English

Cynulleidfa

Cynradd (7 i 11 oed)

Amser

60 munud

Deilliannau dysgu

Bydd y dysgwyr yn gallu:

  • adnabod enghreifftiau o sgrolio diddiwedd
  • adnabod nodweddion dylunio perswadiol eraill a’u pwrpas
  • ystyried strategaethau ar gyfer lliniaru effeithiau nodweddion dylunio perswadiol ar y defnydd o dechnoleg
  • deall ble i ofyn am gymorth neu gefnogaeth os ydyn nhw’n poeni am eu defnydd o dechnoleg a’r rhyngrwyd, neu ddefnydd pobl eraill.

Geirfa allweddol

Sgrolio diddiwedd, nodweddion dylunio perswadiol, perswâd, techneg gwthio, ymddygiad, dewis, iach, ddim yn iach, strategaethau.

Adnoddau

  • Sgrolio diddiwedd - Cynradd pptx 1.41 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Paratoi

  • Darllenwch yr ‘Adnodd dysgu i ymarferwyr addysg’ ar sgrolio diddiwedd i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth glir o’r maes. Gwnewch yn siwr eich bod yn gyfarwydd â pholisi a gweithdrefnau diogelu eich ysgol, yn ogystal â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, os bydd datgeliad neu bryderon am ddiogelwch neu les dysgwr. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau diogelu statudol ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’.
  • Argraffwch y cardiau diffiniadau ar sleidiau 13 a 14 – un set i bob dysgwr/pâr/grwp. Os oes angen, gellir argraffu’r rhain ymlaen llaw a’u torri cyn y sesiwn.

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Mae’r adnodd hwn yn gallu cefnogi’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.

Cwestiynau allweddol (i’w defnyddio fel awgrymiadau neu i ddechrau trafodaeth)

  • Oes gennych chi ddewis o ran beth rydych chi’n ei wneud neu’n ei weld
    ar-lein bob amser? Pam, neu pam ddim?
  • Oes penderfyniad wedi’i wneud ar eich rhan erioed ynghylch beth i’w wneud nesaf ar-lein? Os felly, ble a beth (er enghraifft wrth wylio fideos neu chwarae gêm)? Oedd hyn yn ddefnyddiol? Pam, neu pam ddim?
  • Ydych chi erioed wedi gweld rhywbeth ar-lein sydd byth yn dod i ben?
  • Pam ydych chi’n meddwl bod apiau a gwefannau’n gwneud pethau ar ein rhan weithiau neu’n ein hannog i dreulio mwy o amser arnyn nhw?
  • Ydych chi erioed wedi cael trafferth rhoi’r gorau i wneud rhywbeth ar-lein? Pam, neu pam ddim?
  • Ydych chi’n poeni am faint o amser rydych chi’n ei dreulio ar-lein neu ar ddyfais?
  • Sut ydych chi’n gwybod os ydych chi wedi treulio gormod o amser ar-lein neu ar ddyfais?
  • Beth allech chi ei wneud pe byddech chi’n poeni am dreulio gormod o amser ar-lein neu ar ddyfais?
  • Gan bwy allech chi ofyn am gymorth pe byddech chi’n poeni am eich defnydd o dechnoleg?

Gan ddefnyddio’r sleidiau PowerPoint, dechreuwch drwy ofyn i’r dysgwyr:

  • oes gennych chi ddewis o ran beth rydych chi’n ei wneud a/neu’n ei weld
    ar-lein bob amser? Pam, neu pam ddim?
  • oes penderfyniad wedi’i wneud ar eich rhan erioed ynghylch beth i’w wneud nesaf ar-lein? Os felly, ble a phryd (er enghraifft wrth wylio fideos neu chwarae gêm)? Oedd hyn yn ddefnyddiol? Pam, neu pam ddim?

Dylech annog y dysgwyr i egluro eu syniadau’n llawn (er enghraifft ‘Fe wnes i orffen gwylio fideo ac yna dechreuodd fideo tebyg chwarae’n syth ar ei ôl’) ac a oedden nhw’n teimlo ei fod yn ddefnyddiol neu ddim yn ddefnyddiol.

Dangoswch yr enghreifftiau ar sleidiau 5 i 11 i’r dysgwyr a gofyn iddyn nhw a ydyn nhw erioed wedi gweld neu brofi hyn ar-lein (bawd i fyny ar gyfer ‘Do’ a bawd i lawr ar gyfer ‘Naddo’). Dangoswch yr enghraifft olaf ar sleid 11 a gofyn eto. Eglurwch fod hyn yn cael ei alw’n ‘sgrolio diddiwedd’ – bydd y wefan neu’r ap yn dal i lwytho pethau a allai fod o ddiddordeb i chi, a gallwch chi ddal ati i sgrolio am gyn hired ag y dymunwch ond fyddwch chi byth yn cyrraedd y diwedd!

Gofynnwch i’r dysgwyr a ydyn nhw wedi profi pethau eraill tebyg ar-lein, lle na fydd y profiad byth yn dod i ben yn naturiol.

Gofynnwch i’r dysgwyr a ydyn nhw’n teimlo bod nodweddion fel hyn yn ddefnyddiol neu’n annefnyddiol, a pham.

Eglurwch fod sgrolio diddiwedd yn un dechneg sy’n cael ei defnyddio gan wneuthurwyr apiau a dyfeisiau i’n hannog i ddefnyddio eu cynnyrch neu eu gwasanaethau’n amlach neu am gyfnod hirach. Gelwir y technegau gwahanol hyn yn ‘nodweddion dylunio perswadiol’ – nodweddion sy’n ein perswadio ni i wneud rhywbeth neu weithiau mae’n gwneud dewisiadau ar ein rhan.

Gofynnwch i'r dysgwyr pam eu bod nhw’n meddwl bod apiau a gwefannau’n gwneud pethau ar ein rhan neu’n ein hannog i dreulio mwy o amser arnyn nhw. Ydyn nhw’n ceisio helpu neu a ydyn nhw’n meddwl bod rhywbeth arall yn digwydd? Cymerwch awgrymiadau a’u trafod.

Eglurwch i’r dysgwyr, gan fod y rhan fwyaf o wefannau ac apiau am ddim, maen nhw’n gwneud arian yn bennaf drwy ddangos hysbysebion. Gall apiau hefyd wneud arian wrth i bobl wneud pryniannau mewn apiau neu wrth ddefnyddio data maen nhw’n ei gasglu am eu defnyddwyr. I ddangos mwy o hysbysebion i ddefnyddwyr, mae datblygwyr apiau a gwefannau wedi creu triciau i berswadio defnyddwyr i barhau i ddod yn ôl i’r ap neu’r wefan, neu i dreulio mwy o amser arno.

Rhannwch y dosbarth yn grwpiau bach a rhoi set o gardiau o sleidiau 13 i 14 i bob grwp. Eglurwch i’r dysgwyr fod ganddyn nhw 5 munud i baru’r nodwedd dylunio berswadiol â’r diffiniad cywir. Ar ôl paru’r cardiau, dylen nhw geisio eu rhoi mewn trefn yn ôl pa mor berswadiol ydyn nhw (y rhai mwyaf perswadiol ar y top; y lleiaf perswadiol ar y gwaelod). Ar ôl gorffen y dasg, gofynnwch i’r dysgwyr rannu eu hatebion i wirio eu dealltwriaeth a chymharu sgoriau i weld a yw grwpiau eraill yn cytuno.

Dyma’r atebion cywir.

  • Dim opsiwn cadw – cael gwared ar nodweddion cadw rheolaidd fel bod rhaid i chi chwarae am gyfnod hirach (os byddwch chi’n rhoi’r gorau iddi ar ôl dwy awr, bydd yn rhaid i chi ddechrau o'r dechrau eto).
  • Newid hwyliau – dangos i chi’r pethau mae’r ap neu’r wefan yn gwybod eich bod yn eu hoffi (bydd gweld y rhain yn eich annog i aros am fwy).
  • Sgrolio diddiwedd – llwytho postiadau neu straeon newydd wrth i chi sgrolio i lawr y dudalen fel na fyddwch byth yn cyrraedd y diwedd (mae rhywbeth newydd i’w weld bob amser).
  • Cynigion am gyfnodau penodol – ewch amdani nawr neu golli’r cyfle am byth! Mae’r rhain yn aml yn cael eu defnyddio i’ch annog i brynu neu wneud rhywbeth yn gyflym rhag ofn i chi golli allan.
  • Hysbysiadau – negeseuon a dirgryniadau ar ddyfais i ddweud rhywbeth ‘pwysig’ wrthych chi. Gall hefyd fod yn gylch coch sy'n ymddangos ar eicon ap.
  • Gwobrwyon amrywiol – dydych chi byth yn gwybod beth allech chi ei weld nesaf. Mae’r siawns o weld rhywbeth cyffrous neu ddiddorol yn gwneud i chi fod eisiau dal ati i ddefnyddio’r cynnyrch.
  • Abwyd clicio – straeon gyda theitlau camarweiniol sydd wedi’u llunio i ddenu eich sylw a’ch gorfodi i glicio arnyn nhw (yn aml iawn maen nhw’n ffug).
  • Awtochwarae – chwarae’r fideo neu’r bennod nesaf yn awtomatig er mwyn i chi barhau i ddefnyddio ap neu wefan am gyfnod hirach.
  • Rhwymedigaeth gymdeithasol – gall dangos i rywun eich bod wedi gweld eu neges roi pwysau ar y person arall i ymateb (fel arall byddan nhw’n meddwl eich bod yn eu hanwybyddu).

Dangoswch sleid 15 i’r dysgwyr sy’n amlinellu’r Cod Plant. Eglurwch fod gwaith yn mynd rhagddo yn y DU i annog datblygwyr apiau i ddiogelu plant a phobl ifanc a’u data ar-lein, yn ogystal ag osgoi defnyddio technegau gwthio.

Gofynnwch i’r dysgwyr pam maen nhw’n meddwl y gallai annog plant i ddefnyddio apiau a thechnoleg am hirach fod yn broblem. Pa effaith allai hyn ei chael ar iechyd neu les plentyn? A fyddai’n achosi problemau eraill yn eu bywyd hefyd (er enghraifft problemau yn ymwneud â chyfeillgarwch, neu broblemau gyda gwaith ysgol/gwaith cartref)?

Gofynnwch i’r dysgwyr weithio yn eu grwpiau ac edrych eto ar yr holl nodweddion dylunio perswadiol. Gofynnwch iddyn nhw feddwl am strategaethau y gellid eu defnyddio i leihau neu ddileu effaith y dechneg honno. Os yw’n bosibl, dylai’r dysgwyr ystyried strategaethau technegol (er enghraifft diffodd hysbysiadau yn y gosodiadau, neu ddefnyddio amserydd i osod terfyn amser ar gyfer eu defnyddio) yn ogystal â strategaethau ymddygiad (er enghraifft cynllunio beth maen nhw am ei wneud/cyflawni ar-lein, ceisio cydbwyso gweithgareddau ar-lein/all-lein a chymryd seibiant rheolaidd).

Dylech annog y dysgwyr i nodi cynifer o syniadau â phosibl ac yna rhoi adborth fel dosbarth. Ewch ati i drafod ac annog y dysgwyr i ddewis strategaethau a fyddai’n gweithio’n dda iddyn nhw yn eu barn nhw. Dylech atgoffa’r dysgwyr fod pawb yn wahanol (fel eu defnydd o dechnoleg) felly ni fydd pob strategaeth yn gweithio i bawb drwy'r amser!

Dylech atgoffa’r dysgwyr na ddylai defnyddio technoleg a’r rhyngrwyd byth gael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl. Os byddan nhw’n teimlo fel hyn neu’n sylwi ar rywun arall yn cael trafferth, dylen nhw bob amser droi at oedolyn maen nhw’n ymddiried ynddo. Treuliwch ychydig funudau’n trafod at bwy y bydden nhw’n troi am gymorth pe baen nhw’n poeni am eu defnydd o dechnoleg.

Dylech atgoffa dysgwyr y gallan nhw hefyd gysylltu â Meic, sy’n cynnig gwybodaeth, eiriolaeth a chyngor am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Ffoniwch Meic am ddim ar 080 880 23456, anfon neges destun ar 84001 neu anfon negeseuon gwib ato ar www.meic.cymru. Mae’r gwasanaeth ar agor o 8 a.m. tan hanner nos, 7 diwrnod o'r wythnos.

Rhannu gair i gall

Dylech annog y dysgwyr i greu adnodd codi ymwybyddiaeth (fel poster, cwis, taflen neu ffeithlun) i’w rannu â’u cyfoedion ynghylch beth yw nodweddion dylunio perswadiol a sut mae eu rheoli’n gadarnhaol.

Defnyddio technoleg yn gadarnhaol

Gellir defnyddio’r wers hon fel sbardun i drafod ymhellach sut gallai technoleg fod yn llai ymwthiol a hyrwyddo arferion cadarnhaol.