MAES DYSGU A PHROFIADY Dyniaethau
Canllawiau i helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu o ran y pedwar diben.
4. Disgrifiadau dysgu
Mae’r disgrifiadau dysgu yn rhoi canllawiau ar sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig ar eu taith ar hyd y continwwm Dysgu. Dysgu mwy am y disgrifiadau Dysgu.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Rwy’n gallu, trwy chwarae, archwilio, darganfod a dechrau gofyn cwestiynau syml a chynnig atebion posibl yn seiliedig ar brofiadau blaenorol.
Rwyf wedi profi ystod o symbyliadau sydd wedi fy nghyffroi a’m hysbrydoli i ddychmygu a bod yn chwilfrydig am fy ardal leol, am Gymru yn ogystal ag am y byd.
Rwyf wedi bod yn chwilfrydig ac wedi gwneud awgrymiadau am ymholiadau posib, ac wedi gofyn ac ymateb i ystod o gwestiynau yn ystod ymholiad.
Rwyf wedi profi ystod o symbyliadau ac wedi cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymholiadau, ar y cyd yn ogystal â chydag annibyniaeth cynyddol.
Rwy’n gallu defnyddio fy mhrofiadau, gwybodaeth a chredoau i gynhyrchu syniadau a threfnu ymholiadau.
Rwyf wedi ymwneud yn weithredol gydag ystod o symbyliadau, ac wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn ymchwiliadau, ar y cyd ac yn annibynnol.
Rwy’n gallu defnyddio fy mhrofiadau, gwybodaeth a chredoau i greu syniadau yn annibynnol a threfnu ymholiadau, gan ddefnyddio ystod o ddulliau ymchwil yn ôl y gofyn.
Rwy’n gallu cyflawni ymchwiliadau llawn a manwl yn annibynnol, gan ddewis y dulliau mwyaf effeithiol a chyfiawnhau fy methodoleg.
Rwy’n dechrau cyfleu fy arsylwadau mewn ffyrdd syml.
Rwy’n gallu casglu a chofnodi gwybodaeth a data o ffynonellau penodol. Rwyf wedyn yn gallu trefnu a grwpio fy nghanfyddiadau gan ddefnyddio gwahanol feini prawf.
Rwy’n gallu defnyddio dulliau priodol i gasglu gwybodaeth yn ymwneud â’m hymchwiliadau, ac rwy’n gallu dehongli’r wybodaeth a gasglwyd yng nghyd-destun cwestiwn yr ymchwiliad.
Rwy’n gallu dehongli, cyflwyno a myfyrio ar fy nghanfyddiadau, gan ddisgrifio patrymau ac esbonio cydberthnasau ar draws data a ffynonellau.
Rwy’n gallu gwerthuso fy nghanfyddiadau, a myfyrio arnyn nhw, cyfuno gwybodaeth, dadansoddi patrymau a thueddiadau, rhagfynegi deilliannau posib (lle bo’n briodol), a chyflwyno canlyniadau wedi’u cefnogi’n dda a’u cyfiawnhau.
Rwy’n gallu adnabod y gwahaniaeth rhwng ffeithiau a chredoau.
Rwy’n gallu deall y gwahaniaeth rhwng ffeithiau, barn a chredoau, ac ystyried sut mae hyn yn effeithio ar bwysigrwydd a defnyddioldeb tystiolaeth.
Rwy’n gallu myfyrio ar gryfderau a gwendidau’r dulliau rwyf wedi eu defnyddio yn fy ymchwiliadau.
Rwy’n gallu dadansoddi defnyddioldeb ac ystyried dibynadwyedd a dilysrwydd ystod o dystiolaeth sy’n ymwneud â’m hymchwil.
Rwy’n gallu myfyrio ar y dulliau rwyf wedi eu defnyddio mewn ymchwiliadau ac adnabod cyfleoedd i wella ar gyfer ymchwiliadau’r dyfodol.
Rwy’n gallu gwerthuso defnyddioldeb, hygrededd a dilysrwydd tystiolaeth ansoddol a meintiol yn feirniadol.
Rwy’n gallu gwerthuso’n annibynnol lwyddiant ymchwiliadau, gan gynnig gwelliannau a mireinio dulliau ar gyfer ymchwiliadau’r dyfodol.
Rwy’n dechrau cyfleu fy nghanfyddiadau mewn ffyrdd syml.
Rwy’n gallu cyflwyno, mewn amrywiol ffyrdd, yr hyn rwyf wedi’i ddarganfod, a dod i gasgliadau syml.
Rwy’n gallu cyflwyno fy nghanfyddiadau mewn amrywiol ffyrdd, gan ddod i gasgliadau a barn yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddefnyddiwyd.
Rwy’n gallu dod i gasgliadau ystyriol a rhesymegol yn fy ymchwiliadau, tra’n deall y gall pobl eraill ddod i ganlyniadau gwahanol yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael.
Rwy’n gallu llunio ymatebion a barnau cydlynol a chytbwys, sy’n ystyried gwahanol safbwyntiau.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Rwy’n gallu ffurfio a mynegi barn syml am yr hyn rwyf yn ei hoffi a’r hyn nad wyf yn ei hoffi.
Rwy’n gallu llunio a mynegi barn am rywbeth sy’n bwysig i mi gan ystyried fy syniadau a’m teimladau fy hun yn ogystal â rhai pobl eraill.
Rwy’n gallu cydnabod ac esbonio bod fy marn i, a barn pobl eraill, yn werthfawr.
Rwy’n gallu cydnabod y gall safbwyntiau newid dros amser.
Rwy’n dechrau cydnabod teimladau pobl eraill, a’u safbwyntiau am ddigwyddiadau neu brofiadau cyfarwydd.
Rwy’n gallu ffurfio, mynegi a thrafod fy marn fy hun ar ystod o faterion, ar ôl ystyried tystiolaeth a safbwyntiau pobl eraill.
Rwy’n gallu cymharu a dod i gasgliad am farnau, safbwyntiau a dehongliadau pobl o ffynonellau a thystiolaeth.
Rwy’n gallu mynegi, trafod a chyfiawnhau fy marn bersonol, ac yn deall y gall dehongliadau newid dros amser, yn enwedig o ystyried tystiolaeth newydd neu o ystyried y dehongliadau o safbwynt gwahanol.
Rwy’n gallu gwerthuso a dod i gasgliad am dybiaethau, safbwyntiau a dehongliadau o ystod o ffynonellau a thystiolaeth er mwyn datblygu fy marn wybodus fy hun.
Rwy’n gallu gwerthfawrogi ystod o safbwyntiau ar y byd, cydnabod cyfyngiadau fy safbwynt fy hun, ac rwyf wedi dechrau herio fy safbwyntiau a’m gwerthoedd fy hun.
Rwy’n gallu dadansoddi, esbonio a gwerthuso dilysrwydd barn, safbwyntiau a dehongliadau gan ystyried sut y maen nhw’n cael eu ffurfio a’u dylanwadu gan wahanol ffactorau, a sut maen nhw’n gallu newid dros amser. Yn dilyn hyn, rwy’n gallu datblygu fy marn wybodus fy hun, a’i chyfiawnhau.
Rwy’n gallu defnyddio tystiolaeth i esbonio sut mae agweddau o’r gorffennol wedi cael eu cynrychioli a’u dehongli mewn gwahanol ffyrdd.
Rwy’n gallu dechrau deall bod dehongliadau’n cael eu dylanwadu gan hunaniaeth, profiadau, safbwyntiau a chredoau.
Rwy’n gallu esbonio, gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth, pam mae gan bobl ddehongliadau gwahanol, a bod dehongliadau yn cael eu dylanwadu gan argaeledd, dilysrwydd a hygrededd tystiolaeth, yn ogystal â hunaniaeth, profiadau, safbwyntiau a chredoau.
Rwy’n gallu esbonio sut a pham mae ystod o wahanol ddehongliadau yn cael eu ffurfio, a sut y gallan nhw newid dros amser.
Rwy’n gallu gwerthfawrogi bod ymatebion i gwestiynau am fywyd, profiadau a’r byd yn gymhleth, a bod yr ymatebion hyn yn aml yn rhannol neu heb lwyddo i argyhoeddi.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Rwy’n dechrau adnabod yr effeithiau rwy’n eu cael ar y byd naturiol.
Rwy’n gallu adnabod pam mae lleoedd yn bwysig i mi.
Rwy’n gallu disgrifio sut y gall pobl a’r byd naturiol gael effaith ar ei gilydd.
Rwy’n gallu disgrifio sut mae lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirweddau yn bwysig i wahanol bobl ac am wahanol resymau.
Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio’n syml beth yw effaith gweithredoedd dynol ar y byd naturiol yn y gorffennol a’r presennol.
Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio’n syml beth yw effaith prosesau ffisegol ar bobl, lleoedd a thirweddau yn y gorffennol a’r presennol.
Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio’n syml sut a pham mae rhai lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirweddau yn arbennig o bwysig i wahanol bobl ac am wahanol resymau.
Rwy’n gallu deall ac esbonio sut mae gweithredoedd dynol yn effeithio ar y prosesau ffisegol sy’n siapio lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirffurfiau dros gyfnod o amser.
Rwy’n gallu deall ac esbonio yr ystod o ffactorau sy’n effeithio’r rhyngberthnasau rhwng pobl a phrosesau ffisegol.
Rwy’n gallu deall ac esbonio sut mae lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirffurfiau arwyddocaol yn y byd naturiol yn gysylltiedig â chredoau ac arferion economaidd, hanesyddol, gwleidyddol, crefyddol ac anghrefyddol.
Rwy’n gallu esbonio a dadansoddi’r ystod eang o rhyngberthnasau a rhyng-ddibyniaethau rhwng y gweithredoedd dynol a’r prosesau ffisegol sy’n siapio lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirffurfiau dros gyfnod o amser.
Rwy’n gallu gwerthuso i ba raddau mae credoau, arferion a gweithredoedd economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol, crefyddol ac anghrefyddol wedi arwain at newidiadau yn y byd naturiol.
Mae gen i brofiad uniongyrchol o’r byd naturiol, ac rwy’n dechrau adnabod lleoedd sy’n gyfarwydd i mi.
Rwy’n gallu disgrifio nodweddion ffisegol penodol lleoedd, amgylcheddau a thirweddau yn fy ardal leol ac yng Nghymru yn ogystal ag yn y byd ehangach.
Rwy’n gallu lleoli a rhoi esboniadau syml am nodweddion arbennig lleoedd, gofodau a thirffurfiau yn fy ardal leol ac yng Nghymru, yn ogystal ag yn y byd ehangach.
Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio nodweddion arbennig lleoedd, gofodau a thirweddau i ystod o raddfeydd yn fy ardal leol ac yng Nghymru yn ogystal ag yn y byd ehangach, ynghyd â’r prosesau sydd ar waith ynddyn nhw.
Rwy’n gallu roi disgrifiadau ac esboniadau cynhwysfawr o nodweddion lleoedd, gofodau a thirweddau i ystod o raddfeydd yn fy ardal leol ac yng Nghymru, yn ogystal ac yn y byd ehangach, ynghyd â’r prosesau sydd ar waith ynddyn nhw.
Rwy’n gallu disgrifio sut a ble mae rhai lleoedd ac amgylcheddau’n debyg i’w gilydd, ac eraill yn wahanol.
Rwy’n gallu disgrifio patrymau dosbarthu lleoedd, amgylcheddau a thirffurfiau yn fy ardal leol ac yng Nghymru, yn ogystal ag yn y byd ehangach.
Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio pam y gall patrymau dosbarthu lleoedd, amgylcheddau a thirffurfiau newid dros gyfnod o amser yn fy ardal leol ac yng Nghymru, yn ogystal ag yn y byd ehangach.
Rwy’n gallu rhoi esboniadau cynhwysfawr ar batrymau dosbarthu lleoedd, amgylcheddau a thirffurfiau i ystod o raddfeydd, a rhagfynegi sut y gall patrymau neu dueddiadau barhau neu newid yn y dyfodol yn fy ardal leol ac yng Nghymru, yn ogystal ag yn y byd ehangach.
Rwy’n gallu adnabod nodweddion arbennig lleoedd, amgylcheddau a thirffurfiau, a sut y gall rhain newid.
Rwy’n gallu rhoi disgrifiadau syml o sut mae lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirffurfiau wedi newid dros gyfnod o amser.
Rwy’n gallu rhoi disgrifiadau syml o’r prosesau sy’n arwain at newid yn y byd naturiol.
Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio sut mae lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirffurfiau wedi newid dros gyfnod o amser, ac amlinellu’r prosesau sy’n achosi’r newidiadau hyn yn y byd naturiol.
Rwy’n gallu rhoi esboniadau a dadansoddiad cyflawn o sut a pham mae lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirffurfiau wedi newid dros gyfnod o amser.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Rwy’n dechrau adnabod digwyddiadau pwysig sydd wedi digwydd i mi yn y gorffennol.
Rwy’n dechrau deall fod rhai pethau wedi digwydd yn y gorffennol, rhai yn digwydd yn y presennol, ac y bydd mwy yn digwydd yn y dyfodol.
Rwy’n gallu rhoi digwyddiadau mewn trefn, ac yn dechrau deall y gellir rhannu’r gorffennol i gyfnodau o amser.
Rwy’n gallu adnabod pethau tebyg a gwahanol ym mywydau pobl, yn y gorffennol a’r presennol.
Rwy’n gallu adnabod agweddau o fywyd yn fy nghymuned sydd wedi newid dros gyfnod o amser.
Rwy’n deall y gellir rhannu’r gorffennol i gyfnodau o amser a bod gan y cyfnodau hyn nodweddion nodedig. Rwy’n deall hefyd bod y cyfnodau hyn yn wahanol i’w gilydd yn ogystal â bod yn wahanol i’r presennol.
Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio pethau tebyg a gwahanol ym mywydau pobl, yn y gorffennol a’r presennol.
Rwy’n gallu disgrifio’r modd y mae rhai gwahanol nodweddion cymunedau a chymdeithasau wedi newid o fewn a thros gyfnod o amser, yn fy ardal i, yng Nghymru yn ogystal ag yn y byd ehangach.
Rwy’n gallu gwneud cysylltiadau a dangos cymharu pwrpasol rhwng ystod eang o gyfnodau hanesyddol er mwyn datblygu map cronolegol o’r gorffennol.
Rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth i ddadansoddi ac esbonio’r modd y mae gwahanol gymunedau a chymdeithasau wedi newid dros gyfnod o amser yn fy ardal i, yng Nghymru yn ogystal ag yn y byd ehangach.
Rwy’n gallu rhoi esboniadau a dadansoddiad cynhwysfawr o nodweddion gwahanol gyfnodau o amser, gan adnabod deinamig cysondeb a newid dros gyfnodau o wahanol hyd er mwyn datblygu map cronolegol cynyddol fanwl o’r gorffennol.
Rwy’n gallu ddefnyddio fy nealltwriaeth fanwl o natur a graddau newid a pharhad i esbonio a dadansoddi’r modd y mae cymunedau a chymdeithasau wedi addasu a newid, a hynny yn fy ardal i, yng Nghymru yn ogystal ag yn y byd ehangach. Rwyf hefyd yn gallu defnyddio’r wybodaeth hon i ystyried dyfodol posib.
Rwy’n dechrau deall bod gan fy ngweithredoedd i, a gweithredoedd pobl eraill, achosion ac effeithiau.
Rwyf wedi archwilio rhai achosion ac effeithiau digwyddiadau a newidiadau yn fy nghymuned dros gyfnod o amser.
Rwy’n gallu adnabod ac esbonio prif achosion ac effeithiau digwyddiadau mewn ystod o gyd-destunau, ac rwy’n gallu adnabod sut mae’r rhain yn effeithio ar gymunedau a chymdeithasau.
Rwy’n gallu esbonio a dadansoddi achosion ystod o ddigwyddiadau a newidiadau yn y gorffennol a’r presennol, ac yn gallu gwerthfawrogi sut y gall achosion fod yn aml yn rhyng-gysylltiedig, a gwahaniaethu o ran pwysigrwydd.
Rwy’n gallu esbonio a dadansoddi effeithiau a chanlyniadau ystod o ddigwyddiadau a newidiadau yn y gorffennol a’r presennol, a deall eu bod yn gwahaniaethu o ran pwysigrwydd.
Rwy’n gallu gwerthuso’n feirniadol sut y mae amrywiaeth o ffactorau achosol yn rhyng-gysylltu dros ystod o gyfnodau o amser ac o fewn ystod o gyd-destunau. Rwyf wedyn yn gallu gwerthfawrogi pam a sut y gellir cwestiynu arwyddocâd y ffactorau hyn.
Rwy’n gallu gwerthuso’n feirniadol ganlyniadau ac arwyddocâd digwyddiadau a newidiadau mewn ystod o gymdeithasau yn y gorffennol a’r presennol.
Rwy’n gallu ddangos ymwybyddiaeth o bwy ydwyf a’m bod i’n debyg ac yn wahanol i eraill.
Rwy’n gallu archwilio fy hunaniaeth, a’i chymharu â rhai pobl eraill, gan gydnabod bod nifer o wahanol grwpiau, credoau a safbwyntiau o fewn cymdeithas.
Rwy’n gallu archwilio ystod o ffyrdd mae hunaniaeth yn cael ei ffurfio, a rhai o’r dylanwadau sy’n effeithio ar amrywiaeth o fewn cymdeithas.
Rwy’n gallu dadansoddi ac esbonio sut mae hunaniaeth yn cael ei ffurfio. Rwy’n gallu esbonio’r cysylltiadau rhwng cymdeithasau amrywiol.
Rwy’n gallu gwerthuso natur amlochrog hunaniaeth, a gallu esbonio sut y gall hyn ddylanwadu ar ymwneud pobl â’i gilydd, ac effeithio o fewn ac ar draws cymdeithasau amrywiol yn fy ardal leol ac yng Nghymru, yn ogystal â’r byd ehangach.
Rwy’n dechrau datblygu ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n debyg ac yn wahanol rhwng pobl.
Rwyf wedi archwilio amrywiaeth o fewn cymunedau, ac rwy’n ymwybodol o hyn.
Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio’r ffyrdd mae fy mywyd i yn debyg ac yn wahanol i eraill, ac rwy’n deall nad yw pawb yn rhannu’r un profiadau, credoau a safbwyntiau.
Rwy’n gallu dadansoddi ac esbonio storïau, credoau a phrofiadau amrywiol pobl mewn cymunedau yn fy ardal leol ac yng Nghymru, yn ogystal â’r byd ehangach.
Rwy’n gallu dadansoddi’n feirniadol ystod o debygrwydd, gwahaniaethau ac anghydraddoldeb cymhleth rhwng amrywiol gymdeithasau yn y gorffennol a’r presennol.
Rwy’n gallu gwerthuso natur amlochrog cymdeithas a sut mae amrywiaeth yn cael ei werthfawrogi.
Rwy’n deall sut mae ffactorau yn y gorffennol a’r presennol wedi siapio fy nghymunedau.
Rwy’n gallu esbonio a chymharu sut mae cymunedau wedi cael eu siapio gan y gorffennol, ac rwy’n gallu esbonio sut mae ystod o ffactorau’n cyfrannu at hyn.
Rwy’n gallu gwerthuso a chymharu sut mae cymunedau wedi cael eu siapio gan y gorffennol, ac rwy’n gallu dadansoddi ac esbonio sut mae ystod o ffactorau’n cyfrannu at hyn.
Rwy’n dechrau deall sut mae fy nghymuned yn cael ei llywodraethu, a pham mae yna reolau.
Rwy’n gallu deall a disgrifio sut mae fy nghymuned yn cael ei llywodraethu, a sut mae pobl yn cael eu cynrychioli.
Rwy’n gallu disgrifio’r gwahanol ffyrdd mae gwledydd a chymdeithasau, gan gynnwys Cymru, wedi cael eu llywodraethu yn y gorffennol a’r presennol.
Mae gen i ddealltwriaeth o ystod o systemau llywodraethu, a sut mae pobl wedi cael, ac yn cael, eu cynrychioli ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang, gan gynnwys sut mae systemau Llywodraeth yng Nghymru yn gweithredu yn y presennol ac yn y gorffennol, ac rwy’n gallu cymharu ac esbonio gwahaniaethau rhwng y systemau hyn.
Rwy’n gallu cymharu a gwerthuso systemau llywodraethu lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys systemau Llywodraeth a democratiaeth yng Nghymru, gan ystyried eu heffaith ar gymdeithasau yn y gorffennol a’r presennol, a hawliau a chyfrifoldebau dinasyddion yng Nghymru.
Rwy’n gallu disgrifio rhai o’r cydberthnasau, dolenni a chysylltiadau rhwng ystod o gymdeithasau.
Rwy’n gallu dadansoddi pwysigrwydd y cydberthnasau, dolenni a chysylltiadau rhwng ystod eang o gymdeithasau, ac rwy’n gallu eu cymharu’n ystyrlon.
Rwy’n gallu gwerthuso arwyddocâd y cydberthnasau a’r cysylltiadau rhwng ystod eang o gymdeithasau, ynghyd â’u rhyng-ddibyniaethau.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Rwy’n dechrau deall fod angen i ni barchu pobl eraill.
Mae gen i ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n iawn a’r hyn sy’n anghywir, ac y dylai fy ngweithredoedd adlewyrchu hyn.
Rwy’n gallu deall nad yw pawb yn cael eu trin yn deg.
Rwy’n dechrau deall beth yw hawliau dynol a pham maen nhw’n bwysig.
Rwy’n gallu deall bod angen i ni barchu hawliau rhai eraill.
Mae gen i ddealltwriaeth fod anghyfiawnder ac anghydraddoldeb yn bodoli o fewn cymdeithasau. Rwyf hefyd yn deall beth yw hawliau dynol, a pham maen nhw’n bwysig i mi a phobl eraill.
Rwy’n gallu esbonio pwy sy’n gyfrifol am gynnal hawliau yn fy ardal leol ac yng Nghymru, yn ogystal â’r byd ehangach. Rwyf hefyd yn deall bod eu hawliau yn cael eu gwrthod i rai pobl.
Rwy’n gallu adnabod bod gwahaniaeth rhwng dymuniadau, anghenion a hawliau.
Rwy’n gallu esbonio a dadansoddi pam mae anghyfiawnder ac anghydraddoldeb yn bodoli, ac rwy’n gallu gwneud hynny mewn ystod o gyd-destunau.
Rwy’n gallu esbonio pwysigrwydd y rhannau mae unigolion, cymdeithasau, mudiadau cymdeithasol a llywodraethau yn ei chwarae wrth amddiffyn hawliau dynol pobl.
Rwy’n gallu esbonio’r gwahaniaeth rhwng dymuniadau, anghenion a hawliau, a pham mae eu hawliau yn cael eu gwrthod i rai pobl.
Rwy’n gallu gwerthuso achosion sylfaenol anghyfiawnder ac anghydraddoldeb mewn ystod eang o gyd-destunau yn y gorffennol a’r presennol, a sut maen nhw’n effeithio ar faterion hawliau dynol.
Rwy’n gallu gwerthuso achosion ymyrraeth ar hawliau dynol a’r amrywiol ffactorau sy’n tanseilio neu’n cefnogi hawliau pobl.
Rwy’n gallu esbonio a gwerthuso’r gwahaniaeth rhwng dymuniadau, anghenion a hawliau.
Rwy’n gallu gwerthuso pwysigrwydd y rhannau mae unigolion, cymdeithasau, mudiadau cymdeithasol a llywodraethau yn eu chwarae wrth barchu ac amddiffyn hawliau dynol pobl.
Rwy’n dechrau gwerthfawrogi a gofalu am bethau byw, a’m hamgylchedd fy hun.
Rwy’n gallu cymryd gofal o adnoddau a pheidio â’u gwastraffu, ac rwy’n ymwybodol o bwysigrwydd greu dyfodol cynaladwy.
Rwy’n gallu deall bod ystod o ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad, gweithredoedd a phenderfyniadau pobl.
Rwy’n gallu deall canlyniadau fy ngweithredoedd a gweithredoedd pobl eraill, a’r modd y mae’r rhain yn effeithio ar faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Rwy’n gallu esbonio’r cysylltiadau rhwng heriau a chyfleoedd sy’n cael eu wynebu gan bobl fy ardal leol ac yng Nghymru, yn ogystal â’r byd ehangach, heriau a chyfleoedd y gorffennol, y presennol a’r rhai sy’n cael eu rhagweld.
Mae gen i ddealltwriaeth o’m cyfrifoldebau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol fy hun wrth greu dyfodol cynaladwy.
Rwyf wedi meithrin dealltwriaeth fanwl o’r hyn yw bod yn ddinesydd egwyddorol a gwybodus, ac rwy’n gallu gwerthuso’r rôl hon yn feirniadol. Rwy’n cydnabod fy nghyfrifoldebau i ac eraill tuag at gymdeithas, yr amgylchedd, ac at greu dyfodol cynaladwy.
Rwy’n dechrau deall bod gan fy ngweithredoedd i, a gweithredoedd pobl eraill, ganlyniadau.
Rwy’n gallu adnabod pwysigrwydd gwahanol reolau, rolau a chyfrifoldebau o fewn y gwahanol gymunedau rwy’n perthyn iddyn nhw.
Rwy’n gallu deall bod ystod o ffactorau sy’n dylanwadu ar fy ymddygiad, gweithredoedd a phenderfyniadau i a phobl eraill, a bod y rhain yn cynnwys barn a safbwyntiau moesol ac egwyddorol.
Rwy’n gallu deall canlyniadau fy ngweithredoedd i a gweithredoedd pobl eraill, a sut mae’r rhain yn effeithio ar fy ardal leol a Chymru, yn ogystal â’r byd ehangach.
Rwy’n gallu cymryd rhan mewn dod i benderfyniadau, ac rwy’n gallu rhannu barn a thystiolaeth gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chynrychiolwyr etholedig yn fy nghymuned.
Rwy’n gallu dadansoddi ac esbonio bod ystod o ffactorau sy’n dylanwadu ar fy ymddygiad, gweithredoedd a phenderfyniadau i a phobl eraill, a bod y rhain yn cynnwys barn a safbwyntiau moesol ac egwyddorol.
Rwy’n gallu gwneud penderfyniadau, adnabod cyfleoedd a chynllunio gweithredoedd priodol i wneud fy llais fy hun yn glywadwy.
Rwy’n gallu trafod a herio safbwyntiau’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chynrychiolwyr etholedig yn fy nghymuned ac ar lefel genedlaethol.
Rwy’n gallu dadansoddi ac esbonio effaith penderfyniadau ar bobl, eu hawliau a’r amgylchedd, penderfyniadau a wneir gan unigolion a llywodraeth leol, cenedlaethol a byd-eang a sefydliadau anllywodraethol.
Rwy’n gallu gwerthuso sut mae gwahanol gredoau, safbwyntiau a phrofiadau pobl yn effeithio ar weithredoedd moesol ac egwyddorol mewn ymateb i heriau a chyfleoedd y gorffennol, y presennol a’r rhai a ragwelir.
Rwy’n gallu archwilio’n feirniadol fy agweddau, tybiaethau ac ymddygiad, ynghyd â gweithredoedd pobl eraill. Rwyf hefyd yn gallu archwilio’n feirniadol sut mae’r rhain yn effeithio fy ardal leol a Chymru, yn ogystal â’r byd ehangach.
Rwy’n gallu esbonio pwysigrwydd rôl grwpiau, llywodraethau, busnesau a sefydliadau anllywodraethol wrth greu dyfodol cynaladwy, a sut maen nhw’n effeithio ar bobl, eu hawliau ac ar yr amgylchedd.
Rwy’n gallu cyfrannu’n weithredol ac adeiladol tuag at fy nghymuned.
Rwy’n gallu adnabod bod fy ngweithredoedd i ac eraill yn cael effaith ar gymunedau ac ar yr amgylchedd.
Rwyf wedi cynllunio ac wedi ymgymryd â rôl weithgar mewn ymateb i heriau a chyfleoedd yn fy nghymuned leol neu yng Nghymru neu yn y byd ehangach, ac wedi gwneud hynny’n unigol neu fel rhan o dîm.
Rwyf wedi adnabod, cynllunio, myfyrio ar ynghyd â gwerthuso effeithiau fy ngweithredoedd i, boed yn unigol neu ar y cyd, yn fy nghymuned leol neu yng Nghymru neu yn y byd ehangach.
Rwyf wedi adnabod, cynllunio, myfyrio ar ynghyd â gwerthuso effeithiau fy ngweithredoedd, boed yn unigol neu ar y cyd, yn fy nghymuned leol neu yng Nghymru neu yn y byd ehangach. Yn y cyd-destun hwn, rwy’n archwilio’n feirniadol fy agweddau, tybiaethau ac ymddygiad.