English

Mae Llwybryddion a Switsys yn cysylltu dyfeisiau mewn ysgol â'i gilydd (switsys), ac yna â'r rhyngrwyd (llwybrydd). Mae angen iddynt feddu ar ddigon o gapasiti i ddiwallu anghenion yr ysgol, a rhaid iddynt allu derbyn diweddariadau i ddiogelwch a chadarnwedd gan y gweithgynhyrchydd. Fel arall, bydd yr ysgol yn wynebu problemau wrth gyrchu adnoddau digidol a galluogi dysgu ar-lein.

Os ystyriwch y broses o symud data o amgylch ysgol fel dwr yn y pibellau gartref, gall maint y bibell a'r galw am ddwr gan bob un o'r tapiau yn y ty gael effaith ar argaeledd y llif. Mae'r un peth yn wir am ddata mewn ysgol – os oes problemau gydag unrhyw un o'r switsys ar y rhwydwaith, neu os yw'r llwybrydd yn atal data rhag dod i mewn ac allan, gall effeithio ar y cysylltiad â'r Rhyngrwyd ar draws yr ysgol gyfan. Felly, dylech ystyried capasiti ac oedran y llwybrydd a'r siwtsys a ddefnyddir yn yr ysgol er mwyn sicrhau nad amherir ar argaeledd data.