Canllaw i lywodraethwyr ar ymateb i ddigwyddiadau o rannu delweddau noeth a hanner noeth
Cyflwyniad
Mae rhannu delweddau noeth a hanner noeth – sydd weithiau’n cael ei alw yn ‘secstio’ – yn cyfeirio at bobl ifanc o dan 18 oed yn creu ac/neu’n rhannu delweddau, fideos neu ffrydiau byw noeth neu hanner noeth. Mae plant a phobl ifanc yn aml yn rhannu lluniau a fideos fel hyn drwy ddyfeisiau, llwyfannau ar-lein ac apiau negeseuon.
Pam mae hyn yn digwydd?
Efallai bod plentyn neu berson ifanc yn creu neu’n rhannu delweddau fel hyn am amrywiol resymau, er enghraifft:
- fel math o fflyrtio
- fel rhan o berthynas neu garwriaethol gydsyniol
- o ganlyniad i bwysau gan gyfoedion, yn bartner neu’n ffrind(iau)
- fel ffordd o archwilio eu teimladau rhywiol neu eu hunaniaeth rywiol
- fel ffordd o gael sylw neu o ddilysu eu hunain
- mewn ymateb i her
- o ganlyniad i orfodaeth neu ymddygiad bygythiol fel bwlio neu flacmel (sy’n aml yn cael ei alw’n ‘blacmel rhywiol’ neu 'sextortion’)
Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud?
Yng Nghymru a Lloegr, o dan Ddeddf Amddiffyn Plant 1978 mae’n drosedd cymryd, gwneud, dangos, dosbarthu neu feddu ar ddelweddau anweddus o unrhyw un o dan 18 oed.
Mae hon yn gallu bod yn sefyllfa ddryslyd iawn i blentyn neu berson ifanc. Os ydyn nhw wedi creu delwedd noeth ohonyn nhw eu hunain ac wedi’i chadw yn breifat ar eu dyfais, mae’n dal i fod yn drosedd, hyd yn oed os mai dim ond nhw sydd i'w gweld yn y ddelwedd.
Ond, erbyn hyn mae'r heddlu yn ystyried llawer o ddigwyddiadau o rannu delweddau noeth neu hanner noeth sydd ond yn cynnwys plant a phobl ifanc yn fater diogelu yn hytrach na throsedd. Heblaw mewn achosion eithriadol, nid gwneud plant a phobl ifanc sy'n creu ac yn rhannu delweddau noeth a hanner noeth ohonyn nhw’u hunain yn droseddwyr yw’r peth gorau o safbwynt lles y plant dan sylw na budd y cyhoedd.
Mae hyn yn gallu creu sefyllfaoedd cymhleth i oedolion sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Fel llywodraethwr, er mwyn herio eich ysgolion a’ch colegau i ddiogelu eich dysgwyr yn effeithiol, mae angen ichi wybod pa gyngor sydd ar gael i chi, eich penaethiaid, uwch dimau arwain eich ysgolion, a phob aelod o staff eich ysgolion, os bydd achos o rannu delwedd noeth neu hanner noeth. Mae cyngor ar gael yn Rhannu delweddau noeth a hanner noeth ar gyfer lleoliadau addysg yng Nghymru, a hynny ar gyfer yr unigolyn diogelu dynodedig, y pennaeth a’r uwch dîm arwain mewn ysgolion, colegau a lleoliadau addysg eraill yng Nghymru. Mae’r modiwl hyfforddi cysylltiedig yn darparu crynodeb o bob adran yn y canllawiau, ac yn cynnwys cwestiynau i’w hystyried i helpu i ddatblygu gweithdrefnau ar gyfer delio ag achosion, i sicrhau ymateb priodol a chymesur.
Mae yna ddogfen hefyd sy’n rhoi trosolwg cryno i staff ysgolion ar sut i reoli achosion, a bydd hyn o ddiddordeb i awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol, Llywodraethwyr Cymru, a staff mewn sefydliadau sydd â chyfrifoldeb arweiniol dros ddiogelu plant a phobl ifanc.
Yn y canllaw i Lywodraethwyr Ysgolion i’r gyfraith, mae manylion yr holl ddeddfwriaeth y mae’n rhaid i ysgolion Cymru gydymffurfio â hi.
Beth ddylai ysgol ei wneud os byddant yn dod yn ymwybodol o ddigwyddiad o rannu delweddau noeth neu hanner noeth?
Os bydd aelod o staff yr ysgol yn dod i wybod bod gan blentyn neu berson ifanc ddelweddau anweddus ohono’i hun neu rywun arall o dan 18 oed, mae’n bwysig eich bod yn gweithredu.
Yn gyntaf, ni ddylent gynhyrfu. Gallai ymateb yn fyrbwyll wneud y sefyllfa yn fwy anodd ei datrys. Gallai hefyd eu rhoi nhw mewn sefyllfa anodd, yn broffesiynol ac yn bersonol.
Oni bai eu bod yn benodol gyfrifol am ddiogelu yn eu hysgol, y flaenoriaeth gyntaf yw dilyn gweithdrefnau diogelu’r ysgol a rhoi gwybod i'r Unigolyn Diogelu Dynodedig am y mater.
Beth ddylid ei wneud os bydd achos yn codi?
- Peidiwch byth ag edrych ar y delweddau eich hun, eu llwytho i lawr na’u rhannu na gofyn i blentyn neu berson ifanc eu rhannu â chi neu eu llwytho i lawr ar ddyfais arall. Mae hyn yn anghyfreithlon, hyd yn oed os ydych chi'n gwneud hynny â'r bwriad gorau o helpu'r plentyn neu’r person ifanc â’i broblem.
- Rhowch wybod i’r Unigolyn Diogelu Dynodedig os ydych chi wedi gweld y ddelwedd ar ddamwain (e.e. am fod plentyn neu berson ifanc wedi’i dangos i chi cyn i chi allu ei gynghori i beidio).
- Peidiwch â dileu’r ddelwedd na gofyn i'r plentyn neu’r person ifanc ei dileu.
- Peidiwch â gofyn i unrhyw blant neu bobl ifanc oedd yn rhan o’r digwyddiad ddatgelu gwybodaeth am y ddelwedd neu’r digwyddiad – cyfrifoldeb yr Unigolyn Diogelu Dynodedig yw hyn.
- Esboniwch i'r plentyn neu’r bobl ifanc oedd yn rhan o'r digwyddiad bod angen i chi roi gwybod am y digwyddiad, a’u sicrhau y byddan nhw’n cael help a chefnogaeth gan yr Unigolyn Diogelu Dynodedig.
- Parchwch gyfrinachedd mater diogelu o'r fath – ni ddylech rannu gwybodaeth am y digwyddiad ag aelodau eraill o staff, plant a phobl ifanc, nac â rhieni/gofalwyr.
- Byddwch yn gefnogol i'r plentyn neu’r bobl ifanc sy'n rhan o'r digwyddiad – nid yw’n briodol gweld bai a chodi cywilydd mewn sefyllfa mor sensitif. Os oes angen rhoi cosb neu wneud atgyfeiriad i asiantaethau eraill bydd yr Unigolyn Diogelu Dynodedig ag arweinwyr uwch yn cytuno ar y rhain.
- Gwnewch yn siwr eich bod yn deall polisïau eich ysgol o ran atafaelu a chwilio. Ni ddylech geisio chwilio dyfais plentyn neu berson ifanc am ddelweddau noeth neu hanner noeth, hyd yn oed os mai chi sy’n gyfrifol am gynnal chwiliadau am gynnwys gwaharddedig arall yn yr ysgol. Mae hwn yn fater i’r heddlu.
- Mae’n rhaid i chi roi gwybod i'r Unigolyn Diogelu Dynodedig ar unwaith os oes gennych chi unrhyw bryderon bod oedolyn wedi bod â rhan mewn creu, dosbarthu neu feddu ar ddelwedd anweddus o unrhyw un o dan 18 oed. Gallwch hefyd adrodd eich amheuon yn uniongyrchol i CEOP Command (Saesneg yn unig) yn Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU.
Pa gymorth sydd ar gael i benaethiaid, uwch dimau arwain mewn ysgolion a holl staff ysgolion i addysgu dysgwyr am y risgiau a’r ystyriaethau sydd ynghlwm â rhannu delweddau noeth a hanner noeth?
Mae addysg yn gallu bod yn ddull ataliol pwysig. Mae’n rhoi cyfleoedd gwerthfawr i blant a phobl ifanc ddysgu a gofyn cwestiynau am y risgiau sydd ynghlwm â chreu a rhannu delweddau noeth a hanner noeth.
Wrth helpu dysgwyr i ddeall gweithdrefnau diogelu eu hysgol, gallwch gynyddu eu hyder o ran datgelu pryderon neu ddigwyddiadau. Drwy wneud yn siwr eu bod yn gwybod â phwy maen nhw’n gallu siarad ac y bydd unrhyw beth maen nhw’n ei ddatgelu yn cael ei drin â pharch ac yn gyfrinachol, byddwch yn chwalu unrhyw rwystrau i ofyn am help. Dangosodd adroddiad ymchwil Project deSHAME (Saesneg yn unig) mai'r rheswm pennaf pam nad oedd y plant a’r bobl ifanc oedd yn rhan o'r arolwg yn dweud wrth athro neu athrawes am aflonyddu rhywiol ar-lein oedd eu bod yn “poeni y byddai eu hysgol yn gorymateb”. Mae’r adnoddau canlynol ar gael i helpu i addysgu plant a phobl ifanc am faterion yn ymwneud â rhannu delweddau noeth a hanner noeth.
Dysgwyr oed cynradd
- Rhannu delweddau (Cynradd) – Hwb Cadw’n ddiogel ar-lein
- Pwyllo cyn Rhannu – NSPCC
- Pecyn cymorth ‘Dim ond jôc?’ (9-12 oed) – Project de Shame, Childnet
Dysgwyr oed uwchradd
- Rhannu delweddau (Uwchradd) – Hwb Cadw’n ddiogel ar-lein
- Pecyn addysgu ‘Codi llaw, codi llais’ – Project deSHAME (Saesneg yn unig) – Childnet
- Fe fuost ti'n noeth ar-lein, felly... – SWGfL
- Anfon lun ata i? – CEOP
- Online blackmail – CEOP
- Sexting and sharing nudes – Childline
- Problemau a phryderon ar-lein: rhannu lluniau noeth – Hwb – Cadw’n ddiogel ar-lein
Os oes angen rhagor o ganllawiau, adnoddau a/neu gymorth arbenigol arnoch, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar dudalennau sefydliadau a phartneriaid dibynadwy neu wasanaethau cymorth. Mae'r rhain yn cynnwys gwybodaeth gyfeirio ar gyfer sefydliadau fel Barnardo's, Childline, NSPCC, SchoolBeat Cymru, CEOP-Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (Gweler yn benodol y rhaglen addysg Thinkuknow), Stop it Now! Cymru ac eraill sydd ag arbenigedd yn y maes.
I gael rhagor o wybodaeth am gadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein, mae amrywiaeth eang o adnoddau diogelwch ar-lein dwyieithog ar gael yn adran Cadw’n Ddiogel Ar-lein Hwb.