Fideos TikTok sy'n targedu athrawon - Professionals Online Safety Helpline
Mae Carmel yn trafod y duedd feirysol o dargedu athrawon ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac yn darparu gwybodaeth am y gwasanaeth y gall Professionals Online Safety Helpine ei gynnig i athrawon sydd angen cymorth gydag adrodd cynnwys niweidiol neu eu lles.
- Rhan o
O'r hyn a welsom ni dros yr wythnosau diwethaf, mae'r duedd ddiweddar o dargedu athrawon ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol yn peri cryn ofid ar hyd a lled y DU. Mae'n amlwg, o'r adroddiadau a gawsom ni gan Professionals Online Safety Helpline (Saesneg yn unig) bod gweithwyr proffesiynol yn dal i geisio mynd i'r afael â'r broblem gyda llawer yn teimlo cryn ofid ac ansicrwydd ynghylch sut i fynd i’r afael â'r broblem yn effeithiol. Yn ôl y llinell gymorth, fe wnaeth cannoedd gysylltu yr wythnos diwethaf o gymharu â'r cyfartaledd o tua 20 yr wythnos sydd fel arfer yn ffonio'r llinell gymorth. Yn yr erthygl hon, byddwn yn taflu goleuni ar yr hyn sydd wedi digwydd yn ogystal â rhoi rhywfaint o gyngor os ydych chi'n mynd drwy'r un broblem ar hyn o bryd.
Beth sydd wedi bod yn digwydd?
Mae llawer o ysgolion wedi dweud bod eu disgyblion yn creu fideos anweddus, sarhaus a niweidiol ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig TikTok. Mae'r fideos naill ai'n cyfeirio at yr ysgol neu at athrawon unigol drwy amrywiaeth o gyfrifon ar-lein. Mae rhywfaint o'r cynnwys sydd wedi'i rannu yn cynnwys lluniau o staff a gymerwyd o wefan eu sefydliad a’u newid i gynnwys delweddau pornograffig, geiriau sarhaus neu gyhuddiadau niweidiol sy'n ymwneud ag ymddygiad neu bersonoliaeth. Ar ben hyn, defnyddiwyd logos yr ysgol a brandiau eraill, gan ennyn pryderon am sut bydd hyn yn effeithio ar enw da eu hysgolion ar-lein.
Mae enw da proffesiynol yn rhywbeth sy'n mynd gyda ni drwy ein hoes. Fel y rhan fwyaf o bethau serch hynny, mae'n beth bregus a gallai hyd yn oed y cyhuddiadau lleiaf effeithio'n fawr arno. Dylid diogelu gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant yn yr un modd ag y caiff y disgyblion eu diogelu. Gall effaith y fideos hyn fynd ymhell y tu hwnt i fwriad gwreiddiol y disgyblion, gan ddangos pa mor hawdd yw hi i gynnwys ar-lein fynd mas o reolaeth.
Mae hyn wedi effeithio'n aruthrol ar lawer o athrawon, gyda rhai'n cymryd amser i ffwrdd i ymdrin â'r straen. Yn ogystal ag adroddiadau i'r llinell gymorth, bu ymdrech gydgysylltiedig drwy'r UK Council for Internet Safety i riportio'r mater i TikTok, sy'n gweithio i ddatrys y broblem. Mae'r cyfryngau newyddion prif ffrwd wedi mynd i'r afael â'r stori gyda'r BBC a TES (Saesneg yn unig)yn cyfeirio ati ac yn rhoi sylw i'r llinell gymorth dros y dyddiau diwethaf.
Cyngor gan Professionals Online Safety Helpline
Er bod y fideos eu hunain yn gallu peri gofid a thrallod, mae'n bwysig cofio, yn amlach na pheidio, dim ond tipyn o jôc fydd y cyfan i’r plant a’r bobl ifanc. Go brin y byddant yn meddwl am effaith bosibl y fideos ar eraill, na chymaint o effaith maen nhw'n ei chael ar ysgolion a'u staff.
Ar hyn o bryd mae TikTok yn gweithio i ddatrys y mater a dileu cynnwys gan ganolbwyntio ar sut y gellir atal sefyllfaoedd fel hyn rhag codi yn y dyfodol. Os ydy'ch ysgol neu'ch staff yn dioddef camdriniaeth ar hyn o bryd yn sgil fideos ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'n bwysig dweud wrth y platfform dan sylw yn gyntaf. Rydym wedi ysgrifennu erthygl (Saesneg yn unig) fanwl am riportio cyfrifon ffug ar-lein, a beth allwch chi ei wneud wrth geisio eu dileu.
Unwaith y byddwch wedi riportio'r mater, cysylltwch â'r llinell gymorth i gael rhagor o gymorth ac ati. Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth cyfryngwr a all eich helpu os ydych chi dan straen. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y ffordd orau o ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ac adrodd cynnwys i'r Professionals Online Safety Helpline, gwyliwch y fideo byr hwn (Saesneg yn unig). Mae llinell gymorth Education Support (Saesneg yn unig) hefyd ar gael yn rhad ac am ddim os oes gennych chi unrhyw bryderon lles.
Carmel Glassbrook
Arweinydd Prosiect Professionals Online Safety Helpline, SWGfL
Mae Carmel wedi gweithio ar y Professionals Online Safety Helpline (POSH) ers 2015, gan ddechrau fel ymarferydd ac erbyn hyn yn rheoli'r prosiect cyfan. Yn y cyfnod hwn mae Carmel wedi helpu, ac wedi ymgynghori ar bron i 10,000 o gysylltiadau â'r llinell gymorth, sydd wedi ei rhoi mewn sefyllfa unigryw i gynghori'r llywodraeth a gweithio'n agos gyda diwydiant.
Rhagor o wybodaeth
- Cyngor i ysgolion ar baratoi ar gyfer heriau niweidiol feirol ar-lein a storïau celwydd ac ymateb iddynt
- Canllaw teuluol i heriau a storïau celwydd peryglus feirol ar-lein
- Professionals Online Safety Helpline
- Beth yw heriau a straeon celwydd peryglus ar-lein, a beth ddylem ni fod yn ei wneud yn eu cylch?