English

Enw da

Enw da yw'r hyn y mae pobl eraill yn ei feddwl ohonoch yn seiliedig ar yr hyn rwyt ti'n ei wneud a'i ddweud. Mae enw da ar-lein yn seiliedig ar y pethau rwyt ti'n eu gwneud ac yn dweud ar-lein.

Ôl-troed digidol

Mae ôl troed digidol yn farc rwyt ti'n ei adael ar ôl wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd. Y pethau rwyt ti'n eu postio a beth mae eraill yn ei bostio amdanat ti yw dy ôl troed. Gall roi enw da neu ddrwg ar-lein i ti.

Mae’n cynnwys:

  • lluniau a fideos ar gyfryngau cymdeithasol
  • sylwadau neu bethau rwyt ti wedi'u hysgrifennu
  • gemau rwyt ti wedi chwarae ar-lein
  • pethau rwyt ti wedi'u prynu ar-lein
  • chwiliadau llais ar dy ddyfeisiau clyfar
  • gwybodaeth rwyt ti wedi caniatáu i apiau a gwefannau gael mynediad iddi
  • data a gasglwyd o ddyfeisiau fel oriawr clyfar

Gellid dod o hyd i'r pethau nes di postio neu eu rhannu flynyddoedd yn ôl a'u hail-rannu gyda dy deulu, ffrindiau, ysgol, coleg, prifysgol neu gyflogwr.

Mae eich ôl troed ar-lein yn golygu y gellir targedu hysbysebion atat ti oherwydd dy hoff bethau, diddordebau ac ymddygiad ar-lein.

Gellir defnyddio gwybodaeth bersonol sy'n hawdd ei chyrraedd ar-lein i ddwyn dy hunaniaeth.


Rwyt ti'n gwybod beth rwyt ti'n ei bostio ar-lein, ond a wyt ti'n gwybod beth mae eraill yn ei bostio amdanat ti?

Bob hyn a hyn, chwilia am dy enw (ac unrhyw enwau eraill rwyt ti'n eu defnyddio) ar Google i weld pa wybodaeth sy'n dod i fyny. Os oes gen ti enw cyffredin, ceisia chwilio gyda phethau eraill, fel enw dy ysgol, dy gyflogwr, neu ble rwyt ti'n byw.

Galli di sefydlu Google Alerts (Saesneg yn unig) ar dy ffôn a chael ebost bob tro y bydd dy enw yn ymddangos mewn tudalen canlyniadau chwilio Google.


Bydd yn ofalus ar y cyfryngau cymdeithasol

Os nad yw dy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol wedi'u gosod i breifat, gall unrhyw un ddod o hyd i ti a gweld popeth rwyt ti'n ei rannu, hyd yn oed dieithriaid llwyr. Tro dy osodiadau i breifat (Saesneg yn uing).

Hyd yn oed pan fydd dy gyfrifon yn breifat, nid yw'n atal ffrindiau na dilynwyr rhag rhannu dy luniau, fideos, postiadau a negeseuon gydag unrhyw un heb dy ganiatâd.

Os na fyddet ti eisiau i dy deulu, cyflogwyr y dyfodol neu ddieithriaid ledled y byd weld rhywbeth, yna mae'n well peidio â'i bostio.

  • Gellid ystyried sylwadau cas a wnaed mewn dicter fel seiberfwlio.
  • Gall rhannu jôcs wneud i lawr o bobl hoffi dy negeseuon, ond meddylia am yr hyn rwyt ti'n ei rannu. A yw'n sarhaus neu'n dangos casineb?
  • Gallai lluniau noeth a anfonir at rywun preifat gael eu postio ar-lein heb dy ganiatâd.

Paid â phostio am bobl eraill heb ganiatâd

Paid â phostio rhywbeth am rywun arall heb wirio a yw'n iawn yn gyntaf. Efallai na fyddan nhw eisiau i bobl wybod, neu efallai yr hoffent ei rannu eu hunain. 

Cael gwared ar gyfrifon sydd ddim yn cael eu defnyddio

Cofia ddileu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol nad wyt ti'n eu defnyddio mwyach. Os bydd cyfrif ti'n ei ddefnyddio'n aml yn cael ei hacio, byddi di'n gwybod amdano yn gyflym ac yn gallu gwneud rhywbeth amdano, ond os yw'n gyfrif nad wyt ti byth yn ei ddefnyddio gallai gymryd amser cyn sylweddoli. Mae dileu hen gyfrifon hefyd yn ffordd dda o lanhau dy ôl troed ar-lein. Mae rhai llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gadael i ti ddadactifadu dy gyfrif. Mae gen ti fynediad at dy gynnwys o hyd wrth benderfynu a wyt am ei ddileu'n llwyr.

Gwiria'r data mae dy ddyfeisiau yn ei gasglu

Nid yw'r data yn dod o gyfryngau cymdeithasol neu wefannau yn unig. Mae dy ffôn, traciwr ffitrwydd ac oriawr clyfar i gyd yn casglu data amdanat ti. Mae pob dyfais yn wahanol, felly edrycha ar eu gwefannau ar-lein i ddarganfod pa ddata sy'n cael ei gasglu ac ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio.

 Caniatadau ap

Pan fyddi di'n lawrlwytho ap, bydd yr ap yn gofyn am ganiatâd i ddefnyddio dy ddata, fel mynediad at dy gysylltiadau, negeseuon a llyfrgell ffotograffau. Darllena'n ofalus a meddylia am yr hyn rwyt ti'n ei rannu. Dim ond gosod apiau dibynadwy sy'n cynnig opsiwn i amddiffyn dy breifatrwydd. 

 Gwiria dy ffrindiau a dilynwyr

Gwiria dy ffrindiau a dy ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Wyt ti'n adnabod ac yn ymddiried ym mhawb? Mae dy gynnwys yn llai tebygol o gael ei weld a'i rannu heb dy ganiatâd os wyt ti'n gwneud hynny.

 Anfon lluniau noeth

Mae anfon lluniau noeth yn beryglus, hyd yn oed os wyt ti'n eu hanfon at rywun rwyt ti'n ymddiried ynddo yn breifat.


Dileu cynnwys

Os wyt ti wedi postio rhywbeth nad wyt am i rywun ei weld ar-lein, cofia ei ddileu. Gallai hyn atal unrhyw un arall rhag ei weld yn y dyfodol. Gellir gwneud hyn yng ngosodiadau neu yn adran gymorth y gosodiadau. I gael gwared ar luniau noeth sydd wedi cael eu rhannu ar-lein, edrycha ar ein hadran 'Rhannu lluniau noeth' am gyngor. 

Golygu cynnwys

Os na alli di ddileu rhywbeth, ceisia ei olygu yn lle. Efallai y byddi di'n gallu newid rhywbeth rwyt wedi'i ysgrifennu neu ddileu rhannau o'r post, fel manylion personol neu sylwadau creulon.

Dileu cynnwys o'r cyfryngau cymdeithasol

Nid yw'n hawdd rheoli'r hyn a rannodd rhywun arall amdanat ti ar-lein. Os wyt ti'n eu hadnabod, gofynna iddyn nhw ei ddileu. Bydda'n bwyllog ond yn bendant, ac eglura pam rwyt ti am iddo gael ei dynnu i lawr. Galli di hyd yn oed anfon dolen atyn nhw i'r dudalen hon i egluro pa mor bwysig yw dy ôl troed ar-lein ac enw da.

Rhoi gwybod am fwlio

Os yw rhywun wedi postio rhywbeth creulon amdanat ti, rho wybod am yr hyn sydd wedi digwydd. Galli di adrodd am fwlio ar y platfform cyfryngau cymdeithasol rwyt ti'n ei ddefnyddio. Edrychwch ar ein tudalen 'Bwlio ar-lein' i gael gwybodaeth am sut i adrodd. 

Dileu dolenni o beiriannau chwilio

Gall peiriannau chwilio poblogaidd dy helpu i gael gwared ar ddolenni ar-lein amdanat ti. Llenwa ffurflen gais i ddileu gwybodaeth bersonol ar Google neu Bing (Saesneg yn unig). Os oes angen help arnat i lenwi'r ffurflenni hyn, gofynna i oedolyn dibynadwy. Os nad wyt yn siŵr sut i ddechrau sgwrs gyda rhywun, dyma rai awgrymiadau. Unwaith y byddi di wedi anfon y ffurflen, byddan nhw’n penderfynu dileu'r ddolen ai peidio.


 

Os wyt ti'n chwilio am gymorth neu wybodaeth, ond yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

  • Meic – llinell gymorth am ddim a chyfrinachol i blant a phobl ifanc yng Nghymru, gydag ymgynghorwyr i dy helpu i ddod o hyd i'r gefnogaeth sydd ei hangen. Ffonia 080880 23456, anfona neges destun at 84001 neu gellid sgwrsio ar-lein
  • Childline (Saesneg yn unig) – llinell gymorth am ddim, preifat a chyfrinachol i blant a phobl ifanc yn y DU lle mae modd trafod unrhyw beth o gwbl. Ffonia 0800 1111
  • ThinkUKnow (Saesneg yn unig) – helpu ti i feddwl am yr hyn rwyt ti'n ei bostio ar-lein cyn i ti ei wneud
  • Internet Matters (Saesneg yn unig) – canllawiau cam wrth gam i osodiadau preifatrwydd ar gyfryngau cymdeithasol, ffrydio byw ac apiau chwarae gemau
  • Report Remove (Saesneg yn unig) – adrodd a dileu delweddau noeth sydd wedi cael eu rhannu ar-lein

Common Sense Education

Gwylia'r ffilm hon (Saesneg yn unig) gan Common Sense Education i ddeall mwy am rai o'r problemau gyda gor-rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.


Pynciau cysylltiedig