English

Mae'r gofynion ar gyfer cysylltiad band eang mewn ysgol yn wahanol iawn i'r rhai ar gyfer cysylltiad gartref, pa un a yw'n ysgol fach sydd â llai na 100 o ddisgyblion neu'n ysgol fawr sydd â mwy na 1000 o ddisgyblion.

Mae gofynion ysgolion yn seiliedig ar gyflawni'r cwricwlwm, ynghyd ag anghenion gweinyddol a gweithredol yr ysgol, y mae gan bob un ohonynt batrymau defnydd gwahanol iawn.

Mae'r Safonau'n rhoi'r egwyddorion craidd i chi wrth ddewis darpariaeth band eang ar gyfer eich ysgol.

  • Mae (Rhwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus) PSBA wedi’i gynllunio i ddarparu gwasanaeth rhyngrwyd dibynadwy, diderfyn a chyflym ar gyfer sefydliadau mawr â gofynion graddfa fawr fel ysgolion, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru gyfan.

    Mae’n cynnwys gwasanaethau gwerth ychwanegol amrywiol, fel rheolyddion seiberddiogelwch, y bydd angen i ysgolion eu hariannu a’u cynnal yn uniongyrchol os ydynt yn dewis darparwr band eang gwahanol.

    Mae Gweinidogion Cymru ac Awdurdodau Lleol wedi buddsoddi’n helaeth yn rhwydwaith y PSBA er mwyn darparu rhwydwaith effeithlon a dibynadwy y gellir ei ehangu sy’n sicrhau gwerth am arian i’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Os yw ysgol yn credu bod modd cyfiawnhau peidio â defnyddio PSBA, mae’n rhaid iddi amlinellu ei hachos i’r awdurdod lleol a swyddogion Llywodraeth Cymru cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Bydd hyn yn sicrhau bod ystyriaeth briodol wedi’i rhoi i bob rhan o’r safon, ac yn diogelu’r ysgol a’i dysgwyr.

    Ewch i wefan PSBA i gael manylion llawn yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth a natur y gwasanaethau gwerth ychwanegol perthnasol.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli i gael rhagor o wybodaeth.

    Rhwydwaith preifat wedi’i reoli’n llawn yw PSBA ac mae’n cynnig manteision rhannu data a rhyng-gysylltu i ysgolion eraill a sefydliadau addysg (e.e. Sefydliadau Addysg Bellach), awdurdodau lleol ac eraill. Mae’n bosibl nad yw’r manteision hyn yn cael eu cynnig gan ddarparwyr masnachol. Mae enghreifftiau’n cynnwys mynediad cadarn a chyflym i Hwb sy’n arwain at brofiad mwy ymatebol wrth ddefnyddio’r platfform.

    Fel gwasanaeth a reolir, bydd PSBA yn mynd ati’n rhagweithiol i fonitro am wallau ac yn rheoli cwmnïau telathrebu i atgyweirio unrhyw broblemau gyda chysylltedd eich ysgol â’r rhwydwaith.

    Mae gan PSBA nifer o fesurau rheoli seiberddiogelwch ar waith i ddiogelu traffig ysgolion a defnyddwyr, gan gynnwys mesurau fel:

    • Hidlydd cynnwys Blue Coat (rheoli a hidlo mynediad i gymwysiadau’r we gronynnol symanteg)
    • Lliniaru ymosodiad DDOS (Gwrthod Gwasanaeth Gwasgaredig)
    • Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd (IWF) (Internet Watch Foundation) sy’n hidlo traffig rhwydwaith ysgolion i flocio cynnwys anghyfreithlon ar y we
    • Diogelwch wal dân rhwng y rhwydwaith a rennir a’r rhwydwaith yn ehangach.

    O fis Mehefin 2018 ymlaen, mae PSBA yn cynnwys gwasanaeth hidlo’r we canolog (Smoothwall) o fewn ei Gatalog Gwasanaethau. Trwy brynu trwyddedau ar y cyd, gall PSBA sicrhau gwerth, gwella prosesau rheoli a lleihau’r gost o redeg eich gwasanaeth hidlo’r we eich hun.

    Hefyd, mae PSBA yn cynnig cysylltiad uniongyrchol a diogel i systemau addysg awdurdodau lleol (e.e. ffurflenni SIMS; gwybodaeth ADY). Os ydych chi’n defnyddio darparwr gwasanaethau rhyngrwyd arall, mae’n bosibl y bydd angen i chi osod cysylltiad cadarn o’ch ysgol, ar draws y Rhyngrwyd ac yn ôl i systemau’ch awdurdod lleol. Gall hyn arwain at gostau ychwanegol neu gymhlethdodau technegol sy’n cael eu hosgoi trwy ddefnyddio PSBA gan fod swyddfeydd awdurdodau lleol ar y rhwydwaith hefyd.

    PSBA yw’r ateb mwyaf cost-effeithiol i sicrhau bod ysgolion yn diwallu eu hanghenion digidol. Cydnabyddir bod adnoddau ysgolion yn brin a bod penaethiaid a llywodraethwyr yn wynebu heriau wrth gyfiawnhau pam mai PSBA yw’r ateb gorau o’i gymharu â chynigion deniadol rhai darparwyr. Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth PSBA yn cynnwys llawer o fanteision gwerth ychwanegol nad ydynt ar gael gan gynigion darparwyr masnachol.

    Os ydych chi’n penderfynu defnyddio darparwr arall i gael mynediad i’r Rhyngrwyd yn eich ysgol, mae’n rhaid i chi sicrhau ei fod yn cynnig diogelwch o’r un lefel ac ansawdd â PSBA. Yn wahanol i wasanaeth safonol PSBA, nid yw pob darparwr masnachol yn cynnig y mesurau rheoli ychwanegol hyn, neu os yw’n eu cynnig, mae’n gallu codi ffioedd ychwanegol amdanynt.

  • Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu’r un cyflymder lawrlwytho a lanwytho, ac ni fyddwch chi’n rhannu’r cysylltiad ag eraill.

    Mae gwasanaethau band eang eraill ar gael (er enghraifft: Ffibr i’r Safle) ond oni bai bod gennych chi nifer isel o ddysgwyr (llai na 50) neu os nad yw’r gwasanaeth cymesur dirwystr ar gael yn eich ardal, maen nhw’n anaddas i’w defnyddio mewn ysgolion oherwydd eu gallu cyfyngedig.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli i gael gwybodaeth am gynllunio ar gyfer band eang, a Safonau Llwybryddion a Switsys i gael gwybodaeth am sut mae’r band eang yn cysylltu â rhwydwaith TG yr ysgol.

    Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru gysylltiad PSBA gwasanaeth band eang ffibr optig cymesur dirwystr sy’n gallu darparu gwasanaeth 100Mbps neu 1Gbps trwy gylchedau EAD (Ethernet Access Direct) ffibr Openreach pwrpasol.

    Mae cylchedau EAD yn darparu cysylltedd lled band uchel ar gyfer ysgolion ar sail Cytundebau Lefel Gwasanaeth cadarn er mwyn gwarantu perfformiad. Mae gwasanaethau ffibr optig yn hanfodol ar gyfer gofynion fel cyfrifiadura cwmwl (Hwb), mynediad cydamserol ar gyfer disgyblion mewn ystafelloedd dosbarth a chysylltedd Rhwydwaith Mannau Storio.

    Mae gwasanaethau ffibr optig cymesur dirwystr yn cynnig capasiti a chadernid uchel, ac mae modd eu huwchraddio i fodloni gofynion y dyfodol (gan gynnwys cynnydd yn nifer y disgyblion; rhagor o alw am adnoddau ar-lein a gwasanaethau cwmwl; BYOD ac ati). O ganlyniad, maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer defnyddio cymwysiadau a gwasanaethau Cwmwl e.e. Hwb.

    Mae gwasanaeth cymesur yn bwysig wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein a gwasanaethau cwmwl fel SIMS ar-lein, Hwb a Google Education, gan fod modd sicrhau’r un cyflymder trosglwyddo wrth lanlwytho data â’r hyn a geir wrth lawrlwytho data.

    Mae’r gwasanaeth hwn yn un dirwystr, sy’n golygu bod modd cael mynediad llawn i’r lled band sydd ar gael, yn hytrach na rhannu’r hyn sydd gennych chi ag adeiladau cyfagos. O ganlyniad, mae perfformiad eich cysylltiad yn llai tebygol o gael ei effeithio gan ddefnyddwyr eraill y tu allan i’r ysgol.

    Mae gwasanaethau eraill ar gael, ond mae’n bosibl na fyddant yn cynnig y manteision sy’n cael eu disgrifio uchod, ac o ganlyniad mae’n bosibl na fyddant yn addas i’ch ysgol.

    Mae gwasanaethau Ffibr i’r Safle (FttP) yn anghymesur ac maen nhw’n cael eu darparu dros ffibr o gabinet ar y stryd (cyfeirir ato fel cabinet gwyrdd weithiau) trwy gysylltiad rhwystr a rennir yn ôl i’r gyfnewidfa. Mae lled band at y cwsmer y gwasanaeth sy’n cael ei dderbyn yn uwch na’i led band oddi wrth y cwsmer, ac mae’n cael ei rannu ar sail gystadleuol ag eiddo cyfagos. Mae gwasanaethau FttP yn cael eu hysbysebu fel gwasanaethau sy’n gallu darparu hyd at 300Mbps at y cwsmer a 30Mbps oddi wrth y cwsmer, ond mae’r cyflymder gwarantedig gwirioneddol yn llai o lawer, ac mae’n gallu bod cyn ised ag 80 Mbps at y cwsmer a 20 Mbps oddi wrth y cwsmer.

    Mae gwasanaethau Ffibr i’r Cabinet (FttC) yn anghymesur ac maen nhw’n cael eu darparu dros bâr o geblau copr o’r cabinet ‘gwyrdd’ ar y stryd. Mae lled band at y cwsmer y gwasanaeth sy’n cael ei dderbyn yn uwch na’i led band oddi wrth y cwsmer, ac mae’n cael ei rannu ar sail gystadleuol ag eiddo cyfagos. Mae gwasanaethau FttC yn cael eu hysbysebu fel gwasanaethau sy’n gallu darparu hyd at 80Mbps at y cwsmer a 20Mbps oddi wrth y cwsmer, ond mae’r cyflymder gwarantedig gwirioneddol yn llai o lawer, ac mae’n gallu bod cyn ised â 15Mbps at y cwsmer a 5 Mbps oddi wrth y cwsmer.

    Nid yw gwasanaethau Ffibr i’r Safle (FttP) a Ffibr i’r Cabinet (FttC) yn cael eu hargymell ar gyfer ysgolion sydd â mwy na 50 o ddysgwyr oherwydd cyfyngiadau’r dechnoleg.

  • Mae lled band yn cyfeirio at uchafswm y data y gellir ei drosglwyddo ar unrhyw un adeg. Bydd lled band digonol yn osgoi byffro a phroblemau gyda galwadau wrth ddefnyddio adnoddau sy’n trosglwyddo llawer o ddata, fel platfformau rhannu fideos ar-lein a rhaglenni sgwrsio fideo.

    Dylai’r gwasanaeth sydd ar gael mewn ysgolion weddu i’w maint (o safbwynt defnyddwyr o bob math – ymarferwyr, staff swyddfa a dysgwyr), ac anghenion cyflenwi’r ysgol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli a Safonau Rheoli Dyfeisiau i gael rhagor o wybodaeth, yn ogystal ag Safon A5 ar y gallu i newid graddfa ac Safon A7 ar wasanaethau gwerth ychwanegol.

    Bydd y broses o benderfynu ar led band yn dibynnu ar eich gofynion penodol ar gyfer cyflwyno addysgu a dysgu digidol; oedran a chapasiti’ch technoleg; sut mae amgylchedd digidol eich ysgol wedi’i sefydlu; a sut rydych chi’n bwriadu defnyddio’ch gwasanaeth band eang.

    Dylech ymgynghori â’ch awdurdod lleol bob amser os ydych chi’n dymuno cynyddu’ch lled band er mwyn sicrhau eich bod yn manteisio’n llawn ar eich gwasanaeth.

    Fel canllaw, argymhellir y dylai ysgolion cynradd fod â chysylltiad 100Mbps o leiaf, ac y dylai ysgolion uwchradd fod â chysylltiad 1Gbps o leiaf. Os yw ysgolion yn credu bod angen mwy na hyn arnynt, dylent siarad â’r awdurdod lleol er mwyn deall eu defnydd lled band arferol, cyn ymrwymo i unrhyw gytundeb ar gyfer lled band ychwanegol.

    O safbwynt cadw trefn, mae’n werth deall bod modd helpu i gynnal lled band ar gyfer dysgu yn ystod y diwrnod ysgol trwy amserlennu diweddariadau meddalwedd, newidiadau a lawrlwythiadau y tu allan i’r oriau craidd hyn.

    Hefyd, dylech fod yn ymwybodol o ofynion dyfeisiau Clyfar sydd angen mynediad cyson i’r rhyngrwyd (neu’r Rhyngrwyd y Pethau (IOT)) rhag ofn bod caniatáu i’r dyfeisiau hyn ddefnyddio rhyngrwyd TG yr ysgol yn cael effaith niweidiol ar argaeledd lled band ar gyfer addysgu a dysgu.

  • Wrth i’r amgylchedd ar-lein fynd yn gynyddol ‘cyfryngau-gyfoethog’, gan gynnwys sain, fideo ac animeiddiadau dynamig, bydd lefel y data a ddefnyddiwch yn cynyddu.

    Dylid osgoi gwasanaeth lled band â therfynau data gan y bydd yn cyfyngu ar allu’ch ysgol i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn y dosbarth. Ni ddylai athrawon orfod poeni am gyfyngu ar faint o amser y gall dosbarth ddefnyddio’r rhyngrwyd oherwydd terfynau data.

    Nid oes gan y PSBA unrhyw derfynau data felly mae’n ddelfrydol i’w ddefnyddio mewn ysgolion.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli, a Safon A1 ar ddarpariaeth band eang i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae cyfyngiadau data a lled band yn wahanol – yn sylfaenol, lled band yw maint y cysylltiad sy’n cyrraedd yr ysgol, a data yw lefel y traffig sy’n pasio trwy’r cysylltiad, sy’n cael ei fesur bob dydd neu bob mis fel arfer.

    Wrth i’r amgylchedd ar-lein fynd yn gynyddol ‘cyfryngau-gyfoethog’, gan gynnwys sain, fideo ac animeiddiadau dynamig, bydd lefel y data a ddefnyddir mewn sesiwn pori’r we yn cynyddu.

    DOES DIM cyfyngiad o ran data gan y PSBA, felly does dim modd cyrraedd terfyn trwy ddefnyddio adnoddau sy’n cyfryngau-gyfoethog. Fodd bynnag, os ydych chi’n ymrwymo i gontract ar gyfer Gwasanaeth Rhyngrwyd gyda darparwr arall ac nid i’r PSBA, mae angen i chi gadarnhau a nodir swm penodol o ddata bob mis ar gyfer eich ysgol.

    Gallech chi wynebu taliadau cosb am ddefnyddio mwy na’r terfyn a ganiateir. Mewn rhai achosion, bydd rhai darparwyr Rhyngrwyd yn gosod ‘terfyn caled’, ac ar ôl cyrraedd y terfyn hwn, ni fydd modd defnyddio’r Rhyngrwyd tan ddechrau’r mis nesaf. Hefyd, gall cyfyngiadau ar ddefnydd data rwystro gwaith cynllunio ac amharu ar y defnydd o ddysgu digidol.

  • Wrth i hyder athrawon a dibyniaeth ysgol ar adnoddau ar-lein gynyddu, mae’n rhaid sicrhau bod gwasanaeth band eang yr ysgol yn gallu ehangu mewn ffordd hyblyg er mwyn ymdopi â’r galw.

    Mae’r PSBA wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg a thyfu yn unol â gofynion ysgolion, felly bydd yn parhau i ddiwallu’ch anghenion yn y dyfodol.

    Trwy gael eich cyfyngu i wasanaeth nad yw’n gallu ehangu, bydd yn anodd a/neu’n ddrud ymateb i ofynion newidiol.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli, a Safon A3 i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae hyn yn rhoi dewis i chi newid graddfa lefel y lled band y gall eich ysgol ei ddefnyddio heb orfod ysgwyddo costau mawr trwy osod cysylltiadau Rhyngrwyd lluosog.

    Bydd eich anghenion Rhyngrwyd a’ch gofynion o ran lled band y rhwydwaith yn newid dros amser e.e. oherwydd cynnydd yn niferoedd eich disgyblion.

    Mae’r Prosiect PSBA wedi’i gynllunio’n arbennig i newid ac ymateb i ofynion ysgolion.

    Os ydych chi wedi’ch cyfyngu i wasanaeth sefydlog nad yw’n gallu ehangu yn unol â’ch gofynion, bydd yn anodd a/neu’n ddrud i chi ymateb i ofynion newidiol.

  • Dylid ystyried cysylltedd Rhyngrwyd fel y pedwerydd cyfleustod yn eich ysgol, ochr yn ochr â gwasanaethau dwr, nwy a thrydan.

    Diben bod â Chytundebau Lefel Gwasanaeth mesuradwy ar gyfer eich gwasanaeth Rhyngrwyd yw sicrhau bod modd adfer eich gwasanaeth cyn gynted â phosibl yn dilyn unrhyw nam.

    O ganlyniad, bydd gennych chi sicrwydd y bydd gwasanaethau’r rhyngrwyd ar gael os ydych chi wedi cynllunio i’w defnyddio mewn gwersi ac ar adegau eraill.

    Ewch i wefan PSBA i gael gwybodaeth lawn am beth sydd wedi’i gynnwys yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth a natur y gwasanaethau gwerth ychwanegol perthnasol.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli, a Safon A1 i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae angen mynediad cyflym a dibynadwy i’r Rhyngrwyd ar eich ysgol er mwyn diwallu anghenion cwricwlwm sy’n mynd yn fwyfwy digidol.

    Mae lefel gwasanaeth gwarantedig sylfaenol yn golygu bod yn rhaid i’ch darparwr gwasanaeth ddatrys unrhyw broblemau sy’n achosi gwasanaeth wedi’i ddiraddio neu ddiffyg cysylltedd llwyr o fewn amserlenni gwarantedig. Diben bod â Chytundebau Lefel Gwasanaeth mesuradwy ar gyfer eich gwasanaeth Rhyngrwyd yw gallu sicrhau bod eich gwasanaeth yn cael ei adfer cyn gynted ag y bo modd yn dilyn unrhyw nam ar y gwasanaeth.

    Mae PSBA yn darparu gwasanaeth a reolir lle bydd y darparwr yn mynd ati’n ddiwyd i fonitro am namau a rheoli cwmnïau telathrebu i atgyweirio unrhyw broblemau gyda chysylltiad eich ysgol i’r rhwydwaith. Os oes nam yn codi neu os yw’r gwasanaeth wedi’i ddiraddio, mae’n hollbwysig gallu dibynnu ar eich darparwr rhwydwaith i adfer y gwasanaeth yn gyflym heb i’r ysgol orfod rhoi gwybod am broblemau, canfod namau a gofyn am ddiweddariadau rheolaidd. Yn y rhan fwyaf o achosion lle mae problemau o’r fath yn codi, mae PSBA yn mynd ati’n gyflym i nodi achosion problemau a’u hatgyweirio yn unol â Chytundebau Lefel Gwasanaeth y contract (6 awr i atgyweirio gwasanaethau ffibr cymesur a 6 awr ar gyfer gwasanaethau FttC neu FttP).

    Bydd eich cynlluniau parhad busnes yn gwella os oes gennych chi hyder y bydd unrhyw namau’n cael eu hatgyweirio’n effeithlon ac yn effeithiol. Bydd yr awdurdod lleol yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar y broses o ddatrys y nam, a bydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi ynglyn ag amseroedd atgyweirio disgwyliedig ac a fydd angen i’r ysgol wneud darpariaeth amgen ar gyfer gwersi.

    Er bod PSBA yn darparu gwasanaeth dibynadwy o ansawdd uchel, dylai ysgolion fod â chynllun ymarferol wrth gefn i leihau unrhyw amharu sy’n deillio o broblemau’n ymwneud â’r rhyngrwyd.

  • Bydd eich darparwr band eang presennol, yn enwedig y PSBA, yn darparu gwasanaethau ychwanegol i helpu i amddiffyn eich rhwydwaith a diogelu’ch dysgwyr. Gall y gwasanaethau hyn gynnwys waliau tân; diogelu rhag DDOS (Atal Gwasanaeth Gwasgaredig) ac ati.

    Mae’n bwysig gwybod pa wasanaethau sy’n cael eu darparu gan eich cyflenwr band eang. Trwy newid i gysylltiad rhatach, gallech chi golli adnoddau diogelu a rheoli bygythiadau pwysig sy’n gadael athrawon a dysgwyr yn agored i risgiau diangen.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli, a Safon A1 ac A3 i gael rhagor o wybodaeth.

    Bydd eich darparwr band eang presennol, yn enwedig y PSBA, yn darparu gwasanaethau ychwanegol i helpu i amddiffyn eich rhwydwaith a diogelu’ch dysgwyr. Gall y gwasanaethau hyn gynnwys waliau tân; diogelu rhag DDOS (Atal Gwasanaeth Gwasgaredig); hidlo’r we; systemau rheoli’r rhwydwaith rhagweithiol sy’n nodi materion yn ymwneud â’r gwasanaeth cyn eu bod yn troi’n broblemau.

    Os ydych chi’n dewis terfynu’ch contract presennol ar gyfer cysylltedd rhwydwaith a chysylltedd y Rhyngrwyd, mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich darparwr newydd yn darparu unrhyw wasanaethau gwerth ychwanegol presennol ar sail gymharol (neu’n well). Os ydych chi’n diystyru’r gwasanaethau hyn, gall hynny arwain at gostau ychwanegol i’w cynnwys gyda’ch gwasanaeth newydd.

    Hefyd, mae PSBA yn cynnig cysylltiad uniongyrchol, diogel i systemau addysg awdurdodau lleol (e.e. ffurflenni SIMS; gwybodaeth ADY). Os ydych chi’n defnyddio darparwr Rhyngrwyd arall, mae’n bosibl y bydd angen i chi osod cysylltiad diogel o’ch ysgol, ar draws y Rhyngrwyd ac yn ôl i systemau’ch awdurdod lleol. Gall hyn arwain at gostau ychwanegol neu gymhlethdodau technegol nad ydynt yn codi wrth ddefnyddio PSBA, gan fod swyddfeydd yr awdurdod lleol ar y rhwydwaith hefyd.