English

Cynulleidfa
Cynradd (7 i 11 oed)

Amseriad
60 munud

Deilliannau dysgu

Bydd dysgwyr yn gallu:

  • adnabod sut gall hiliaeth ddigwydd ar-lein
  • cydnabod effaith hiliaeth ar-lein ar unigolion ac ar gymunedau
  • deall y gwahaniaethau rhwng strategaethau diogel ac anniogel i herio hiliaeth ar-lein
  • gwybod sut a ble i ofyn am help a chefnogaeth os ydyn nhw neu rywun maen nhw’n ei adnabod yn dioddef hiliaeth ar-lein

Geirfa allweddol
Gwahaniaethu, nodweddion gwarchodedig, stereoteipiau, hiliaeth, hiliol, iaith casineb, trosedd casineb, cam-drin

Adnoddau

  • Hiliaeth ar-lein (Cynradd) pptx 1.26 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Paratoi

  • Darllenwch drwy’r ‘Adnodd dysgu i ymarferwyr addysgol’ ar hiliaeth ar-lein i wneud yn siwr eich bod yn deall y materion a’r cwestiynau posibl a allai ddod i’r amlwg yn ystod y wers. Gwnewch yn siwr eich bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau diogelu eich ysgol rhag ofn i rywun roi gwybod am achos o'r fath.
  • Argraffwch daflenni’r sleidiau ar gyfer sleidiau 8 i 14 i grwpiau bach weithio drwyddyn nhw (dewisol).
  • Argraffwch y cardiau ymateb ar sleid 16 – un set i bob dysgwr/pâr/grwp.

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Mae’r adnodd hwn yn gallu cefnogi’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.

Cwestiynau allweddol (i’w defnyddio fel awgrymiadau neu i ddechrau trafodaeth)

  • Ydy pawb yn cael eu trin yr un fath all-lein? Pam/pam ddim?
  • Ydy pawb yn cael eu trin yr un fath ar-lein? Pam/pam ddim?
  • Beth yw gwahaniaethu? Beth yw hiliaeth?
  • Beth yw nodweddion gwarchodedig?
  • Beth yw stereoteip?
  • Sut gallai pobl deimlo os ydyn nhw’n cael eu trin yn wael neu eu cam-drin ar-lein oherwydd eu hil?
  • Sut gallai rhywun drin rhywun arall yn wael ar-lein dim ond oherwydd ei hil?
  • Pa bethau cadarnhaol allwch chi eu gwneud i ymateb i hiliaeth ar-lein?
  • Sut gallwch chi gael help i chi eich hun neu i rywun arall os ydych chi’n poeni am hiliaeth ar-lein?

Gan ddefnyddio’r sleidiau PowerPoint sy’n cyd-fynd â’r cynllun gwers hwn, dechreuwch drwy ofyn y cwestiynau canlynol i’r dysgwyr.

  • Ydy pawb yn cael eu trin yr un fath all-lein? Pam/pam ddim?
  • Ydy pawb yn cael eu trin yr un fath ar-lein? Pam/pam ddim?

Anogwch y dysgwyr i roi’r rhesymau pam eu bod yn meddwl bod pobl yn cael eu trin yn wahanol. Efallai byddan nhw’n rhoi rhesymau sy’n ymwneud yn benodol ag ymddygiad unigolyn (er enghraifft gwleidydd yn dweud rhywbeth dim ond er mwyn ennyn ymateb), statws (er enghraifft mae enwogion a dylanwadwyr yn cael eu trin yn wahanol i bobl heb enwogrwydd ar-lein ac all-lein) neu nodweddion (er enghraifft mae menywod yn cael eu trin yn wahanol i ddynion, ac mae plant yn cael eu trin yn wahanol i oedolion).

Eglurwch fod nifer o sefyllfaoedd ar-lein ac all-lein lle gallai un person gael ei drin yn wahanol i rywun arall. Mae rhai o’r sefyllfaoedd hyn yn cael eu hystyried fel rhai teg neu dderbyniol, ond nid yw rhai eraill.

Eglurwch fod gwahaniaeth yn golygu pan fydd pobl yn trin pobl eraill mewn ffordd annerbyniol oherwydd eu gwahaniaethau. Gofynnwch i’r dysgwyr feddwl am unrhyw fathau o wahaniaethu, neu resymau y gallai person neu grwp o bobl gael eu trin yn negyddol. Efallai y bydd y dysgwyr yn ymateb gyda chysyniadau penodol fel hiliaeth, rhywiaeth neu homoffobia, neu gydag atebion sy’n nodi nodweddion penodol.

Eglurwch fod gwahaniaethu’n aml yn seiliedig ar nodweddion person neu grwp na allan nhw eu rheoli na’u newid (er enghraifft lliw croen, hil, oedran, anabledd, rhywedd, hunaniaeth rywiol). Mae’r rhain yn cael eu galw yn nodweddion gwarchodedig – agweddau ar hunaniaeth sy’n cael eu diogelu dan y gyfraith. Mae gwahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail y nodweddion hyn yn gallu torri’r gyfraith.

Un math o wahaniaethu sy’n digwydd ar-lein ac all-lein yw hiliaeth. Dangoswch yr enghraifft ar sleid 6 i’r dysgwyr i ddangos sut mae hiliaeth yn gallu digwydd ar-lein.

Gofynnwch i’r dysgwyr feddwl am y cwestiynau canlynol.

  • Pwy oedd y neges hon yn ei dargedu?
  • Pwy ydych chi’n meddwl anfonodd y neges?
  • Pam ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi dewis dweud hyn ar-lein?
  • Sut byddai’n gwneud i’r sawl sy’n ei darllen deimlo?
  • Beth ydych chi’n meddwl allai fod wedi digwydd nesaf?

Trafodwch y cwestiynau gyda’ch gilydd fel dosbarth. Cofiwch y bydd y dysgwyr efallai’n sôn am eu profiadau personol eu hunain o hiliaeth ar-lein/all-lein (fel targed, gwyliwr neu efallai hyd yn oed fel cyflawnwr). Os bydd rhywun yn datgelu rhywbeth, dilynwch weithdrefnau diogelu eich ysgol i gofnodi ac i riportio’r digwyddiad hwn.

Gan ddefnyddio sleidiau 7 i 14, eglurwch i’r dysgwyr y byddan nhw’n gweld gwahanol enghreifftiau o gynnwys a negeseuon ar-lein. Ar gyfer pob un, rhaid iddyn nhw benderfynu a yw hi’n ‘iawn’ (ddim yn hiliol) neu ‘ddim yn iawn’ (hiliol) ymddwyn fel hyn ar-lein.

Gallwch chi ddewis cynnal y gweithgaredd gyda’r dosbarth cyfan, gan edrych ar bob enghraifft yn ei thro a gofyn i’r dysgwyr godi bawd (iawn) neu roi bawd i lawr (ddim yn iawn) a thrafod eu rhesymau. Fel arall, gallwch chi argraffu taflenni’r sleidiau (drwy ddewis ‘Taflenni’ yn y gosodiadau argraffu) i’w rhoi i grwpiau bach i weithio drwyddyn nhw, a chofnodi eu hatebion ar y taflenni. Gall y grwpiau wedyn gyflwyno eu hatebion mewn trafodaeth gyda’r dosbarth cyfan.

Sylwch fod rhai enghreifftiau sy’n fwriadol amwys. Gofynnwch i’r dysgwyr feddwl beth arall y gallai fod angen iddyn nhw ei wybod er mwyn penderfynu a yw’r cynnwys yn iawn neu ddim yn iawn.

Ar gyfer y dysgwyr hyn, efallai byddwch chi eisiau sôn os bydd rhywun yn gwneud sylwadau dro ar ôl tro am grwp o bobl, yna gellid ystyried bod hynny’n senoffobig (casineb/gwahaniaethu ar sail tarddiad cenedlaethol).

Ar ôl penderfynu fel dosbarth pa enghreifftiau sy’n ymddygiad hiliol ar-lein, dewiswch un o’r enghreifftiau hyn i ddychwelyd ati.

Gofynnwch i’r dysgwyr ddychmygu eu bod wedi gweld yr ymddygiad hwn ar-lein. Beth fydden nhw’n gallu ei wneud i helpu’r person/bobl sy’n cael eu targedu gan yr ymddygiad annerbyniol hwn?

Mae sleid 16 yn cynnwys cardiau ymateb mae modd eu hargraffu a’u rhoi i bob dysgwr/grwp. Gofynnwch i’r dysgwyr ddewis un cerdyn i ddangos beth fydden nhw’n ei wneud yn y sefyllfa honno.

Casglwch adborth gan y dysgwyr a thrafod eu dewisiadau. Gofynnwch iddyn nhw feddwl beth allai ddigwydd nesaf – a fyddai’r sefyllfa’n gwella neu’n gwaethygu? A fyddai eu dewis yn eu rhoi mewn unrhyw berygl? Atgoffwch y dysgwyr ei bod yn bwysig helpu’r rheini sydd mewn angen ar-lein, ond mae’n rhaid iddyn nhw hefyd sicrhau nad ydyn nhw’n rhoi eu hunain mewn perygl o niwed o ganlyniad i hynny.

Os bydd digon o amser, gofynnwch i’r dysgwyr ddewis eu tri cherdyn ymateb gorau maen nhw’n teimlo a fyddai’n gweithio orau mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Eglurwch i’r dysgwyr ei bod hi’n anodd iawn stopio rhywun rhag trin pobl eraill yn wael, yn enwedig os yw rhywun yn lledaenu casineb ar-lein fel hiliaeth neu senoffobia. Fodd bynnag, mae’n bwysig cymryd camau cadarnhaol i’ch helpu eich hun neu i helpu eraill sydd mewn angen.

Dangoswch ‘Enwi Pump!’ ar sleid 17 i’r dysgwyr a gofynnwch iddyn nhw feddwl am 5 o bobl (neu fudiadau) y bydden nhw’n gallu cysylltu â nhw os oedden nhw’n poeni am y ffordd roedden nhw neu rywun arall yn cael eu trin ar-lein. Os bydd digon o amser, gallai’r dysgwyr dynnu llun o amgylch eu llaw ar ddalen o bapur ac ysgrifennu enwau’r 5 ar bob digid. Gallai hwn fod yn arddangosfa ddefnyddiol yn yr ystafell ddosbarth i’w hatgoffa pwy mae modd iddyn nhw gysylltu â nhw i gael help gyda phroblemau ar-lein fel hiliaeth.

Mae'r sleid olaf yn cynnwys manylion sefydliadau sy’n gallu cynnig help a chefnogaeth i blant sy’n wynebu problemau ar-lein. Efallai byddwch chi hefyd eisiau ychwanegu manylion yr oedolion allweddol yn eich ysgol y gall dysgwyr gysylltu â nhw, er enghraifft y person diogelu dynodedig.

Rhannu awgrymiadau gwych

Gofynnwch i’r dysgwyr greu adnodd (er enghraifft poster, cwis, taflen, ffeithlun, blog, clip fideo neu ddarn o ddrama) sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn cynghori eu cyfoedion am strategaethau diogel i ymateb i hiliaeth ar-lein.

Archwilio mathau eraill o gasineb ar-lein

Mae’r wers hon yn gallu bod yn fan cychwyn i drin a thrafod mathau eraill o gasineb ar-lein yn erbyn nodweddion gwarchodedig, fel rhywedd (a hunaniaeth o ran rhywedd), hunaniaeth rywiol ac anabledd. Mae sesiynau dilynol hefyd ar gael gan dîm hyfforddi ac ymgysylltu Cymorth i Ddioddefwyr sy’n trafod amrywiaeth eang o bynciau.