Cyfleoedd dysgu proffesiynol newydd
Trosolwg
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ystod o bartneriaid ac arbenigwyr allanol i ddatblygu adnoddau dysgu proffesiynol newydd er mwyn cefnogi ymarferwyr gan gynnwys:
Datblygu dysgu proffesiynol newydd ar gyfer addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith.
Arwain ar ddull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol gwrth-hiliol i gyflawni’r gweledigaeth ar gyfer system addysg wrth-hiliaeth.
Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC)
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg: beth sy'n newydd?
Llunio adnoddau dysgu proffesiynol penodol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Partneriaethau Consortia Rhanbarthol/awdurdodau lleol
Datblygu adnoddau dysgu proffesiynol ar Hawliau Plant (CCUHP/UNCRPD).
Wrth i’r adnoddau dysgu proffesiynol ddod ar gael byddant yn cael eu hymgorffori'n llawn yn rhaglen ddatblygu bresennol y Cwricwlwm i Gymru a ddarperir gan bartneriaethau consortia addysg.
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo gydag amrywiol bartneriaid eraill i gefnogi ymarferwyr yn y meysydd canlynol:
- Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
- y sector gwaith ieuenctid
- y celfyddydau creadigol
- llythrennedd a llafaredd
Bydd adnoddau'n cael eu rhyddhau fesul cam ac yn amrywio o rai ‘codi ymwybyddiaeth' i rai 'anelu at ragoriaeth.’
Adnoddau
Mae'r adnoddau dysgu proffesiynol newydd canlynol eisoes ar gael i helpu ysgolion i gynllunio ar gyfer agweddau ar y cwricwlwm newydd:
Ewch i Gyrfa Cymru i gael gafael ar gymorth ar gyfer addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith yn y Cwricwlwm i Gymru.
Ewch i Gampws Rhithwir DARPL i gael mynediad at adnoddau dysgu proffesiynol ar amrywiaeth a gwrth-hiliaeth. Nodwch fod y wefan yn cael ei datblygu ar hyn o bryd.
Ewch i wefan Comisiynydd Plant Cymru i gael mynediad at fersiwn ddiweddaraf y dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant i leoliadau addysg a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2022.
Gwybodaeth bellach
Mae digwyddiadau mewnwelediad polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer ymarferwyr addysg wedi cynnig blas o’r adnoddau newydd sy’n cael eu datblygu. Mae dwy sesiwn eisoes wedi'u cynnal a gellir eu gweld trwy'r dolenni isod:
Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliaeth (Mewnwelediad Polisi: Mawrth 22)
Dysgu Proffesiynol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (Mewnwelediad Polisi: Ebrill 22)
Bydd gwybodaeth am sesiynau'r dyfodol ar gael ar y dudalen digwyddiadau mewnwelediad polisi ar Hwb.