrinachedd yn cael eu parchu.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    The study was undertaken within a primary school of 14 educational practitioners ranging from experienced and inexperienced teachers and senior leaders and learning support assistants. All participants were made aware of the research and an explanatory letter accompanied the permission form. Evidence was gathered to support this case study using semi-structured interviews. Prior to the study the author collected and analysed a variety of pupil evidence, planning documentation and undertook learning walks to determine what was currently happening throughout the organisation.

    Semi-structured interviews were used with teachers and learning support assistants to investigate their interpretations of pedagogy and to determine personal opinions and approaches. The semi-structured interviews were anonymous to guarantee true opinions and identify preferred styles when facilitating teaching and learning.

    During these interviews the researcher intended to find out what teachers and learning support assistants understand about the term pedagogy. The reliability of the interview depends on many factors that will need to be taken into consideration, such as; interview location, inadvertently using leading questions and peer pressure.
    The author endeavoured to conduct this research in a consistent and rigorous manner. However, there were many limitations to this study that must be taken into consideration before it began;
    1) The reliability of the study could be called into question due to the relatively small sample size.
    2) If participants are absent throughout the study it may have a small effect on the reliability on the results due to the reduced sample size.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae'r prosiect hwn yn dal i fynd rhagddo ac rydym ar y camau ymgysylltu cynnar o hyd. Fodd bynnag, o gynnal yr ymholiad ymchwil hwn, y canfyddiadau cychwynnol yw bod y staff yn awyddus ac yn frwdfrydig i ymgysylltu a chymryd rhan mewn ymholiad ymchwil. Gwnaethant werthuso eu harferion eu hunain a'u heffaith ar ddysgwyr, ac adfyfyrio ar hynny.
    O'r holiaduron a'r trafodaethau a gynhaliwyd â'r staff, mae'n amlwg i'r cwestiynau ymchwil gael effaith gadarnhaol a'u bod wedi annog y staff i ymroi i'r broses er mwyn gwella eu defnydd o'r Gymraeg. Mae gan y staff a'r dysgwyr agwedd gadarnhaol at y Gymraeg bellach. Yn ein grwpiau ffocws, roedd y staff a'r dysgwyr o'r farn bod angen codi proffil y Gymraeg yn ein hysgol. Mae dysgwyr yn mwynhau dysgu Cymraeg ac maent yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad o gwmpas yr ysgol bob amser. Fodd bynnag, mae angen i'r Gymraeg gael ei gweld a'i chlywed y tu allan i'r ysgol ac yn y gymuned. Mae staff a dysgwyr yn teimlo nad ydynt yn gweld na chlywed y Gymraeg ddigon yn y gymuned. O ystyried hyn, aeth ein disgyblion Blwyddyn 6 i'r gymuned leol i edrych ar arwyddion Cymraeg a siarad Cymraeg â rhai o aelodau'r gymuned. Hoffem ddatblygu'r agwedd hon ymhellach. Gwelir o'r holiaduron a gwblhawyd gan y staff eu bod o'r farn bod addysgu'r Gymraeg yn bwysig a bod addysgu dysgwyr i fod yn ddwyieithog yn hanfodol. Mae defnyddio athro profiadol o ben uchaf Cyfnod Allweddol 2 wedi bod o fudd i'r athrawon a'r dysgwyr. Maent yn teimlo'n fwy hyderus ac mae ganddynt agwedd gadarnhaol at yr iaith. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar agwedd athrawon a disgyblion at ddysgu Cymraeg â'u hymroddiad at wneud hynny. Fodd bynnag, ceir ymdeimlad ymhlith aelodau eraill o'r staff nad oes ganddynt yr hyder na'r sgiliau i ddatblygu'r iaith ymhellach. Byddent yn hoffi'r cyfle i weithio ochr yn ochr ag athrawon profiadol er mwyn gwella eu sgiliau.
    O gynnal yr ymholiad hwn, mae'n amlwg drwy'r ysgol fod cred ac awydd i siarad Cymraeg yng nghymuned yr ysgol a'r wlad lle rydym yn byw. Ceir gweledigaeth glir bod angen i bawb siarad mwy o Gymraeg â'i gilydd ac mae angen i ni barhau i sicrhau bod yr iaith o fewn cyrraedd pawb. Mae hwn yn bwnc cyfredol, ac rwyf wedi darllen nifer o erthyglau cyhoeddedig sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd addysgu a dysgu'r Gymraeg. Mae'r weledigaeth a amlinellwyd gan y llywodraeth yn rhoi mwy o bwyslais ar y Gymraeg ac yn ategu manteision dysgu iaith.

    Cyfyngiadau

    Mae cyfyngiadau'r ymholiad ymchwil hwn yn deillio o amseriad yr ymholiad. Mae angen mwy o amser ar y staff i wneud y gwaith ymchwil a dadansoddi'r canfyddiadau. Hefyd, mae angen i'r Gymraeg gael ei gwreiddio ymhellach yn yr ardal y tu allan. Roedd rhai o'r staff o'r farn bod y gwaith darllen yn eithaf manwl a hir, a byddai wedi bod yn well ganddynt wrando ar glipiau sain yn hytrach na darllen darnau o lyfrau. Mae diffyg rhai sgiliau Cymraeg wedi bod yn rhwystr rhag mynd â'r ymholiad ymhellach ac roedd rhai o'r staff yn teimlo'n bryderus ynglŷn â dysgu sgiliau newydd ac adfyfyrio ar eu lefelau gallu.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    (i) Y daith a ddilynwyd a pham y dewiswyd methodoleg neu ffordd benodol o weithredu.
    Cyn gwneud y gwaith ymchwil, neilltuwyd amser darllen i'r staff yn ystod cyfarfodydd ymchwil penodedig. Roedd hyn yn werth chweil ac yn fuddiol i'r staff er mwyn cefnogi eu llesiant a'u llwyth gwaith.
    Roedd holiaduron a grwpiau ffocws yn gryfder a gwnaethant arwain at drafodaethau pwrpasol.
    Hefyd, roedd defnyddio athro profiadol i fodelu strategaethau a thechnegau addysgu yn fuddiol er mwyn cefnogi'r staff a'r dysgwyr.
    (ii) Agweddau i’w hystyried, peryglon i’w hosgoi
    Cynnwys aelodau eraill o gymuned yr ysgol – arweinwyr chwarae i annog defnydd o'r Gymraeg y tu allan, goruchwylwyr cinio a staff y ffreutur i ddatblygu eu defnydd o'r Gymraeg â'r staff a'r plant. Cynorthwywyr addysgu i ddefnyddio mwy o Gymraeg o gwmpas yr ysgol. Hefyd, mae angen addysgu'r rhieni i wella eu sgiliau Cymraeg er mwyn helpu eu plant i ddysgu'r iaith.
    (iii) Unrhyw weithdrefn neu ddull a weithiodd yn dda iawn, naill ai o ran deilliannau neu o ran gwella agweddau
    Yn ystod ein cyfarfodydd ymchwil penodedig, roedd trafod diffiniadau o derminoleg yn hynod fuddiol. Roedd yn werth chweil annog y staff i feddwl am ddiffiniadau a dechrau deialog broffesiynol am syniadau newydd ac effaith addysgu'r Gymraeg

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Mae angen i'r ymholiad barhau o hyd er mwyn casglu mwy o ddata. Mae angen datblygu ardal awyr agored Gymraeg i gynorthwyo'r cwestiwn ymholi. Er mwyn datblygu'r defnydd o'r Gymraeg yn yr awyr agored, mae'r Urdd yn cydweithio'n agos ag arweinwyr chwarae gan eu helpu i chwarae gemau iard a siarad Cymraeg â phawb yn yr ysgol. Mae arbenigwr cerdd yn gweithio gyda dau ddosbarth Cyfnod Allweddol 2 i addysgu caneuon Cymraeg i'r plant a'r staff er mwyn eu hannog i ddysgu Cymraeg mewn ffordd greadigol a naturiol.

  • Cyswllt

    Sue Marles
    01873830325
    marless1@hwbmail.net

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gynradd gymunedol i fechgyn a merched rhwng 4 ac 11 oed yw Ysgol Gilwern. Mae cyfanswm o 220 o ddisgyblion CaLl ar y gofrestr.
    Mae'r ysgol mewn ardal led-wledig. Mae'n gwasanaethu Plwyf Llanelli sydd â'r rhan fwyaf o'i boblogaeth yng Ngilwern, ond sydd hefyd yn cynnwys cymunedau Clydach a Bryn Llanelli. Eiddo preifat yw'r mwyafrif o'r tai; fodd bynnag, ceir mannau o amddifadedd sy'n golygu bod cymysgedd economaidd-gymdeithasol amrywiol iawn yn yr ysgol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn gryfder ac yn cynnig cyfoeth o brofiad ac ymdeimlad o gynhwysiant i'r ysgol. Mae gan 5% o'r disgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae'r ffigur hwn wedi lleihau'n sylweddol dros y 12 mis diwethaf ac felly mae'n gyson â chyfartaledd y sir. O fewn cohortau, mae'r ganran Prydau Ysgol am Ddim yn amrywio o 6% i 23%. Daw llai na 2% o'r disgyblion o gefndiroedd ethnig a Saesneg yw'r brif iaith a siaredir ym mhob cartref. Mae'r ysgol yn mynd ati'n frwd i addysgu Cymraeg fel ail iaith.

    Trosolwg ymholiad

    ‘Sut mae ymarferwyr cynradd yn dehongli'r term ‘addysgeg’ yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd i Gymru?’

    Cwestiwn Ymholi

    “Sut mae ymarferwyr cynradd yn dehongli'r term ‘addysgeg’ yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd i Gymru?’

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Cynhaliwyd yr astudiaeth ag ysgol gynradd sydd ag 14 o ymarferwyr addysgol gan gynnwys amrywiaeth o athrawon profiadol a dibrofiad, uwch-arweinwyr a chynorthwywyr cymorth dysgu. Rhoddwyd gwybod i bob un o'r cyfranogwyr am y gwaith ymchwil a rhoddwyd llythyr eglurhaol iddynt ynghyd â'r ffurflen ganiatâd. Casglwyd tystiolaeth i ategu'r astudiaeth achos hon gan ddefnyddio cyfweliadau lled-strwythuredig. Cyn yr astudiaeth, aeth yr awdur ati i gasglu a dadansoddi amrywiaeth o dystiolaeth gan ddisgyblion a dogfennaeth gynllunio, ac aeth ar droeon dysgu i ganfod beth oedd yn digwydd drwy'r sefydliad ar y pryd.

    Defnyddiwyd cyfweliadau lled-strwythuredig ag athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu er mwyn ymchwilio i'w dehongliadau o addysgeg a chanfod eu safbwyntiau a'u dulliau personol. Roedd y cyfweliadau lled-strwythuredig yn ddienw er mwyn sicrhau bod pawb yn mynegi barn yn onest, ac er mwyn nodi hoff arddulliau wrth hwyluso'r dysgu a'r addysgu.

    Yn ystod y cyfweliadau hyn, bwriad yr ymchwilydd oedd canfod beth mae athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu yn ei ddeall am y term addysgeg. Mae dibynadwyedd y cyfweliad yn dibynnu ar lawer o ffactorau y bydd angen eu hystyried, er enghraifft lleoliad y cyfweliad, defnyddio cwestiynau arweiniol ar ddamwain, a phwysau gan gymheiriaid.
    Ymdrechodd yr awdur i gyflawni'r gwaith ymchwil hwn mewn modd cyson a thrwyadl. Fodd bynnag, roedd i'r astudiaeth hon lawer o gyfyngiadau roedd yn rhaid eu hystyried cyn dechrau arni:
    1) Gellid cwestiynu dibynadwyedd yr astudiaeth oherwydd maint cymharol fach y sampl.
    2) Petai cyfranogwyr yn absennol yn ystod yr astudiaeth, gallai hynny gael effaith fach ar ddibynadwyedd y canlyniadau am fod maint y sampl yn lleihau.

    Ystyriaethau moesegol

    Roedd angen ystyried llawer o agweddau cyn cynnal yr astudiaeth. Sicrhawyd cyfrinachedd ac anhysbysrwydd yr ysgol a'r holl gyfranogwyr gan ddefnyddio llythyr cydsynio at y pennaeth a'r Llywodraethwyr. At hynny, gofynnwyd i bob cyfranogwr gydsynio cyn i'r cyfweliad ddechrau. Cyn y cyfweliadau, esboniwyd trefniant optio allan i bob un o'r cyfranogwyr ac roedd pawb yn deall na fyddent yn cael eu cosbi petaent yn dymuno rhoi'r gorau i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil. Ystyriaeth arall i'r awdur oedd sicrhau nad oedd y gwaith ymchwil yn cyfeirio at unrhyw un yn unigol nac yn ei gwneud hi'n amlwg pwy oedd unrhyw gyfranogwr.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Mae Wikipedia yn diffinio'r term Saesneg pedagogy fel “the discipline that deals with the theory and practice of education; it thus concerns the study of how best to teach” (dyfynnwyd ym mis Tachwedd 2019). Y diffiniad hwn sy'n creu trywyddau ymholi wrth ddiwygio'r ffordd y caiff y cwricwlwm ei ddylunio yng Nghymru.

    Mae Dyfodol Llwyddiannus yn cefnu'n llwyr ar gwricwlwm y ganrif ddiwethaf ac yn cynnig cyfle i adeiladu cwricwlwm newydd i Gymru sy'n addas i'r 21ain ganrif a thu hwnt.

    Er mwyn diwygio'r cwricwlwm yn llwyddiannus yng Nghymru, mae angen archwilio dulliau addysgegol er mwyn rhoi'r dibenion sydd wrth wraidd y cwricwlwm ar waith. Y pedwar diben yw y bydd pob plentyn a pherson ifanc: yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes; yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith; yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd; yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

    Mae gweithwyr addysg proffesiynol ledled Cymru yn datblygu cwricwlwm newydd gan roi mwy o bwyslais ar sgiliau sy'n paratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd a diwydiant. Bydd y cwricwlwm newydd yn adeiladu ar allu disgyblion i ddysgu a chymhwyso gwybodaeth am bwnc mewn ffordd fwy cadarnhaol a chreadigol. Bydd gan athrawon fwy o ryddid i hwyluso'r dysgu er mwyn sicrhau'r deilliannau gorau posibl a'r ffocws canolog o ran asesu fydd sicrhau bod dysgwyr yn deall sut maent yn perfformio a beth mae angen iddynt ei wneud nesaf. Mae datblygiadau technolegol a globaleiddio wedi trawsnewid y ffordd rydym yn gweithio ac yn byw. Bydd y newidiadau hyn yn arwain at oblygiadau dwys o ran yr hyn y bydd plant a phobl ifanc yn ei ddysgu a sut.
    Mae ymchwil Hattie (2003) yn cefnogi argymhellion Donaldson ac yn nodi mai'r hyn y mae athrawon yn ei wybod ac yn ei wneud, a'r hyn sy'n bwysig iddynt, sy'n bwerus iawn yn yr ystafell ddosbarth, gan arwain at effaith bwerus ar gyflawniad. Canfu Hattie fod gan athrawon rhagorol bum prif ddimensiwn sydd â phriodoleddau arbenigedd gwahanol:

    • Yn gallu nodi cynrychioliadau hanfodol o'u pwnc,
    • Yn gallu tywys y dysgu drwy ryngweithio yn yr ystafell ddosbarth,
    • Yn gallu monitro'r dysgu a rhoi adborth,
    • Yn gallu rhoi sylw i briodoleddau affeithiol,
    • Yn gallu dylanwadu ar ddeilliannau myfyrwyr.

    Yn ôl Hattie, “our profession truly does have recognisable excellence which can be identified in defensible ways, and the basis for a renewed focus on the success of our teachers to make the difference”.

    Canfyddiadau cychwynnol

    O ddadansoddi'r ymatebion i'r cwestiynau lled-strwythuredig, gwelir tystiolaeth gref bod ymarferwyr addysgol yn ymwybodol o'r diwygiadau i'r cwricwlwm yng Nghymru. Drwy goladu eu hymatebion, dangosodd y staff eu dehongliadau eu hunain o'r ffyrdd y maent wedi addasu eu harferion addysgegol i groesawu'r ffordd y mae'r cwricwlwm yn datblygu yn seiliedig ar y pedwar diben. Rhannodd y staff enghreifftiau o'r ffyrdd y maent wedi ymchwilio i egwyddorion dysgu ac addysgu a'u hystyried drwy arsylwadau ac asesu deilliannau disgyblion.
    Yn ogystal â hyn, llwyddodd y staff i nodi sut mae angen iddynt wella eu harferion proffesiynol er mwyn datblygu'r diwygiadau i'r cwricwlwm ymhellach. Esboniodd y staff sut roeddent yn bod yn rhagweithiol wrth ymgymryd â'u datblygiad proffesiynol eu hunain ac yn cyfeirio at y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth er mwyn cefnogi ac arwain eu harferion.
    Fodd bynnag, nododd yr awdur fod dehongliadau o ddulliau dysgu ac addysgu'n amrywio'n sylweddol wrth i lawer o ymatebion gwahanol gael eu rhannu. Bydd angen darparu hyfforddiant staff ysgol gyfan er mwyn sicrhau cysondeb a chynnydd wrth hwyluso arferion newydd i ddatblygu dull cyson o weithredu.
    O astudio ymatebion y cyfweleion ac ymddygiadau unigolion, ymddengys fod ymarferwyr addysgol yn teimlo'n llawn cymhelliant a brwdfrydedd dros y newidiadau sy'n cael eu datblygu ar y cyd yng Nghymru. Rhannodd yr ymarferwyr eu teimladau gan fynegi mwy o hyder i alluogi disgyblion i arwain eu dysgu eu hunain a rhoi amserlen lai strwythuredig i'r disgyblion, a fyddai'n creu mwy o gyfleoedd i'r disgyblion archwilio cysyniadau a chymhwyso'r hyn a ddysgir mewn arddull sy'n datblygu eu tueddiadau dysgu pennaf.

    Cyfyngiadau

    Yn ystod yr astudiaeth, roedd llawer o gyfyngiadau i'w hystyried. Ystyriwyd y cyfyngiadau canlynol:
    a) Roedd yr amser a oedd ar gael i gyflawni'r gwaith ymchwil yn gyfyngedig. Roedd argaeledd unigolion ar gyfer cyfweliadau yn her, ac roedd y cyfweliadau'n cymryd llawer o amser.
    b) Gellid cwestiynu dibynadwyedd yr astudiaeth hon oherwydd natur oddrychol y cyfweliad a thuedd bosibl yr ymchwilydd. Fodd bynnag, ceisiodd yr awdur liniaru'r problemau hyn drwy gyflawni'r gwaith ymchwil mewn ffordd gyson ac ailadroddus. At hynny, ymdrechodd yr awdur i ddilyn dull ymatblyg drwy gydol yr astudiaeth, a thriongli, er mwyn helpu i gyflawni dilysrwydd (Craft, 2000).

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Drwy gydol yr ymholiad ymchwil hwn, lluniwyd mwy o gwestiynau nag y gellid eu hateb o fewn cyfyngiadau amser yr astudiaeth. Isod ceir rhestr o feysydd posibl y gellid ymchwilio iddynt fel rhan o brosiectau ymchwil yn y dyfodol:

    • Sut y caiff asesiadau dysgwyr eu mesur drwy'r ffyrdd y caiff diwygiadau'r cwricwlwm newydd eu rhoi ar waith?
    • Pa arferion addysgegol y mae angen eu harchwilio ymhellach er mwyn sicrhau dysgu pwrpasol ym mhob rhan o'r cyfnod cynradd?
    • Sut y gall sefydliadau archwilio addysgeg sy'n defnyddio sgiliau ehangach yn llawn ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) a rhyngddynt?
    • Sut mae sefydliadau'n datblygu cyfleoedd i ddysgu o arbenigedd a phrofiad o'r tu allan i'r ysgol pan fydd cyd-destunau'n amrywio'n fawr ledled Cymru?

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    O safbwynt datblygiad proffesiynol, mae wedi rhoi cyfle i'r awdur ymchwilio i drywydd ymholi sy'n cwmpasu agweddau a dehongliadau staff. Mae rhyngweithio â gweithwyr addysg proffesiynol wedi cynnig cyfleoedd i werthuso i ba raddau rydym yn rhoi diwygiadau cwricwlwm Cymru 2022 ar waith yn effeithiol a beth mae angen i ni ei wneud nesaf.

  • Cyswllt

    Kelly Driscoll
    DriscollK1@hwbcymru.net

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd Langstone ym mhentref Langstone i'r dwyrain o Gasnewydd, ac mae'n gwasanaethu'r ardal leol a'r cyffiniau. Mae 305 o ddisgyblion amser llawn ar y gofrestr, rhwng 4 ac 11 oed.

    Mae ychydig yn llai na 3% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn yn is na'r cyfartaleddau lleol a chenedlaethol. Mae'r ysgol wedi nodi bod gan 8% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Nifer bach iawn o'r disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.

    Gwyn Prydeinig yw ethnigrwydd bron pob un o'r disgyblion. Nid oes yr un o'r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref, ond mae ambell ddisgybl yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

    Trosolwg ymholiad

    ‘I ba raddau y mae ymarferwyr cynradd yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i roi agweddau trawsieithu MDPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ar waith?’

    Cwestiwn Ymholi

    I ba raddau y mae ymarferwyr cynradd yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i roi agweddau trawsieithu Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ar waith?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    I ddechrau, roedd yr ymholiad hwn yn cynnwys pob aelod o staff yr ysgol a oedd yn ymgymryd â rolau UDRh, athrawon dosbarth a chynorthwywyr addysgu. Credwyd ei bod yn hanfodol bod pob aelod o'r sefydliad dysgu yn cymryd rhan o'r cychwyn cyntaf gan fod gan bob rhanddeiliad rôl i'w chwarae wrth roi agweddau trawsieithu Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ar waith.

    Ar ôl i bob cyfranogwr gael ei hysbysu bod yr ymholiad yn cael ei gynnal, a chydsynio i gymryd rhan, cynhaliwyd arolwg ar-lein. Roedd yr arolwg hwn yn caniatáu i ddata meintiol ac ansoddol gael eu casglu a'u dehongli. Gellid dadlau mai arolwg oedd y dull priodol i'w ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer yr ymholiad hwn gan ei fod yn hawdd ei weinyddu a'i gwblhau a gellir casglu symiau mawr o ddata yn gyflym. Er gwaethaf amheuon cychwynnol ynglŷn â defnyddio arolwg, fel yr anhawster sydd ynghlwm wrth gadarnhau bod yr ymatebion yn onest ac yn ddibynadwy gan nad yw'r ymatebwyr yn hysbys, canfuwyd bod yr ymatebion yn onest iawn gyda rhai'n nodi nad oeddent yn gwybod beth oedd ystyr 'trawsieithu'. O'r herwydd, roeddent o'r farn nad oedd ganddynt fawr ddim sgiliau o'r fath, os o gwbl, yn y maes hwn.
    Yn dilyn hyn, defnyddiwyd grŵp ffocws i gasglu rhagor o wybodaeth fanwl. Roedd y grŵp ffocws yn cynnwys unigolyn o bob un o'r timau addysgu yn yr ysgol (Meithrin a Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2, Blynyddoedd 3 a 4, Blynyddoedd 5 a 6), yn ogystal â dau gynorthwyydd addysgu ac un aelod o'r UDRh. Gwnaeth yr unigolion hyn wirfoddoli i fod yn rhan o'r grŵp ffocws ac roeddent yn meddu ar amrywiaeth o wybodaeth, dealltwriaeth a barn ynglŷn â rhoi agweddau trawsieithu ar waith. Roedd y grŵp ffocws yn gyfrwng i gynnal trafodaethau llawer mwy agored am gwestiynau gwahanol a luniwyd ac a ddatblygwyd wrth i'r sgwrs fynd rhagddi.
    Teimlwyd hefyd ei bod yn bwysig casglu a dehongli barn dysgwyr fel rhan o'r ymholiad hwn, gan mai nhw fydd yn profi trawsieithu yn yr ystafell ddosbarth yn y pen draw. Defnyddiwyd arolwg i gasglu barn 45 o ddysgwyr Blwyddyn 5, gan ddarparu data meintiol ac ansoddol. Dewiswyd y grŵp hwn o ddysgwyr am fod yr ymholwr arweiniol yn ymarferydd ystafell ddosbarth Blwyddyn 5. O ganlyniad, roedd hi'n hawdd cyfathrebu â'r rhieni ynghylch natur y gwaith ymchwil ac i'r arolwg gael ei gynnal yn ddidrafferth yn ystod y diwrnod ysgol.

    Ystyriaethau moesegol

    Drwy gydol y gwaith ymchwil hwn, cydymffurfiwyd â fframwaith Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (BERA, 2018) sy'n adlewyrchu egwyddorion yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol. Cafodd pawb a gymerodd ran gopi o dystysgrif clirio moesegol, taflen wybodaeth i gyfranogwyr/rhieni a ffurflen gydsynio i gyfranogwyr, y cafodd pob un ohonynt eu darparu gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd hyn yn sicrhau bod pawb yn deall yr hyn roedd y gwaith ymchwil yn ei olygu, eu hawl i dynnu'n ôl o'r ymholiad unrhyw bryd a sut y byddai eu preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Cafodd yr holl ddogfennau, arolygon a chynnwys a oedd yn ymwneud â'r grŵp ffocws eu cadw ar gronfa ddata electronig â chyfrinair cyn cael eu gwaredu'n briodol (BERA, 2018, t.21). Hysbyswyd y cyfranogwyr hefyd y byddent yn cael gwybod am ganlyniadau'r astudiaeth ar ôl i'r ymholiad gael ei gwblhau.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Mae'r term 'trawsieithu', a fathwyd gan Cen Williams yn y 1980au ac a gyfieithwyd i'r Saesneg yn ddiweddarach fel 'translanguaging' (Conteh, 2018), yn cyfeirio at arfer addysgu sy'n ymwneud â newid yr iaith fewnbwn a'r iaith allbwn (García a Li, 2014, t.64). Dadleuir bod llawer yn ystyried dwyieithrwydd fel 'unieithrwydd dwbl' (García, 2014, t.141) gan mai unieithrwydd sy'n cael ei dderbyn fel arfer fel y norm. Fodd bynnag, mae'n golygu llawer mwy na'r gallu i gyfathrebu mewn dwy iaith wahanol. Mae'n cyfeirio at y broses fewnol o ddefnyddio repertoire iaith cyfan i alluogi un iaith i atgyfnerthu iaith arall er mwyn gwella dealltwriaeth a chynyddu gweithgarwch y disgybl yn y ddwy iaith (Lewis et al, 2012).
    Yn sicr, mae i drawsieithu lawer o fanteision yn yr ystafell ddosbarth (Baker, 2001). Fodd bynnag, er mwyn sicrhau'r manteision hyn, noda Anderson (2017, t.34) '[the] necessity for the teacher to also be translingual becomes self-evident...as they model effective practices across the translingual continuum'. Dyna ble mae'r broblem. A oes gan ein hathrawon ddigon o sgiliau a dealltwriaeth i wybod sut i fod yn ymarferwyr trawsieithol? Yn ôl García et al (2016, t.9), ‘[it will be] difficult for teachers, steeped in monoglossic language ideologies, to accept translanguaging’.
    Mae'r ffaith bod sgiliau a phrofiadau trawsieithu wedi'u cynnwys ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn atgyfnerthu pwysigrwydd yr agwedd hon yn y Gymru sydd ohoni fel ffordd o ddangos i ddysgwyr bod yr iaith Gymraeg nid yn unig yn iaith fyw yng Nghymru, ond yn iaith ar gyfer byw yng Nghymru (Lovell, 2019). Mae'r penderfyniad i'w gynnwys yn hanfodol hefyd mewn Cymru newidiol ac egwyddorol er mwyn dangos i ddysgwyr ieithoedd lleiafrifol bod eu hiaith yn cael ei gwerthfawrogi a'i bod yn hanfodol i'r broses ddysgu. Fel yr honna García (2014, t.152), 'if the language space does not include the child's languaging and the teacher does not maximise the child's communication using the child's language practices, failure in education is sure to occur'. Er bod cynnwys trawsieithu yn y Cwricwlwm i Gymru yn sicr yn nodwedd gadarnhaol, mae Dadansoddiad Adborth Cwricwlwm i Gymru (2019) yn nodi'r problemau sy'n wynebu llawer o ysgolion. Caiff hyn ei gefnogi gan Lovell (2019). Yn ei farn ef, dylid rhoi blaenoriaeth i hyfforddiant ar arferion trawsieithu, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd lle nad yw hyfforddiant dwyieithog yn cael ei gynnig i athrawon ar hyn o bryd (Lovell, 2019).

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae rhai canfyddiadau allweddol wedi dod i'r amlwg drwy'r dulliau gwahanol a ddefnyddiwyd i gynnal yr ymholiad ymchwil hwn.
    Mae un o'r rhai mwyaf nodedig, ac efallai un o'r rhai mwyaf arwyddocaol, yn gyson â'r hyn a nodwyd yn y ddogfen Dadansoddiad Adborth Cwricwlwm i Gymru (2019) lle nad oedd y mwyafrif o'r cyfranogwyr (athrawon, cynorthwywyr addysgu ac aelodau o'r UDRh) yn siŵr o ystyr y term trawsieithu ac felly nid oedd ganddynt fawr ddim syniad ynglŷn â sut y gallai arferion trawsieithu gael eu rhoi ar waith yn yr ystafell ddosbarth ac yn y sefydliad dysgu yn gyffredinol. Wrth geisio diffinio ystyr trawsieithu, nodwyd yr arfer o gyfnewid codau a chyfieithu. Mae hyn yn dangos nad yw staff yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i roi agweddau trawsieithu ar waith ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ar hyn o bryd oherwydd, er mwyn i ymarferwyr allu gwneud hyn, mae angen iddynt yn gyntaf feddu ar ddealltwriaeth gadarn o ystyr y term trawsieithu a'r hyn y gallai ei olygu yng nghyd-destun eu hystafell ddosbarth. Yn bwysig ddigon, roedd pob cyfranogwr a ymatebodd i'r arolwg yn cytuno bod gan arferion trawsieithu rôl i'w chwarae yn yr ysgol a'r ystafell ddosbarth. Felly, yn y dyfodol, teimlir bod hwn yn faes y gellir ei ddatblygu wrth i bob aelod o staff fynd ati i rannu'r weledigaeth drawsieithu a nodir yng Nghwricwlwm 2022. Yn ôl yr arolwg, credir hefyd fod angen mwy o hyfforddiant ac arweiniad er mwyn i drawsieithu fod yn llwyddiannus yn Ysgol Gynradd Langstone. Ymhlith rhai o'r syniadau a gyflwynwyd i gefnogi gwell dealltwriaeth o arferion trawsieithu a dulliau mwy effeithiol o'u rhoi ar waith roedd cyfleoedd i arsylwi ar sefydliadau dysgu lle mae trawsieithu yn nodwedd annatod a neilltuo amser i gynnal gwaith ymchwil proffesiynol personol yn y maes hwn.
    Daeth yn amlwg drwy'r grŵp ffocws a'r gwaith o ddadansoddi'r arolwg bod cyfranogwyr, wrth gyfeirio at ddatblygiad iaith, yn cyfeirio at ieithoedd tramor modern yn bennaf, gydag ambell un yn sôn am y ffordd y gallai'r iaith Gymraeg gael ei datblygu. Dim ond un cyfranogwr a gyfeiriodd at ddatblygu ieithoedd lleiafrifol yn yr ystafell ddosbarth i gefnogi'r rheini sy'n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY). Mewn gwlad sy'n newid yn gyson, ac ar ôl croesawu tri dysgwr SIY i deulu Ysgol Langstone yn ddiweddar, mae'n bwysig nad ydym yn meithrin hierarchaeth o ran defnyddio ieithoedd drwy barchu a gwerthfawrogi cyfraniadau ym mhob iaith yn yr ystafell ddosbarth. Unwaith eto, mae hyn yn dangos y lefel isel o sgiliau y meddir arnynt ym maes trawsieithu gan nad oes cyfeiriad na ffocws clir o ran arferion ieithyddol.
    Yn olaf, canfu'r arolwg a gwblhawyd gan gyfranogwyr ym Mlwyddyn 5 fod pob un o'r plant o'r farn ei bod yn bwysig meithrin eu dealltwriaeth o ieithoedd eraill. Fodd bynnag, nododd y rhan fwyaf o'r plant nad oeddent yn mwynhau gwersi Cymraeg, a oedd yn cael eu haddysgu'n annibynnol gan nad oes cysylltiad yn aml rhwng y gwersi hyn a gweithgarwch dysgu sy'n ymwneud â phrosiectau. Unwaith eto, mae hyn yn dangos bod angen i ymarferwyr ddatblygu eu haddysgeg drawsieithu er mwyn sicrhau bod dysgwyr ym mhob maes dysgu a phrofiad yn ymgysylltu â'u harferion iaith eu hunain.

    Cyfyngiadau

    Un cyfyngiad posibl o ran yr ymholiad hwn oedd y defnydd o adnoddau TG gan yr ymarferwyr wrth gwblhau'r arolwg er mwyn rhoi'r ymateb 'cywir' pan ofynnwyd iddynt rannu'r hyn roedd trawsieithu'n ei olygu yn eu barn nhw. Nododd un cyfranogwr ei fod wedi edrych ar yr arolwg ac yna wedi mynd ati i ymchwilio i'r diffiniad o'r term 'trawsieithu' ar y rhyngrwyd. Fodd bynnag, er i'r cyfranogwr hwn gadarnhau wedyn iddo ateb y cwestiwn ar ei liwt ei hun, mae hyn yn dangos i ba raddau y gall arolygon ddarparu gwybodaeth gamarweiniol weithiau os bydd cyfranogwyr yn rhoi atebion y tybir y mae'r ymchwilydd yn dymuno eu clywed.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Mae angen dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr er mwyn sicrhau bod yr agwedd drawsieithu yn gydlynol ac yn effeithiol. Mae angen i athrawon fod yn ymwybodol o ystyr trawsieithu a'r hyn y dylai ei olygu yn eu cyd-destun nhw. Gallai trawsieithu gynnwys y Gymraeg, Ieithoedd Tramor Modern neu ieithoedd lleiafrifol eraill a welir yng nghyd-destun pob ysgol – bydd y sefyllfa yn amrywio ychydig ym mhob ysgol.
    Ni ellir ond cyfyngu trawsieithu i waliau'r ystafell ddosbarth – rhaid iddo fod yn rhan o ethos yr ysgol gyfan.
    Man cychwyn wrth sicrhau bod pob iaith yn cael ei gwerthfawrogi yw gofyn i ddysgwyr rannu'r ieithoedd y maent yn eu siarad gartref ac addysgu cyfarchion fel 'bore da' neu 'sut wyt ti?' i'r dysgwyr eraill. Wedyn, gellir gwneud arwyddion sy'n dangos yr ymadroddion hyn yn yr ieithoedd hynny (gallech gynnwys ymadroddion eraill yr hoffai'r dysgwyr eu dysgu hefyd) a'u harddangos yn yr ystafell ddosbarth/yr ysgol.
    Gellir sicrhau bod deunydd darllen ar gael yn yr ieithoedd a siaredir gan ddysgwyr yn yr ystafell ddosbarth. Gellir rhoi cyfle iddynt ddarllen y deunydd hwn a rhannu'r hyn y maent wedi'i ddarllen. Gellir ystyried caniatáu i ddysgwyr ddefnyddio adnoddau TG a gwybodaeth ymchwil am dasg benodol yn yr iaith y maent yn ei siarad gartref a thrafod yr hyn y maent wedi'i ddarganfod â dysgwyr eraill.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    n/a

  • Cyswllt

    Maria Edwards
    EdwardsM351@hwbcymru.net

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol 11-16 yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n gwasanaethu Cwm Tawe Isaf yw Ysgol Gymunedol Cwmtawe. Daw'r rhan fwyaf o'r disgyblion o Bontardawe a'r cyffiniau, ac mae tua 50% ohonynt yn dewis mynychu'r ysgol o'r tu allan i'r dalgylch arferol. Mae 1,232 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae gan yr ysgol ddwy uned addysgu arbenigol ar y safle; un ar gyfer dysgwyr dyslecsig a'r llall yn arbenigo mewn anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Mae 17.4% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 40% ar y gofrestr anghenion addysgol arbennig, ac mae gan tua 4% ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Daw tua 5% o'r disgyblion o grwpiau lleiafrifoedd ethnig a daw ambell ddisgybl o gartrefi nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Mae tua 14% o'r disgyblion sy'n siarad Cymraeg yn rhugl.

    Trosolwg ymholiad

    O ystyried y ffocws ar ddatblygu disgyblion yn ‘ddysgwyr uchelgeisiol a galluog’, rydym wedi ad-drefnu ein strwythur grwpiau addysgu yng Nghyfnod Allweddol 3. Mae hyn wedi arwain at symud i ffwrdd o system draddodiadol yr ysgol o fandio ar sail gallu i grwpiau addysgu gallu cymysg. Er bod gwahaniaethu'n rhan o ymarfer addysgu beunyddiol, ers newid i grwpiau gallu cymysg mae angen taflu goleuni ar ei bwysigrwydd, gan feithrin sgiliau a hyder ymarferwyr i gynllunio ac addasu eu haddysgu i sicrhau dull dysgu wedi'i bersonoli, a thrwy hynny sicrhau lefelau uchel o ddiddordeb ymhlith disgyblion.
    Ein cwestiwn ymchwil yw: ‘I ba raddau y mae dulliau addysgegol gwahanol mewn perthynas â gwahaniaethu yn cynnal cymhelliant pob disgybl yn yr ystafell ddosbarth?’
    Caiff yr ymholiad ei gwblhau'n fewnol gan dîm ymchwil weithredu sy'n cynrychioli gwahanol Feysydd Dysgu a Phrofiad. Defnyddir cyfuniad o ddulliau ymchwil ansoddol a meintiol gan gynnwys holiaduron disgyblion ac ymarferwyr, trafodaethau grŵp ffocws ac arsylwadau gwersi.

    Cwestiwn Ymholi

    I ba raddau y mae dulliau addysgegol gwahanol mewn perthynas â gwahaniaethu yn cynnal cymhelliant pob disgybl yn yr ystafell ddosbarth?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Mae'r ymholiad yn cael ei gwblhau'n fewnol ac mae'n cynnwys grŵp ymchwil gweithredol o chwe ymarferydd o feysydd Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a'r Dyniaethau. Grwpiau addysgu gallu cymysg ym Mlwyddyn 7 yw ffocws y gwaith ymchwil. Hefyd, mae tri ymarferydd wedi dewis dosbarth Blwyddyn 7 ychwanegol yr un fel grŵp nas rheolir at ddibenion cymharu.Mae holiadur wedi cael ei lunio er mwyn casglu gwybodaeth am brofiadau ac arferion presennol mewn perthynas â gwahaniaethu. Cafodd ei dreialu gyda'r grŵp ymchwil gweithredol. Wedyn, cafodd yr un holiadur ei lenwi'n ddienw gan holl athrawon yr ysgol, er mwyn meithrin dealltwriaeth ehangach o wahaniaethu ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Caiff yr holiadur hwn ei lenwi eto ar ddiwedd y prosiect, gan y chwe ymarferydd, er mwyn mesur cynnydd o ran eu dealltwriaeth a'u defnydd o wahanol addysgegau gwahaniaethol i sicrhau bod disgyblion yn ymgysylltu.Mae'r disgyblion wedi llenwi holiaduron sy'n canolbwyntio ar eu diddordebau a'u harddulliau dysgu. Maent hefyd wedi llenwi holiadur Fi Fel Dysgwr (Myself As a Learner – MAL). Caiff yr holiadur hwn ei lenwi eto ar ddiwedd y prosiect fel bod modd cymharu data ansoddol. Bydd disgyblion sy'n rhan o'r grŵp nas rheolir hefyd yn llenwi holiadur MAL er mwyn cymharu eu hatebion â'r grwpiau a reolir. Gan ddefnyddio holl ddata'r holiadur, nodir grŵp o ddysgwyr ym mhob dosbarth i ganolbwyntio arno wrth arsylwi ar wersi.Yn ystod yr ymholiad hwn, cynhelir trafodaethau grŵp ffocws â'r chwe ymarferydd a disgyblion dethol er mwyn nodi dyfnder barn, gwybodaeth a phrofiadau. Bydd hyn yn digwydd ar ddechrau ac ar ddiwedd y broses at ddibenion cymharu.Hefyd, arsylwir ar wersi drwy gydol yr ymholiad, gan ganolbwyntio ar lefelau ymgysylltu’r dysgwyr a nodwyd. Bydd y chwe ymarferydd hefyd yn llenwi cofnodlyfrau adfyfyrio er mwyn gwneud sylwadau ar lefelau ymgysylltu a chymhelliant y disgyblion a nodi pa strategaethau sy'n effeithiol neu'n llai effeithiol.

    Ystyriaethau moesegol

    Mae angen i bob ymarferydd gael ei hysbysu'n llawn am ddiben y gwaith ymchwil, y dulliau a ddefnyddir i'w gyflawni a'r ffyrdd y bwriedir ei ddefnyddio. Rydym wedi cael cydsyniad ar sail gwybodaeth gan y chwe ymarferydd ac wedi gofyn am hynny gan y disgyblion a'r rhieni. Mae angen rhoi sicrwydd i bob cyfranogwr ymchwil y bydd cyfrinachedd ac anhysbysrwydd yn cael eu parchu. Byddant yn cymryd rhan yn wirfoddol felly gallant dynnu'n ôl neu ddewis peidio â chymryd rhan ar unrhyw gam o'r broses. At hynny, mae angen cynnal nodweddion allweddol gwaith ymchwil, sef ansawdd, didueddrwydd ac uniondeb.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    “Differentiation is neither revolutionary nor something extra. It is simply teaching mindfully and with the intent to support the success of each human being for whom we accept professional responsibility. It moves us away from seeing and teaching students as a unit toward reflecting on and responding to them as individuals.” (Sousa a Tomlinson, 2018)
    Mae syniadau Tomlinson am gyfarwyddiadau gwahaniaethol wedi bod yn ddylanwadol tu hwnt. Mae Tomlinson (2004, 2014, 2018) wedi cynnig pedwar dull i ymarferwyr wahaniaethu eu haddysgu:1. Cynnwys (gwybodaeth a syniadau y bydd y disgyblion yn mynd i'r afael â nhw er mwyn cyflawni'r nodau dysgu)Proses (sut y bydd y disgyblion yn gwneud synnwyr o'r cynnwys)
    3.Cynnyrch (sut y bydd y disgyblion yn dangos yr hyn y maent yn ei wybod, yn ei deall ac yn gallu ei wneud)
    4. Teimlad ac Amgylchedd (hinsawdd yr ystafell ddosbarth)
    Mae Tomlinson hefyd yn awgrymu bod angen i ymarferwyr ganolbwyntio ar dri math o wahaniaeth rhwng myfyrwyr wrth addysgu er mwyn hybu tegwch a rhagoriaeth ymhellach (Santangelo a Tomlinson, 2009):
    1. Pa mor barod ydyn nhw (faint y maent yn ei wybod ar hyn o bryd)
    2.Diddordeb (cysylltiad â phwnc, chwilfrydedd tuag ato neu frwdfrydedd drosto)Proffil dysgu (arddull dysgu, dewisiadau deallusrwydd, rhywedd a diwylliant)
    Pan fydd gweithgareddau'n seiliedig ar ddiddordebau'r disgyblion, byddant yn gallu cysylltu'r cynnwys â'r hyn sydd eisoes yn bwysig iddynt. Mae'r math hwn o wahaniaethu sy'n seiliedig ar ddiddordebau yn hybu lefelau ymgysylltu, cymhelliant ac yn annog dysgwyr i ymddiddori mewn pethau newydd (Santangelo a Tomlinson, 2009). Pan gaiff gwahaniaethu ei roi ar waith yn fedrus, bydd pob disgybl yn profi twf academaidd drwy brofiadau dysgu heriol briodol. Mae hyn yn galluogi pob disgybl i ymgysylltu â dealltwriaethau ac egwyddorion allweddol (Hattie, 2012).Mae model Tomlinson o wahaniaethu yn un o ddatblygu parhaus. Nid yw'n gyfarwyddol, nac yn gyfres haearnaidd o ganllawiau addysgu; mae'n ffordd hyblyg, seiliedig ar egwyddorion o feddwl am ddysgu ac addysgu. Mae gwahaniaethu'n annog ymarferwyr i symud eu ffocws oddi wrth addysgu cynnwys cwricwlwm ac yn agosach at werthfawrogi'r angen i gyfoethogi a dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gysyniadol disgyblion (Tomlinson, 2014).Ategir y model hwn gan feddylfryd twf ymhlith yr ymarferwyr. Mae angen i athrawon gredu bod pob disgybl yn dod i'r ysgol yn awyddus i ddysgu. Caiff hyn effaith sylweddol ar y ffordd y bydd ymarferwyr yn ymateb i ddisgyblion sy'n ei chael hi'n anodd (Sousa a Tomlinson, 2018). Po fwyaf yw'r teimladau cadarnhaol sydd gan ymarferwyr tuag at eu disgyblion a'u cymhwysedd eu hunain, yr uchaf fydd cyflawniad y dysgwyr (Zee a Kooman, 2016). Mae hyn yn codi'r cwestiwn pellach: ‘i ba raddau y gall meddylfryd twf ymarferwyr sicrhau gwahaniaethu effeithiol a chynnal cymhelliant pob un o'r disgyblion yn yr ystafell ddosbarth?’

    Canfyddiadau cychwynnol

    Dim canfyddiadau wedi dod i'r amlwg eto.

    Cyfyngiadau

    Nid yw'r cyfyngiadau wedi cael eu hystyried hyd yma.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Nid oes argymhellion allweddol wedi dod i'r amlwg eto mor gynnar â hyn yn yr ymholiad.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    dd/g

  • Cyswllt

    Dewi Lake
    manager@moelwyn.gwynedd.sch.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Bangor

    Consortiwm

    GWE

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol 11-16 oed yw Ysgol y Moelwyn. Mae hi`n ysgol sy`n cynnwys 320 o ddisgyblion ac yn gwasanaethau ardal ddaearyddol eang yn ymestyn o Danygrisiau i Drawsfynydd. Mae'r ardal yn cynnwys heriau amddifadedd trefol a gwledig a cheir natur gymunedol gref mewn rhannau ohoni. Mae'r tim staff yn un aeddfed ac wedi arbrofi yn eang ym maes Cwricwlwm i Gymru 2022. Ceir partneriaeth cynradd uwchradd aeddfed a hyrwyddir nifer o ddatblygiadau ar y cyd.

    Trosolwg ymholiad

    Sut y gellir addysgu gan roi sylw penodol i`r agweddau isod:
    Y pedwar diben.
    Y sgiliau dysgu craidd gan gynnwys dyfalbarhad, cydweithiom gweithio`n annibynnol, datrys problemau a chymhelliant.
    Meddylfryd twf.
    Dysgu dwfn.
    Mewnoli iaith gan roi sylw penodol i gynnydd yn y Gymraeg.
    Egwyddiron ysgolion sydd yn annog.

  • Cyswllt

    Hayley Blackwell hbl@eirias.conwy.sch.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Bangor

    Consortiwm

    GWE

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gyfun sefydledig ym Mae Colwyn yw Ysgol Eirias. Rydym wedi gweithio gyda Rhwydwaith Ysgolion Arloesi Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru ers ei sefydlu. Mae 1354 o ddisgyblion wedi'u cofrestru, gyda 265 yn y chweched dosbarth, a 95 o aelodau o staff addysgu. Mae 13% o'r myfyrwyr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac mae'r ysgol yn y categori melyn yn unol â System Categoreiddio Ysgolion Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

    Trosolwg ymholiad

    Bydd tri aelod o staff sy'n gweithio mewn triawd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 yn ystyried y defnydd o'r pedwar diben mewn cynllun peilot ar gyfer cynllunio gwersi gan ddefnyddio Lesson Studies (Dudley, 2011). Nod cyffredinol yr astudiaeth yw gwerthuso pa mor hawdd yw defnyddio'r pedwar diben fel sail ar gyfer addysgu sgiliau trosglwyddadwy cyffredin y disgyblion, yn benodol dehongli, dadansoddi a gwerthuso (Lucas a Claxton, 2009.)

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y gall Astudio Gwersi helpu i gynllunio ar gyfer y pedwar diben ac addysgu sgiliau trosglwyddadwy?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Rydym wedi cynnwys pedwar athro blwyddyn 7 yn y cylch hwn gan gynnwys dau athro Mathemateg, un athro Saesneg ac un athro arall a gymerodd ran fel Hwylusydd y Cylch.

    Hwylusydd y Cylch a gynhaliodd pob cyfweliad (â'r athrawon a'r dysgwyr) ac a grynhodd y canfyddiadau.

    Gwnaeth tri o'r pedwar athro Astudio Gwersi (Dudley, 2011). Nid oedd yr un o'r staff wedi Astudio Gwersi o'r blaen.

    Cyflwynwyd y dull Astudio Gwersi mewn pynciau gwahanol er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd sgiliau trosglwyddadwy yn yr addysgu.

    Gwnaethom ddewis dull Astudio Gwersi am ei fod yn llwyddiannus mewn cylchoedd ymholi proffesiynol blaenorol, ond, y tro hwn, roeddem am newid y dull. Yn achos ymholiad Cylch Pedwar, cynhaliwyd holiaduron gyda'r staff cyn ac ar ôl y cylch er mwyn casglu gwybodaeth am lefelau ymgysylltu â'r pedwar diben. Hefyd, cynhaliwyd cyfweliad distrwythur er mwyn i'r athrawon allu cyflwyno eu hymateb eu hunain.

    Ar ôl pob gwers, cynhaliodd Hwylusydd y Cylch gyfweliadau â grwpiau bach o ddysgwyr gan ddefnyddio'r Pecyn Cymorth Profiadau Disgyblion (adnodd o brosiect CAMAU ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow).
    Nid oedd gan Hwylusydd y Cylch gysylltiad â'r dysgwyr, er mwyn osgoi unrhyw ymatebion a roddir am eu bod yn gymdeithasol dderbyniol o bosibl.

    Ystyriaethau moesegol

    Rhoddwyd sylw i ystyriaethau moesegol ar gyfer cyfranogiad athrawon a dysgwyr yn Ymholiad Cylch Pedwar.
    Ceisiwyd cymeradwyaeth foesegol gan Brifysgol Bangor ac fe'i cafwyd.
    Gwnaethom hefyd edrych ar ddogfennau GwE er mwyn dod o hyd i ganllawiau moesegol ar gyfer cyflawni gwaith ymchwil gyda dysgwyr mewn ysgolion.

    Rhoddodd taflenni gwybodaeth a ffurflenni cydsynio'r cyfranogwyr sicrwydd i'r athrawon y byddai eu holl sylwadau yn ddienw.
    Defnyddiwyd IRIS Connect i ffilmio'r gwersi ac fe'i derbynnir fel cyfleuster recordio ar-lein diogel.

    O ran y dysgwyr a gymerodd ran yn y cyfweliadau mewn grwpiau bach, cafwyd ffurflenni cydsynio gan eu rhieni/gwarcheidwaid gan ddefnyddio adnoddau CAMAU (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant).
    Er ein bod yn ymwybodol iawn o GDPR a chaniatâd bob amser, roedd moeseg yn fater newydd iawn i rai aelodau o'r staff: mae'r cymorth a gafwyd drwy ddigwyddiadau a hyfforddiant y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol wedi bod yn amhrisiadwy.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Roedd ein hadolygiad o lenyddiaeth yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau ehangach ar gyfer dysgu (Lucas a Claxton, 2009), yn enwedig mewn perthynas â dehongli.
    Cyfeiria Lucas a Claxton (ibid) at bwysigrwydd peidio â pholareiddio gwybodaeth a sgiliau. Maent yn canolbwyntio ar bwysigrwydd ‘dysgu sut i ddysgu’ fel sgil eang ac rydym wedi canolbwyntio ar y gallu i ddehongli (h.y. esbonio ystyr rhywbeth). Ein nod oedd helpu dysgwyr i drosglwyddo sgiliau ehangach o bwnc i bwnc er mwyn eu helpu ymhellach i feithrin gwybodaeth. Caiff barn Lucas a Claxton ar bwysigrwydd gwybodaeth i bobl ifanc a sut i'w deall, ei dehongli a'i defnyddio, ei hategu gan ddau o sgiliau ehangach Donaldson, sef meddwl yn feirniadol a datrys problemau (Donaldson, 2015:42).

    Mae asesu'r sgiliau yn broblem i Lucas a Claxton (ibid) ond rydym yn fodlon gwerthuso'r Astudiaeth o Wersi a defnyddio ysgol gynnydd yn y pen draw i gefnogi'r broses o ddatblygu'r sgiliau a hunanwerthusiad y dysgwyr.
    Fel y noda Dudley (2011), math o waith ymchwil gweithredol a gyflwynwyd yn Japan yn yr 1870au yw Astudio Gwersi, ac mae'n golygu bod grwpiau o athrawon yn cydweithio i gynllunio dysgu ac addysgu, eu rhoi ar waith, arsylwi arnynt a'u dadansoddi mewn ‘sesiynau ymchwil’. Mae'r broses a amlinellwyd gan Dudley (ibid) yn ddefnyddiol a chafodd llawer o'r agweddau eu mabwysiadu, yn enwedig canolbwyntio ar grŵp bach o ddysgwyr a gwerthuso'r ffordd y maent yn ymateb yn ystod y wers. Awgryma Dudley (ibid) y gall athrawon, drwy wneud hyn, ddod yn fwy ymwybodol o anghenion unigolion yn eu haddysgu dilynol. Mae'r cydweithio a'r gwaith adolygu sy'n deillio o Astudio Gwersi yn hynod bwysig, ac mae'n hanfodol bod trafodaeth rhwng gwersi er mwyn hwyluso gwelliant. Mae hefyd yn fodd i rannu ‘gwybodaeth am arferion athrawon unigol’ sydd, fel y noda Dudley'n gywir ddigon, yn aml yn aros gydag athro unigol nad yw'n ymwybodol o'r wybodaeth honno o bosibl.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Roedd dwy agwedd hanfodol ar y canfyddiadau yn y cylch ymholi hwn:
    1. Effaith yr Astudiaeth o Wersi ar ddysgu proffesiynol
    2. Effaith y wers ar y dysgwyr a'u hamgyffrediad o ddehongli fel y'i nodir ym mhedwar diben y cwricwlwm (dysgwyr uchelgeisiol a galluog).

    Athrawon:

    • Roedd defnyddio'r pedwar diben wrth gynllunio yn effeithiol, yn enwedig fel rhan o'r amcanion dysgu am fod hynny'n pwysleisio bod yr hyn rydym yn ei wneud yn berthnasol a'r effaith y dylai hynny ei chael ar y dysgwyr;
    • Cododd y broses ymwybyddiaeth o'r pedwar diben ymhlith yr holl staff. Mae'n bwysig edrych y tu hwnt i'r penawdau a threiddio i'r disgrifyddion;
    • Mae cydweithio wedi bod yn amhrisiadwy; gwnaeth yr athrawon fwynhau cael amser i gynllunio, trafod a chreu a gwnaethant elwa'n fawr ar wylio ei gilydd yn addysgu;
    • Drwy ddefnyddio'r un sgil mewn pynciau gwahanol, mae'r athrawon wedi gallu adfyfyrio ar y dull o addysgu'r sgil ei hun yn hytrach na bod y cynnwys yn mynd â'i sylw;
    • Roedd manteision yn gysylltiedig â rhoi sylw parhaus i'r sgil trosglwyddadwy dros gyfnod byr o amser; gellid addysgu sgiliau dehongli ym mhob rhan o'r cwricwlwm gan ddefnyddio addysgeg debyg;
    • Creodd hyn ‘newid yn yr addysgu’ i feddwl am yr effaith hirdymor ar y dysgwyr;
    • Tynnwyd sylw at ddefnydd effeithiol o sgaffaldio yn ystod y broses;
    • Bydd y dysgu go iawn (i'r athrawon) yn digwydd yn ystod cyfnod adolygu'r Astudiaeth o Wersi.

    Pwyntiau i grynhoi gan yr athrawon:
    “Mae'r ffaith bod hyn wedi arwain at newid cadarnhaol yn fy addysgu wedi bod mor bwerus...”
    “Fel athrawon, os ydym am uwchsgilio'r dysgwyr ac adeiladu ar wybodaeth flaenorol, mae angen inni sicrhau bod ganddynt wybodaeth flaenorol gadarn.”

    Dysgwyr:
    (Holwyd y dysgwyr bythefnos ar ôl y wers er mwyn gweld beth y gallai'r effaith barhaus fod)

    • Roeddent yn gallu cofio'r wers yn hawdd; roedd y rhan fwyaf o'r dysgwyr yn defnyddio'r gair ‘dehongli’ ac yn gwneud cysylltiadau â phynciau eraill (yn enwedig Saesneg a Chelf);
    • Roedd ganddynt ddiddordeb arbennig mewn datblygu sgiliau dehongli er mwyn iddynt eu defnyddio mewn cyd-destunau eraill fel datrys problemau a gyrfaoedd yn y dyfodol. (Maent yn hoffi cyd-destunau go iawn ond ni wnaethant ddefnyddio'r term);
    • Gwnaethant ddweud bod angen iddynt ddychwelyd at y sgil ac y byddai'n fuddiol petai athrawon yn gwneud y cysylltiadau rhwng pynciau – gwnaethant gyfeirio at werth meistrolaeth (heb enwi'r term);
    • Gwnaethant fwynhau gwers lle roedd angen iddynt feddwl yn annibynnol a datrys problem.

    Cyfyngiadau

    Un o gyfyngiadau'r cylch ymholi hwn oedd dod o hyd i'r amser i bawb gwrdd ar yr adeg benodol o'r flwyddyn a chyda cyllidebau cyfyngol. Er bod y cyllid gennym i gyflenwi gwersi'r pedwar cyfranogwr, mae hyn yn rhoi llawer o straen ar yr ysgol ar adegau arbennig o brysur. Bydd ailadrodd y cylch hwn yn y dyfodol yn arwain at oblygiadau sylweddol o ran adnoddau os daw'r cyllid cenedlaethol i ben.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Defnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth (h.y. Astudio Gwersi) i archwilio sgiliau trosglwyddadwy yn drwyadl drwy weithio mewn gwahanol bynciau.
    Defnyddio dulliau dylunio cymysg er mwyn gallu amrywio'r dull gweithredu i ymestyn y gwaith ymchwil a dilysu a thriongli'r ymatebion.
    Cydgysylltu technoleg a sicrhau ei bod yn gydnaws er mwyn cofnodi a storio sgyrsiau/gwersi.
    Defnyddio'r model Astudio Gwersi yn effeithiol er mwyn sicrhau dysgu proffesiynol effeithiol.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Donaldson, G., (2015), Dyfodol Llwyddiannus. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
    Dudley, P., (2011), Lessons Study: a handbook. www.lessonstudy.co.uk

    Lucas B. a Claxton G., (2009), Wider skills for learning. Llundain: NESTA (National Endowment for Science, Technology and the Arts).

    OECD, (2016). What makes a school a learning organisation? Paris: OECD, (2016. https://www.oecd.org/education/school/school-learning-organisation.pdf
    Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Pecyn Cymorth Profiadau Disgyblion CAMAU
    https://hwb.gov.wales/storage/951968c0-4a7c-441c-a830-d84e5b8d1279/pecyn-cymorth-profiadau-disgyblion.pdf

  • Cyswllt

    Barry Crompton

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gyfun gymysg 11-18 â statws sefydledig yw Ysgol Stanwell, a hon yw'r ysgol uwchradd fwyaf yn yr awdurdod. Mae 2011 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd. Mae 4.3% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn yn is na chyfartaledd yr awdurdod unedol (11.7%) a'r cyfartaledd cenedlaethol (16.3%). Daw llai nag 1% o'r disgyblion o gartrefi lle mai'r Gymraeg yw'r brif iaith. Daw 95% o'r disgyblion o gartrefi lle mai Saesneg yw'r brif iaith a daw 4% o gartrefi lle y siaredir ieithoedd eraill. Penodwyd y pennaeth i'r swydd ym mis Medi 2018.

    Trosolwg ymholiad

    A fydd symud o arsylwadau gwersi lle y rhoddir gradd a galluogi athrawon i wneud newidiadau i'w harferion addysgegol yn golygu y caiff y cwricwlwm newydd i Gymru a chenhadaeth ein cenedl eu rhoi ar waith yn effeithiol yn yr ysgol?

    Cwestiwn Ymholi

    Beth yw rôl arsylwadau er mwyn galluogi newid i arferion addysgegol yn y cwricwlwm newydd?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Diben yr ymholiad hwn yw archwilio:

    • Manteision ac anfanteision arsylwadau gwersi lle rhoddir gradd a lle na roddir gradd.
    • Pa newidiadau i arferion addysgegol sydd eu hangen er mwyn i arsylwadau gwersi lle na roddir gradd fod yn effeithiol?
    • Pa mor bwysig y dylai arsylwadau gwersi fod pan fydd ysgolion yn dechrau rhoi newidiadau ar waith mewn perthynas â'r cwricwlwm newydd?

    Cymerodd amser i gwblhau'r gwaith cychwynnol o ddrafftio ac ailddrafftio'r cwestiwn ymholi, ac roedd cyfarfodydd â chydweithwyr a thiwtoriaid cyswllt y brifysgol yn hynod fuddiol yn hyn o beth. Ar ôl pennu ffocws clir, y cam nesaf oedd darllen am bwnc yr ymholiad. Roedd yn rhaid i'r gwaith darllen fod yn hydrin, o ystyried cyfyngiadau amser y prosiect hwn, ond roedd yn rhaid cael ffocws pendant hefyd, felly canolbwyntiwyd ar grynodebau ac erthyglau yn hytrach na llyfrau ac astudiaethau academaidd cyfan.
    Roedd yn bwysig deall y cyd-destun ehangach i ddechrau, cyn canolbwyntio ar fy ysgol fy hun. Helpodd y cyfweliad a gynhaliwyd â'r Pennaeth Cynorthwyol, sydd â chyfrifoldeb arbennig am ddysgu ac addysgu, i feithrin dealltwriaeth ardderchog o strategaeth yr ysgol mewn perthynas â'r cwricwlwm newydd a lle arsylwadau o fewn hynny. Hefyd, roedd ffocws clir ar wella arferion addysgegol a meithrin ethos o gydweithio a hunanadfyfyrio drwy raglen dysgu proffesiynol arloesol a dadlennol.

    Ystyriaethau moesegol

    Cafodd sail resymegol y gwaith ymchwil dan sylw ei gyflwyno i'r staff a oedd yn cymryd rhan. Roedd yn bwysig osgoi gosod gofynion gormodol ar amser y staff ac osgoi gwneud i'r staff deimlo eu bod yn ‘gorfod’ cymryd rhan yn y gwaith ymchwil. Cymerwyd rhan yn wirfoddol a gellid gwneud hynny dros gyfnod eang ac mewn lleoliad/amgylchedd a ddewiswyd gan yr unigolyn er mwyn lleihau unrhyw bwysau ychwanegol ar y staff. Cafodd yr unigolion dan sylw sicrwydd y byddai'r holl ganlyniadau yn anhysbys.
    Cafodd pawb Ffurflen Gydsynio i Oedolion a oedd yn nodi'n glir bod y penderfyniad i gymryd rhan yn wirfoddol, bod hawl tynnu'n ôl a bod cymryd rhan yn golygu eu bod yn cytuno i ddyfyniadau anhysbys gael eu defnyddio.
    Yn ystod unrhyw gyfweliadau, cymerwyd camau i dawelu meddwl y sawl a gyfwelwyd na fyddai sylwadau na safbwyntiau yn cael eu hystyried yn negyddol ac y byddai unrhyw sylwadau yn anhysbys, heb gyfeirio at enw nac ysgol. Dim ond at ddiben ymchwil y cesglid gwybodaeth ac ni fyddai'n cael ei defnyddio at unrhyw ddiben proffesiynol arall. Mae'r gwaith ymchwil yn dilyn canllawiau gwaith ymchwil moesegol Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    O’Leary, M. (2016) ‘Reclaiming lesson observation as a tool for teacher learning’, Abingdon: Routledge
    Dabell, J. (2018) ‘Watch and learn’, @teachertoolkit
    Miles, J. (2019) ‘Reflecting on reflection: How can teachers get the most out of developmental lesson observations?’, WordPress.com
    Rosenshine, B. (2010) ‘Principles of instruction’ Educational practices series; Cyf.:21
    Sherrington, T. (2019) ‘Rosenshine’s Principles in Action’, John Catt Educational Ltd
    “…graded observations had become one of the most polemical areas of practice for the profession in recent years.” (O’Leary, 2014)
    “…a change in procedure does not necessarily equate to a change in practice.” (O’Leary, 2016)
    “…observation carries with it a certain degree of emotional baggage.” (O’Leary, 2016)
    “The allocation of a grade to classroom observations has never been, nor will it ever be a practice that is consistently reliable.” (O’Leary, 2016)
    “The narrative is changing from observation as a monitoring and surveillance performative tool to observation for development, teacher growth and teacher agency.” (Dabell, 2018)

    Canfyddiadau cychwynnol

    Yn gyntaf, mae angen i ymholiad gael cwestiwn penodol sydd â ffocws pendant, a pho fwyaf o amser a dreulir yn sicrhau bod yr agwedd hon yn iawn, y mwyaf tebygol ydyw y bydd y canfyddiadau'n fwy dadlennol. Mae cael gafael ar y bobl gywir i gydweithio â nhw a threulio amser yn meddwl pwy yw'r bobl orau i gael cyfweliadau neu ateb holiaduron hefyd yn bwysig. Dylai adeiladu ymholiad ar sylfeini cadarn sicrhau bod iddo ffocws clir, methodoleg glir a chasgliadau clir.
    O ran yr ymholiad hwn, cymerodd amser i ddrafftio ac ailddrafftio'r cwestiwn. Er i hyn beri ychydig o rwystredigaeth ac awydd i fwrw ymlaen â'r gwaith ar y dechrau, mae'n amlwg bellach, a ninnau'n nesáu at ddiwedd y cylch cychwynnol, y bydd cael ffocws clir a hydrin yn llawer mwy effeithiol drwy'r cylch ymholi cyfan.
    Mae cydweithio ag athrawon eraill ac uwch-arweinwyr eraill mewn ysgolion ledled Cymru wedi bod yn bwysig iawn hefyd. Roedd yn gyfle i wrando ar eu teithiau mewn perthynas ag arsylwadau gwersi a'r prosesau meddwl yr aeth uwch dimau drwyddynt wrth ystyried a ddylid newid o arsylwadau gwersi lle rhoddir gradd i rai lle na roddir gradd. Roedd yn amlwg o'r cyfarfodydd a'r sgyrsiau anffurfiol hyn y byddai'n rhaid newid arferion addysgegol, ochr yn ochr ag unrhyw newid o ran methodoleg arsylwi, ac, yn benodol, uwchsgilio staff mewn perthynas â hyfforddi a mentora. Atgyfnerthwyd hyn yn ystod y cyfweliad ffurfiol a gynhaliwyd â'n Pennaeth Cynorthwyol, a bydd hyn yn sail i waith ymholi pellach.
    Yn sgil hyn, mae'r ymholiad hwn bellach wedi agor maes i ymchwilio ymhellach iddo, sef dysgu proffesiynol. Mae ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu a'r arlwy dysgu proffesiynol sydd ar gael i'r staff yn rhan annatod o sicrhau y caiff y cwricwlwm newydd ei roi ar waith yn effeithiol mewn ysgolion. Heb arferion addysgegol effeithiol, a heb wreiddio diwylliant ac ethos gwirioneddol o adfyfyrio a hunanwelliant mewn ysgolion, bydd yn anodd iawn rhoi newid effeithiol ar waith.
    Mae'r gwaith o greu diwylliant o ymholi yn ein hysgol yn datblygu'n gadarn, gyda phwyslais penodol ar ‘Principles of Instruction’ gan Rosenshine fel astudiaeth arweiniol. Bydd yr ymholiad hwn nawr yn symud ymlaen i'r cylch nesaf, gyda phwyslais arbennig ar yr arferion addysgegol effeithiol sydd eu hangen er mwyn i arsylwadau lle na roddir gradd fod yn effeithiol, a dadansoddiad o ba mor bwysig y dylai arsylwadau gwersi fod wrth i ysgolion ddechrau rhoi newidiadau ar waith mewn perthynas â'r cwricwlwm newydd.

    Cyfyngiadau

    Mae'n amlwg bod amser yn ffactor sy'n cyfyngu ar ddyfnder ymholiad. Wrth reswm, mae'n anodd trefnu cyfweliadau ag aelodau uwch o staff o ystyried cyfrifoldebau addysgu ac ymrwymiadau blaenorol eraill. Mae angen amser i goladu a dadansoddi unrhyw holiaduron. Hefyd, mae'n anodd cael amser i ddarllen am bwnc yr ymholiad a llunio cynllun gweithredu, o ystyried bod llawer o ofynion eraill y mae angen i ymarferwyr ymdopi â nhw yn ystod amser ysgol a thu hwnt.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Mae'r sylw craff a'r amser a dreulir yn drafftio ac yn ailddrafftio'r cwestiwn cychwynnol yn bwysig iawn. Roedd arbenigedd a chyngor y tiwtor cyswllt o'r brifysgol yn hollbwysig yn hyn o beth. Yn ogystal â hynny, roedd cael tîm profiadol a sefydledig o gydweithwyr ar gamau cychwynnol yr ymholiad, er mwyn trafod materion â nhw a chael hyfforddiant ganddynt ar amrywiol senarios a strategaethau, hefyd yn hanfodol.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    https://www.teachertoolkit.co.uk/2018/02/12/watch-learn-2/
    https://joannemilesconsulting.wordpress.com/?s=observations
    http://www.orientation94.org/uploaded/MakalatPdf/Manchurat/EdPractices_21.pdf

  • Cyswllt

    Mark Powell: PowellM45@hwbcymru.net
    01978 346910

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Bangor

    Consortiwm

    GWE

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol Arbennig ADY fawr yw hon, sydd â 300 o leoedd i ddysgwyr a darpariaeth asesu i wyth dysgwr ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer dysgwr 6-19 oed. Mae 43% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae'r ysgol yn darparu ar gyfer amrywiaeth eang o anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol ac anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol. Mae ganddi gwricwlwm cwbl gynhwysol sy'n galluogi'r dysgwyr i fynd i golegau lleol a manteisio ar bartneriaethau busnes er mwyn hybu cynhwysiant. Mae wedi ennill llawer o wobrau am ei mentrau ac fe'i cydnabyddir ar lefel leol a chenedlaethol am arferion da.
    Mae staff arloesol yn ymgymryd â'r her o weithio gyda dysgwyr ag amrywiaeth eang o anghenion, ac maent wedi meithrin sgiliau i fynd i'r afael ag anableddau ac anghenion ychwanegol amrywiol gan gymryd rhan mewn mentrau cenedlaethol ar yr un pryd. Ysgol gymunedol yw Ysgol St Christopher, lle mae dysgwyr a rhieni'n cymryd rhan yn eu hamgylchedd lleol, gan ddathlu eu llwyddiannau niferus.

    Trosolwg ymholiad

    Bydd ein hysgol yn cysylltu mentrau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol gan ganolbwyntio ar ddysgu ac addysgu. Ar hyn o bryd, mae'r ysgol yn adolygu dulliau addysgegol ac yn rhoi model Eglurder Lyn Sharratt ar waith cyn i Gwricwlwm i Gymru 2022 gael ei gyflwyno.
    Ar lefel leol, mae ein hysgol yn rhan o glwstwr uwchradd a bwriedir inni ddatblygu trywyddau ymholi gyda'n partneriaid.
    Mewn cyd-destun rhanbarthol, mae ein sefydliad yn gysylltiedig â Chymdeithas Penaethiaid Ysgolion Arbennig Gogledd Cymru (NWASSH). Fel ysgol arweiniol ar ymholi proffesiynol, byddwn yn adrodd yn ôl ar y wybodaeth berthnasol ddiweddaraf gan ganolbwyntio ar ddysgu ac addysgu yn barod ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022. Bydd ein trywydd ymholi penodol yn archwilio'r ffordd mae egwyddorion Asesu ar gyfer Dysgu yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr i allu manteisio ar Gwricwlwm i Gymru 2022.