AI cynhyrchiol: cadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein
Canllawiau i ysgolion ar bryderon diogelu yn ymwneud ag AI cynhyrchiol a sut i'w ymgorffori fel rhan o arferion a pholisi diogelu.
- Rhan o
Cyflwyniad
Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (AI cynhyrchiol) a dysgu peirianyddol yn trawsnewid y dirwedd ddigidol yn gyflym ac yn effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Er bod gan fynediad at AI cynhyrchiol botensial i greu manteision sylweddol, nid yw llawer o offer a gwasanaethau AI cynhyrchiol yn cael eu dylunio gyda phlant mewn golwg, gan arwain at wahanol risgiau a phryderon moesegol.
Cynulleidfa
Mae’r cyfrifoldeb o ddiogelu plant a phobl ifanc rhag niwed posibl AI cynhyrchiol yn hanfodol. Gall y canllaw hwn ar gyfer ymarferwyr addysg helpu i ddatblygu dealltwriaeth o’r risgiau a datblygu protocolau ar gyfer rhoi gwybod am bryderon, uwchgyfeirio pryderon i arweinwyr diogelu a chynnwys asiantaethau eraill pan fo angen. Mae canllawiau statudol Cadw dysgwyr yn ddiogel Llywodraeth Cymru yn cefnogi lleoliadau addysg i sicrhau bod ganddyn nhw systemau diogelu effeithiol ar waith.
Cyd-destun
Yn ôl Adroddiad Ein Gwlad Ar-lein 2023 Ofcom, mae mabwysiadu technolegau AI cynhyrchiol yn cynyddu’n gyflym, yn enwedig ymysg grwpiau oedran iau. Ymysg pobl ifanc 13 i 17 oed yn y DU, mae 79% wedi defnyddio offer AI cynhyrchiol fel ChatGPT, Snapchat, My AI, a DALL-E. Hyd yn oed ymysg plant iau (rhwng 7 a 12 oed), adroddir bod 40% yn defnyddio’r adnoddau hyn. Yr adnodd mwyaf poblogaidd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau yw Snapchat My AI, a ddefnyddir gan 51% o blant 7 i 17 oed, tra bod yn well gan oedolion ddefnyddio ChatGPT, a ddefnyddir gan 23% o ddefnyddwyr rhyngrwyd sy’n oedolion.
I’r gwrthwyneb, dim ond 31% o oedolion (16 oed a hŷn) sydd wedi mabwysiadu AI cynhyrchiol, sy’n dangos bwlch sylweddol yn y defnydd rhwng grwpiau oedran. O’r oedolion nad ydyn nhw wedi defnyddio’r adnoddau hyn, nid oedd 24% yn ymwybodol o beth yw AI cynhyrchiol.
Mae systemau AI cynhyrchiol yn cael eu hyfforddi gan ddefnyddio llawer iawn o ddata, er mwyn iddyn nhw allu dod o hyd i batrymau ar gyfer cynhyrchu cynnwys newydd. Mae llawer o lwyfannau’n defnyddio’r data hwn i hyfforddi modelau dysgu peirianyddol, weithiau heb ganiatâd digonol neu gyfathrebu clir ynghylch sut bydd y data’n cael ei ddefnyddio neu ei rannu â thrydydd partïon.
I blant a phobl ifanc, gall risgiau wrth brosesu eu data gynnwys colli cyfrinachedd, effeithiau niweidiol dod i gysylltiad â chynnwys sy’n amhriodol i’w hoedran, ecsbloetio ac amharu ar eu gofodau preifat. Nid yw llawer o lwyfannau deallusrwydd artiffisial wedi’u cynllunio ar gyfer plant, fodd bynnag, ac mae diffyg dulliau cadarn o wirio oedran yn golygu bod y llwyfannau hynny fel arfer yn hawdd eu cyrchu.
Erbyn hyn, mae llawer o lwyfannau ar-lein yn cynnwys offer sy’n gallu arwain pobl ifanc i rannu gwybodaeth bersonol yn ddiarwybod, fel lleoliad, dewisiadau, a hyd yn oed emosiynau, yn ystod rhyngweithiadau. Mae deallusrwydd artiffisial wedi dod yn rhan greiddiol o lawer o wasanaethau bob dydd, gan ddefnyddio algorithmau yn aml i bersonoli cynnwys, fel teilwra ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yn seiliedig ar ymddygiad ar-lein unigolyn.
Pam mae hyn yn bwysig i ysgolion
Wrth ddefnyddio offer AI cynhyrchiol, mae amrywiaeth o oblygiadau a risgiau diogelwch i’w llywio, gan gynnwys:
- preifatrwydd a diogelwch data
- gweld cynnwys niweidiol
- camddefnyddio neu gam-fanteisio ar yr offer hyn at ddibenion maleisus
Mae ysgolion yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi dysgwyr gyda diogelu digidol, hyd yn oed pan fydd problemau neu ddigwyddiadau’n codi y tu allan i’r ysgol.
Gall profiadau fel bwlio sy’n cael ei yrru gan ddeallusrwydd artiffisial, cynnwys ffugiad manwl neu ddod i gysylltiad â deunydd niweidiol gael effaith sylweddol ar ddiogelwch a lles dysgwyr.
Mae’n bwysig ymateb yn gyflym ac yn hyderus er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu diogelu, eu cefnogi a’u haddysgu.
Drwy ddatblygu dull cyson a strwythuredig o ddelio â digwyddiadau sy’n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial, gall ysgolion rymuso dysgwyr i lywio’r defnydd o AI cynhyrchiol yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn foesegol. Dylai polisïau fynd i’r afael â risgiau sy’n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial drwy sefydlu mecanweithiau adrodd clir a chynlluniau ymateb i ddigwyddiadau sy’n blaenoriaethu diogelwch a lles plant.
Nod y canllawiau hyn yw helpu ysgolion ac ymarferwyr i ddeall rhai o’r pryderon a’r heriau cyffredin a all godi gyda AI cynhyrchiol, y gellir eu cynnwys mewn polisïau diogelu ac amddiffyn plant presennol.
Pryderon a heriau cyffredin
Technoleg ffugiad dwfn
Mae technoleg ffugiad dwfn yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i greu fideos, delweddau neu recordiadau sain realistig ond ffug. Wrth i wefannau ffugiad dwfn ddod yn fwy soffistigedig, mae’n dod yn fwy anodd gwahaniaethu rhwng cynnwys go iawn a chynnwys ffug.
Mae hyn yn cyflwyno risgiau difrifol i bobl ifanc, gan gynnwys gweld cynnwys niweidiol neu anghyfreithiol a thuedd i ledaenu camwybodaeth neu dwyllwybodaeth.
Mae amrywiaeth o sefyllfaoedd y gallai ymarferwyr addysg eu hwynebu.
Gweld cynnwys anghyfreithiol
Mae’r Internet Watch Foundation (IWF) wedi nodi cynnydd cyflym mewn deunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM) a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial, sy’n mynd yn fwy a mwy realistig ac sy’n heriol i’w canfod.
Mae technoleg ffugiad dwfn yn cael ei chamddefnyddio i greu senarios cam-drin realistig. Mae pryder cynyddol ynghylch ail-erlid dioddefwyr hysbys, lle defnyddir deallusrwydd artiffisial i greu delweddau newydd o gam-drin sy’n cynnwys eu tebygrwydd.
Mae’n bosibl y bydd cynnwys anghyfreithlon sy’n cael ei gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial yn cael ei rannu â dysgwyr naill ai’n fwriadol neu drwy ddod i gysylltiad anfwriadol drwy lwyfannau ar-lein. Efallai y bydd perthynas amhriodol yn cael ei meithrin â dysgwyr hefyd, neu efallai y byddan nhw’n cael eu gorfodi i gymryd rhan mewn creu cynnwys niweidiol.
Efallai y bydd yn rhaid i ymarferwyr addysg ac arweinwyr diogelu yn benodol ymateb i ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial, sydd wedi dod i’r amlwg neu sydd wedi cael ei rannu gan eraill yng nghymuned yr ysgol. Mae dilyn protocolau a chanllawiau fel y rheini sydd ar waith ar gyfer cynnwys anghyfreithlon tebyg, fel rhannu delweddau noeth o bobl ifanc o dan 18 oed, yn bwysig er mwyn sicrhau ymateb cyson.
Mae hefyd yn bwysig rheoli’r effaith emosiynol a seicolegol ar ddysgwyr sydd wedi dod i gysylltiad â chynnwys o’r fath. Edrychwch ar yr adran ‘Gweithredu ar unwaith os ydych yn bryderus’ i gael rhagor o wybodaeth.
Aflonyddu a cham-drin gan gyfoedion
Efallai y bydd dysgwyr yn dod ar draws fideos neu ddelweddau ffug sy’n dangos pobl maen nhw’n eu hadnabod mewn bywyd go iawn o’u hysgol neu grŵp cymdeithasol.
Canfu adroddiad Internet Matters ‘The new face of digital abuse: Children’s experiences of nude deepfakes’ fod dros hanner miliwn o blant (13%) wedi cael profiad o ffugiad dwfn noeth.
Mae hyn yn gysylltiedig â chamddefnydd cynyddol o offer deallusrwydd artiffisial ymysg dysgwyr i greu delweddau rhywiol o blentyn neu berson ifanc arall. Mae rhai apiau deallusrwydd artiffisial yn caniatáu i ddefnyddwyr newid delweddau sy’n cynnwys unigolion mewn dillad, i wneud iddyn nhw ymddangos yn noeth. Mae delweddau o’r fath sy’n cael eu trin, ac yn cael eu creu’n aml heb i’r dioddefwr wybod, yn gallu cael eu rhannu’n gyflym drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gan arwain at fwlio, blacmel neu orfodaeth rywiol (a elwir hefyd yn ‘flacmel rhywiol’).
Mae rhai dysgwyr yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i gynhyrchu fideos ffugiad dwfn drwy roi wyneb plentyn neu berson ifanc ar gynnwys penodol i oedolion, sy’n gallu achosi niwed sylweddol i enw da ac emosiynau.
Mae’n bwysig bod dysgwyr yn deall ei bod yn drosedd meddu ar ddelweddau anweddus o blant, eu dosbarthu, eu dangos a’u gwneud. Mae’r term ‘delweddau anweddus’ hefyd yn cynnwys delweddau ffug sy’n ddelweddau cyfrifiadurol a gynhyrchir gan ddefnyddio offer fel:
- meddalwedd golygu lluniau neu fideos
- apiau a chynhyrchwyr ffugiad dwfn (i gyfuno ac arosod delweddau neu fideos sydd eisoes yn bodoli ar ddelweddau a fideos eraill)
- cynhyrchwyr testun-i-ddelwedd deallusrwydd artiffisial
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru a UKCIS, Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc yn cynnwys cyngor ar sut i ddelio â digwyddiadau’n effeithiol. Os mai staff ysgol yw targed y fideos neu ddelweddau ffug, gallan nhw ofyn am gyngor a chefnogaeth gan y Professional Online Safety Helpline (POSH) a chyfeirio at y canllawiau Ymateb i faterion enw da ar-lein ac aflonyddu a gyfeirir at ysgolion a staff ysgol.
Mae’n bwysig peidio â gwneud i'r dioddefwr deimlo unrhyw gywilydd neu eu beio, na gwneud iddyn nhw deimlo eu bod wedi cydsynio â hyn, neu’n gyfrifol am y niwed y maen nhw wedi’i ddioddef. Gall y canllawiau ‘Herio iaith ac ymddygiad sy'n beio'r dioddefwr’ gefnogi eich ysgol i ddatblygu gofod cyfan i herio ymddygiad sy’n beio'r dioddefwr.
Lledaenu camwybodaeth
Gall dysgwyr ddod i gysylltiad â gwybodaeth ffug neu ddamcaniaethau cynllwynio drwy newyddion, fideos neu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae cynnwys a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial wedi cael ei gysylltu â lledaenu ideolegau peryglus neu wybodaeth gamarweiniol, gan ddwysáu deunydd niweidiol, neu gyflwyno ffeithiau camarweiniol neu gwbl anghywir.
Er bod algorithmau sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial yn gallu helpu i deilwra cynnwys i ddefnyddwyr yn seiliedig ar eu hymddygiad, eu dewisiadau a’u rhyngweithiadau, gall hyn arwain at siambrau adlais. Dyma lle gall dod i gysylltiad dro ar ôl tro â chynnwys tebyg atgyfnerthu credoau neu safbwyntiau sydd eisoes yn bodoli, ac atal pobl rhag dod i gysylltiad ag amrywiaeth eang o safbwyntiau, a allai gamarwain pobl ifanc am bynciau allweddol fel iechyd, gwleidyddiaeth neu wyddoniaeth ac effeithio ar eu hagweddau a’u bydolwg.
Ym mis Hydref 2024, nodwyd bod pobl ifanc dan 18 oed yn cynrychioli 13 y cant o bobl yr ymchwilir iddyn nhw gan MI5 am ymwneud posibl â gweithgareddau terfysgol, gydag eithafiaeth ar-lein y ffactor mwyaf sy’n gyrru’r cynnydd.
Mae llythrennedd yn y cyfryngau yn chwarae rhan hollbwysig o ran gwella gallu plant i feddwl yn feirniadol a’u gwneud yn fwy gwybodus a chraff o ran cael gafael ar newyddion a sylwi ar gamwybodaeth. Mae gan ymarferwyr addysg rôl bwysig o ran cefnogi dysgwyr i werthuso ffynonellau’n feirniadol a chydnabod twyllwybodaeth sy’n cael ei gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial.
Sgamiau ar-lein
Os bydd data personol dysgwyr yn mynd i’r dwylo anghywir, gall hyn arwain at negeseuon neu gyswllt digroeso, fel negeseuon e-bost gyda dolenni maleisus (ymdrechion gwe-rwydo).
Efallai y bydd dysgwyr yn cael eu twyllo gan negeseuon sy’n cael eu cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, sgwrsfotiau neu broffiliau ffug i rannu gwybodaeth bersonol. Un o’r sgamiau sy’n tyfu gyflymaf yw pan fydd troseddwyr yn defnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial i efelychu llais unigolyn er mwyn iddyn nhw allu twyllo dioddefwyr i drosglwyddo arian neu fanylion personol, drwy esgus bod yn rhywun maen nhw’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo.
Mae’n bwysig bod ymarferwyr addysg yn wyliadwrus yn eu hymarfer eu hunain ac o ran cefnogi dysgwyr i allu adnabod ac osgoi sgamiau digidol neu gynnwys twyllodrus arall.
Mae deall risgiau posibl i breifatrwydd a hawliau diogelu data o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) (Saesneg yn unig) yn hanfodol. Mae hyn yn cynnwys gwybod sut mae’n rhaid i wasanaethau ar-lein gadw at set o safonau wrth ddefnyddio data plant (a elwir yn God y Plant). Gallai hyn gynnwys pethau fel gosod gosodiadau preifatrwydd yn uchel iawn yn awtomatig a diffodd dull olrhain lleoliadau nad ydyn nhw’n hanfodol.
Sgwrsfotiau
Mae cyfryngau cymdeithasol ac apiau gemau yn aml yn defnyddio technegau dylunio perswadiol. Y bwriad y tu ôl i integreiddio cynyddol sgwrsfotiau deallusrwydd artiffisial i mewn i ddyfeisiau clyfar a gwasanaethau ar-lein yw gwneud rhyngweithio digidol yn fwy greddfol, personol a realistig.
Gall ymgysylltu â sgwrsfotiau deallusrwydd artiffisial arwain at sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus i ddefnyddwyr ifanc. Gall y risgiau gynnwys:
- dod i gysylltiad â chynnwys amhriodol
- dod i gysylltiad â chamwybodaeth
- llai o ryngweithio cymdeithasol wyneb yn wyneb
- materion preifatrwydd wrth rannu gwybodaeth bersonol sensitif
Mae ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt (Saesneg yn unig) wedi canfod bod rhai sgwrsfotiau wedi cymryd rhan mewn deialog sy’n amlwg yn rhywiol neu ddarparu cyngor amhriodol. Gyda phlant yn fwy tebygol nag oedolion o drin sgwrsfotiau fel pe baen nhw’n ddynol, gall yr ymatebion hyn i faterion a allai fod yn ddifrifol eu rhoi mewn perygl o ofid neu niwed.
Gall sicrhau agwedd gytbwys ac ystyriol tuag at dechnoleg yn yr ysgol a gweithio gyda rhieni a gofalwyr i annog arferion digidol iach gartref helpu dysgwyr i gael y gwerth mwyaf o dechnolegau deallusrwydd artiffisial.
Gall y canllawiau apiau i deuluoedd eich helpu i lywio drwy osodiadau ar gyfer rheolaethau preifatrwydd ar eu dyfeisiau a’u apiau.
Gweithredu ar unwaith os ydych yn bryderus
Mae’n bwysig sefydlu’r ffeithiau, asesu’r risgiau ac ystyried a oes risg uniongyrchol i’r dysgwr. Cadwch gofnodion o ddigwyddiadau ac ymatebion.
Ymgysylltwch â rhieni, gofalwyr a pherson diogelu dynodedig yr ysgol yn ôl yr angen i ddeall y mater, gan gynnwys y dysgwr mewn trafodaethau lle bo hynny’n briodol.
Dylid ymateb i ddigwyddiadau yn unol â pholisi diogelu ac amddiffyn plant yr ysgol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Efallai y bydd angen i asiantaethau penodol fel yr heddlu neu ofal cymdeithasol gymryd rhan mewn materion mwy difrifol neu gymhleth.
Os yw'r cynnwys yn niweidiol neu'n anghyfreithlon, er enghraifft deunydd cam-drin plant yn rhywiol wedi'i gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, rhowch wybod i berson diogelu dynodedig yr ysgol ar unwaith. Efallai y bydd angen gweithio gyda gorfodi'r gyfraith, CEOP, neu'r Internet Watch Foundation i roi gwybod am ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol anghyfreithlon neu gynnwys niweidiol.
Gallwch roi gwybod am gynnwys sy’n gysylltiedig â therfysgaeth ar-lein drwy wefan Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig). Os ydych chi’n poeni bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei radicaleiddio, gallwch ofyn am gyngor gan eich person diogelu dynodedig neu wneud atgyfeiriad i ddiogelu’r unigolyn rydych chi’n poeni amdano drwy ddefnyddio ffurflen atgyfeirio Prevent.
Cefnogi dysgwyr i adrodd
Gellir rhoi gwybod i CEOP am bryderon am feithrin perthynas amhriodol ar-lein a cham-drin rhywiol. Os yw dysgwr wedi colli rheolaeth ar ddelwedd noeth, gallwch helpu i atal rhagor o bobl rhag ei weld drwy gefnogi dysgwyr i ddefnyddio:
- adnodd yr Internet Watch Foundation (IWF) a Childline, Report Remove
- Adnodd Take It Down NCMEC
Helpwch y dysgwyr i adnabod ac adrodd am negeseuon e-bost, negeseuon testun a gwefannau sgam i’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) drwy eu gwefan (Saesneg yn unig). Gall y wefan ‘Have I Been Pwned’ helpu i sefydlu a oes cyfeiriad e-bost wedi bod yn gysylltiedig ag unrhyw achosion o dorri rheolau data. Bydd yn dangos rhestr o ba safleoedd neu wasanaethau yr effeithiwyd arnyn nhw a phryd. Dylid annog dysgwyr i newid eu cyfrineiriau.
Edrychwch i'r adran ‘Rhagor o wybodaeth’ i gael mwy o wybodaeth am bartneriaid dibynadwy, canllawiau cysylltiedig, gwasanaethau adrodd a llinellau cymorth a allai helpu gyda materion sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein.
Ymgysylltu â rhieni a gofalwyr
Gellir ystyried effaith technolegau deallusrwydd artiffisial fel rhan o strategaeth ehangach yr ysgol ar gyfer ymgysylltu â rhieni a gofalwyr ar ddiogelwch ar-lein. Lle bo’n briodol, gweithiwch yn agos gyda rhieni a gofalwyr i gefnogi plant gydag unrhyw effaith emosiynol neu seicolegol yn dilyn digwyddiad. Os yw cynnwys ar-lein yn amhriodol neu’n niweidiol, efallai yr hoffech weithio gyda theuluoedd i roi gwybod i ddarparwr y llwyfan amdano.
Addysgu dysgwyr
Dylai ysgolion ganolbwyntio ar y canlynol:
- llythrennedd yn y cyfryngau: addysgu dysgwyr sut mae asesu cynnwys ar-lein, sut mae deallusrwydd artiffisial yn gweithio (a sut mae’n cael ei integreiddio i’r cyfryngau cymdeithasol) a’u helpu i ddatblygu eu sgiliau meddwl yn feirniadol
- cadernid digidol: grymuso dysgwyr i reoli eu profiad ar-lein yn ddiogel ac yn gyfrifol a diogelu eu hunaniaeth ddigidol ar yr un pryd
- defnydd moesegol o ddeallusrwydd artiffisial: addysgu ar ganlyniadau camddefnyddio deallusrwydd artiffisial, er enghraifft creu ffugiad dwfn niweidiol, yn ogystal ag atgyfnerthu polisïau ymddygiad ar-lein a sicrhau bod dysgwyr yn deall pwysigrwydd defnyddio technoleg yn foesegol
Mae Cadw’n ddiogel ar-lein yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i gefnogi dealltwriaeth dysgwyr o ddeallusrwydd artiffisial a datblygiad eu sgiliau meddwl yn feirniadol, gan gynnwys deunyddiau llythrennedd deallusrwydd artiffisial yn yr ystafell ddosbarth. Gellir cyfeirio dysgwyr hefyd at y cyngor ‘Problemau a phryderon ar-lein’, sydd wedi cael ei greu’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc i’w helpu i ddeall mwy am amrywiaeth o faterion diogelwch ar-lein, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, gan dynnu sylw at rai o’r risgiau a ble i gael mwy o gymorth.
Cymorth i ysgolion
Gall ysgolion sydd â diddordeb mewn defnyddio AI cynhyrchiol fel rhan o ddysgu ac addysgu, ymgynghori â ‘Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn addysg’ Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am ystyriaethau diogelwch a moesegol.
Mae gwybodaeth i helpu ysgolion i gydymffurfio â chyfreithiau diogelu data a rhoi mesurau diogelwch cadarn ar waith fel dilysu aml-ffactor ar gael gan ICO, NCSC a Llywodraeth Cymru drwy ardal Cadw’n ddiogel ar-lein Hwb.
Mae archwiliadau technoleg rheolaidd, gan gynnwys ar gyfer offer sy’n cael eu pweru gan ddeallusrwydd artiffisial mewn ysgolion, yn bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cydymffurfio â rheoliadau diogelu data. Gall ysgolion greu a chynnal amgylchedd dysgu diogel i blant, gan gynnwys dulliau effeithiol o hidlo a monitro’r we i sicrhau bod dysgwyr a staff yn cael eu diogelu rhag deunydd ar-lein a allai fod yn niweidiol ac yn amhriodol. Gall y safonau hidlo ar y we, fel rhan o’r Safonau Digidol Addysg, ddarparu set o safonau y cytunwyd arnyn nhw ar gyfer mynediad at y rhyngrwyd a fydd yn cefnogi ysgolion i wneud dewisiadau gwybodus am ddarpariaeth wedi’i hidlo, p’un a yw’n cael ei darparu gan yr awdurdod lleol neu ddarparwr arall. Gall deall sut mae offer hidlo a monitro eich ysgol yn amddiffyn cymuned eich ysgol a sut y gellir defnyddio allbynnau’r adnoddau hynny i adrodd am faterion, helpu i sefydlu tueddiadau a llywio gwelliannau mewn strategaeth ddiogelu.
Modiwlau hyfforddi ar gyfer staff ysgolion
Mae'n bwysig bod ymarferwyr addysg yn deall beth yw deallusrwydd artiffisial, sut mae'n gweithio a sut y caiff ei ddefnyddio bob dydd, i gefnogi eu defnydd cyfrifol eu hunain a dysgwyr o'r dechnoleg hon. Mae modiwl hyfforddiant ar-lein ‘Sylfeini AI’ ar gael i ysgolion helpu i ddatblygu dealltwriaeth o'r cysyniadau craidd a'r risgiau sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial.
Mae gwybodaeth i gefnogi ymateb effeithiol i ddigwyddiadau rhannu delweddau noeth ar gael yn y canllaw Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc a’r modiwl hyfforddi ategol. Mae fideo hyfforddi 10 munud ar gael hefyd, sydd wedi’i ddylunio i helpu ymarferwyr addysg ddeall y datblygiadau rhannu delweddau diweddaraf a phryderon diogelwch a sut i gefnogi dysgwyr.
Gall ymarferwyr addysg gael rhagor o wybodaeth am fynd i’r afael â chamwybodaeth a sut mae cefnogi dysgwyr i wirio ffynonellau gwybodaeth yn effeithiol a meddwl yn feirniadol am honiadau yn y modiwl hyfforddiant ‘Camwybodaeth’.
Mae modiwl hyfforddi ‘gwe-rwydo’ ar gael i helpu ymarferwyr addysg ddeall beth yw gwe-rwydo, sut i adnabod negeseuon e-bost gwe-rwydo, gwahanol dechnegau gwe-rwydo a beth y gallan nhw ei wneud i amddiffyn eu hunain a’u sefydliad.
Rhagor o wybodaeth
Partneriaid dibynadwy
- Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) Cymru yn darparu cymorth a chanllawiau diogelu data wedi’u teilwra ar gyfer sefydliadau yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data’r DU a GDPR.
- Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) (Saesneg yn unig) yn cynnig arweiniad ar arferion seiberddiogelwch, diogelu data a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial.
- Mae UK Safer Internet Centre (UKSIC) yn rhoi cyngor, arweiniad ac adnoddau ar ddiogelwch ar-lein, gan gynnwys diogelu data mewn lleoliadau addysgol.
- Mae South West Grid for Learning (SWGfL) yn cynnig arbenigedd mewn diogelwch ar-lein, preifatrwydd a diogelu data ar gyfer ysgolion, gan gynnwys risgiau deallusrwydd artiffisial (Saesneg yn unig). Gweler hefyd Pecyn Cymorth ProjectEVOLVE (Saesneg yn unig).
- Mae’r Internet Watch Foundation (IWF) yn gweithio i gael gwared ar gynnwys anghyfreithlon ar-lein, gan gynnwys delweddau o gam-drin plant yn rhywiol a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial, a gall helpu ysgolion i ddelio ag adroddiadau o ddisgyblion yn dod i gysylltiad â hyn.
- Mae CEOP (Rheolaeth Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein) (Saesneg yn unig) yn darparu gwasanaeth adrodd ar gyfer niwed ac ecsbloetio ar-lein, gan gynnwys deunydd cam-drin plant yn rhywiol a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial, ac mae’n cynnig cyngor i ysgolion ar ddiogelu dysgwyr ar-lein.
Canllawiau Llywodraeth Cymru
- Gall canllawiau statudol Cadw dysgwyr yn ddiogel helpu i ddiogelu dysgwyr, gan gynnwys sut mae eu dysgu i fod yn ddiogel ar-lein.
- Mae Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc yn amlinellu sut mae ymateb i ddigwyddiad o rannu delweddau noeth a hanner noeth, gan gynnwys asesu risg sefyllfaoedd, trin dyfeisiau a delweddau, cofnodi digwyddiadau, gan gynnwys rôl asiantaethau eraill, a rhoi gwybod i rieni a gofalwyr.
Hwb – Cadw'n ddiogel ar-lein
- Mae 360safe Cymru yn becyn cymorth hunanadolygu diogelwch ar-lein i ysgolion Cymru ddatblygu, cefnogi, arwain a meincnodi effeithiolrwydd eu strategaeth diogelu ar-lein.
- Tudalen pwnc AI cynhyrchiol yn cynnwys adnoddau, arweiniad a gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysg, dysgwyr a theuluoedd ar AI cynhyrchiol.
- Tudalen pwnc camwybodaeth yn cynnwys adnoddau, canllawiau a gwybodaeth i ymarferwyr addysg, dysgwyr a theuluoedd ar fynd i’r afael â chamwybodaeth.
- Tudalen pwnc blacmel rhywiol yn cynnwys adnoddau, arweiniad a gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysg, dysgwyr a theuluoedd ar orfodaeth rywiol (‘blacmel rhywiol’).
- Canllawiau apiau i deuluoedd ‘Bydd wybodus’ sy’n darparu gwybodaeth allweddol am yr apiau cyfryngau cymdeithasol a gemau mwyaf poblogaidd y mae plant a phobl ifanc yn eu defnyddio heddiw.
- Mae Common Sense Education wedi creu gweithgareddau wedi’u teilwra ar gyfer pob oed i helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau i wneud dewisiadau clyfar yn eu bywydau ar-lein.
Gwasanaethau cymorth
- Mae Riportio Cynnwys Niweidiol (SWGfL) yn wasanaeth sy’n helpu i roi gwybod am gynnwys niweidiol ar-lein, fel cynnwys ffugiad dwfn, cam-drin sy’n cael ei yrru gan ddeallusrwydd artiffisial a bwlio ar-lein. Gall ysgolion ddefnyddio’r llwyfan hwn i gefnogi dysgwyr i reoli risgiau ar-lein.
- Mae Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein Gweithwyr Proffesiynol (UK Safer Internet Centre) (Saesneg yn unig) yn cefnogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag unrhyw broblem diogelwch ar-lein y maen nhw’n ei hwynebu.
- Mae’r dudalen cyngor a chymorth cyfrinachol (Hwb) yn cynnwys gwybodaeth am linellau cymorth a gwasanaethau am ddim sydd ar gael i helpu gydag amrywiaeth o faterion diogelwch ar-lein.
- Mae tudalen adrodd ar broblem ar-lein (Hwb) yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau adrodd arbenigol sy’n gallu helpu i gael gwared ar gynnwys niweidiol ar-lein.