Canllaw i athrawon ar adnabod a herio bwlio ar-lein
Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio bwlio fel hyn:
“Ymddygiad gan unigolyn neu grwp, a ailadroddir dros amser, sy’n brifo unigolyn neu grwp arall yn fwriadol, naill ai’n gorfforol neu’n emosiynol.”
Gall bwlio ddigwydd wyneb yn wyneb neu yn y byd digidol, gan ddefnyddio technoleg. Gall unigolyn neu grwp fod yn gyfrifol am fwlio, a gall gynnwys elfen o gyfrinachedd fel nad yw oedolion yn ymwybodol o’r peth.
Beth sy’n wahanol am fwlio ar-lein?
Mae technoleg yn hwyluso ymddygiad bwlio traddodiadol, fel sarhau neu roi si ar led. Ond mae hefyd yn cynnig ffyrdd newydd o fwlio neu fychanu eraill. Mae hyn yn cynnwys camddefnyddio delweddau neu fideos, ffrydio byw, neu ddefnyddio apiau negeseua dienw neu aflonyddu ar rywun ar-lein.
Un o’r pethau mwyaf sy’n wahanol i fwlio wyneb yn wyneb yw ei bod hi’n gallu bod yn anodd dianc rhag bwlio ar-lein. Gellir bwlio plant a phobl ifanc yn unrhyw le, unrhyw bryd – hyd yn oed pan fyddan nhw gartref. Mae bwlio ar-lein yn unigryw hefyd oherwydd:
- gall gyrraedd cynulleidfa helaeth mewn eiliadau yn unig
- gall ddenu nifer fawr o bobl
- mae’n mynd ag ‘ailadrodd’ i lefel arall, gyda sylwadau a delweddau niweidiol yn cael eu rhannu sawl tro
- gall ddigwydd unrhyw bryd – yn ystod y dydd neu'r nos
- mae’n cynnig rhywfaint o anhysbysrwydd i’r rhai sy’n bwlio.
Gall bwlio ar-lein fod yn estyniad i fwlio wyneb yn wyneb. Gall technoleg ddarparu ffordd ychwanegol o aflonyddu ar unigolyn neu grwp. Hefyd, gall fod yn ffordd i rywun sy’n cael ei fwlio wyneb yn wyneb dalu'r pwyth yn ôl. Weithiau bydd y sawl sy’n cael ei fwlio ar-lein yn adnabod yr unigolion neu’r grwpiau sy’n ei fwlio, ond gall pobl nad yw wedi’u cyfarfod erioed o’r blaen fod yn gyfrifol am y bwlio hefyd.
Pa effaith mae bwlio yn ei chael ar rywun?
Gall bwlio effeithio ar iechyd, lles a hunanhyder y rhai sy’n cael eu bwlio. Gall bwlio dargedu edrychiad, rhywioldeb, anabledd, diwylliant, crefydd, statws cymdeithasol neu nodweddion eraill. Mae rhai o’r nodweddion hyn yn cael eu gwarchod o dan y gyfraith. Gall hyn effeithio ar y ffordd mae dysgwyr yn teimlo amdanyn nhw eu hunain.
Fel mathau eraill o fwlio, gall arwain at straen a phryder, sy’n golygu bod dysgwyr yn ei chael hi’n anoddach dysgu.
Adnabod arwyddion bwlio ar-lein
Ni fydd pob dysgwr yn codi ei lais os yw'n cael ei fwlio. Pan fydd plant a phobl ifanc yn cael eu bwlio ar-lein, ni fydd nifer ohonynt yn teimlo eu bod yn gallu siarad ag oedolyn oherwydd eu bod yn teimlo cywilydd neu’n poeni y byddan nhw’n cael eu beirniadu. Neu efallai am eu bod yn poeni y bydd yr oedolyn yn dweud wrthyn nhw am ei anwybyddu neu’n eu hatal rhag defnyddio technoleg (ac efallai nad ydyn nhw’n dymuno gwneud hyn).
Efallai y byddwch chi’n sylwi ar newid mewn ymddygiad, fel y byddech chi gyda bwlio wyneb yn wyneb. Gallai’r rhain gynnwys:
- mynd i'w gragen
- ynysu ei hun rhag ei gyfoedion
- ymddangos yn fwy blinedig mewn gwersi neu fel petai ei feddwl yn bell i ffwrdd
- perfformio'n waeth yn yr ysgol neu’r coleg
- ddim eisiau mynd i'r ysgol neu’r coleg
- osgoi defnyddio technoleg/gofidus wrth ddefnyddio technoleg
- colli hyder.
Ymateb i fwlio
Os oes achos o fwlio ar-lein wedi’i gofnodi neu ei adnabod, dylai athrawon weithredu cyn gynted â phosib. Dylech wneud yn siwr bod y dysgwr yn ddiogel, ac nad yw mewn perygl o unrhyw niwed uniongyrchol. Gall hyn gynnwys:
- darparu cefnogaeth briodol i’r sawl sydd wedi cael ei fwlio
- helpu i ddileu’r deunydd ar-lein er mwyn ei atal rhag cael ei rannu
- gweithio gyda’r sawl sydd wedi bod yn bwlio, a’i rieni neu ei ofalwyr, pan fo hynny’n briodol, er mwyn gwneud yn siwr nad yw’n digwydd eto.
Dylech:
- bod yn sensitif. Os yw bwlio’n digwydd ar-lein, mae’n werth cofio y gallai barhau y tu allan i’r ysgol neu'r coleg, pan na fyddwch chi yno i’w cefnogi. Byddwch yn sensitif yn y ffordd rydych chi’n ymdrin â’r mater, oherwydd mae’n bosib y bydd y dysgwr wedi bod yn delio â hyn ers tro
- dod o hyd i rywun y gall siarad ag ef. Does gan bob dysgwr ddim oedolyn mae’n teimlo y gall ymddiried ynddo. Weithiau rhieni neu ofalwyr yw’r bobl olaf mae’n dymuno dweud wrthyn nhw. Cofiwch hyn wrth i chi gynnig cefnogaeth. Os ydych chi’n gallu gweld bod dysgwr yn ei chael hi’n anodd, ond nad oes ganddo rywun i siarad ag ef, rhowch wybod iddo y gallwch chi fod yno iddo. Os nad yw’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â chi, gofynnwch pwy hoffai siarad ag ef – a rhowch y dewis yn ôl iddo
- wrando heb feirniadu. Mae’r pwysau ar blant a phobl ifanc i ymddwyn mewn ffyrdd penodol yn golygu y gallan nhw deimlo allan o reolaeth weithiau. Canolbwyntiwch ar graidd y broblem ymddygiad
- chwilio am gamau ymarferol. Helpwch y dysgwr i deimlo’n fwy grymus eto. Gofynnwch iddo sut hoffai ddatrys y broblem. Anogwch y dysgwr i gadw unrhyw dystiolaeth neu roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau i’r platfform technoleg, gan fod bwlio’n groes i’r rhan fwyaf o’r telerau ac amodau defnyddio. Anogwch y dysgwr i beidio ag ymateb i’r bwlio
- ddweud beth rydych chi am ei wneud nesaf. Dywedwch wrth bwy y mae angen i chi ei ddweud am yr hyn sydd wedi digwydd – gallai hyn gynnwys aelodau eraill o staff, a rhieni a gofalwyr. Hefyd, gallai hyn gynnwys eich Person Diogelu Dynodedig, neu’r heddlu mewn rhai achosion, naill ai drwy ffonio 101/999 (os oes risg uniongyrchol o niwed) neu drwy Swyddog Cymuned Ysgol yr Heddlu
- gofnodi ac adrodd am y pryder. Cyn cymryd unrhyw gamau pellach, dylech gofnodi ac adrodd am y pryder yn unol â’ch polisi gwrth-fwlio.
Cael rhagor o help
Pan fydd bwlio corfforol yn dod i’r amlwg yn yr ysgol neu’r coleg, gall y llwybrau cosbi a diogelu i'w dilyn ymddangos yn syml. Ond, pan fydd technoleg dan sylw, mae’n bosib y bydd angen haen ychwanegol o gefnogaeth.
Mae modd i unrhyw aelod o staff ysgol neu goleg sydd â phryderon ynglyn â dysgwr yn cael ei fwlio ar-lein ffonio’r Professionals Online Safety Helpline (Saesneg yn unig) ar 0344 381 4772 (ar agor rhwng 10am–4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener). Yn ogystal â bod wrth law i roi cyngor ar faterion diogelwch ar-lein, gallan nhw helpu i gael gwared ar gynnwys niweidiol os yw’n groes i safonau cymunedol platfform.
Atal bwlio ar-lein
Mae mynd i’r afael yn effeithiol â bwlio ar-lein yn golygu sicrhau bod pawb yn yr ysgol neu'r coleg yn gwybod bod pob math o fwlio yn annerbyniol, a sut mae adnabod achos o'r fath a chymryd camau yn ei erbyn.
Dylai ysgolion a cholegau ddilyn mesurau rhagweithiol i helpu i atal bwlio ar-lein rhag digwydd, ac i leihau effaith unrhyw achosion o fwlio ar-lein. Mae hyn yn cynnwys cael polisi clir sy’n mynd i’r afael â phob math o fwlio a chreu cyfleoedd i ddeall a siarad am fwlio ar-lein.
I ymarferwyr. Rhaid i bob aelod o staff wybod pa gamau i’w cymryd a ble i droi os bydd ganddyn nhw bryderon. Dylech gael yr hyder i fynd ar drywydd pob digwyddiad, dim ots pa mor ansylweddol y gallai ymddangos. Mae’n arfer da bod yn ymwybodol o holl bolisïau eich ysgol neu goleg, er mwyn i chi allu eu rhoi ar waith yn effeithiol. Bydd hyn yn eich helpu wrth i chi ymateb i’r bwlio ar-lein, ac yn sicrhau eich bod chi’n gweithredu er budd pennaf y dysgwr a’r ysgol neu’r coleg.
I ddysgwyr. Mae gan ysgolion a cholegau gyfrifoldeb i ddysgu dysgwyr sut mae cadw’n ddiogel ar-lein hefyd. Mae modd rhoi sylw i fwlio ar-lein yn y cwricwlwm, er enghraifft, drwy’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol neu addysg bersonol a chymdeithasol. Gall meysydd eraill yn y cwricwlwm, gan gynnwys drama a chyfrifiadura, helpu i dynnu sylw at broblemau bwlio ar-lein hefyd. Efallai yr hoffech atgyfnerthu hyn yn y gwasanaeth addoli ar y cyd dyddiol.
Mae angen annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain a gwybod sut mae ymateb os ydyn nhw’n cael eu bwlio ar-lein, neu os ydyn nhw’n gweld bod rhywun arall yn cael ei fwlio. Hefyd, mae’n rhaid eu sicrhau nhw nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain pan ddaw hi’n fater o fynd i'r afael â’r bwlio, ac y bydd yr ysgol neu'r coleg yn eu helpu os ydyn nhw neu rywun maen nhw’n ei adnabod yn cael ei fwlio ar-lein neu fel arall.
Rhieni a gofalwyr. Mae angen i rieni a gofalwyr fod yn ymwybodol o rai o’r risgiau y mae rhai dysgwyr yn eu hwynebu ar-lein, gan gynnwys bwlio ar-lein. Dylen nhw hefyd fod yn ymwybodol o bolisi gwrth-fwlio eich ysgol neu goleg. Bydd hyn yn rhoi gwybod iddyn nhw sut bydd eich ysgol neu goleg yn mynd ati i ddelio ag achosion o fwlio.
Lle i fynd i gael rhagor o gyngor
Os hoffech chi ddysgu mwy, tarwch olwg ar yr adnoddau canlynol sydd ar gael yn Cadw'n ddiogel ar-lein
ar Hwb.
- Rhestrau chwarae am fwlio ar-lein.
- Seiberfwlio ar gyfer ymarferwyr addysg.
- Deunyddiau gweithdai bwlio ar-lein.
Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi canllaw ar fwlio sy’n darparu arweiniad manwl i rieni a gofalwyr, plant a phobl ifanc ac ysgolion.
Mae gan Childnet becyn adnoddau cynhwysfawr i ysgolion o'r enw Cyberbullying: Understand, Prevent and Respond (Saesneg yn unig). ‘Bwlio ar-lein’ sy’n cael ei ddefnyddio yn lle ‘seiberfwlio’ bellach, ond mae’r cyngor a’r arweiniad yn y pecyn hwn yn dal i fod yn ddefnyddiol.
Mae’r pecyn yn rhoi sylw i bedwar maes allweddol.
- Deall seiberfwlio.
- Atal seiberfwlio.
- Ymateb i seiberfwlio.
- Seiberfwlio: cefnogi staff yr Ysgol.