English

1. Cyflwyniad

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Maes) yn darparu strwythur holistaidd ar gyfer deall iechyd a lles. Mae’n ymwneud â datblygu gallu dysgwyr i wynebu heriau a chyfleoedd bywyd. Elfennau sylfaenol y Maes hwn yw iechyd a datblygiad y corff, iechyd meddwl, a lles emosiynol a chymdeithasol.  Bydd yn cefnogi dysgwyr i ddeall a gwerthfawrogi sut mae gwahanol elfennau iechyd a lles yn gysylltiedig â’i gilydd.  Mae hefyd yn cydnabod bod iechyd a lles yn bwysig i alluogi dysgu llwyddiannus.

Bydd ymwneud â’r Maes hwn yn gymorth i feithrin dull gweithredu ysgol gyfan sy’n galluogi i iechyd a lles dreiddio i bob agwedd o fywyd ysgol. 

Mae’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn wedi cael ei fynegi mewn pum datganiad. Mae’r rhain yn cefnogi a chadarnhau ei gilydd, ac ni ddylid eu hystyried ar wahân. Er mwyn gwireddu’r dull holistaidd hwn, dylai athrawon geisio tynnu ar y pum datganiad wrth gynllunio gweithgareddau. Gyda’i gilydd, maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Mae gwireddu’n effeithiol y weledigaeth a ddisgrifir yn y Maes hwn yn allweddol i ddatblygu unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Wrth ddatblygu cymhelliant, gwydnwch ac empathi’r dysgwyr, ynghyd â’u gallu i wneud penderfyniadau, gellir eu cefnogi i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu hoes.

Gellir cefnogi dysgwyr hefyd i ddatblygu’n ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd drwy feithrin eu gallu i ddangos parch, gwerthfawrogi tegwch, gwrando ar eraill a gwerthuso’r dylanwadau cymdeithasol sy’n effeithio arnyn nhw.

Drwy alluogi dysgwyr i reoli risg, mynegi syniadau ac emosiynau, datblygu a chynnal cydberthnasau iach, ac i chwarae gwahanol rolau ac ysgwyddo gwahanol gyfrifoldebau, gall y dysgu a’r profiad yn y Maes hwn gefnogi dysgwyr i ddod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn mewn bywyd a gwaith.

  • Nesaf

    Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig