English

2. Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

Cwricwlwm

Mandadol

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Bydd taith y dysgwyr trwy’r Maes hwn yn ysgogi ymholi a darganfod, wrth iddyn nhw gael eu herio i fod yn chwilfrydig ac i gwestiynu, i feddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth. Mae meddwl ymholgar yn ysgogi ffordd greadigol a newydd o feddwl, a thrwy hyn gall dysgwyr feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cysyniadau sy’n sail i’r dyniaethau, a sut i’w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd eang. Gall meddylfryd o’r fath fod o gymorth i ddysgwyr ddeall profiadau pobl a’r byd naturiol yn well.

Bydd dulliau gweithredu disgyblaethol addas, gan gynnwys dyniaethau digidol, yn gymorth i ddysgwyr gasglu, cyfiawnhau, cyflwyno, dadansoddi a gwerthuso ystod o dystiolaeth. Bydd dehongli a chyfuno gwybodaeth o gymorth i ddysgwyr adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd eisoes a llywio ymhellach eu dealltwriaeth o’r byd. Trwy feddwl yn feirniadol am eu canfyddiadau, gall dysgwyr wedyn ddod i gasgliadau gwybodus, ond hefyd ddod i ddeall mai dim ond casgliadau rhannol neu amhendant a geir weithiau ac y gellir eu dehongli mewn gwahanol ffyrdd. Bydd angen iddyn nhw fyfyrio’n ofalus er mwyn gwella eu methodoleg ac ehangu neu ddyfnhau eu hymholiad.

Mae ymholi yn fwy nag ymarferiad academaidd; mae’n galluogi myfyrio sydd o gymorth i ddysgwyr ddeall y cyflwr dynol. Yn ei dro, gall hyn ychwanegu ystyr at fywydau’r dysgwyr, a chyfrannu at eu hymdeimlad o le a bydolwg.

Mae’r agwedd hon o’r Maes hwn yn ysgogi archwilio cysyniadau gan gynnwys cwestiynu, tystiolaeth, gwerthuso, moeseg a barn.

Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

Rydyn ni’n profi a gwneud synnwyr o’r byd trwy amrywiaeth o ddigwyddiadau a phrofiadau. Mae’r dyniaethau yn annog dysgwyr i adolygu’n feirniadol y ffyrdd mae’r digwyddiadau a’r profiadau hyn yn cael eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli. Wrth iddyn nhw ddatblygu eu safbwyntiau gwybodus eu hunain, ynghyd â chydnabod barn eraill, gall dysgwyr hefyd ddatblygu hunan-ymwybyddiaeth.

Gall dysgu sut y gall gwahanol fydolygon a ffactorau ddylanwadu ar eu canfyddiadau a’u dehongliadau eu hunain, yn ogystal â rhai pobl eraill, annog dysgwyr i ddatblygu gwerthfawrogiad o sut mae cyd-destun yn dylanwadu ar greu naratif a ffyrdd o gyfleu. Trwy archwilio sut a pham y gall dehongliadau wahaniaethu, ac wrth ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o ystod o ddehongliadau a ffyrdd o gyfleu, elfennau a gasglwyd o amrywiaeth o dystiolaeth, bydd dysgwyr mewn sefyllfa well i werthuso pa mor ddilys yw’r rhain.

Mae’r agwedd hon o’r Maes hwn yn ysgogi archwilio cysyniadau, gan gynnwys archwilio ystyr, dod i farn, cwestiynau athronyddol a phwysig bywyd, ffyrdd o gyfleu, safbwyntiau, dehongliadau, arwyddocâd a dilysrwydd.

Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.

Gall profi rhyfeddod y byd naturiol gyfrannu at ddatblygiad ysbrydol a lles y dysgwyr, a bod yn gymorth i ennyn ynddyn nhw ymdeimlad o le ac o berthyn, fel sy’n cael ei ymgorffori yn y gair cynefin.

Gall meithrin chwilfrydedd fod o gymorth i ddysgwyr ddeall a gwerthfawrogi sut a pham mae lleoedd, tirwedd ac amgylchedd yn newid, yn lleol, yng Nghymru yn ogystal ag yn fyd-eang. Yn ei dro, gall hyn alluogi dysgwyr i adnabod beth sy’n gwneud lleoedd a gofodau yn wahanol ac i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r cysylltiadau sydd rhwng pobl a’u hamgylchedd, a hynny mewn cyd-destun cyfoes a hanesyddol, gan gynnwys mewn perthynas â’r argyfwng o ran yr hinsawdd a byd natur. O ganlyniad, mae dysgwyr mewn sefyllfa well i wneud cyswllt rhwng y gorffennol a’r presennol ac i ddychmygu dyfodol posibl.

Bydd datblygu dealltwriaeth o sut y gall gweithredoedd dynol yn y gorffennol a’r presennol effeithio ar y berthynas rhwng y byd naturiol a phobl yn dwysáu ymwybyddiaeth dysgwyr o’r modd y mae’r gweithredoedd hyn yn dylanwadu ar gynaladwyedd ein byd yn y dyfodol a’r newid yn yr hinsawdd. Bydd hyn hefyd yn annog dysgwyr, fel cynhyrchwyr a defnyddwyr, i ddeall eu heffaith hwy eu hunain ar y byd naturiol. Yn ogystal, gall archwilio amrywiaeth o gredoau, athroniaethau a bydolygon am y byd naturiol fod o gymorth i ddysgwyr sylweddoli sut mae’r rhain yn dylanwadu ar y modd y mae pobl yn rhyngweithio â’r byd.

Mae’r agwedd hon o’r Maes hwn yn annog dysgwyr i archwilio cysyniadau gan gynnwys y berthynas rhwng pobl a’r byd naturiol, achos ac effaith, newid a pharhad, arwyddocâd, lle, gofod a phrosesau ffisegol.

Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

Gall gwerthfawrogi hunaniaeth, treftadaeth a chynefin, gan gynnwys hanes Cymru a’r byd, ddylanwadu’n emosiynol ac yn ysbrydol ar ddysgwyr, a bod o gymorth i greu ymdeimlad o hunan ac o berthyn. Trwy ddeall eu hunain, mae dysgwyr yn meithrin eu hunaniaeth, ac ymwybyddiaeth o sut y gallan nhw, fel unigolion, siapio’r cymunedau y maen nhw’n byw ynddyn nhw. O ganlyniad, daw dysgwyr i ddeall y gall y dewisiadau y mae pob un ohonon ni’n eu gwneud gael effaith sylweddol ar gymdeithas, boed yn ddewisiadau unigol neu ar y cyd.

Drwy glywed straeon eu hardal leol a straeon Cymru yn gyson, yn ogystal â straeon y byd ehangach, gall dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, lluosieithog ac amrywiol cymunedau ddoe a heddiw. Mae’r straeon hyn yn amrywiol, yn cwmpasu gwahanol gymunedau, yn ogystal â straeon pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn enwedig. Mae hyn hefyd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o hanes, treftadaeth ddiwylliannol, amrywiaeth ethnig, hunaniaethau, profiadau a safbwyntiau eu hardal leol, Cymru a’r byd yn ehangach.

Dros amser, mae lleoedd, cymunedau a chymdeithasau yn esblygu, gan brofi parhad a newid sydd wedi effeithio ar fywydau’r dysgwyr eu hunain ac ar fywydau pobl eraill, ac mae’r effaith yn parhau. Wrth iddyn nhw archwilio hyn, gall dysgwyr ddod i werthfawrogi sut mae’r esblygiad hwn yn cael ei sbarduno gan y rhyngweithio sydd rhwng ystod o ffactorau, gan gynnwys prosesau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol, ynghyd â gweithredoedd pobl, credoau crefyddol ac anghrefyddol a bydolygon. Gall hefyd fod o gymorth iddyn nhw ddatblygu dealltwriaeth o achosion, canlyniadau ac arwyddocâd y newidiadau a’r rhyng-berthnasau sydd wedi ffurfio cymdeithasau ar wahanol lefelau o ddatblygiad.

Gall profiadau yn y Maes hwn annog dealltwriaeth feirniadol o sut mae cymdeithasau wedi cael eu trefnu, eu strwythuro a’u harwain, yn lleol, yng Nghymru ac yn fyd-eang. Caiff cymdeithasau eu nodweddu gan amrywiaeth o normau a gwerthoedd diwylliannol, ieithyddol, economaidd, cyfreithiol a gwleidyddol. Maen nhw hefyd yn ddeinamig, gan sbarduno ac ymateb i newidiadau, ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang. Gall dysgwyr archwilio’r cysylltiadau a’r rhyng-ddibyniaethau rhwng y cymdeithasau hyn, yn y gorffennol a’r presennol, yng nghyd-destun globaleiddio byd-eang. Gall ymwneud pellach eu hannog hefyd i archwilio a meithrin dealltwriaeth oddefgar ac empathetig o’r amrywiol gredoau, gwerthoedd, traddodiadau ac egwyddorion sydd wrth wraidd ac yn llywio cymdeithas ddynol.

Mae’r agwedd hon o’r Maes hwn yn annog dysgwyr i archwilio cysyniadau gan gynnwys cronoleg, newid a pharhad, amrywiaeth, achos ac effaith, cydgysylltiad, cymuned, hunaniaeth a pherthyn, awdurdod a llywodraethiant.

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Gall profiadau yn y Maes hwn fod o gymorth i ddysgwyr feithrin dealltwriaeth o’u cyfrifoldebau fel dinasyddion Cymru a’r byd rhyng-gysylltiedig ehangach, ynghyd â phwysigrwydd creu dyfodol cyfiawn a chynaliadwy iddyn nhw eu hunain a’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang. Mae archwilio’r dyniaethau’n annog dysgwyr i fod yn ddinasyddion a defnyddwyr gweithredol, gwybodus a chyfrifol sy’n gallu uniaethu â’u cymunedau a chyfrannu atyn nhw, yn ogystal â gallu mynd i’r afael â heriau a chyfleoedd y gorffennol, y presennol a’r dyfodol sy’n wynebu’r dysgwyr, eu cymunedau, Cymru yn ogystal â’r byd yn ehangach. Mae’r heriau hyn yn cynnwys effeithiau ecolegol mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd â’r argyfwng o ran yr hinsawdd a byd natur.

Bydd y Maes hwn yn annog dysgwyr i ddeall natur ryng-gysylltiol cynaladwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol; cyfiawnder ac awdurdod; a’r angen i fyw mewn cymdeithas decach a mwy cynhwysol sy’n wynebu hiliaeth ac yn mynd i’r afael â’r broblem, ynghyd â chyfrannu ati. Bydd profiadau yn y Maes hwn hefyd o gymorth i ddysgwyr feithrin ymwybyddiaeth o’u hawliau eu hunain (gan gynnwys yr hawliau a warchodir i dan UNCRC ac UNCRPD), ynghyd â’u hanghenion, eu pryderon a’u teimladau hwy eu hunain a phobl eraill, a sut mae’r fath ymwybyddiaeth yn cyfrannu at greu byd cynaliadwy a rhyng-gysylltiedig.

Gall cwestiynu a gwerthuso ymatebion i heriau a chyfleoedd, ymatebion sydd eisoes yn bodoli, helpu dysgwyr i ddatblygu fel dinasyddion byd-eang hunanymwybodol, gwybodus ac egwyddorol sy’n myfyrio’n feirniadol ar eu credoau, gwerthoedd a’u hagweddau eu hunain ac eraill. Bydd profiadau yn y Maes hwn hefyd o gymorth i ddysgwyr ystyried effaith eu gweithredoedd wrth iddyn nhw wneud dewisiadau ac arfer eu hawliau a’u cyfrifoldebau democrataidd. Bydd y profiadau hyn hefyd yn tanlinellu’r angen i’r dysgwyr allu cyfiawnhau eu penderfyniadau wrth weithredu mewn ffordd gymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac entrepreneuraidd. Gall hyn alluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang, gan ddangos ymrwymiad i gyfiawnder, amrywiaeth a diogelu’r amgylchedd, ynghyd â dealltwriaeth ohonyn nhw. Trwy ymateb i heriau, a manteisio ar gyfleoedd i weithredu’n gymdeithasol a chynaladwy, gall dysgwyr greu ystyr a diben yn eu bywydau eu hunain.

Mae’r agwedd hon o’r Maes hwn yn annog dysgwyr i archwilio cysyniadau gan gynnwys dinasyddiaeth, awdurdod a llywodraethiant, rhyng-gysylltu, cyfiawnder a chydraddoldeb, menter, hawliau, a gweithredu a chyfrifoldeb cymdeithasol.