Cyfnod ymsefydlu
- Rhan o
Coronafeirws (COVID-19) a sefydlu statudol ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru
Rydym yn cydnabod y bydd athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru yn pryderu, wrth reswm, am effaith bosibl Coronafeirws (COVID-19) ar eu cyfnod sefydlu statudol. Datblygwyd y canllawiau isod i gefnogi athrawon newydd gymhwyso a’u hysgolion yn ystod y cyfnod hwn, ac i ddarparu ffordd ymlaen i athrawon newydd gymhwyso sy’n ymgymryd â sefydlu.
- Coronafeirws (COVID-19) a sefydlu statudol ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru pdf 940 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Y broses sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso: trefniadau diwygiedig – Gorffennaf 2020 i Awst 2021: cwestiynau cyffredin pdf 423 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Trosolwg
Gellir gweld Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 (dolen allanol) ar wefan legislation.gov.uk.
Gellir gweld y canllaw ymsefydlu cyfredol o dan yr adran lanlwytho dogfennau isod.
Gellir gweld yr Asesiad Effaith Integredig Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 oherwydd Covid-19 o dan yr adran lanlwytho dogfennau isod.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gyfrifol am weinyddu cyllid ymsefydlu i ysgolion (dolen allanol), gadw'r proffil ymsefydlu ar lein ar ei wefan drwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (dolen allanol) ac am wrando ar apeliadau ymsefydlu (dolen allanol).
Cyfnod ymsefydlu
Rhaid i bob athro newydd gymhwyso (ANG) feddu ar Statws Athro Cymwysedig (SAC) a rhaid iddynt gofrestru gyda CGA fel athrawon ysgol cyn y gallant gael eu cyflogi fel athrawon mewn ysgolion a gynhelir.
Rhaid i bob ANG gwblhau cyfnod ymsefydlu llawn. Tri thymor ysgol yw hyn ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy’n cael eu cyflogi’n amser llawn. Rhaid i athrawon newydd gymhwyso sy’n cael eu cyflogi’n rhan amser neu fel athrawon cyflenwi cyfnod byr, gwblhau 380 o sesiynau sy’n gyfwerth â thri thymor ysgol. Diffinnir un sesiwn ysgol fel un bore neu un prynhawn o gyflogaeth mewn ysgol fel athro cymwysedig. Rhaid i ysgolion rhoi 10% o amser digyswllt i athrawon newydd gymhwyso i’w galluogi i ymgymryd â’u gweithgareddau ymsefydlu; mae hyn yn ychwanegol i’r amser digyswllt statudol ar gyfer cynllunio, paratoi ac asesu (CPA).
- Ymsefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru pdf 1.81 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Asesiad Effaith Integredig Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 oherwydd COVID-19 pdf 286 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Ymchwil i'r broses sefydlu statudol ar gyfer athrawon PDF 1 MB Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Dysgu bod yn athro yng Nghymru: sefydlu athrawon yn y proffesiwn PDF 1 MB Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Safonau proffesiynol
Athrawon newydd gymhwyso sy’n dechrau eu cyfnod ymsefydlu ar 1 Medi 2017 neu ar ôl hynny
Bydd athrawon newydd gymhwyso sy’n dechrau eu cyfnod ymsefydlu ar 1 Medi 2017 neu ar ôl hynny yn gweithio i’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth a gaiff eu lansio yng Nghymru ym mis Medi 2017.
Mae’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth yn seiliedig ar bum safon broffesiynol sydd â gwerthoedd ac ymagweddau cyffredin. Caiff pob safon ei rannu’n elfennau gyda disgrifyddion sy’n nodi enghreifftiau o sut y dylid cymhwyso pob safon.
Bydd cwblhau'r cyfnod ymsefydlu yn gofyn am dystiolaeth yn erbyn pob un o'r disgrifyddion.
Athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod ymsefydlu cyn 1 Medi 2017
Bydd athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod ymsefydlu cyn 1 Medi 2017 yn parhau â’r safonau athrawon wrth eu gwaith (SAG) a oedd yn weithredol pan ddechreuodd eu cyfnod ymsefydlu. Ar ôl cwblhau eu cyfnod ymsefydlu yn llwyddiannus, byddant yn mabwysiadu'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.
Trefniadau mentora
Bydd pob ANG yn derbyn cefnogaeth o ddydd i ddydd gan fentor ymsefydlu (mentor ysgol gynt) a chefnogaeth achlysurol gan wiriwr allanol (mentor allanol gynt).
Os hoffech wybodaeth bellach am y trefniadau mentora allanol, cysylltwch â’ch consortiwm yn uniongyrchol:
Canolbarth y De
Mandy Esseen: mandy.esseen@cscjes.org.uk
Matthew Robbins: matthew.robbins@cscjes.org.uk
Gwasanaeth Cyflawni Addysg i Dde Ddwyrain Cymru
Amanda Passmore: amanda.passmore@sewaleseas.org.uk
Deb Woodward: deb.woodward@sewaleseas.org.uk
GwE
Ieuan Jones: IeuanJones@gwegogledd.cymru
ERW
Sarah Perdue: sarah.perdue@erw.org.uk
Castell-nedd Port Talbot
Darren Long: d.long1@npt.gov.uk 01639 763990
Dolenni perthnasol
Estyn - Cefnogi athrawon newydd gymhwyso gan ddefnyddio mentora ac anogaeth gan staff yr ysgol (dolen allanol)
Y proffil ymsefydlu
Bydd y proffil ymsefydlu yn sail i’r ddeialog broffesiynol rhwng yr ANG, y mentor ymsefydlu a’r gwiriwr allanol.
O 1 Medi 2014 ymlaen
Rhaid i athrawon newydd gymhwyso sy’n dechrau eu cyfnod ymsefydlu o 1 Medi 2014 ymlaen gwblhau’r proffil ymsefydlu drwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg (dolen allanol). Rhaid i athrawon sy’n dechrau cyfnod ymsefydlu o 1 Medi 2017 ymlaen ddefnyddio’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth. Bydd athrawon a ddechreuodd eu cyfnod ymsefydlu cyn 1 Medi 2017 yn parhau i ddefnyddio’r SAG.
Rhwng 1 Medi 2012 a 1 Medi 2014
Dylai athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod ymsefydlu rhwng 1 Medi 2012 a 1 Medi 2014 barhau i ddefnyddio’u proffil ymsefydlu gwreiddiol a’r SAG.
Cyn 1 Medi 2012
Dylai athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod ymsefydlu cyn 1 Medi 2012 barhau i ddefnyddio’r deunydd cymorth ar gyfer asesu, arsylwi a phennu targedau a’r SAG.
Dolenni perthnasol
Cyngor y Gweithlu Addysg: Canllaw ar gyfer y proffil ymsefydlu ar lein (dolen allanol).
Proffil dechrau gyrfa
Gall athrawon newydd gymhwyso gael mynediad i’w Proffil Dechrau Gyrfa (PDG) drwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Rolau a chyfrifoldebau yn ystod ymsefydlu
Mae cyfnod ymsefydlu effeithiol yn golygu gwaith partneriaeth rhwng nifer o bobl allweddol.
Rhoddir mwy o wybodaeth am rolau a chyfrifoldebau yn (Atodiad A) o’r canllaw ymsefydlu.
Athrawon cymwysedig a gwaith addysgu
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith bod gan bob unigolyn, sy'n cael ei gynnig i ysgolion ar gyfer swyddi addysgu, Statws Athro Cymwysedig (SAC), a'i fod wedi cofrestru'n athro cymwysedig â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Mae'r gofynion sydd angen eu bodloni gan bersonau y cydnabyddir eu bod yn athrawon cymwysedig yng Nghymru (a chanddynt Statws Athro Cymwysedig felly) wedi'u hamlinellu yn Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012 (dolen allanol).
Mae'r sefyllfa o ran pwy a all wneud gwaith addysgu mewn ysgolion a gynhelir neu ysgolion arbennig nas cynhelir yng Nghymru wedi'i amlinellu yn Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (dolen allanol).
Mae’r rheoliadau hefyd yn nodi bod gofyn i berson fod yn gymwys i addysgu ac yn nodi'r gweithgareddau'n fanwl - a elwir yn waith penodedig - y gall athro cymwys eu gwneud, sef:
- cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau i ddysgwyr
- rhoi gwersi i ddysgwyr
- asesu datblygiad, hynt a chyrhaeddiad dysgwyr
- adrodd ar ddatblygiad, hynt a chyrhaeddiad dysgwyr.
Lle bo’n briodol, dylai asiantaethau cyflenwi sicrhau bod penaethiaid neu gyrff llywodraethu yn ymwybodol bod angen cyfyngu ar ddyletswyddau os yw unigolion yn cael eu hanfon i ysgolion ar gyfer swyddi cynorthwywyr addysgu neu goruchwylwyr llanw heb SAC. Yn yr un modd, mae angen i ysgolion fod yn glir ynglŷn â chyfrifoldebau wrth egluro rolau unigolion yn yr ystafell ddosbarth.
Gallwch gael rhagor o gyngor am Statws Athro Cymwysedig unigolyn ac a yw wedi'i gofrestru'n briodol, o Dîm Cymwysterau a Chofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg drwy anfon e-bost i registration@ewc.wales
Gallwch gael rhagor o gyngor am y gofynion sydd angen eu bodloni gan unigolion, er mwyn iddynt gael eu cydnabod yn athrawon cymwys yng Nghymru (a chanddynt Statws Athro Cymwysedig felly) drwy anfon e-bost i teachingenquiries@llyw.cymru
Mae rhai athrawon newydd gymhwyso cyflenwi byrdymor wedi’u cofrestru ag asiantaethau cyflenwi. Mae’r cyflwyniad PowerPoint yn pwysleisio cyfrifoldebau’r asiantaethau tuag at athrawon newydd gymhwyso.
Ymsefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso cyflenwi tymor byr
Rhaid i athrawon newydd gymhwyso sy’n ymgymryd ag ymsefydlu drwy gronni cyfnodau byrdymor o gyflenwi, ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni’r holl safonau proffesiynol perthnasol erbyn y cyfnod ymsefydlu gofynnol sef 380 sesiwn ysgol. Diffinnir sesiwn ysgol fel un bore neu un prynhawn o gyflogaeth fel athro cymwysedig mewn lleoliad priodol.
Rhaid i athrawon cyflenwi byrdymor gymryd cyfrifoldeb am:
- gwblhau ‘Ffurflen Hysbysu Sefydlu fel Athro Cyflenwi Byrdymor’ CGA (dolen allanol) o fewn deg diwrnod gwaith o gychwyn cyflogaeth a phob tro bydd yr ANG yn symud ysgol yn ystod eu cyfnod ymsefydlu
- logio gyda CGA pob sesiwn ysgol wedi’i dilysu, o fewn 10 diwrnod o gwblhau’r sesiynau drwy ddefnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (dolen allanol)
- sicrhau bod y sesiynau yn cael eu dilysu gan y pennaeth neu uwch arweinydd yn yr ysgol gan ddefnyddio adran berthnasol o’r proffil ymsefydlu cyn iddynt symud i ysgol arall
- mynychu digwyddiadau hyfforddi ar gyfer athrawon cyflenwi byrdymor. Gellir dod o hyd iddynt ar wefan eu consortiwm neu drwy gysylltu â chydlynydd ymsefydlu eu hawdurdod lleol neu gonsortiwm. Caiff manylion y digwyddiadau hyfforddi/sesiynau gyda’r hwyr, eu cyhoeddi yn aml drwy ein cylchlythyr, Dysg.
- Amserlen ymsefydlu ar gyfer ANG cyflenwi byrdymor pdf 176 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Manylion cyswllt
Consortiwm Canolbarth y De
Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg
Mandy Esseen: mandy.esseen@cscjes.org.uk
Swyddog cynorthwyol
Matthew Robbins: matthew.robbins@cscjes.org.uk 01443 281405
Rebecca Roach: Rebecca.Roach@cscjes.org.uk
Bethan Frost: Bethan.Frost@cscjes.org.uk
Helen Williams: helen.williams2@cscjes.org.uk
Kathryn Gwyn (Cymraeg): KathrynGwyn@ygcwmrhondda.cymru
Consortiwm y De-ddwyrain – Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg
Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Tor-faen
Deb Woodward: deb.woodward@sewaleseas.org.uk
Ymholiadau gweinyddol
Amanda Passmore: business.support@sewaleseas.org.uk 01443 864963
ERW
Sir Gâr
Ann James: HAJames@carmarthenshire.gov.uk 01267 246610
Swyddog gweinyddol Sir Gâr
Adele Davies: AdeleDavies@carmarthenshire.gov.uk 01267 246659
Ceredigion
Mair Potter: Mair.Potter@ceredigion.gov.uk 07966 321541
Swyddog gweinyddol Ceredigion
Lis Williams: lis.williams@ceredigion.gov.uk
Sir Benfro
Heidi Reynolds: heidi.reynolds@pembrokeshire.gov.uk 01437 775019
Swyddog gweinyddol Sir Benfro
Christine Butcher: christine.butcher@pembrokeshire.gov.uk 01437 775003
Powys
Anwen Orrells: anwen.orrells@powys.gov.uk 01686 614051
Swyddog gweinyddol Powys
Janey Haselden: janey.haselden@powys.gov.uk 01597 826715
Anne Bates: anne.bates@powys.gov.uk
Abertawe
Sarah Loydon: sarah.loydon@swansea.gov.uk 01792 633932
Fiona Jones: fiona.jones2@swansea.gov.uk 01792 633932
Swyddogion gweinyddol Abertawe
Susan Williams: susan.williams3@swansea.gov.uk
Castell-nedd Port Talbot
Darren Long: d.long1@npt.gov.uk 01639 763990
GwE
Conwy
Eifion Roberts: eifion.roberts@outlook.com 07766206010
Sir Ddinbych
Eifion Roberts: eifion.roberts@enfys.net 07766206010
Sir y Fflint
Helen Crich: HelenMCrich@outlook.com 01352 704019
Gwynedd
Diane Jones: DianeJones3@gwynedd.llyw.cymru 01286 679958 est 32958
Ffion Mair Hughes: ffionmairhughes@gwynedd.llyw.cymru 01286 679958 ext 32958
Ynys Môn
Owen Davies: OwenDavies@ynysmon.gov.uk 01248 752947
Swyddog gweinyddol Ynys Môn
Rachel Carson: RachelCarson@anglesey.gov.uk 01248 752928
Wrecsam
Siwan Meirion: siwan.meirion@wrexham.gov.uk 01978 295441
Elinor Doherty Elinor.Doherty@wrexham.gov.uk
Swyddog gweinyddol Wrecsam
Barbara Sznerch: barbara.sznerch@wrexham.gov.uk 01978 295445
Llywodraeth Cymru
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â pholisi a chanllawiau statudol ymsefydlu, cysylltwch drwy e-bostio: inductioninfo@llyw.cymru.