Hiliaeth ar-lein (Uwchradd)
- Rhan o
Trosolwg
Cynulleidfa
Uwchradd (11 i 18 oed)
Amseriad
60 munud
Deilliannau dysgu
Bydd dysgwyr yn gallu:
- adnabod sut a pham mae hiliaeth yn digwydd ar-lein
- deall rôl y cyfryngau a stereoteipiau o ran galluogi hiliaeth ar-lein
- cydnabod effaith hiliaeth ar-lein ar unigolion ac ar gymunedau
- gwerthuso diogelwch ac effeithiolrwydd strategaethau i herio hiliaeth ar-lein
- gwybod sut a ble i ofyn am help a chefnogaeth os ydyn nhw neu rywun maen nhw’n ei adnabod yn dioddef hiliaeth ar-lein
Geirfa allweddol
Gwahaniaethu, nodweddion gwarchodedig, stereoteipiau, hiliaeth, hiliol, iaith casineb, trosedd casineb, cam-drin, gwrth-naratif, senoffobia
Adnoddau
- Hiliaeth ar-lein - Uwchradd pptx 730 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Paratoi
- Darllenwch drwy’r ‘Adnodd dysgu i ymarferwyr addysgol’ ar hiliaeth ar-lein i wneud yn siwr eich bod yn deall y materion a’r cwestiynau posibl a allai ddod i’r amlwg yn ystod y wers. Gwnewch yn siwr eich bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau diogelu eich ysgol rhag ofn i rywun roi gwybod am achos o'r fath.
- Argraffwch y cardiau gweithgaredd ar sleidiau 7 i 10 – un set i bob dysgwr/pâr/grwp.
Cysylltiadau â’r cwricwlwm
Mae’r adnodd yn gallu cefnogi’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.
Cwestiynau allweddol (i’w defnyddio fel awgrymiadau neu i ddechrau trafodaeth)
- Beth yw gwahaniaethu?
- Beth yw hiliaeth?
- Beth yw nodweddion gwarchodedig?
- Beth yw stereoteip?
- Sut mae hiliaeth yn gallu digwydd ar-lein a beth sy’n ei chymell?
- Beth yw’r risgiau i rywun sy’n cael ei dargedu gan hiliaeth ar-lein?
- Sut mae hiliaeth ar-lein yn gwneud i’r rheini dan sylw deimlo?
- Sut gallwch chi herio hiliaeth mewn ffordd gadarnhaol a diogel?
- Sut gallwch chi gael help i chi’ch hun neu i rywun arall os ydych chi’n poeni am hiliaeth ar-lein?
Gweithgaredd cychwynnol (10 munud)
Cyn i chi ddechrau’r sesiwn, dylech wneud yn siwr bod y dysgwyr yn gwybod y bydd y sesiwn yn rhoi sylw i wybodaeth a allai fod yn sensitif ac annifyr. Os bydd angen cefnogaeth arnyn nhw unrhyw bryd, byddan nhw’n gallu rhoi gwybod i chi a byddwch chi’n stopio’r sesiwn a byddan nhw’n cael eu hesgusodi. Efallai byddwch chi hefyd eisiau atgoffa’r dysgwyr o unrhyw ddewisiadau cwnsela neu gefnogaeth/bugeiliol mae’r ysgol yn eu cynnig.
Gan ddefnyddio’r sleidiau PowerPoint sy’n cyd-fynd â’r cynllun gwers hwn, dechreuwch drwy ofyn i’r dysgwyr ‘Beth yw gwahaniaethu?’
Anogwch y dysgwyr i ysgrifennu i lawr neu roi diffiniad. Trafodwch yr ymatebion a gofynnwch iddyn nhw pa fath o wahaniaethau maen nhw’n gwybod amdanyn nhw. Efallai byddwch chi eisiau cofnodi’r awgrymiadau hyn i gyfeirio atyn nhw yn nes ymlaen.
Dangoswch y diffiniad o wahaniaethu (discrimination) i’r dysgwyr, sydd ar sleid 4:
Treating a person or particular group of people differently, especially in a worse way from the way in which you treat other people, for example because of their skin colour, sex, sexuality, etc.
Eglurwch y bydd y wers hon yn canolbwyntio ar hiliaeth, a gwahaniaethu ar sail hil neu liw croen. Fodd bynnag, gallai nifer o’r enghreifftiau a’r strategaethau a drafodir yn y wers hefyd fod yn berthnasol i ‘nodweddion gwarchodedig’ eraill – agweddau ar hunaniaeth rhywun sy’n cael eu diogelu dan y gyfraith. Eglurwch fod rhai pobl yn gweld pobl eraill drwy ‘stereoteipiau’ – gan ganolbwyntio ar nodwedd warchodedig (fel lliw croen neu rywedd) a thybio bod pawb sydd â’r nodwedd honno yn ymddwyn ac yn teimlo’r un fath.
Beth yw hiliaeth ar-lein?
Dangoswch yr enghraifft ar sleid 5 i’r dysgwyr a gofynnwch y cwestiynau canlynol.
- Pwy oedd y neges hon yn ei dargedu?
- Pwy ydych chi’n meddwl anfonodd y neges?
- Pam ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi dewis dweud hyn ar-lein?
- Sut byddai’n gwneud i’r sawl sy’n ei darllen deimlo?
- Beth ydych chi’n meddwl allai fod wedi digwydd nesaf?
Parhewch â’r drafodaeth drwy ofyn i’r dysgwyr am ffyrdd y gall hiliaeth ddigwydd ar-lein. Cyn trafod unrhyw enghreifftiau penodol, atgoffwch y dysgwyr fod rhai geiriau sy’n cael eu defnyddio mewn digwyddiadau hiliol yn sarhaus iawn ac na ddylid eu hailadrodd wrth egluro beth maen nhw wedi’i weld neu ei brofi ar-lein.
Mae’n bosibl y bydd y term bwlio yn cael ei ddefnyddio’n aml. Eglurwch er bod bwlio’n gallu digwydd fel rhan o ymddygiad hiliol, nid yw hiliaeth ar-lein bob amser yr un fath â bwlio. Bydd iaith casineb ac ymddygiad hiliol yn aml yn targedu pob aelod o grwp penodol yn hytrach nag unigolyn neu grwp bach.
Cofiwch y bydd y dysgwyr efallai’n sôn am eu profiadau personol eu hunain o hiliaeth ar-lein/all-lein (fel targed, gwyliwr neu efallai hyd yn oed fel cyflawnwr). Os bydd rhywun yn datgelu rhywbeth, dilynwch weithdrefnau diogelu eich ysgol i gofnodi ac i riportio’r digwyddiad hwn, gan fynd ar drywydd hynny i sicrhau bod y dysgwr yn deall y dewisiadau cefnogaeth sydd ar gael.
Gweithgaredd 1: Faint mae hyn yn brifo? (25 munud)
Eglurwch i’r dysgwyr y byddan nhw’n chwarae gêm o’r enw ‘Faint mae hyn yn brifo?’. Rhaid iddyn nhw ddychmygu bod neges hiliol wedi cael ei rhannu. Mae 4 categori yn gysylltiedig â’r neges – y siaradwr (a anfonodd y neges), y cyd-destun (yr amgylchedd ar gyfer anfon y neges), y gynulleidfa (y rheini sy’n gallu gweld/clywed y neges) a’r targed (y mae’r neges wedi’i hanelu atyn nhw). Defnyddiwch sleidiau 7 i 10 i ddangos y setiau o gardiau ar gyfer y 4 categori.
Rhowch set lawn o gardiau (pob un o’r 4 categori) i grwpiau bach/parau o ddysgwyr. Eglurwch fod yn rhaid iddyn nhw ddangos un cerdyn o bob categori i wneud y neges hiliol y ‘mwyaf sarhaus’. Mae hyn yn agored i’w ddehongli – efallai y bydd rhai dysgwyr yn credu mai lledaenu’r neges i’r gynulleidfa ehangaf bosibl yw’r peth mwyaf sarhaus, tra bydd eraill yn penderfynu mai'r cyd-destun neu’r siaradwr sy’n rhoi’r capasiti mwyaf i achosi tramgwydd/niwed.
Eglurwch nad oes atebion ‘cywir’ nac ‘anghywir’, ond bydd yn rhaid i’r dysgwyr fod yn barod i egluro eu penderfyniadau. Rhowch 10 munud i’r dysgwyr ddewis y cardiau a thrafod yn eu grwpiau.
Dewch â’r grwpiau’n ôl at ei gilydd a gofynnwch i’r dysgwyr rannu eu dewisiadau ac egluro eu ffordd o feddwl. Gofynnwch i’r grwpiau eraill os ydyn nhw’n cytuno/anghytuno.
Eglurwch i’r dysgwyr, er ei bod hi efallai’n teimlo’n rhyfedd gwneud gweithgaredd lle maen nhw’n ceisio achosi mwy o gasineb neu dramgwydd, mae’r ffactorau roedden nhw wedi dod o hyd iddyn nhw hefyd yn gallu cael eu defnyddio i fynd i’r afael â hiliaeth a chasineb ar-lein. Os caiff y neges ei newid o un negyddol i un gadarnhaol, mae’r un categorïau’n gallu bod yn werthfawr o ran gwybod sut mae creu ‘gwrth-naratif’ cryf i safbwyntiau hiliol, darparu cefnogaeth gyhoeddus i’r rheini sy’n cael eu targedu, lleihau’r negeseuon sarhaus a newid canfyddiadau’r cyhoedd mewn ffordd gadarnhaol.
Gweithgaredd 2: Helpu neu lesteirio? (15 munud)
Er ei bod yn bwysig herio iaith casineb ar-lein fel hiliaeth, mae hi hefyd yn bwysig amddiffyn eich hun ac eraill. Eglurwch i’r dysgwyr nad yw hi’n ddiogel nac yn effeithiol cymryd camau i fynd i’r afael â hiliaeth sy’n eu rhoi nhw neu ddefnyddwyr ar-lein eraill mewn perygl, a bod hynny’n aml yn gallu gwneud sefyllfa’n waeth.
Gyda hynny mewn golwg, eglurwch i’r dysgwyr eich bod am ddangos nifer o ffyrdd y gall rhywun ymateb pan fyddan nhw’n gweld/profi hiliaeth ar-lein. Ar gyfer pob un, dylen nhw ystyried sefyllfa ar-lein lle byddai’r ymateb hwn yn ddefnyddiol (ac yn ddiogel) ac enghraifft lle gallai wneud pethau’n waeth neu roi rhywun mewn perygl. Anogwch y dysgwyr i feddwl am bob ymateb o safbwynt rhywun sy’n gweld hiliaeth ar-lein a hefyd o safbwynt rhywun sy’n profi hiliaeth ar-lein.
Defnyddiwch sleidiau 12 i 24 i fynd drwy bob ymateb gyda’ch gilydd fel grwp cyfan. Fel arall, gallwch chi argraffu taflenni’r sleidiau (drwy ddewis ‘Taflenni’ yn y gosodiadau argraffu) ar gyfer y sleidiau hyn a chaniatáu i grwpiau llai eu hystyried, a chofnodi eu syniadau.
Gofynnwch i’r dysgwyr am adborth ar bob strategaeth ymateb. Pa rai sydd fwyaf addas ar gyfer nifer o senarios yn eu barn nhw? Pa dair strategaeth yw’r gorau? Ydy eu strategaethau’n wahanol gan ddibynnu ar ydyn nhw’n darged neu’n wyliwr?
Sylwch efallai y byddwch chi eisiau sôn am y term senoffobia mewn perthynas ag unigolyn sy’n dangos, neu’n gwneud, sylwadau hiliol am grwp neu grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig yn barhaus.
Trafodaeth ychwanegol ddewisol: Datgelu ymddygiad hiliol ar-lein
Bob dydd ar draws y DU mae miliynau o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn creu postiadau, ac yn rhannu fideos a dolenni. Er mwyn helpu’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i allu rheoli cymaint â hyn o draffig, maen nhw’n defnyddio ‘algorithmau’. Eglurwch i’r dysgwyr bod algorithmau’n defnyddio dulliau cyfrifiadurol i drefnu postiadau pawb mewn ffordd sy’n golygu bod defnyddiwr yn fwy tebygol o weld y postiadau mwyaf poblogaidd sy’n berthnasol iddyn nhw. Mae algorithmau wedi cael eu dylunio i ganfod postiadau sy’n ddifyr i lawer o bobl a gwneud y postiad hwnnw’n fwy amlwg. Mae hyn yn egluro sut mae postiad yn dechrau gyda dim ond ychydig yn ei hoffi, wedyn, yn sydyn iawn, mae llawer iawn o bobl wedi ei hoffi. Drwy sicrhau bod mwy o bobl yn ei weld, yn rhyngweithio ag ef, yn ei hoffi, yn rhoi sylwadau arno neu’n ei rannu, mae’r algorithm yn llwyddo i hyrwyddo’r cynnwys.
Yn yr un modd, os ydyn ni’n gweld postiad rydyn ni’n meddwl sy’n gas, yn hiliol neu’n gwahaniaethu mewn ffyrdd eraill a’n bod yn ei rannu â’n dilynwyr/ffrindiau (dim ond i ddangos ein bod yn flin neu’n methu credu’r hyn rydyn ni’n ei weld), bydd algorithmau yn meddwl bod y postiad hwnnw’n ‘gynnwys poblogaidd’, yn enwedig os bydd ein ffrindiau’n rhoi sylwadau arno hefyd (hyd yn oed dim ond er mwyn mynegi eu bod yn flin neu’n methu credu’r peth). Dydy algorithmau cyfryngau cymdeithasol ddim yn gallu gwahaniaethu rhwng sylwadau cas a chefnogol. Dim ond ‘cynnwys poblogaidd’ maen nhw’n gallu ei weld ac maen nhw’n gwneud y cynnwys hwnnw’n fwy gweladwy i bobl eraill. Pan fyddwn ni’n rhoi sylwadau ar bostiad rhywun arall, bydd yr algorithmau yn ystyried bod hwnnw’n boblogaidd ac yn ei rannu â chynulleidfa ehangach. Yn y sefyllfa hon, efallai byddwn ni’n gwneud sylwadau hiliol neu wahaniaethu yn fwy amlwg i gynulleidfa ehangach. Mae hi’n fwy cadarnhaol i ddysgwyr riportio postiadau o’r fath a chreu postiadau sy’n dathlu amrywiaeth a gwahaniaeth, gan wneud i’r rheini deimlo’n rhan normal o fywyd.
Ar ben hynny, mae rhannu cam-drin hiliol yn gallu creu sbardun i bobl sydd wedi’i brofi yn y gorffennol a gwneud mwy o ddrwg nag o les. Eglurwch i’r dysgwyr ei bod hi’n werth pwyso a mesur pa mor angenrheidiol yw rhannu cam-drin hiliol ar-lein, hyd yn oed os mai’r bwriad yw codi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael ag iaith casineb.
Sesiwn lawn (10 munud)
Eglurwch i’r dysgwyr ei bod hi’n anodd iawn stopio rhywun rhag trin pobl eraill yn wael, yn enwedig os yw rhywun yn lledaenu casineb ar-lein fel hiliaeth neu senoffobia. Fodd bynnag, mae’n bwysig cymryd camau cadarnhaol i’ch helpu eich hun neu i helpu eraill sydd mewn angen.
Dangoswch ‘Enwi Pump!’ ar sleid 25 i’r dysgwyr a gofynnwch iddyn nhw feddwl am 5 o bobl (neu fudiadau) y bydden nhw’n gallu cysylltu â nhw os oedden nhw’n poeni am y ffordd roedden nhw neu rywun arall yn cael eu trin ar-lein. Anogwch y dysgwyr i gynnwys llinellau cymorth neu ffynonellau eraill o gymorth maen nhw’n gwybod amdanyn nhw sy’n gallu darparu cefnogaeth arbenigol gyda hiliaeth neu broblemau ar-lein.
Mae'r sleid olaf yn cynnwys manylion sefydliadau sy’n gallu cynnig help a chefnogaeth i blant sy’n wynebu problemau ar-lein. Efallai byddwch chi hefyd eisiau ychwanegu manylion yr oedolion allweddol yn eich ysgol y gall dysgwyr gysylltu â nhw, er enghraifft y person diogelu dynodedig.
Cyfleoedd i ymestyn y dysgu
Codi ymwybyddiaeth/cynnal ymgyrch
Gofynnwch i’r dysgwyr feddwl sut bydden nhw’n gallu codi ymwybyddiaeth ymysg eu cyfoedion a’u cymunedau (ar-lein ac all-lein) ynghylch strategaethau diogel i herio neu i ymateb i hiliaeth ar-lein.
Archwilio mathau eraill o gasineb ar-lein
Mae'r wers hon yn gallu bod yn fan cychwyn i drin a thrafod mathau eraill o gasineb ar-lein yn erbyn nodweddion gwarchodedig, fel rhywedd (a hunaniaeth o ran rhywedd), cyfeiriadedd rhywiol ac anabledd. Mae sesiynau dilynol hefyd ar gael gan dîm hyfforddi ac ymgysylltu Cymorth i Ddioddefwyr sy’n trafod amrywiaeth eang o bynciau.