English

Oherwydd y ddibyniaeth gynyddol ar adnoddau digidol a thechnoleg ar gyfer addysg a bywyd beunyddiol, mae'n dod yn fwyfwy pwysig sicrhau bod pob agwedd ar wybodaeth a data ar-lein yn ddiogel. Wrth i'r rhyngrwyd dyfu ac i rwydweithiau cyfrifiaduron ehangu a dod yn fwy integredig, mae diogelwch rhwydweithiau a data yn un o'r agweddau pwysicaf i unrhyw sefydliad ei hystyried, gan gynnwys ysgolion.

Bydd diogelwch rhwydweithiau yn eich diogelu rhag ymosodiadau seiber. Bydd hefyd yn sicrhau y cedwir eich data yn ddiogel. Gall seilwaith diogelwch rhwydweithiau sefydlog ac effeithlon roi sawl lefel o amddiffyniad i'ch ysgol, gan helpu i ddiogelu eich systemau a lleihau'r risg y caiff eich data eu dwyn, eich systemau eu difrodi ac y byddwch yn destun ymosodiadau.

Mae'r Safonau hyn yn dilyn y cyngor a'r canllawiau a ddarperir gan Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) (Saesneg yn unig), sy'n rhan o GCHQ (Saesneg yn unig) – prif asiantaeth gwybodaeth, seiber a diogelwch y DU.

Bydd ysgolion sydd â chytundebau lefel gwasanaeth a chontractau ar waith â'u hawdurdod lleol ar gyfer eu gwasanaethau TG yn gallu manteisio ar y modelau integredig ehangach o wasanaethau diogelwch seilwaith rhwydweithiau, a'r trefniadau strategol, a roddir ar waith gan eu hawdurdod lleol. Dylai ysgolion allu cadarnhau bod trefniadau o'r fath ar waith yn eu cyfarfodydd adolygu gwasanaethau rheolaidd â'u hawdurdod lleol.

Fodd bynnag, dylai ysgolion nad oes ganddynt gontract â'u hawdurdod lleol ar gyfer gwasanaethau TG sicrhau y gallant, neu y gall eu Partner Cymorth Technoleg Addysg sydd dan gontract, gyflawni'r Safonau Diogelwch Rhwydweithiau fel y nodir isod.