English

Mae'r cyngor canlynol wedi cael ei lunio gan CEOP Education er mwyn helpu rhieni a gofalwyr i siarad â'u plentyn am fater sensitif.


Dyw dechrau sgwrs gyda'ch plentyn am fater sensitif neu rywbeth nad ydych chi’n siarad amdano fel arfer ddim yn hawdd bob amser, yn enwedig os yw hyn yn golygu y byddwch chi'n siarad am bethau y mae'n well ganddyn nhw eu cadw'n breifat; ond mae yna ffyrdd o’i gwneud hi’n haws cynnal y sgyrsiau hyn gyda'ch plentyn.

Dewiswch amser a lle da.  Ceisiwch ddewis amser da. Dewiswch adeg y gwyddoch na fydd neb yn tarfu arnoch chi ac mae'r ddau ohonoch chi'n mynd i deimlo'n gyfforddus a chael digon o amser – heb ei droi'n un 'sgyrsiau arbennig' hynny.

Meddyliwch sut rydych chi'n mynd i gyflwyno'r pwnc.  Gallech chi sôn am stori newyddion ddiweddar neu esbonio’n syml pam fyddech chi’n hoffi siarad gyda nhw am rywbeth. Ceisiwch fod yn glir. Dyw hi ddim yn syniad da cael sgwrs anodd os nad yw’ch plentyn yn deall mewn gwirionedd beth roeddech chi am ei drafod ar ddiwedd y sgwrs.

Esboniwch pam eich bod yn poeni.  Efallai bydd eich plentyn yn meddwl eich bod chi'n poeni heb reswm da, ond os byddwch chi'n esbonio pam mae rhywbeth yn eich poeni chi bydd yn deall pam eich bod chi eisiau siarad am y peth. Dywedwch wrth eich plentyn os yw'n rhywbeth rydych chi wedi sylwi arno yn ei ymddygiad neu efallai'n rhywbeth rydych chi wedi darllen amdano neu wedi gweld ei ffrindiau'n ei wneud. Helpwch eich plentyn i ddeall eich pryderon er mwyn i chi allu eu datrys nhw gyda'ch gilydd.

Rhowch gyfle i’ch plentyn siarad.  Mae'n anodd weithiau pan nad yw plentyn eisiau trafod teimladau. Bydd gofyn cwestiwn fel 'sut mae pethau'n mynd' a chofio rhoi amser i’ch plentyn ateb yn help. Mae'n demtasiwn dal ati i siarad er mwyn osgoi distawrwydd – ceisiwch beidio gwneud hynny.

Dylech wrando mwy na siarad.  Mae angen dau berson i gael sgwrs. Mae'n bwysig eich bod chi'n gwrando ar eich plentyn a'ch bod chi'n esbonio y byddech chi'n hoffi iddo wrando arnoch chi. Dyw siarad di-baid byth yn gweithio.

Byddwch yn gariadus ac yn gefnogol. Gellir gwneud y sgyrsiau anoddaf yn haws os yw'ch plentyn yn deall eich bod chi’n poeni amdano a beth bynnag yw canlyniad y sgwrs y byddwch yn ei garu lawn cymaint. 

Cymerwch seibiant.  Os yw'ch plentyn yn dweud pethau wrthych chi sy'n eich poeni chi mae'n bwysig iawn peidio â chynhyrfu a pheidio ymateb ar unwaith. Gadewch i’ch plentyn ddweud wrthych chi beth sy'n digwydd ac yna penderfynu gyda'ch gilydd sut rydych chi'n mynd i ddelio â’r sefyllfa.

Gofynnwch am help gyda'ch gilydd.  Os yw’ch plentyn yn dweud rhywbeth wrthych chi sy'n golygu y gallai fod mewn perygl rhaid i chi roi gwybod i'r sefydliadau perthnasol am hyn. Ceisiwch gytuno i wneud hyn gyda'i gilydd. Peidiwch â chymryd drosodd oni bai eich bod yn meddwl nad oes gennych chi ddewis arall.

Gofynnwch am gymorth i chi'ch hun.  Mae eich ffocws yn mynd i fod ar ofalu am eich plentyn, ond cofiwch ofalu amdanoch chi eich hun hefyd a chael cymorth gan eich teulu a'ch ffrindiau. Gallwch gael cyngor pellach gan CEOP EducationParent Zone, ac mae sefydliadau eraill a all eich helpu chi a’ch plentyn.

Os nad yw'ch plentyn eisiau siarad gyda chi, a’ch bod yn dal i boeni'n fawr peidiwch â rhoi'r gorau iddi. Rhowch gynnig arall arni rywbryd eto neu ddod o hyd i ffordd wahanol o ddechrau'r sgwrs. Byddwch yn amyneddgar a gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn gwybod lle y gall fynd ei hun i gael cymorth gyda materion anodd. Efallai y byddwch chi eisiau siarad â'i athro i weld a yw'n rhannu eich pryderon – beth bynnag rydych chi'n ei benderfynu, gofalwch eich bod yn barod pan fydd eich plentyn yn penderfynu ei fod eisiau siarad â chi.

Gwybodaeth

Os oes gennych chi bryderon am oedolyn y mae'ch plentyn mewn cysylltiad ag ef ar-lein neu all-lein, gallwch roi gwybod i CEOP am y pryderon hyn.

Rhybudd

Os ydych chi’n pryderu bod eich plentyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.