English

Yn y rhifyn cyntaf, archwiliwyd pwysigrwydd llythrennedd yn y cyfryngau wrth nodi camwybodaeth. Trafodwyd sut y gall sgiliau meddwl beirniadol ein helpu i benderfynu a yw gwybodaeth yn gredadwy, yn ddibynadwy ac yn deg. Yn yr ail rifyn hwn, rydym yn edrych ar ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (AI cynhyrchiol) a'i gysylltiad â chamwybodaeth.

Mae AI cynhyrchiol yn cyfeirio at systemau deallusrwydd artiffisial a all greu cynnwys newydd fel testun, delweddau, sain a fideo yn seiliedig ar y data sydd wedi cael eu bwydo iddyn nhw. Mae enghreifftiau'n cynnwys fideos ffugiad dwfn, celf a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial yn ogystal â sgwrsfotiaid neu gynorthwywyr deallusrwydd artiffisial fel ChatGPT, Gemini neu Copilot. Er bod gan AI cynhyrchiol lawer o rinweddau buddiol, mae yr un mor abl i achosi niwed oni bai bod arferion deallusrwydd artiffisial cyfrifol yn cael eu mabwysiadu.

Dim ond o'i ffynonellau y gall deallusrwydd artiffisial ddysgu, felly mae'n cymryd tueddiadau, camwybodaeth a chynnwys problemus y deunydd gwreiddiol. 'Rhithwelediad' yw pan fydd system deallusrwydd artiffisial yn rhoi ymateb anghywir sy'n cael ei gyflwyno fel gwybodaeth ffeithiol.

Gall rhai systemau AI cynhyrchiol gynhyrchu cynnwys sarhaus a niweidiol, weithiau yn seiliedig ar awgrymiadau defnyddwyr.

Gall offer AI cynhyrchiol gynhyrchu cynnwys ffug argyhoeddedig, gan ei gwneud hi'n haws i bobl sydd â bwriadau drwg ledaenu twyllwybodaeth. Er enghraifft, gall fideos ffugiad dwfn gamarwain y cyhoedd trwy ddangos unigolion yn dweud neu'n gwneud pethau na wnaethan nhw erioed. Yn yr un modd, gall testun a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial greu erthyglau newyddion ffug sy'n ymddangos yn ddilys.

Er mwyn helpu dysgwyr i feddwl yn feirniadol am gynnwys a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial, anogwch nhw i gwestiynu dilysrwydd popeth y maen nhw'n ei weld ar-lein a defnyddio ystod o strategaethau.

Bod yn amheus

Byddwch yn ymwybodol y gall tuedd a chamwybodaeth deallusrwydd artiffisial ddigwydd oherwydd bwydo data annibynadwy neu anghynrychiadol iddyn nhw ac y gall systemau AI cynhyrchiol fod yn agored i gael eu camddefnyddio.

Dadansoddi'r ansawdd

Gall cynnwys a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial gynnwys anghysondebau cynnil neu wallau. Chwiliwch am batrymau iaith annaturiol, ystumio ar ddelweddau a nam ar y sain. Gall meddalwedd canfod ffugiadau dwfn ddadansoddi fideos ar gyfer arwyddion o ffugio.

Gwiriwch y ffynhonnell

Gwiriwch a yw'r cynnwys yn dod o ffynhonnell ag enw da ac a ellir ei ddilysu mewn mannau eraill. Byddwch yn ofalus os yw'n dod o wefannau anhysbys neu amheus neu ei fod yn gynnwys syfrdanol ar gyfryngau cymdeithasol.

Trwy ddysgu dysgwyr sut i adnabod a herio camwybodaeth a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial, gallwn greu cymdeithas fwy gwybodus a gwydn.

Cadwch lygad am y rhifyn nesaf yn ein cyfres llythrennedd yn y cyfryngau, lle byddwn yn archwilio sut i fod yn wyliadwrus o sgamiau ar-lein.

I ddatblygu eich gwybodaeth eich hun am y pwnc hwn, yn ogystal â gwybodaeth eich dysgwyr a'u teuluoedd, mae amrywiaeth o adnoddau ar gael ar Hwb.

Ar gyfer ysgolion

Ar gyfer dysgwyr a'u teuluoedd

  • Mae ‘Problemau a phryderon ar-lein: AI cynhyrchiol' yn cynnwys gwybodaeth a fideo byr 'Beth yw AI?' sydd wedi'u cynllunio i gefnogi dysgwyr gyda'u lles digidol a chynyddu eu hymwybyddiaeth o ble y gallan nhw gael help.
  • Mae ‘AI cynhyrchiol: canllaw i rieni a gofalwyr' yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y mae AI cynhyrchiol yn cael ei integreiddio fwyfwy i ddyfeisiau clyfar, gan dynnu sylw at y risgiau posibl sy'n gysylltiedig ag apiau sy'n boblogaidd gyda phlant a phobl ifanc.